Efallai eich bod chi'n meddwl bod rhaid i bob elusen neu sefydliad gwirfoddol gofrestru gyda ni. Y gwir amdani yw nad yw pob mudiad gwirfoddol yn elusen, ac nid oes rhaid i rai elusennau gofrestru. Mae cannoedd ar filoedd o gyrff gwirfoddol yn y DU, ond mae llai na 180,000 ohonynt yn elusennau sydd wedi cofrestru gyda ni. Y rheswm am hyn yw:
- gall sefydliad fod yn elusen dim ond os oes ganddo nodau sydd er budd y cyhoedd
- nid yw cofrestru yn golygu bod sefydliad yn elusen - rhaid iddo fod yn elusen eisoes
- nid oes rhaid i rai sefydliadau sy'n elusennau, neu nid oes hawl ganddynt, gofrestru
Gall gwneud cais i gofrestru elusen olygu llawer o waith. Nid ydym am wastraffu'ch amser os nad oes rhaid i'ch elusen gofrestru, neu ni all gofrestru. Cliciwch ar y dolenni os yw unrhyw un o'r datganiadau hyn yn gymwys i'ch elusen chi.
Sut galla i brofi bod fy elusen yn elusen go iawn os nad yw wedi cofrestru?
Gallwch wneud cais uniongyrchol i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i gael gostyngiad treth. Yn yr un modd â rhif elusen gofrestredig, gallwch ddefnyddio rhif elusen HMRC fel tystiolaeth o'ch statws elusennol.
Gallwch hefyd gyfeirio pobl at ein canllawiau i esbonio pam nad oes rhaid i'ch elusen gofrestru.
Mae incwm blynyddol fy elusen yn llai na £5,000
Nid ydym yn cofrestru elusennau sydd ag incwm o lai na £5,000. Mae hyn yn helpu i osgoi costau gweinyddol ac ymdrech ddiangen i elusennau llai ac i ni. Nid oes rhaid i elusennau bach gofrestru i brofi eu bod nhw'n elusennau neu gael budd o statws elusennol.
Mae gennym ni ragor o adnoddau a gwybodaeth i elusennau sydd ag incwm o lai na £5,000.
Brig y dudalen
Nid yw pencadlys fy elusen yng Nghymru neu Loegr
Gallwn gofrestru elusennau sydd wedi'u llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr yn unig. Fel arfer mae hyn yn golygu cael eich lleoli yng Nghymru a Lloegr.
Mae rheoleiddwyr elusennau eu hunain gan yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r Office of the Scottish Charity Regulator (OSCR) yn cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yn yr Alban. Mae'r Charity Commission for Northern Ireland (CCNI) yn rheoleiddio elusennau yng Ngogledd Iwerddon.
Mae cyfreithiau gwahanol gan wledydd eraill, felly ni allwn eich cynghori chi ar eu gofynion nhw.
Brig y dudalen
Mae fy elusen yn rhan o sefydliad mwy
Mae canghennau lleol gan rai elusennau. Mae canghennau lleol o elusennau yn cofrestru gyda ni dim ond os ydynt yn annibynnol (er enghraifft, maent yn rheoli eu cronfeydd eu hunain).
Gofynnwch i'ch rhiant sefydliad i weld a oes angen i chi gofrestru.
Mae elusennau sy'n aelodau o sefydliadau neu fudiadau cenedlaethol (megis y Sgowtiaid, Geidiaid a rhai enwadau Cristnogol) 'wedi'u 'heithrio' rhag cofrestru
Brig y dudalen
Efallai fod fy elusen wedi'i 'hesgusodi' neu ei 'heithrio' rhag cofrestru
Nid oes rhaid i Elusennau a 'eithrir' gofrestru, ond rydym yn parhau i'w rheoleiddio. Gallwn ofyn am wybodaeth am eu gweithgareddau neu ymchwilio iddynt os oes unrhyw achos o bryder gennym.
Ni all elusennau a 'esgusodir' gofrestru gyda ni ac nid ydym yn eu rheoleiddio oherwydd cânt eu harolygu gan sefydliad neu gorff arall.
Gweler ein canllaw ar elusennau a eithrir ac a esgusodir i gael rhagor o fanylion.
Brig y dudalen