Prynu, gwerthu neu freinio tir

Mae'r adran hon yn rhoi atebion byr i gwestiynau cyffredin ar waredu tir elusennau, gyda dolenni i'n canllawiau a ffurflenni ar-lein os oes angen i chi gysylltu â ni.


Prynu tir

All fy elusen brynu tir?
Yr ateb byr

Gall, yn gyffredinol, gall y rhan fwyaf o elusennau brynu tir at eu defnydd eu hunain neu at ddibenion buddsoddi.

Yn fwy manwl

Fel arfer bydd y pŵer i brynu a dal tir wedi'i amlinellu yn rheolau'r elusen (ei dogfen lywodraethol). Os nad yw'ch rheolau yn cynnwys pŵer o'r fath gall eich elusen ddibynnu ar yr hyn a elwir 'y pŵer statudol'. Daeth y pŵer statudol i rym o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996. Hefyd mae pŵer i brynu tir wedi'i gynnwys yn Neddf Ymddiriedolwyr 2000.

Oes angen caniatâd y Comisiwn arnom i brynu tir?

Yr ateb byr

Nac oes, yn gyffredinol. Nid ydym yn gallu eich cynghori a yw prynu tir yn addas i'ch elusen neu beidio.

Yn fwy manwl

Bydd ein canllaw Prynu Tir (CC33) yn ddefnyddiol ac yn eich helpu i benderfynu. Cynghorwn eich bod yn cysylltu â'ch ymgynghorydd proffesiynol eich hun os ydych yn ystyried prynu tir. Mae gwefan Cymdeithas y Gyfraith yn gallu'ch helpu i gael hyd i gyfreithiwr elusen addas i drafod eich amgylchiadau.

Brig y dudalen


Gwerthu Tir

All fy elusen werthu tir?
Yr ateb byr

Gall ymddiriedolwyr y rhan fwyaf o elusennau werthu tir. Caniateir i elusennau sydd hefyd yn gwmnïau werthu tir oherwydd pŵer yn eu rheolau (Erthyglau Cymdeithasu). Yn gyffredinol gall elusennau sydd heb fod yn gwmnïau (anghorfforedig) ddibynnu ar y pŵer statudol yn Neddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996. Mae ein canllaw Gwerthiannau, prydlesi, trosglwyddiadau neu forgeisiau: Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr wybod am waredu tir elusennau (CC28) yn esbonio'r gyfraith a beth y mae angen i chi gofio.

Yn fwy manwl

Er y gall y rhan fwyaf o ymddiriedolwyr werthu tir eu helusen yn ddidrafferth mae'n rhaid bodloni rhai gofynion:

Yn gyffredinol rhaid i chi allu cydymffurfio â'r amodau yn Rhan 7 o Ddeddf Elusennau 2011:

  • rhaid i chi geisio cyngor ysgrifenedig gan syrfëwr cymwysedig
  • rhaid i chi hysbysebu'r gwerthiant oni bai bod y syrfëwr yn dweud fel arall
  • rhaid i chi fod yn hapus mai'r hyn sy'n cael ei gynnig yw'r pris gorau y gallwch ei gael

Oes angen caniatâd y Comisiwn arnom i werthu tir?

Yr ateb byr

Nac oes, yn gyffredinol, ond mae rhai eithriadau.

Yn fwy manwl

Os ydych yn gwerthu tir i rywun sy'n gysylltiedig â'r elusen (parti cysylltiedig) rhaid i chi gael caniatâd y Comisiwn. Dylech ddechrau drwy gysylltu â ni i esbonio beth yr hoffech ei wneud, gan ddefnyddio'r ffurflen ganlynol:

Os oes angen eich tir arnoch i sicrhau y gall eich elusen fodloni ei hamcanion, er enghraifft elusen Neuadd Bentref, edrychwch ar eich rheolau (dogfen lywodraethol) ar gyfer y canlynol:

  • os yw'ch elusen yn gallu bodloni ei hamcanion er bod y tir wedi cael ei werthu neu os yw'ch rheolau yn eich caniatáu i ddefnyddio'r arian a gewch o'r gwerthiant at ddibenion eraill, mae'n debyg nad oes angen ein caniatâd arnoch
  • mewn pob achos arall lle rydych yn dal tir i fodloni'ch amcanion mae'n bosib y bydd angen ein caniatâd arnoch i'w werthu

Mae rhagor o fanylion am y gyfraith a'r amgylchiadau a ddisgrifir uchod i'w cael yn ein canllaw Gwerthiannau, prydlesi, trosglwyddiadau neu forgeisiau: Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr wybod am waredu tir elusennau (CC28).

Ni allwn ddweud wrthych a ddylech werthu'ch tir neu beidio. Cynghorwn eich bod yn cysylltu â'ch ymgynghorydd proffesiynol eich hun os ydych yn ystyried gwerthu tir. Mae gwefan Cymdeithas y Gyfraith yn gallu'ch helpu i gael hyd i gyfreithiwr elusen addas i drafod eich amgylchiadau.


Breinio tir elusen yn y Ceidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau

Pam byddwn i am freinio tir fy elusen?
Yr ateb byr

Gwasanaeth rhad ac am ddim yw hwn a weithredir gan y Comisiwn. Mae'n rhoi tawelwch meddwl i ymddiriedolwyr gan eu bod yn gwybod bod tir yr elusen yn parhau i gael ei ddal i'r elusen er eu bod wedi ymddiswyddo neu wedi cael eu disodli.

Yn fwy manwl

Mae'n rhaid i dir elusen gael ei ddal yn enw rhywun. Oni bai bod eich elusen yn gwmni neu'n gorfforaeth gorfforedig arall, nid oes modd cofrestru'r teitl yn enw eich elusen yn unig, yn hytrach mae'n rhaid iddo gael ei ddal yn enwau unigolion ar ran yr elusen. Pan fydd y corff ymddiriedolwyr yn newid gall costau godi oherwydd efallai y bydd rhaid cofrestru'r tir yn enw'r ymddiriedolwyr newydd.

Dewis arall symlach, rhad ac am ddim yw gofyn i'r Ceidwad Swyddogol ddal y teitl i'ch elusen. Mae'r Ceidwad Swyddogol yn dal y teitl cyfreithiol i'ch tir yn unig ac ni all ddweud sut y caiff ei ddefnyddio. Cewch ragor o fanylion ynghylch beth mae hyn yn ei olygu i'ch elusen yn ein cyhoeddiad Y Ceidwad Swyddogol i Wasanaeth Dal Tir Elusennau (CC13).

Oes angen caniatâd y Comisiwn arnom?

Yr ateb byr

Oes, mae'n rhaid i'r Comisiwn roi ei ganiatâd. Rydym wedi gwneud hyn yn haws i chi drwy ddarparu ffurflen ar-lein y gallwch ei defnyddio.

Yn fwy manwl

Ni allwn ddweud wrthych a ddylech freinio'ch tir yn y Ceidwad Swyddog neu beidio. Cynghorwn eich bod yn cysylltu â'ch ymgynghorydd proffesiynol eich hun os ydych yn ystyried breinio tir. Mae Cymdeithas y Gyfraith wedi darparu dull o gael hyd i elusen addas i drafod eich amgylchiadau.

Brig y dudalen

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd