Os yw incwm eich elusen dros £10,000, yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i chi gwblhau ffurflen flynyddol bob blwyddyn.
Os yw'ch elusen wedi'i chofrestru ond mae ei hincwm o dan £10,000, mae'n rhaid i chi ddweud wrth y Comisiwn am incwm a gwariant yr elusen ac unrhyw newidiadau i fanylion eich elusen, e.e. manylion cyswllt neu ymddiriedolwyr. Gallwch ddefnyddio'r ffurflen flynyddol i ddiweddaru manylion eich elusen.
Os yw incwm eich elusen dros £25,000 yn y flwyddyn honno mae'n rhaid i chi ddarparu copi o gyfrifon eich elusen fel ffeil PDF pan fyddwch yn cwblhau'ch ffurflen flynyddol. Mae’n rhaid i'ch cyfrifon gynnwys:
- datganiad ffurfiol o gyfrifon
- Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr
- y lefel ofynnol o ddilysu allanol (e.e. archwiliad ariannol neu archwiliad annibynnol)
Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich ffurflen flynyddol/cyfrifon (os yw'n gymwys) ddim hwyrach na 10 mis ar ôl diwedd blwyddyn ariannol eich elusen.
Gweler hefyd:
ID:113