Mae amcan statudol gan y Comisiwn Elusennau i sicrhau bod ymddiriedolwyr yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol wrth reoli elusennau a hybu ffydd a hyder y cyhoedd mewn elusennau yn fwy cyffredinol. Mae swyddogaeth statudol gennym hefyd i adnabod ac ymchwilio i gamddefnyddio a chamreoli elusennau. Gwnawn hyn mewn sawl ffordd drwy ein gwaith cydymffurfio:
Mae pob pryder yn cael ei gyfeirio at yr Uned Asesu sy'n dilyn y fframwaith risg a chymesuredd ar gyfer gwaith cydymffurfio er mwyn penderfynu ar y camau mwyaf priodol a chymesur i'w cymryd.
Mae'r ymddiriedolwyr elusen eu hunain yn gallu datrys y rhan fwyaf o broblemau sydd gan elusennau, neu gellir eu datrys drwy ddefnyddio cyngor a chanllawiau'r Comisiwn heb fod angen i ni gynnal ymchwiliad. Fodd bynnag, os oes problemau difrifol, mae'n bosib y bydd rhaid i ni ymchwilio i hyn ymhellach. Mae'r Comisiwn yn cynnal dau fath o ymchwiliad: Ymchwiliadau anstatudol o'r enw Achosion Cydymffurfio Rheoleiddiol ac Ymchwiliadau Statudol. Mae'r adran hon yn esbonio'r amgylchiadau pan fyddwn yn cychwyn ymchwiliad a beth sy'n digwydd pan fyddwn yn gwneud hynny.
Er mwyn rheoleiddio sector amrywiol yn y dull mwyaf effeithiol posibl rydym wedi magu perthynas strategol a gweithredol effeithiol ag ystod o reoleiddwyr eraill, adran gorfodi'r gyfraith ac adrannau eraill o'r llywodraeth. Er ein bod yn gweithredu'n gadarn i warchod ein hannibyniaeth, mae cydweithio effeithiol a gweithio ar y cyd yn hanfodol er mwyn sicrhau rheoleiddio effeithiol.
Mae goruchwylio rheoleiddiol yn un ffordd y gallwn ymchwilio i bryderon am gamddefnyddio a diffyg cydymffurfio yn y sector. Mae ein gwaith goruchwylio a monitro rheoleiddiol yn cynnwys archwilio cyfrifon yn briodol a thargedu cyfrifon i'w harchwilio a sicrhau bod ymddiriedolwyr wedi cymryd y camau y maent wedi addo eu cymryd i ddelio â phroblemau.
Rhan bwysig o'n rôl yw helpu elusennau i ddiogelu eu hunain drwy godi ymwybyddiaeth o'r peryglon i'r sector a gofynion cydymffurfio, a thrwy ddarparu cyngor, canllawiau a chymorth wedi'i dargedu.