Sut gall elusennau fasnachu'n gyfreithiol
Cynnwys
Ch. Elusennau gydag is-gwmnïau masnachu
Ch1. Beth yw 'is-gwmni masnachu', a phryd mae'n rhaid defnyddio is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Mae 'is-gwmni masnachu' yn gwmni y mae un neu ragor o elusennau yn berchen arno a'i reoli, ac fe'i sefydlwyd i fasnachu. Pwrpas is-gwmni masnachu fel arfer yw cynhyrchu incwm i'w riant elusen. Rhaid defnyddio is-gwmnïau masnachu ar gyfer masnachau heb fod yn brif ddiben sy'n cynnwys risg sylweddol.
Yn fwy manwl
Rhaid defnyddio is-gwmni masnachu mewn unrhyw achos lle y byddai risg sylweddol i asedau'r elusen, pe byddai'n ymgymryd â masnachu heb fod yn brif ddiben ei hun (gweler C8). Rhaid i'r is-gwmni masnachu gael ei sefydlu mewn ffordd sy'n diogelu'r rhiant elusen, a'i hasedau rhag y risgiau sy'n gysylltiedig â'r masnachu. Mae'r angen i ddiogelu asedau'r elusen rhag unrhyw risg sylweddol sy'n gysylltiedig â masnachu heb fod yn brif ddiben o'r pwys mwyaf. Nid yw'r ffaith y byddai elw masnachu wedi'i eithrio rhag talu treth pe bai'r elusen ei hun wedi ymgymryd â'r masnachu yn golygu o reidrwydd ei fod yn briodol i'r elusen ymgymryd â'r masnachu.
Nid yw'r elw o fasnach y mae is-gwmni masnachu yn ymgymryd â hi yn gymwys ar gyfer eithriad treth elusen. Maent yn atebol i dalu treth gorfforaeth yn y ffordd arferol. Ond gall taliadau a wnaed gan yr is-gwmni masnachu i'r elusen neu'r elusennau sy'n berchen arno leihau lefel yr elw sy'n drethadwy yn yr is-gwmni masnachu. Ac mae eithriad treth ar gael i'r elusen sy'n derbyn ar gyfer yr incwm y mae'n ei dderbyn gan yr is-gwmni masnachu.
Mae hyn yn esbonio pam y gall fod yn fuddiol i elusen ddefnyddio is-gwmni masnachu hyd yn oed os nad oes unrhyw rwystr cyfreithiol i'r elusen fasnachu ei hun. Pe byddai'r elw o fasnachu gan elusen yn agored i dreth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol), gall defnyddio is-gwmni masnachu i fasnachu olygu bod modd i'r atebolrwydd i dalu treth ar yr elw masnachu gael ei leihau, neu ei ddileu.
Mae elusen sy'n darparu gwasanaethau hysbysebu a hyrwyddo eraill yn gyfnewid am nawdd busnes yn enghraifft o fasnachu sy'n annhebygol o beri unrhyw risg sylweddol i asedau'r elusen, oherwydd mae'r treuliau a wyneba'r elusen yn ystod masnachu o'r fath yn debygol o fod yn fach. Felly, er nad oes unrhyw orchymyn yn y gyfraith elusennau i neilltuo'r math hwn o fasnachu i is-gwmni masnachol, gall fod mantais treth drwy wneud hynny, pe na fyddai'r elw yn gymwys ar gyfer unrhyw eithriad elusen. Byddai'r elusen yn atebol i dalu treth ar yr elw masnachu pe byddai'n ymgymryd â'r fasnach ei hun, ond pe byddai is-gwmni masnachu yn ymgymryd â'r masnachu, gellid trosglwyddo elw'r is-gwmni masnachu i'r elusen fel Rhodd Cymorth, gan felly cyfyngu ar unrhyw atebolrwydd i dalu treth, neu ei ddileu.
Os yw masnachu prif ddiben yn cael ei gynnal drwy is-gwmni masnachu, nid yw llawer o'r canllawiau yn yr Adran hon yn berthnasol: byddai cyllido'r is-gwmni masnachu yn ddefnydd elusennol o gronfeydd, yn hytrach na buddsoddi cronfeydd er mwyn gwneud elw.
Dylai is-gwmni masnachu fod yn ddichonol yn ariannol cyn gynted â phosibl. Felly, mae'n bwysig cael cynllun busnes sy'n nodi'n glir pryd y disgwylir i fasnachu fod yn broffidiol ac asesu cynnydd yn erbyn y cynllun busnes. Os na ragwelir dichonolrwydd ariannol o fewn dwy flynedd o weithredu, dylid ystyried priodoldeb ymgymryd â'r gweithgarwch masnachu arfaethedig yn ofalus.
Ch2. Beth yw manteision defnyddio is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Prif fanteision defnyddio is-gwmni masnachu yw diogelu asedau'r rhiant elusen rhag risgiau masnachu; creu uned weinyddu ar wahân; a lleihau atebolrwydd i dalu treth. Fodd bynnag, yn yr achosion hynny lle nad yw defnyddio is-gwmni masnachu yn hanfodol, rhaid i ymddiriedolwyr gofio y gall fod anfanteision i ddefnyddio is-gwmni masnachu, ac wrth gwrs rhaid cydbwyso'r anfanteision hynny yn erbyn y manteision.
Yn fwy manwl
Rhaid defnyddio is-gwmni masnachu mewn unrhyw achos lle y byddai risg sylweddol i asedau'r elusen pe byddai'n ymgymryd â gweithgarwch masnachu ei hun. Fodd bynnag, gall ymddiriedolwyr ddefnyddio is-gwmni masnachu am resymau eraill, er enghraifft:
- diogelu asedau'r elusen rhag risgiau masnachu, hyd yn oed os nad yw'r risgiau yn sylweddol;
- diogelu asedau'r elusen rhag risgiau masnachu, hyd yn oed os yw'r masnachu yn brif ddiben neu'n ategol;
- creu uned weinyddu ar wahân at ddibenion cyfrifyddu a/neu reoli er mwyn, er enghraifft, hwyluso llunio contractau ar gyfer darparu gwasanaeth cyhoeddus a diogelu asedau'r elusen yr un pryd; neu
- leihau neu ddileu'r atebolrwydd i dalu treth sy'n codi o'r gweithgareddau masnachu.
Fodd bynnag, gall fod anfanteision i drosglwyddo gweithgareddau masnachu elusen i is-gwmni masnachu. Er enghraifft:
- os mai treth yw'r prif reswm dros ddefnyddio is-gwmni masnachu, gall y manteision treth fod yn annigonol i gyfiawnhau'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â sefydlu a gweithredu is-gwmni masnachu; a
- gall fod anfanteision i ddefnyddio is-gwmni masnachu oherwydd mae'n bosib na fydd rhai manteision y mae elusennau'n eu mwynhau ar gael, ee rhyddhad treth elusennau gweler Ch14) ac eithriad rhag talu treth tir toll stamp (gweler Ch21).
Gwybodaeth bellach
Gweler hefyd canllaw y Comisiwn Comisiwn Elusennau a Darparu Gwasanaeth Cyhoeddus: Cyflwyniad a throsolwg (CC37)
Ch3. Ydy is-gwmnïau masnachu yn talu treth fel cwmnïau eraill?
Yr ateb byr
Ydynt. Mae rhai gwahaniaethau cyfreithiol rhwng is-gwmnïau masnachu elusennau a chwmnïau eraill. Fodd bynnag, mae modd i is-gwmni masnachu dalu peth neu'r cyfan o'i elw masnachu i'w riant elusen, gan felly eithrio'r elw hwnnw wrth gyfrifo atebolrwydd y cwmni masnachu at ddibenion treth gorfforaeth, a lleihau lefel yr atebolrwydd hwnnw.
Yn fwy manwl
Mae is-gwmni masnachu yn agored i dalu treth gorfforaeth ar ei elw ei hun, yn yr un modd ag unrhyw gwmni arall. Ond gall yr is-gwmni masnachu wneud taliadau i'w riant elusen fel Rhodd Cymorth, a gall hyn leihau neu ddileu atebolrwydd treth gorfforaeth yr is-gwmni. Gweler Ch4.
Mae masnachu yn weithgarwch busnes, a rhaid i is-gwmni masnachu (neu yn wir elusen) sy'n ymgymryd â masnach gael ei gofrestru ar gyfer TAW os yw'r trosiant trethadwy yn fwy na'r terfyn statudol. Gall is-gwmnïau masnachu fwynhau rhai o fanteision TAW y rhiant elusen (gweler Ch13).
Gwybodaeth bellach
Cewch gyngor cyffredinol ar ddefnyddio is-gwmnïau masnachu ar wefan HMRC yn y canllaw Masnachu a gweithgareddau busnes o fewn yr adran 'Elusennau'.
Cewch wybodaeth am y trothwy TAW yn y rhifyn cyfredol o Rybudd TAW 700/1. Mae rhybuddion TAW 701/1 (Elusennau) a 701/5 (Clybiau a Chymdeithasau) yn rhoi gwybodaeth bellach. Mae'r rhain hefyd ar gael yn yr adran 'Elusennau' ar wefan HMRC.
Ch4. Sut gall is-gwmni masnachu dalu cronfeydd i'w riant elusen?
Yr ateb byr
Gall cronfeydd gael eu talu ar ffurf difidend cyfrannau, llog ar gyfalaf benthyciadau ac ad-daliadau cyfalaf benthyciadau, neu fel Rhodd Cymorth. Mae llawer o fanteision treth i wneud y taliadau mewn ffordd sy'n cael yr effaith o leihau lefel yr atebolrwydd treth gorfforaeth yn yr is-gwmni masnachu.
Yn fwy manwl
Mae Rhodd Cymorth yn ddull cyffredin i is-gwmni masnachu dalu cronfeydd i'w riant elusen. Y rheswm am hyn yw:
- mae taliadau Rhodd Cymorth yn lleihau incwm trethadwy yr is-gwmni masnachu gan swm y taliad. Felly, mae'n bosibl yn aml, drwy wneud taliadau o'r fath, i ddileu atebolrwydd posibl cyfan yr is-gwmni masnachu i dalu treth gorfforaeth (gweler hefyd Ch5).
- mae taliadau Rhodd Cymorth i'r rhiant elusen o is-gwmni masnachu wedi'u heithrio o dreth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) os cânt eu defnyddio at ddibenion elusennol yn unig.
Gall is-gwmni masnachu wneud taliadau Rhodd Cymorth i'w riant elusen unrhyw bryd o ddechrau'r cyfnod cyfrifyddu perthnasol tan naw mis o ddiwedd y cyfnod hwnnw. Gall gohirio taliadau gynorthwyo llif arian yn yr is-gwmni masnachu.
Mae amseriad y taliadau Rhodd Cymorth yn fater i gyfarwyddwyr yr is-gwmni masnachu yn bennaf. Ni fyddai disgwyl i ymddiriedolwyr y rhiant elusen ymyrryd oni bai fod rheswm ganddynt dros gredu nad oedd cyfarwyddwyr yr is-gwmni yn rhoi ystyriaeth briodol i fuddiannau'r elusen wrth wneud y penderfyniadau perthnasol.
Prin iawn y bydd cronfeydd yn cael eu talu i'r rhiant elusen drwy gyfrwng difidend cyfrannau, os o gwbl. Mae difidendau, fel taliadau Rhodd Cymorth, wedi'u heithrio o dreth yn nwylo'r rhiant elusen, ond nid ydynt yn lleihau elw trethadwy'r is-gwmni masnachu. Felly, byddai'r dull hwn o dalu cronfeydd i'r rhiant elusen yn gadael atebolrwydd i dalu treth gorfforaeth yn yr is-gwmni masnachu.
Pan fydd rhiant elusen yn darparu cyfalaf benthyciadau i is-gwmni masnachu, wrth gwrs, rhaid i'r is-gwmni masnachu, wneud taliadau llog ac ad-daliadau o'r prifswm yn unol â thelerau'r cytundeb benthyciad gyda'r elusen. Am fwy o wybodaeth gweler Ch10 ac Ch11. Gellir gwneud iawn am gostau cynnal benthyciad yn effeithiol wrth gyfrifo beth yw incwm trethadwy yr is-gwmni masnachu, naill ai'n uniongyrchol fel costau'r fasnach, neu drwy lwfansau cyfalaf.
Ch5. All is-gwmni masnachu dalu mwy i'w riant elusen mewn Rhodd Cymorth na lefel yr elw masnachu (yn nhermau cyfrifyddu) y mae wedi'i ennill?
Yr ateb byr
Gall. Yn gyffredinol bydd y mater hwn yn codi pan fydd lefel elw masnachu'r is-gwmni masnachu at ddibenion treth yn fwy na lefel ei elw at ddibenion cyfrifyddu. Bydd unrhyw atebolrwydd treth yn dibynnu ar lefel yr elw trethadwy. Os ydych am ddileu'r atebolrwydd hwnnw yn gyfan gwbl, bydd rhaid talu'r cyfan o'r elw trethadwy i'r elusen, er ei fod yn fwy na'r elw at ddibenion cyfrifyddu. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen cyllido'r gweddill o gyfalaf cyfrannau oherwydd fel arall mae'r is-gwmni masnachu yn debygol o fod yn ansolfent.
Yn fwy manwl
Os yw is-gwmni masnachu yn ennill, mewn cyfnod cyfrifyddu, elw trethadwy sy'n fwy na'i elw at ddibenion cyfrifyddu, gall dalu i'w riant elusen swm sy'n fwy mewn Rhodd Cymorth nag sydd ganddo elw at ddibenion cyfrifyddu, er mwyn dileu ei atebolrwydd i dalu treth gorfforaeth. O ganlyniad, gall y cyfan neu ran o'r taliad Rhodd Cymorth gael ei wneud o gyfalaf cyfrannau tanysgrifedig y cwmni, gan gynnwys unrhyw gyfrif premiwm cyfrannau.
Er bod gwahaniaeth barn gyfreithiol ar y mater hwn, ystyrir y gall taliadau Rhodd Cymorth o'r fath gael eu gwneud o gyfalaf cyfrannau tanysgrifedig yr is-gwmni masnachu, ar yr amod bod gwrthrychau'r is-gwmni masnachu yn awdurdodi rhoddion o'r fath. Gall y rhiant elusen, drwy danysgrifio cyfalaf cyfrannau ychwanegol yn yr is-gwmni masnachu, alluogi’r is-gwmni i wneud hyn heb wneud yr is-gwmni yn ansolfent.
Mae'n bosibl y gall fod yn well gan yr is-gwmni masnachu gaffael yr adnoddau y mae eu hangen i wneud y taliad Rhodd Cymorth llawn o gronfeydd a fenthycwyd gan y rhiant elusen. Fodd bynnag, mae HMRC Elusennau yn feirniadol o unrhyw drefniadau cylchol eu golwg. Dylai rhiant elusennau a'u his-gwmnïau masnachu sy'n ystyried gweithredu fel hyn geisio cyngor proffesiynol, ac ystyried priodoldeb buddsoddi a'r materion ansolfedd a drafodir yn Ch8.
Ch6. Sut dylai is-gwmnïau masnachu gael eu cyllido?
Yr ateb byr
Fel arfer bydd is-gwmnïau masnachu yn cael eu cyllido gan eu rhiant elusennau, er bod modd cael cyllid allanol hefyd. Gall y cyllid gael ei ddarparu fel cyfalaf cyfrannau a/neu gyfalaf benthyciadau. Hefyd gall is-gwmnïau masnachu gadw elw, yn amodol ar ystyriaethau treth.
Yn fwy manwl
Pan fydd is-gwmni masnachu yn cael ei ffurfio, gall ei riant elusen wneud cyfraniad nominal o gyfalaf cyfrannau yn yr is-gwmni masnachu er mwyn cydymffurfio â gofynion y gyfraith cwmnïau mewn perthynas â ffurfio cwmnïau. Fodd bynnag, fel arfer bydd yr is-gwmni masnachu yn gofyn am fwy na swm nominal o gyfalaf er mwyn gweithredu'n effeithiol.
Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau yn cyllido eu busnes drwy gymysgedd o gyfalaf cyfrannau, cyfalaf benthyciadau, a chadw elw. Fodd bynnag mae'r system dreth yn annog is-gwmni masnachu i drosglwyddo ei elw i'r rhiant elusen fel Rhodd Cymorth. O ganlyniad mae cymhelliad gan is-gwmni masnachu i beidio ag ateb ei anghenion cyllido o elw a gedwir (gweler Ch7).
Felly, bydd angen is-gwmni masnachu am gyllid, yn y rhan fwyaf o achosion, yn cael ei ateb o gyfalaf cyfrannau a/neu gyfalaf benthyciadau. Fel rheol, ond nid bob amser, darperir y cyfalaf hwn gan y rhiant elusen.
Rhaid gallu cyfiawnhau'r ddarpariaeth hon fel buddsoddiad o asedau'r elusen (gweler Ch8). Ni all rhiant elusennau ddarparu cymorth i is-gwmnïau masnachu ar delerau sy'n cynnwys elfen mwy neu elfen lai o rodd. Er enghraifft:
- ni all rhiant elusen wneud cyfraniadau i'r is-gwmni masnachu, mewn arian parod neu nwyddau, drwy brynu stoc ar gyfer yr is-gwmni, a rhoi'r stoc hwnnw i'r is-gwmni masnachu, neu fel arall;
- rhaid i riant elusen beidio â dalu dyledion is-gwmni masnachu; a
- rhaid i elusen, os yw'n caniatáu i is-gwmni masnachu ddefnyddio ei staff, adeiladau neu offer, godi taliadau teg ar y defnyddwyr hynny (gweler Ch21 ac Ch22).
Ch7. All is-gwmni masnachu gyllido ei hun drwy gadw elw?
Yr ateb byr
Gall, mae hyn yn bosibl. Fodd bynnag, bydd elw masnachu a gedwir yn agored i dalu treth gorfforaeth.
Yn fwy manwl
Fel y nodwyd yn Ch4, os yw holl elw trethadwy yr is-gwmni masnachu yn cael ei dalu i'r rhiant elusen fel Rhodd Cymorth, mae atebolrwydd yr is-gwmni masnachu i dalu treth gorfforaeth wedi'i ddileu. Ond rhaid i anghenion yr is-gwmni masnachu am gyllid gael eu hateb o'r cyfalaf yn gyfan gwbl.
Mae'n well gan rai rhiant elusennau dderbyn y canlyniadau treth gorfforaeth a ddaw os yw'r is-gwmni masnachu yn cadw elw trethadwy. Yn wir, gall fod angen ei gadw os yw cyllid drwy gyfrwng benthyciad wedi'i geisio gan fanciau masnachol neu drydydd partïon eraill, er mwyn cynnal y benthyciad. Mae'r dull hwn o weithredu:
- yn cynnig modd i'r is-gwmni masnachu gyllido ei hun drwy gyfuniad o gyfalaf ac elw a gedwir mewn ffordd sy'n agosach at arferion masnachol cyffredin; a
- gall ei wneud yn haws hefyd i'r rhiant elusen gyfiawnhau buddsoddiadau yn yr is-gwmni masnachu, yn enwedig os yw cyllid ecwiti sylweddol yn ofynnol i gyllido gweithgareddau masnachu parhaus. Fodd bynnag, os yw is-gwmni masnachu yn cadw elw fel hyn, gall effeithio ar y rhyddhad TAW a fyddai ar gael fel arall (gweler Ch13).
Gwybodaeth bellach
Dylid ceisio cyngor proffesiynol mewn unrhyw achos os yw ymddiriedolwyr yn ansicr ynghylch lefel y taliad Rhodd Cymorth i'r rhiant elusen sydd, at ei gilydd, yn fwyaf buddiol i'r elusen.
Ch8. Pa rwymedigaethau cyfreithiol sy'n codi os yw ymddiriedolwyr yn buddsoddi cronfeydd elusen mewn is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Rhaid i ymddiriedolwyr y rhiant elusen allu cyfiawnhau cymorth ariannol ar gyfer is-gwmni masnachu fel buddsoddiad priodol o adnoddau'r elusen. Ym mhob achos rhaid i fuddiannau'r elusen fod o'r pwys mwyaf. Dylai unrhyw fuddsoddiad ddilyn polisi buddsoddi cyffredinol yr elusen.
Yn fwy manwl
Mae'r ystyriaethau sy'n gymwys i fuddsoddiad gan riant elusen mewn is-gwmni masnachu, yn debyg i unrhyw fuddsoddiad arall o adnoddau'r elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr, pan fyddant yn buddsoddi adnoddau elusen:
- fod yn sicr bod y buddsoddiad wedi'i gynnwys o fewn pwerau buddsoddi'r elusen;
- dangos gofal a medr yn y broses fuddsoddi sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau;
- ystyried yr addasrwydd i'r elusen o fuddsoddiadau sydd yr un fath â'r buddsoddiad arbennig y mae'n cynnig ei wneud;
- ystyried addasrwydd y buddsoddiad arbennig dan sylw, fel buddsoddiad o'r fath y mae'n ymddangos ei fod yn briodol i'w wneud;
- ystyried yr angen i arallgyfeirio buddsoddiadau, fel y bo'n briodol i amgylchiadau'r elusen; a
- cheisio ac ystyried cyngor am y buddsoddiad gan unigolyn y mae'n rhesymol i'r ymddiriedolwyr gredu ei fod yn gymwys i'w roi drwy ei allu a phrofiad ymarferol o faterion ariannol a materion eraill; rhaid i'r cyngor ystyried addasrwydd a'r pwyntiau arallgyfeirio y sonnir amdanynt uchod.
Yng nghyd-destun buddsoddiad arfaethedig mewn is-gwmni masnachu a ddefnyddir i ymgymryd â masnachu heb fod yn brif ddiben, mae'n golygu bod:
- rhaid i'r ymddiriedolwyr ystyried yn rhesymol ei fod er lles yr elusen i wneud y buddsoddiad, ar ôl gwneud cymhariaeth deg rhwng y math hwn o fuddsoddiad a mathau eraill o fuddsoddiad y gellid eu dewis;
- rhaid i'r gymhariaeth deg hon gynnwys asesiad gwrthrychol o ragolygon busnes yr is-gwmni masnachu;
- rhaid i'r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain ynghylch dichonoldeb ariannol yr is-gwmni masnachu, yn seiliedig ar ei gynllun busnes, rhagolygon llif arian, rhagamcaniadau elw, dadansoddiad risg a gwybodaeth arall sydd ar gael; a
- rhaid i'r ymddiriedolwyr geisio cyngor priodol ar y buddsoddiad, a dichonolrwydd ariannol yr is-gwmni masnachu. Bydd yr hyn sy'n 'briodol' yn dibynnu ar yr amgylchiadau: mae'r gost o geisio cyngor yn ffactor perthnasol, a dylai'r gost gyfateb â maint y buddsoddiad arfaethedig.
Dylai ymddiriedolwyr:
- roi sylw i'r cyfnod y gallai'r cronfeydd gael eu rhwymo mewn buddsoddiad mewn is-gwmni masnachu, oherwydd mae'n bosib na fydd yn hawdd realeiddio cronfeydd y mae eu hangen yn y tymor byr i ganolig pan gânt eu buddsoddi yn y ffordd hon;
- ystyried, a cheisio cyngor addas, ar y posibilrwydd o gael cyllid annibynnol fel dewis arall i gyllido gan yr elusen. Gweler Ch9.
Mae union strwythur y buddsoddiad yn yr is-gwmni masnachu yn benderfyniad y mae ymddiriedolwyr y rhiant elusen (gyda chyngor proffesiynol) yn gyfrifol amdano, gan ystyried dyletswyddau buddsoddi ymddiriedolwyr sydd wedi'u crynhoi uchod. Hefyd, rhaid i ymddiriedolwyr ystyried yn achlysurol a ddylid cadw neu waredu buddsoddiad sy'n bod. Wrth adolygu buddsoddiadau, mae'r dyletswyddau yn debyg i'r rhai a nodir uchod.
Rhaid i ymddiriedolwyr ystyried adran 506(4), ac atodlen 20 Deddf 1988 hefyd. Gall y darpariaethau hyn greu effaith treth os yw benthyciadau i is-gwmnïau masnachu, neu fuddsoddiadau ecwiti mewn is-gwmnïau masnachu yn amhriodol. Mae'r pwnc hwn wedi'i grynhoi yn Ch12.
Gwybodaeth bellach
Cewch fwy o wybodaeth am ddyletswyddau ymddiriedolwyr o ran buddsoddi yn y canllaw manwl ar elusennau a buddsoddi a gyhoeddir yn yr adran 'Arweiniad i Elusennau' .
Ch9. All elusen geisio buddsoddiad allanol mewn is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Gall. Mae'n arfer da i ymddiriedolwyr rhiant elusen ystyried a yw'n ddymunol cael eraill i fuddsoddi yn eu his-gwmni masnachu. Byddai hyn yn lledaenu risgiau'r fasnach, a gall gyfrannu'n bositif at hylifedd yr elusen. Ond gall fod yn anodd denu buddsoddiad o'r fath am gost resymol.
Yn fwy manwl
Gall rhannu'r risg o fasnach yn methu gydag ariannwr annibynnol fod yn ddewis synhwyrol i riant elusen, ar yr amod nad yw'r gost yn ormodol. Mantais ychwanegol o gynnwys ariannwr annibynnol yw y bydd unigolyn o'r fath yn gallu darparu asesiad annibynnol o ddichonoldeb economaidd gweithrediad yr is-gwmni masnachu.
Rhaid ystyried yn ofalus natur a thelerau unrhyw fuddsoddiad allanol. Er mwyn cadw ei atebolrwydd i dalu treth gorfforaeth i'r lleiaf posibl, fel rheol bydd yr is-gwmni masnachu yn talu'r cyfan o'i elw trethadwy i'w riant gwmni fel Rhodd Cymorth (gweler Ch3). Drwy wneud hyn ni fyddai unrhyw gronfeydd yn weddill i'w dosbarthu i gyfranddalwyr fel difidendau.
Felly ni fydd buddsoddiad cyfalaf cyfrannau mewn is-gwmni masnachu elusen yn ddeniadol fel arfer i gyllidwyr allanol sy'n cael eu cymell gan elw. Ond gallai buddsoddiad cyfalaf cyfrannau mewn is-gwmni masnachu gael ei farchnata i gefnogwyr y rhiant elusen, a allai fod awyddus i gael adenillion masnachol.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd buddsoddiad allanol mewn is-gwmni masnachu'r elusen ar ffurf cyfalaf benthyciadau, oherwydd bydd taliadau llog ar fenthyciadau ac ad-daliadau o'r prifswm yn digwydd cyn rhoi unrhyw daliadau Rhodd Cymorth i'r rhiant elusen. Gall cyllid benthyciad fod ar gael gan fanciau, a benthycwyr preifat eraill, gan gynnwys cefnogwyr yr elusen.
Dylai ymddiriedolwyr roi sylw arbennig i delerau'r cyfalaf benthyciadau oherwydd gallai taliadau llog leihau lefel yr elw masnachu yn yr is-gwmni yn fawr. Hyd yn oed os yw gweithrediad yr is-gwmni masnachu yn broffidiol cyn taliadau benthyciad, mae'n bosibl na fydd felly wedi hynny. Dylai elusennau ystyried y posibilrwydd o gael cyfalaf benthyciadau gan eu cefnogwyr, a all fod yn barod i ddarparu cyllid ar delerau ffafriol.
Wrth lunio menter ar y cyd o'r natur hon, mae'n bwysig bod y buddsoddiad er lles yr elusen. Fel agwedd ar ystyried priodoldeb y fenter ar y cyd, dylai'r ymddiriedolwyr ystyried a ddylid gwneud unrhyw wiriadau diwydrwydd dyladwy ar statws ariannol y partner(iaid) eraill, a dylent sicrhau eu bod nhw â'u partner(iaid) menter ar y cyd â barn debyg ynghylch graddfa'r buddsoddiad sydd ei hangen, lefel y risg masnachu a dderbynnir, y mecanwaith ar gyfer pennu cyfeiriad y gweithgarwch masnachu ac am ddatrys unrhyw anghytuno rhwng y partneriaid.
Wrth lunio menter ar y cyd, er y bydd pob parti yn rhagweld canlyniad llwyddiannus, mae hefyd yn bwysig ystyried y 'strategaeth ymadael', rhag ofn y bydd anawsterau anorchfygol yn codi.
Un o brif achosion menter ar y cyd yn methu yw gwahaniaeth anghymodlon yn nealltwriaeth partneriaid am gyfeiriad y fenter ar y cyd. O ganlyniad, argymhellir y dylai pob partner ystyried a chytuno ar amcanion y fenter ar y cyd, sicrhau bod yr holl ddogfennaeth angenrheidiol wedi'i chwblhau, a bod cynllun busnes wedi cael ei gytuno. Argymhellir bod ymddiriedolwyr yn ceisio cyngor proffesiynol pellach, lle bo'n briodol.
Rhaid i ymddiriedolwyr sy'n ystyried menter ar y cyd o'r natur hon gofio'r ddau bwynt treth canlynol:
(1) Oni bai fod y cwmni menter ar y cyd ym mherchnogaeth lwyr un neu ragor o elusennau, rhaid i unrhyw daliadau sy'n cael eu rhoi i elusen fel Rhodd Cymorth gael ei wneud yn ystod y flwyddyn ariannol y bydd y taliadau yn cael eu gosod yn erbyn elw trethadwy'r cwmni. Mae'r gallu i wneud taliadau Rhodd Cymorth hyd at 9 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol (gweler Ch4) ar gael i gwmnïau sydd ym mherchnogaeth lwyr un elusen neu fwy yn unig;
(2) Os yw'r partner masnachol yn derbyn cyfran o'r elw gan y cwmni, gall HMRC herio'r defnydd o Rodd Cymorth i wneud taliad cyfatebol i'r partner elusennol.
Ch10. Pa ystyriaethau sy'n berthnasol i fuddsoddiad elusen o gyfalaf cyfrannau mewn is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Os yw'r busnes yn methu, mae cyfranddalwyr yn llai tebygol o adennill eu buddsoddiad na buddsoddwyr cyfalaf benthyciadau. Fodd bynnag, bydd buddsoddiad o gyfalaf cyfrannau gan y rhiant elusen yn rhoi hyder yn yr is-gwmni masnachu i gyflenwyr ac eraill y mae'n gwneud busnes â nhw.
Yn fwy manwl
Nid yw cyfranddaliwr mewn is-gwmni masnachu yn gredydwr y cwmni fel y cyfryw. Fel rheol gall cyfalaf cyfrannau gael ei ad-dalu os yw'r cwmni yn diddymu, ac yna bydd cyfranddalwyr yn cael swm ar gyfer eu cyfalaf cyfrannau dim ond os yw holl gredydwyr y cwmni wedi cael eu had-dalu'n llawn. Fel cyfranddaliwr, nid oes gan y rhiant elusen hawl absoliwt i dderbyn difidendau neu roddion o'i his-gwmni masnachu.
Fel rheol, atyniad buddsoddiad cyfalaf cyfrannau (o'i gymharu â chyfalaf benthyciadau) yw ei fod yn rhoi (neu'n cynyddu) hawl i gyfranogi yn elw'r cwmni ar ffurf difidendau pan gânt eu datgan. Mae hyn yn cyfiawnhau’r risg mwy i fuddsoddwyr o'i gymharu â chyfalaf benthyciadau. Ond mae'n amlwg nad yw'r atynnid yn bodoli os yw'r is-gwmni masnachu eisoes ym mherchnogaeth lwyr y rhiant elusen.
Fodd bynnag, mae rhesymau dilys pam y gallai rhiant elusen ddewis gyfalafu is-gwmni masnachu drwy gyfrwng cyfalaf cyfrannau yn hytrach na chyfalaf benthyciadau. Er enghraifft:
- gall cyfraniad rhiant elusen o gyfalaf cyfrannau sylweddol yn ei his-gwmni masnachu roi hyder i gyflenwyr, cwsmeriaid, credydwyr, darpar gredydwyr ac eraill y mae gan yr is-gwmni masnachu berthynas fusnes ag ef; neu
- pe byddai is-gwmni masnachu yn agored i risg neu ansolfedd pe byddai'n cael ei gyfalafu gan fenthyciad, ni fydd llawer o ddewis gan ymddiriedolwyr ond buddsoddi cyfalaf cyfrannau (yn amodol ar yr ystyriaethau a nodwyd yn Ch8).
Mae'r ffaith na fydd y cyfalaf cyfrannau a gyfrannwyd gan y rhiant elusen yn yr is-gwmni masnachu yn cael ei ad-dalu'n llawn, neu hyn yn oed yn rhannol efallai, pan gaiff yr is-gwmni ei ddiddymu, yn un o'r ffactorau y dylai cynghorydd buddsoddi'r elusen ei ystyried wrth benderfynu p'un ai i argymell i ymddiriedolwyr y rhiant elusen i gyfrannau cyfalaf cyfrannau. Byddai'n rhaid i'r cynghorydd ystyried yr adenillion economaidd cyfan i'r elusen, gan gydbwyso taliadau Rhodd Cymorth ac unrhyw ddosraniadau a ragwelir yn erbyn y risg o golli cyfalaf.
Ch11. Pa ystyriaethau sy'n berthnasol i fuddsoddiad elusen o gyfalaf benthyciadau mewn is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Fel darparwr cyfalaf benthyciadau i'r is-gwmni masnachu, mae hawl cytundebol gan riant elusen i ad-dalu'r prifswm. Mae hyn yn rhoi mwy o sicrwydd ad-daliad i'r rhiant elusen, ond gall hefyd greu ansolfedd i'r cwmni pe na fyddai'n gallu gwasanaethu ei fenthyciadau.
Yn fwy manwl
Mae hawl gytundebol gan fenthyciwr i dalu llog ar y benthyciad, ac ad-dalu'r prifswm ar ddiwedd cyfnod y benthyciad. Felly, mae darparu cyfalaf benthyciadau yn rhoi mwy o sicrwydd i'r elusen sy'n buddsoddi na darparu cyfalaf cyfrannau, sydd heb gynnig unrhyw warantau o'r fath.
Fodd bynnag, mae swm unrhyw gyfalaf benthyciadau a ddelir gan gwmni yn cael ei ystyried wrth bennu ei solfedd. Ni all cwmni fasnachu os yw'n ansolfent. Felly, ni ddylai ymddiriedolwyr fuddsoddi cyfalaf benthyciadau mewn is-gwmni masnachu os yw'n rhesymol i ragweld na fydd yr is-gwmni yn gallu cynnal y benthyciad neu ei ad-dalu pan fydd y cyfnod yn dod i ben. Mewn achosion o'r fath dylai ymddiriedolwyr:
- ystyried a yw er lles yr elusen i gynnal y cwmni o gwbl, neu a yw er ei lles gorau i'w ddiddymu neu ei werthu fel busnes byw (yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodwyd yn Ch8) (gweler hefyd Ch16).
- darparu'r buddsoddiad fel cyfalaf cyfrannau (gweler Ch10), os yw er lles yr elusen i ddarparu cyllid ychwanegol.
Gall darparu cyfalaf benthyciadau greu ansolfedd yn anfwriadol mewn is-gwmni masnachu hyd yn oed os yw'n masnachu'n broffidiol. Er mwyn dileu atebolrwydd i dalu treth gorfforaeth, bydd is-gwmni masnachu yn aml yn talu i'w riant elusen fel Rhodd Cymorth ei holl elw a fyddai fel arall yn agored i dalu treth gorfforaeth (gweler Ch4). O ganlyniad gall yr is-gwmni masnachu gadw adnoddau annigonol i ad-dalu benthyciadau a wnaed gan yr elusen pryd a phan y byddant yn ddyledus. Byddai hynny'n golygu bod yr is-gwmni masnachu yn ansolfent, oherwydd ni fyddai'n gallu talu ei ddyledion.
Os yw elusen yn rhoi benthyciadau i is-gwmni masnachu, rhaid i ymddiriedolwyr benderfynu ar y telerau o ran y gyfradd llog ac ad-dalu'r prifswm. Rhaid iddynt hefyd benderfynu sut y dylid gwarantu'r benthyciad. Mae'r penderfyniadau hyn yn rhan o ddyletswyddau'r ymddiriedolwyr a nodwyd yn Ch8.
Efallai yr hoffai ymddiriedolwyr roi benthyciad di-log i is-gwmni masnachu, neu fenthyciad a warentir dim ond drwy ymrwymiad cytundebol yr is-gwmni, ac nid drwy arwystl dros asedau'r is-gwmni. Fodd bynnag, mae HMRC Elusennau yn feirniadol o fenthyciadau sydd heb eu gwneud ar delerau masnachol priodol (gweler Ch12). Yn arbennig:
- nid yw'n debygol y gellid cyfiawnhau benthyciadau di-log i is-gwmni masnachu fel buddsoddiad, oni bai fod swm y benthyciad yn fach; ac
- er bod creu arwystl dros eiddo'r is-gwmni masnachu i warantu benthyciad yn cynnwys cost, nid yw'n debygol y gellid cyfiawnhau benthyciad a warentir dim ond drwy ymrwymiad cytundebol yr is-gwmni masnachu fel buddsoddiad, oni bai fod swm y benthyciad yn fach, neu os yw gwerth y warant sydd ar gael yn yr is-gwmni yn gyfyngedig.
Ch12. Pa oblygiadau treth eraill y mae angen eu hystyried wrth fuddsoddi mewn is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Mae'n bwysig sicrhau nad yw unrhyw fuddsoddiad gan riant elusen mewn is-gwmni masnachu yn cael ei drin fel 'gwariant anelusennol', yn ôl y diffiniad ohono yn adran 506 Deddf 1988. Os yw'n cael ei drin felly, gall atebolrwydd i dalu treth godi.
Yn fwy manwl
Bydd unrhyw fuddsoddiad mewn is-gwmni masnachu, boed ar ffurf cyfalaf cyfrannau neu gyfalaf benthyciadau, yn cael ei drin fel 'gwariant anelusennol' o fewn ystyr adran 506 Deddf 1988 os nad yw'n fenthyciad neu'n fenthyciad cymwys yn ôl y diffiniad yn Atodlen 20 y Ddeddf honn. Os yw'n cael ei drin fel gwariant anelusennol, gall rhai o eithriadau treth yr elusen gael eu cyfyngu.
Er mwyn osgoi cael ei drin fel gwariant anelusennol, rhaid i'r ymddiriedolwyr allu bodloni HMRC Elusennau fod y buddsoddiad yn yr is-gwmni masnachu wedi'i wneud er budd y rhiant elusen yn unig, ac nid er mwyn osgoi treth, gan yr elusen neu unrhyw un arall.
Ni fyddai buddsoddiad yn cael ei ystyried 'er budd y rhiant elusen', er enghraifft, pe byddai'r buddsoddiad yn hapfasnachol, neu wedi'i gymell gan awydd i gadw'r is-gwmni masnachu, waeth beth fo'r rhagolygon o adenillion economaidd i'r rhiant elusen.
Gall benthyciad sy'n honni ei fod yn fuddsoddiad hefyd gael ei ystyried gan HMRC Elusennau yn "wariant anelusennol" os:
- yw'r cytundeb benthyciad heb gynnwys y ddarpariaeth briodol ar gyfer ei ad-dalu;
- yw'r benthyciad heb ei warantu ac mae asedau gan y cwmni y gellid fod wedi gwarantu'r benthyciad arno;
- mae'r cytundeb benthyciad yn darparu ar gyfer cyfradd adenillion nad yw'n adlewyrchu lefel y risg; neu
- rhagwelwyd o'r dechrau na fyddai'r cytundeb benthyciad yn cael ei weithio allan, ee byddai'r benthyciad yn cael ei ddileu gan y rhiant elusen.
Mae'n bwysig i ymddiriedolwyr gadw cofnod o'r trafodion sy'n rhagflaenu unrhyw benderfyniad i wneud buddsoddiad mewn is-gwmni masnachu, a'u bod yn gallu dangos i HMRC Elusennau bod y dyletswyddau buddsoddi a ddisgrifir yn fras uchod wedi cael eu cyflawni'n briodol o ran gwneud y buddsoddiad hwnnw.
Gall y darpariaethau 'rhoddwr sylweddol' a ddeddfwyd yn Neddf Cyllid 2006 hefyd gael yr effaith o drin buddsoddiad elusen mewn busnes fel gwariant anelusennol, os yw'r busnes hwnnw wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i'r elusen. Fodd bynnag, ni all is-gwmni masnachu fod yn 'rhoddwr sylweddol' mewn perthynas â'i riant elusen ei hun, waeth beth fo maint y taliadau y mae'n eu gwneud, neu wedi'u gwneud, i'r rhiant elusen.
Gwybodaeth bellach
Cyfeiriwch at wefan HMRC a'r canllaw Masnachu a gweithgareddau busnes.
Ch13. Ydy is-gwmni masnachu yn mwynhau manteision TAW a threth gorfforaeth a roddir i'w riant elusen?
Yr ateb byr
Mae is-gwmni masnachu yn mwynhau rhai, ond nid pob un o fanteision TAW ei riant elusen, ar yr amod bod rhai amodau'n cael eu bodloni. Nid oes unrhyw fanteision cyfatebol o ran treth gorfforaeth.
Yn fwy manwl
Ar yr amod bod yr is-gwmni masnachu yn trosglwyddo'r elw masnachu sy'n deillio o'r gwerthiannau perthnasol i'r elusen o dan gytundeb ysgrifenedig neu rwymedigaeth gyfreithiol arall, gall manteision canlynol y rhiant elusen hefyd fod yn gymwys i is-gwmni masnachu:
- TAW cyfradd sero ar werthu neu osod nwyddau a roddwyd (gweler C3);
- eithriad TAW ar werthu nwyddau a gwasanaethau gan is-gwmni masnachu mewn cysylltiad â digwyddiadau codi arian (gweler C13).
Nid yw eithriadau treth gorfforaeth gyfatebol yn gymwys. Fodd bynnag, gall yr is-gwmni masnachu leihau ei atebolrwydd i dalu treth gorfforaeth drwy wneud taliadau i'r rhiant gwmni fel Rhodd Cymorth (gweler Ch1 i 4).
Ch14. Ydy is-gwmnïau masnachu yn gymwys i gael rhyddhad ardrethu?
Yr ateb byr
Nid oes gan is-gwmnïau masnachu hawl absoliwt i ryddhad ardrethu ar gyfer eiddo a feddiannir ganddynt. Ond gall yr awdurdod ardrethu roi rhyddhad treth yn ôl ei ddisgresiwn.
Yn fwy manwl
Gall eiddo annomestig a feddiannir ac a ddefnyddir gan elusen hawlio rhyddhad cyfradd orfodol o 80%, a elwir yn 'rhyddhad cyfradd elusen'. Gall yr 20% sy'n weddill gael ei hepgor yn ôl disgresiwn yr awdurdod ardrethu lleol. Er mwyn bod yn gymwys am y rhyddhad hwn, rhaid i eiddo:
- gael ei feddiannu gan elusen, neu ymddiriedolwyr elusen; a
- chael ei ddefnyddio'n llwyr neu'n bennaf at ddibenion elusennol.
Yn y cyd-destun hwn, fel rheol nid yw'r term 'dibenion elusennol' yn cynnwys gweithgareddau codi arian, ond mae'n cynnwys gwerthu nwyddau a roddwyd.
Nid yw'r rhyddhad gorfodol hwn ar gael yn achos eiddo a feddiannir gan is-gwmni masnachu. Fodd bynnag, mae disgresiwn gan awdurdodau ardrethu i roi rhyddhad treth i rai cyrff nad ydynt yn elusennau.
Mae eiddo a feddiannir yn rhannol gan elusen ac a ddefnyddir at ddibenion elusennol, ac yn rhannol gan is-gwmni masnachu, yn gymwys i gael rhyddhad ardrethu elusen gorfodol dim ond ar gyfer y rhan a feddiannir gan yr elusen.
Gall rhyddhad cyfradd elusen fod ar gael os yw elusen yn meddiannu eiddo er bod yr eiddo yn cael ei ddefnyddio'n rhannol i godi arian, ar yr amod y caiff ei ddefnyddio'n 'bennaf' at 'ddibenion elusennol'. Er bod y fasnach codi arian yn mynd rhagddo gan is-gwmni masnachu, gall yr elusen ddadlau ei fod yn meddiannu'r eiddo cyfan, ac yn ei ddefnyddio'n 'bennaf' at ddibenion elusennol.
Er enghraifft, os yw nwyddau a roddwyd yn cael eu gwerthu yn yr un siop â nwyddau a brynwyd i mewn, gall yr elusen werthu'r nwyddau a roddwyd ei hun (gan gofio nad yw hyn yn 'fasnachu' (gweler C3) a gall werthu'r nwyddau a brynwyd i mewn fel asiant i'r is-gwmni masnachu (gweler C10). Yna gall yr elusen hawlio rhyddhad ardrethu elusen ar gyfer y siop drwy fodloni'r awdurdod fod y siop wedi'i meddiannu gan yr elusen 'yn bennaf' at ddiben gwerthu'r nwyddau a roddwyd.
Nid oes diffiniad statudol o 'yn bennaf'. Fodd bynnag, dadleuir yn aml os yw gwerth gwerthiannau nwyddau a roddwyd mewn cyfnod arbennig yn fwy na gwerth gwerthiannau nwyddau a brynwyd i mewn, bod yr eiddo yn cael ei ddefnyddio'n 'bennaf' ar gyfer gwerthu nwyddau a roddwyd, ac felly at ddibenion elusennol. Mewn achosion o'r fath dylai'r ymddiriedolwyr gysylltu â'r awdurdod ardrethu priodol ac, os oes angen, eu cynghorwyr cyfreithiol eu hunain am gyngor pellach.
Ch15. All ymddiriedolwyr elusen a gweithwyr weithio i is-gwmni masnachu hefyd?
Yr ateb byr
Mae'n arferol i rai o ymddiriedolwyr a/neu weithwyr rhiant elusen fod yn gyfarwyddwyr is-gwmni masnachu hefyd. Fodd bynnag, bydd y cyfyngiadau arferol ar dalu ymddiriedolwyr elusen am unrhyw waith a wnânt ar gyfer yr elusen hefyd yn gymwys i unrhyw waith a wnânt i'r is-gwmni masnachu.
Yn fwy manwl
Er mwyn sicrhau bod yr is-gwmni masnachu yn cael ei reoli er lles y rhiant elusen, a monitro ei berfformiad, bydd rhai o'r ymddiriedolwyr a/neu weithwyr yr elusen yn gweithredu fel cyfarwyddwyr yr is-gwmni masnachu yn aml. Fodd bynnag, rhaid iddynt gofio bod yr elusen a'r is-gwmni masnachu yn endidau gwahanol. Mae dau gyfrifoldeb gwahanol gan unrhyw un sy'n ymwneud â gweinyddu'r ddau, a gall fod yn anodd cydbwyso'r cyfrifoldebau sy'n gwrthdaro ar brydiau.
Nid oes modd talu ymddiriedolwr elusen am ei wasanaethau fel cyfarwyddwr neu weithiwr is-gwmni masnachu'r elusen oni bai:
- fod dogfen lywodraethol yr elusen yn darparu'n benodol ar gyfer hyn; neu
- mae rhyw awdurdod penodol arall, megis gorchymyn gan y Comisiwn Elusennau.
Ni all sefydlu is-gwmni masnachu, os yw cyfarwyddwyr yr is-gwmni hwnnw yr un bobl ag ymddiriedolwyr y rhiant elusen, gael ei ddefnyddio fel dull o dalu ymddiriedolwyr yr elusen 'trwy'r drws cefn'.
Fel mater o lywodraethu da, dylai fod:
- o leiaf un unigolyn sy'n ymddiriedolwr, ond heb fod yn gyfarwyddwr nac yn weithiwr yr is-gwmni masnach; ac
- o leiaf un unigolyn sy'n gyfarwyddwr yr is-gwmni masnachu, ond heb fod yn ymddiriedolwr neu'n weithiwr yr elusen.
Disgrifir y bobl hyn fel pobl 'heb unrhyw wrthdaro' oherwydd nid oes unrhyw wrthdaro buddiannau yn eu rolau. Dylai'r ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr heb wrthdaro gynghori eu cydweithwyr ynghylch y camau priodol i'w cymryd os yw dyletswyddau’r rhai sydd â ddau gyfrifoldeb yn gwrthdaro. Mae hyn yn lleihau'r risg o unrhyw drafodiad rhwng y rhiant elusen a'r is-gwmni masnachu yn cael ei herio neu ei gwestiynu.
Os yw'r ymddiriedolwyr wedi dirprwyo cyfrifoldeb dros fonitro gweithrediad yr is-gwmni masnachu i bwyllgor wedi'i ffurfio'n gyfan gwbl o bobl sy'n gyfarwyddwyr neu'n weithwyr yr is-gwmni, dylent sicrhau bod systemau mewn lle i sicrhau bod cyngor yn cael ei geisio gan ymddiriedolwr heb wrthdaro os yw'n briodol.
Ch16. Beth ddylai ymddiriedolwyr ei wneud os yw'r is-gwmni masnachu mewn trafferthion ariannol?
Yr ateb byr
Rhaid i ymddiriedolwyr roi buddiannau'r rhiant elusen yn gyntaf bob amser. Weithiau bydd hyn yn golygu diddymu, neu werthu, is-gwmni masnachu aflwyddiannus. Os yw ymddiriedolwyr yn cadw is-gwmni masnachu aflwyddiannus ar draul yr elusen, gallant fod yn atebol yn bersonol am golledion dilynol i'r elusen.
Yn fwy manwl
Os yw'r is-gwmni masnachu wedi bod yn rhedeg ar golled am gyfnod sylweddol, heb unrhyw ffactorau tymor byr arbennig, rhaid i'r ymddiriedolwyr ystyried dichonolrwydd yr is-gwmni masnachu. Rhaid i ymddiriedolwyr gadw unrhyw golledion i'r elusen i'r lleiaf posibl, heb ystyried unrhyw deimlad o rwymedigaeth foesol a all fod gan yr ymddiriedolwyr tuag at yr is-gwmni masnachu, ei gyfarwyddwyr a'i weithwyr.
Os yw'r ymddiriedolwyr yn buddsoddi arian pellach i gefnogi is-gwmni masnachu sy'n colli arian ar adeg pan oedd yn glir bod methiant yr is-gwmni yn debygol, gallai hyn olygu tor-ymddiriedaeth ar eu rhan a'u rhoi mewn risg personol o wneud iawn am unrhyw golledion i'r elusen. Dylai ymddiriedolwyr sy'n wynebu'r amgylchiadau hyn geisio cyngor gan eu cynghorwyr proffesiynol.
Os yw'r is-gwmni masnachu yn diffygdalu ar gytundeb benthyciad â'r elusen, rhaid i'r ymddiriedolwyr ystyried gorfodi hawliau'r elusen o dan y cytundeb. Wrth benderfynu ar yr union gamau i'w cymryd, rhaid i'r ymddiriedolwyr ddefnyddio eu barn fasnachol, yn seiliedig ar gyngor proffesiynol priodol. Rhaid i'w penderfyniad gael ei seilio ar les gorau'r elusen sy'n berchen ar yr is-gwmni masnachu.
Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldebau tebyg os yw'r elusen wedi buddsoddi cyfalaf cyfrannau yn yr is-gwmni masnachu, er nad yw cyfalaf cyfrannau yn agored i'w ad-dalu. Yn y pendraw, ymateb y rhiant elusen - yn ei rôl fel cyfranddaliwr - i fethiant yr is-gwmni masnachu yw naill ai sicrhau bod yr is-gwmni yn cael ei ddwyn i ben neu werthu'r busnes fel busnes byw i drydydd parti.
Gallai ymddiriedolwyr ofni y byddai caniatáu i is-gwmni masnachu gael ei ddiddymu'n ansolfent yn cael effaith andwyol ar enw da'r elusen. Gallai hyn ymddangos fel petai'n cyfiawnhau gwneud buddsoddiad pellach, a/neu gadw buddsoddiadau sy'n bod yn yr is-gwmni, er mwyn atal neu leihau colledion i gredydwyr yr is-gwmni.
Fodd bynnag, prif bwynt ymgymryd â masnach drwy is-gwmni masnachu yw diogelu asedau'r elusen rhag risgiau'r fasnach (gweler Ch1). Defnyddio'r asedau hynny i ddiogelu credydwyr yr is-gwmni yw'r union ganlyniad y mae cyfyngiadau'r gyfraith elusennau ar fasnachu gan elusen ei hun yn ceisio ei atal. Os yw ymddiriedolwyr yn gweithredu i gadw'r is-gwmni masnachu mewn busnes, waeth beth fo buddiannau'r elusen, gallant fod yn atebol yn bersonol am unrhyw golled ddilynol yng ngwerth buddsoddiad yr elusen yn yr is-gwmni masnachu.
Ch17. Pa ddyletswyddau sydd gan ymddiriedolwyr elusen o ran is-gwmnïau masnachu?
Yr ateb byr
Rhaid i ymddiriedolwyr fonitro perfformiad yr holl is-gwmnïau masnachu yn gyson, a buddsoddiadau'r rhiant elusen ynddynt, gyda'r nod o sicrhau defnydd da a phriodol o asedau'r elusen. Rhaid iddynt fod yn barod i ymarfer hawliau'r rhiant elusen fel cyfranddaliwr.
Yn fwy manwl
Rhaid i ymddiriedolwyr adolygu'r berthynas rhwng y rhiant elusen a'r is-gwmni masnachu yn rheolaidd. Diben sefydlu is-gwmni masnachu fel rheol yw codi arian i'r elusen, a dylai ei effeithiolrwydd yn hyn o beth gael ei fonitro. Ni ddylai adolygiad o fuddsoddiadau aros am sbardun penodol, megis darganfod bod is-gwmni masnachu mewn trafferthion ariannol.
Rhaid i ymddiriedolwyr y rhiant elusen hefyd ymarfer hawliau'r elusen fel cyfranddaliwr yn yr is-gwmni masnachu er mwyn hybu buddiannau'r elusen. Mae cyfarwyddwyr yr is-gwmni masnachu yn gyfrifol am ei reoli, ond yr ymddiriedolwyr, fel cynrychiolwyr y rhiant elusen, sy'n gwneud y prif benderfyniadau eraill. Er enghraifft, mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am:
- penodi/diswyddo cyfarwyddwyr yr is-gwmni masnachu;
- telerau gwasanaeth y cyfarwyddwyr, gan gynnwys unrhyw dâl; a
- pharhad, neu ddiddymiad yr is-gwmni masnachu.
Ch18. All is-gwmni masnachu gael ei berchen gan fwy nag un elusen?
Yr ateb byr
Gall. Nid oedd y math hwn o strwythur sefydliadol yn cael ei annog ar un adeg drwy waharddiad ar wneud taliadau Rhodd Cymorth gan is-gwmni masnachu gyda mwy nag un perchennog elusennol i'r perchnogion hynny. Ond nid yw'r gwaharddiad hwn yn bod mwyach.
Yn fwy manwl
Gall un elusen berchen ar is-gwmni masnachu yn llwyr, neu gall nifer o elusennau berchen arno ar y cyd. Yn amlwg, yn yr ail achos, mae'n rhaid i'r elusennau dan sylw gytuno i rannu elw masnachu'r is-gwmni.
Mae'r sylwadau ynghylch mentrau ar y cyd yn nau baragraff diwethaf Ch9 yr un mor berthnasol i fentrau ar y cyd ag elusennau eraill.
Ch19. All elusen warantu rhwymedigaethau is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Ni fydd modd gorfodi gwarantau o'r fath, os cânt eu rhoi, yn erbyn yr elusen a gall yr ymddiriedolwyr wynebu atebolrwydd personol.
Yn fwy manwl
Gellir gwahodd rhiant gwmni neu ei ymddiriedolwyr i warantu rhwymedigaethau is-gwmni masnachu. Er enghraifft, gall banc yr is-gwmni masnachu fod yn amharod i ddarparu cyfleusterau gorddrafft i'r is-gwmni masnachu oni bai fod y rhiant elusen (neu ei ymddiriedolwyr) yn gwarantu rhwymedigaeth yr is-gwmni masnachu i ad-dalu.
Os yw ymddiriedolwyr rhiant elusen yn rhoi gwarant o'r fath, ac mae rhwymedigaeth o dan y warant yn cael ei gorfodi gan gredydwr yr is-gwmni masnachu, nid yw ymddiriedolwyr yn debygol o gael yr hawl i gael eu hindemnio o'r elusen, a bydd rhaid iddynt fodloni'r atebolrwydd yn bersonol, os:
- yw'r atebolrwydd yn deillio o fethiant masnach y mae is-gwmni masnachu yn ymgymryd â hi; ac
- ni allai'r rhiant elusen ei hun fod wedi ymgymryd â'r fasnach honno ei hun.
Effaith syml caniatáu gorfodi'r warant ar draul yr elusen fyddai rhwystro diben cyfyngiad y gyfraith elusennau ar yr elusen yn ymgymryd â'r fasnach ei hun.
Os yw gwarant o'r fath yn cael ei rhoi gan riant elusen gorfforedig, mae'n bosibl na fydd yn ddilys o gwbl. Bydd dilysrwydd gwarant o'r fath yn dibynnu ar:
- ddarpariaethau cyfansoddiad yr elusen; a
- darpariaethau adran 65 Deddf 1993 (mae'r adran hon yn gymwys i gwmnïau elusennol, ond mae darpariaethau tebyg yn gymwys i gymdeithasau diwydiannol a darbodus elusennol). Disodlir y ddarpariaeth hon gan ddarpariaeth debyg yn Neddf Cwmnïau 2006 (adran 42).
Os gellir gorfodi atebolrwydd o dan y warant, a chaiff ei orfodi gan gredydwyr yr is-gwmni masnachu, gall yr ymddiriedolwyr fod yn atebol yn bersonol i wneud iawn am atebolrwydd yr elusen gorfforedig o dan y warant, os:
- yw'r atebolrwydd yn deillio o fethiant masnach y mae is-gwmni masnachu yn ymgymryd â hi; ac
- ni allai'r rhiant elusen ei hun fod wedi ymgymryd â'r fasnach honno.
Yn ogystal, gall taliadau a wnaed gan riant elusen o dan warant o atebolrwydd is-gwmni masnachu gael eu hystyried yn wariant anelusennol, gan greu effaith treth a allai fod yn niweidiol i'r elusen.
Mae cofrestru 'grŵp TAW' sy'n cynnwys elusen a'i his-gwmni neu is-gwmnïau masnachu yn golygu bod pob endid o fewn y grŵp yn gwarantu bodloni rhwymedigaethau TAW endidau eraill o fewn y grŵp. Nid oes unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i gofrestru elusen fel rhan o grŵp TAW. Ond cyn gwneud hynny, rhaid i ymddiriedolwyr fodloni eu hunain bod manteision cofrestriad grŵp yn drech na'r risg o golled i asedau'r elusen, os oes rhaid defnyddio'r asedau hynny i fodloni rhwymedigaeth TAW is-gwmni masnachu.
Yn gyffredinol, rhaid i ymddiriedolwyr geisio sicrhau y gellir dangos bod yr holl drefniadau ar delerau masnachol ac er lles yr elusen, ac nid ydynt yn creu'r trafferthion a nodwyd uchod.
Gwybodaeth bellach
Gall gwarantu rhwymedigaethau is-gwmnïau masnachu fod yn faes cymhleth, a dylai ymddiriedolwyr geisio cyngor proffesiynol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
Ch20. All rhiant elusen a'i his-gwmni masnachu gyfuno eu cyfrifon banc?
Yr ateb byr
Gallant, nid oes unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i gyfuno cyfrifon banc er mwyn cael telerau busnes gwell gan y banc. Fodd bynnag, rhaid cadw strwythurau ariannol y rhiant elusen a'r is-gwmni masnachu ar wahân.
Yn fwy manwl
Gall cyfrifon banc elusen a'i his-gwmni neu is-gwmnïau masnachu gael eu cyfuno ar yr amod bod:
- cofnod priodol yn cael ei gadw o gyflwr y gweddillion yn y cyfrifon unigol sydd wedi cael eu cyfuno;
- manteision a beichiau'r cyfrif cyfunol yn cael eu dyrannu'n deg rhwng y rhiant elusen a'r is-gwmni neu is-gwmnïau masnachu, gan ystyried cyflwr y cyfrifon unigol; ac
- nid yw cyfuno yn golygu bod gwariant anelusennol yn codi i'r elusen, sydd yn ei dro yn creu effaith treth bosibl, neu mae'r elusen yn dioddef anfantais treth fel arall.
Gwybodaeth bellach
Gall trefniadau cronni fod yn faes cymhleth, ac mae cyngor proffesiynol yn cael ei argymell, gyda'r nod o sicrhau y gellir dangos bod yr holl drefniadau ar delerau masnachol ac er lles yr elusen.
Ch21. All is-gwmni masnachu ddefnyddio tir ac adeiladau ei riant elusen?
Yr ateb byr
Gall. Ond rhaid i ddefnydd o'r fath fod ar sail gytundebol briodol ac ar delerau masnachol priodol.
Yn fwy manwl
Dylai unrhyw ddefnydd o dir ac adeiladau'r rhiant elusen gan is-gwmni masnachu gael ei gynnwys drwy brydles neu drwydded ffurfiol yr eiddo dan sylw o'r elusen i'r is-gwmni. Rhaid i'r is-gwmni masnachu dalu rhent neu ffi sy'n cyfateb i'r hyn a fyddai'n daladwy ar gyfer gosod yr eiddo ar y farchnad agored.
Bydd rhoi prydles, a gall rhoi trwydded, gael ei ystyried yn werthu tir elusen. Bydd angen i warediad o'r fath gael ei awdurdodi gan y Comisiwn oherwydd bod yr is-gwmni masnachu yn 'berson cysylltiedig' mewn perthynas â'r elusen. Os yw elusen yn prynu tir i is-gwmni masnachu ei ddefnyddio, rhaid cyfiawnhau hyn fel buddsoddiad o adnoddau'r elusen yn nhermau'r adenillion masnachu a dderbynnir.
Mae elusennau'n cael eu heithrio o dreth tir toll stamp ar dir a brynir (sy'n cynnwys adeiladau). Ond nid yw'r rhyddhad yn gymwys i dir a brynir gan is-gwmnïau masnachu. Bydd yr eithriad hwn yn cael ei golli os nad oes modd cyfiawnhau prynu'r tir a'r adeiladau fel buddsoddiad o adnoddau'r elusen; neu os yw'n cael ei wneud er mwyn osgoi treth gan yr is-gwmni masnachu.
Gwybodaeth bellach
Gweler canllaw'r Comisiwn Gwerthiannau, prydlesi, trosglwyddiadau neu forgeisiau: Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr wybod am waredu tir elusenna (CC28).
Ch22. All elusen fuddsoddi'n anuniongyrchol mewn is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Gall. Mae buddsoddi anuniongyrchol fel caniatáu defnyddio amser staff ac offer swyddfa yn ddull pwysig o gymorth i is-gwmni masnachu. Fodd bynnag rhaid i'r elusen godi tâl ar yr is-gwmni, am werth teg, ar gyfer y gwasanaethau o'r fath neu am ddefnyddio cyfleusterau.
Yn fwy manwl
Gall buddsoddi anuniongyrchol mewn is-gwmni masnachu fod cyn bwysiced i ddichonolrwydd yr is-gwmni masnachu â chyfalaf a ddarperir yn ffurfiol gan yr elusen. Soniwyd eisoes am ganiatáu i'r is-gwmni masnachu ddefnyddio tir ac adeiladau’r elusen (gweler Ch21). Gall buddsoddi anuniongyrchol hefyd fod ar ffurf y rhiant elusen yn caniatáu i'r is-gwmni masnachu ddefnyddio staff ac offer yr elusen.
Fodd bynnag, ni all buddsoddi anuniongyrchol gynnwys unrhyw elfen o roi cymhorthdal i'r is-gwmni masnachu, oherwydd byddai hynny'n atal gwerthuso perfformiad yr is-gwmni fel buddsoddiad mewn modd gwrthrychol. Gall trefniadau sy'n cynnwys yr elusen yn rhoi cymhorthdal i'r is-gwmni masnachu gael effaith dreth niweidiol hefyd oherwydd, yn gyffredinol, nid yw cymorthdaliadau o'r fath yn debygol o fod yn 'wariant elusennol' o dan Ddeddf 1988.
Felly, dylai'r rhiant elusen godi tâl am unrhyw wasanaethau a chyfleusterau y mae'n eu darparu i'r is-gwmni masnachu. Yn unol â hynny:
- Os yw staff a gyflogir gan yr elusen yn gwneud peth gwaith i'r is-gwmni masnachu, neu os yw'r is-gwmni masnachu yn defnyddio cyfleusterau y mae'r elusen yn berchen arnynt, rhaid i'r elusen godi tâl priodol.
- Rhaid talu costau o'r fath o fewn cyfnod rhesymol. Gall costau sydd heb eu talu fod yn fath o gyllido tymor hir arwyddocaol, a chael eu hystyried yn fath o gymhorthdal y mae'r elusen yn ei roi i'r is-gwmni masnachu.
- Fel rheol ni ddylai taliadau o'r fath fynd y tu hwnt i ad-dalu costau'r elusen; os ydynt, cânt eu hystyried fel derbyn masnach y mae'r elusen yn ymgymryd â hi, ac mae’n bosibl na fydd yr elw sy'n deillio ohono yn gymwys i gael ei eithrio rhag talu treth.
Gallai trefniadau rhannu costau gael eu herio gan HMRC Elusennau, os nad yw'r costau'n cael eu cyfrifo mewn ffordd dderbyniol neu eu rhannu'n briodol.
Dylid defnyddio trefniadau o'r fath dim ond os yw staff a chyfleusterau yn cael eu rhannu rhwng y rhiant elusen a'r is-gwmni masnachu. Os yw staff yn cael eu cyflogi ar fusnes yr is-gwmni masnachu yn unig, dylai'r is-gwmni masnachu gyflogi'r staff. Os defnyddir offer gan yr is-gwmni masnachu yn unig, dylai'r is-gwmni masnachu berchen ar yr offer.
Rhaid ystyried yn ofalus trefniadau rhannu rhwng y rhiant elusen a'r is-gwmni masnachu, gyda'r nod o sicrhau nad ydynt yn amharu ar allu'r elusen i gyflawni ei hamcanion. Dylai ymddiriedolwyr sydd eisiau dilyn trefniadau o'r fath geisio cyngor gan eu cynghorwyr proffesiynol eu hunain a chysylltu â'r Comisiwn yn gynnar yn y broses.
Gall fod angen i rai grwpiau elusennau mawr iawn ystyried goblygiadau deddfwriaeth prisiau trosglwyddo hefyd. Os yw'n gymwys, mae hyn yn gofyn am brisio trafodion 'hyd braich' o fewn y grŵp elusen at ddibenion treth, waeth beth fo telerau'r cytundeb rhwng y rhiant elusen a'r is-gwmni masnachu. Gall defnyddio pris hyd braich yn lle'r pris go iawn (at ddibenion treth) gynyddu derbyniadau masnach, cynyddu elw'r fasnach, gan felly creu atebolrwydd i dalu treth. Dylid nodi nad yw HMRC Elusennau yn disgwyl i elusennau gomisiynu adroddiadau prisiau trosglwyddo drud fel rheol, ond dylai elusennau fod mewn sefyllfa i ddangos bod y trefniadau ar delerau masnachol (hyd braich).
Gwybodaeth bellach
Fe welwch arweinid HMRC ar ddeddfwriaeth prisiau trosglwyddo mewn llawlyfrau a gyhoeddir ar ei wefan - INTM 432090. Dylid ceisio cyngor proffesiynol os yw'r arweiniad hwn yn achosi pryder. Bydd HMRC Elusennau hefyd yn ateb ymholiadau penodol am ddeddfwriaeth ac arferion, ond ni all gynghori ar gynllunio sy'n gysylltiedig â threth.
Ch23. Sut gall is-gwmnïau masnachu gael eu henwi?
Yr ateb byr
Dylai enwau is-gwmnïau masnachu fod yn wahanol i enwau eu rhiant elusennau er mwyn osgoi dryswch hunaniaeth. Mae'r gyfraith cwmnïau hefyd yn cynnwys cyfyngiadau eraill ar ddewis enwau.
Yn fwy manwl
Y brif egwyddor wrth enwi is-gwmni masnachu yw bod hunaniaethau gwahanol y rhiant elusen a'r is-gwmni masnachu yn glir i bawb dan sylw. Felly dylai enwau'r rhiant elusen a'r is-gwmni masnachu fod yn wahanol er mwyn osgoi unrhyw ddryswch rhwng y ddau sefydliad.
Fodd bynnag, gall enw'r rhiant elusen gael ei gynnwys yn enw'r is-gwmni masnachu, ar yr amod nad yw hyn yn rhoi'r camargraff i'r rhai sy'n delio â'r is-gwmni eu bod yn delio â'r elusen ei hun. Er enghraifft, byddai'n dderbyniol i enwi is-gwmni masnachu fel 'Cwmni Gwerthu [enw'r elusen] Cyf'.
Mae'r gyfraith cwmnïau yn cyfyngu ar y defnydd o'r geiriau 'elusen' ac 'elusennau' yn enw unrhyw gwmni - rhaid ceisio cymeradwyaeth y cofrestrydd cwmnïau ar gyfer eu defnyddio. Fel rheol dylai'r geiriau hyn gael eu hosgoi yn enw'r is-gwmni masnachu ac eithrio pan fyddant yn ffurfio rhan o enw'r elusen ei hun, ac mae'r enw hwnnw yn cael ei integreiddio yn enw'r is-gwmni masnachu.
Diolchiadau
Mae'r Comisiwn Elusennau yn ddiolchgar i Gyllid a Thollau EM ac i'r unigolion, elusennau a sefydliadau eraill sydd wedi helpu i ddatblygu ac adolygu'r canllaw hwn. Mae'r Comisiwn hefyd yn cydnabod gwaith James Tickell ac Oliver Tickell a'u cymorth wrth ddrafftio'r fersiwn hon.