Nid yw bod yn elusen yr un fath â bod yn sefydliad sy'n gwneud 'pethau da'. Mae natur eang ei gorwelion, gynhwysol gan elusen: nid yw'n gul ei gorwelion, ac er budd preifat. Dim ond sefydliadau gyda nodau ('dibenion') sy'n elusennol er budd cyhoeddus sy'n cael y teitl elusen.
Felly mae bod yn elusen yn gymysgedd o'r hyn ydych chi, beth rydych yn ei wneud a sut rydych chi'n gwneud hynny. Mae'r adran hon yn amlinellu hanfodion yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn elusen effeithiol sy'n cael ei rhedeg yn dda heddiw.
Yr ymddiriedolwyr sy'n gyfrifol am weinyddu elusen, ei heiddo, ei chyllid a chyflogi staff neu wirfoddolwyr. Mae'r adran hon yn amlinellu ein canllawiau i'ch helpu i gynllunio dyfodol strategol eich elusen a'i gwaith, ac ar yr un pryd sicrhau ei bod yn parhau i fod yn atebol i'w buddiolwyr, i'r Comisiwn Elusennau ac i'r cyhoedd yn gyffredinol.
Mae elusennau'n gweithredu am nifer o ddibenion gwahanol ond yr un yw eu nod sef gwneud y gorau dros eu buddiolwyr. Mae'r canllaw hwn yn pennu chwe 'nodwedd' arfer da allweddol a fydd yn helpu ymddiriedolwyr i wella effeithiolrwydd eu helusen, a chynnal yr egwyddorion y mae ein fframwaith rheoleiddio yn bodoli i'w cefnogi.
Mae'r trosolwg hwn yn nodi'r pwyntiau allweddol i'w hystyried wrth reoli cyllid, eiddo ac adnoddau eraill eich elusen. Gallwch ei ddefnyddio i adolygu eich prosesau presennol neu fel man cychwyn os ydych yn ystyried ehangu i feysydd newydd megis bod yn berchen ar eiddo neu fasnachu.
Er bod y sector elusennol yn enfawr ac yn amrywiol iawn, rhaid i nod pob elusen, beth bynnag fo'i maint, fod er budd y cyhoedd. Felly, mae budd cyhoeddus yn ganolog i waith pob elusen. Mae'r adran hon yn esbonio pam y mae rhai dibenion yn elusennol, beth mae budd cyhoeddus yn ei olygu yn ymarferol a sut y gall ymddiriedolwyr adrodd amdano.