Cynllun Iaith Gymraeg

Flag Wales

Mae Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn Elusennau yn amlinellu ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg. Mae'n rhoi darlun clir i'n cwsmeriaid yng Nghymru o'r gwasanaeth y gallant eu disgwyl gennym.

Rydym wedi mabwysiadu'r egwyddor y byddwn yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth drafod busnes cyhoeddus yng Nghymru.

Mae materion Cymraeg yn rhan o'n hagenda Cydraddoldeb. Er mwyn sicrhau bod materion Cymraeg yn cael eu hystyried fel thema drawsbynciol yn ein polisi ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, mae'r Gymraeg wedi'i chynnwys yn ein Cynllun Cydraddoldeb Sengl.

Gwnaethom gynnydd sylweddol o ran datblygu gwasanaeth Cymraeg a byddwn yn parhau i wneud hynny. Gwnaethom ymrwymiad clir yn y cynllun i ystyried y Gymraeg ar draws pob maes polisi.

Gallwch weld Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn Elusennau mewn fformat PDF neu HTML drwy ddewis y ddolen berthnasol isod.

PDF | HTML

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd