Diogelu plant yn eich sefydliad
(Fersiwn Awst 2008)
Cynnwys
1. Cyflwyniad
Mae rhai mathau o elusennau yn cael eu sefydlu i gynorthwyo neu ofalu am y rheiny sy'n arbennig o agored i niwed, efallai oherwydd eu hoedran, eu gallu corfforol neu feddyliol neu salwch. Mae ymddiriedolwyr elusennau yn gyfrifol am sicrhau nad yw'r rheiny sy'n cael budd o'u helusen, neu sy'n gweithio gyda'u helusen, yn cael eu niweidio mewn unrhyw ffordd trwy gael cysylltiad â'r elusen. Mae dyletswydd gyfreithiol arnynt i weithredu'n ddoeth ac mae hyn yn golygu bod rhaid iddynt gymryd pob cam rhesymol o fewn eu pŵer i sicrhau nad yw hyn yn digwydd. Mae'n arbennig o bwysig pan fydd buddiolwyr yn bobl neu'n blant agored i niwed yn y gymuned. Disgwylir i ymddiriedolwyr wybod am y gyfraith berthnasol, ym mha ffordd y mae'n berthnasol i'w sefydliad, a chydymffurfio â'r gyfraith pan fo'n briodol. Hefyd, dylent fabwysiadu arferion gorau mor belled â phosib - mae cyngor am hyn ar gael o nifer o ffynonellau gwybodus, a rhestrir rhai ohonynt isod.
Mae plant yn grŵp sy'n arbennig o agored i niwed ac felly mae'r Comisiwn Elusennau yn awyddus i bwysleisio pwysigrwydd cael mesurau diogelu priodol o fewn elusennau er mwyn amddiffyn plant.
2. Diogelu
Mae diogelu yn derm sy'n weddol newydd ac mae'n ehangach nag 'amddiffyn plant' oherwydd mae hefyd yn cynnwys atal. Diffiniwyd diogelu fel:
- Pob asiantaeth sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y peryglon o niwed i les plant yn cael eu cadw i'r lleiaf posibl; ac
- Os oes pryderon am les plant a phobl ifanc, mae pob asiantaeth yn cymryd camau priodol i ymdrin â'r pryderon hynny, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol cytûn mewn partneriaeth lawn ag asiantaethau lleol eraill. (Diogelu Plant (2005), 2il Adroddiad ar y Cyd y Prif Arolygwyr ar Drefniadau Diogelu Plant. Fe welwch ddiffiniad ehangach yn Working Together to Safeguard Children - gweler ffynonellau gwybodaeth bellach isod.)
Mae diogelu plant yn hanfodol i elusennau oherwydd mae dyletswydd gofal gan ymddiriedolwyr elusennau tuag at y plant y deuant i gysylltiad â nhw. Mae gweithredu mesurau diogelu digonol o fewn sefydliad yn amddiffyn ac yn hybu lles plant, ac mae hefyd yn meithrin hyder ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr, rhieni/gofalwyr a'r cyhoedd. Mae diogelu plant yn fuddiol i elusen mewn sawl ffordd - gwarchod ei henw da, cynorthwyo i gyflawni ei hamcanion yn effeithiol a gwarchod ei chyllid.
Mae'r rheidrwydd i ddiogelu plant yn gymwys i elusennau sy'n gweithio yn y DU a gwledydd eraill lle y gall plant wynebu peryglon gwahanol neu ychwanegol o gamdriniaeth neu ymwela. Dylai'r mesurau diogelu hyn gynnwys polisi amddiffyn plant a gweithdrefnau ar gyfer delio â materion o bryder neu gamdriniaeth. At ddibenion deddfwriaeth amddiffyn plant mae'r term 'plentyn' yn cyfeirio at unrhyw un hyd at 18 oed.
3. Rôl y Comisiwn Elusennau
Er nad yw'r Comisiwn yn gweinyddu deddfwriaeth amddiffyn plant, mae'n ceisio cynyddu ffydd a hyder y cyhoedd mewn elusennau ac, fel rhan o'r broses gofrestru, mae bob amser yn gofyn i sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant am (a) gwybodaeth ynghylch y polisïau a'r gweithdrefnau sydd ganddynt ar gyfer cadw plant yn ddiogel a (b) datgelu tystysgrifau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) ar gyfer ymddiriedolwyr os oes hawl gyfreithiol gan elusen eu cael. Rydym wedi cydweithio â'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC) i sicrhau bod y canllaw hwn mor berthnasol, manwl gywir a defnyddiol â phosib.
Mae manylion y meysydd allweddol wrth recriwtio a dewis ymddiriedolwyr elusennau i'w gweld yn ein canllaw "Cael Hyd i Ymddiriedolwyr Newydd(CC30)". Mae'n disgrifio'r gwiriadau a'r mesurau diogelu amrywiol a fydd yn briodol i elusennau sy'n gweithio gyda phlant (neu fuddiolwyr eraill sy'n agored i niwed) pan fyddant yn recriwtio ymddiriedolwyr.
Roedd Deddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed 2006 wedi creu'r Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA). Bydd yr ISA yn penderfynu pwy sy'n anaddas i weithio neu wirfoddoli gyda grwpiau agored i niwed. Pan fydd y cynllun ISA wedi'i gyflwyno'n llawn (hwyr yn 2009), byddwn yn adolygu pob un o'n canllawiau er mwyn sicrhau eu bod yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf.
4. Polisi Amddiffyn Plant
Datganiad o fwriad yw hwn sy'n dangos ymrwymiad i ddiogelu plant sy'n ymwneud ag elusen rhag niwed. Amlinellir isod yr hyn sy'n hanfodol i'w gynnwys mewn polisi amddiffyn plant:
- mae lles y plentyn o'r pwys mwyaf;
- mae hawl gan bob plentyn yn ddieithriad gael ei amddiffyn rhag camdriniaeth waeth beth fo'i ryw, ethnigrwydd, anabledd, rhywioldeb neu gredoau;
- mae'r polisi wedi'i gymeradwyo ac wedi cael sêl bendith y bwrdd ymddiriedolwyr;
- pwy mae'r polisi yn cyfeirio ato (h.y. pob ymddiriedolwr, staff a gwirfoddolwr);
- mae plant a rhieni yn cael gwybod am y polisi a'r gweithdrefnau fel y bo'n briodol;
- bydd pob pryder, a honiad o gamdriniaeth yn cael ei gymryd o ddifrif gan ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr a bydd yr elusen yn ymateb yn briodol i hyn - gall hyn olygu cyfeirio at wasanaethau plant ac mewn achosion brys, yr Heddlu;
- ymrwymiad i ddulliau diogel o recriwtio, dewis ac archwilio cefndir;
- cyfeirio at egwyddorion, deddfwriaeth a chanllawiau sy'n sail i'r polisi;
- trefniadau ar gyfer adolygu'r polisi a'r gweithdrefnau;
- cyfeirio at yr holl bolisïau a gweithdrefnau cysylltiedig sy'n hybu diogelwch a lles plant e.e. mewn perthynas â: iechyd a diogelwch, gwrth-fwlio, amddiffyn plant ar-lein a ffotograffiaeth.
5. Gweithdrefnau a systemau amddiffyn plant
Mae gweithdrefnau a systemau yn darparu canllawiau cam wrth gam clir ar yr hyn i'w wneud mewn gwahanol amgylchiadau ac maent yn egluro rolau a chyfrifoldebau. Hefyd, mae angen systemau ar gyfer cofnodi gwybodaeth a delio â chwynion er mwyn sicrhau gweithrediad a chydymffurfiaeth. Dylai gweithdrefnau amddiffyn plant gael eu cysylltu â gweithdrefnau'r Bwrdd Diogelu Plant Lleol neu Weithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan, fel y bo'n berthnasol.
Dylai'r gweithdrefnau a'r systemau gynnwys:
- Person a enwir (a dirprwy) gyda rôl a chyfrifoldebau wedi'u diffinio'n glir o ran amddiffyn plant, sy'n briodol i'r lefel y mae'n gweithredu arni.
- Disgrifiad o gam-drin plant, a'r gweithdrefnau ar gyfer sut i ymateb i hyn os oes pryderon ynghylch diogelwch neu les plentyn neu bryderon ynghylch gweithrediadau ymddiriedolwr, aelod staff neu wirfoddolwr. Dylai'r manylion cyswllt perthnasol ar gyfer gwasanaethau plant, yr heddlu, llinellau cymorth iechyd a NSPCC fod ar gael.
- Proses ar gyfer cofnod digwyddiadau, pryderon a chyfeiriadau a'u storio'n ddiogel yn unol â deddfwriaeth berthnasol a'u cadw am gyfnod a bennwyd gan eich cwmni yswiriant.
- Canllawiau ar gyfrinachedd a rhannu gwybodaeth, cydymffurfio â deddfwriaeth, ac sy'n datgan yn glir mai amddiffyn y plentyn yw'r ystyriaeth bwysicaf.
- Cod ymddygiad i ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr. Mae canlyniadau gweithredu'n groes i'r cod yn glir ac wedi'u cysylltu â gweithdrefnau disgyblu a chwyno.
- Gweithdrefnau diogelu ar gyfer recriwtio, dewis ac archwilio cefndir sy'n cynnwys gwiriadau ar gymhwyster ac addasrwydd yr holl ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr sy'n cael cysylltiad uniongyrchol neu anuniongyrchol (e.e. llinell gymorth, e-bost) â phlant. Yn achos ymddiriedolwyr, oherwydd eu swydd o fewn yr elusen, teimlwn pryd bynnag y mae hawl gyfreithiol i geisio gwiriad CRB ar gyfer ymddiriedolwr o'r fath, dylid cynnal gwiriad. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i amgylchiadau pan ddaw'r ymddiriedolwr i gysylltiad â phlant.
- Trefn gwyno sy'n ffordd agored a hysbys iawn i oedolion a phlant allu mynegi pryder am ymddygiad annerbyniol a/neu gamdriniol tuag at blant.
- Systemau i sicrhau bod yr holl staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda phlant yn cael eu monitro a'u goruchwylio a'u bod yn cael cyfleoedd i ddysgu am amddiffyn plant yn unol â'u rôl a'u cyfrifoldebau.
- Gofynion i ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr ddysgu am amddiffyn plant yn unol â'u rolau a'u cyfrifoldebau, ac fel y bo'n briodol iddynt.
Mae'n bwysig bod polisi a gweithdrefnau diogelu pob elusen wedi'u teilwra i'r math o gysylltiad y mae'r elusen yn ei gael gyda phlant, a hefyd mae angen iddo ystyried ym mha ffordd arbennig y mae'r plant sy'n dod i gysylltiad â'r elusen yn agored i niwed; er enghraifft, plant anabl sydd mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin; babanod a phlant bach sy'n agored i niwed oherwydd eu hoedran a'u dibyniaeth ar oedolion.
6. Ffynonellau gwybodaeth a chymorth pellach
Mae ystod o asiantaethau a chyhoeddiadau sy'n gallu arwain elusennau wrth iddynt ddatblygu a diweddaru eu polisi a'u gweithdrefnau diogelu. Nodir rhai ohonynt isod ac mae rhestr fwy manwl ar gael yn: http://www.nspcc.org.uk/
7. Canllawiau a deddfwriaeth
Lloegr
Am ganllawiau cyfredol ar ddiogelu, deddfwriaeth ac adnoddau gweler www.everychildmatters.gov.uk
Mae dwy ddogfen yn arbennig o ddefnyddiol:
- Working Together to Safeguard Children: a guide to inter-agency working to safeguard and promote the welfare of children (2006) Llywodraeth EM.
www.everychildmatters.gov.uk
Cymru
Am ganllawiau cyfredol ar ddiogelu, deddfwriaeth ac adnoddau gweler
http://new.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/?lang=en
Mae'r cyhoeddiad hwn yn arbennig o ddefnyddiol:
Amddiffyn Plant: Cydweithio dan Ddeddf Plant 2004 (2006) Llywodraeth Cynulliad Cymru
Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB): mae'n bodoli i helpu sefydliadau adnabod pobl sy'n anaddas ar gyfer rhai mathau o waith, yn enwedig gwaith sy'n cynnwys cael mynediad neu ddod i gysylltiad â phlant ac aelodau eraill o'r gymuned sy'n agored i niwed, trwy wneud "datgeliadau" o unrhyw gofnodion troseddol, cofnodion yr heddlu neu gofnodion tebyg. Mae hyn yn cynnwys ymddiriedolwyr elusennau sy'n cael mynediad neu gysylltiad o'r fath.
Mae'r CRB yn darparu gwasanaeth datgeliad, sy'n cynnig mynediad at gofnodion a gedwir gan yr heddlu, ynghyd â gwybodaeth o'r rhestrau canlynol: Deddf Amddiffyn Plant 1999 (POCA), Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed (POVA) a Rhestr 99. Codir tâl am gael datgeliad ar gyfer swyddi cyflogedig, er bod datgeliadau i wirfoddolwyr, a fydd yn cynnwys y rhan fwyaf o ymddiriedolwyr, am ddim ond bydd y corff mantell y dewisant ei ddefnyddio yn codi tâl gweinyddol. Mae rhestr o'r cyrff mantell ar gael ar-lein.
Ffôn: 0870 90 90 811 Gwefan: www.crb.gov.uk
Children in Wales - Plant yng Nghymru
Corff mantell yng Nghymru yw hwn sy'n lledaenu gwybodaeth ar bolisi, ymchwil ac arferion gorau i blant yng Nghymru. Ei nod yw hybu buddiannau a gweithredu er mwyn adnabod ac ateb anghenion plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. Mae'n darparu cyrsiau amddiffyn plant ar gyfer ystod o sefydliadau.
Ffôn: 029 2034 2434 Gwefan: www.childreninwales.org.uk
Mae Gwasanaeth Ymgynghorol Amddiffyn Plant yr Eglwysi yn elusen Gristnogol annibynnol sy'n gweithio gydag eglwysi, crefyddau eraill a sefydliadau heb fod yn sefydliadau ffydd i'w helpu gweithredu mesurau diogelu plant. Mae'r sefydliad yn rhedeg gwasanaeth llinell gymorth sy'n cynnig cyngor a chymorth ac yn cynorthwyo i baratoi a chynnal polisïau amddiffyn plant. Mae wedi cynhyrchu ystod o lyfrau, adnoddau hyfforddiant a chanllawiau ar ysgrifennu polisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant gan gynnwys: Guidance to Churches: (CCPAS, 2003); Safeguarding Children and Young People: a manual for child protection and safe practice (CCPAS, 2004).
Ffôn: 0845 120 45 50 Gwefan: www.ccpas.co.uk
"Cael Hyd i Ymddiriedolwyr Newydd: Yr hyn y mae angen i elusennau wybod" (CC30)
Cyhoeddiad y Comisiwn Elusennau sy'n rhoi cyngor ar sut i recriwtio, dewis, penodi a sefydlu ymddiriedolwyr. Mae adrannau ar archwilio cefndir ymddiriedolwyr cyn eu penodi a'r Swyddfa Cofnodion Troseddol sy'n ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin.
Ffôn: 0845 300 0218
Mae'r National Council of Voluntary Child Care Organisations (NCVCCO) yn gorff mantell i sefydliadau gofal plant gwirfoddol yn Lloegr. Ei genhadaeth yw sicrhau lles a diogelwch plant trwy hybu cyfraniad y sector gwirfoddol at ddarparu gwasanaethau. Mae wedi cynhyrchu 'Positively Safe: a guide to developing safeguarding practices', 2005.
Ffôn: 0207 833 3319 Gwefan: www.ncvcco.org
Mae'r National Council for Voluntary Youth Services (NCVYS) yn elusen gofrestredig ac yn sefydliad aelod. Mae'n ceisio codi proffil gwaith ieuenctid, rhannu arferion da a dylanwadu ar ddatblygu polisi. Mae wedi paratoi safonau diogelu a chynllun achredu (Sound Systems) i hybu a chydnabod arferion da ym maes diogelu pobl ifanc. Mae NCVYS wedi cyhoeddi Keeping it Safe: a young person-centred approach to safety and child protection sy'n ganllaw i'r safonau, gweithredu polisi a gweithdrefnau diogelu.
Ffôn: 020 7422 8630 Gwefan: www.ncvys.org.uk
Mae NSPCC yn elusen gofrestredig a sefydlwyd i atal creulondeb i blant. Mae'n darparu ystod o wasanaethau i blant a'u teuluoedd. Hefyd mae'n darparu llinell gymorth amddiffyn plant a there4me.com sy'n wasanaeth ar-lein i blant. Mae Childline, gwasanaeth llinell gymorth i blant hefyd yn rhan o'r NSPCC erbyn hyn.
Mae NSPCC Consultancy Services wedi paratoi nifer o gyhoeddiadau (hefyd ar gael yn Gymraeg/Saesneg) i gynorthwyo sefydliadau i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant, er enghraifft:
Firstcheck (2006): canllaw cam wrth gam i helpu sefydliadau paratoi polisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant.
Safetycheck(2006): cyfres o safonau ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant mewn sefydliadau.
Kidscheck (2005): cynnyrch ategol i blant a phobl ifanc asesu eu sefydliad eu hunain a chyfrannu at ei wneud yn fwy diogel.
Mae'r elusen yn cynnig gwasanaeth ymgynghori sy'n cynnig cyngor a chanllawiau i sefydliadau ar weithredu mesurau diogelu i atal camdriniaeth; mae gwasanaethau hyfforddiant ar gael hefyd.
Ffôn: 0116 234 7227 Gwefan: www.nspcc.org.uk/consultancy
I adrodd neu drafod pryderon am les plentyn:
NSPCC Llinell Gymorth Amddiffyn Plant (24 awr): I adrodd neu drafod pryderon am les plentyn: Ffôn: 0808 800 5000 neu ffôn testun: 0800 056 0566 neu e-bost: help@nspcc.org.uk
NSPCC Cymru/Wales Llinell Gymorth Amddiffyn Plant Ffôn: 0808 100 2524 (Llun - Gwener 10am-6pm)
NSPCC Llinell Gymorth Amddiffyn Plant Asiaidd Ffôn: 0800 096 7719
Childline Ffôn: 0800 1111
Mae NSPCC Child Protection in Sport Unit yn fenter ar y cyd NSPCC/Sport England. Mae'n darparu cynllun achredu i gyrff llywodraethu cenedlaethol a phartneriaethau chwaraeon sirol; mae'n darparu cyngor a hyfforddiant i ystod o sefydliadau chwaraeon a hamdden ac mae wedi cynhyrchu ystod o adnoddau amddiffyn plant ar gyfer hyfforddiant a datblygu polisi amddiffyn plant. gan gynnwys Sportscheck; Safe Sports Events (NSPCC a Sport England, 2003); Standards for Safeguarding and Protecting Children in Sport (NSPCC a Sport England, 2003), a Safe Sport Away(ASA a NSPCC 2001).
Ffôn: 0116 234 7278 neu Wefan: www.thecpsu.org.uk
Save The Children. Elusen gofrestredig a sefydlwyd i hybu lles plant ledled y byd trwy leddfu caledi a gofid.
Ffôn: 020 7012 6400 Ffôn di-dâl: 0800 814 8148.
Gwefan: www.scfuk.org.uk
Yn 2003 cynhyrchodd Save the Children mewn partneriaeth â NSPCC, Cymorth Cristnogol, People in Aid, EveryChild a'r Tearfund Setting the Standards: A common approach to child protection for international NGOs. Mae modd llwytho i lawr copi o'r safonau o adran gyhoeddiadau www.peopleinaid.org neu cysylltwch â info@peopleinaid.org
Roedd Asiantaethau Aelod Clymblaid Cadw Plant yn Ddiogel wedi diwygio ac ailenwi'r ddogfen safonau fel Keeping Children Safe: Standards for child protection. Mae'r safonau hyn yn ffurfio rhan o Keeping Children Safe: A toolkit for children protection (Save The Children, 2006). Mae'n becyn cyflawn i bobl sy'n gweithio ym maes diogelu plant ledled y byd. Mae'n cynnwys y safonau, pecyn adnoddau ar sut i weithredu'r safonau ac ymarferion hyfforddiant hyblyg.
Gweler www.keepingchildrensafe.org.uk
Mae Safeguarding Children Partnership yn elusen gofrestredig sy'n gweithio gyda'r sectorau gwirfoddol a chymunedol i gynorthwyo sefydliadau i ennill safonau SAFE (Safer Activities for Everyone). Mae'r elusen yn cefnogi ac yn cynghori ynghylch recriwtio'n ddiogel, arferion gwaith a pholisïau; ac mae'n cynhyrchu adnoddau, pecynnau gwybodaeth ac yn cynnig hyfforddiant. Mae'n gweithredu fel corff mantell ar gyfer datgeliadau CRB hefyd.
Ffôn: 01379 678961 Gwefan: www.oursafesite.com