Daeth Deddf Elusennau 2011 i rym ar 14 Mawrth 2012. Dyma'r Ddeddf Seneddol sy'n amlinellu sut y caiff pob elusen yng Nghymru a Lloegr ei chofrestru a'i rheoleiddio.
Mae'n disodli:
- y rhan fwyaf o Ddeddfau Elusennau 1992, 1993 a 2006
- y cyfan o Ddeddf Elusennau Adloniadol 1958
Nid yw'n disodli'r adrannau yn y Deddfau Elusennau am godi arian sydd heb ddod i rym eto, e.e. casgliadau elusennol mewn mannau cyhoeddus.
Mae Deddf 2011 yn ceisio gwneud y gyfraith yn haws i'w deall drwy roi un Ddeddf yn lle pedair Deddf Seneddol. Nid yw'n gwneud unrhyw newidiadau i'r gyfraith. Mae bron 500 o dudalennau gwe a PDFs ar y wefan hon wedi cael eu diweddaru i gyfeirio at Ddeddf 2011 yn hytrach na'r Deddfau blaenorol.
Nid oes rhaid i'ch elusen wneud unrhyw beth yn wahanol, ond os ydych wedi cyfeirio cyn hyn at Ddeddfau cynharach, dylech gyfeirio at Ddeddfau Elusennau 2011 o hyn ymlaen mewn dogfennau, adroddiadau, cyfrifon neu ddatganiadau a gynhyrchwyd ar neu ar ôl 14 Mawrth 2012 (hyd yn oed os ydynt yn cyfeirio at gyfnod ariannol cynharach).
Fodd bynnag, bydd eich dogfennau yn parhau'n ddilys hyd yn oed os ydych yn digwydd cyfeirio at y Deddfau cynharach. Nid oes rhaid i chi fynd yn ôl a newid unrhyw ddogfennau rydych eisoes wedi'u cwblhau'n derfynol cyn 14 Mawrth 2012.