Mae'n rhaid i sefydliadau elusennol sy'n gweithio yng Nghymru a Lloegr gofrestru gyda ni os yw eu hincwm dros £5,000 y flwyddyn. Os ydych chi'n meddwl y gall eich sefydliad fod yn elusennol neu os hoffech chi sefydlu elusen newydd, mae ein hadran Dechrau elusen newydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth sy'n esbonio beth mae'n rhaid i chi ei wneud.
Mae elusennau yn atebol i'r cyhoedd, felly mae'n rhaid i elusennau sydd wedi cofrestru gyda ni ddarparu gwybodaeth arbennig am y ffordd y maent yn gweithredu a sut y maent yn defnyddio eu hadnoddau. Mae'r wybodaeth hon ar gael ar-lein er mwyn i bawb allu gweld sut mae arian pob elusen yn cael ei ddefnyddio.
I weld yr wybodaeth sydd gennym am elusennau unigol, gallwch deipio enw neu rif yr elusen yn y blwch 'Chwilio am elusen' ar frig pob tudalen ar y wefan hon. Gallwch ddefnyddio Chwiliad Uwch Cofrestr Elusennau i gael gwybodaeth am fathau arbennig o elusennau yn ôl y manylion sydd gennym amdanynt.