Pryd y byddwn yn cymryd camau gorfodi

Byddwn yn cymryd camau gorfodi mewn amryw o ffyrdd.

Mae hyn yn cynnwys camau rheoleiddio sy'n cael eu cymryd yn ystod ymchwiliadau i elusennau unigol ac mae modd gweld y canlyniadau drwy ddarllen Adroddiadau Ymchwiliadau ac Achosion Rheoleiddio cyhoeddedig. Hefyd gallwch weld pan fyddwch yn chwilio am elusen ar y Gofrestr Elusennau a yw Adroddiad Ymchwiliad neu Adroddiad Achos Rheoleiddio wedi cael ei gyhoeddi am yr elusen yn ystod y 6 mis diwethaf.

Gallwch weld pa gamau a gymerwyd drwy ddefnyddio ein pwerau i benodi rheolwyr dros dro i elusennau a gwerth yr asedau a gafodd eu diogelu neu eu gwarchod. Hefyd gallwch weld faint o bwerau a pha bwerau rydym wedi'u harfer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn Elusennau yn ôl ar y Trywydd Iawn.

Wrth ddelio ag elusennau sydd heb gyflwyno eu cyfrifon a'u ffurflenni blynyddol cyhoeddwn restr o'r elusennau hyn yn ôl cod post. Gallwch ddefnyddio'r Gofrestr Elusennau hefyd i weld a yw elusen arbennig heb gyflwyno gwybodaeth.

Gall elusennau sydd heb roi tystiolaeth o'u gweithgareddau a'u bodolaeth drwy gyflwyno cyfrifon, ffurflenni blynyddol neu ddiweddariadau blynyddol gael eu cyfeirio at yr Uned Fonitro er mwyn cymryd camau gorfodi neu eu dileu o'r Gofrestr Elusennau.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd