Swydd ymddiriedolwr

Mae elusennau'n bodoli i greu cymdeithas well. Mae amrywiaeth a hyd a lled eu gwaith a'r gwahanol bobl y maen nhw'n eu helpu yn syfrdanol. Os ydynt yn gweithio'n lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol mae ganddynt hanes arbennig o greu newid cymdeithasol. Mae rhyw 180,000 o elusennau yng Nghymru a Lloegr sydd wedi cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau, ac efallai 80,000 arall nad oes rhaid iddynt gofrestru (oherwydd eu bod nhw'n fach iawn, neu oherwydd eu bod nhw wedi'u 'heithrio' neu eu 'hesgusodi' - esbonnir hyn yn nghanllawiau eraill ar ein gwefan. Mae elusennau'n ateb pob math o anghenion na fyddent yn cael eu hateb fel arall. Un peth sydd ganddynt yn gyffredin yw eu bod nhw i gyd yn dibynnu ar eu hymddiriedolwyr.

Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n ffurfio corff llywodraethu neu 'fwrdd' yr elusen. Gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, yn gyfarwyddwyr, yn aelodau bwrdd, yn llywodraethwyr neu'n aelodau pwyllgor, ond dyma'r bobl sydd â'r prif gyfrifoldeb dros lywio busnes yr elusen. Mae'r rhan fwyaf o'r ymddiriedolwyr yn wirfoddolwyr, ac nid ydynt yn derbyn unrhyw dâl (heblaw treuliau parod).

Mae swydd ymddiriedolwr yn swydd:

  • Gyfrifol: Byddwch chi a'ch cyd-ymddiriedolwyr yn cydweithio i wneud penderfyniadau sy'n gwneud gwahaniaeth, penderfyniadau am gyllid, gweithgareddau a chynlluniau'r elusen yn y dyfodol. Byddwch yn rhoi arweiniad a chyfeiriad. Gallwch gyflogi staff. Felly bydd rhaid i chi roi digon o amser i ymgymryd â'ch rôl, er enghraifft, paratoi ar gyfer cyfarfodydd ymddiriedolwyr a'u mynychu.
  • Buddiol: Bydd gennych chi gyfle i ddysgu a datblygu sgiliau newydd, cwrdd â phobl sy'n rhannu eich teimladau cryf dros achos neu bwnc arbennig, a gwybod eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth drwy waith eich elusen.
  • Perthnasol: Gall y sgiliau a'r profiad a gewch agor cyfleoedd newydd i chi, er enghraifft, mewn cyflogaeth.

Dolenni cysylltiedig:

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd