Aelodau Bwrdd a'r Uwch Dîm Rheoli

Ein Bwrdd

Mae ein Bwrdd yn gyfrifol am ein strategaeth gyffredinol a'n cyfeiriad yn y dyfodol. Fel sefydliad agored ac atebol rydym yn cynnal cyfarfodydd Bwrdd Agored y gall unrhyw un eu mynychu i gael gwybod sut rydym yn gwneud penderfyniadau gweithredol a pholisi am ein gwaith.

Mae ein Bwrdd yn cael ei gefnogi gan Bwyllgor Archwilio a Phwyllgor Tâl y Gwasanaeth Sifil.

Yr Uwch Dîm Rheoli

Mae Uwch Dîm Rheoli y Comisiwn yn gwneud penderfyniadau am ein gwaith o ddydd i ddydd. Mae'r grŵp hwn yn cael ei gadeirio gan y Prif Weithredwr ac mae'n cynnwys un ar ddeg o Benaethiaid Gweithredol. Mae ein Penaethiaid Gweithredol yn gweithredu'r rhaglenni a'r polisïau sy'n codi o benderfyniadau ein Bwrdd i sicrhau ein bod ni'n darparu gwasanaethau effeithiol.

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd