(Version Hydref 2001)
Cynnwys
Pwrpas y cyhoeddiad hwn
1. Mae'r cyhoeddiad hwn yn amlinellu'n fras yr egwyddorion cyfreithiol sy'n rheoli statws elusennol a'r gallu sydd gan y Comisiwn i gydnabod dibenion elusennol newydd.
Beth yw elusen?
2. Er mwyn i sefydliad fod yn elusen mae'n rhaid iddo ddod o fewn y diffiniad cyfreithiol o "elusen" a bod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth yr Uchel Lys (Deddf Elusennau 1993, adran 96(1)). Er mwyn dod o fewn y diffiniad hwnnw rhaid i sefydliad gael dibenion sy'n elusennol yn unig a rhaid iddo gael ei sefydlu i gynnig budd i'r cyhoedd.
3. Er mwyn pennu pa ddibenion sy'n elusennol mae'r gyfraith yn defnyddio'r broses o gynsail a chyfatebiaeth. Mae'r llysoedd wedi penderfynu bod dibenion yn elusennol os ydynt yn dod o fewn yr amcanion a nodir yn y Rhagymadrodd i Ddeddf Defnyddiau Elusennol 1601 neu y penderfynwyd eu bod yn cyfateb i'r amcanion hynny. Mae'r Rhagymadrodd yn cynnwys rhestr o ddibenion a gafodd eu hystyried yn elusennol yn oes Elisabeth.
Pedwar pennawd elusennau
4. Mae'r llysoedd wedi ychwanegu at y rhestr o ddibenion a dderbynnir fel rhai elusennol dros y blynyddoedd ac yn 1891 dosbarthwyd dibenion elusennol dan bedwar pennawd gan yr Arglwydd Macnaghten yn achos Pemsel1:
- rhoi cymorth i'r tlodion (pennawd cyntaf);
- hyrwyddo addysg (ail bennawd);
- hyrwyddo crefydd (trydydd pennawd); a
- dibenion eraill sy'n cynnig budd i'r gymuned (pedwerydd pennawd).
Defnyddiwyd y dosbarthiad ers hynny fel mater o gyfleuster ond nid yw'n ddiffiniad.
5. Er bod y llysoedd yn parhau i ddefnyddio'r Rhagymadrodd fel maen prawf ac yn cyfeirio at ddosbarthiad Pemsel, cydnabuwyd ers tro bod rhaid i'r hyn a dderbynnir fel diben elusennol newid er mwyn adlewyrchu amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd y dydd. Felly bydd diben yn elusennol os yw wedi'i gynnwys ar y rhestr yn y Rhagymadrodd ond hefyd os yw'n cyfateb i unrhyw ddiben arall o fewn y rhestr neu y penderfynwyd ers hynny ei fod yn elusennol. Erbyn heddiw sefydlir nifer o elusennau at ddibenion na sonnir amdanynt yn y Rhagymadrodd.
6. Yn y ffordd hon, ehangwyd a datblygwyd dibenion elusennol gan benderfyniadau'r llysoedd a'r Comisiynwyr Elusennau, er mwyn i ddatblygiad y gyfraith adlewyrchu newidiadau mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd.
Pwerau'r Comisiwn i gydnabod dibenion elusennol newydd
7. Dan adran 3(1) Deddf Elusennau 1993, mae rheidrwydd ar y Comisiwn Elusennau i gadw Cofrestr o sefydliadau sy'n elusennau. Wrth gyflawni hyn mae'r pŵer gennym i gydnabod diben newydd fel diben elusennol mewn amgylchiadau lle y credwn y byddai'r llys yn gwneud hynny.
8. Mae'r un pwerau gennym â'r llys o ran pennu a oes gan sefydliad statws elusennol a'r un pwerau i roi ystyriaeth i amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n newid - i gydnabod diben fel un elusennol am y tro cyntaf neu gydnabod nad yw diben yn elusennol mwyach. Dehonglir a gweithredir y gyfraith mewn perthynas â statws elusennol yn unol â'r egwyddorion a osodwyd gan y llysoedd. Yn wyneb agweddau anghyson y llysoedd, mabwysiadwn agwedd adeiladol at addasu'r cysyniad o elusen er mwyn ateb anghenion y gymdeithas sy'n datblygu'n gyson. Felly mae'r Gofrestr Elusennau yn adlewyrchiad o'r penderfyniadau a wnaed gan y llysoedd ac mae ein penderfyniadau yn dilyn esiampl y llysoedd.
9. Mae'r llysoedd yn gosod yr egwyddorion sylfaenol yn fwyfwy wrth benderfynu achosion yngly^n â statws elusennol ac yn darparu canllawiau ar gyfer achosion yn y dyfodol. Mae'r dadansoddiad, gan Slade J. yn McGovern v Y Twrnai Gwladol2 o'r rheolau sy'n ymwneud â dibenion gwleidyddol yn enghraifft o'r agwedd hon. Yn yr un modd, lle y bo'n briodol, byddwn yn egluro'r egwyddorion sylfaenol sy'n codi mewn cais arbennig i gofrestru er mwyn darparu arweiniad ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol. Er enghraifft, wrth ddod i benderfyniad yngly^n â statws elusennol yr Eglwys Seientoleg (Cymru a Lloegr), bu'r Comisiynwyr yn ystyried ac yn gosod yr egwyddorion sylfaenol a gododd yn y cais arbennig hwnnw i gofrestru fel elusen er mwyn dod i'w penderfyniad a thrwy hynny ddarparu arweiniad ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol3.
Yr angen am fframwaith cyfreithiol hyblyg
10. Mae'r llysoedd yn cydnabod bod angen cael fframwaith cyfreithiol hyblyg er mwyn i ddibenion elusennol newydd gael eu cydnabod wrth i amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd newid. Er enghraifft, dywedodd yr Arglwydd Simonds yn achos Cymdeithas Gwrth-fywddyraniad Genedlaethol v IRC4 ei fod yn bosib na fydd dibenion sy'n cael eu hystyried yn fuddiol i'r cyhoedd ac yn elusennol mewn un oes yn cael eu hystyried felly yn oes diweddarach, ac i'r gwrthwyneb. Gan fod pw^er gan y llysoedd, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i beidio â dilyn penderfyniadau blaenorol y llys, mae pw^er tebyg gennym ni hefyd.
11. Mae'r llysoedd wedi pwysleisio nad yw'r gyfraith yn sefydlog ac, fel y nododd yr Arglwydd Hailsham yn IRC v McMullen5, mae'n rhaid i'r gyfraith newid wrth i syniadau am werthoedd cymdeithasol newid. Mae hyn yn awgrymu dau beth: yn gyntaf, gall amcanion a dibenion newydd na chawsant eu hystyried yn elusennol o'r blaen gael eu hystyried felly; yn ail, gall amcanion a dibenion a gafodd eu hystyried yn elusennol o'r blaen beidio â chael eu hystyried yn elusennol mwyach. Crynhodd yr Arglwydd Wilberforce yr egwyddor sydd i'w defnyddio yn Cymdeithas Diwygio Claddu ac Amlosgi yr Alban v Corfforaeth Glasgow6 pan ddywedodd bod rhaid i benderfyniadau'r llys "gadw'r gyfraith mewn perthynas ag elusennau i symud wrth i syniadau newydd godi neu wrth i hen syniadau gael eu disodli neu eu bodloni".
12. Mae'r llysoedd wedi nodi'n glir na chânt eu cyfyngu'n gaeth gan gynsail a gall diben arbennig beidio â bod yn elusennol wrth i amgylchiadau cymdeithasol newid. Felly, yn Cymdeithas Gwrth-fywddyraniad Genedlaethol v IRC7, dywedodd yr Arglwydd Wright:
"...... gall ymddiriedolaethau [sy'n darparu meddyginiaethau arbennig yr ystyrir eu bod yn lleddfu'r gofid a achosir gan henaint, salwch, anabledd neu dlodi], wrth i syniadau ac amodau economaidd a syniadau am wasanaeth cymdeithasol newid, beidio â chael eu cydnabod mwyach fel rhai sy'n cynnig budd i'r gymuned. A gall ymddiriedolaethau sy'n hyrwyddo dysgu neu addysg fethu â sicrhau lle fel elusennau, os ystyrir nad yw dysgu neu addysg o werth cyhoeddus".
Amgylchiadau cymdeithasol sy'n newid
13. Cydnabyddwn hefyd yr angen i weithredu'r gyfraith mewn amgylchiadau cymdeithasol sy'n newid, ond gallwn bennu pa ddibenion sy'n elusennol dim ond trwy ddilyn y ffordd y gwnaeth y llysoedd hyn neu drwy ddilyn y ffordd y rhagwelwn y byddai'r llysoedd yn gwneud hyn. Wrth benderfynu a yw dibenion newydd sbon yn elusennol neu beidio, ceisiwn ragfynegi'r penderfyniad y byddai'r llys yn ei wneud pe byddai'n ystyried y mater.
14. Y Comisiwn yw'r lefel gyntaf y gall sefydliad gael penderfyniad yngly^n â'i statws elusennol dan y gyfraith. Yn wyneb ein rôl broffwydol wrth asesu a all sefydliad fod yn elusennol trwy ragfynegi yr hyn y byddai'r llys ei hun yn penderfynu wrth ystyried diben elusennol newydd sbon, mae'n bosib y gallwn gydnabod diben elusennol newydd os yw'r fframwaith cyfreithiol yn caniatáu ar gyfer hynny. Mewn rhai achosion gallwn wyro oddi wrth gynsail gyfreithiol flaenorol wrthwynebol os bu newid pwysig mewn amgylchiadau o'r rheiny a fodolai pan wnaethpwyd penderfyniadau'r llys.
15. Felly yr ydym mewn sefyllfa i weithredu'r gyfraith mewn ymateb i amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n newid yn fwy cyflym, ac am lai o gost, na'r llysoedd. Wrth gwrs, nid yw hyn yn tynnu oddi wrth hawl sefydliad i apelio i'r Uchel Lys yn erbyn ein penderfyniad mewn perthynas â'i statws elusennol neu oddi wrth awdurdod y llysoedd i benderfynu yn y diwedd ar faterion statws elusennol.
Agwedd gyffredinol
16. Fel yr esboniwyd ym mharagraff 4 uchod, er cyfleuster dosbarthir dibenion elusennol dan bedwar pennawd fel arfer.
17. Mae dibenion elusennol newydd yn codi dan y pedwerydd pennawd yn aml, a ddisgrifir fel dibenion sy'n cynnig budd i'r gymuned8 neu sydd o ddefnydd cyffredinol i'r cyhoedd9, ond gall ffyrdd newydd neu flaengar o hybu tri phennawd cyntaf elusennau gael eu cydnabod hefyd. (Gweler Atodiad B am enghreifftiau o lle y cydnabuwyd y rhain yn y gorffennol).
18. Mae'n glir nad yw pob diben sy'n cynnig budd i'r gymuned neu sydd o ddefnydd i'r cyhoedd yn elusennol10 a dros y canrifoedd mae'r llysoedd wedi ystyried y camau sydd i'w dilyn wrth bennu a yw diben newydd sbon yn elusennol neu beidio.
19. Yn fras, yr arfer gyffredinol a fabwysiadir gan y llysoedd a gennym ni yw pennu yn gyntaf a yw'r diben newydd sbon yn cyfateb i naill ai ddiben a nodir yn y Rhagymadrodd i Ddeddf Defnyddiau Elusennol 1601 neu'n cyfateb i ddibenion elusennol a bennwyd gan y llysoedd. Yr ail gam yw penderfynu a yw'r diben hwnnw yn cynnig budd i'r cyhoedd fel a gydnabyddir dan y gyfraith elusennau. Hynny yw, mae o fudd sylweddol, go iawn ac mae'r buddiannau hynny ar gael i naill ai'r gymuned gyfan neu i ran ddigonol o'r gymuned.
20. Yn wyneb ein rôl o ran pennu statws elusennol, yn dilyn cyflwyno Deddf Elusennau 1960, gellir gwneud cyfatebiaethau hefyd i benderfyniadau a wnaed eisoes gan y Comisiwn yngly^n â dibenion elusennol. Mae'r prawf cyfatebiaeth yn angenrheidiol er mwyn pennu a yw natur y budd i'r cyhoedd sy'n deillio o ddiben elusennol yn un sydd wedi cael ei gydnabod fel budd elusennol.
21. Mae'r achos o blaid y prawf dau gam a nodwyd ym mharagraff 19 uchod yn dadlau ei fod yn darparu digon o hyblygrwydd i'r Llys a'r Comisiwn allu sicrhau bod y cysyniad o elusen a chydnabod dibenion elusennol newydd yn newid wrth i anghenion y gymdeithas newid.
Y prawf dau gam
22. Fel yr esboniwyd uchod, mabwysiadir prawf dau gam wrth ystyried dibenion elusennol newydd, hynny yw, i bennu bod y diben:
- yn cyfateb i ddiben a dderbyniwyd fel un elusennol yn flaenorol;
- yn bodloni'r gofyniad bod y pwrpas yn cynnig budd i'r cyhoedd.
Trafodir y gofynion hyn yn fwy manwl isod.
Yr angen am gyfatebiaeth i ddiben elusennol sy'n bodoli
23. Yn 1985, adolygwyd ein polisi ar gyfer penderfynu a yw dibenion newydd sbon yn elusennol neu beidio11. Ar ôl edrych ar yr awdurdodau cyfreithiol, daeth y Comisiynwyr i'r casgliad bod rhaid iddynt ddilyn agwedd y llysoedd o geisio cael cyfatebiaeth12. Mae dehongliad diweddar o'r polisi hwn fel a ganlyn:
Bydd y Comisiwn yn mabwysiadu agwedd adeiladol at addasu'r cysyniad o elusen i ateb anghenion cymdeithasol sy'n datblygu'n gyson a syniadau newydd er mwyn ateb yr anghenion hynny. Gan weithredu o fewn y fframwaith cyfreithiol sy'n rheoli cydnabod dibenion elusennol newydd, byddem yn ceisio gweithredu mewn ffordd adeiladol a chreadigol.
Wrth ystyried a yw dibenion newydd yn elusennol neu beidio byddwn yn ystyried y dibenion hynny sydd eisoes wedi cael eu cydnabod fel rhai elusennol naill ai yn y Rhagymadrodd neu ym mhenderfyniadau dilynol y Llys neu'r Comisiwn. Byddwn hefyd yn edrych ar anghenion cyfoes y gymdeithas a deddfwriaeth berthnasol a basiwyd gan y Senedd ac, os yw hawliau'r Confensiwn yn fater i'w ystyried, ar Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop a phenderfyniadau Llys Hawliau Dynol Ewrop a Chomisiwn Hawliau Dynol Ewrop.
Wrth gydnabod diben elusennol newydd, bydd angen i ni, gan ddilyn y fframwaith cyfreithiol, fod yn glir bod cydberthyniad digonol yn bodoli rhwng y dibenion newydd hyn a'r dibenion a dderbynnir eisoes fel rhai elusennol. Tra bydd cyfatebiaeth digon agos yn y rhan fwyaf o achosion, mewn achosion eraill gellir cael cyfatebiaeth trwy ddilyn yr egwyddorion bras sy'n codi o destun y Rhagymadrodd neu o achosion a benderfynwyd gan y Llys neu gan y Comisiwn.
Yn ogystal bydd rhaid i ni fod yn glir nad yw'r diben yn ddiben gwleidyddol fel y'i deellir dan y gyfraith elusennau a bod y dibenion wedi'u mynegi gydag eglurder a sicrwydd er mwyn hwyluso monitro gennym ni ac unrhyw reolaeth ddilynol gan y llys, os bydd hyn yn angenrheidiol.
24. I bob diben felly, byddwn yn chwilio am gyfatebiaeth addas er mwyn cadarnhau a yw'r ffordd y bydd diben yn cynnig budd i'r cyhoedd yn elusennol neu beidio. Credwn hefyd y bydd yn bosib bron bob tro i gael cyfatebiaeth, os yw natur y budd yn un a ddylai mewn gwirionedd gael ei chydnabod fel un elusennol.
25. Mae awdurdodau cyfreithiol eraill yn awgrymu nad oes angen cyfatebiaeth i ddibenion penodol a dderbynnir eisoes fel rhai elusennol ac mae cyfatebiaeth fwy cyffredinol i'r mathau o ddibenion a dderbynnir eisoes fel rhai elusennol yn ddigonol. Nodir enghreifftiau o achosion ble mae'r llysoedd wedi mabwysiadu'r farn hon yn Atodiad A. Byddwn yn mabwysiadu'r agwedd hon os oes budd clir i'r cyhoedd.
Effaith Confensiwn Hawliau Dynol Ewrop ar y defnydd o gyfatebiaethau
26. Nid yw'n glir o gwbl i ba raddau y mae Confensiwn Hawliau Dynol Ewrop yn effeithio ar y defnydd o gyfatebiaethau gan y Comisiwn wrth gofrestru elusennau. Os yw hawliau'r Confensiwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais i gofrestru, yn dilyn cyflwyno Deddf Hawliau Dynol 1998, bydd y Comisiwn, fel byddai'r Llys wrth bennu statws elusennol, yn gallu defnyddio cyfatebiaethau a chynseiliau i'r graddau y maent yn cydweddu â hawliau'r Confensiwn. Os nad oes modd dehongli bod cynseiliau yn cydweddu yna gall fod yn amhriodol i'w defnyddio fel hyn. Felly gall y defnydd o rai cyfatebiaethau gael ei gyfyngu neu efallai y bydd rhaid iddynt gael eu dehongli mewn ffordd sy'n cydweddu â hawliau'r Confensiwn. Mewn achosion eraill ni fydd modd eu defnyddio o gwbl.
27. Er na fydd y Comisiwn yn adolygu yn gyffredinol y defnydd o gyfatebiaeth gynsail yn sgîl Confensiwn Hawliau Dynol Ewrop, caiff y graddau y mae rhai cynseiliau yn cydweddu â hawliau'r Confensiwn eu hystyried yn ôl yr achos wrth ddelio â cheisiadau i gofrestru. Os yw hyrwyddwyr sefydliadau sydd am gofrestru fel elusennau yn credu bod unrhyw gyfatebiaeth arbennig, neu ddiffyg cyfatebiaeth, yn cael ei heffeithio gan ystyriaethau hawliau dynol, dylent lunio achos i egluro hyn yn eu cais.
Yr angen i gynnig budd i'r cyhoedd
28. Mae'n ofyniad hanfodol i bob elusen gynnig budd i'r gymuned neu ran ddigon sylweddol o'r gymuned. Mewn geiriau eraill dylent fod o natur gyhoeddus. Rhoddir arweiniad manwl ar y gofyniad hwn yn ein cyhoeddiad ar wahân RR8: Natur Gyhoeddus Elusennau.
29. Mae'r llysoedd a'r Comisiwn yn derbyn bod diben yn elusennol os yw'n cynnig budd i'r cyhoedd yn unig. Bydd hyn yn bosib dim ond os yw dau amod yn cael eu bodloni:
(i) Yn gyntaf, rhaid i'r sefydliad allu cael effaith bositif, a pheidio ag achosi niwed i'r cyhoedd.
(ii) Yn ail, rhaid i'r rheiny sy'n gymwys i gael budd (ac eithrio yn achos sefydliadau a ffurfiwyd i leddfu caledi ariannol yn unig) gynnwys grw^p digon mawr a all gael ei ystyried fel y cyhoedd neu ran ddigonol o'r gymuned ac ni ddylid defnyddio unrhyw gysylltiadau personol neu breifat i gyfyngu ar y rheiny a all gael budd.
30. Y rheol gyffredinol yw nad yw diben yn elusennol, er iddo gael ei fynegi mewn ffurf elusennol, oni bai y caiff ei gyfeirio at gynnig budd i'r cyhoedd13. Wrth benderfynu a yw diben arbennig yn elusennol, mae'r llys bob amser wedi defnyddio'r prawf pennaf o gynnig budd i'r cyhoedd. Ond mae natur y prawf yn amrywio rhwng y pedwar pennawd elusennau ac yn arbennig rhwng y tri phennawd cyntaf a'r pedwerydd pennawd.
31. Mae'r gyfraith, yn amodol ar dystiolaeth i'r gwrthwyneb, yn cymryd yn ganiataol bod dibenion dan bennawd cyntaf a thrydydd pennawd Pemsel yn cynnig budd i'r cyhoedd, er y gellir gwrthbrofi'r dybiaeth hon yn hawdd. Ond rhaid i fudd i'r cyhoedd gael ei ddangos mewn ffordd bositif gan unrhyw sefydliad sy'n hawlio statws elusennol dan yr ail a'r pedwerydd pennawd14. Fodd bynnag, ni fydd hon yn dasg anodd os yw'r budd yn amlwg15. Yn gyffredinol, dylai'r budd i'r cyhoedd dan y pedwerydd pennawd fod yn un sylweddol, er y gall budd ansylweddol fod yn ddigonol os oes "cymeradwyaeth trwy ddealltwriaeth gyffredin barn oleuedig am y tro" bod budd yn cael ei gynnig i'r cyhoedd16.
32. Er bod y gofyniad i gynnig budd i'r cyhoedd yn elfen hanfodol wrth bennu'r hyn sydd, a'r hyn nad yw'n elusennol, gall fod yn briodol ystyried y prawf gwahanol o fudd i'r cyhoedd sy'n berthnasol i elusennau dan y pedwerydd pennawd yn sgîl yr egwyddorion hawliau dynol a ystyrir isod.
Effaith Confensiwn Hawliau Dynol Ewrop ar y gofyniad i gynnig y budd i'r cyhoedd
33. Yn ein barn ni, mae'r gofyniad i gynnig budd i'r cyhoedd yn ofyniad hanfodol i bob elusen. Nid yw'r ffaith bod y ffordd y mae'n rhaid dangos gofyniad yn amrywio rhwng penawdau elusennau gwahanol yn cyfaddawdu egwyddorion Confensiwn Hawliau Dynol Ewrop, cyhyd â bod pob achos yn cael ei brofi'n unigol o ran yr elfen cynnig budd i'r cyhoedd. Dan dri phennawd cyntaf elusennau, cydnabyddir budd i'r cyhoedd fel elfen sefydledig ac amlwg ac nid oes rhaid ei ddangos oni bai fod amheuaeth. Dan y pedwerydd pennawd, rhaid dangos budd i'r cyhoedd os yw'r dibenion yn newydd sbon er mwyn cyfiawnhau statws elusennol (er gall fod rhai achosion lle mae'r budd i'r cyhoedd yn amlwg i bob pwrpas).
34. Bydd yn amlwg, felly, bod y gofyniad i gynnig budd i'r cyhoedd yn un y mae'n rhaid iddo fod yn berthnasol i bob darpar elusen yn unigol, waeth beth fo'r penawdau elusennau gwahanol sy'n berthnasol i'r darpar elusen.17 Yn ein barn ni nid yw Deddf Hawliau Dynol 1998 yn cael unrhyw effaith ar yr angen i bennu budd i'r cyhoedd yn unol â chynseiliau cyfreithiol presennol (gweler y defnydd o gyfatebiaethau ym mharagraffau 26-27 uchod).
Ein harfer o ran cydnabod dibenion elusennol newydd
35. Ymdrinnir â phennu dibenion elusennol newydd sbon yn yr un ffordd â'r llysoedd. Ein hagwedd yn fras yw ystyried yn gyntaf a yw'r diben newydd yn cyfateb i naill ai'r dibenion a amlinellir yn y Rhagymadrodd i Ddeddf Defnyddiau Elusennol 1601 neu i ddibenion elusennol eraill fel a bennir gan y llysoedd neu a gydnabyddir gan y Comisiwn. Yr ail gam yw penderfynu a yw'r diben hwnnw yn cynnig budd sylweddol, go iawn i'r cyhoedd. Ffafrir y dull hwn oherwydd yr hyblygrwydd a gynigir i gadw i fyny ag anghenion newidiol y gymdeithas wrth bennu dibenion elusennol newydd sbon.
36. Wrth benderfynu ar y dibenion newydd hyn mae pwyslais cryf ar gynnig budd i'r cyhoedd a dylid cynhyrchu tystiolaeth gref sy'n ein bodloni y gall y gofyniad hwn gael ei ateb. Mae'n bwysig felly i ni fynegi'n glir yr hyn a ddeellir gan y gofyniad hwn o ddangos budd i'r cyhoedd. Dyma'r rheswm pam ein bod wedi cynhyrchu arweiniad ar hyn yn ein cyhoeddiad ar wahân RR8: Natur Gyhoeddus Elusennau.
37. Gallem gydnabod dibenion elusennol newydd neu gydnabod sefydliadau fel elusennau yn yr amgylchiadau hyn:
- pan gynigir diben newydd a dangosir ei fod yn cyfateb i ddiben sydd eisoes yn cael ei dderbyn fel diben elusennol ac sy'n bodloni'r gofyniad o gynnig budd i'r cyhoedd; neu
- pan fydd newidiadau mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd ac agweddau yn y gymdeithas yn gyffredinol at werth gweithgaredd neu syniad arbennig sydd heb ei gydnabod fel un elusennol cyn hyn; neu
- pan fydd deddfwriaeth newydd yn awgrymu newid ym marn cymdeithas am fuddiannau gweithgaredd neu syniad arbennig a/neu'n symud y gweithgaredd neu syniad o ddiffiniad gweithgaredd gwleidyddol (e.e. pan dderbyniwyd hybu cytgord hiliol fel diben elusennol - gweler Atodiad B); neu
- pan fydd cynsail gyfreithiol sy'n bodoli i'r gwrthwyneb, gallem gydnabod diben fel diben elusennol os nad yw'r hyn a'i rwystrodd rhag cael ei gydnabod yn bodoli mwyach18.
38. Wrth bennu statws elusennol sefydliadau gyda dibenion newydd sbon, mabwysiadir yr arfer o ystyried o'r dystiolaeth sydd ar gael a allai unrhyw fudd i'r cyhoedd godi o amcanion datganedig y sefydliad. Yn dilyn y polisi a amlinellwyd yn 1985, byddem yn mabwysiadu agwedd adeiladol at hyn, gan ystyried anghenion cymdeithas fodern a'r budd a allai godi o waith y sefydliad.
39. Hefyd gallwn ystyried y gweithgareddau a gyflawnir gan y sefydliad os nad yw'n glir beth yw gwir ddiben y sefydliad neu a yw ei ddibenion o fudd i'r cyhoedd. Os ydym yn fodlon bod budd i'r cyhoedd, byddem yn nodi i ba bwrpas y ffurfiwyd sefydliad gan roi ystyriaeth i'w dibenion datganedig a'i weithgareddau. Yna byddem yn ystyried a oedd y pwrpas hwn eisoes yn cael ei gydnabod fel un elusennol neu a oedd yn ddiben newydd a all fod yn elusennol o bosib.
40. Os yw'r diben yn newydd sbon, y cam nesaf yw ystyried a yw'r diben, a'r budd i'r cyhoedd sy'n codi o'r diben hwnnw, yn fath o ddiben sy'n elusennol. Er mwyn penderfynu hyn, byddem yn dilyn y polisi a amlinellwyd yn 1985, er mwyn ceisio cael rhyw gyfatebiaeth benodol neu gyffredinol i ddiben neu ddibenion yn y Rhagymadrodd, neu ddiben neu ddibenion a gafodd ei ystyried yn elusennol cyn hyn gan y llysoedd neu gennym ni. Os gellir dod o hyd i gyfatebiaeth, yr ydym yn debygol o farnu bod y diben newydd sbon yn elusennol, yn amodol ar rai cyfyngiadau.
Crynodeb
41. Wrth ystyried datblygu a chydnabod dibenion elusennol newydd, mae'r rheolau canlynol yn gymwys:
- Rhaid i ddibenion elusennol newydd gyfateb i ddibenion eraill a gydnabuwyd cyn hyn fel rhai elusennol, gan y llysoedd neu'r Comisiwn Elusennau.
- Ar gyfer unrhyw ddiben elusennol newydd, bydd angen dangos pa fudd a gynigir i'r cyhoedd (os na ellir gwneud unrhyw dybiaethau yngly^n â'r budd i'r cyhoedd).
- Rhaid i ddibenion elusennol fod yn glir ac yn gadarn. (Mae hyn yn bwysig i bob elusen ond mae'n arbennig o bwysig yn achos dibenion elusennol newydd er mwyn sicrhau bod elusennau sydd â'r dibenion hynny yn gweithredu o fewn ffiniau diffiniedig newydd statws elusennol. Mae hefyd yn bwysig er mwyn ein helpu i fonitro a rheoli elusennau ac er mwyn i'r elusen, os oes angen, gael ei gweinyddu dan gyfarwyddyd y Llys).
- Nid yw unrhyw sefydliad a ffurfiwyd i gyflawni dibenion gwleidyddol yn elusennol. (Felly yr ydym yn ystyried dibenion newydd sbon yn y cyd-destun hwn a hefyd a yw gweithgareddau'r sefydliad yn arwain at gyflawni diben gwleidyddol mewn gwirionedd).
Atodiad A - Agwedd y Llysoedd at y defnydd o gyfatebiaeth
Y gofyniad cyffredinol am gyfatebiaeth
A1. Fel y soniwyd amdano ym mharagraff 23 uchod, penderfynodd y Comisiynwyr yn 1985 fod rheidrwydd arnynt i ddilyn agwedd y Llys19 o ran ceisio cyfatebiaeth fel gofyniad angenrheidiol er mwyn dod i'r casgliad bod diben sy'n cynnig budd i'r gymuned yn cynhyrchu budd elusennol mewn gwirionedd i'r cyhoedd.
A2. Mae awdurdodau cyfreithiol eraill yn awgrymu nad oes angen cyfatebiaeth i ddiben elusennol penodol a dderbyniwyd eisoes mewn gwirionedd a bod cyfatebiaeth fwy cyffredinol i fathau o ddibenion a dderbyniwyd eisoes fel rhai elusennol yn ddigonol. Nodir rhai enghreifftiau ble mae'r llysoedd wedi mabwysiadu'r agwedd fwy cyffredinol hon isod.
Ymddiriedolwyr Williams v IRC
A3. Mae'r dyfarniad yn Ymddiriedolwyr Williams v IRC20 yn awgrymu, wrth bennu a yw ymddiriedolaeth yn elusennol neu beidio, bod rhaid i'r ymddiriedolaeth gael ei hystyried yn briodol yn gyntaf fel un sy'n dod o fewn ysbryd ac ystyr y Rhagymadrodd i Ddeddf Defnyddiau Elusennol 1601 ac, yn ail, bod rhaid i'w diben fod o fudd i'r gymuned mewn ffordd sy'n elusennol.
Cymdeithas Diwygio Claddu ac Amlosgi yr Alban v Corfforaeth Glasgow
A4. Yn achos Cymdeithas Diwygio Claddu ac Amlosgi yr Alban v Corfforaeth Glasgow21 amlinellodd yr Arglwydd Wilberforce brawf lle y byddai diben yn cael ei ddangos fel un sy'n cynnig budd i'r cyhoedd ac felly'n elusennol os deuai o fewn ysbryd ac ystyr y Rhagymadrodd a oedd felly, meddai ef, yn golygu ei fod yn dod o fewn cwmpas ac effaith penderfyniadau a wnaed yn flaenorol gan y llys. Dyma sut y rhagwelai y gellid sicrhau bod y gyfraith elusennau yn symud wrth i anghenion y gymdeithas newid22. Dywedodd:
"Erbyn hyn derbynnir nad geiriad y Rhagymadrodd ei hun yw'r hyn y mae'n rhaid ei ystyried, ond yn hytrach effaith y penderfyniadau a wnaed gan y llysoedd yngly^n â maes y Rhagymadrodd, penderfyniadau sydd wedi ceisio sicrhau bod y gyfraith elusennau yn symud wrth i angen cymdeithasol newydd godi neu wrth i hen rai gael eu disodli neu eu bodloni."
A5. Felly ni welai yr Arglwydd Wilberforce unrhyw angen i ddilyn cyfatebiaethau penodol er mwyn cydnabod dibenion elusennol newydd.
Cyngor Corfforedig Adrodd Cyfreithiol Cymru a Lloegr v Y Twrnai Gwladol
A6. Datblygwyd prawf pellach gan Sachs LJ yn achos Cyngor Corfforedig Adrodd Cyfreithiol Cymru a Lloegr v Y Twrnai Gwladol.23 Yn hytrach nag ystyried yr achos ar sail cyfatebiaethau, roedd yn well gan Sachs LJ ddefnyddio'r prawf ehangach o ystyried a oedd y diben yn rhywbeth a gynigiai fudd i'r gymuned,
"ac mae'r ateb yn bennaf yn fater o'r argraff cyntaf sy'n codi trwy gymryd golwg cyffredinol ar y Rhagymadrodd a hefyd tuedd gyffredinol rhai canrifoedd o benderfyniadau".
A7. Cyflwynwyd prawf gwahanol yn yr un achos. Gwrthdrodd Russell LJ y cwestiwn a'i brawf oedd gofyn "a oedd y diben yn un a oedd yn dod y tu allan i ecwiti Statud 1601".24 Mae'n ymddangos bod Russell LJ o'r farn bod yr angen i chwilio am gyfatebiaeth neu i ddiben ddod o fewn ecwiti Statud yn agwedd rhy gyfyng neu gywrain. Ni ddilynwyd agwedd eang iawn Russell LJ mewn achosion dilynol.
Yn Re Strakosch
A8. Yn yr achos cynharach Re Strakosch25, awgrymodd yr Arglwydd Green hefyd nad oedd cyfatebiaethau penodol yn angenrheidiol trwy iddo ddatgan "nid oes rhaid i'r budd i'r cyhoedd fod yn euisdem generis mewn unrhyw ffordd â'r diben datganedig ond mae'n rhaid iddo fod yn elusennol yn yr un ystyr".
A9. Byddem o blaid mabwysiadu'r agwedd eang hon at y mater o gyfatebiaeth, yn absenoldeb cyfatebiaeth benodol, os oes budd amlwg i'r cyhoedd.
Enghreifftiau o ddibenion elusennol a gydnabyddir fel dibenion sy'n cyfateb i'r Rhagymadrodd
A10. Penderfynwyd bod y dibenion canlynol yn cyfateb i'r dibenion a nodir yn y Rhagymadrodd:
- Darparu gweithfeydd a gwasanaethau cyhoeddus.
- Darparu amwynderau cyhoeddus.
- Gwarchod bywyd ac eiddo.
- Cadw trefn gyhoeddus.
- Diogelu'r deyrnas.
- Hybu datblygiad a gweinyddiad gadarn y gyfraith.
- Rhoi cymorth cymdeithasol, ailgartrefu ac ailsefydlu pobl sydd ag anabledd neu bobl ddifreintiedig.
- Hybu rhai dibenion gwladgarol.
- Hybu iechyd a rhoi cymorth i bobl sâl, gwael ac anabl.
- Gofal, magu a sefydlu bywyd plant a phobl ifanc.
- Hyfforddi ac ailhyfforddi a chanfod cyfleoedd gwaith i bobl ddi-waith.
- Hybu adfywiad er budd y cyhoedd mewn ardaloedd sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol neu'n economaidd.
Enghreifftiau o ddibenion elusennol a gydnabyddir fel rhai sy'n cyfateb i ddibenion elusennol eraill
A11. Nid yw'r dibenion canlynol yn cyfateb yn uniongyrchol i'r dibenion yn y Rhagymadrodd ond serch hynny penderfynwyd eu bod yn elusennol gan eu bod yn cyfateb i ddibenion a bennwyd fel rhai elusennol gan y llysoedd yn flaenorol:
- Hybu masnach a diwydiant er budd y cyhoedd.
- Gwarchod yr amgylchedd.
- Hybu lles moesol ac ysbrydol neu wella dynolryw.
- Atal creulondeb a gwarchod lles anifeiliaid.
- Hybu cysylltiadau hiliol da, dileu gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb cyfle.
- Hybu safonau ymddygiad moesegol a chydymffurfio â'r gyfraith yn y sector cyhoeddus a phreifat.
Atodiad B - Enghreifftiau o'r defnydd adeiladol o bwerau'r Comisiwn i gydnabod dibenion elusennol newydd
Penderfyniadau a wnaed fel rhan o'r Adolygiad o'r Gofrestr
Hybu adfywiad trefol a gwledig
B1. Yn 1999 cydnabuwyd bod hybu adfywiad trefol a gwledig mewn ardaloedd sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd yn elusennol. Wrth ystyried a oedd y diben hwn yn elusennol neu beidio barnwyd ei fod yn dod o fewn ysbryd ac ystyr rhai dibenion, neu ei fod yn cyfateb i rai dibenion yn y Rhagymadrodd i Ddeddf Defnyddiau Elusennol 1601, gan gynnwys:
- Atgyweirio pontydd, porthladdoedd, hafanau, sarnau, eglwysi, glannau môr a phriffyrdd.
- Cefnogi, cynorthwyo a helpu masnachwyr ifanc, crefftwyr a phobl fethiannus.
B2. Yn ogystal, gallai nifer o weithgareddau sefydliadau sy'n ymwneud ag adfywiad cymdeithasol ac economaidd gael eu hadlewyrchu gan nifer o ddibenion cymeradwy y pedwerydd pennawd e.e.
- Cynnal neu wella'r is-adeiledd ffisegol mewn ardaloedd difreintiedig.
- Rhoi cymorth i bobl sydd dan anfantais oherwydd eu hamgylchiadau cymdeithasol ac economaidd.
- Darparu gweithfeydd a gwasanaethau.
- Darparu amwynderau cyhoeddus.
- Cymorth cymdeithasol, ailgartrefu ac ailsefydlu pobl sydd ag anabledd neu bobl ddifreintiedig.
- Hyfforddi ac ailhyfforddi a chanfod cyfleoedd gwaith i bobl ddi-waith.
B3. Roedd y dibenion hyn eisoes wedi cael eu derbyn gan y llysoedd fel rhai a oedd o fudd cyffredinol i'r gymuned neu o ddefnydd cyffredinol i'r cyhoedd mewn ystyr elusennol. Felly, yn ein barn ni, gallai fod yn briodol i ystyried hybu adfywiad trefol a gwledig er mwyn cynnig budd i'r cyhoedd mewn ardal sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd yn ddiben sy'n cyfateb i'r dibenion hynny.26
Hybu adeiladu gallu'r gymuned
B4. Yn 2000, penderfynwyd y gallai hybu adeiladu gallu'r gymuned mewn perthynas â chymunedau sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd (neu, mewn rhai achosion, sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol yn unig) gael ei dderbyn fel diben elusennol.
B5. Mae'r term 'adeiladu gallu'r gymuned' yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Pan gafodd hyn ei ystyried o'r blaen roedd yn anodd i ni benderfynu beth yn union oedd ystyr adeiladu gallu'r gymuned. O ganlyniad nid oeddem yn gallu dod i'r casgliad ei fod yn cynnig budd i'r cyhoedd os nad oeddem yn gallu bod yn sicr beth a olygai. Hyd yn oed pe byddem wedi bod yn sicr yngly^n â hyn, roeddem yn ofni ar y cychwyn y byddai'r math o fuddiannau a fyddai'n cael eu cynnig i unigolion a grwpiau lleol arbennig gan y gweithgaredd hwn yn fwy na'r hyn a fyddai'n dderbyniol o ran diben elusennol.
B6. O ganlyniad i'n hadolygiad manwl ar adeiladu gallu'r gymuned a'r ffordd y caiff hyn ei gyflawni, a oedd yn cynnwys ymgynghori'n gyhoeddus ar y materion, teimlwn y gallwn ddweud beth a olygir gan hyn, nodi budd i'r cyhoedd cyfan a rhoi'r buddiannau a gynigir i unigolion a grwpiau mewn persbectif.
B7. Deallwn fod adeiladu gallu'r gymuned yn golygu datblygu gallu a sgiliau aelodau'r gymuned mewn ffordd sy'n golygu eu bod mewn sefyllfa well i adnabod, a helpu i ateb eu hanghenion a chymryd rhan lawnach yn y gymdeithas. Yn ôl ein dealltwriaeth ni, mae adeiladu gallu'r gymuned felly yn ymwneud â:
- chynnig cyfle i bobl ddysgu trwy brofiad - cyfleoedd na fyddai ar gael iddynt fel arall; a
- chynnwys pobl mewn ymdrech ar y cyd er mwyn iddynt fagu hyder yn eu galluoedd eu hunain a'u gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt.27
B8. Roedd derbyn y diben elusennol newydd hwn yn cyd-fynd â'n penderfyniadau cynharach i gydnabod hybu adfywiad trefol a gwledig a chynorthwyo'r di-waith fel dibenion elusennol. Mae hefyd yn dangos ein parodrwydd i fabwysiadu agwedd adeiladol at addasu'r cysyniad o elusen er mwyn darparu ar gyfer amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n newid.
Gwarchod yr amgylchedd
B9. Yn 2001 derbyniwyd bod gwarchod yr amgylchedd yn ddiben elusennol ynddo'i hun, sy'n cynnwys sefydliadau sy'n gwarchod yr amgylchedd trwy hybu amrywiaeth fiolegol [neu fioamrywiaeth].28
B10. Roedd sefydliadau a oedd yn ymgymryd â gweithgareddau a oedd yn gysylltiedig â chadwraeth wedi'u cynnwys ar y Gofrestr eisoes, ond nid oeddent yn gallu cynnwys y term "gwarchod yr amgylchedd" yn eu hamcanion datganedig cyn hyn oherwydd nid oedd unrhyw ystyr cyfreithiol iddo.
B11. Mae elusennau cadwraeth yn fwy niferus bellach, sy'n dangos pryder y cyhoedd dros yr amgylchedd a ddaeth i'r amlwg am y tro cyntaf mewn sefydliadau yn hwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, e.e. cymdeithasau gwarchod anifeiliaid ac adar. Yn fwy diweddar, daeth y pryder hwn i'r amlwg trwy'r pwysau i weithredu mentrau fel Confensiwn y CU ar Amrywiaeth Fiolegol a Chynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU yn 1994.
Roedd rhai canllawiau wedi cael eu llunio dros y blynyddoedd ac roedd y Comisiwn ei hun wedi dangos agwedd hyblyg yn enwedig ym maes cadwraeth, ond roedd angen ystyried yn fanwl y broblem o osgoi mantais bersonol tra'n hybu mynediad i'r cyhoedd.
B12. O ganlyniad i'n hadolygiad daethpwyd i'r casgliad bod ystyr sefydledig bellach i "warchod yr amgylchedd" ac felly gallwn ei gydnabod fel diben elusennol sy'n cynnig budd i'r gymuned. Awgrymwyd amcanion addas i sefydliadau sy'n hybu'r diben hwn a pharatowyd canllawiau ar:
- ddangos bod tir neu gynefin y sefydliad neu'r rhywogaeth arbennig sydd dan sylw yn werth ei warchod;
- ateb y gofynion o ran cynnig mynediad i'r cyhoedd; a
- sut i osgoi budd preifat annerbyniol (e.e. os yw cyn berchennog yn meddiannu rhan o'r eiddo).29
Penderfyniadau eraill y Comisiynwyr
Cysylltiadau cymunedol da
B13. Cyn 1983, ym marn rhai pobl, ni allai hybu cytgord hiliol fod yn ddiben elusennol. Roedd y Llys Apêl yn Re Strakosch30 wedi cynnal bod tawelu teimladau hiliol rhwng grwpiau ethnig gwahanol mewn cymuned yn ddiben gwleidyddol a hefyd bod diben o'r fath yn rhy amhenodol a gallai gynnwys amcanion eang iawn, rhai ohonynt yn anelusennol. Yn 1983, cafodd y sefyllfa ei hailystyried yng nghyd-destun Prydain gyfoes ac yn sgîl newid yn yr amgylchiadau cymdeithasol. Penderfynwyd y gallai sefydliadau a oedd yn gwrthwynebu gwahaniaethu hiliol ac yn hybu cysylltiadau cymunedol da gael eu cofrestru fel elusennau hefyd. Roedd y Senedd, mewn deddfwriaeth cysylltiadau hiliol, wedi cydnabod eu budd i'r cyhoedd. Roedd cyfatebiaethau hefyd â dibenion eraill a gafodd eu hystyried yn elusennol gan y llysoedd (yn enwedig elusennau sy'n cadw trefn gyhoeddus, sy'n ceisio gwelliant meddyliol a moesol, ac sy'n hybu cydraddoldeb rhwng menywod a dynion).
Cyrff adloniadol i leiafrifoedd ethnig a lleiafrifoedd eraill
B14. Mae deddfwriaeth31 yn cadarnhau ei fod yn elusennol i ddarparu cyfleusterau adloniadol i bobl mewn angen ar sail eu hieuenctid, oedran, analluedd neu anabledd, tlodi neu amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd. Nid oedd yn glir a allai'r categorïau hynny (heb effeithio ar statws elusennol) gael eu diffinio ymhellach trwy gyfeirio at hil, cenedligrwydd, tras ethnig neu genedlaethol neu grefydd. Cafodd y mater ei ystyried yn 1995 a phenderfynwyd, os ydym yn fodlon bod angen arbennig yn bodoli, y byddai'n elusennol i sefydlu cymdeithas gymunedol neu sefydliad adloniadol arall at ddefnydd rhyw grw^p lleiafrifol penodol yn bennaf.
Elusennau sy'n gweithredu dramor
B15. Yn 1963 ein cyngor ni oedd tra bo sefydliadau dan dri phennawd cyntaf categorïau Pemsel yn elusennol os oeddent yn gweithredu dramor, byddai'r rheiny dan y pedwerydd pennawd yn elusennol dim ond pe gallent ddangos budd i'r gymuned o fewn y Deyrnas Unedig. Edrychwyd ar hyn o'r newydd yn 1992 a lluniwyd prawf mwy defnyddiol sef, wrth bennu statws elusennol cyrff sy'n gweithredu dramor, dylem ystyried yn gyntaf a fyddent yn cael eu hystyried yn elusennau pe byddai eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu i'r Deyrnas Unedig ac yna peidio â rhoi statws elusennol dim ond os oedd rhesymau polisi cyhoeddus da dros wneud hynny, gan gynnwys a yw'r gweithgareddau yn gyfreithiol neu beidio yn y wlad dan sylw.
Hybu safonau moesegol mewn busnes a chyfrifoldeb corfforaethol
B16. Datblygiad gweddol fodern yn y gymdeithas yw bod moeseg yn cael ei hymgorffori yn fwyfwy mewn arferion rheoli (gan adlewyrchu'r ffaith bod busnesau yn derbyn yr angen i weithredu i safonau moesol a moesegol yn ogystal â safonau cyfreithiol uchel). Mae hyn yn cynnwys cydnabod yr angen i gynghori a diogelu gweithwyr hawdd eu niweidio a wynebai dilemâu moesegol yn ystod eu gwaith. A fyddai sefydliad sy'n hybu safonau moesegol uchel ac yn galluogi gweithwyr a chyflogwyr gyda'i gilydd i gyflawni cyfrifoldeb busnes i'r gymdeithas (a helpu gweithwyr mewn dilemâu moesol) yn elusennol? Nid oedd llawer o ran awdurdod barnwrol uniongyrchol i'n cynorthwyo gyda'r cwestiwn yn 1993. Ond roeddem yn gallu datblygu llinell o achosion a oedd yn ymwneud â gwelliant meddyliol a moesol er mwyn cydnabod statws elusennol sefydliad gydag amcanion a eiriwyd yn briodol.
Masnachu teg
B17. Yn 1995, cyflwynwyd cynigion i ni i gofrestru fel elusen sefydliad a fyddai'n rhoi symbol syml neu "farc masnachu teg" i'w roi ar becynnau rhai nwyddau defnyddwyr (yr oedd eu prosesau cynhyrchu wedi cael eu harchwilio) sydd ar werth mewn archfarchnadoedd yn y wlad hon. Yr honiad oedd y byddai'r marc yn hysbysu defnyddwyr bod prynu brand arbennig o nwyddau yn cael yr effaith o gynorthwyo amodau byw gweithwyr amddifad y trydydd byd a gyflogir dramor i'w cynhyrchu. Yn naturiol roeddem yn bryderus na ddylai hyn fod yn sgrîn i ganolwyr a mentrau masnachol wneud mwy o elw. Ar yr olwg cyntaf, roedd y cynnig hwn hefyd yn ymddangos ei fod yn ymgais i ysgogi diddordeb defnyddwyr mewn nwyddau arbennig trwy sicrhau bod rhai gofynion arbennig a oedd yn ymwneud ag amodau byw sylfaenol gweithwyr yn eu prosesau cynhyrchu yn cael eu bodloni. Gallem weld y gallai hyn gynyddu gwerthiannau ac o ganlyniad byddai'n cynnig budd i'r rheiny a oedd yn ymwneud â'r prosesau masnachol o farchnata'r nwyddau. Ond ar y cychwyn ymddangosai fod cyswllt anuniongyrchol iawn yn unig rhwng hyn â lleddfu amddifadiad ymhlith gweithwyr ar ddiwedd y gadwyn fasnachol. Cafodd y cynigion eu hystyried yn fanwl iawn wrth i'r cynigion hyn gael eu mireinio gan yr hyrwyddwyr a chawsom ein darbwyllo gan dystiolaeth fanwl yn ddiweddarach mai'r prif nod mewn gwirionedd oedd lleddfu tlodi trwy gyfrwng mecanwaith ffres a chreadigol a oedd yn ymateb i awydd cyffredin i helpu ar ran nifer o'r defnyddwyr yn y wlad hon. Yn arbennig, cawsom ein darbwyllo gan y dystiolaeth y byddai'r sefydliad, ar ôl iddo gael ei ffurfio, yn gallu dangos bod cysylltiad uniongyrchol rhwng dyfarnu'r marc masnachu teg a gwelliant go iawn, gweladwy yn amodau yn y trydydd byd. Mae'n wir y gall y mecanwaith hwnnw gynhyrchu rhywfaint o elw masnachol i ddynion busnes ac adwerthwyr, ond dangoswyd bod unrhyw elw o'r fath yn angenrheidiol atodol i'r prif ddiben o leddfu angen. Felly penderfynwyd y dylai'r dull hwn o weithredu'n ymarferol awydd nifer sylweddol o ddefnyddwyr i wella amodau byw cynhyrchwyr a gweithwyr amddifad gael ei gydnabod yn ffurfiol fel diben elusennol.
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
B18. Yn ei hanfod, y Cyngor Meddygol Cyffredinol yw'r rheolydd cyhoeddus ar gyfer meddygon cofrestredig yn y DU. Hwn yw'r corff statudol sy'n gyfrifol am gofrestru meddygon cymwys (doctoriaid) yn y DU ac am reoli hyfforddiant meddygaeth, ac ymarfer meddygaeth gan feddygon cofrestredig. Mae ei swyddogaethau statudol yn rhannu'n dri maes:
(i) Cofrestru meddygon.
(ii) Arolygu eu hymddygiad proffesiynol a'u haddasrwydd i weithio.
(iii) Arolygu addysg feddygol.
B19. Sefydlwyd y Cyngor yn wreiddiol yn 1858, ond mae'n cael ei reoli ar hyn o bryd gan ddeddfwriaeth fwy diweddar, sef Deddf Feddygol 1983 fel y'i diwygiwyd wedi hynny. Yn 1928 penderfynodd y Llys Apêl yn Y Cyngor Meddygol Cyffredinol v IRC32 nad oedd y Cyngor (at ddibenion treth), yn ôl ei gyfansoddiad bryd hynny, yn elusennol. Cadarnhawyd y penderfyniad hwnnw yn ddiweddarach gan Dy'r Arglwyddi yn 1959 yn Y Cyngor Meddygol Cyffredinol v Cyngor Bwrdeistref St Marylebone.33 Yn 1999 cyflwynwyd cais gan y Cyngor i'r Comisiwn i gofrestru fel elusen.
B20. Cafodd y cais ei ystyried gan y Comisiynwyr yn sgîl cyfansoddiad a gweithgareddau presennol y Cyngor a'r amgylchedd cymdeithasol ac economaidd y mae'n gweithredu ynddo, ac adolygwyd y gyfraith berthnasol. Daethant i'r casgliad y bu digon o newidiadau yn y meysydd hyn gyda'i gilydd a bod modd iddynt ailystyried statws elusennol y Cyngor, er gwaethaf penderfyniadau blaenorol y llys.
B21. Cafodd swyddogaethau a gweithgareddau'r Cyngor eu hystyried ymhellach gan y Comisiynwyr a daethpwyd i'r casgliad ei fod wedi'i sefydlu i'r diben o ddiogelu, hybu a chynnal iechyd a diogelwch y gymuned trwy sicrhau safonau priodol wrth ymarfer meddygaeth. Daethpwyd i'r casgliad bod diben o'r fath yn ddiben elusennol yn ôl y gyfraith, oherwydd ei fod yn dod o fewn pedwerydd pennawd elusennau trwy gyfrwng cyfatebiaeth i ddiogelu bywyd dynol a hybu iechyd cyhoeddus, sy'n ddibenion elusennol sefydledig. Barnwyd hefyd bod y Cyngor wedi'i sefydlu er budd y cyhoedd, a bod unrhyw fudd i feddygon yn atodol.
B22. Ym marn y Comisiynwyr pe byddai'r mater yn dod o flaen y Llysoedd heddiw, byddai'r Llysoedd yn dod i'r un casgliad wrth ystyried a yw'r Cyngor yn elusen neu beidio, o ran ei ddibenion a hefyd mewn perthynas â'i fudd i'r cyhoedd. Felly, roedd hawl gan y Comisiynwyr ddod i gasgliad tebyg34.
Nodiadau
1 Comisiynwyr Diben Arbennig Treth Incwm v Pemsel [1891] AC 53
2 [1982] Ch 321
3 Gweler yr adroddiad ar benderfyniad y Comisiynwyr ynglyn â'r cais i gofrestru gan yr Eglwys Seientoleg Cymru a Lloegr).
4 [1947] 2 All ER 217, 238: [1948] AC 31, 74
5 [1981] AC 1, 15E
6 [1968] AC 138, 154
7 [1948] AC 31, 42
8 Comisiynwyr Diben Arbennig Treth Incwm v Pemsel [1891] AC 531
9 ICR v Baddeley [1955] AC 572, 608 yn ôl yr Arglwydd Reid
10 Re McDuff [1896] 2 Ch 541; Ymddiriedolwyr Williams v IRC [1947] 447, 455
11 Gweler Adroddiad Blynyddol y Comisiynwyr 1985 para 24-27
12 Yn Barralet v Y Twrnai Gwladol [1980] All ER 918, 926-7 yn ôl Dillon J
13 Oppenheim v Ymddiriedolaeth Tobacco Securities [1951] AG 297; AC v National Provincial Bank [1924] AC 262
14 Cymdeithas Gwrth-fywddyraniad Genedlaethol v IRC [1948] AC 31
15 McGovern v Y Twrnai Gwladol [1928] Ch 321, 333G-334B yn ôl Slade J, cymeradwywyd gan Chadwick LJ yn Southwood v AG 28 Mehefin 2000 heb ei adrodd (CA)
16 Cymdeithas Gwrth-fywddyraniad Genedlaethol v IRC 1948] AC 31, 49 yn ôl yr Arglwydd Wright
17 Gweler adroddiad ar benderfyniad y Comisiynwyr ynglyn â'r cais i gofrestru gan yr Eglwys Seientoleg (Cymru a Lloegr) sydd i'w weld ar ein gwefan yn www.charity-commission.gov.uk
18 E.e. Barnwyd bod dibenion catholig ac anghydffurfiol yn anghyfreithlon yn y 17eg ganrif ond roedd modd eu derbyn fel dibenion elusennol yn ddiweddarach ar ôl i anghyfreithlondeb y dibenion gael ei ddiddymu
19 Barralet v Twrnai Gwladol [1980] All ER 918, 926-7 yn ôl Dillon J
20 [1947] AC 447, 519 yn ôl yr Arglwydd Simonds
21 [1968] AC 138
22 Ibid, 154
23 [1972] Ch 73
24 Cyngor Corfforedig Adrodd Cyfreithiol Cymru a Lloegr v Y Twrnai Gwladol [1972] Ch 73, 88E
25 [1949] Ch 529
26 Gweler ein cyhoeddiad RR2: Hybu Adfywiad Trefol a Gwledig
27 Gweler ein cyhoeddiad RR5: Hybu Adeiladu Gallu'r Gymuned
28 amrywiaeth planhigion ac anifeiliaid
29 Gweler ein cyhoeddiad RR9: Cadwraeth a Gwarchod
30 [1949] 1 Ch 529
31 Deddf Elusennau Adloniadol 1968
32 [1928] All ER 252
33 [1959] AC 540
34 Gweler yr adroddiad ar benderfyniad y Comisiynwyr ar y cais i gofrestru gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.