(Fersiwn 10/01)
Rhan 1 - Yr Adolygiad o'r Gofrestr
Pam adolygu'r Gofrestr Elusennau?
1. Mae'r Gofrestr Elusennau yn rhestr o elusennau a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr sy'n cael eu harolygu gennym ni. Ar hyn o bryd mae'n cynnwys manylion dros 185,000 o elusennau. Mae cyfrifoldeb statudol gennym i ddiweddaru'r rhestr hon. Mae'r ddealltwriaeth o'r hyn sy'n elusennol yn ôl y gyfraith wedi parhau i ddatblygu ers i'r Gofrestr gael ei chreu yn gyntaf 40 o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad, mae bron yn sicr bod sefydliadau ar y Gofrestr na fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn eu hystyried erbyn hyn yn elusennol a sefydliadau nad ydynt wedi'u cynnwys ond a ddylai efallai gael eu cynnwys.
2. Felly yr ydym yn ystyried, o fewn y gyfraith, a ddylai'r sefydliadau hynny sy'n cael budd o statws elusennol ar hyn o bryd gael eu hystyried yn elusennau o hyd dan y gyfraith. Byddwn hefyd yn ystyried a oes lle i gydnabod sefydliadau nad ydynt wedi'u cofrestru ar hyn o bryd fel rhai elusennol dan y gyfraith. Nodweddir ein hymagwedd tuag at hyn gan y defnydd o'n pwerau i gymhwyso a dehongli'r gyfraith mewn ffordd sy'n cydnabod yn llawn y gall yr hyn sy'n elusennol dan y gyfraith newid yn sgîl tueddiadau mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd.
3. Mae Nodweddion Hanfodol Elusennau, sydd i'w gweld yn Rhan 2, yn amlinellu'r egwyddorion a ddefnyddir. Mae'r rhain i gyd yn seiliedig ar y gyfraith elusennau bresennol.
Pam cynnal Adolygiad yn awr?
4. Mae'r flwyddyn 2001 yn dathlu 400 mlynedd ers y Rhagymadrodd i Ddeddf Defnyddiau Elusennol 1601, a sefydlodd y fframwaith gwreiddiol neu ffynhonnell y gyfraith elusennau. Ers hynny bu'r gyfraith elusennau yn datblygu er mwyn adlewyrchu amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n newid. Er y bu'r gorffennol yn werthfawr o ran dod â ni i'r fan lle yr ydym wedi cyrraedd heddiw, mae angen i ni edrych ymlaen at rôl yr elusen ac elusennau yn yr unfed ganrif ar hugain.
5. Mae'r cefndir cymdeithasol hwn i'r gyfraith elusennau sy'n newid o hyd wedi gweld symudiad arall gyda chyflwyno Deddf Hawliau Dynol 1998, sy'n pwysleisio pwysigrwydd yr hawliau a'r rhyddid a bennir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i'r Deyrnas Unedig. Felly dyma'r amser i edrych o ddifrif ar sut y mae'r Comisiwn yn defnyddio ei bwerau i ddehongli egwyddorion cyfreithiol sefydledig, a gafodd eu datblygu weithiau dan amgylchiadau cymdeithasol gwahanol iawn, er mwyn sicrhau bod y rhain yn cael eu dehongli mewn cyd-destun cymdeithasol modern ac yn cydymffurfio â hawliau'r Confensiwn. Rhan o'n nod o hybu ffydd y cyhoedd mewn gonestrwydd elusennau yw sicrhau bod y cysyniad o elusen yn parhau i fod yn gredadwy yn y gymdeithas fodern. Cydnabuwyd pwysigrwydd hyn wrth lansio'r Adolygiad o'r Gofrestr yn Ebrill 1998.
Ein hymagwedd tuag at yr Adolygiad
6. Mae'r Comisiwn, gan weithredu ar yr un sail â'r llysoedd, yn gweithio o fewn y rheolau cyfreithiol, ac yn dehongli'r rheolau cyfreithiol sy'n pennu a yw sefydliad yn elusennol. Mae'r rhain wedi eu hamlinellu'n bennaf mewn penderfyniadau'r llysoedd ar achosion arbennig yn hytrach na'u hamlinellu mewn Deddfau Seneddol. Efallai na fydd y llys yn darparu unrhyw gynsail uniongyrchol bob tro. Os felly, mae'n rhaid i ni benderfynu gan ddefnyddio egwyddorion cyfreithiol sylfaenol a yw'r atebion i'r problemau sy'n deillio o anghenion cymdeithasol ac economaidd newidiol yn elusennol yn ôl y gyfraith yn yr un ystyr â'r rheiny sydd eisoes yn cael eu derbyn gennym ni a'r llysoedd. Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried a fyddai llysoedd heddiw yn dilyn penderfyniad a wnaethpwyd nifer o flynyddoedd yn ôl ac mewn amgylchiadau gwahanol. Yn naturiol yr ydym yn ymateb i geisiadau gan sefydliadau unigol i gael eu cydnabod fel rhai elusennol. Yr ydym hefyd yn edrych mewn modd generig ar bynciau neu fathau o sefydliadau. Fel sy'n digwydd yn fwyfwy aml yn y llysoedd, byddwn yn ystyried, lle y bo'n briodol, yr egwyddorion sylfaenol a godir gan gais arbennig i gofrestru er mwyn darparu arweiniad ar gyfer achosion yn y dyfodol.
7. Mae ein cyhoeddiad ar wahân RR1a: Cydnabod Dibenion Elusennol Newydd yn amlinellu'n fras yr egwyddorion cyfreithiol sy'n rheoli statws elusennol a gallu'r Comisiwn i gydnabod dibenion elusennol newydd.
8. Gall sefydliad nad yw'n cael ei gofrestru, neu sy'n gwrthwynebu cael ei gofrestru apelio at yr Uchel Lys. Hefyd, gall unrhyw berson sydd, neu a all gael ei effeithio gan gofrestru sefydliad fel elusen, ar y sail nad yw'n elusen, wrthwynebu ei gofrestru neu wneud cais iddo gael ei dynnu o'r Gofrestr. Er enghraifft, oherwydd bod elusennau yn cael rhai manteision treth arbennig a manteision eraill sydd â goblygiadau i'r Trysorlys, gall Cyllid y Wlad gyflwyno achos i'r Comisiwn Elusennau a gall apelio at yr Uchel Lys yn erbyn penderfyniad y Comisiwn i gofrestru sefydliad fel elusen.
Cydnabod dibenion elusennol newydd
9. Mae'r gyfraith elusennau wedi datblygu tipyn ers y dibenion a nodwyd yn y Rhagymadrodd i Ddeddf Defnyddiau Elusennol 1601. Yn ei hanfod mae fframwaith y gyfraith elusennau wedi'i seilio ar y defnydd o gyfatebiaeth â dibenion presennol sydd eisoes yn cael eu derbyn fel rhai elusennol a thrwy gymhwyso'r prawf budd i'r cyhoedd. Mae'r Comisiwn yn gweithio o fewn y fframwaith cyfreithiol ond un o rinweddau'r fframwaith hwnnw yw ei fod yn galluogi'r llys a'r Comisiwn i gydnabod dibenion elusennol newydd, yn enwedig os yw hynny yn ymateb i amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n newid. Mae hyn yn golygu y gallwn ddefnyddio'r gyfraith mewn ymateb i'r newidiadau hynny heb yr angen am gyfreithiad hir neu gostus, neu ddeddfwriaeth. Mabwysiedir ymagwedd adeiladol tuag at yr egwyddor o gyfatebiaeth, er mwyn sicrhau bod y Rhagymadrodd i Ddeddf Defnyddiau Elusennol 1601 ac achosion cyfreithiol dilynol yn cael eu dehongli mewn cyd-destun modern. Amlinellir ein polisi ar gyfer penderfynu a yw dibenion newydd yn elusennol neu beidio yn Atodiad A.
Ein parodrwydd i gydnabod dibenion elusennol newydd
10. Mae'r Adolygiad o'r Gofrestr wedi dangos ein gallu a'n parodrwydd i gydnabod dibenion elusennol newydd (trwy dderbyn, er enghraifft, hybu adfywio trefol a gwledig, rhoi cymorth i'r di-waith a hybu adeiladu gallu cymunedol fel dibenion elusennol newydd) a mireinio'r amgylchiadau lle y byddem yn derbyn dibenion arbennig fel rhai elusennol (fel cadwraeth yr amgylchedd er enghraifft). Ond nid yw dibenion elusennol newydd yn gallu cael eu cydnabod yng nghyd-destun yr Adolygiad o'r Gofrestr yn unig; mae rhai dibenion elusennol newydd wedi cael eu derbyn yng nghyd-destun penderfyniadau a wnaed mewn achosion unigol. Ond gyda statws elusennol daw rai buddiannau (fel manteision ariannol) ac mae dyletswyddau gan elusennau (tuag at eu buddiolwyr, eu cymwynaswyr a'r cyhoedd) ac maent yn atebol i'r Comisiwn a'r llysoedd am eu gweithrediadau. Nid yw cydnabod statws elusennol (trwy'r broses gofrestru) yn rhywbeth y gellir ei wneud ar chwarae bach neu yn fympwyol. Felly nid oes rhwydd hynt gennym i gydnabod dibenion elusennol newydd; mae rhai cyfyngiadau.
Cyfyngiadau
11. Yn gyntaf, rhaid i ddibenion elusennol newydd fod yn debyg i ddibenion eraill a gafodd eu cydnabod yn flaenorol fel rhai elusennol, gan y llysoedd neu'r Comisiwn Elusennau.
12. Yn ail, ar gyfer unrhyw ddiben elusennol newydd bydd rhaid dangos pa fudd a ddaw i'r cyhoedd ohono (os na ellir gwneud unrhyw dybiaethau ynglŷn â'r budd i'r cyhoedd).
13. Yn drydydd, rhaid i ddibenion elusennol fod yn glir ac yn bendant. Mae hwn yn bwysig i bob elusen, ond mae'n arbennig o bwysig yn achos dibenion elusennol newydd er mwyn sicrhau bod elusennau sydd âr dibenion hynny yn gweithredu o fewn ffiniau penodol newydd statws elusennol. Hefyd mae'n bwysig er mwyn ein cynorthwyo ni i fonitro a rheoleiddio elusennau ac er mwyn i'r elusen allu, fel y dewis olaf, gael ei gweinyddu os oes angen dan gyfarwyddyd y llys.
14. Yn bedwerydd, er mwyn bod yn elusennol ni all diben fod yn ddiben gwleidyddol.
Effaith Deddf Hawliau Dynol ar statws elusennol
15. Mae gweithredu Deddf Hawliau Dynol 1998 yn brif ddatblygiad newydd oherwydd (ers 2 Hydref 2000) mae'n rhaid i bob awdurdod cyfreithiol gael ei ystyried yn erbyn cyfatebiaeth â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a chaiff ei ddehongli (gan y Comisiwn a'r llysoedd) yn y ffordd honno. Gall hyn newid y ffordd y mae rhai egwyddorion cyfreithiol hen sefydledig yn cael eu dehongli yn awr.
16. Mae effaith Deddf Hawliau Dynol ar ymagwedd y Comisiwn tuag at gydnabod dibenion elusennol newydd yn cael ei hystyried hefyd yn RR1a.
Defnydd adeiladol o'n pwerau
17. Mabwysiedir yr un ymagwedd tuag at bynciau'r Adolygiad ag a fabwysiedir ar gyfer ceisiadau unigol i gofrestru. Canlyniad hyn fydd naill ai gynnwys neu wahardd rhai mathau o sefydliad o'r Gofrestr. Mae'r Adolygiad o'r Gofrestr wedi dod â strwythur i ni ei ystyried ar gyfer rhai materion sy'n ymwneud â statws elusennol ond nid oes unrhyw beth newydd yn y defnydd adeiladol o'n pwerau o fewn y gyfraith er mwyn cymryd golwg ehangach o amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd y dydd gan gyfeirio at egwyddorion sylfaenol y gyfraith elusennau. Mae Atodiad B RR1a yn amlinellu rhai enghreifftiau o ble yr ydym wedi gwneud hyn yn y gorffennol.
18. Wrth ymarfer ein pwerau i gydnabod sefydliadau fel rhai elusennol at ddibenion y Gofrestr, gweithredwn mewn ffordd sy'n ceisio rhagweld yr ymagwedd y byddai'r llysoedd yn ei chymryd pe byddai statws elusennol sefydliad arbennig yn cael ei bennu gan y llysoedd. Yn unol â hyn nid oes gennym y pŵer i newid y gyfraith yn fwy na chael ein hymrymuso gan y llys i gydnabod y gall yr hyn a gafodd ei ystyried yn elusennol yn eu barn hwy newid gydag amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd newidiol. Byddai'n rhaid i unrhyw newidiadau y tu hwnt i hynny gael eu gwneud gan y llysoedd neu'r Senedd.
Proses yr Adolygiad
19. Mae pwysigrwydd yr Adolygiad i'r sefydliadau dan sylw ac i gymdeithas yn gyffredinol yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn ei gynnal yn ofalus. Felly bydd y gwaith, y dadansoddi a'r ymgynghori ar bob pwnc yn cymryd sawl blwyddyn i'w cwblhau. Bydd yn rhaglen dreigl gyda materion sydd angen eu trafod yn dod i'r amlwg yn barhaol.
20. Gyda dros 185,000 o elusennau ar y Gofrestr ni fyddai'n ymarferol i ni edrych ar honiad bob un y dylent barhau i gael statws elusennol, felly yr ydym yn ymgymryd â'r Adolygiad trwy edrych ar grwpiau arbennig o sefydliadau, neu Bynciau, yn eu tro er mwyn ei wneud yn hylaw, yn gyson ac yn effeithiol. Mae'r ymagwedd hon yn ein galluogi i adolygu meysydd newydd o statws elusennol lle nad yw unrhyw sefydliadau wedi'u cofrestru ar hyn o bryd. Mae pynciau adolygu yn debygol o ganolbwyntio ar ffiniau statws elusennol. Nid ydym am adolygu sefyllfa sefydliadau sydd yn amlwg yn dod o fewn diffiniadau elusennol presennol er efallai y bydd rhaid i ni adolygu sefyllfa'r sefydliadau hynny ar y gofrestr nad ydynt yn dod o fewn diffiniadau o'r fath.
21. Lle y bo'n briodol, byddwn yn cyflwyno papur ymgynghorol ar y pwnc i gynorthwyo wrth sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael cyfle i gynnig sylwadau. Os ydym yn gwneud hyn, byddwn yn ei anfon i sefydliadau sydd â diddordeb arbennig yn y pwnc ac maent ar gael ar gais hefyd. Cânt eu cyhoeddi ar ein safle ar y Rhyngrwyd. Maent ar gael i bawb a gall pawb gynnig sylwadau arnynt.
22. Bydd yr holl sylwadau o'r ymgynghoriadau hyn yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol ar gymeradwyo'r cynigion a drafodwyd yn y ddogfen ymgynghorol neu beidio. Bydd holl benderfyniadau'r Adolygiad yn cael eu datgan yn gyhoeddus, fel arfer trwy gyhoeddi canllaw ar y ffordd y caiff sefydliadau y cyfeirir atynt ym mhwnc yr Adolygiad eu trin yn y dyfodol.
Barn y cyhoedd
23. Mae'r llysoedd yn datblygu'r gyfraith elusennau er mwyn sicrhau bod barn y gyfraith am yr hyn sy'n elusennol yn cyfateb yn fras ag anghenion ac amodau cymdeithasol ac economaidd modern. Felly mae'r cysyniad cyfreithiol o elusen yn newid; ac mae ei ddatblygiad yn cael ei ddylanwadu gan syniadau ynglŷn â gwerthoedd cymdeithasol. Mae penderfyniadau'r llys yn adlewyrchu bywyd cyffredin, gan ystyried safbwyntiau a dderbynnir yn gyffredinol ar natur a defnyddioldeb yr hyn y mae sefydliad yn ceisio ei gyflawni a'r hyn sydd o fudd i'r cyhoedd. Felly, tra na all barn y cyhoedd bennu'r hyn sy'n elusennol a'r hyn nad yw'n elusennol, mae'n ffactor pwysig i'w ystyried wrth lunio'r ddealltwriaeth gyfreithiol o elusen.
24. Wrth wneud penderfyniadau yn gyffredinol ar faterion sydd o fudd i'r cyhoedd, mae'r llysoedd, a'r Comisiwn, yn rhoi ystyriaeth briodol i farn y cyhoedd cyn belled ag y bo'n cynrychioli:
- consensws cyffredinol; neu
- farn pobl am yr hyn a ddylai, fel mater o foeseg, gael ei ystyried yn fuddiol; neu
- ddealltwriaeth gyffredin o farn ddeallus.
Goblygiadau'r Adolygiad i sefydliadau
25. Nid yw'r Adolygiad o'r Gofrestr yn ymwneud â dod o hyd i ffyrdd o ddileu elusennau o'r Gofrestr. Yn wir mae eisoes yn bosib i ni nodi a chydnabod amcanion elusennol newydd a chyhoeddwyd canllawiau ar ffiniau unrhyw amcanion elusennol newydd a gydnabyddir. Os ydym yn cynhyrchu canllawiau o'r fath, neu os ydynt yn egluro'r ffiniau y gall elusennau gyda dibenion elusennol presennol weithredu o'u mewn, bydd yr un mor gymwys i'r elusennau hynny sy'n rhoi grantiau ar gyfer eu dibenion (yn hytrach nag ymgymryd â gwaith yn y maes hwnnw eu hunain).
26. Ond wrth ystyried Adolygiad pwnc gallwn ddod i'r casgliad nad oes hawl gan fathau arbennig o sefydliadau sydd wedi'u cynnwys ar hyn o bryd ar y Gofrestr i aros ar y Gofrestr a gall nifer ohonynt gael eu tynnu o'r Gofrestr. Ni allwn ragweld beth fydd canlyniadau Adolygiad pwnc ar gyfer unrhyw gorff arbennig. Byddai hyn yn rhagfarnu canlyniadau'r dadansoddiad manwl a'r ymgynghoriad helaeth angenrheidiol.
27. Ni fydd penderfyniadau ynglŷn â statws elusennol mathau arbennig o sefydliad yn cael eu gwneud dros nos. Bydd angen cael dealltwriaeth drwyadl o'r materion a'r pryderon. Byddwn yn trafod y materion gyda hwy a, lle y bo'n briodol, eu cyrff cynrychioliadol.
28. Bydd canllawiau manwl ar y camau y byddwn yn eu cymryd, a'r rhesymau dros y camau hyn, pan ddaw'n glir bod y Gofrestr Elusennau yn cynnwys sefydliadau nad ydynt yn elusennau ac na ddylent fod ar y Gofrestr, wedi'u cynnwys yn ein cyhoeddiad ar wahân RR6: Cynnal Cofrestr Elusennau Gywir.
Diben y Nodweddion Hanfodol
29. Yr ydym yn cynnal yr Adolygiad trwy ddefnyddio egwyddorion cyffredin. Mae Nodweddion Hanfodol Elusennau yn helpu yn hyn o beth. Fe'u lluniwyd i ddarparu fframwaith a dim mwy na hynny ar gyfer yr Adolygiad. Bydd penderfyniadau ar geisiadau unigol i gofrestru elusen yn parhau i gael eu gwneud ar ffeithiau'r cais ac nid ar sail y Nodweddion hyn.
30. Wrth baratoi'r Nodweddion yr oeddem am ddatblygu datganiad clir a syml i gynorthwyo'r Adolygiad a oedd yn cwmpasu'r egwyddorion sy'n ffurfio'r sail ar gyfer y gyfraith elusennau ar hyn o bryd. Byddai hyn yn cynorthwyo'r ddealltwriaeth o sut y mae'n rhaid i'r cysyniad cyfreithiol o elusen ddatblygu i ddelio ag anghenion ac amgylchiadau cymdeithasol newidiol. Mae'r egwyddorion i gyd wedi'u seilio ar y gyfraith bresennol.
31. Amlinellir Nodweddion Hanfodol Elusennau yn Rhan 2. Dyma'r nodweddion sy'n effeithio ar allu'r sefydliad i fod yn elusen.
32. Hefyd, cynhyrchwyd cyhoeddiad ar wahân CC60: Nodweddion Elusen Effeithiol sy'n ymdrin ag amrywiaeth o feysydd arfer dda. Nid yw'r nodweddion a amlinellir yn y cyhoeddiad yn pennu statws elusennol sefydliad; dyma'r nodweddion sy'n disgrifio orau nodweddion elusen sy'n cael ei rhedeg yn dda yn ein barn ni. Credwn fod elusen sy'n gallu dangos ei bod yn cyflawni, neu'n ceisio'n ddyfal i gyflawni'r nodweddion hyn yn un y gall y cyhoedd bod yn ffyddiog ynddi.
Rhan 2 - Nodweddion Hanfodol Elusennau
Mae nodweddion hanfodol elusennau fel a ganlyn:
(a) amcanion sydd i gyd yn cael eu cydnabod, ac yn parhau i gael eu cydnabod dan y gyfraith fel rhai sy'n elusennol yn unig h.y.:
(i) amcanion sydd wedi'u cyfeirio at ddarparu rhywbeth sydd o fudd amlwg i eraill yn y gymdeithas:
Mae'n rhaid i elusen gael y potensial i gynnal neu wella bywydau pobl yn y gymuned (nid yn unig cymunedau lleol ond hefyd y gymuned yn ei hystyr byd-eang ehangaf, gan gynnwys y ddynolryw, amgylcheddau naturiol a gwneuthuredig, a byd anifeiliaid). Mae anhunanoldeb a hunan-ddibyniaeth yn rhannau pwysig o natur unigryw elusen a'r ffordd y mae'n cyfrannu at les cymdeithas.
Elfen arall o'r budd y mae nifer o elusennau yn ei gyfrannu at y gymdeithas yw eu gallu i ysbrydoli eraill i wirfoddoli i weithio ar ran yr elusen, cynnig cymorth ariannol i gyflawni ei hamcanion neu gefnogi'r achos yn gyffredinol. Mae hyn yn arbennig o wir am elusennau sy'n flaengar, sy'n cymryd risg neu'n cyllido gwaith ymchwil a all ysbrydoli eraill trwy eu hesiampl eu hunain neu drwy apêl uniongyrchol am gefnogaeth y cyhoedd.
Gellir cael arweiniad ar y gofyniad cyffredinol bod rhaid i bob elusen gynnig budd i'r cyhoedd yn ein cyhoeddiad ar wahân RR8: Natur Gyhoeddus Elusennau, sydd hefyd yn berthnasol i is-baragraff (ii) isod.
(ii) amcanion nad ydynt yn ymwneud ƒ rhoi budd i unigolion mewn ffordd sy'n fwy nag unrhyw fudd i'r cyhoedd;
Elfen hanfodol o'r nodwedd hon yw na ddylai elusen fod yn hunanol. Nid yw'r gyfraith yn caniatáu i elusen, heblaw un sy'n rhoi cymorth i'r tlodion, gynnig mwy na budd preifat atodol ac mae bob amser wedi pwysleisio natur anhunanol elusennau.
Mae eithriadau i hyn e.e. os oes gan y sefydliad yr amcanion canlynol:
- gwella rhyw anfantais gymdeithasol; neu
- warchod adnodd cymunedol (fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig); neu
- os mai buddion uniongyrchol i unigolyn yw'r ffordd y mae'r budd cymdeithasol i'r gymuned yn cael ei gynnig (er enghraifft, mae'r gymuned gyfan yn cael budd pan fydd troseddwyr unigol yn cael eu hailsefydlu). Ond, mewn cyferbyniad â hyn, byddai budd ymddangosiadol i'r cyhoedd yn cael ei danseilio pe byddai buddion i unigolion yn fwy na mecanwaith yn unig sy'n cyflwyno amcanion elusennol (fel yn achos siop bentref y gallai'r perchnogion gael budd sylweddol ohoni).
(iii) amcanion sydd wedi'u cyfeirio at bethau nad ydynt yn niweidiol i'r ddynolryw yn gyffredinol;
Bydd yr hyn y mae sefydliad wedi cael ei ffurfio i'w wneud yn cael effeithiau gwahanol yn dibynnu ar ba safbwynt yr edrychir ar y rhain. Er enghraifft, bydd gwarchod rhywogaeth arbennig o anifail yn fuddiol (oherwydd ei bod yn cyfrannu at wyddor swolegol a gall gael buddion amgylcheddol neu gall warchod cronfa genynnau sydd ei hangen i gynnig rhyw fudd i'r cyhoedd). Ond i'r un graddau â hyn gall diogelu gael canlyniadau sy'n niweidiol i'r gymuned - e.e. lle mae'r rhywogaeth arbennig yn ferminog a/neu yn enwedig o ddinistriol i amaethyddiaeth. Mae'n rhaid i'r llysoedd neu'r Comisiwn Elusennau ffurfio barn trwy ystyried a fydd neu a all yr amcan weithio er budd y cyhoedd mewn amgylchiadau arbennig unrhyw achos.
(iv) amcanion pendant a chyfreithlon;
Mae'n rhaid i'r amcanion fodoli cyn i'r sefydliad gael ei dderbyn fel un elusennol. Ni ddylent fod mor eang neu mor amwys fel na all y llysoedd eu gorfodi. Os oes bwriad elusennol ond nid oes amcanion neu ddibenion a ddiffinnir yn glir, bydd y llys yn darparu'r manylion angenrheidiol. Mewn rhai achosion gall y bobl sy'n gyfrifol am weinyddu'r arian a gyfrannir at ddibenion elusennol sydd heb eu diffinio'n glir ddatgan ymddiriedolaethau mwy pendant eu hunain fel asiantau y cyfranwyr.
Nid yw "cyfreithlon" yn cyfeirio at y gyfraith elusennau yn unig, ond i'r holl ddeddfwriaeth a chonfensiynau rhyngwladol (cyn belled â'u bod yn berthnasol i elusennau), gan gynnwys y rhai sy'n gwahardd gwahaniaethu fel Deddf Cysylltiadau Hiliol 1977 a Deddf Hawliau Dynol 1998.
(v) amcanion nad ydynt yn dilyn nod plaid wleidyddol neu nod wleidyddol arall;
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i elusen beidio â chael y prif amcan o geisio neu wrthwynebu newidiadau yn y gyfraith neu mewn polisi neu benderfyniadau'r llywodraeth (yn y wlad hon neu dramor). Ni all gefnogi neu wrthwynebu plaid wleidyddol ychwaith. Mae gwaith ymchwil yn cadarnhau bod absenoldeb gwleidyddiaeth blaid o bwys arbennig i'r cyhoedd; nid ydynt am i elusennau gael eu gweld fel cyrff pleidiol. Gall pob elusen ymgymryd â gweithgareddau ymgyrchu os yw'n rhesymol i ddisgwyl y bydd y gweithgareddau hyn yn hybu eu nodau cyfreithiol. Mae'n rhaid i unrhyw ymgyrchu gael ei seilio ar achos cadarn a rhesymedig a'i fynegi mewn ffordd gyfrifol. Yn gyffredinol, ni ddylai ymgyrchu gefnogi polisïau unrhyw blaid wleidyddol arbennig. Gellir cael arweiniad pellach ar hyn yn ein cyhoeddiad CC9: Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau.
(b) mae'n annibynnol;
Mae annibyniaeth ymddiriedolwyr yn hanfodol. Mae'n rhaid iddynt wneud eu penderfyniadau eu hunain ac arfer eu doethineb er budd yr elusen yn unig. Mewn byd delfrydol byddai'r rheiny y tu allan i'r corff ymddiriedolwyr yn cydnabod hyn ac ni fyddent yn ceisio rhoi pwysau ar ymddiriedolwyr neu ddylanwadu arnynt fel arall. Gwyddom nad dyma yw'r achos bob tro ac yr ydym yn barod i gynorthwyo neu gyhoeddi arweiniad fel y bo'n briodol, os na ellir datrys y materion hyn o fewn yr elusen. Ni ddylai ymddiriedolwyr elusennau:
- gael eu rheoli neu eu cyfarwyddo gan unrhyw un y tu allan i'r elusen (ac eithrio os oes rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion cyfreithiol cyffredinol - fel iechyd a diogelwch - y mae corff allanol yn bodoli i'w gorfodi);
- gweithredu ar gyfarwyddiadau'r sawl neu'r corff a'u penododd fel ymddiriedolwyr, e.e. aelodau o'r elusen neu lywodraeth ganol neu leol;
- cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau allanol neu fewnol os byddent, drwy wneud hynny, yn gweithredu yn groes i ddibenion yr elusen.
Mae'n gwbl briodol i elusen gael darpariaethau sy'n golygu bod pobl heblaw'r ymddiriedolwyr yn cael dylanwadu ar y ffordd y mae'r elusen yn gweithredu neu dros fathau arbennig o benderfyniadau. Rhaid i bwerau o'r fath gael eu hymarfer er budd yr elusen. Gall y rhain gynnwys pwerau:
- sy'n caniatáu i aelodau benodi ymddiriedolwyr (a'u diswyddo mewn rhai achosion);
- dros hawliau aelodaeth;
- sy'n gofyn am ganiatâd person allanol er mwyn gweithredu mewn ffordd arbennig; (er enghraifft pan fydd rhaid ymgynghori â Sylfaenydd neu Setlwr yr elusen ynglŷn â'r ffordd y caiff incwm ei ddosbarthu); neu
- sy'n caniatáu i rywun y tu allan i'r corff ymddiriedolwyr e.e. gweithiwr, benderfynu sut y dylid defnyddio arian yr elusen o fewn y polisïau a luniwyd gan yr ymddiriedolwyr (ar yr amod bod yr ymddiriedolwyr bob amser yn cadw cyfrifoldeb dros weithrediadau'r dirprwy ac yn cadw'r gallu i ddiddymu'r ddirprwyaeth os oes angen).
Gweler hefyd ein cyhoeddiad ar wahân RR7: Annibyniaeth Elusennau o'r Wladwriaeth.
(c) mae'n gallu dangos bod unrhyw fantais bersonol, broffesiynol neu fasnachol yn atodol i gyflawni eu hamcanion elusennol, a bydd yn parhau i fod felly;
Yn gyffredinol, ni fydd sefydliadau sy'n cynnig mantais broffesiynol neu fasnachol i aelodau yn cael eu derbyn fel elusennau. Er hynny, fe dderbyniwyd mewn rhai achosion bod y budd i aelodau'r cyhoedd sy'n derbyn y gwasanaeth proffesiynol hwn yn fwy na'r manteision i'r unigolion hynny.
(ch) nid yw'n gosod amodau ynglŷn â chael y budd a gynigir neu gael aelodaeth sydd mewn gwirionedd yn cyfyngu ar argaeledd cyfleusterau mewn ffordd sy'n golygu nad yw'r sefydliad cyfan yn cynnig budd i'r cyhoedd.
Nid yw cyfyngu buddiannau i'r cyfoethog yn elusennol er y gall elusen godi tâl am ei gwasanaethau.
Er hynny gall fod yn briodol i gyfyngu'r budd a gynigir mewn amgylchiadau arbennig gan gynnwys:
- trwy natur amcanion yr elusen (ni ddylai elusen i bobl yn Bradford wario arian er budd pobl ym Mryste; mae'n rhaid i elusen sy'n cynorthwyo'r rheiny sy'n dioddef o'r meigryn sefydlu bod y rheiny y mae'n eu cynorthwyo yn dioddef o'r meigryn ac nid llosg eira);
- os yw'n rhesymol, er mwyn cynnig budd i'r cyhoedd, i ddisgwyl i'r aelodau gyrraedd safon arbennig o fedr neu wybodaeth neu feddu ar gymwysterau arbennig (fel cerddorfa berfformio neu gôr); neu
- os yw strwythur aelodaeth yn cael ei fabwysiadu, lle y bo'n briodol, i gynnig buddiannau mewn ffordd well (ar yr amod bod pob un a allai gael budd yn gallu ymuno a bod meini prawf gwrthrychol ar gyfer penderfynu ar yr aelodaeth).
Atodiad A - Polisi'r Comisiwn ar gyfer penderfynu a yw dibenion newydd sbon yn elusennol neu beidio
Ein polisi
A1. Yn 1985, adolygwyd ein polisi ar gyfer penderfynu a yw dibenion newydd sbon yn elusennol neu beidio1. Ar ôl edrych ar yr awdurdodau cyfreithiol, daeth y Comisiynwyr i'r casgliad bod rhaid iddynt ddilyn dull y llys o geisio cael cyfatebiaeth2. Mae dehongliad diweddar o'r polisi hwn fel a ganlyn:
Bydd y Comisiwn yn mabwysiadu ymagwedd adeiladol tuag at addasu'r cysyniad o elusen i ateb anghenion cymdeithasol sy'n newid yn gyson a syniadau newydd ar gyfer ateb yr anghenion hynny. Trwy weithredu o fewn y fframwaith cyfreithiol sy'n rheoli cydnabod dibenion elusennol newydd, byddem yn ceisio gweithredu'n adeiladol ac yn greadigol.
Wrth ystyried a yw dibenion newydd yn rhai elusennol byddwn yn ystyried yn ofalus y dibenion hynny sydd eisoes wedi cael eu cydnabod fel rhai elusennol naill ai dan y Rhagymadrodd neu ym mhenderfyniadau dilynol y llys neu'r Comisiwn. Byddwn hefyd yn edrych ar anghenion cyfoes y gymdeithas a deddfwriaeth berthnasol a basiwyd gan y Senedd ac, os yw hawliau'r Confensiwn yn fater i'w ystyried, ar y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a phenderfyniadau Llys Ewropeaidd Hawliau Dynol a Chomisiwn Ewropeaidd Hawliau Dynol.
Wrth benderfynu bod diben newydd yn un elusennol bydd angen i ni, gan ddilyn y fframwaith cyfreithiol, fod yn glir bod cydberthyniad digonol yn bodoli rhwng y dibenion newydd hyn a'r dibenion a dderbyniwyd eisoes fel rhai elusennol. Tra bydd cyfatebiaeth digon agos yn amlwg yn y rhan fwyaf o achosion, mewn achosion eraill gellir cael cyfatebiaeth trwy ddilyn yr egwyddorion bras a all ddeillio o destun y Rhagymadrodd neu o achosion a benderfynwyd yn y llys neu gan y Comisiwn.
Yn ogystal bydd rhaid i ni fod yn glir nad yw'r diben yn ddiben gwleidyddol fel y'i deallir dan y gyfraith elusennau a bod y dibenion wedi'u mynegi gydag eglurder a sicrwydd er mwyn hwyluso monitro gennym ni ac unrhyw reolaeth ddilynol gan y llys, os bydd hyn yn angenrheidiol.
A2. Mewn gwirionedd, byddwn yn chwilio am gyfatebiaeth addas er mwyn cadarnhau a yw'r ffordd y bydd diben yn cynnig budd i'r cyhoedd yn elusennol neu beidio. Credwn hefyd ei bod bron bob amser yn bosib i gael cyfatebiaeth, os yw natur y budd yn un a ddylai gael ei chydnabod fel un elusennol.
Notes
1. Gweler Adroddiad Blynyddol y Comisiwn 1985 para 24-27
2. Yn Barralet v. Y Twrnai Gwladol [1980] All ER 918, 926-7 ôl Dillon J.