Hoffem sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i bawb. Mae'r dudalen hon yn esbonio'r ffyrdd gwahanol y gallwch gyrchu cynnwys ein gwefan.
Dewisiadau ar ein gwefan
Maint y Testun
Chwiliwch am y 3 botwm 'A' ar frig y dudalen. Gallwch glicio arnynt i newid maint testun y wefan. Mae'r botwm 'A' mwyaf (ar y dde) yn rhoi'r testun mwyaf.
Cyferbynnedd Lliw
Gallwch ddarllen y wefan hon mewn du a gwyn drwy glicio ar y botwm
ar frig y dudalen. Os yw'n well gennych weld y wefan mewn cyferbynnedd uchel, cliciwch ar y botwm
ar gyfer tesun melyn ar gefndir du. Mae'r ddau ddewis hyn yn destun yn unig. Mae'r botwm
hwn yn newid y wefan yn ôl i liw llawn gyda delweddau.
Gwrando ar gynnwys y wefan
Gallwch lawrlwytho meddalwedd yn rhad ac am ddim i glywed cynnwys y wefan yn cael ei ddarllen yn uchel i chi. Ewch i Gwrando ar ein gwefan am ragor o wybodaeth.
Dewis "Neidio i'r cynnwys"
Mae'r ddolen hon yn ddefnyddiol os ydych yn defnyddio meddalwedd darllen sgrîn. Os ydych yn ei dewis, bydd eich meddalwedd darllen yn neidio'r dewislenni ac yn dechrau darllen ar ddechrau'r brif dudalen cynnwys.
Dewisiadau ar eich cyfrifiadur
Esboniwn isod rai o'r prif bethau y gallwch eu newid ar eich cyfrifiadur i weld gwefannau yn haws. Ond mae llawer o ddewisiadau gwahanol. Am ragor o wybodaeth fanwl, ewch i'r safle BBC My Web My Way.
Os ydych yn defnyddio Internet Explorer
I newid maint y testun:
- Agorwch y ddewislen 'Gweld' (neu gwasgwch 'Alt' a 'V')
- Dewiswch 'maint y testun' (neu dewiswch drwy wasgu X)
- Dewiswch faint y testun sy'n well gennych
- Cliciwch i ddewis maint y testun (neu gwasgwch 'I Mewn')
I newid lliwiau:
- Agorwch y ddewislen 'Offer' (neu gwasgwch 'Alt' a 'T')
- Dewiswch 'Dewisiadau Rhyngrwyd' (neu gwasgwch 'O')
- Dewiswch 'Hygyrchedd' (neu gwasgwch 'Alt' ac 'E')
- Dewiswch 'Anwybyddu lliwiau a nodwyd ar dudalennau gwe' (neu gwasgwch 'Alt' ac 'C')
Os ydych yn defnyddio Firefox
I newid maint y testun:
- Agorwch y ddewislen 'Gweld''
- Dewiswch 'Maint y Testun'
- Dewiswch 'Cynyddu' neu 'Lleihau'
I newid lliwiau:
- Agorwch y ddewislen 'Offer' (neu gwasgwch 'Alt' a 'T')
- Dewiswch 'Dewisiadau' (neu gwasgwch 'O')
- Cliciwch ar y tab cynnwys
- Dewiswch y dewisiadau sy'n well gennych.
Os ydych yn defnyddio Safari
I newid maint y testun
- Agorwch y ddewislen 'Gweld'
- Cliciwch ar 'Gwneud y Testun yn Fwy' neu 'Gwneud y Testun yn Llai'
Nid oes dewisiadau gan Safari eto i newid lliwiau testun a chefndir.
Brig y dudalen