Anfon eich Ffurflen Flynyddol/cyfrifon

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i gwblhau eich Ffurflen Flynyddol a/neu anfon Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (TAR) a chyfrifon.

Rhaid i chi gael cyfrinair unigryw yr elusen i ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein. Os nad yw'r cyfrinair gennych neu os oes angen un newydd arnoch, gallwch archebu cyfrinair arall.

Byddwn yn anfon y cyfrinair newydd atoch:

  • drwy'r e-bost os oes cyfeiriad e-bost gennym y gall y Comisiwn ei ddefnyddio ar gyfer yr elusen
  • drwy'r post (i gyfeiriad cyswllt yr elusen) os nad oes un gennym - caniatewch hyd at saith diwrnod i'w anfon

Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol o'r canlynol:

  • mae archebu cyfrinair newydd yn golygu nad oes modd defnyddio unrhyw gyfrinair blaenorol a anfonwyd i'r elusen
  • gall cyfrineiriau gael eu harchebu drwy ein gwefan yn unig, felly peidiwch â ffonio neu ysgrifennu yn gofyn i ni anfon un atoch

Os yw'r manylion cyswllt neu e-bost sydd gennym ar gyfer eich elusen yn anghywir - ac ni allwch gyrchu ein gwasanaethau ar-lein am unrhyw reswm - dylech gysylltu â ni i'w diweddaru.

Fel rheol bydd unrhyw newidiadau sy'n cael eu gwneud i'r manylion yn cael eu cynnwys ar gofnod Cofrestr yr elusen dros nos.

Pan fyddwch yn cwblhau eich ffurflen flynyddol ar-lein gallwch hefyd anfon eich TAR a chyfrifon mewn fformat PDF. Os na allwch wneud hyn am unrhyw reswm gallwch eu dychwelyd ar wahân drwy'r post at:

Comisiwn Elusennau
Blwch SP 1329
Lerpwl
L69 3DY

Gallwch anfon y dogfennau canlynol atom heb eu llofnodi ar yr amod bod yr ymddiriedolwyr yn cadw'r dogfennau gwreiddiol wedi'u llofnodi:

  • TAR
  • cyfrifon
  • adroddiad yr archwiliwr annibynnol neu'r archwiliwr ariannol

Gweler hefyd:

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis