Dangos budd cyhoeddus

Mae budd cyhoeddus wrth wraidd yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn elusen. Mae Deddf Elusennau 2006 yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob elusen gael nodau y gellir dangos eu bod er budd y cyhoedd. Mae'n rhaid bodloni dwy egwyddor (gyda nifer o is-egwydorion) i ddangos bod nodau sefydliad er budd y cyhoedd:

  1. Rhaid bod budd neu fuddion adnabyddadwy
  2. Rhaid bod budd i'r cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd

Mae hyn yn golygu cyn gwneud cais i gofrestru elusen newydd, mae'n rhaid i chi ddarllen ein Canllawiau budd cyhoeddus. Bydd yn esbonio sut y dylai'ch cais ddangos bod nodau eich sefydliad yn elusennol er budd y cyhoedd. Ni all gael rhai nodau sy'n elusennol ac eraill sydd heb fod yn elusennol. Mae ein Canllawiau ar ddibenion elusennol yn nodi pa nodau ('dibenion') sy'n cael eu hystyried yn elusennol a pham.

Mae hyn yn bwysig oherwydd pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru eich sefydliad fel elusen, defnyddiwn yr wybodaeth a rowch i benderfynu a yw'r nodau yn elusennol ac er budd y cyhoedd. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd hyn yn amlwg, yn enwedig os ydych yn defnyddio amcanion elusennol adnabyddus a dogfen lywodraethol gymeradwy.

Os nad yw hyn yn fater syml, (er enghraifft os yw nodau'ch sefydliad yn weddol newydd neu mae ganddynt ryw nodwedd anarferol) rydym yn asesu'r wybodaeth a rowch yn erbyn yr egwyddorion a nodir yn ein canllaw. Os oes angen, gallwn ofyn i chi egluro beth yw nodau eich sefydliad ac a yw'r nodau hynny er budd y cyhoedd.

Os ydym yn penderfynu nad yw nodau'ch sefydliad yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, gallwn roi cyngor i chi ar sut i newid ei nodau, ailstrwythuro ei hamcanion, neu newid y ffordd y bydd yn cyflawni ei nodau. Os na allwch ddangos o hyd bod nodau eich sefydliad, neu bydd nodau eich sefydliad yn cael eu cyflawni er budd y cyhoedd, nid oes modd ei gofrestru fel elusen.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd