(Fersiwn - Chwefror 2001)
Cynnwys
Am y cyhoeddiad hwn
1. Mae'r cyhoeddiad hwn yn crynhoi barn y Comisiwn Elusennau ar natur cyrff a
sefydlwyd ar gyfer dibenion elusennol cadwraeth a/neu warchod. Cafodd hyn ei ystyried
fel rhan o'n
Hadolygiad o'r Gofrestr Elusennau. Rydym
yn ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad cyhoeddus a arweiniodd
at y canllaw hwn.
Sefydliadau cadwraeth a gwarchod
2. Mae cyrff a sefydlwyd at ddibenion cadwraeth(1)
a/neu warchod yn cynnwys grw^p eang ac amrywiol iawn. Maen nhw'n cynnwys cyrff
a sefydlwyd ar gyfer un neu ragor o'r dibenion canlynol:
(i) cadwraeth:
- adeilad neu gyfadeilad penodol, weithiau yn cynnwys gardd neu dir arall,
sydd o bwysigrwydd hanesyddol/pensaernïol neu safle lle yr arferai adeilad
gael ei leoli neu lle y gellir gweld ei olion heddiw;
- adeiladau hanesyddol yn gyffredinol (ymddiriedolaethau cadwraeth adeiladau(2));
a
(ii) gwarchod:
- anifail, aderyn neu rywogaeth arbennig arall etc neu "fywyd gwyllt"
yn gyffredinol;
- rhywogaeth arbennig o blanhigyn, cynefin neu ardal o dir, gan gynnwys
ardaloedd o brydferthwch naturiol a diddordeb gwyddonol;
- blodau, anifeiliaid a'r amgylchedd yn gyffredinol.
3. Nid yw'r canllaw hwn yn delio â sefydliadau sy'n gweithredu fel amgueddfeydd
yn unig. Nid yw'n delio ychwaith â materion sy'n berthnasol yn benodol i
ymddiriedolaethau cadwraeth adeiladau, er y bydd llawer o'r canllaw hwn yn berthnasol
i gyrff o'r fath serch hynny. Sylwer, hefyd, nad yw materion sy'n ymwneud â
chynaliadwyedd, ailgylchu a phynciau cysylltiedig eraill wedi'u cynnwys gan y
canllaw hwn. Bydd sefydliadau sy'n gwneud cais i gofrestru fel elusennau sy'n
gweithredu yn y meysydd hyn yn cael eu hystyried ar eu teilyngdod eu hunain.
Gofynion cyffredinol ar gyfer statws elusennol i elusennau
cadwraeth a gwarchod
4. Daethom i'r casgliad bod rhaid i sefydliadau cadwraeth a gwarchod, er mwyn
bod yn elusennol, ddangos:
(i) eu bod yn bodloni'r maen prawf o deilyngdod, h.y.:
- ar gyfer elusennau cadwraeth mae tystiolaeth arbenigol annibynnol bod
yr adeilad neu'r safle o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol digonol
(gweler paragraffau A5-A9 isod);
- ar gyfer elusennau gwarchod rhywogaeth, mae tystiolaeth arbenigol annibynnol
bod y rhywogaeth yn werth ei gwarchod (gweler paragraffau
A10-A13 isod);
- ar gyfer elusennau sy'n gwarchod yr amgylchedd, mae tystiolaeth arbenigol
annibynnol bod y tir neu'r cynefin yn werth ei warchod (gweler paragraffau
A14-A15 isod); a
(ii) cânt eu sefydlu er budd y cyhoedd, h.y.:
- ni chânt eu defnyddio ar gyfer dibenion anelusennol, fel masnachu
(gweler paragraff A16 isod);
- maent yn darparu digon o fynediad cyhoeddus, naill ai trwy ddarparu
digon o fynediad corfforol neu fynediad trwy ddulliau addas eraill (gweler
paragraffau A18-A27 isod);
- mae unrhyw fudd preifat i unigolion yn atodol ac yn cael ei reoleiddio'n
briodol (gweler paragraffau A31-A35 isod).
5. Yn ystod yr ymgynghoriad, derbyniwyd nifer o gynrychiolaethau a honnai nad
oedd yn briodol mwyach i ystyried cadwraeth a gwarchod fel dau faes ar wahân.
Yn arbennig, mewn rhai achosion o leiaf, gallai cadwraeth adeiladau fod yn agwedd
o warchod yr amgylchedd. Dyma farn y gallwn gydymdeimlo â hi ac rydym
yn bwriadu ei hystyried ymhellach.
6. Mae'n rhaid i unrhyw sefydliad sy'n hawlio statws elusennol dan Ddeddf Elusennau
1993 gael amcanion sy'n elusennol yn unig. Rhaid iddynt hefyd feddu ar
nodweddion hanfodol eraill elusennau, fel a nodwyd yn ein cyhoeddiad
RR1
- Yr Adolygiad o'r Gofrestr Elusennau.
Elusennau cadwraeth
7. Ar gyfer sefydliadau a ffurfiwyd i warchod adeiladau, rydym yn cadw ein
polisi presennol sy'n adlewyrchu'r safle a fabwysiadwyd gan y llysoedd, hynny
yw, er mwyn bod yn elusennol, rhaid i sefydliadau o'r fath gael eu ffurfio i
hybu addysg y cyhoedd.
Elusennau gwarchod
8. Mae ystyr "gwarchod yr amgylchedd" wedi ennill ei blwyf
bellach a chydnabyddwn ei fod yn ddiben elusennol sy'n fuddiol i'r gymuned.
Felly byddwn yn cofrestru sefydliadau o'r fath fel elusennau ar yr amod eu bod
yn bodloni'r meini prawf a amlinellir yn yr Atodiad.
9. Amcan posib ar gyfer sefydliad o'r fath yw:
"hybu gwarchod, diogelu a gwella'r amgylchedd ffisegol a naturiol".
10. Yn dilyn o hyn, derbynnir hefyd bod amcan i "hybu gwarchod yr amgylchedd
ffisegol a naturiol trwy hybu amrywiaeth biolegol [neu fioamrywiaeth(3)]"
yn elusennol.
11. Mae hefyd yn dderbyniol i elusennau amgylcheddol gael amcan ychwanegol
o hybu addysg y cyhoedd lle y bo'n briodol.
Cofrestru gyda chyrff eraill
12. Yn ogystal â chofrestru fel elusen, argymhellir y dylai sefydliadau
ystyried amrywiaeth o ymagweddau, er enghraifft, cydnabyddiaeth ffurfiol neu
restriad gan gorff fel English Heritage, Cadw, English Nature neu Gyngor Cefn
Gwlad Cymru. Mae enghreifftiau o restriad perthnasol yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig (SSSI), Ardal o Harddwch Naturiol Arbennig neu Warchodfa Natur Genedlaethol.
Byddai'n ddefnyddiol i sefydliadau o'r fath, yn eu cais i gofrestru, ddarparu
rhestr o'r cyrff y maent wedi'u hystyried a chanlyniadau unrhyw gais. Gall rhestriad
o'r fath hefyd ddarparu tystiolaeth o deilyngdod. Y sefydliad sy'n gwneud cais
sy'n gyfrifol am asesu pa fath o restriad sy'n gweddu orau i'w anghenion.
13. Gall rhestriad o'r fath fod yn ddiogelwch ychwanegol i eiddo'r sefydliad
sy'n elusennol. Ni fydd yn disodli cofrestriad elusennol, sy'n orfodol i sefydliadau
sy'n dod o fewn y meini prawf cofrestru. Ond, os yw'n ymddangos nad yw sefydliad
yn elusennol, neu os nad yw'r mater o statws elusennol yn glir (er enghraifft,
lle mae ansicrwydd yngly^n â'r maen prawf teilyngdod), yna mae rhestriad
yn ddewis ymarferol arall.
Gwybodaeth bellach
14. Os oes diddordeb genych mewn sefydlu elusen sydd â dibenion cadwraeth
a/neu warchod, cysylltwch â'n staff cofrestru ar 0870 333 0123.
Effaith yr arweiniad hwn ar elusennau sydd eisoes yn bodoli
15. Ni ddylai fod angen i elusennau sydd eisoes yn bodoli newid eu hamcanion
o ganlyniad i'r arweiniad hwn er y gall elusennau gwarchod ystyried effaith
paragraffau 8-11. Ond dylai'r ymddiriedolwyr adolygu dulliau'r
elusen o weithredu er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith
a, chyn belled â phosib, ein hargymhellion ni. Yn arbennig, dylent nodi'r
gofynion cyfreithiol a'r argymhellion arfer dda yngly^n â:
16. Os nad yw'r ymddiriedolwyr yn siw^r sut i ddefnyddio'r arweiniad hwn
neu os oes ganddynt unrhyw ymholiadau eraill bydd staff Cymorth Elusennau yn
hapus i drafod y materion hyn gyda nhw. Gellir cysylltu â nhw ar 0870
333 0123 hefyd.
Effaith yr arweiniad hwn ar elusennau sy'n rhoi grantiau
ac elusennau sy'n berchen ar fwy nag un safle
17. Mae'r arweiniad hwn yn berthnasol i elusennau sy'n rhoi grantiau
at ddibenion cadwraeth a/neu warchod (yn hytrach nag ymgymryd â gwaith yn
y maes hwn eu hunain). Mae elusennau o'r fath yn cynnwys y rheiny a sefydlwyd
gydag amcanion elusennol eang a phwerau rhoi grantiau cyffredinol. Maent hefyd
yn cynnwys elusennau sy'n berchen ar fwy nag un safle (a allai ddymuno cymryd
mwy o arolwg o deilyngdod y tir a ddelir ganddynt). Yn y ddau achos, er mwyn bodloni
ei hun ei fod yn cyflawni dibenion elusennol, rhaid i unrhyw elusen yn y sefyllfa
hon ystyried yr arweiniad hwn wrth roi grantiau neu brynu eiddo.
Atodiad
Arweiniad ar statws elusennol cyrff sy'n hybu cadwraeth
a gwarchod
Meini prawf teilyngdod
A1. Rhaid i sefydliadau ym maes cadwraeth a gwarchod fodloni maen prawf teilyngdod
er mwyn cael statws elusennol.
A2. Mae'r arweiniad hwn yn amlinellu rhai meini prawf sylfaenol y byddwn yn
eu defnyddio yng nghyd-destun sefydliadau cadwraeth a gwarchod sy'n ceisio cofrestru
fel elusennau. Gall sefydliad y mae ei gais cychwynnol i gofrestru yn aflwyddiannus
wneud ail gais os yw'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r adeilad, y rhywogaeth
neu'r cynefin dan sylw yn newid yn y dyfodol.
Tystiolaeth arbenigol
A3. Dylai sefydliadau sy'n gwneud cais i gofrestru allu ein bodloni yngly^n
â'r meini prawf teilyngdod priodol (rhoddir manylion am y rhain isod)
trwy ddarparu tystiolaeth arbenigol annibynnol, hynny yw, tystiolaeth awdurdodol
a gwrthrychol, gan gorff neu unigolyn ag enw da. Nid ydym yn bwriadu llunio
rhestr gyflawn o arbenigwyr derbyniol oherwydd teimlwn y dylai hyrwyddwyr gael
rhywfaint o ryddid o ran yr arbenigwr y maent yn ei ddewis. Yn y pen draw, yr
hyrwyddwyr sy'n penderfynu pa arbenigwr y byddant yn ei ddefnyddio a chyflwyno'r
dystiolaeth honno i ni gyda'u cais i gofrestru.
A4. Ond, rydym yn cadw'r hawl i wirio addasrwydd arbenigwr (er enghraifft,
trwy geisio barn llywodraeth neu gorff ymbarél priodol). Bydd unrhyw
system a ddatblygir i wneud hyn yn hyblyg, yn wrthrychol ac yn annibynnol ac
ni fyddwn yn dibynnu ar gyrff arbennig ac yn eithrio cyrff eraill. Byddwn yn
dod i'n casgliadau ein hunain yngly^n â theilyngdod yn seiliedig ar y
meini prawf, ond bydd barn yr hyrwyddwr a'r arbenigwr annibynnol yn cael ei
hystyried wrth wneud hynny.
Elusennau cadwraeth
Tystiolaeth o arwyddocâd hanesyddol neu bensaernïol
A5. Dylai sefydliadau cadwraeth sy'n ceisio cofrestru ddarparu
tystiolaeth arbenigol annibynnol, sy'n awdurdodol ac yn wrthrychol, gan gorff
neu unigolyn ag enw da, sy'n tystio bod eu hadeilad neu eu safle o ddiddordeb
hanesyddol neu bensaernïol digonol a'i fod yn deilwng i'w warchod er lles
y cyhoedd. Byddai enghreifftiau o hyn yn cynnwys adeiladau sydd wedi chwarae
rôl arwyddocaol mewn datblygiadau diwydiannol a thechnolegol yn ogystal
â'r rheiny sydd â theilyngdod pensaernïol neu hanesyddol.
Rhestriad
A6. Ar gyfer adeiladau gyda rhestriad English Heritage, bydd cynhyrchu'r rhestriad
hwnnw gydag esboniad o pam y rhoddwyd y rhestriad yn ddigon i awgrymu teilyngdod
os yw'r rhestriad yn Radd I neu II*. Os yw'r rhestriad yn is gallwn ofyn am
dystiolaeth ychwanegol yngly^n â theilyngdod, yn ôl ein disgresiwn.
Gall fod achosion (fel adeiladau hanesyddol sy'n enwog yn genedlaethol) lle
mae teilyngdod mor amlwg ac felly dim ond y dystiolaeth fwyaf sylfaenol (er
enghraifft, hanes a disgrifiad o'r adeilad dan sylw) fydd ei angen.
Cysylltiad â pherson neu ddigwyddiad
A7. Os yw'r adeilad yn cael ei warchod oherwydd ei gysylltiad â pherson
arbennig (er enghraifft, lle cafodd rhywun enwog ei eni, lle y bu farw neu lle
y treuliodd gyfnod sylweddol o'i fywyd, neu leoliad digwyddiad hanesyddol arwyddocaol)
yna dylai'r dystiolaeth arbenigol annibynnol allu ein bodloni yngly^n â'r
holl bethau canlynol:
- mae'r person neu'r digwyddiad o ddiddordeb addysgol, hanesyddol neu wyddonol
digonol;
- mae gan yr adeilad gwir gysylltiad â'r person neu'r digwyddiad ac
mae'n arwyddocaol ym mywyd y person;
- mae rhan arwyddocaol o'r hyn sy'n weddill yn gysylltiedig â'r cyfnod
pan fu'r person yn byw yno neu pan gynhaliwyd y digwyddiad;
- os na ddefnyddir yr adeilad fel amgueddfa neu mewn unrhyw ffordd arall i
addysgu'r cyhoedd am y person neu'r digwyddiad dan sylw, yna rhaid i'r adeilad
ei hun fod o deilyngdod digonol er mwyn i'w warchod fod yn elusennol waeth
beth fo'i gysylltiad.
A8. Dylid gweld y meini prawf hyn fel mannau cychwyn. Os nad yw sefydliad yn
gallu eu bodloni i gyd, ni fyddwn yn gwrthod cais yn awtomatig ond yn hytrach
bydd yr achos yn cael ei ystyried yn ei gyfanrwydd i weld os yw'r prawf teilyngdod
yn cael ei fodloni mewn rhyw ffordd arall.
A9. Mae ystyriaethau arbennig yn gymwys os yw'r cais yn ymwneud ag adeilad
neu safle sy'n gysylltiedig â rhywun sy'n fyw neu sydd newydd farw. Mae'n
arbennig o anodd i asesu teilyngdod tymor hir mewn achos o'r fath. Yn ogystal
â'r uchod, felly, dylid darparu tystiolaeth o botensial y person ar gyfer
arwyddocâd hanesyddol a disgwylir i'r ymddiriedolwyr ailwerthuso budd
i'r cyhoedd yr elusen ar ôl cyfnod priodol. Os yw'n ymddangos nad yw amcanion
y sefydliad yn elusennol mwyach, dylai'r ymddiriedolwyr geisio cyngor gan y
Comisiwn.
Elusennau gwarchod
Gwarchod rhywogaethau prin neu rywogaethau sydd mewn perygl
A10. Y maen prawf ar gyfer teilyngdod rydym yn mabwysiadu
mewn perthynas ag elusennau gwarchod rhywogaeth yw y gall gwarchod rhywogaeth
fod yn elusennol os, ar dystiolaeth arbenigol annibynnol sy'n awdurdodol ac
yn wrthrychol, gan gorff neu unigolyn sydd ag enw da:
- yw'r rhywogaeth yn brin neu mewn perygl o ddiflannu; neu
- os oes tystiolaeth y bydd yn cyrraedd y cam hwnnw os na weithredir,ar yr
amod nad yw gwarchod yn niweidiol i fodau dynol yn y ddau achos.
A11. Er enghraifft, bydd gwarchod rhywogaeth arbennig o anifeiliaid yn fuddiol
(oherwydd ei fod yn cyfrannu at wyddor swolegol a gall gynnig buddiannau amgylcheddol
neu warchod cronfa genynnau sydd ei hangen er lles y cyhoedd). Ond llawn cymaint
â hyn mae'n bosib y gall gwarchod gael canlyniadau sy'n niweidiol i'r
gymuned hefyd - e.e. os yw'r rhywogaeth arbennig yn ferminog a/neu yn arbennig
o ddinistriol i amaethyddiaeth. Ond mae gan hyd yn oed rhywogaethau peryglus
eu rôl i chwarae o ran gwarchod bioamrywiaeth a gallant fod â phwysigrwydd
sydd ond yn amlwg i genedlaethau'r dyfodol. Mae gan bob rhywogaeth rôl
i'w chwarae yn yr ecosystem hyd yn oed os ydynt yn gyfrifol am broblemau fel
dinistrio cnydau. Felly gallai gwarchod rhywogaeth o'r fath mewn amgylchiadau
priodol gael ei gyfiawnhau. Hefyd ni ddylai rhywogaeth gael ei hystyried yn
niweidiol i fodau dynol dim ond oherwydd ei fod yn rhwystro ehangiad economaidd.
Felly mae'n rhaid i'r Comisiynwyr Elusennau ac, yn y pen draw, y llysoedd benderfynu
a fydd y nod, yn sgîl amgylchiadau arbennig unrhyw achos, yn gweithio
er budd y cyhoedd neu beidio.
Gwarchod rhywogaethau eraill
A12. O fewn cyd-destun y maen prawf teilyngdod byddwn yn mabwysiadu'r dybiaeth
bod pob rhywogaeth yn haeddu cael ei gwarchod oni bai fod tystiolaeth i'r gwrthwyneb.
Os gall arbenigwr priodol gadarnhau nad yw'n bosib ar hyn o bryd i asesu union
lefel perygl i rywogaeth arbennig, byddwn yn arfer unrhyw ansicrwydd o blaid
yr elusen arfaethedig. Bydd sefydliadau cymwys yn cynnwys y rheiny a sefydlwyd
i warchod rhywogaethau a fydd mewn perygl yn y dyfodol, neu sydd ond mewn perygl
mewn ardal leol arbennig. Gall unrhyw elusen a sefydlwyd i warchod rhywogaeth,
naill ai'n genedlaethol neu'n lleol, gael y pw^er hefyd i sefydlu a gwarchod
cynefinoedd perthnasol.
A13. Os nad yw'r rhywogaeth mewn perygl, yna er mwyn i sefydliad sy'n gysylltiedig
â'r rhywogaeth gael statws elusennol, mae'n rhaid i'r sefydliad gael gwir
ddiben addysgol. Er enghraifft, efallai fod rhywogaeth arbennig yn haeddu cael
ei gwarchod mewn egwyddor ond efallai ei fod yn ffynnu ar hyn o bryd i'r fath
raddau fel nad oes angen unrhyw ymdrech i'w gwarchod. Ond, gallai elusen gael
ei sefydlu o hyd i addysgu'r cyhoedd am y rhywogaeth ac ymchwilio iddi, a gallai'r
gweithgaredd hwn gynnwys monitro ei statws yn y dyfodol. Bydd y prawf addysgol
hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob sefydliad yn y maes hwn. (Mae enghraifft
yn cynnwys sw^au a all fod yn elusennol ar sail hybu gwarchod os oes rhaglen
bridio ganddynt. Wrth gwrs, dylent hefyd fodloni'r gofynion statudol lleiaf
ar gyfer iechyd, diogelwch a lles a thrwyddedu sw^au). Byddai hefyd yn weithgaredd
cyfreithlon i elusen warchod reoli nifer y rhywogaeth sy'n peryglu cydbwysedd
naturiol ardal arbennig oherwydd ei bod yn rhy epiliog.
Gwarchod yr amgylchedd
A14. Mae amcanion derbyniol ar gyfer sefydliadau sy'n ymwneud
â gwarchod yr amgylchedd yn gyffredinol yn cynnwys:
"Hybu gwarchod, diogelu a gwella'r amgylchedd ffisegol a naturiol" a
"Hybu gwarchod yr amgylchedd ffisegol a naturiol trwy hybu amrywiaeth biolegol
[neu fioamrywiaeth]".
A15. Dylai elusennau gwarchod yr amgylchedd arfaethedig ddarparu tystiolaeth
gan arbenigwr annibynnol sy'n awdurdodol ac yn wrthrychol i'n bodloni bod tir
neu gynefin y sefydliad yn haeddu cael ei warchod. Man cychwyn posib ar gyfer
hyn fyddai nodi bod gan yr ardal ddynodiad rhyngwladol neu genedlaethol fel
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal o Harddwch Naturiol Arbennig neu
Warchodfa Natur Genedlaethol ond bydd tystiolaeth arall yn dderbyniol hefyd.
Bydd rhaid i sefydliadau sydd ag amcanion ehangach i hybu cadwraeth yn gyffredinol
roi enghreifftiau o brojectau arbennig i'n bodloni y byddant yn cynnig budd
go iawn i'r cyhoedd.
Y gofyniad budd i'r cyhoedd
Gofyniad cyffredinol
A16. Rhaid i bob elusen gael ei sefydlu er budd y cyhoedd.
Ystyrir y gofyniad cyffredinol hwn yn fanwl yn ein cyhoeddiad RR8
- Natur Gyhoeddus Elusennau. Byddwn yn edrych ar bob cais am statws elusennol
er mwyn sicrhau bod y sefydliad wedi'i ffurfio er budd y cyhoedd ac nid er budd
preifat. Byddwn hefyd yn monitro elusennau presennol er mwyn sicrhau bod yr
elusen yn cyflawni dibenion elusennol yn unig. Yn achos elusennau cadwraeth
a gwarchod, os mai prif ddiben sefydliad mewn gwirionedd yw rhedeg busnes a
sefydlwyd (er enghraifft) i dyfu cnydau i wneud elw i'r unigolion neu fridio
adar i'w saethu'n breifat, yna ni fydd y sefydliad yn ateb y gofyniad hwn.
A17. Mae dwy agwedd benodol ar y gofyniad budd i'r cyhoedd sydd yn arbennig
o berthnasol i sefydliadau a sefydlwyd at ddibenion cadwraeth a gwarchod, sef:
- yr angen i gynnig mynediad i'r cyhoedd; a
- budd cyhoeddus v preifat.
Mynediad
Mynediad corfforol
A18. Pan fydd elusen wedi'i sefydlu i gynnal adeilad, safle
neu gynefin arbennig, y ffordd fwyaf amlwg ac arferol o fodloni'r gofyniad budd
i'r cyhoedd yw i'r cyhoedd gael mynediad corfforol uniongyrchol i edrych ar
ei nodweddion arbennig. Ond nid mynediad corfforol yw'r unig ffordd y gellir
bodloni'r gofyniad budd i'r cyhoedd. Yn ein barn ni, mae'r egwyddorion cyfreithiol
sy'n llywodraethu'r angen am fynediad corfforol fel y'u hamlinellwyd yn llinell
achosion Grove-Grady(4) (yn ôl hyn roedd mynediad
corfforol i safle yn ofyniad i gael statws elusennol), wedi dyddio bellach a
gellir mabwysiadu ymagwedd fwy hyblyg. Gwelir hyn fel enghraifft o faes lle,
yn sgîl amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd newidiol, mae nodweddion
elusennau wedi datblygu.
A19. Ein polisi yw y dylid cymryd yn ganiataol fod mynediad corfforol i safle
wrth benderfynu os yw'r gofyniad budd i'r cyhoedd wedi'i fodloni neu beidio,
ond byddwn yn mabwysiadu ymagwedd hyblyg tuag at lefel y mynediad sydd ei hangen
er mwyn bodloni'r gofyniad. Mae angen i'r mynediad fod yn gyson â nodau'r
elusen ac ni ddylid caniatáu i ymwelwyr gael mynediad ar draul dirywiad
eiddo neu amgylchedd bregus.
Cyfyngu ar fynediad corfforol neu ei wahardd
A20. Os yw sefydliad yn gallu cyflwyno achos (trwy roi tystiolaeth arbenigol
briodol i ni) dros gyfyngu neu wahardd mynediad corfforol i safle neu eiddo,
gallant fodloni'r gofyniad budd i'r cyhoedd o hyd trwy weithredu dulliau eraill
o hysbysu'r cyhoedd am yr elusen a'i gweithgareddau. Mae rhai enghreifftiau
yn cynnwys:
- Mynediad i ran o'r safle os yw mynediad i'r cyfan yn beryglus.
- Cyfleusterau i edrych ar y safle o'r tu allan.
- Edrych trwy gamerâu fideo, telesgopau neu offer arall.
- Efelychiadau cyfrifiadurol a safleoedd ar y Rhyngrwyd.
- Rhaglenni teledu a radio.
- Fideos, llyfrau, trafodaethau a darlithoedd.
A21. Mae'r rhain yn syml yn dangos dulliau priodol posib ac nid ydynt yn rhestr
gyflawn. Byddwn yn ystyried unrhyw ddulliau priodol eraill o fodloni'r gofyniad
budd i'r cyhoedd.
Agweddau penodol o fynediad i'r cyhoedd
A22. Roedd ein hymgynghoriad wedi amlygu rhai materion penodol mewn perthynas
â mynediad. Felly dylai unrhyw sefydliad sy'n gwneud cais am statws elusennol
gofio'r canlynol:
Tai a safleoedd sydd ar agor unrhyw bryd ond dim ond trwy wneud apwyntiad
arbennig:
A23. Dylid ystyried agor ty^ neu safle trwy wneud apwyntiad arbennig fel dull
o gynnig mynediad corfforol i eiddo dim ond os gellir dangos trwy dystiolaeth
nad yw mynediad mwy cyffredinol yn ymarferol neu er lles yr elusen (er enghraifft
oherwydd breuder y safle neu ei natur anghysbell, neu os yw'n cael ei feddiannu'n
gyfreithlon gan drydydd person). Gall mynediad o'r fath fod yn dderbyniol gyda
chanllawiau priodol (a chaiff eu trafod gyda'r sefydliad adeg cofrestru) a monitro.
Felly gall cyrff lle mae'r unig ddull arfaethedig o fodloni'r gofyniad budd
i'r cyhoedd yw trwy'r math hwn o fynediad ddisgwyl gael ei holi adeg cofrestru
a gellir eu monitro ar ôl cofrestru er mwyn i ni allu sicrhau bod budd
i'r cyhoedd digonol yn parhau. Bydd rhaid i'r sefydliad ein bodloni bod system
briodol yn weithredol ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i'r trefniadau arfaethedig
a chofnodi sut y maent yn gweithio yn ymarferol. Dylai hyn gynnwys man cyswllt
hylaw i ymwelwyr posib.
Ansawdd mynediad o ran amser ac ardaloedd y safle/adeilad:
A24. Fel rheol byddwn yn disgwyl i holl rannau mwyaf diddorol y safle neu'r
eiddo gael eu cynnwys yn nhrefniadau mynediad i'r cyhoedd ac i'r safle fod ar
agor yn ddigon aml i ddarparu ar gyfer pob math o ymwelwyr (er enghraifft, ar
y penwythnos yn ogystal â'r diwrnod gwaith). Ond, derbynnir mewn achosion
priodol gall fod modd i sefydliad lunio achos fod agor ar lai o ddiwrnodau ond
diwrnodau mwy poblogaidd gynnig mwy o fudd yn gyffredinol i'r cyhoedd nag agor
yn fwy aml ar adegau anghyfleus. Caiff hwn ei ystyried yn ofalus yng nghyd-destun
pob achos unigol(5).
A25. Argymhellir lle bynnag y bo'n bosib y dylid cynnwys cynllun o'r oriau
agor yn y cais cofrestru gydag amcanestyniad o nifer yr ymwelwyr os yw ar gael.
Byddem yn ei gwneud yn glir fodd bynnag nad yw statws elusennol yn dibynnu ar
nifer yr ymwelwyr a derbynnir bod mwy o botensial i gael ymwelwyr mewn rhai
safleoedd a thai nag eraill. Y ffactor pwysig yw y dylai'r safle fod yn hygyrch
i bawb sydd am ymweld ag ef. Ni fyddem am gymeradwyo pob newid yn y trefniadau
agor: mae hwn yn fater gweinyddol o fewn disgresiwn yr ymddiriedolwyr ac mae
ond yn berthnasol i ni os yw unrhyw newid yn creu ansicrwydd yngly^n ag a yw'r
elusen yn bodloni'r gofyniad budd i'r cyhoedd o hyd.
Os nad yw'r safle neu'r adfeilion hanesyddol yn weladwy ac mae ganddo statws
gwarchodedig:
A26. Er gwaetha'r ffaith bod statws gwarchodedig gan y safle, cydnabyddir y
gall fod angen rheolaeth weithredol o'r safle gan elusen i'w warchod hyd yn
oed os yw'r adfeilion dan sylw wedi'u claddu ac yn anweladwy. Os gellir bodloni'r
gofynion budd i'r cyhoedd, er enghraifft trwy arddangosfeydd o ffotograffau
ac arteffactau, yna byddwn yn barod o hyd i ystyried y sefydliad ar gyfer statws
elusennol.
Os yw mynediad i'r adeilad, gardd neu dir allan o reolaeth yr elusen oherwydd
y caiff ei ddefnyddio neu ei berchen gan drydydd parti:
A27. Cydnabyddwn nad yw'r ffaith bod adeilad yn eiddo preifat
yn rhwystr awtomatig i wario cronfeydd elusennol arno. Ond, rhaid i unrhyw sefydliad
sydd am weithredu fel elusen a defnyddio ei chronfeydd yn y ffordd hon ein bodloni
ni ei fod yn diwallu'r gofyniad budd i'r cyhoedd. Hefyd mae'n rhaid i'r sefydliad
sicrhau ei fod yn derbyn budd sy'n cyfateb i'r swm o arian y mae'n gwario. Bydd
angen i'r elusen arfaethedig ddangos hefyd fod ganddi raddfa effeithiol o reolaeth
dros ei chronfeydd a mynediad i'r eiddo. Gall fod amgylchiadau pan fyddai edych
ar safle o'r tu allan neu'r ardal gyfagos yn ddigonol, ond gall sefydliadau
sy'n gwneud cais am statws elusennol yn yr amgylchiadau hyn ddisgwyl gael eu
harchwilio'n fanwl gennym ni cyn ac ar ôl cofrestru. Ein barn ni o hyd
yw lle bynnag y bo'n bosib, dylai'r elusen gael budd cyfreithiol yn yr eiddo
neu'r safle dan sylw.
Statws elusennol a gofynion mynediad eraill:
A28. Cydnabyddwn y gall cyrff sy'n gwneud cais am statws elusennol fod yn ddarostyngedig
i ofynion mynediad eisoes o ganlyniad i dderbyn grant gan gyrff fel English
Heritage, Cadw neu'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, neu oherwydd
bod yr eiddo yn ddarostyngedig i eithriad treth. Rhaid cofio bod y cyrff hyn
yn ystyried gofyniad mynediad fel rhan o ddarpariaeth grant fel arfer neu eithriad
treth ac nid bodloni gofyniad cyfreithiol elusen. Mae'n bosib bod y dystiolaeth
sydd ei hangen i fodloni'r meini prawf budd i'r cyhoedd fel elusen yn llymach
na gofynion mynediad cyrff eraill, a dylai hyrwyddwyr fod yn barod am hyn pan
fyddant yn cyflwyno eu cais i gofrestru.
Manylion mynediad mewn Adroddiadau Blynyddol:
A29. Mae rhwymedigaethau gan elusennau a amlinellwyd yn
Neddf Elusennau 1993 i baratoi adroddiad blynyddol a'i gyflwyno i ni. Argymhellwn
y byddai'n arfer dda i elusennau cadwraeth a gwarchod sy'n gyfrifol am safleoedd
neu adeiladau i nodi, naill ai yn eu hadroddiad blynyddol neu mewn man arall:
- nifer y bobl sy'n ymweld â'r eiddo a, lle y bo'n briodol, y nifer
sydd wedi gwneud ymholiadau ond na allai ymweld;
- y trefniadau ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i oriau agor naill ai'n genedlaethol,
neu o fewn yr ardal leol, yn dibynnu ar bwysigrwydd yr eiddo;
- lle mae mynediad wedi'i gyfyngu neu nid yw ar gael, y cyfiawnhad dros barhau
â pholisi o'r fath, gyda manylion am ddulliau eraill a ddefnyddir i
hysbysu'r cyhoedd am gynnydd.
A30. Os nad yw'r wybodaeth yn yr adroddiad ei hun, argymhellwn y dylai'r adroddiad
esbonio sut i gael y ddogfen sy'n cynnwys y wybodaeth. Er enghraifft, gallai'r
adroddiad nodi cyfeiriad lle y gellir cael canllawiau safle-benodol, sy'n cynnwys
y ffigurau perthnasol. Mae'n briodol i ymddiriedolwyr elusennau roi ystyriaeth
i'r cronfeydd sydd ar gael iddynt wrth benderfynu ar fanyldeb y wybodaeth yn
yr adroddiad.
Budd cyhoeddus v preifat
Cyn berchnogion
A31. Yr achos yn aml iawn, yn enwedig gyda thai hanesyddol,
yw bod eiddo sy'n amodol ar ymddiriedolaeth elusennol arfaethedig i gael ei
roi neu ei roi ar brydles i'r elusen gan yr aelod o'r teulu sy'n berchen ar
yr eiddo ac sy'n byw ynddo hefyd, ac mae'r trosglwyddiad ar y sail y byddant
hwy neu eu perthnasau yn parhau i ddefnyddio'r eiddo ar ôl iddo gael ei
weinyddu gan yr elusen. Gall aelodau'r teulu hefyd fwriadu bod yn ymddiriedolwyr
yr elusen arfaethedig, neu gael eu cyflogi ganddi.
A32. Derbyniwn yn llawn y gall cyfraniad parhaus cyn berchnogion mewn ymddiriedolaethau
adeiladau hanesyddol ac mewn ymddiriedolaeth gadwraeth gael ei weld fel budd
positif sydd angen cael ei gydnabod. Hefyd, gwerthfawrogwn bod nifer o fanteision
i'r elusen trwy hyn a bod amser ac arbenigedd gan y cyn berchnogion y maent
yn barod i barhau i'w rhoi i'r elusen heb dâl neu ychydig o dâl.
Cydnabyddwn hefyd bod y sawl sydd wedi rhoi'r eiddo, yn wahanol i aelodau eraill
o'r teulu a defnyddwyr dilynol, mewn sefyllfa arbennig. Mae'r sawl a'i rhoddodd
wedi gwneud y penderfyniad i roi'r eiddo i elusen ac felly gall drafod neu osod
y telerau ar gyfer trosglwyddo'r eiddo hwnnw. Gall hyn gynnwys rhoi hawliau
neu fuddiannau arbennig i'r sawl a'i rhoddodd. Nid yw aelodau eraill o'r teulu
yn y sefyllfa hon. Ond mae'n ofynnol i ni asesu a fydd y trefniadau yn bodloni'r
gofyniad budd i'r cyhoedd neu beidio.
A33. Felly, er ein bod yn cydnabod sefyllfa arbennig y rhoddwr wrth ystyried
ceisiadau, mae'n rhaid i ni hefyd weithredu o fewn y gyfraith elusennau. Er
mwyn bodloni'r gofyniad rhoi budd i'r cyhoedd, rhaid i elusen beidio â
bodoli er budd unigolion preifat arbennig yn unig. Rhaid i unrhyw fudd i unigolyn
godi'n uniongyrchol trwy ddilyn amcanion yr elusen neu fel arall rhaid iddo
fod yn atodol neu'n ategol i gyflawni diben elusennol.
A34. Er mwyn cydymffurfio â'r egwyddor gyfreithiol hon, mae'n rhaid i
sefydliadau sy'n gwneud cais i gofrestru elusen sy'n gwarchod adeilad neu safle
sicrhau bod unrhyw gyfraniad parhaus gan gyn berchennog teulu yn cael ei reoleiddio
mewn ffordd sy'n golygu bod y gofyniad budd i'r cyhoedd yn cael ei fodloni o
hyd. Yn arbennig, argymhellir bod sefydliadau o'r fath yn ystyried y canlynol:
(a) Dylai elusennau berchen ar yr eiddo a weinyddir ganddynt, naill ai ar
sail rhydd-ddaliad neu ar brydles hir. Os yw sefydliad o'r farn na all gael
teitl cyfreithiol i'r eiddo y mae'n bwriadu ei warchod, ond mae'n ceisio cael
statws elusennol serch hynny, bydd angen iddo nodi pam na all gael y teitl.
Er na fydd hyn yn ei wahardd yn awtomatig rhag cael statws elusennol, bydd angen
i'r sefydliad esbonio'n llawn sut y gellir cyfiawnhau gwario cronfeydd elusennol
ar eiddo sydd ym mherchnogaeth breifat. Yna bydd y materion ym
mharagraff A27 yn gymwys. Dylai unrhyw fuddiannau a gedwir gan y setlwr
pan fydd eiddo yn pasio i elusen gael eu hamlinellu yn y ddogfen drosglwyddo
neu gontract ysgrifenedig rhwng y partïon perthnasol. Mae'n ddoeth trafod
y telerau arfaethedig gyda ni cyn cwblhau unrhyw ddogfennaeth.
(b) Dylai unrhyw breswylydd eiddo elusen gael prydles ffurfiol ar y rhent
marchnad llawn. Dylai lefel y rhain gael ei hasesu'n annibynnol ond gall ystyried
nodweddion arbennig prydles o'r fath (er enghraifft, bod angen cynnig mynediad
i'r cyhoedd i'r eiddo). Ni ddylai cyrff lunio prydlesi o'r fath heb ymgynghori
â ni yn gyntaf oherwydd mae'n bosib y bydd angen ein caniatâd ysgrifenedig
ni ymlaen llaw ar gyfer y brydles. Hyd yn oes os nad oes angen hyn, bydd rhaid
iddi gydymffurfio â'r gweithdrefnau yn adran 36 Deddf Elusennau 1993(6).
Dylai'r rhent gael ei thalu a'i thystio trwy gyfrwng anfonebau neu gofnodion
cyfrifyddu derbyniol eraill, a dylai taliadau ymddangos fel cofnodion yng nghyfrifon
blynyddol yr elusen.
(c) Dylai ymddiriedolwyr elusennau arfaethedig sy'n gwarchod adeilad bob
amser ystyried y sefyllfa yngly^n â phwy sy'n berchen ar gynnwys yr eiddo
a'i esbonio yn eu cais i gofrestru. Dylent fedru cyfiawnhau pam nad yw unrhyw
gynnwys perthnasol wedi cael eu nodi a dylent wneud trefniadau priodol i nodi
perchnogaeth cynnwys penodol. Dylid ystyried llunio rhestr eiddo bob amser.
(ch) Yn ein barn ni, gall cyn berchnogion teulu adeiladau hanesyddol sy'n
aros fel preswylwyr (a'u perthnasau) fod yn ymddiriedolwyr elusen arfaethedig
os yw hyn er budd yr elusen, ond dylent ffurfio lleiafrif ar y corff ymddiriedolwyr.
Yn ogystal, dylai dogfen lywodraethol yr elusen hefyd gynnwys darpariaethau
ar gyfer rheoli unrhyw wrthdaro buddiannau (er enghraifft, rhaid i'r ymddiriedolwyr
yr effeithir arnynt fod yn absennol eu hunain o unrhyw drafodaeth berthnasol
a pheidio â phleidleisio ar faterion lle y bu budd personol) ac ni ddylai
aelodau'r teulu a pherthnasau agos sy'n ymddiriedolwyr fod mewn sefyllfa, naill
ai eu hunain neu trwy benodi pobl eraill, i ffurfio cworwm mewn cyfarfod. Ystyr
"aelodau agos o'r teulu" yw:
- Rhoddwr(wyr) yr eiddo;
- Defnyddiwr(wyr) yr eiddo;
- Plentyn(7), rhiant, w^yr/wyres, mamgu/dadcu,
brawd neu chwaer y rhoddwr neu'r defnyddiwr;
- Gw^r priod/gwraig briod(8) unrhyw rai o'r uchod.
A35. Mabwysiadwyd y diffiniad hwn o Atodlen 5 Deddf Elusennau 1993, sy'n diffinio
"pobl gysylltiedig" mewn achosion gwerthu tir elusennau.
Datganiadau yngly^n â statws elusennol
A36. Argymhellir ei fod yn arfer dda i elusennau yn y maes
hwn nodi ar bob dogfen a gynhyrchir i'r cyhoedd bod y sefydliad yn elusen gofrestredig.
Nid oes unrhyw wrthwynebiad i lenyddiaeth sy'n esbonio rôl y teulu sy'n
gysylltiedig â'r ty^, ond dylai'r wybodaeth hon fod yn gywir a pheidio
â chamarwain y cyhoedd yngly^n â natur deiliadaeth y teulu. Byddai'n
ddefnyddiol i enghreifftiau o lenyddiaeth o'r fath gael eu hamgáu gyda'r
cais i gofrestru. Mae hwn yn ychwanegol i'r rhwymedigaethau cyfreithiol a gynhwysir
yn adran 5 Deddf Elusennau 1993.
Gwybodaeth bellach
A37. Am wybodaeth bellach, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi droi at y cyhoeddiadau
canlynol gan y Comisiwn Elusennau:
RR1 Yr Adolygiad o'r Gofrestr Elusennau
RR8 Natur Gyhoeddus Elusennau
CC9 Gweithgareddau ac Ymgyrchoedd Gwleidyddol gan Elusennau
CC28 Gwerthu Tir Elusennau
CC35 Elusennau a Masnachu
Nodiadau
(1) Gall "cadwraeth" gynnwys gwaith adfer cyn belled
ag y bo hwn yn angenrheidiol ac yn gweddu i nodau cadwraeth a darparu mynediad
cyhoeddus.
(2) Yn nodweddiadol mae ymddiriedolaethau o'r fath yn
gweithredu trwy brynu adeilad, ei adfer ac yna ei werthu i gyllido eu project
nesaf.
(3) amrywiaeth bywyd planhigion ac anifeiliaid
(4) Re Grove-Grady: Plowden v Lawrence [1929] 1 Ch
557. Defnyddiwyd yr achos hwn fel awdurdod yn achos 1953 Re Glyn's Will
Trusts (The Times 28 Mawrth 1953) lle y penderfynwyd nad oedd rhodd o dir
wrth ymyl ffordd osgoi fel noddfa i adar a blodau gwyllt yn ymddiriedolaeth
elusennol ddilys. Yn yr achos hwnnw roedd mynediad yn ôl disgresiwn yr
ymddiriedolwyr. Fel adeiladau, nid oedd cadwraeth heb fynediad corfforol gan
aelodau'r cyhoedd yn cael ei ystyried yn elusennol.
(5) Ond, rydym yn cadw'r farn y dylai gerddi, fel man
cychwyn, fod ar agor i'r cyhoedd am ddim llai na thri mis y flwyddyn a dylai
tai fod ar agor am ddim llai na chwe mis y flwyddyn. Os oes oriau agor mwy cyfyngedig,
bydd angen rhesymau arnom fel a nodwyd uchod er mwyn ein galluogi i ddod i'r
casglid bod y gofyniad budd i'r cyhoedd wedi'i fodloni.
(6) Gweler ein harweiniad Gwerthu
Tir Elusennau (CC28).
(7) Mae "plentyn" yn cynnwys llysblentyn a phlentyn
siawns
(8) Mae "gw^r priod/gwraig briod" yn cynnwys rhywun
sy'n byw gyda rhywun arall fel gw^r neu wraig y person hwnnw.