Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Cysylltu â ni dros y ffôn

Os ydych chi eisiau cysylltu â ni ynghylch elusen arbennig rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, gan gynnwys enw a rhif cofrestru'r elusen (gweler Cofrestr Elusennau). Mae nifer o'r ymholiadau mwyaf cyffredin a gawsom yn cael eu hateb yn ein cronfa wybodaeth neu yn ein cyhoeddiadau y gallwch eu llwytho i lawr ar ein gwefan yn rhad ac am ddim.

Ffôn

Graffig Ffôn

0845 300 0218 - Ymholiadau Cyffredinol

0845 300 0219 - Gwasanaeth blwch testun ar gyfer galwyr sydd â nam ar y clyw a'r golwg

0845 300 0197 - Ymholiadau Gwasanaethau Ar-lein

Oriau Agor

Mae ein llinellau ar agor rhwng 8.00am ac 8.00pm yn ystod yr wythnos a rhwng 9.00am ac 1.00pm ar ddydd Sadwrn, heblaw gwyliau cenedlaethol. Ein hadegau prysuraf o'r dydd yw rhwng 9am - 5pm yn ystod yr wythnos. Os nad yw'ch ymholiad o'r pwys mwyaf efallai yr hoffech ein ffonio ni y tu allan i'n horiau prysur.

Gwasanaethau Cyfieithu

Os hoffech siarad â ni mewn iaith heblaw Saesneg, mae ein gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn yn cynnig mwy na 150 o ieithoedd. Dywedwch wrthym ym mha iaith yr hoffech siarad ac ymhen munud neu ddwy bydd cyfieithydd wedi'i gysylltu â'ch galwad.
Gwasanaeth Cwsmeriaid - ein hymrwymiad i chi

Galwadau Ffôn

Byddwn yn:

  • Ateb 80% o'r holl alwadau o fewn 30 eiliad
  • Rhoi blaenoriaeth i Ymddiriedolwyr a chynrychiolwyr elusennau
  • Datrys 90% o ymholiadau yn y man cyswllt cyntaf
  • Darparu gwasanaeth i alwyr sydd â nam ar y clyw a'r lleferydd
  • Darparu gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn ar gyfer mwy na 150 o ieithoedd
  • Eich cynorthwyo pan fyddwch yn gweithio ar-lein i ddiweddaru manylion eich ymddiriedolwyr, cwblhau eich ffurflen flynyddol neu gyflwyno cyfrifon yn electronig

Ymrwymiad

Byddwn yn:

  • Cyflogi cysylltwyr ffôn gwasanaeth cwsmeriaid wedi'u hyfforddi'n arbennig ar y rheng flaen
  • Gweithio tuag at safon rhagoriaeth yn seiliedig ar eich adborth ar gyfer ein holl wasanaethau cwsmeriaid