Mae'r Gofrestr Elusennau yn dangos y ffeithiau allweddol am waith a chyllid pob elusen

Gallwch weld yn syth a oes gan elusen adroddiadau a chyfrifon cyfoes

Amdanom ni

Mae elusennau yn rhan o fywyd Prydain. Maent yn amrywio o grwpiau bach sy'n ateb anghenion lleol heb lawer o adnoddau i'r elusennau mawr adnabyddus sydd â chyllidebau o filiynau o bunnoedd.

Beth bynnag fo'u maint neu'u pwrpas, un o ofynion hanfodol pob elusen yw eu bod yn gweithredu er budd y cyhoedd ac yn annibynnol ar fuddiannau'r llywodraeth neu fuddiannau masnachol. Mae'r Comisiwn Elusennau yn cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr, felly ein gwaith ni yw sicrhau bod pob elusen yn bodloni eu gofynion cyfreithiol a chydweithio ag ymddiriedolwyr elusen i unioni pethau os ydynt yn mynd o'i le.

Bydd elusennau yn cael cymorth gan gymdeithas mewn sawl ffordd, ac mae hawl gan y cyhoedd i ddisgwyl i elusennau fod yn agored ac yn atebol. Mae gan y cyhoedd ffydd a hyder mawr mewn elusennau - rydym am sicrhau ei fod yn aros felly.

Gallwch gael mwy o wybodaeth ar y gwahanol agweddau ar ein gwaith yn yr adran hon:

  • Am y Comisiwn Elusennau - mae'n cyflwyno ein Bwrdd Comisiynwyr a'n huwch dîm rheoli ac yn rhoi manylion am gyfarfodydd cyhoeddus sydd ar ddod;
  • Am elusennau - mae'n rhoi esboniad byr o beth yw elusennau, a'n harolygon, adroddiadau ac ymchwil arall i'r sector elusennol yng Nghymru a Lloegr;
  • Sut ydym yn rheoleiddio elusennau - mae'n disgrifio ein dull o weithredu fel rheolydd cymesur, seiliedig ar risg, beth yw ein pwerau a sut a phryd y byddwn yn eu defnyddio;
  • Cwyno - mae'n disgrifio sut a phryd y dylech gysylltu ni os oes cwyn gennych am elusen, penderfyniad rydym wedi'i wneud neu wasanaeth rydym wedi'i ddarparu;
  • Cysylltu â ni - mae'n rhoi manylion ynghylch sut i gysylltu â ni drwy ein Canolfan Gyswllt ac yn rhoi manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Wasg a thimau eraill;
  • Gyrfaoedd - mae'n rhestru ein swyddi gwag cyfredol;
  • Canllawiau Gweithredol - wedi'u hysgrifennu ar gyfer ein staff ar y gyfraith elusennau ac arferion.

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd