Pa ddogfen lywodraethol sy'n addas i'm helusen?

Mae'n rhaid i chi gael dogfen lywodraethol yn ei lle cyn y gallwch wneud cais i gofrestru eich elusen. Y ddogfen lywodraethol yw'r llyfr rheolau ar gyfer eich elusen ac mae'n amlinellu:

  • yr hyn y sefydlwyd eich elusen i'w wneud
  • sut y dylai gael ei rhedeg
  • pwy ddylai ei rhedeg
  • sut y bydd yn gwneud newidiadau i'r ffordd y caiff ei rhedeg

Gallwch benderfynu pa fath o ddogfen lywodraethol sydd orau i chi o'n canllawiau:

Os yw'ch elusen yn rhan o grŵp cenedlaethol neu grŵp mantell (e.e. cangen o PTA-UK) mae'n bosib y gallech ddefnyddio dogfen lywodraethol gymeradwy.

Mae dogfennau llywodraethol cymeradwy yn cynnwys nodau safonol a gweithdrefnau gweinyddol sy'n benodol i'ch math o elusen.

ID: 238

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis