Pethau i'w hystyried cyn sefydlu elusen newydd

Rydych chi'n ystyried sefydlu elusen newydd. Gwych! Rydym yn falch eich bod chi am chwarae rhan weithgar mewn elusen. Os oes incwm o £5,000 neu ragor gan eich sefydliad mae'n rhaid i chi gofrestru â ni yn ôl y gyfraith. Bydd rhaid i chi anfon tystiolaeth ar ffurf cyfriflen banc neu gyfrifon blynyddol diweddaraf gyda'ch cais. Nid yw'n polisi gennym gofrestru elusennau nad ydynt yn bodloni'r gofyniad lleiaf hwn. Ond nid yw'n golygu na all eich sefydliad fod yn elusen.

Cyn bwrw ati, mae rhai pethau y gallai fod o gymorth i chi eu hystyried.

Ai elusen newydd yw'r ffordd orau ymlaen?

Yn dibynnu ar eich rheswm dros sefydlu elusen newydd a'r hyn rydych am ei gyflawni, gall fod ffyrdd eraill, a gwell, o gyflawni eich nod. Mae'r adran hon yn esbonio'r achosion pan nad sefydlu elusen newydd fydd y ffordd orau ymlaen o bosib.

Oes elusennau sy'n bodi sydd â'r un dibenion a gweithgareddau â chi?

Mae tua 180,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, a'r un nifer eto o elusennau llai sydd heb gofrestru. Mae'n dra phosib bod un neu ragor o'r rhain yn gwneud y math o waith elusennol y byddai'ch elusen newydd chi yn ei wneud, ac yn yr un ardal. Mae'r adran hon yn esbonio sut i wneud yn siŵr nad ydych yn dyblygu ymdrech.

Deall sut mae'n rhaid i elusen weithredu

Cyn penderfynu sefydlu elusen newydd, mae'n bwysig eich bod chi'n deall rhai gofynion sylfaenol ynghylch sut y mae'n rhaid i elusen weithredu.

Codi arian

Nid yw codi arian yn nod elusennol ynddo'i hun, mae'n weithgaredd y gellir ei wneud i helpu i gyflawni diben elusennol. Gallwch godi arian, er enghraifft, drwy gynnal digwyddiadau noddedig neu gynnal arwerthiannau o nwyddau a roddwyd, er gyfer elusen arbennig. Os ydych yn gwneud hyn nid oes rhaid cofrestru elusen, gallwch roi'r arian a godwyd i'r elusen o'ch dewis. Gallwch ddod o hyd i elusen drwy chwilio ein cofrestr ar-lein.

Mae rhagor o wybodaeth am godi arian yn gyffredinol i'w gweld yn ein cyhoeddiad Elusennau a Chodi Arian (CC20).

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd