Gallwch chi a'r ymddiriedolwyr benderfynu ei bod hi'n bryd cau eich elusen. Gallai fod sawl rheswm dros hyn, er enghraifft:
- colli arian neu lai o arian
- diffyg aelodau
- mae'ch elusen yn troi'n gwmni
Os yw'ch elusen wedi cofrestru, mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni eich bod yn mynd i gau er mwyn i ni allu ei dileu o'r gofrestr elusennau. Dylech ddarllen dogfen lywodraethol eich elusen hefyd i weld a yw'n cynnwys 'cymal diddymu', sef cyfarwyddiadau arbennig sy'n esbonio'r hyn y dylech ei wneud i gau eich elusen. Darllenwch ein canllaw ar gau neu uno elusen i gael rhagor o wybodaeth.
Yn hytrach na chau eich elusen, efallai yr hoffech uno ag elusen arall sydd ag amcanion tebyg er mwyn i chi allu parhau i ateb anghenion eich defnyddwyr.
Gweler hefyd:
ID: 208