Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd yn cael blwyddyn brysur, gydag agoriad ei Champws Canol Dinas newydd ym mis Mawrth a nawr yn dod yn elusen gofrestredig.
Gall y Brifysgol rhain ei hanes yn ôl i Athrofa Mecaneg Casnewydd a gafodd ei sefydlu yn 1841, a dyma'r nawfed brifysgol i gofrestru gyda'r Comisiwn. Mae'n ymuno ag eraill ym Mangor, Caerdydd ac Abertawe ar y Gofrestr Elusennau ar-lein.
Bu prifysgolion yn elusennau erioed ond nid oedd rhaid iddynt gofrestru gyda'r Comisiwn cyn hyn oherwydd roeddent yn atebol i'w cyllidwr, sef CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru). Fodd bynnag, roedd Deddf Elusennau 2006 wedi newid y ffordd y caiff yr elusennau hyn eu rheoleiddio er mwyn gwella atebolrwydd ar draws y sector cyfan.
Esbonia Harry Iles, Pennaeth Swyddfa Cymru y Comisiwn Elusennau:
"Rydym yn hapus iawn i groesawu Prifysgol Cymru, Casnewydd i'r gofrestr. Mae gwybodaeth am elusennau cofrestredig, megis cyfrifon, ar gael ar ein gwefan sy'n helpu i gynnal tryloywder o fewn y sector a hyrwyddo dealltwriaeth o waith elusennau.
Mae incwm y sector elusennol yng Nghymru yn cael ei effeithio'n fawr gan gofrestru'r prifysgolion. Ar hyn o bryd, mae'r incwm ar gyfer y 9,000 a mwy o elusennau cofrestredig yng Nghymru tua £1bn. Pan fydd pob prifysgol yng Nghymru wedi cofrestru gyda'r Comisiwn, bydd y ffigur hwn yn codi i £2.2bn - mwy na dwbl yr incwm presennol."
Ychwanegodd Denis Jones, Dirprwy Is-Ganghellor (Cynllunio Adnoddau) a Chyfarwyddwr Cyllid:
"Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd yn falch o ymuno â phrifysgolion eraill Cymru ar y gofrestr gyhoeddus elusennau. Deallwn ba mor bwysig yw hi i'r sector fod yn agored ac yn dryloyw i'r rhai sy'n ei gefnogi. Rydym wedi cydweithio'n agos â Swyddfa Cymru y Comisiwn Elusennau a'r Is-adran Gofrestru er mwyn sicrhau ein bod ni'n deall ein cyfrifoldebau fel ymddiriedolwyr a'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn elusen gofrestredig."
Yn ogystal â phrifysgolion yng Nghymru, mae'n ofynnol erbyn hyn i bob undeb myfyrwyr gydag incwm dros £100,000 i gofrestru gyda'r Comisiwn. Bydd gwaith hefyd yn dechrau cyn bo hir ar gofrestru sefydliadau addysg bellach.
Diwedd.
PR 44/11
I gael gwybodaeth bellach am y stori hon, cysylltwch â swyddfa'r wasg.
Nodiadau i Olygwyr
- Y Comisiwn Elusennau yw rheoleiddiwr annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Gweler www.comisiwnelusennau.gov.uk am wybodaeth bellach.
- Ein cenhadaeth yw: sicrhau bod elusennau'n cydymffurfio â'r gyfraith, gwella atebolrwydd elusennau, hyrwyddo effeithiolrwydd ac effaith elusennau a hybu diddordeb cyhoeddus mewn elusennau.
- Mae'r Comisiwn Elusennau yn datblygu cytundeb gweithio ar y cyd â CCAUC a fydd yn amlinellu rôl a swyddogaeth y ddau gorff.
- Ar wahân i ambell brifysgol a enwir, ni fydd prifysgolion Lloegr yn cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau a byddant yn parhau i gael eu rheoleiddio gan CCAULl (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr).
- Mae Canolfan Gwybodaeth i'r Cyfryngau y Comisiwn Elusennau, sydd ar gael ar wefan y Comisiwn, yn rhoi gwybodaeth gefndir ddefnyddiol a pherthnasol yn benodol i newyddiadurwyr, yn enwedig mewn perthynas â materion sy'n denu sylw'r wasg yn gyson.
Brig y dudalen