Seiliau cyfreithiol

Elusennau a Materion Buddsoddi (CC14)

(Hydref 2011)

Gallwch weld fersiwn PDF lliw llawn o Seiliau Cyfreithiol - Elusennau a Materion Buddsoddi (CC14) hefyd

Datganiad rhagarweiniol

a) Mae'r ddogfen hon yn grynodeb o sut mae'r Comisiwn yn dehongli'r gyfraith sy'n sail i'w gyhoeddiad Elusennau a Materion Buddsoddi: Canllaw i ymddiriedolwyr (CC14) ('y canllaw') ac felly mae'n defnyddio iaith fwy technegol.

b) Nid yw'r dadansoddiad yn ceisio bod yn grynodeb cyfreithiol cynhwysfawr, ond yn hytrach yn fan cyfeirio defnyddiol i ymddiriedolwyr, eu cynghorwyr a'r cyhoedd. Mae'n ceisio adlewyrchu'r gyfraith ac arferion fel y maent ym mis hydref 2011, ac nid yw'n rhwymo mewn cyfraith. Dylid cofio ei fod yn cynnig dadansoddiad cyffredinol o'r gyfraith ond bydd addasrwydd y dadansoddiad i achos arbennig yn dibynnu ar holl ffeithiau'r achos hwnnw.

c) Bydd y Comisiwn yn mabwysiadu'r un ymagwedd â'r llysoedd a'r Tribiwnlys o ran cymhwyso'r gyfraith.

Cyflwyniad

(i) Mae'r seiliau cyfreithiol i'r canllaw buddsoddi yn ymwneud â dyletswyddau a rhwymedigaethau ymddiriedolwyr elusennau. Mae'r sefyllfa a ddisgrifir yn seiliedig ar y gyfraith fel a wnelo â'r gyfraith ymddiriedolaeth ac eithrio pan nodir fel arall. Felly nid yw'r canllaw hwn yn uniongyrchol berthnasol i gyfarwyddwyr cwmnïau elusennol. Fodd bynnag, gan fod cyfarwyddwyr cwmni elusennol hefyd yn gweithredu yn rhinwedd ymddiriedol wrth hyrwyddo dibenion elusennol, bydd cyfrifoldebau tebyg ganddynt. Cânt eu cynnwys o fewn y disgrifiad o 'ymddiriedolwyr elusen' fel y'i diffinnir yn adran 97(1) o Ddeddf Elusennau 1993.

 

(ii) Yn y canllaw, defnyddiwn y term 'buddsoddiad' i gynnwys unrhyw gost o gronfeydd sy'n cael eu gwario ar rywbeth y gobeithir y bydd yn arwain at enillion ariannol. Mae'r diffiniad hwn yn cwmpasu ystod eang o strategaethau a ddefnyddir gan elusennau wrth ddefnyddio eu cronfeydd. Mae'n cynnwys buddsoddi at y diben o gynhyrchu'r uchafswm enillion ariannol sy'n gyson â doethineb masnachol ('buddsoddiad ariannol). Mae'n cynnwys buddsoddi i gael yr enillion gorau ac eithrio buddsoddiadau a fyddai'n gwrthdaro â nodau'r elusen neu fuddsoddi i gael yr enillion gorau gan osgoi buddsoddiadau a allai rhwystro gwaith yr elusen, neu fuddsoddi i gael yr enillion gorau gan osgoi rhai buddsoddiadau ar sail foesol os nad yw hyn yn creu risg o golled ariannol sylweddol ('buddsoddiad moesegol').

 

(iii) Mae'n cynnwys buddsoddi i gael yr enillion gorau gan ganolbwyntio ar fuddsoddiadau sy'n helpu'r elusen i gyflawni ei chenhadaeth os nad yw hyn yn creu unrhyw golled ariannol sylweddol ('buddsoddiad cysylltiedig â chenhadaeth'). Mae'n cynnwys gwario cronfeydd wrth hyrwyddo dibenion yr elusen os gellir cynhyrchu enillion ariannol ond y rheswm am y gwariant yw hyrwyddo dibenion yr elusen ('buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen').

 

(iv) Yn gyffredinol mae'r ystyr a roddir i 'fuddsoddiad' mewn cyfraith gwlad wedi'i gyfyngu i'r ffactorau hynny sy'n creu buddsoddiad ariannol, e.e. 'eiddo sy'n cael ei ddal gan yr ymddiriedolwyr at y diben o gynhyrchu arian, boed yn incwm neu'n dwf cyfalaf, i hyrwyddo gwaith yr ymddiriedolaeth'1. Fodd bynnag, mewn achos yn Seland Newydd Culverden Retirement Village v Registrar of Companies [1997] 1 NZLR 257, 261 dywedodd y Cyfrin Gyngor:

 

"....un o ystyron bob dydd y gair buddsoddi yw gwario arian i brynu eiddo yn y gobaith o wneud elw. Gall yr elw fod ar ffurf cyfalaf neu incwm neu'r ddau. Gallai fod yn arian parod, neu gallai fod mewn nwyddau megis darparu gwasanaethau."

(v) Yn yr achos dan sylw barnwyd bod prynu tŷ tref mewn pentref ymddeol ar y telerau y bydd y sawl sy'n ei brynu yn byw ynddo, gyda'r gwasanaethau angenrheidiol wedi'u darparu, am ba gyfnod bynnag y dymunai, a'i fod yn cael y cyfan neu ran fawr o'i gost yn ôl, yn fuddsoddiad priodol. Yn arbennig, dywedodd y Llys:

 

"Mae'r enillion o'u gwariant i'w canfod yng nghyfanswm y buddion hyn, nid dim ond y taliad ariannol ar y diwedd."

(vi) Yn yr un modd mae'n bosibl, wrth ystyried achos lle mae elusen yn gwario cronfeydd mewn cwmni a fydd yn hyrwyddo dibenion yr elusen drwy ei weithredu ac a all gynhyrchu enillion ariannol, y gall y llys benderfynu bod y canlyniad cymdeithasol, hyrwyddo'r diben elusennol, a'r enillion ariannol gyda'i gilydd greu cyfanswm enillion ar y buddsoddiad. Fodd bynnag, yn absenoldeb penderfyniad terfynol o'r fath, rydym wedi mabwysiadu'r farn mai ystyr cyfreithiol buddsoddi yw buddsoddiad ariannol ac nid yw buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen wedi'i gynnwys yn yr ystyr hwnnw.

 

(vii) Y man cychwyn i ymddiriedolwyr ym mhob un o'r strategaethau 'buddsoddi' hyn yw dyletswydd ymddiriedolwyr i arfer eu pwerau er lles gorau'r elusen,2. Yn achos buddsoddiadau ariannol fel arfer bydd yn golygu ceisio'r uchafswm enillion sy'n gyson â doethineb masnachol3. Yn achos buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen, bydd y 'buddsoddiad' dan sylw yn cael ei weithredu os yw hynny'n ffordd effeithiol o gyflawni dibenion yr elusen.

 

(viii) Mae gwahaniaeth pwysig rhwng 'buddsoddiadau ariannol' (sy'n cynnwys buddsoddiad moesegol a buddsoddiad cysylltiedig â chenhadaeth) a 'buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen', rhywbeth na fyddai'n fuddsoddiad yn yr ystyr cyfreithiol. Fel y gwelwch, mae buddsoddiadau yn yr ystyr cyfreithiol yn cael eu gwneud at y diben o sicrhau enillion ariannol ac mae unrhyw ddiben arall yn atodol i hynny. Nid yw hynny'n golygu nad oes modd defnyddio cronfeydd sydd ar gael i hyrwyddo'r diben elusennol er mwyn hyrwyddo'r diben elusennol mewn ffordd a allai gynhyrchu enillion ariannol i'r elusen. Fodd bynnag, mae'n golygu nad yw buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen yn fuddsoddiad yn yr ystyr cyfreithiol mwyaf manwl, ac felly ni ellid ei ystyried yn arfer pŵer buddsoddi fel y cyfeirir ato yn Neddf Ymddiriedolwyr 2000. Yn yr un modd, ni ellid defnyddio cronfeydd a ddelir ar ymddiriedolaeth i'w buddsoddi yn y ffordd hon oni bai nad oedd unrhyw golled ariannol sylweddol o'i gymharu â buddsoddi ar sail enillion gorau.

Rhan I. Buddsoddiad ariannol

1. Beth yw buddsoddiad?

Uchafswm enillion ariannol

1.1. Nid oes unrhyw ddiffiniad statudol o fuddsoddiad er bod awdurdod mewn cyfraith achosion ar gyfer yr hyn a olygir wrth y term. Yn Harries v Church Commissioners (gweler uchod) cyfeiriodd yr Is-ganghellor Donald Nicholls at "eiddo sy'n cael ei ddal gan yr ymddiriedolwyr at y diben o gynhyrchu arian, boed yn incwm neu'n dwf cyfalaf, i'w ddefnyddio i hyrwyddo gwaith yr ymddiriedolaeth." Defnyddiodd y nodwedd "eiddo sy'n cael ei ddal gan yr ymddiriedolwyr fel buddsoddiad".

1.2. Roedd yr Is-ganghellor yn glir, os yw eiddo'n cael ei ddal fel buddsoddiad, "prima facie bydd dibenion yr ymddiriedolaeth yn cael eu gwasanaethu orau drwy gael yr ymddiriedolwyr i geisio'r uchafswm enillion drwyddo, boed drwy gyfrwng incwm neu dwf cyfalaf, yn gyson â doethineb masnachol." Mae'r canllaw yn defnyddio'r term 'enillion ariannol gorau....sy'n briodol i'r risg.' Ym marn y Comisiwn mae hyn yn golygu'r un peth â'r fformiwla a ddefnyddir yn nyfarniad Harries a nodwyd yn 1.2 uchod, h.y. "uchafswm enillion, boed trwy gyfrwng incwm neu gyfalaf, sy'n gyson â doethineb masnachol."

1.3. Yn yr un modd mae'r pŵer i fuddsoddi yn Neddf Ymddiriedolwyr 2000 yn ymwneud â buddsoddi at y diben o gynhyrchu enillion ariannol. Mae hefyd yn wir bod cronfeydd a ddelir fel gwaddol parhaol ar ymddiriedolaeth i'w buddsoddi yn amodol ar unrhyw ddarpariaethau penodol yn y ddogfen lywodraethol, a ddelir at y diben o sicrhau enillion ariannol y gellir eu defnyddio wrth hyrwyddo dibenion yr elusen. Yn absenoldeb darpariaethau penodol i'r perwyl hwn, ni all y cronfeydd gael eu defnyddio mewn ffordd a fyddai'n erydu cyfalaf y gronfa.

1.4. Fodd bynnag, heb awdurdod cyfreithiol penodol o'r fath, ac ar ôl ystyried y gyfraith achosion bresennol, mae'r Comisiwn o'r farn bod cyfrifoldebau buddsoddi ymddiriedolwyr elusen dim ond yn ymwneud ar hyn o bryd â buddsoddiadau sy'n ceisio cynhyrchu enillion ariannol. Nid yw hynny'n golygu na all yr ymddiriedolwr elusen ddefnyddio eu pwerau i hyrwyddo eu dibenion elusennol. Mae'n dal yn bosibl i'r ymddiriedolwyr elusen ddefnyddio eu cronfeydd i hyrwyddo eu dibenion elusennol, er enghraifft trwy gyfrwng benthyciad, ond gyda'r posibilrwydd o gael ychydig o enillion ariannol. Fodd bynnag, bydd hyn wedi'i gyfiawnhau drwy ystyried a oedd y penderfyniad i ddefnyddio'r cronfeydd fel hyn wedi'i gynnwys o fewn yr ystod o benderfyniadau y gallai corff rhesymol o ymddiriedolwyr eu cymryd wrth geisio hyrwyddo eu dibenion.

Treth a buddsoddi

1.5. Bydd ymddiriedolwyr am sicrhau cyn belled â phosibl nad oes rhaid iddynt dalu treth ar eu buddsoddiadau. O dan adran 543(1) o'r Ddeddf Treth Incwm 2007, mae ymddiriedolaeth elusennol yn cael ei thrin fel un sydd â gwariant anelusennol os yw'n gwneud unrhyw fuddsoddiadau neu fenthyciadau sydd heb fod yn fuddsoddiadau neu fenthyciadau elusennol cymeradwy, yn ôl y diffiniad ohonynt yn adrannau 558 a 561 o Ddeddf Treth Incwm 2007. O dan adran 496(1) o'r Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010, mae cwmni elusennol yn cael ei drin fel un sydd â gwariant anelusennol os yw'n gwneud unrhyw fuddsoddiadau neu fenthyciadau sydd heb fod yn fuddsoddiadau neu fenthyciadau elusennol cymeradwy, yn ôl y diffiniad ohonynt yn adrannau 511 a 514 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2007.

1.6. Mae adran 558 o Ddeddf Treth Incwm 2007 ac adran 511 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 yn rhoi manylion am fuddsoddiadau sy'n cael eu trin yn awtomatig fel buddsoddiadau elusennol cymeradwy ac mae'r rhain yn cynnwys cyfranddaliadau mewn cwmni, neu warannau cwmni a restrir ar gyfnewidfa stoc gymeradwy. Gall buddsoddiadau, gan gynnwys benthyciadau a wnaed fel buddsoddiadau sydd heb eu pennu yn yr adrannau hynny, gael eu trin fel buddsoddiadau elusennol cymeradwy os yw Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn fodlon bod y buddsoddiad neu'r benthyciad yn cael ei wneud er lles yr ymddiriedolaeth elusennol neu'r cwmni elusennol ac nid er mwyn osgoi talu treth (boed gan yr ymddiriedolaeth elusennol neu'r cwmni elusennol neu unrhyw un arall).

1.7. Mae adran 561 o Ddeddf Treth Incwm 2007 ac adran 514 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 yn ystyried benthyciadau sy'n cael eu gwneud gan ymddiriedolaethau elusennol a chwmnïau elusennol. Gall benthyciadau gael eu trin fel benthyciadau elusennol cymeradwy os nad ydynt yn cael eu gwneud drwy gyfrwng buddsoddiad ac maent naill ai wedi'u cynnwys o fewn rhai categorïau penodol neu mae HMRC yn fodlon y cawsant eu gwneud er lles yr ymddiriedolaeth neu'r cwmni elusennol ac nid er mwyn osgoi talu treth.

1.8. Yn draddodiadol, mae'r term 'er lles yr elusen', a ddefnyddiwyd uchod, wedi cael ei ystyried gan HMRC fel un sydd ag ystyron gwahanol yn dibynnu ar yr hyn sydd dan sylw, sef buddsoddiadau (gan gynnwys benthyciadau buddsoddi) neu fenthyciadau heb eu gwneud fel buddsoddiadau. Yn y gorffennol roedd rhaid i fuddsoddiadau (gan gynnwys benthyciadau buddsoddi) fod o fudd i'r elusen fel buddsoddiad ariannol. Yn achos benthyciadau nad ydynt yn fuddsoddiad, roedd HMRC yn disgwyl i'r budd fod yn gysylltiedig ag amcanion yr elusen. Yn fwy diweddar, mae HMRC wedi derbyn bod ystyr ehangach i'r term 'er lles yr elusen' a gall ymestyn i fuddsoddiadau ecwiti sy'n rhoi cyfradd enillion is na'r farchnad os yw'r buddsoddiad yn hyrwyddo amcanion yr elusen. Maent hefyd yn erbyn y gall benthyciadau sy'n hyrwyddo amcanion elusennol ac sydd hefyd yn rhoi ychydig o enillion ariannol fod yn gymwys.

1.9. O'r uchod mae'n glir wrth asesu pa fuddsoddiadau sy'n fuddsoddiadau elusennol cymeradwy, bydd HMRC yn ystyried nid yn unig buddsoddiadau sy'n cael eu gwneud i sicrhau'r incwm mwyaf i'r elusen neu enillion rhesymol ar ei chyfalaf ond hefyd buddsoddiadau sy'n cael eu gwneud yn yr wybodaeth eu bod yn darparu cyfradd o enillion is na'r farchnad ond sy'n hyrwyddo amcanion yr elusen. Gall benthyciadau sy'n cael eu gwneud i hyrwyddo dibenion elusennol ond a all gynhyrchu enillion ariannol hefyd gael eu derbyn fel benthyciadau elusennol cymeradwy.

1.10. Mae'r ddwy olaf yn enghreifftiau o'r hyn sy'n cael ei alw'n aml yn 'fuddsoddiad cysylltiedig â rhaglen'. Wrth gwrs mae HMRC yn ystyried y sefyllfa dreth yn unig ac nid hyd a lled pwerau buddsoddi'r ymddiriedolwyr. Fel y nodwyd uchod, mae'r awdurdodau cyfreithiol ar yr hyn a ystyrir yn fuddsoddiad o fewn pŵer elusennau i fuddsoddi wedi ymwneud â buddsoddiadau er mwyn darparu enillion ariannol i'r elusen ac nid gwario cronfeydd er mwyn hwyluso dibenion elusennau ond a allai hefyd gynhyrchu enillion ariannol.

1.11. Yn amlwg gall elusen wario ei chronfeydd ar hwyluso ei dibenion elusennol os ydynt ar gael ar gyfer y diben hwnnw. Fodd bynnag, drwy wneud hynny, ni fyddant yn arfer eu pwerau buddsoddi. Wedi dweud hynny, mae buddsoddi moesegol a buddsoddiad cysylltiedig â chenhadaeth ill dau yn amgylchiadau priodol lle y gellir arfer pwerau buddsoddi ymddiriedolwyr. I gael rhagor o fanylion am hyn, gweler isod.

Y gwahaniaeth rhwng buddsoddi a masnachu

1.12. Mae gwahaniaeth rhwng buddsoddi a menter fasnachu er gall fod yn anodd gweld y gwahaniaeth hwnnw weithiau. Gall cynhyrchu incwm fod yn nodwedd o fuddsoddiad a hefyd menter fasnachu. Gall y ddau gael eu trin yn wahanol o ran treth felly mae'n bwysig bod yn glir a yw cronfeydd arbennig yn cael eu gwario ar fuddsoddiad yn hytrach na menter fasnachu.

1.13. Yn y gorffennol teimla'r Comisiwn Elusennol fod angen buddsoddwr a buddsoddai ar fuddsoddiad. Nid oedd pawb yn ystyried bod y diffiniad hwn yn gywir fel mater o gyfraith. Roedd rhai yn ei hoffi gan ei fod yn cynnig ffordd o wahaniaethu rhwng buddsoddi a masnachu.

1.14. Fodd bynnag, mae'r Comisiwn yn ceisio bod yn glir yn union beth yw rhwymedigaethau cyfreithiol a beth yw arferion da. Yn ein barn ni mae'r hyn sy'n fuddsoddiad priodol i elusennau yn gysylltiedig ag arfer pŵer buddsoddi ymddiriedolwyr yn briodol.

1.15. Nid yw'n anarferol i bwerau buddsoddi ddiffinio'r term 'buddsoddi' yn gyffredinol i gynnwys nwyddau, gweithiau celf, dyfodolion ac ati. Mae cyfraith achosion yn sicr yn awgrymu bod prynu nwyddau yn gallu fod yn 'destun buddsoddiad' er bod hynny'n debygol o fod yn fwy o fentro ym myd masnachu. Mae trafodiad tymor byr at y diben o wneud elw o brynu a gwerthu nwyddau yn debygol o gael ei ystyried yn fenter masnachu4. Yn unol â hynny, mae'n rhaid i unrhyw ddefnydd o nwyddau o dan bŵer buddsoddi gael ei wneud yn ofalus iawn os nad yw am gael ei ystyried yn fath o fasnachu.

1.16. Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn cynhyrchu canllaw ar fathodynnau masnachu. Mae i'w weld yn http://www.hmrc.gov.uk/manuals/bimmanual/bim20200.htm. Fodd bynnag, yn ymarferol, mae achosion yn codi pan nad yw'n amlwg a yw buddsoddiad yn cael ei wneud neu a yw gweithgaredd masnachu'n digwydd. Os nad yw'n glir, gall bwriad y buddsoddwr/masnachwr fod yn hanfodol5.

1.17. Yn Trustees of BT Pension Schemes & Others v Clark (HM inspector of Taxes) 2000 WL 552 roedd y Llys Apêl wedi dilyn yr ymagwedd hon wrth ystyried a oedd incwm o is-warantu gweithgareddau yn incwm masnachu neu'n incwm o fuddsoddi. Dywedodd Robert Walker LJ:

" os yw nodweddion cyfreithiol neu fasnachol trafodiad yn awgrymu'n bendant fod masnachu'n digwydd, ni all diben goddrychol y masnachwr neu ei gymhelliad newid natur y trafodiad. Ond gall natur y trafodiad fod yn amwys hyd nes y caiff ei gyflawni drwy gyfeirio at ddiben neu gymhelliad."

1.18. Gan ategu hyn dyfynnodd Robert Walker LJ yr Arglwydd Reid yn iswera v CiR [1965] 1 WLR 663, 668 gan ddweud:

"os, er mwyn cael beth mae am ei gael, mae'n rhaid i'r trethdalwr fynd ar antur sydd â holl nodweddion masnachu, ni all ei ddiben neu ei amcan yn unig fod yn drech na'r hyn y mae'n ei wneud mewn gwirionedd. Ond os yw ei weithredoedd yn amwys gall ei ddiben neu ei amcan fod yn ffactor pwysig iawn wrth bwyso a mesur effaith gyfan yr holl amgylchiadau."

1.19. Roedd Robert Walker LJ wedi gwrthgyferbynnu dwy enghraifft- un ohonynt yn gwmni o ymgynghorwyr marchnata sy'n agor ac yn rhedeg archfarchnad dim ond i arsylwi ar ymateb defnyddwyr i wahanol fathau o arddangosiadau. Mae hyn yn cynnwys gwerthu nwyddau go iawn i gwsmeriaid go iawn am arian go iawn. Mae'r elw yn drethadwy fel incwm masnachu ac ni ellir osgoi'r atebolrwydd hwnnw drwy'r ffaith nad oed y cwmni sy'n rhedeg y busnes yn poeni dim am wneud elw.

1.20. Yr enghraifft arall a roddwyd oedd rhywun sy'n prynu tŷ deniadol i fyw ynddo ond cyn cwblhau'r trafodiad mae'n cael cynnig uchel ac felly nid oes modd iddo ei wrthod. Ar yr olwg gyntaf gall y contract i brynu a'r ailwerthu cyflym fod yn fenter ar ffurf masnachu ond o edrych yn fwy manwl dangosir nad yw hynny'n wir.

1.21. Yn unol â hynny roedd y llys wedi penderfynu bod angen edrych ar y berthynas rhwng gweithgareddau is-warantu a buddsoddi'r ymddiriedolwyr a phwyso a mesur eu hamcanion. Y man cychwyn i'r ymddiriedolwyr oedd system tracio mynegai buddsoddiad. Ym marn y llys roedd hyn yn antithesis o oportiwnistiaeth tymor byr. Felly, penderfynodd y Llys fod yr incwm gwarantu yn incwm buddsoddi.

1.22. Weithiau dywedir bod natur hapfasnachol trafodiad yn debygol o'i wneud yn fath o fasnachu yn hytrach na buddsoddiad. Fodd bynnag, mae'r llysoedd wedi cyfeirio at fasnachu hapfasnachol a buddsoddi hapfasnachol felly nid yw natur hapfasnachol y trafodiad ynddi'i hun yn pennu a yw'n fath o fasnachu neu'n fuddsoddiad.

1.23. Yn amodol ar y paragraff canlynol, nid yw buddsoddiad sydd o'i natur yn 'gambl' neu'n 'hapfasnach beryglus' yn debygol o gael ei ystyried yn fuddsoddiad priodol i elusen.6

1.24. Dywedodd yr Arglwydd Nicholls o Benbedw mewn erthygl yn 1995 wedi'i dyfynnu yn Lewin on Trusts, paragraff 35-65:

"Mae buddsoddiadau gwahanol yn cynnwys graddfeydd gwahanol o risg, a adlewyrchir yn y raddfa ddisgwyliedig o enillion. Gallai fod modd cyfiawnhau cronfa fawr gyda phortffolio amrywiol eang o warannau sy'n cynnwys daliadau cymedrol o warannau risg uchel a fyddai'n gwbl annoeth ac anaddas mewn cronfa lai.

 

Mewn achos o'r fath byddai'n amhriodol i neilltuo un buddsoddiad arbennig mewn portffolio eang a gofyn a oes modd ei gyfiawnhau fel buddsoddiad ymddiriedolaeth. Mae ymagwedd 'linell wrth linell' o'r fath yn anghywir. Yn hytrach, dylai'r ymchwiliad ystyried buddsoddiad arbennig a gofyn a yw wedi'i gyfiawnhau fel daliad yng nghyd-destun y portffolio cyfan. Ni ddylai'r rhybuddion traddodiadol yn erbyn yr angen i ymddiriedolwyr osgoi buddsoddiadau hapfasnachol neu beryglus gael eu darllen fel atal ymddiriedolwyr rhag cynnal portffolios o fuddsoddiadau sy'n cynnwys cymysgedd doeth a synhwyrol o warannau risg isel a risg uwch. Ni ddylid eu darllen felly, oherwydd nid oeddent yn cyfeirio at bortffolio sy'n ymarfer cytbwys mewn rheoli risg."

1.25. Roedd canllaw blaenorol y Comisiwn yn datgan y gallai deilliadau gael eu defnyddio'n ategol yn unig i arfer pŵer buddsoddi. Mae'n dra phosib mewn rhai achosion y gallai defnyddio deilliadau mewn ffordd sydd heb fod yn ategol i arfer pŵer buddsoddi gael ei ystyried yn fath o fasnachu yn hytrach na buddsoddiad. Fodd bynnag, mae nifer o gynhyrchion deilliadau a gall rhai bod mor debyg i fuddsoddiadau fel eu bod nhw'n gyfreithlon fel dull o arfer pwerau buddsoddi yn eu rhinwedd eu hunain. Bydd hyn yn dibynnu ar natur y cynnyrch deilliadau a'r ystyriaethau wrth ddefnyddio'r cynnyrch hwnnw fel buddsoddiad. Yn arbennig, maent yn debygol o gael eu defnyddio dim ond os ydynt yn gyfran fach o gronfa fawr sydd ar gael i'w buddsoddi.

2. Pwerau buddsoddi

2.1. Mae pwerau buddsodd datganedig gan nifer o elusennau wedi'u datgan yn eu dogfennau llywodraethol. Mae Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn rhoi pŵer buddsoddi cyffredinol i ymddiriedolwyr. Datgenir 'y gall ymddiriedolwr wneud unrhyw fath o fuddsoddiad y gallai ei wneud pe bai hawl absoliwt ganddo i asedau'r ymddiriedolaeth'. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr arfer eu pwerau er lles yr elusen. Mae ystyr hyn o ran pwerau buddsoddi yn cael ei ystyried yn nes ymlaen yn yr adran hon.

2.2. Pŵer eang iawn yw hwn ond dim ond buddsoddiadau ariannol sydd wedi'u cynnwys ynddo. Hefyd mae'n rhaid i ymddiriedolwyr gofio'r materion treth a'r gwahaniaeth rhwng gweithgareddau sy'n fuddsoddiadau a'r rhai sy'n fath o fasnachu (gweler uchod). Ni all trafodion sydd heb eu cynnwys yn y diffiniad cyfreithiol o 'fuddsoddiad' gael eu cyfiawnhau fel arfer pŵer buddsoddi. Mae buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen wedi'i gyfiawnhau fel un sy'n hyrwyddo diben elusennol nid fel arfer y pŵer buddsoddi.

2.3. Nid yw'r pŵer buddsoddi cyffredinol a roddir gan Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 yn caniatáu i ymddiriedolwyr wneud buddsoddiad mewn tir heblaw mewn benthyciadau wedi'u gwarantu ar dir. Fodd bynnag, mae adran 8 o Ddeddf Ymddiriedolwyr yn rhoi'r pŵer i ymddiriedolwyr gaffael tir rhydd-ddaliad neu lesddaliad yn y Deyrnas Unedig fel buddsoddiad.

2.4. Mae'r llysoedd bob amser wedi caniatáu pwerau buddsoddi datganedig i naill ai cyfyngu ar bwerau buddsoddi cyffredinol ymddiriedolwyr neu eu hehangu, er bod pwerau buddsoddi datganedig wedi'u dehongli'n fanwl gan y llys.7

2.5. Er bod y llys yn dehongli'n fanwl bwerau buddsodd datganedig, nid oes dyletswydd arno i lunio cymal buddsoddi sy'n or-gyfungedig.8

2.6. O dan adran 24 o Ddeddf Elusennau 1993 mae pwerau buddsoddi elusen yn cynnwys pŵer i gymryd rhan mewn cronfeydd buddsoddi cyffredin a chronfeydd adnau cyffredin oni bai bod y pŵer wedi'i eithrio gan ddarpariaeth yn ei dogfen lywodraethol sy'n cyfeirio'n benodol at gronfeydd buddsoddi cyffredin neu gronfeydd adnau cyffredin.

Cronfeydd Buddsoddi Cyffredin

2.7. Mae cynlluniau buddsoddi cyffredin yn gronfeydd buddsoddi cyfunol wedi'u sefydlu gan gynllun a wnaed gan y Comisiwn (neu'r llys) o dan adran 24 o Ddeddf Elusennau 1993 y gall elusennau wedi'u sefydlu yng Nghymru a Lloegr a'r rhai a sefydlwyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn unig fuddsoddi ynddynt. Ystyrir eu bod yn elusennau. Mae rhagor o wybodaeth i'w gweld yn ein canllaw Cronfeydd buddsoddi cyffredin: Canllaw sylfaenol i'w rheoleiddio.

2.8. Mae Cronfeydd Adnau Cyffredin yn gynlluniau adneuo wedi'u sefydlu gan Gynllun a wnaed gan y Comisiwn Elusennau (y Comisiwn) o dan adran 25 o Ddeddf Elusennau 1993. Ystyrir eu bod yn elusennau eu hunain yn ôl y gyfraith . Felly maent yn gymwys i gael eu cofrestru fel elusennau yn eu rhinwedd eu hunain. Mae rhagor o wybodaeth i'w gweld yn ein canllaw Cronfeydd Adnau Cyffredin: Canllaw sylfaenol i'w rheoleiddio.

Benthyca i fuddsoddi

2.9. O bryd i'w gilydd cawn ymholiadau sy'n gofyn i ba raddau y mae'n bosibl i fenthyca arian er mwyn ei fuddsoddi. Fel arfer, ni fydd hyn yn ddefnydd doeth o'r cronfeydd dan sylw oherwydd ni fydd yr enillion arnynt yn ddigon i dalu'r costau benthyca o reidrwydd. Fodd bynnag, rhaid gofyn hefyd a yw hyn wedi'i gynnwys yn y pŵer i fuddsoddi.

2.10. Hyd yn oed os yw er lles yr elusen i fenthyca a buddsoddi, gall wneud hynny dim ond os oes pŵer penodol i fenthyca er mwyn buddsoddi. Yn re Suenson-Taylor's Settlement Trusts [1974] 1 WLR 1280 roedd Foster J wedi ystyried cynnig gan yr ymddiriedolwyr i ddefnyddio eu pwerau benthyca i godi arian at y diben o fuddsoddi. Roedd yn ymddangos bod eu pŵer buddsoddi yn eang iawn, sef:

"Bydd gan yr ymddiriedolwyr yr un pŵer anghyfyngedig i fuddsoddi arian y mae angen ei fuddsoddi o dan yr ymddiriedolaethau fel y byddai ganddynt pe byddent yn unig berchennog absoliwt ac yn berchennog buddiol y gronfa ymddiriedolaeth."

2.11. Ym marn y llys roedd 'arian y mae angen ei fuddsoddi' yn cyfeirio at gyfalaf y gronfa ymddiriedolaeth ac nid oedd cronfeydd a fenthycwyd yn rhan o'r gronfa ymddiriedolaeth ac felly nid oeddent wedi'u cynnwys o fewn y pŵer buddsoddi. Nid yw hynny'n dweud nad oes modd cael pwerau datganedig i fenthyca a buddsoddi cronfeydd a fenthycwyd, dim ond y bydd pwerau datganedig yr ymddiriedolwyr yn cael eu dehongli'n fanwl.

2.12. Os yw benthyca er mwyn buddsoddi wedi'i ganiatáu, bydd rhaid i'r ymddiriedolwyr sicrhau eu bod nhw'n gweithredu yn unol â'u dyletswyddau er lles yr elusen.

3. Dyletswyddau ymddiriedolwyr (arfer pŵer buddsoddi)

3.1. Wrth gwrs, nid yw'r pŵer buddsoddi cyffredinol a roddir gan adran 3 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 yn effeithio ar ddyletswydd ymddiriedolwr wrth arfer y pŵer buddsoddi i "gymryd y gofal y byddai dyn doeth cyffredin yn ei gymryd pe byddai am wneud buddsoddiad er budd pobl eraill y teimlai fod rheidrwydd moesol arno i'w wneud" (per Lindley L.J. yn in re Whiteley (1886) 33 Ch.D. 347, 355).

3.2. Yn Learoyd v Whiteley (1887) 12 App. Cas 727, 733 dywedodd yr Arglwydd Watson:

"Yn aml iawn gall a bydd dynion busnes â doethineb arferol yn dewis buddsoddiadau sydd mwy neu lai o natur hapfasnachol; ond dyletswydd ymddiriedolwr yw cyfyngu ei hun i'r dosbarth o fuddsoddiadau a ganiateir gan yr ymddiriedolaeth, ac osgoi holl fuddsoddiadau'r dosbarth hwnnw sydd â pherygl cysylltiedig."

3.3. Yn in re Godfrey (1883) 23 Ch.D. 483, 493 dywedodd Bacon V-C:

"Wrth gwrs dyletswydd ymddiriedolwr, wrth weinyddu ymddiriedolaethau ewyllys, yw delio â'r eiddo sy'n cael ei ymddiried i'w ofal yn union fel y byddai unrhyw ddyn doeth yn delio â'i eiddo ei hun. Ond ni all y geiriau y mae'r rheol wedi'i mynegi ynddynt gael eu hymestyn y tu hwnt i'w hystyr. Mae dynion busnes doeth yn wynebu risg yn eu deliadau. Gall ac mae'n rhaid i hynny ddigwydd mewn bron pob busnes dynol."

3.4. Ar gyfer achosion ymddiriedolaeth breifat, roedd cydbwyso buddion y tenant oes a'r gweddillwyr yn agwedd bwysig ar ddyletswyddau buddsoddi ymddiriedolwyr. Yn JW v Morgan Trust Co of the Bahamas Ltd (2001-2) I.T.E.L.R. 541 roedd y Llys Goruchaf (Bahamas) wedi penderfynu bod disgwyl i'r ymddiriedolwyr ystyried cyfanswm enillion ar asedau ymddiriedolaeth fel y mesur ar gyfer eu perfformiad busnes heb ragfarnu sefyllfa tenant oes neu weddilliwr. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau cydbwysedd teg rhwng gwarannau llog sefydlog, sy'n ffafrio'r tenant oes, a stociau a chyfranddaliadau sydd oherwydd eu posibilrwydd o dwf cyfalaf yn ffafrio'r gweddillwyr oedd â diddordeb mewn cyfalaf os oes polisi difidend isel.

3.5. Yn ôl y gyfraith elusennau mae hyn yn gyfystyr â'r achos o waddol parhaol ac ystyried hyrwyddo diben elusennau nawr ac yn y dyfodol. O ran elusennau heb waddol parhaol, nid oes proses gydbwyso o'r fath o reidrwydd. Y prif faen prawf yw hyrwyddo dibenion yr elusen, boed a yw hynny'n cael ei wasanaethu orau drwy fuddsoddi i gael enillion ariannol i'w defnyddio at y dibenion neu ddefnyddio'r cyfalaf yn uniongyrchol i hyrwyddo'r dibenion.

3.6. Yn Cowan v Scargill [1985] Ch 270 dyfynnodd Syr Robert Megarry V-C gyda chymeradwyaeth eiriau Syr James Wigram V-C yn Balls v Strutt (1841) 1 Hare 146, 149:

"Mae'n egwyddor yn y llys hwn na fydd ymddiriedolwr yn cael ei ganiatáu i ddefnyddio'r pwerau y gall yr ymddiriedolaeth ei rhoi iddo yn gyfreithiol, ac eithrio at ddibenion cyfreithlon ei ymddiriedolaeth....."

3.7. Aeth Megarry V-C ymlaen i ddweud:

"Rhaid arfer pwerau mewn modd teg a gonest at y dibenion y cawsant eu rhoi ar eu cyfer ac nid er mwyn cyflawni unrhyw bwrpas arall, boed er budd yr ymddiriedolwyr neu fel arall...."

3.8. Yn Trustees of the British Museum v H.M. Attorney-General [1984] 1 WLR 418 roedd Syr Robert Megarry V-C wedi nodi pum mater fel rhai sydd i'w hystyried gan y llys wrth mewn achos o roi pwerau buddsoddi:

3.8.1. "Mae'r llys yn debygol o roi mwy o bwysau ar ehangder ac effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaethau ar gyfer cyngor a rheolaeth."

 

3.8.2. "Os yw'r pwerau yn eang iawn....mae llawer i'w ddweud dros ryw gynllun ar gyfer rhannu ffracsiynol, gan roi rhan o'r gronfa i fuddsoddiadau gweddol ddiogel, a chaniatáu i'r rhan arall gael ei defnyddio ar gyfer buddsoddiadau lle bydd y risgiau mwy yn cael eu gwrthbwyso gan y rhagolygon sylweddol o gael mwy o enillion."

 

3.8.3. "Mae'n rhaid i'r llys benderfynu beth yw effaith gyfan ehangder, rhannu, cyngor a rheolaeth, sydd i gyd yn rhyngweithio, ynghyd â sefyllfa'r ymddiriedolwyr."

 

3.8.4. "Gall maint y gronfa dan sylw fod yn bwysig iawn. Gall cronfa sy'n fawr iawn gyfiawnhau graddfa o fuddsoddi a fyddai'n cael ei wrthod yn achos cronfa fwy cymedrol; oherwydd gallai'r buddsoddiadau amrywiol sy'n bosibl ar gyfer cronfa fawr gyfiawnhau'r risgiau cynyddol y bydd pwerau ehangach yn eu caniatáu."

 

3.8.5. "Gall amcan yr ymddiriedolaeth fod yn bwysig iawn. Yn yr achos dan sylw, mae'r awydd i gael gwerth cyfalaf cynyddol a fydd yn golygu bod modd prynu'r nwyddau a ddymunir i'r amgueddfa er gwaethaf prisiau uwch yn gwneud rhywbeth i gyfiawnhau'r risgiau mwy lle y gellir cael cynnydd mewn cyfalaf."

3.9. Mae graddfa'r rheolaeth a ragwelir gan 3.8.2 yn adlewyrchu'r ymagwedd a fabwysiadwyd yn Neddf Buddsoddi Ymddiriedolwyr 1961 a oedd mewn grym ar y pryd. Fodd bynnag, er bod y pŵer buddsoddi cyffredinol yn eang, gall dogfen lywodraethol barhau i osod ymagwedd fwy cyfyngedig.

3.10. Mae Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn gosod dyletswyddau penodol ar ymddiriedolwyr o ran arfer eu pwerau buddsoddi. Yn arbennig, o dan adran 4, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr adolygu buddsoddiadau'r elusen o bryd i'w gilydd ac, yn unol â'r meini prawf buddsoddi safonol, eu hamrywio os yw'n briodol. Y meini prawf yw:

(a) pa mor addas yw buddsoddiadau o'r un fath i'r ymddiriedolaeth fel unrhyw fath o fuddsoddiad arbennig y cynigir ei wneud neu ei gadw ac addasrwydd y buddsoddiad arbennig hwnnw fel buddsoddiad o'r fath, a

 

(b) yr angen i amrywio buddsoddiadau'r ymddiriedolaeth, ar yr amod ei fod yn briodol i amgylchiadau'r ymddiriedolaeth.

3.11. Yn ogystal, o dan adran 5(1), 'cyn arfer unrhyw bŵer buddsoddi......mae'n rhaid i ymddiriedolwr (oni bai bod eithriad yn gymwys) gael ac ystyried cyngor priodol am y ffordd y dylai'r pŵer gael ei arfer, yn unol â'r meini prawf buddsoddi safonol. Cyngor priodol yw 'cyngor unigolyn y mae'n rhesymol i'r ymddiriedolwr gredu ei fod yn gymwys i'w roi yn ôl ei allu a'i brofiad ymarferol o faterion ariannol a materion eraill sy'n ymwneud â'r buddsoddiad arfaethedig' (adran 5(4)). Yr eithriad yw 'nid oes rhaid i ymddiriedolwr gael cyngor o'r fath os yw'n dod i'r casgliad rhesymol ei fod yn ddiangen neu'n amhriodol i wneud hynny yn yr holl amgylchiadau' (adran 5(3)).

3.12. Mae'r ddyletswydd gofal o dan adran 1 o Ddeddf Ymddiriedolwyr hefyd yn gymwys i arfer unrhyw bŵer buddsoddi neu wrth gyflawni'r dyletswyddau i ystyried y meini prawf buddsoddi safonol neu geisio cyngor. Y ddyletswydd gofal yw 'arfer y fath gofal a sgìl ag y bo'n rhesymol yn yr amgylchiadau, gan roi ystyriaeth arbennig i:

(a) unrhyw wybodaeth neu brofiad arbennig sydd ganddo neu y mae'n honni sydd ganddo, a

 

(b) os yw'n gweithredu fel ymddiriedolwr wrth ymgymryd â busnes neu broffesiwn, unrhyw wybodaeth neu brofiad arbennig y mae'n rhesymol ei ddisgwyl gan rywun sy'n ymgymryd â'r math hwnnw o fusnes neu broffesiwn.'

3.13. Y sefyllfa ers tro yw bod dyletswydd gofal uwch yn gymwys i'r rhai sy'n honni bod gwybodaeth arbennig ganddynt. Dywedodd Brightman J yn Bartlett v Barclays Bank Trustee Co. Ltd (gweler uchod):

"...rwyf o'r farn bod dyletswydd gofal uwch yn ofyniad amlwg i rywun megis corfforaeth ymddiriedolaeth sy'n ymgymryd â'r busnes arbenigol o reoli ymddiriedolaeth."

3.14. Bydd ymddiriedolwyr wrth wneud eu penderfyniadau buddsoddi yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd i osgoi gwrthdaro buddiannau (gweler Canllaw i wrthdaro buddiannau ymddiriedolwyr sydd ar gael ar wefan y Comisiwn). Yn ogystal, dylent fod yn ofalus i beidio ag ystyried ffactorau nad ydynt yn berthnasol i'r penderfyniad dan sylw neu fethu ag ystyried agwedd sy'n berthnasol.

4. Buddsoddiad moesegol

4.1. Y mater i'w ystyried yn achos buddsoddiad moesegol yw sut mae'r ystyriaethau moesegol yn rhyngweithio â phwerau a dyletswyddau cyffredinol ymddiriedolwyr o ran buddsoddi.

4.2. Gall elusennau ddewis buddsoddi mewn ystod gulach o fuddsoddiadau nag y gallent ei wneud oherwydd bod eu hamcanion yn cyfiawnhau'r cyfyngiadau (neu ar gyfer y rhesymau 'Esgob Rhydychen' eraill a nodir yn y paragraffau canlynol) neu oherwydd bod yr ymddiriedolwr elusen o'r farn bod y buddsoddiad yn briodol ar sail ystyriaethau ariannol.

4.3 Mae buddsoddiad moesegol yn fuddsoddiad yn yr ystyr ariannol, ac mae'r dyletswyddau arferol o ran buddsoddi yn gymwys iddo (gweler Dyletswyddau Ymddiriedolwyr uchod).

4.4. Weithiau bydd dogfen lywodraethol elusen yn gosod cyfyngiadau moesegol ar hyd a lled y pŵer buddsoddi cyffredinol. Ni all y cyfyngiadau hyn, yn gyson â'r corff yn cael ei ystyried fel elusen, fynd y tu hwnt i'r rhai sy'n cyd-fynd â'r egwyddorion sy'n cael eu trafod yn yr adran hon. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr barchu cyfyngiadau o'r fath.

4.5. Yn fwy cyffredin, yr ymddiriedolwyr eu hunain fydd yn penderfynu mabwysiadu polisi buddsoddi moesegol. Drwy wneud hynny, mae'n rhaid iddynt gofio'r egwyddor sylfaenol bod rhaid i'w pŵer buddsoddi gael ei ddefnyddio i hyrwyddo dibenion yr ymddiriedolaeth, ac fel rheol bydd y dibenion hynny yn cael eu gwasanaethu orau drwy geisio'r enillion mwyaf sy'n gyson â doethineb masnachol. Fel y dywedodd y Barnwr yn achos Harries (Bishop of Oxford) v Church Commissioners [1992] 1 WLR 1241 (a elwir yn gyffredin yn achos 'Esgob Rhydychen'), "mae angen arian ar y rhan fwyaf o elusennau, a pho fwyaf o arian sydd ar gael, y mwyaf y gall yr ymddiriedolwyr geisio ei gyflawni."

4.6. Gall polisi buddsoddiad moesegol fod yn gwbl gyson â'r egwyddor hon o geisio'r enillion gorau. Er enghraifft, mae barn fwyfwy cyffredin bod cwmnïau sy'n gweithredu mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol yn fwy tebygol o ffynnu a sicrhau'r cydbwysedd hirdymor gorau rhwng risg ac enillon. Mae ymddiriedolwyr yn rhydd i fabwysiadu unrhyw bolisi buddsoddi moesegol y mae'n rhesymol iddynt gredu fydd yn rhoi'r cydbwysedd gorau o risg ac enillion i'w helusen. Fel yn achos unrhyw strategaeth fuddsoddi arall, mae'n rhaid iddynt fod yn ofalus eu bod yn cyflawni'r dyletswyddau a nodir uchod. Yn arbennig, mae'n rhaid iddynt adolygu eu buddsoddiadau gan ystyried addasrwydd a'r angen i amrywio os yw'n briodol. Dylent geisio cyngor os yw'n briodol.

4.7. Y cwestiwn nesaf yw pa mor bell y gall ymddiriedolwyr ganiatáu i'w strategaeth fuddsoddi gael ei llywodraethu gan ystyriaethau heblaw lefel yr enillion buddsoddi. Roedd achos Esgob Rhydychen wedi adnabod tair sefyllfa lle mae'n briodol iddynt wneud hynny.

4.8. Yn gyntaf, mae achosion lle y byddai buddsoddi mewn math arbennig o fusnes yn gwrthdaro â nodau'r elusen. Gall elusen sydd ag amcanion i warchod yr amgylchedd a bywyd gwyllt penderfynu beidio â buddsoddi mewn busnesau sy'n llygru'r hyn y mae'r elusen yn ceisio ei warchod. Ond y pwynt yma yw gwrthdaro ymarferol â nodau a gweithgareddau'r elusen; nid dim ond anghymeradwyaeth foesol. Os yw'r dyfarniad yn un moesol, mae gallu ymddiriedolwyr i weithredu yn fwy cyfyngedig, fel yr esbonnir isod.

4.9. Yn ail, gall elusen osgoi buddsoddiadau a allai rwystro ei gwaith, naill ai trwy wneud buddiolwyr posibl yn amharod i gael cymorth oherwydd ffynhonnell arian yr elusen, neu drwy ddieithrio cefnogwyr. Mae hyn yn gofyn am ymarfer cydbwyso. Ar un ochr ceir yr anawsterau y byddai'r elusen yn eu hwynebu, neu'r gost debygol o golli cefnogaeth, pe byddai'n dal y buddsoddiadau. Ar y llaw arall, gall fod risg o danberfformiad ariannol os yw'r buddsoddiadau hynny'n cael eu hepgor o'i phortffolio. Po fwyaf yw'r risg o danberfformio, y mwyaf sicr y mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr fod o'r anfanteision gwrthbwysol a ddaw i'r elusen o ganlyniad cyn iddynt ysgwyddo'r risg hwnnw.

4.10. Yn drydydd, hyd yn oed os nad yw buddsoddiad wedi'i gynnwys yn y naill gategori neu'r llall, gall ymddiriedolwyr ddarparu ar gyfer barn y rhai sy'n ystyried ei fod yn amhriodol ar sail foesol, ar yr amod eu bod nhw'n fodlon na fyddai hyn yn cynnwys 'risg o golled ariannol sylweddol'. Mewn sawl achos, gall ymddiriedolwyr ddod i'r casgliad, ar ôl ceisio cyngor lle y bo'n briodol, bod polisi moesegol arbennig yn debygol o berfformio cystal â pholisi anghyfyngedig. Ond nid yw ymddiriedolwyr yn rhydd i ddefnyddio eu pwerau buddsoddi i wneud datganiadau moesol ar draul eu helusen.

4.11. Yr hyn sy'n allweddol yma yw bod elusennau yn llunio barn yn ôl eu hamgylchiadau nhw yn hytrach na cheisio cydymffurfio â 'barn gyhoeddus' homogenaidd honedig. Dyma rai pwyntiau i ymddiriedolwyr eu hystyried:

  • Ystyried nodau ac amcanion yr elusen.
  • Cofio'r egwyddor sylfaenol o wneud yr enillion mwyaf posibl. Os yw polisi moesegol yn cael ei fabwysiadu, dylid ei amlinellu'n ysgrifenedig a dylai egluro beth yw nodau cadarnhaol ac unrhyw waharddiadau.
  • Os yw cwmnïau neu sectorau wedi'u gwahardd, dylai'r rhesymau dros eu gwahardd gael eu hystyried yn ofalus. Po fwyaf cyfyngedig yw'r polisi (o ran gwaharddiadau), y mwyaf yw'r risg posibl i'r enillion.

4.12. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr werthuso'r effaith y gall unrhyw bolisi arfaethedig ei chael ar enillion buddsoddi posibl, a bydd hyn yn gofyn am gyngor arbenigol fel arfer.

Rhan II. Buddsoddiadau cysylltiedig â rhaglen

5. Buddsoddiadau cysylltiedig â rhaglen

5.1. Mae'r Comisiwn yn defnyddio'r term 'buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen' i ddisgrifio'r defnydd o adnoddau gwariadwy gan elusen mewn ffordd a allai gynhyrchu enillion ariannol ond y nod pennaf yw hyrwyddo diben neu ddibenion elusennol yr elusen. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys darparu benthyciadau, gwarantu benthyciadau neu danysgrifio neu brynu cyfranddaliadau neu drwy osod tir ac adeiladau gan elusen.

5.2. Mae hyrwyddo dibenion elusen drwy weithgareddau megis darparu benthyciadau yn gyffredin iawn fel yr eglurir ym mhenderfyniad y Comisiwn yn achos Garfield Poverty Trust (1990)(Penderfyniadau'r Comisiynwyr Elusennau Cyfrol 3 - Ionawr 1995). Roedd hwn yn cyfeirio at Syr Thomas White oedd wedi sefydlu elusennau benthyg yn 1566 mewn 24 o brif ddinasoedd Lloegr (gweler Cyfrol 8 tudalennau 585 i 590 o Adroddiadau Printiedig i'r Senedd (1823) y Comisiynwyr a benodwyd o dan ddwy Ddeddf Seneddol. Roedd y benthyciadau hyn yn cael eu rhoi i ddynion ifanc tlawd oedd yn byw yn y dinasoedd hynny ac yn ceisio cynnig modd i ddynion ifanc sefydlu busnes drwy roi benthyciadau iddynt hyd nes i'w busnesau sefydlu.

5.3. Yn in re Monk [1927] 2 Ch 197 roedd cronfa at y diben o wneud benthyciadau i drigolion tlawd a haeddiannol plwyf Foxton yn cael ei hystyried yn elusennol. Mae gweithgareddau cynhyrchu incwm tebyg hefyd wedi cael eu hystyried yn rhai sy'n hyrwyddo dibenion elusennol, e.e. llog isel neu fenthyciadau di-log i helpu pobl dlawd i brynu tai rhydd-ddaliad neu les-ddaliad (Garfield Poverty Trust - gweler uchod).

5.4. Yn Joseph Rowntree Memorial Trust Hospital Association v AG [1983] Ch 159 penderfynwyd bod darparu tai cost isel i'w prynu gan bobl hŷn yn elusennol gan ei fod yn ateb anghenion pobl hŷn.

Mae rhai elusennau hefyd sy'n hyrwyddo eu dibenion elusennol drwy fuddsoddi mewn cwmni masnachu sy'n cynnal masnachu prif ddiben ac yn cyfamodi ei elw yn ôl i'r elusen. Gellir gwneud hyn er mwyn rheoli'r risgiau masnachu a diogelu asedau'r elusen. Yn The Abbey Malvern Wells Ld. v Ministry of Local Government and Planning [1951] Ch 728 roedd ymddiriedolaeth elusennol yn cyflawni ei diben elusennol drwy gwmni oedd yn ei cael ei reoli'n gyfan gwbl gan yr ymddiriedolaeth. Barnwyd bod yr ysgol yn cael ei dal at ddibenion elusennol er ei bod yn cael ei dal gan y cwmni.

5.6. Mae'r Comisiwn wedi ystyried yn y gorffennol yr achos o elusen gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo egwyddorion moesegol a chrefyddol mewn diwydiant gyda'r nod o sicrhau bod pobl sy'n ymwneud â diwydiant yn cyflawni eu rhwymedigaethau cymdeithasol er lles y cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt. Roedd gan yr elusen gyfranddaliad mawr mewn cwmni gweithgynhyrchu oedd â strwythur rheolaeth foesegol arbennig o arloesol a chafodd y daliad hwnnw ei gyfiawnhau ar y sail ei fod yn hyrwyddo ei dibenion.

5.7. Gall rhai elusennau ddal cyfranddaliadau nid fel buddsoddiadau ariannol ond yn hytrach i'w galluogi i fynychu cyfarfodydd cyfranddalwyr a 'galw'r cwmni i gyfrif'. Mewn rhai amgylchiadau bydd hyn yn ddull o gefnogi'r gwaith o hyrwyddo diben yr elusen ac felly mae'n dderbyniol.

5.8. Mae dal tir fel buddsoddiad ariannol wedi'i ganiatáu gan adran 8 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000. Fodd bynnag, mae nifer o elusennau hefyd yn dal tir a'i ddefnyddio fel ffordd o hyrwyddo ei diben elusennol, e.e. darparwr tai cofrestredig elusennol sy'n gosod eiddo i bobl mewn angen, elusendy sy'n darparu tai i bobl hŷn am dâl llety isel. Mae'n amlwg bod y rhain yn cynhyrchu rhai cronfeydd i'r elusen ond nid yr incwm yw pwrpas y gweithgareddau hyn ond yn hytrach hyrwyddo'r diben elusennol o helpu pobl mewn angen.

5.9. Nid yw'r Comisiwn o'r farn bod buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen yn fuddsoddiad o gwbl oherwydd mae'n ymwneud â defnyddio cronfeydd i hyrwyddo diben yr elusen ac nid yw'n cyd-fynd â'r diffiniad o fuddsoddiad mewn cyfraith gwlad, e.e. Harries v Church Commissioners (gweler uchod).

5.10. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn Cowan v Scargill, "y man cychwyn yw dyletswydd ymddiriedolwyr i arfer eu pwerau er lles gorau'r buddiolwyr presennol a buddiolwyr yr ymddiriedolaeth yn y dyfodol." Yn achos ymddiriedolaeth elusennol mae hyn yn golygu 'dyletswyddau ymddiriedolwyr i hyrwyddo'r dibenion elusennol.' Gellir hyrwyddo'r rhain naill ai drwy ddefnyddio'r cronfeydd yn uniongyrchol ar gyfer y dibenion hynny neu drwy fuddsoddi'r arian a'i ddefnyddio i hyrwyddo'r dibenion hynny. Mae dyletswydd gan gyfarwyddwyr cwmnïau elusennol i weithredu yn y ffordd y teimlant fyddai'n fwyaf tebygol o gyflawni dibenion elusennol y cwmni (adran 17 o Ddeddf Cwmnïau 2006) sy'n debyg i'r prawf yn deillio o Cowan v Scargill.

5.11. Nid yw buddsoddiadau cysylltiedig â rhaglen yn cael eu gwneud o dan bwerau buddsoddi ymddiriedolwyr. Cânt eu gwneud yn unol â phwerau a dyletswyddau'r ymddiriedolwyr i hyrwyddo eu dibenion.

5.12. Weithiau mae'r term 'buddsoddiad cymdeithasol' yn cael ei ddefnyddio'n gyfnewidiol â'r term 'buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen' ond fe'i defnyddir hefyd mewn cyd-destun ehangach na'r un sy'n gymwys i elusennau. Yn yr achosion hyn mae'n ymwneud â buddsoddi cronfeydd mewn menter a fydd yn cael effaith neu enillion cymdeithasol yn hytrach nag enillion ariannol. Fe gynrychiolir yn aml bod elusennau er budd y cyhoedd, a gan fod buddsoddiadau cymdeithasol er budd y cyhoedd, ni ddylai fod unrhyw broblem os yw elusennau'n gwneud buddsoddiadau cymdeithasol.

5.13. Fodd bynnag, nid yw'r mater mor syml â hynny. Mae buddsoddiadau cymdeithasol yn wahanol i fuddsoddiadau cysylltiedig â rhaglen gan fod y term 'buddsoddiad cymdeithasol, weithiau'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio buddsoddiadau y gellir eu cyfiawnhau ar sail enillion ariannol ond sydd hefyd yn cynnig rhywfaint o enillion cymdeithasol. Mae hefyd yn cynnwys cynhyrchion buddsoddi a all roi enillion is ond sy'n cyflawni rhywfaint o enillion cymdeithasol. Fodd bynnag, y dadansoddiad y mae angen ei wneud yw a yw gwario'r cronfeydd wedi'i gyfiawnhau fel buddsoddiad ariannol neu fel dull o hyrwyddo dibenion yr elusen. Yn yr achos olaf ni all fod unrhyw fudd preifat gormodol a rhaid cyfiawnhau gwario'r cronfeydd yn ôl y graddau y mae'r amcanion yn debygol o gael eu hyrwyddo.

Budd preifat

5.14. Yn achos buddsoddiad sy'n hyrwyddo dibenion yr elusen, byddai'n rhaid i unrhyw fudd preifat sy'n deillio o'r buddsoddiad hwnnw, er enghraifft, i berchnogion y cwmni y buddsoddir ynddo neu i fuddsoddwyr eraill, fod yn gyfreithlon atodol i hyrwyddo dibenion yr elusen. Mae'n rhaid i unrhyw fudd preifat fod yn rhan annatod o'r ffordd o weithredu y mae'r ymddiriedolwyr yn barnu ei bod yn ffordd effeithlon ac effeithiol o hyrwyddo dibenion yr elusen neu mae'n rhaid iddo fod yn ganlyniad angenrheidiol i weithredu yn y fath fodd.9

5.15. Os yw budd preifat heb fod yn atodol yn deillio o fuddsoddiad cysylltiedig â rhaglen gan elusen, un ffordd o ddileu hyn yw i dderbynnydd y budd ei ildio i'r elusen.

5.16. Mae'r llys wedi mynnu na allai cwmni elusennol roi ei hasedau i gorff anelusennol10. Barnwyd hefyd bod rhoi gwarant am ddim 'ar yr un sail'. Roedd hyn yn wir er iddo gael ei roi er mwyn caniatáu i'r corff anelusennol ymgymryd â phrosiect roedd y cwmni elusennol yn teimlo fyddai'n hyrwyddo ei ddibenion ei hun.

All ymddiriedolwyr fuddsoddi yng nghyfalaf ecwiti cwmni anelusennol?

5.17. Mae'n dilyn o'r paragraff diwethaf bod buddsoddi yn nghyfalaf ecwiti cwmni anelusennol heb fod am enillion ariannol ond er mwyn hyrwyddo dibenion yr elusen yn debygol o gael ei drin yn debyg i'r warant am ddim. Yn gyffredinol, bydd buddsoddi yn ecwiti cwmni preifat yn hyrwyddo diben elusennol yr elusen sy'n buddsoddi ond bydd hefyd yn hyrwyddo cynhyrchu enillion ariannol ar gyfer y cyfranddalwyr neu ryw ddiben anelusennol arall y cwmni. Fel arfer bydd hyn yn golygu nad yw'r buddsoddiad yn hyrwyddo dibenion elusennol yn unig. Mae'r llys wedi awgrymu os yw'r cwmni anelusennol wedi'i reoli gan yr elusen, gall y sefyllfa fod yn wahanol11. Yn unol â hynny, gall fod modd i ymddiriedolwyr fuddsoddi mewn cwmni anelusennol os yw'n cael ei reoli neu ym mherchnogaeth lwyr y cwmni.

5.18. Os nad yw'r cwmni anelusennol ym mherchnogaeth yr elusen neu'n cael ei reoli gan yr elusen mae'n debygol o fod yn bosibl i'r ymddiriedolwyr fuddsoddi yng nghyfalaf ecwiti cwmni o'r fath dim ond fel ffordd o hyrwyddo eu dibenion mewn amgylchiadau eithriadol. Mae'r amgylchiadau hyn yn debygol o godi dim ond os oes cydberthynas clir rhwng y dibenion cymdeithasol y bydd y cwmni anelusennol yn eu cyflawni a nodau'r elusen.

5.19. Mewn achosion o'r fath mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain bod:

i) cydberthynas rhwng nodau'r elusen a chenhadaeth gymdeithasol y sefydliad anelusennol yr hoffai'r ymddiriedolwyr fuddsoddi ynddo;

 

ii) bydd unrhyw fudd preifat sy'n deillio o'r buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen yn atodol yn unig (mae'n codi o ganlyniad angenrheidiol ond atodol i unrhyw benderfyniad yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo eu dibenion elusennol); a

 

iii) ni fydd unrhyw fudd preifat yn ormodol ac mae'r buddsoddiad yn amlwg er budd y cyhoedd.

5.20. Os yw enillion economaidd sylweddol yn bosibl, mae'r Comisiwn yn disgwyl i'r ymddiriedolwyr hefyd sicrhau bod yr elusen yn cael budd o'r enillion economaidd ac yn rhoi mecanweithiau ar waith i gyflawni hyn oherwydd fel arall ni allai fod yn fodlon bod unrhyw fudd preifat yn angenrheidiol ac yn atodol yn unig. Rhaid cael mesurau diogelu digonol er mwyn sicrhau nad yw unrhyw fudd preifat heb fod yn atodol yn codi.

5.21. Enghraifft o achos pan oedd yn briodol i elusen fuddsoddi yng nghyfalaf ecwiti i hyrwyddo ei dibenion yw elusen ymchwil meddygol oedd am hyrwyddo'r defnydd o ymchwil er budd y cyhoedd drwy hwyluso ei datblygiad masnachol. Roedd y Comisiwn wedi bodloni ei hun bod yr ymddiriedolwyr yn deall eu dyletswyddau o ran sicrhau bod unrhyw fudd preifat yn gyfreithlon atodol.

5.22. Yng nghanllaw'r Comisiwn ar fuddsoddi, mae enghreifftiau o fuddsoddiad cysylltiedig â rhaglen sy'n cynnwys prynu cyfranddaliadau mewn sefydliad masnachol sy'n cael ei redeg gan bobl ag anableddau, ac yn cyflogi pobl ag anableddau yn unig, lle y penderfynwyd bod y buddion i'r cyfranddalwyr yn atodol i hyrwyddo diben yr elusen, sef lleddfu'r angen sy'n codi o fod yn anabl.

5.23. Nid yw'r naill enghraifft neu'r llall yn golygu y bydd buddsoddi yng nghyfalaf ecwiti cwmni preifat sy'n gweithredu'n rhannol er budd y gymuned yn cynnwys budd preifat atodol yn unig. Mae penderfynu a yw'r budd preifat yn atodol yn dibynnu i raddau helaeth ar amgylchiadau'r achos.

5.24. Hyd yma bu'r drafodaeth hon am fuddsoddiad cysylltiedig â rhaglen a budd preifat. O fewn cyd-destun buddsoddiadau cymhelliad cymysg, mae'n amlwg mai'r budd preifat sy'n codi o elfen gysylltiedig â rhaglen y buddsoddiad yw'r hyn a allai achosi'r anhawster. Byddai'r Comisiwn yn disgwyl i ymddiriedolwyr elusen ddilyn yr egwyddorion a nodwyd uchod ar gyfer buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen a budd preifat.

Buddsoddi mewn mentrau cymdeithasol

5.25. Mae'r Comisiwn wedi gweld cynnydd yn yr ymholiadau sy'n gofyn a yw'n dderbyniol i elusennau fuddsoddi mewn menter gymdeithasol, h.y. busnes sy'n gweithredu er budd y gymuned yn bennaf. Mae hyn yn debygol o ddibynnu ar y buddsoddiad ac a oes modd ei gyfiawnhau fel ffordd briodol o gyflawni cyfrifoldebau buddsoddi'r ymddiriedolwyr yn wyneb yr enillion ariannol tebygol a'r proffil risg.

5.26. Efallai y bydd rhai elusennau am fuddsoddi mewn mentrau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo eu diben elusennol. Mae rhai modelau yn caniatáu i elw gael ei ddosbarthu, boed drwy ddifidend neu werth cyfalaf gwell, ac ni all modelau o'r fath fod yn elusennau. Yn unol â hynny, os yw elusen am gefnogi menter gymdeithasol, mae'n rhaid iddi sicrhau y bydd unrhyw gronfeydd a roddwyd gan yr elusen ar y sail bod hyn yn hyrwyddo dibenion yr elusen yn cael eu defnyddio i hyrwyddo'r dibenion hynny yn unig. Weithiau, wrth gwrs, gall yr ymddiriedolwyr gyfiawnhau buddsoddiad mewn menter gymdeithasol ar y sail bod y graddau y mae amcanion yr elusen yn cael eu hyrwyddo yn rhesymol ar gyfer swm y cronfeydd a ddarparwyd, a bod unrhyw fudd preifat, e.e. i'r rhai sy'n rheoli'r fenter gymdeithasol, yn atodol i hyrwyddo'r amcanion hynny. Fodd bynnag, os yw'r sefyllfa yn wahanol, bydd rhaid i'r ymddiriedolwyr gyfiawnhau unrhyw fuddsoddiadau mewn menter gymdeithasol drwy gyfeirio at yr enillion ariannol sy'n gymwys i'r meini prawf buddsoddi safonol.

5.27. Nid yw'r ffaith bod y buddsoddiad arfaethedig mewn menter gymdeithasol yn golygu o reidrwydd ei fod yn briodol naill ai fel buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen neu fel buddsoddiad cymhelliad cymysg (gweler isod). Mae strwythurau corfforaethol arbennig wedi cael eu creu i annog mentrau o'r fath, h.y. Cwmni Buddiannau Cymunedol (CBC). Nid yw cwmni o'r fath yn elusen ond gall gael dibenion elusennol. Mae'n bosibl i elusen fod yn CBC, ond os yw, mae'r asedau y mae'n eu dal ar gyfer ei ddibenion elusennol yn amodol ar glo ased a chânt eu dal ar ymddiriedolaethau at y dibenion hynny.

5.28. Y rheswm am y clo ased yw nid yw'r CBC yn bodoli'n gyfan gwbl er budd y gymuned yn unig yn bennaf. Yn unol â hynny, mae graddfa o fudd preifat yn cael ei chaniatáu sy'n mynd y tu hwnt i'r budd preifat atodol a ganiateir i elusen. Pe allai elusen osgoi'r clo ased statudol drwy 'fuddsoddi' ei chronfeydd yn y fenter gymdeithasol, byddai hynny'n gorchfygu holl bwrpas y clo ased ac yn cyfaddawdu'n ddifrifol yr egwyddor bwysig o'r gyfraith elusennau sy'n datgan bod rhaid i elusen gael dibenion elusennol yn unig.

5.29. Mae rhai sylwedyddion wedi cynnig y dylai elusennau allu cefnogi mentrau cymdeithasol hyd yn oed os yw eu dibenion y tu allan i ddiben elusennol yr elusen. Byddai'n rhaid cael newid yn y gyfraith er mwyn caniatáu i elusennau ddefnyddio ei chronfeydd i gyflawni effeithiau cymdeithasol sydd heb eu cynnwys o fewn eu dibenion elusennol. Mae hyn yn groes i'r fframwaith cyfredol o'r gyfraith elusennau a'r gyfraith ymddiriedolaeth. Mae'n rhaid i'r canllaw hwn ganolbwyntio ar y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd.

5.30. Mae dibenion elusennol cyffredinol gan rai elusennau ac mae'n amlwg yn haws iddynt ymwneud ag ystod eang o fuddsoddiadau cysylltiedig â rhaglen nag y byddai yn achos elusennau sydd ag amcanion mwy cyfyngedig.

Cyllid seiliedig ar ganlyniadau

5.31. Yn ddiweddar bu rhywfaint o ddiddordeb yng ngallu elusennau i fuddsoddi mewn bondiau effaith gymdeithasol. Mae hyn yn golygu prosiect sy'n ceisio cyflawni rhyw fath o effaith gymdeithasol ddymunol sy'n cael enillion o gronfeydd os yw'r canlyniad dymunol yn cael ei wireddu. Mae'n dra phosib y gallai bond effaith gymdeithasol yng nghyd-destun prosiect sy'n hyrwyddo diben yr elusen fod yn fuddsoddiad cysylltiedig â rhaglen. Enghraifft fyddai prosiect i leihau nifer y bobl sy'n dal salwch arbennig a allai hyrwyddo'r diben o hybu iechyd. Nid yw'n glir eto a allai'r rhain byth gael eu hystyried yn fuddsoddiadau ariannol priodol ar gyfer elusen (yn wanhaol i fuddsoddiad cysylltiedig â rhaglen).

Rhan III. Buddsoddiad cymhelliad cymysg

6. Cwmpas buddsoddiad cymhelliad cymysg

6.1. Defnyddiwn y term 'buddsoddiad cymhelliad cymysg' i gyfeirio at y sefyllfa ganlynol:

(i) nid oes modd cyfiawnhau'r buddsoddiad dim ond drwy gyfeirio at yr effaith y mae'n ei chael ar hyrwyddo dibenion yr elusen; a

 

(ii) nid oes modd ei gyfiawnhau fel un sy'n darparu enillion ariannol digonol gan ddefnyddio'r meini prawf buddsoddi safonol.

 

ond sydd

 

(iii) heb ei wneud at ddiben heblaw hyrwyddo neu gefnogi dibenion yr elusen neu sicrhau enillion ariannol.

Mae'n amlwg os yw'r buddsoddiad arfaethedig at ddiben heblaw hyrwyddo neu gefnogi dibenion yr elusen neu sicrhau enillion ariannol, nid yw'n debygol o fod o fewn pwerau ymddiriedolwyr elusen i'w wneud.

6.2. Yn ei hanfod felly mae'n codi pan fydd buddsoddiad yn cael ei wneud am gymysgedd o ddau reswm:

(i) cynhyrchu enillion ariannol; a

 

(ii) cyllido gweithgareddau a fydd yn hyrwyddo diben yr elusen.

6.3. Yn yr achosion hyn nid yw bob amser yn glir pa ran o'r cronfeydd a wariwyd gan elusen sydd at y diben o hyrwyddo ei dibenion a pha ran o'r gronfa sydd wedi'i chyfiawnhau fel un sy'n cynhyrchu enillion ariannol.

6.4. Felly'r mater i'w ystyried yw sut mae'r ymddiriedolwyr yn ystyried a yw rhoi'r adnoddau angenrheidiol mewn buddsoddiad o'r fath wedi'i gyfiawnhau. Y perygl yw na fydd y buddsoddiad wedi'i gyfiawnhau gan yr enillion ariannol na'r effaith ar hyrwyddo dibenion yr elusen ond bod hyn wedi'i guddio gan fod yr ymddiriedolwyr yn gwneud y ddau beth.

6.5. Mae un ffordd o weithredu fel a ganlyn. Yn gyntaf dylai'r ymddiriedolwyr ystyried i ba radau y bydd gwario'r cronfeydd yn hyrwyddo ei dibenion neu'n atodol i hyrwyddo'r diben ac, yn sgîl hynny, pa gyfran o adnoddau'r elusen fyddai'n rhesymol i'w hymrwymo i'r prosiect. Wrth gwrs, os yw'r gweithgareddau yn hyrwyddo'r dibenion yn uniongyrchol, gellir cyfiawnhau cyfran uwch nag y gellid ei wneud pe byddai'r gweithgareddau yn cefnogi'r dibenion yn unig.

6.6. Wedi ystyried hyn, bydd rhaid i'r ymddiriedolwyr ystyried cydbwyso'r adnoddau y bydd angen iddynt eu hymrwymo i'r 'buddsoddiad' arfaethedig. Bydd rhaid i'r ymddiriedolwyr bwyso mesur a fydd yr enillion disgwyliedig o ddefnyddio'r cyfanswm 'buddsoddiad' wedi'i gyfiawnhau fel enillion y swm a wariwyd o'r gwahaniaeth rhwng cyfanswm y buddsoddiad a'r swm sy'n gymesur i'w ymrwymo er mwyn hyrwyddo'r dibenion.

6.7. Wrth ystyried a yw'r elfen buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen yn hyrwyddo dibenion yr elusen, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ystyried unrhyw fudd preifat a ddaw o'r 'buddsoddiad' a sicrhau bod hyn yn gyfreithlon atodol i hyrwyddo dibenion yr elusen (gweler paragraffau 6.14 i 6.22 uchod).

6.8. Fel arall, gall fod yn well gan rai ymddiriedolwyr ystyried yr elfen buddsoddiad ariannol yn gyntaf ac asesu pa gyfran o'r buddsoddiad arfaethedig y gellir ei gyfiawnhau gan yr enillion tebygol. Yna gallent ystyried a ellid cyfiawnhau gweddill y buddsoddiad gan y graddau y bydd yn hyrwyddo nodau'r elusen.

6.9. Yn unol â hynny, yn achos buddsoddiad cymhelliad cymysg mae'r ymddiriedolwyr yn gwneud dau benderfyniad gan ddefnyddio meini prawf gwahanol a dylent gofnodi'r penderfyniadau hyn yn ofalus er mwyn ei egluro. Bydd rhaid i HMRC fodloni ei hun bod yr elfen buddsoddi yn fuddsoddiad elusennol cymeradwy a bod yr elfen hon a'r elfen elusennol yn cyfrif am wario'r cronfeydd cyfan.

6.10. Yn achos y naill ddull neu'r llall, mae rhannu'n fuddsoddiad cysylltiedig â rhaglen a buddsoddiad ariannol yn dybiannol yn unig ac yn ddull dadansoddol ar gyfer cyfanswm y cronfeydd a ddefnyddiwyd. Dylai'r casgliadau gael eu cofnodi'n briodol er mwyn i'r ymddiriedolwyr gael tystiolaeth o'r broses. Mae'n bwysig dilyn y broses hon cyn gwneud y buddsoddiad yn hytrach na chael hyd i gyfiawnhad dros fuddsoddiad yn y gorffennol.

6.11. Mae pryderon wedi codi o ran cofnodi buddsoddiadau cymhelliad cymysg mewn cyfrifon. Mae'n bosib y bydd angen cyfrif amdanynt fel buddsoddiadau ariannol gyda datgeliadau sy'n dangos y cyfiawnhad dros yr enillion is. Awgrymwyd na ddylai'r Comisiwn gynhyrchu ei ganllaw hyd nes bod y driniaeth gyfrifyddu ar eu cyfer wedi'i phenderfynu'n derfynol. Fodd bynnag, mae'r canllaw hwn yn ymwneud â phwerau cyfreithiol yn hytrach na thriniaeth gyfrifyddu.

Rhan IV. Materion eraill sy'n ymwneud â phŵer ymddiriedolwyr i wneud buddsoddiadau ariannol

7. Atebolrwydd am dorri dyletswyddau ymddiriedolwyr

7.1. Os yw ymddiriedolwyr yn torri eu dyletswyddau buddsoddi gallant fod yn atebol i'r elusen am unrhyw golled. Yn Nestle v National Westminster Bank plc [1993] 1 WLR 1260 roedd yr ymddiriedolwyr wedi camddeall eu pwerau buddsoddi ac nid oeddent wedi buddsoddi yn yr ystod lawn o fuddsoddiadau y gallent fod wedi buddsoddi ynddynt. Fodd bynnag, ni chafodd unrhyw golled i'r ymddiriedolaeth ei brofi felly nid oeddent yn atebol am unrhyw beth.

7.2. Mae'r llys yn mabwysiadu ymagwedd wahanol i ymddiriedolwyr yn ôl eu statws fel ymddiriedolwyr lleyg sydd heb gael eu talu neu ymddiriedolwyr sy'n cael eu talu ac yn y swydd honno oherwydd bod sgiliau neu wybodaeth arbennig ganddynt. Yn yr achos cyntaf mae'r llys yn fwy tebygol o dderbyn y dylai ymddiriedolwyr gael eu hesgusodi o fod yn atebol am unrhyw golled i'r elusen ar yr amod eu bod nhw wedi gweithredu'n onest ac mewn ewyllys da.12

7.3. Fel y nododd Brightman J yn Bartlett v Barclays Bank Trust Co. Ltd [1980] Ch 515:

"Mae'r gwahaniaeth rhwng graddfa briodol o risg ar un llaw a pherygl ar y llaw arall. Ni ddylai'r llys roi atebolrwydd ar ymddiriedolwr sy'n euog am ddim mwy na chamfarn, sef rhywbeth na ellir disgwyl i unrhyw ddyn busnes, beth bynnag fo'i grebwyll busnes, gael ei ddiogelu rhagddo."

7.4. Roedd Brightman LJ wedi dyfynnu Lopes LJ yn in re Chapman [1896] 2 Ch 763, 778:

"Ni all ymddiriedolwr sy'n onest ac yn rhesymol gymwys fod yn gyfrifol am gamfarn os yw'r cwestiwn y mae'n rhaid iddo ofyn yw a ddylai gwarant dosbarth a awdurdodwyd, ond sydd wedi dibrisio o ran ei werth, gael ei gadw neu ei realeiddio, ar yr amod ei fod yn gweithredu gyda gofal, crebwyll a gallu rhesymol."

7.5. Yn achos Stanway v A-G and others 5 Ebrill 2000 Chancery Division No. HC0000852 roedd yr Is-ganghellor, Syr Richard Scott, wedi barnu mewn achos yn cynnwys ymddiriedolwyr oedd wedi gweithredu'n onest a heb enillion "na ddylid dwyn achos yn eu herbyn, neu unrhyw un ohonynt, oni bai y gellir dangos bod hynny'n gam da - nid dim ond yn gam posibl, nid hyd yn oed yn gam sy'n fwy tebygol o lwyddo na methu, ond yn gam sy'n edrych yn weddol ddiffuant."

7.6. Wrth gwrs, mae pob achos yn dibynnu ar ei ffeithiau ei hun ac mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio â'u dyletswyddau fel ymddiriedolwyr. Fodd bynnag, nid yw ymddiriedolwr cymwys, gonest a rhesymol yn debygol o fod yn atebol am unrhyw golled.

8. Dal buddsoddiadau ariannol

Pwy all ddal buddsoddiadau ar gyfer elusen anghorfforedig?

8.1. Nid oes hunaniaeth gyfreithiol eu hunain gan elusennau anghorfforedig, ac felly bydd rhaid i'r ymddiriedolwyr elusen ddal y buddsoddiadau yn eu henwau eu hunain neu benodi un neu ragor o unigolion neu gorff corfforaethol i ddal y buddsoddiadau ar ran yr elusen.

Pwy all ddal buddsoddiadau ar gyfer cwmni elusennol?

8.2. Mae elusennau sy'n gwmnïau yn gyrff corfforaethol ac felly mae hunaniaeth gyfreithiol ganddynt. O ganlyniad, gallant ddal buddsoddiadau yn enw'r cwmni ei hun. Gallant benderfynu nad dyma'r dewis gorau iddyn nhw a dewis dirprwyo'r swyddogaeth dal i enwebai.

All ymddiriedolwyr benodi enwebeion a gwarcheidwaid?

8.3. Mae enwebai yn unigolyn wedi'i benodi i ddal asedau yn ei enw ei hun ar ran yr elusen.

8.4. Mae ceidwad wedi'i ddiffinio yn adran 17(2) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 fel rhywun sy'n dal asedau'n ddiogel neu unrhyw ddogfennau neu gofnodion sy'n ymwneud â'r asedau.

8.5. O dan adran 16 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 gall ymddiriedolwyr benodi rhywun i weithredu fel enwebai asedau o'r fath yn ôl eu disgresiwn ond ni allant wneud hynny ar gyfer tir sefydlog. Gall yr asedau gael eu breinio yn yr enwebai13. Mae'n rhaid i benodiad o'r fath fod yn ysgrifenedig neu mae'n rhaid cael tystiolaeth ysgrifenedig ar ei gyfer14.

8.6. O dan adran 17 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 gall ymddiriedolwyr benodi rhywun i weithredu fel ceidwad ar gyfer asedau o'r fath yn ôl eu disgresiwn.

8.7. Yn unol â hynny, mae modd i elusen gael enwebai a cheidwad ar gyfer yr un asedau. Fodd bynnag, os oes ymddiriedolwr gwarchod gan elusen ni all benodi naill ai enwebai neu geidwad. Hefyd, ni all benodi enwebai neu geidwad ar gyfer unrhyw asedau sydd wedi'u breinio yn y Ceidwad Swyddogol.

8.8. O dan Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 mae gan y term 'ymddiriedolwr gwarchod' yr un ystyr ag yn Neddf Ymddiriedolwyr Cyhoeddus 1906. Fodd bynnag, nid yw'r ddeddf yn diffinio 'ymddiriedolwr gwarchod' felly. Mae adran 4 yn datgan y gall Ymddiriedolwr Cyhoeddus gael ei benodi fel ymddiriedolwr gwarchod ac mae'n amlinellu'r pwerau a fydd ganddo neu ganddi. Mae hefyd yn datgan y bydd hyn yn gymwys i 'unrhyw gwmni bancio neu yswiriant neu gorff corfforaethol arall sydd â hawl o dan y rheolau a wnaed o dan y Ddeddf hon i weithredu fel ymddiriedolwr gwarchod'.

8.9. Felly, mae'n ymddangos pan fydd y term i'w weld yn Neddf Ymddiriedolwyr 2000 mae'n cyfeirio at sefyllfa lle mae'r Ymddiriedolwr Cyhoeddus neu'r corff corfforaethol yn ymddiriedolwr gwarchod.

8.10. Weithiau defnyddir y term 'ymddiriedolwyr gwarchod' ar gyfer pobl a benodwyd o dan ddogfen lywodraethol i ddal eiddo ar ran yr ymddiriedolwyr rheoli. Yn yr un modd â'r sefyllfa a amlinellir yn adran 4 o Ddeddf 1906, fel arfer gofynnir iddynt ddelio â'r eiddo mewn unrhyw ffordd y cânt eu cyfarwyddo i'w wneud gan yr ymddiriedolwyr rheoli. Fodd bynnag, nid yw adran 4 yn rheoli sefyllfa o'r fath yn ddiamod, felly bydd ganddynt y pwerau a roddwyd gan y ddogfen lywodraethol yn unig. Nid oes modd gwahaniaethu rhyngddo a sefyllfa ymddiriedolwyr daliannol.

9. Cyfanswm enillion

9.1. Mae cyfres o achosion yn y gyfraith ymddiriedolaeth breifat sy'n delio â dyrannu enillion buddsoddi. Mae rhai mathau o enillion buddsoddi yn cael eu dyrannu i incwm (yr ymddiriedolaeth i'w defnyddio) a rhai i gyfalaf (yr ymddiriedolaeth i'w buddsoddi). Mewn ymagwedd cyfanswm enillion at fuddsoddiadau mae'r enillion incwm ac unrhyw gynnydd mewn cyfalaf yn cael eu cyfuno fel cyfanswm enillion.

9.2. Nid oes gan elusennau sydd heb waddol parhaol gyfyngiadau ar wario eu cyfalaf a gallant wario'r cyfanswm enillion ar hyrwyddo eu dibenion yn ogystal â'r cyfalaf sylfaenol. Fel arfer gall elusennau â gwaddol parhaol wario'r incwm o'u cyfalaf yn unig ar hyrwyddo eu dibenion. Os ydynt am fabwysiadu ymagwedd cyfanswm enillion at fuddsoddi, rhaid i hyn gael ei awdurdodi gan orchymyn neu gynllun y Comisiwn yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

9.3. Ers rhai blynyddoedd mae'r Comisiwn Elusennau wedi bod yn barod mewn rhai amgylchiadau i awdurdodi'r ymddiriedolwyr i fabwysiadu ymagwedd cyfanswm enillion. Mae hyn yn caniatáu i ddau fath o enillion gael eu dwyn ynghyd fel cyfanswm enillion heb ei ddefnyddio. Yna gall yr ymddiriedolwyr benderfynu pa swm o'r cyfanswm enillion y dylent ei ddyrannu fel incwm a beth ddylid ei gadw fel cyfanswm enillion heb ei ddefnyddio. Mae cyfanswm enillion heb ei ddefnyddio yn cael ei drin fel cyfalaf, h.y. mae'n cael ei fuddsoddi nes bod yr ymddiriedolwyr yn dymuno ei ddefnyddio.

9.4. Mae awdurdodaeth y Comisiwn i wneud hyn yn seiliedig ar yr achos in re Laing [1983] 3 WLR 886. Yn yr achos hwnnw roedd y llys wedi ystyried darpariaeth ymddiriedolaeth bod swm mawr o gyfalaf i'w wario erbyn dyddiad arbennig. Roedd y llys wedi gwneud gwahaniaeth rhwng dibenion yr ymddiriedolaeth a darpariaethau gweinyddol. Er na allai'r dibenion gael eu newid ar achlysur cy-près, gallai'r llys newid y dibenion gweinyddol o dan ei hawdurdodaeth gynhenid. Os yw'n ddarpariaeth weinyddol i wario'r cronfeydd erbyn dyddiad arbennig, mae methu â gwario'r cyfalaf ond dim ond yr incwm yn debygol o fod yn ddarpariaeth weinyddol hefyd. O dan adran 16 o Ddeddf Elusennau 1993 mae gan y Comisiwn awdurdodaeth gyfatebol â'r Uchel Lys ar gyfer rhai dibenion.

9.5. Cafodd y mater hwn ei ystyried gan Gomisiwn y Gyfraith a gynhyrchodd adroddiad (rhif 315) o'r enw 'Cyfalaf ac incwm mewn Ymddiriedolaethau' wedi'i gyhoeddi ar 7 Mai 2009. Yn dilyn hyn cynhaliwyd ymgynghoriad gan y Gweinidog Cyfiawnder ar Fesur Ymddiriedolaethau (Cyfalaf ac Incwm) a ddaeth i ben ar 14 Mehefin 2010. Roedd hyn yn cynnig bod pŵer gan yr ymddiriedolwyr elusen i fabwysiadu ymagwedd cyfanswm enillion at fuddsoddi yn unol â rheoliadau a wnaed gan y Comisiwn Elusennau.

9.6. Un o'r materion sy'n codi o hyn oedd nid yw gallu'r Comisiwn Elusennau i arfer awdurdodaeth i ganiatáu ymagwedd cyfanswm enillion yn caniatáu unrhyw gynnydd yn swm y cyfalaf na ellir ei wario. Mae rhai elusennau wedi mynegi eu dymuniad i sicrhau nad yw gwir werth eu cyfalaf yn cael ei erydu gan yr ymagwedd cyfanswm enillion. Mae'r cyfanswm enillion heb ei ddefnyddio yn cael ei drin fel cyfalaf ond gall fod yn briodol i'w ddyrannu fel incwm. Yn unol â hynny, nid yw'n delio â'r mater o ddiogelu'r cyfalaf nad oes modd ei wario. Bydd y mater hwn yn cael sylw yn ymgynghoriad y Comisiwn Elusennau ar y rheoliadau y mae'r mesur yn ei gynnig.

Rhan V. Materion eraill sy'n ymwneud â phwerau ymddiriedolwyr i wneud buddsoddiadau ariannol a'u pŵer i wneud buddsoddiadau cysylltiedig â rhaglen

10. Rhoddion o gyfranddaliadau

10.1. Gall rhoddwyr elusennau roi trwy gyfrwng cyfranddaliadau, weithiau mewn cwmni teuluol lle mae gan sylfaenydd yr elusen fudd sylweddol ynddo. Y ddyletswydd mewn perthynas â chyfranddaliadau o'r fath yw bod rhaid i'r ymddiriedolwyr benderfynu a yw er lles yr elusen i ddal a chadw'r cyfranddaliadau. Mewn rhai achosion bydd yr ystyriaethau perthnasol yn ymwneud â buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen, fel yn yr enghraifft ym mharagraff 5.6 uchod lle'r oedd cadw'r cyfranddaliad wedi'i gyfiawnhau gan ei fod yn hyrwyddo dibenion yr elusen.

10.2. Yn achos cyfranddaliadau sy'n cael eu dal fel buddsoddiadau ariannol, bydd y meini prawf buddsoddi safonol yn gymwys er mwyn i'r ymddiriedolwyr orfod adolygu'r penderfyniad i ddal y cyfranddaliadau o bryd i'w gilydd a, gan ystyried y meini prawf buddsoddi, eu hamrywio os yw'n briodol. Yn unol â hynny, bydd yr ymddiriedolwyr yn ystyried addasrwydd a'r angen i amrywio. Wedi dweud hynny, os oes rhodd o gyfranddaliadau, gall fod angen ystyried ffactorau eraill hefyd megis a yw'r rhoddwr yn debygol o wneud rhoddion pellach i'r elusen ac a yw manteision hyn yn gorbwyso unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â pharhau i ddal y cyfranddaliadau.

10.3. Weithiau bydd rhoddwyr yn gosod amod ar rodd sy'n datgan na all yr ymddiriedolwyr werthu'r cyfranddaliadau heb gytundeb y rhoddwr. Ym marn y Comisiwn mae'r feto hwn gan y rhoddwr yn bŵer ymddiriedol sy'n rhaid ei arfer er lles yr elusen ac nid er lles y rhoddwr. Mewn unrhyw achos, dyletswyddau'r ymddiriedolwyr fydd adolygu'r buddsoddiadau. Os ydynt o'r farn bod angen iddynt amrywio'r buddsoddiadau ond mae'r rhoddwr yn gwrthod cydsynio, gall yr ymddiriedolwyr wneud cais i'r Comisiwn i amrywio dogfen lywodraethol yr elusen.

10.4. Bydd elusennau hefyd yn ymwybodol o'r darpariaethau 'rhoddion llygredig' a gyflwynwyd gan adran 27 ac atodlen 3 o Ddeddf Cyllid 2011 sy'n ceisio dal rhoddwyr sydd, mewn perthynas â rhodd i elusen, wedi dod i drefniadau gyda'r diben o gael mantais o'r elusen.

10.5. Os yw rhodd o gyfranddaliadau yn golygu bod yr elusen yn berchen ar gyfranddaliad mwyafrif, cyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr yw rheoli hynny er lles yr elusen. Mae ystyriaethau tebyg yn codi i'r rhai a ddisgrifir yn yr adran ar gwmnïau masnachu wedi'u sefydlu gan elusen at ddibenion cynhyrchu incwm.

11. Cwmnïau Masnachu

11.1. Mae cwmnïau masnachu gan nifer o elusennau. Gall hyn fod at bwrpas cynhyrchu incwm neu at bwrpas cynnal gweithgareddau sy'n hyrwyddo dibenion yr elusen ymhellach. Mae'n rhaid i unrhyw ddarpariaeth o gronfeydd ar gyfer cwmni masnachu o'r fath gael ei gyfiawnhau fel naill ai defnydd priodol o bŵer buddsoddi cyffredinol neu fel modd o hyrwyddo dibenion yr elusen. Yn achos cyfiawnhau fel buddsoddiad ariannol, os nad yw'r enillion o'r cwmni masnachu yn cyfiawnhau'r buddsoddiad ynddo, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr elusen roi sylw i hyn.

11.2. Amlinellwyd dyletswydd ymddiriedolwyr yn achos cwmni lle maent yn unig gyfranddaliwr neu'n gyfranddaliwr mwyafrif yn in re Lucking's Will Trusts [1968] 1 WLR 866, 874 pan ddywedodd Cross J:

"Nawr pa gamau, os o gwbl, ydy dyn â chrebwyll rhesymol sy'n gyfranddaliwr mwyafrif mewn cwmni preifat yn eu cymryd o ran rheoli busnes y cwmni? Yn fy marn i, nid yw'n bodloni ei hun dim ond â gwybodaeth am reoli busnes y cwmni y mae ganddo hawl i'w chael fel cyfranddaliwr, ond mae'n sicrhau ei fod yn cael ei gynrychioli ar y bwrdd. Gall fod yn barod i redeg y busnes ei hun fel rheolwr gyfarwyddwr neu, fan lleiaf, bod yn gyfarwyddwr anweithredol tra bo'r busnes yn cael ei reoli gan rywun arall. Fel arall, gall gael hyd i rywun a fydd yn gweithredu fel ei enwebai ar y bwrdd ac sy'n adrodd iddo o bryd i'w gilydd ar fusnes y cwmni. Yn yr un ffordd, fel y mae'n ymddangos i mi, dylai ymddiriedolwyr sy'n dal budd rheoli sicrhau cyn belled ag y gallant eu bod yn cael gwybodaeth ynghylch sut mae busnes y cwmni yn dod ymlaen fel y byddai gan gyfarwyddwyr. Os ydynt yn eistedd nôl ac yn gadael i'r cwmni gael ei redeg gan y cyfranddaliwr lleiafrif a dim ond yn cael yr wybodaeth y mae hawl gan gyfranddalwyr ei chael, mae perygl yn hynny os aiff pethau o'i le."

11.3. Gall cyfarwyddwyr cwmnïau anelusennol ymrwymo eu cwmnïau i fentrau a fyddai'n rhy hapfasnachol i ymddiriedolwyr ymgymryd â nhw'n uniongyrchol. Fodd bynnag, nid yw creu cwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr yr ymddiriedolwyr neu mae'r ymddiriedolwyr yn berchennog mwyafrif arno yn rhyddhau'r ymddiriedolwyr o'r cyfrifoldeb am benderfyniadau'r cwmni. Mae Adroddiad Achos Rheoleiddio The Garfield Weston Foundation yn 2010 yn enghraifft o'r Comisiwn yn dilyn yr egwyddor bod dyletswydd ar ymddiriedolwyr elusen sy'n berchen ar fudd rheoli mewn cwmni i arfer y rheolaeth honno er mwyn diogelu buddiannau'r elusen. Yn Bartlett v Barclays Bank Trustee Co. Ltd (gweler uchod) dywedodd Brightman J

"Roedd y banc, fel ymddiriedolwr, wedi ymrwymo i weithredu mewn perthynas â'r cyfranddaliadau ac i'r sefyllfa reoli a roddwyd arnynt, yn yr un modd â dyn busnes doeth. Bydd y dyn busnes doeth yn gweithredu mewn ffordd sy'n angenrheidiol er mwyn diogelu ei fuddsoddiad. Bydd yn gwneud hyn mewn dwy ffordd. Os daw'n ymwybodol o ffeithiau sy'n dweud wrtho nad yw busnes y cwmni yn cael eu cynnal mwyach fel y dylent, neu sy'n gwneud iddo gynnal ymchwiliad, bydd yn cymryd camau priodol. Wrth gwrs bydd camau priodol yn golygu yn y lle cyntaf ymchwilio ac ymgynghori â'r cyfarwyddwyr, ac yn olaf ond yn annhebygol, ymgynnull cyfarfod cyffredinol i ddewis un neu ragor o gyfarwyddwyr eraill. Yr hyn na fydd dyn busnes doeth yn ei wneud yw bodloni ei hun gyda derbyn y fath wybodaeth am fusnes y cwmni y bydd cyfranddaliwr yn ei chael fel arfer mewn cyfarfodydd cyffredinol blynyddol. Mae ganddo'r pŵer i wneud hynny, felly bydd yn mynd ymhellach ac yn sicrhau bod digon o wybodaeth ganddo i'w alluogi i wneud penderfyniad cyfrifol o bryd i'w gilydd naill ai i adael y busnes i fynd rhagddo fel y mae, neu ymyrryd os yw'n anfodlon."

11.4. Weithiau bydd elusennau'n sefydlu cwmnïau (boed yn elusennol neu beidio) at y diben o hyrwyddo eu dibenion yn hytrach na'r diben o gynhyrchu incwm. Y rheswm dros wneud hyn efallai fydd diogelu'r brif elusen rhag unrhyw atebolrwydd sy'n codi o weithgaredd arbennig yr elusen. Fodd bynnag, rhaid cofio o hyd y bydd cyfrifoldeb gan yr ymddiriedolwyr am weithgareddau'r cwmni felly nid yw sefydlu cwmni i wneud pethau nad oedd gan yr ymddiriedolwyr eu hunain y pŵer i'w wneud yn debygol o lwyddo heblaw os yw cyllid y cwmni wedi'i gyfiawnhau fel buddsoddiad ariannol.

11.5. Yn Abbey Wells Malvern Ltd v Ministry of Local Government and Planning [1951] Ch 728 dywedodd Danckwerts J

"Felly, er bod gan y cwmni mewn egwyddor y pŵer i ddefnyddio ei eiddo a'i asedau at y diben o wneud elw a defnyddio'r elw sy'n deillio ohono i ddosbarthu difidendau ymysg yr aelodau, pan af ati i ymchwilio pwy yw'r bobl sy'n rheoleiddio gweithrediadau'r cwmni, gwelaf nad ydynt yn bobl rydd heb eu cyfyngu gan eu gweithrediadau, ond yn hytrach yn ymddiriedolwyr y weithred ymddiriedolaeth, a all weithredu dim ond yn unol â darpariaethau'r weithred honno, defnyddio eiddo'r cwmni mewn ffordd arbennig yn unig, ac ni allant ddefnyddio asedau'r cwmni at y diben o gwmni gwneud elw.'

12. Dirprwyo'r gwaith o reoli buddsoddiadau

12.1. Mae Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn rhoi pwerau arbennig i ymddiriedolwyr ddirprwyo'r gwaith o reoli eu buddsoddiadau. Mae'r pwerau hyn yn ychwanegol i unrhyw bwerau dirprwyo a nodir yn nogfen lywodraethol yr elusen.

12.2. Mae'r pwerau i ymddiriedolwyr benodi asiantau yn adran 11 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 yn cynnwys penodi asiant i ymgymryd ag 'unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â buddsoddi asedau yn amodol ar yr ymddiriedolaethau (gan gynnwys, yn achos tir a ddelir fel buddsoddiad, rheoli'r tir a chreu neu waredu budd yn y tir.'

12.3. O dan adran 13(1) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 mae unigolyn sydd wedi'i awdurdodi o dan adran 11 i arfer y pŵer buddsoddi cyffredinol yn amodol ar y ddyletswydd i ystyried y meini prawf buddsoddi safonol wrth arfer unrhyw bŵer buddsoddi. Mae unigolyn o'r fath hefyd yn amodol ar y ddyletswydd i adolygu buddsoddiadau'r ymddiriedolaeth o bryd i'w gilydd ac ystyried, yn wyneb y meini prawf buddsoddi safonol, a ddylid amrywio'r buddsoddiadau.

12.4. O dan adran 14 gall yr ymddiriedolwyr awdurdodi rhywun i arfer swyddogaeth o'r fath dim ond ar delerau tâl a materion eraill fel y gwelant yn dda. O ran telerau sy'n

a) caniatáu i'r asiant benodi dirwy;

 

b) cyfyngu ar atebolrwydd yr asiant neu ei ddirprwyo i'r ymddiriedolwyr neu unrhyw fuddiolwr;

 

c) caniatáu i'r asiant weithredu mewn amgylchiadau sy'n gallu creu gwrthdaro buddiannau,

ni all yr ymddiriedolwyr awdurdodi rhywun i arfer swyddogaeth o'r fath fel eu hasiant oni bai ei fod yn rhesymol angenrheidiol iddynt wneud hynny.15

12.5. Mae adran 15 yn amlinellu terfyniadau ar benodi rheolwr buddsoddi. Rhaid cael cytundeb ysgrifenedig neu dystiolaeth ysgrifenedig o'r penodiad. Mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr baratoi datganiad polisi sy'n rhoi arweiniad ynghylch sut y dylid arfer y swyddogaeth. Mae'n rhaid i'r cytundeb gynnwys telerau sy'n datgan y bydd yr asiant yn sicrhau cydymffurfiaeth â'r datganiad polisi (sy'n rhaid bod yn ysgrifenedig hefyd neu raid cael tystiolaeth ysgrifenedig ar ei gyfer). Mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr lunio unrhyw ganllawiau sy'n cael eu rhoi yn y datganiad polisi gyda'r nod o sicrhau y bydd y swyddogaethau'n cael eu harfer er lles gorau'r ymddiriedolaeth.

12.6. Mae'r darpariaethau uchod yn ymwneud â dirprwyo buddsoddiad ariannol yr asedau. Nid yw'n awdurdodi dirprwyo buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen. Y swyddogaethau y gellir eu dirprwyo a osodwyd yn adran 11(3) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 yw:

"(a) unrhyw swyddogaeth sy'n cynnwys ymgymryd â phenderfyniad y mae'r ymddiriedolwyr wedi'i wneud

 

(b) unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â buddsoddi asedau sy'n amodol ar yr ymddiriedolaeth (gan gynnwys, yn achos tir sy'n cael ei ddal fel buddsoddiad, reoli'r tir a chreu neu waredu budd yn y tir)

 

(c) unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â chodi arian i'r ymddiriedolaeth heblaw trwy gyfrwng elw o fasnach sy'n rhan annatod o gyflawni diben elusennol yr ymddiriedolaeth

 

(ch) unrhyw swyddogaeth arall a bennir gan orchymyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol."

12.7. Nid yw buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen wedi'i gynnwys o fewn (b) neu (c) neu (ch). Os yw ymddiriedolwyr wedi gwneud penderfyniad ynghylch buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen, mae'n ymddangos y gellid dirprwyo'r swyddogaeth o gyflawni'r penderfyniad hwnnw fel un sydd wedi'i gynnwys o fewn (a). Mae hefyd yn bosibl y gallai dirprwyo buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen gael ei ddirprwyo o dan bŵer datganedig yn nogfen lywodraethol yr elusen. Dylai ymddiriedolwyr sicrhau y bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen yn hyrwyddo dibenion yr elusen a bydd unrhyw fudd preifat yn gyfreithlon atodol (gweler uchod).

12.8. O dan adran 25 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925 gall ymddiriedolwr, drwy bŵer atwrnai, ddirprwyo'r gwaith o arfer y cyfan neu unrhyw un o'r ymddiriedolaethau, pwerau a disgresiwn sydd wedi'u breinio ynddo neu ynddi fel ymddiriedolwr naill ai'n unigol neu ar y cyd ag eraill. Mae'r adran yn pennu ffurf y weithred a materion amrywiol yn ei chylch.

Troednodiadau

1. Harries v Church Commissioners [1992] 1 WLR 1241

2. Yn Cowan v Scargill [1985] Ch 270 roedd yr Is-ganghellor, Syr Robert Megarry, wedi ystyried y gyfraith sy'n ymwneud â defnydd ymddiriedolwyr o gronfa bensiwn, gan ddweud: "Y man cychwyn yw dyletswydd ymddiriedolwyr i arfer eu pŵer er lles gorau'r buddiolwyr presennol a buddiolwyr y dyfodol". Yn achos ymddiriedolaeth elusennol mae hyn yn golygu "dyletswydd ymddiriedolwyr i hyrwyddo'r dibenion elusennol."

3. Gweler Harries uchod

4. Wisdom v Chamberlain (inspector of Taxes) [1969] 1 All ER 332; Edwards (inspector of Taxes) v Bairstow [1956] AC 14

5. Davies (HMiT) v Shell Company of China (1951) 32 TC 133; Trustees of BT Pension Schemes & Others v Clark (HM inspector of Taxes) 2000 WL 552; iswera v CiR [1965] 1 WLR 663

6. Bartlett v Barclays Bank Trust Co. Ltd [1980] Ch 515

7. Ovey v Ovey [1900] 2 Ch 524; Re Harari's Settlement Trusts [1949] 1 All ER 430; Brown v Gellatly (1866-67) LR 2 Ch. App. 751

8. Re Peczenik's Settlement [1964] 2 All ER 339

9. Gweler Analysis of the law underpinning Charities and Public Benefit Paragraffau 3.77 to 3.95

10. Rosemary Simmons Memorial Housing Association v UDT [1986] 1 WLR 1440, 1446

11. Ibid [1986] 1 WLR 1440, 1446

12. Re Evans [1999] 2 All ER 777, 788

13. s16(1)(b)

14. s16(2)

15. Adran 14(2) a(3)

Brig y dudalen

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd