Sut rydym yn asesu risgiau a rheoli adnoddau
|
Cam 1. Pryd fydd angen i'r Comisiwn weithredu?
|
- A yw'r broblem wedi'i chynnwys yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ein cylch gwaith?
- A yw'n cynnwys defnyddio pŵer rheoleiddio y gallwn ni yn unig ei ddefnyddio?
- Ydy eraill mewn sefyllfa well i weithredu?
- Oes gan y Comisiwn ganllawiau sydd ar gael yn gyhoeddus a fydd yn datrys y broblem?
- Ydy'r broblem yn un a allai fod yn bwysig iawn ac felly mae er lles y cyhoedd i ni weithredu?
|
|
Cam 2. Os ydyw, beth yw natur a lefel y risg?
|
Beth yw natur y risg y mae'r broblem yn ei chreu?
Beth yw lefel y risg, fel y'i heffeithir gan:
- y gallu i'r ymddiriedolwyr ddatrys y broblem eu hunain
- y risg gweddilliol os na wnânt hynny
- proffil a maint yr elusen
- hanes cydymffurfio'r elusen
- yr effaith ar fuddiolwyr neu asedau elusennol
- unrhyw effaith ehangach ar y sector neu oblygiadau i'r sector ehangach neu is-sectorau arbennig
- os yw'r broblem yn rhan o duedd ehangach, a yw'n broblem i'r elusen neu'r is-sector neu elusennau'n gyffredinol
- cymhlethdod y broblem, ac a allai osod cynsail
- unrhyw ystyriaethau budd cyhoeddus ehangach
- materion eraill lle mae ein profiad neu wybodaeth yn dangos y dylem weithredu er budd cyhoeddus
|
|
Cam 3. Beth yw'r ymateb mwyaf effeithiol yn yr amgylchiadau?
|
Byddwn yn ystyried y ffordd orau o ddatrys yr achos neu'r broblem dan sylw
- pa ganllawiau sydd eisoes ar gael
- a fydd gweithredu yn cael effaith arwyddocaol
- y risgiau a'r effaith o beidio â gweithredu
- y goblygiadau o ran adnoddau
|
|
Er enghraifft:
|
|
Tynnu sylw at elusennau sydd heb fodloni eu gofynion adrodd
|
Cyfeirio at gyngor a chanllawiau ar y we neu roi cyngor wedi'i deilwra
|
Rhoi caniatâd neu gymeradwyo defnyddio pŵer elusen
|
Gweithgaredd cyfathrebu ehangach
|
Gweithgaredd rheoleiddio arall
|
Cychwyn ymchwiliad statudol
|
Yn ôl i'r prif fynegai Fframwaith Risg y Comisiwn Elusennau