Ein hymchwil

Mae ein hadroddiadau ymchwil yn canolbwyntio ar ystod o faterion sy'n effeithio ar elusennau.

Mae'r casgliadau o'n gwaith ymchwil yn ein helpu i hyrwyddo arfer da, datblygu polisi a chynhyrchu canllawiau i elusennau. Yn gyffredinol mae'r adroddiadau yn cyflwyno'r casgliadau o arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws gydag elusennau. Rydym hefyd yn ymgynghori â chyrff ymgynghori a chyrff mantell.

Ymchwil presennol

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil ar ragdybiaethau, gwybodaeth a phrofiad pobl o'r effaith y mae'r pwyslais o'r newydd ar y gofyniad budd cyhoeddus yn Neddf Elusennau 2006 yn ei chael ar elusennau. Tîm o'r Institute for Voluntary Action Research (IVAR) a'r Centre for Voluntary Sector Research (CVSR) ym Mhrifysgol Sheffield Hallam sy'n ymgymryd â'r gwaith. Mae'r ymchwil yn mynd rhagddo rhwng Ionawr ac Ebrill 2012.

Adroddiadau ymchwil diweddar:

Gallwch weld ein rhestr lawn o adroddiadau ymchwil ar ein tudalen canllawiau cyhoeddedig.

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd