Mae Deddf Elusennau 2011 yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob elusen gofrestredig baratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (ABY). Mae'n rhaid i elusennau gydag incwm gros dros £25,000 yn y flwyddyn gyfrifyddu ffeilio ABY gyda ni. Byddwn yn sganio'r ABY a'i roi ar ein gwefan a bydd ar gael i bawb sydd am wybod rhagor am eich elusen.
Gall hyd ABY a'r manylion ynddo gyfateb i faint yr elusen felly yn achos elusennau bach gall yr adroddiad fod yn un syml iawn. Mae peth wybodaeth y mae'n rhaid i bob elusen ei chynnwys yn eu hadroddiadau. Os hoffech gynnwys gwybodaeth arall am weithgareddau'ch elusen sy'n ychwanegol i'r gofynion cyfreithiol, mae croeso i chi wneud hynny. Gall cyllidwyr, rhoddwyr, darpar fuddiolwyr a rheoleiddwyr eraill weld yr adroddiad felly byddem yn annog pob elusen i ddefnyddio eu hadroddiad fel adnodd addysgol.
Bydd yr adran hon yn eich helpu i gael gwybod: