Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Rheolaeth Dda - Cod i'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol


Mae Rheolaeth Dda - Cod i'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol wedi cael ei gyhoeddi gan y National Governance Hub (partneriaeth o sefydliadau sy'n gweithio i wella rheolaeth elusennau a chyrff gwirfoddol a chymunedol eraill). Mae'r Comisiwn wedi cyfrannu at ddatblygu'r cod mewn partneriaeth â NCVO, ACEVO, Rhwydweithiau Ymddiriedolwyr Elusennau (Charity Trustee Networks) ac ICSA. Mae'r cod yn ganllaw ymarferol, hawdd ei ddefnyddio i helpu elusennau datblygu arfer dda. Rydym yn ei gymeradwyo'n llawn, a byddem yn annog pob elusen - boed yn fach neu'n fawr - i'w ddefnyddio.

Mae'r cod yn seiliedig ar saith egwyddor allweddol sy'n gymwys i unrhyw elusen:

• Arweinyddiaeth y Bwrdd
• Y Bwrdd yn rheoli
• Perfformiad da y Bwrdd
• Adolygu ac adnewyddu'r Bwrdd
• Y Bwrdd yn dirprwyo
• Y Bwrdd ac unplygrwydd ymddiriedolwyr
• Bwrdd agored

Gallwch lwytho i lawr copïau o'r cod yn www.governancehub.org.uk. Mae fersiwn cryno o'r cod hefyd, a thaflen o'r enw Learning to Fly (i gyrff gwirfoddol a chymunedol lleol).