"clic, mewn cysylltiad ar-lein"
gwneud ein gwasanaethau'n haws ac yn gyflymach i elusennau
Gwneud ein gwasanaethau'n haws ac yn gyflymach i elusennau Mae mwy a mwy o
gwsmeriaid yn defnyddio ein gwasanaeth ar-lein i ddiweddaru manylion eu helusen
a chyflwyno eu Ffurflenni Blynyddol a Diweddariadau Blynyddol. Mae tua 65% o
Ffurflenni Blynyddol 2007 sydd wedi cael eu derbyn cyn belled wedi cael eu
cyflwyno ar-lein. Mae'r gwasanaeth yn haws nag erioed i'w ddefnyddio ond gyda
chymorth ac adborth gan gwsmeriaid rydym yn ymroddedig i'w wella ymhellach. Mae
pob elusen wedi cael cyfrinair ar-lein ond os ydych wedi'i golli neu os oes
angen un newydd arnoch, gallwch archebu cyfrinair arall ar-lein. Byddwn yn anfon
cyfrinair newydd at y cyfeiriad e-bost cyswllt os ydych wedi nodi un, neu
gyfeiriad post y gohebydd.
Dilynwch y logo "Clic" i gyrchu ein hamgylchedd ar-lein diogel. Mae'r
gwasanaeth ar-lein yn helpu elusennau, eu cefnogwyr, eu rhoddwyr a'r cyhoedd g
- Mae'r system yn eich atgoffa bod angen i chi gyflwyno eich Ffurflen
Flynyddol ac yn cyfrif i lawr i'ch dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth.
Gallwch gyflwyno'r ffurflen ar-lein ac 'atodi' eich Adroddiad Blynyddol yr
Ymddiriedolwyr a chyfrifon hefyd.
- Gallwch gadw, gweld ac argraffu'r Ffurflen Flynyddol neu Ddiweddariad
Blynyddol unrhyw bryd tra'ch bod yn gweithio'ch ffordd trwyddo. Drwy wneud hyn
gallwch rannu gwybodaeth a'i dilysu gyda'r ymddiriedolwyr cyn cyflwyno'r
fersiwn terfynol.
- Gall elusennau llai ddefnyddio'r system i wneud eu diweddariadau blynyddol
heb orfod anfon unrhyw fanylion ysgrifenedig.
- Fel rheol bydd diweddariadau yn weithredol ac yn ymddangos ar y Gofrestr
Elusennau o fewn 24 awr.
- Mae gweld eich diweddariad ar gofnod eich elusen yn golygu y byddwch yn
gallu cyflwyno'ch gwaith yn gyflymach i gefnogwyr a rhoddwyr trwy gyhoeddi'ch
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon ar ein gwefan.
- Mae gwasanaeth negeseua diogel yn cynnig modd i chi anfon negeseuon neu
ofyn am gyngor yn uniongyrchol. Hefyd gallwch ei ddefnyddio i anfon dogfennau
atom ar-lein.
- Byddwn yn cydnabod drwy'r e-bost bob neges rydych yn ei hanfon atom trwy'r
gwasanaeth negeseua ar-lein. Os ydych wedi rhoi cyfeiriad e-bost i ni ar gyfer
cysylltu â'ch elusen, byddwn hefyd yn cydnabod drwy e-bost yr holl ffurflenni,
cyfrifon ac adroddiadau a gyflwynwch.
- Mae'r system ar gael ar amser sy'n addas i chi.
- Mae ein gwasanaeth ar-lein yn darparu amgylchedd diogel lle nad oes modd
ymyrryd â negeseuon neu ddogfennau a gyflwynwch.
- Mae'r system yn darparu canllaw ar-lein a sgriniau cymorth ac fe'i hategir
ymhellach gan linell gymorth arbennig ar 0845 3000 197. Mae cynghorwyr ar gael
i ateb eich ymholiadau rhwng 8am - 8pm, Llun - Gwener a rhwng 9am - 1pm ar
ddydd Sadwrn (ac eithrio gwyliau banc).
Os oes incwm o lai na £250,000 gan eich elusen, bydd cyfle gennych i ennill
ein gwobr fisol o £1000, drwy ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein. Gweler y
rhestr o gyn enillwyr.