Incwm dros £500,000 ond llai na £1,000,000

Incwm £500,001 i £1,000,000

Rhaid i elusennau yn yr ystod incwm hon anfon y canlynol atom:

Ffurflen Flynyddol
  • Rhan A - Gwybodaeth am yr elusen
  • Rhan B - Gwybodaeth ariannol
  • Adrodd am ddigwyddiadau difrifol
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (TAR) a chyfrifon

Mewngofnodi i gwblhau eich Ffurflen Flynyddol a/neu gyflwyno eich TAR a chyfrifon.

Nodiadau

Rhan A - Gwybodaeth am yr elusen

Mae'r wybodaeth hon yn ffurfio rhan o gofnod yr elusen ar y Gofrestr, ac mae'n cynnwys meysydd allweddol megis manylion cyswllt a manylion ymddiriedolwyr yn ogystal ag incwm a gwariant.

Rhan B - Gwybodaeth ariannol

Mae'n cynnwys gwybodaeth ariannol am eich elusen. Bydd angen fersiwn terfynol o'ch cyfrifon cyhoeddedig arnoch a dylai'r adran gael ei chwblhau gan rywun sy'n gyfarwydd â nhw. Mae'r wybodaeth sy'n cael ei rhoi yn cael ei dangos ar gofnod yr elusen ar y Gofrestr ar ffurf graff i ddangos incwm, gwariant ac asedau'r elusen.

Adrodd am ddigwyddiadau difrifol

Wth gwblhau'r ffurflen, rhaid i ymddiriedolwyr gadarnhau nad oes unrhyw ddigwyddiadau difrifol neu faterion eraill y dylent adrodd amdanynt ac nid ydynt wedi'u dwyn at ein sylw eisoes. Mae ein canllawiau ar Adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn rhoi mwy o wybodaeth.

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon

Pan fyddwch yn anfon y ffurflen ar-lein, gallwch atodi'ch TAR a chyfrifon. Gellir eu cyfuno'n un ddogfen neu gallant fod yn ddogfennau ar wahân, ond rhaid iddynt fod mewn fformat PDF. Mae ein canllaw ar baratoi Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a cyfrifon yn rhoi mwy o wybodaeth.

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd