Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Chwefror 2007)
Ymgynghoriad yn gorffen 6 Mehefin 2007
1. Cyflwyniad gan Y Fonesig Suzi Leather
2. Am yr Ymgynghoriad ar y Canllawiau Budd Cyhoeddus Drafft
3. Canllawiau Budd Cyhoeddus Drafft: Elusennau a Budd Cyhoeddus
4. Y cyd-destun ehangach i elusennau
Annwyl Ddarllenydd,
Ers cannoedd o flynyddoedd bu elusennau wrth wraidd cymdeithas sifil, gan gyflawni gwaith elusennol er budd cenedlaethau olynol. Heddiw, mae miloedd o elusennau yn gweithio mewn ffyrdd amrywiol ac arloesol i helpu creu cymdeithas well.
Mae'r ystod eang o weithgareddau, gwasanaethau, safbwyntiau a gwerthoedd y mae elusennau'n eu cynnig ac yn eu hadlewyrchu yn nodwedd unigryw o'r sector. Mae cael yr amrywiaeth hwnnw yn werthfawr iawn. Mae'r rhyddid sydd gan elusennau i arloesi a herio hefyd yn rhan bwysig o gynnal democratiaeth iach. Mae elusennau yn cynnig cyfle i ni, fel unigolion, buddiolwyr a dinasyddion, i archwilio a llunio ein barn unigol ein hunain am yr hyn sy'n bwysig mewn bywyd. Mewn cyfnod o gyfathrebu torfol, mynediad syth i'r rhyngrwyd a brandiau byd-eang, mae amrywiaeth, natur unigryw a ffocws arbennig llawer o weithgaredd elusennol fel petai'n fwy gwerthfawr. Yn yr un modd â bioamrywiaeth yn y byd naturiol, mae plwraliaeth gweithgaredd elusennol yn werth ei gwarchod a'i chynnal.
Mae cynnal annibyniaeth elusennau yn rhan o feithrin yr amrywiaeth ffyniannus hwnnw: yn unigol ac yn gyfunol. Ond nid yw elusennau yn cael rhyddid llwyr i wneud beth bynnag a ddymunant. Yn ôl y gyfraith, rhaid i elusennau gael dibenion elusennol sy'n darparu budd cyhoeddus. Mae Deddf Elusennau 2006 yn atgyfnerthu'r gofyniad bod eu dibenion yn darparu budd i'r cyhoedd, a bod hyn yn berthnasol i bob elusen yng Nghymru a Lloegr. Mae'r Ddeddf hefyd yn ehangu'r rhestr o ddibenion elusennol ac yn rhoi amcanion statudol i'r Comisiwn Elusennau, sef rheolydd annibynnol elusennau, sy'n cynnwys hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fudd cyhoeddus yn ogystal â gwella effeithiolrwydd elusennau a'u hatebolrwydd.
Felly mae'r canllawiau drafft sy'n esbonio'r gofyniad budd cyhoeddus y mae'r Comisiwn Elusennau yn ymgynghori arnynt ar hyn bryd yn bwysig iawn a byddwn yn hoffi gweld cynifer â phosib yn cynnig sylwadau arnynt. Mae'n berthnasol i elusennau newydd ac elusennau sy'n bod. Mae'r gofyniad budd cyhoeddus yn brawf cyfreithiol o ddibenion y mae'n rhaid i elusen ei fodloni cyn y gellir ei chofrestru; ond rhaid i elusennau sy'n bod gofio bod angen parhau i ateb y gofyniad hwnnw.
Mae cyfamod ymhlyg rhwng elusennau a chymdeithas: yn gyfnewid am gael dibenion sy'n elusennol ac sy'n darparu budd cyhoeddus, gall elusennau fwynhau'r buddion a ddaw trwy fod yn elusen - megis enw da a manteision treth. Gan fod y rhain yn gymwys trwy oes elusen, ac nid dim ond pan fydd yn cael ei sefydlu gyntaf, mae'n rhesymol bod elusennau'n parhau i roi cyfrif yn gyhoeddus am y budd a ddarparant i'r cyhoedd.
Credaf y bydd elusennau eisiau gwneud hyn mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â dealltwriaeth a disgwyliadau'r cyhoedd. Mae'r ymchwil a wnaethom ar ddealltwriaeth y cyhoedd o fudd cyhoeddus yn dangos nad yw'r gofyniad cyfreithiol bob amser yn cyd-fynd â'r ffordd y mae'r cyhoedd yn meddwl bod elusennau'n darparu budd cyhoeddus, er mai hwn yw'r unig ddull awdurdodol a chyfreithlon o benderfynu a yw elusen yn darparu budd cyhoeddus neu beidio. Mae hon yn fwy na phroblem semantig; mae'n her cyfathrebu ac atebolrwydd i'r Comisiwn Elusennau ac i'r elusennau eu hunain.
Wrth i elusennau ganolbwyntio ar ateb gofyniad budd cyhoeddus y Ddeddf Elusennau, rydym eisiau eu helpu i esbonio'n well sut y maen nhw'n cynnig budd i'r cyhoedd mewn ffyrdd sy'n berthnasol ac yn ystyrlon i'r cyhoedd. Felly mae canlyniadau'r ymchwil a wnaethom ar ddisgwyliadau'r cyhoedd o ran budd cyhoeddus wedi'u cynnwys yn y ddogfen hon, er eu bod wedi'u nodi ar wahân i'r ymgynghoriad ffurfiol. Mae'r safbwyntiau hyn wedi'u codeiddio yn Safonau'r Dinesydd. Maen nhw wedi'u cynnwys er mwyn i elusennau allu dechrau ystyried sut y gallant fynegi eu heffeithiolrwydd eu hunain yn well, yn ogystal ag ystyried y canllawiau drafft ar fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Bwriadwn gynnal ymgynghoriad pellach gydag elusennau ar y pwnc hwn a chydweithio â nhw er mwyn sicrhau bod yr anogaeth gywir gennym yn ei lle i helpu elusennau gael mwy o effaith, gwella eu hatebolrwydd a chryfhau eu hannibyniaeth, creadigrwydd ac effeithiolrwydd.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam hanfodol o ran cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r gofyniad budd cyhoeddus ac edrychaf ymlaen at dderbyn adborth ar ein canllawiau budd cyhoeddus drafft. Mae hwn yn fater hanfodol bwysig i elusennau a chymdeithas a chroesawaf eich barn.
Y Fonesig Suzi Leather
Cadeirydd
Rhaid i bob elusen gael dibenion elusennol sydd ar gyfer budd y cyhoedd. ('Diben' yw nod neu amcan cyffredinol yr elusen ac fel arfer mae wedi'i bennu yn ei dogfen lywodraethol.) Gelwir hyn y 'gofyniad budd cyhoeddus'.
Atgyfnerthir y gofyniad hwn gan Ddeddf Elusennau 2006 ("Deddf Elusennau") sydd yn:Nid yw'r Deddf Elusennau yn diffinio'r hyn a olygir wrth 'fudd cyhoeddus'; mae'r gyfraith bresennol yn parhau i bennu hyn, ac mae'n seiliedig ar benderfyniadau a wnaethpwyd gan y llysoedd a'r Comisiwn Elusennau dros y blynyddoedd. Ond mae'r Deddf yn dileu'r rhagdybiaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd yn y gyfraith elusennau bod sefydliadau sy'n lleddfu tlodi neu'n hyrwyddo addysg neu grefydd yn darparu budd i'r cyhoedd. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i bob elusen ddangos yn y dyfodol bod eu dibenion yn darparu budd i'r cyhoedd.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â'n canllawiau budd cyhoeddus drafft, sydd wedi'u cynnwys yn adran 3. Mae ein canllawiau drafft yn pennu egwyddorion budd cyhoeddus a'n hymagwedd at asesu budd cyhoeddus elusennau.
Yn arbennig, croesawn sylwadau ar:
Rydym wedi paratoi Asesiad Effaith Rheoleiddiol rhannol, sydd ar gael ar ein gwefan, i asesu effaith ein cynigion ar elusennau er mwyn pennu sut y gallem asesu budd cyhoeddus elusennau sy'n bod a sut y teimlwn y gallai elusennau ddatgan sut y maen nhw'n bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Mae 'Asesiad Effaith Rheoleiddiol' yn offeryn rheoleiddio gwell sy'n dadansoddi effeithiau tebygol polisi'r llywodraeth a'r ystod o ddewisiadau ar gyfer ei weithredu.
Derbyniodd y Ddeddf Elusennau Gydsyniad Brenhinol ar 8 Tachwedd 2006. Disgwylir i'r darpariaethau yn y Ddeddf sy'n ymwneud â budd cyhoeddus ddod i rym yn gynnar yn 2008. Adolygir effaith y gofyniad budd cyhoeddus cyn pen 3 blynedd o'r dyddiad y daw i rym.
Pan fydd y darpariaethau hynny yn dod i rym, bydd rhwymedigaeth gyfreithiol ar ymddiriedolwyr elusennau i ystyried ein canllawiau ar fudd cyhoeddus.
Felly, teimlwn ei fod yn bwysig i ymgynghori ar ein canllawiau drafft yn gynnar yn y broses er mwyn i ymddiriedolwyr elusennau gael gwybod amdanynt ymlaen llaw, a chael cyfle i gynnig sylwadau arnynt a'u heffaith debygol ar eu helusen, cyn bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnynt i'w hystyried.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn arbennig o bwysig i ymddiriedolwyr elusennau oherwydd pan fydd y darpariaethau yn y Ddeddf Elusennau sy'n ymwneud â budd cyhoeddus yn dod i rym, bydd rhaid i bob ymddiriedolwr ystyried y canllawiau ar fudd cyhoeddus sy'n cael eu cyhoeddi gan y Comisiwn Elusennau pan fyddant yn ymarfer unrhyw bwerau neu ddyletswyddau os yw'r gofyniad budd cyhoeddus yn berthnasol. Mae'r ddyletswydd statudol newydd hon yn atgyfnerthu'r dyletswyddau cyffredinol sydd gan ymddiriedolwyr eisoes i weithredu er budd cyhoeddus.
Yn sgîl y ddyletswydd statudol newydd hon, mae'n bwysig bod ymddiriedolwyr elusennau a'u hymgynghorwyr yn gyfarwydd â'n canllawiau drafft, ac yn eu deall er mwyn iddynt wybod sut i sicrhau bod eu helusen yn bodloni’r gofyniad budd cyhoeddus a sut i osgoi penderfyniadau a allai gael effaith andwyol ar fudd cyhoeddus eu helusen. Hefyd, mae'n bwysig i ymddiriedolwyr ddeall y meini prawf a ddefnyddiwn i asesu a yw eu helusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus neu beidio.
Rydym yn awyddus iawn i gael adborth gan ymddiriedolwyr elusennau ar ein canllawiau drafft er mwyn ein helpu i gael pethau'n iawn a chynhyrchu canllawiau o ansawdd da.
Byddwn yn asesu budd cyhoeddus elusennau yn ôl yr egwyddorion budd cyhoeddus a bennwyd yn ein canllawiau drafft. Mae'n rhaid i bob elusen gael dibenion sy'n cynnig budd i'r cyhoedd ar hyn o bryd (hyd yn oed pe gellid rhagdybio bod budd i ryw raddau), ac felly nid ydym yn disgwyl i nifer fawr o elusennau fethu â bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, ond ni all fod unrhyw sicrwydd ychwaith y bydd pob elusen sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd yn gallu dangos ei bod yn parhau i fodloni'r gofyniad hwnnw.
Mae'n bosib nad yw rhai ymddiriedolwyr elusennau wedi ystyried budd cyhoeddus eu helusen cyn hyn ac felly mae angen iddynt ddechrau ei ystyried nawr. Felly, hoffem wybod os yw ymddiriedolwyr elusennau yn teimlo bod ein canllawiau drafft o gymorth o ran eu helpu i feddwl am eu helusen ac a yw'n bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Rydym yn ymgynghori ar ein canllawiau budd cyhoeddus drafft, Elusennau a Budd Cyhoeddus.
I gyd-fynd â'n canllawiau drafft, rydym wedi rhoi'r ddogfen Dadansoddi'r gyfraith sy'n sail i Elusennau a Budd Cyhoeddus ar ein gwefan, sy'n esbonio'r sail gyfreithiol ar gyfer yr egwyddorion budd cyhoeddus a nodwyd.
Cyn cyhoeddi ein canllawiau drafft, hoffwn roi cyfle i bawb gael gwybod am ein hymagwedd arfaethedig at fudd cyhoeddus a chynnig sylwadau ar unrhyw agwedd ohoni. Hoffem i'r ymgynghoriad hwn ein helpu i adnabod unrhyw welliannau y gallwn eu gwneud i'r canllawiau drafft ac adnabod problemau y gall elusennau eu profi, naill ai o ran deall y canllawiau drafft neu fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Yn arbennig, mae diddordeb gennym glywed am unrhyw bryderon penodol sydd gan bobl ynghylch gallu rhai mathau o elusennau i fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, yng ngoleuni'r egwyddorion budd cyhoeddus a bennwyd yn ein canllawiau drafft.
Croesawn sylwadau ar gwestiynau'r ymgynghoriad sydd wedi'u cynnwys trwy ein canllawiau drafft ond hefyd croesawn unrhyw sylwadau neu arsylwadau eraill ar unrhyw agwedd ar y canllawiau drafft, ar y dadansoddiad cyfreithiol sy'n tanategu'r canllawiau, neu'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol rhannol a baratowyd.
Yn dilyn ein hymgynghoriad ar ein canllawiau budd cyhoeddus drafft, bwriadwn gynnal ymgynghoriadau pellach ar effaith egwyddorion budd cyhoeddus a bennwyd yn ein canllawiau drafft ar gyfer mathau penodol o elusennau (neu 'is-sectorau').
Er mwyn blaenoriaethu ein gwaith yn y maes hwn, ac felly gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau, bydd ein penderfyniadau ynghylch pa is-sectorau i hoelio sylw arnynt yn gyntaf yn ystyried materion sy'n ymwneud â risg a budd cyhoeddus.
Yn dilyn ein hymgynghoriad ar ein canllawiau budd cyhoeddus drafft, bydd ein cyfres gyntaf o ymgynghoriadau is-sector yn canolbwyntio ar:
Mae'r ymgynghoriadau yn ymwneud ag elusennau a effeithir gan ddileu'r rhagdybiaeth o fudd cyhoeddus neu mae pryderon ynghylch eu budd cyhoeddus wedi codi yn ystod y drafodaeth ar y Mesur Elusennau.
Bydd llawer o ddadlau ac ymgynghori yn mynd rhagddo cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch sut y disgwylir i fathau arbennig o elusen fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus ac yn bendant cyn y byddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau ar fudd cyhoeddus elusennau arbennig ar y gofrestr o ganlyniad i'r ymgynghoriadau hyn. Rydym yn awyddus i dderbyn adborth gan elusennau sy'n ymwneud â'r meysydd a restrir uchod a byddwn yn ymgysylltu ag elusennau yn y sectorau hynny fel rhan o'r ymgynghoriadau is-sector.
Os ydych yn ymwneud ag elusen sydd wedi'i chynnwys o fewn un o'r meysydd hyn a/neu os oes diddordeb cyffredinol gennych mewn unrhyw un o'r pynciau arbennig hyn, a hoffech gael gwybod pan fydd yr ymgynghoriadau is-sector yn dechrau, anfonwch eich manylion (cyfeiriad post, neu gyfeiriad e-bost os oes modd, i'r cyswllt a restrir yn adran 2.12 isod) gan nodi pa ymgynghoriad(au) sydd o ddiddordeb i chi.
Hefyd, byddwn yn trafod y mater o fudd cyhoeddus gydag elusennau sy'n ffurfio rhan o is-sector arbennig, gyda chyrff mantell perthnasol a defnyddwyr gwasanaethau'r elusennau hynny. Os yw'n briodol, byddwn yn comisiynu ymchwil mwy cyffredinol ar sut mae dibenion elusennau arbennig yn darparu budd cyhoeddus a barn y cyhoedd am y dibenion hynny.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth sydd gennym fel rheolydd elusennau. Casglwn wybodaeth safonol at ddibenion cadw cronfa ddata o elusennau a monitro'r elusennau hynny. Hefyd, mae gwybodaeth gennym yn deillio o'n gwaith bob dydd gydag elusennau sy'n ceisio cyngor ar weithio'n effeithiol, trwy ymweliadau a chyfarfodydd ag elusennau a thrwy ein gwaith i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gyfraith ac ymchwilio i gamweinyddu a chamddefnydd.
O ganlyniad i'n hymgynghoriadau ac ymchwil, byddwn yn cyhoeddi canllawiau a gwybodaeth bellach ar y camau ymarferol y gall elusennau o fewn is-sector arbennig eu cymryd er mwyn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, a chanlyniadau ein hastudiaethau ymchwil sy'n dangos i ba raddau y mae'r mathau hynny o elusen yn bodloni'r gofyniad hwnnw ar hyn o bryd.
Byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau ar fudd cyhoeddus elusennau yn seiliedig ar yr egwyddorion cyfreithiol o fudd cyhoeddus a bennwyd yn y gyfraith achosion sy'n bod, fel y'u diwygiwyd gan y darpariaethau budd cyhoeddus yn y Ddeddf Elusennau pan fyddant yn dod i rym yn 2008. Mae mecanweithiau gennym mewn lle eisoes ar gyfer delio â materion budd cyhoeddus sy'n codi mewn perthynas â cheisiadau i gofrestru elusennau newydd neu yn ystod ein gwaith achosion sy'n ymwneud ag elusennau sy'n bod.
Wrth i ni ddatblygu, ac ymgynghori ar ein canllawiau drafft ar fudd cyhoeddus, a'n hymgynghoriadau arfaethedig yn y dyfodol ar fudd cyhoeddus is-sectorau elusen penodol, bydd yn helpu cynnig gwybodaeth ar gyfer y penderfyniadau a wnawn ynghylch budd cyhoeddus elusennau unigol, a hefyd unrhyw benderfyniadau y bydd y llysoedd neu'r Tribiwnlys Elusennau newydd yn eu gwneud ynghylch budd cyhoeddus.
Mae'r cynigion ynghylch sut y gallem asesu budd cyhoeddus ar gyfer elusennau newydd ac elusennau sy'n bod i'w gweld yn adran G ein canllaw drafft.
Mae'r tabl hwn yn cynnig rhaglen ar gyfer ymagwedd gyffredinol y Comisiwn at fudd cyhoeddus. Mae'n cynnwys dyddiadau petrus ar gyfer pob cam o'r gwaith. Bydd y dyddiadau hyn yn cael eu hadolygu wrth i'r gwaith fynd rhagddo a gallant amrywio, er enghraifft, yn dibynnu ar nifer neu natur yr ymatebion i'r ymgynghoriad.
| 8 Tachwedd 2006 | Y Mesur Elusennau yn derbyn Cydsyniad Brenhinol ac yn troi'n Ddeddf Elusennau 2006 |
| Chwefror 2007 | Y gofyniad i'r Comisiwn ddatblygu canllawiau ac ymgynghori ar y gofyniad budd cyhoeddus yn dod i rym (Deddf Elusennau 2006, adran 4) |
| 7 Mawrth 2007 | Y Comisiwn yn lansio ymgynghoriad 3 mis ar ganllawiau budd cyhoeddus drafft - Elusennau a Budd Cyhoeddus |
| Mawrth - Mehefin 2007 | Y Comisiwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Y Comisiwn hefyd yn dechrau trafod cymhwyso'r egwyddorion budd cyhoeddus ar gyfer is-sectorau elusen penodol |
| 6 Mehefin 2007 | Ymgynghoriad ar ganllawiau budd cyhoeddus drafft yn gorffen |
| Mehefin - Medi 2007 | Y Comisiwn yn dadansoddi ymatebion ac yn adolygu'r canllawiau |
| Hydref 2007 | Y Comisiwn yn cyhoeddi canllawiau budd cyhoeddus - Elusennau a Budd Cyhoeddus |
| Tachwedd 2007 |
Y Comisiwn yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus 3 mis ar ganllawiau is-sector drafft yn delio â budd cyhoeddus:
Y Comisiwn yn dechrau treialu asesiadau budd cyhoeddus o elusennau fydd efallai yn ei chael hi'n anodd bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus |
| Ionawr 2008 | Ymgynghoriadau is-sector yn gorffen |
| Yn gynnar yn 2008 | Y diffiniad newydd o elusen a'r gofyniad budd cyhoeddus yn dod i rym (Deddf Elusennau 2006, adrannau 1, 2, 3 a 5) |
| Mehefin 2008 | Y Comisiwn yn cyhoeddi canllawiau is-sector |
| Medi 2008 | Y Comisiwn yn cyhoeddi canlyniadau treialu asesiadau budd cyhoeddus ac yn cychwyn asesiadau ffurfiol |
| 2010 | Adolygiad 3 blynedd o effaith y gofyniad budd cyhoeddus |
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud yn benodol â'n canllawiau budd cyhoeddus drafft. Fodd bynnag, teimlwn ei fod yn bwysig hefyd i ddweud rhywbeth am y cyd-destun ehangach y credwn fod elusennau yn gweithredu ynddo a'r berthynas rhyngddo ac elusennau a budd cyhoeddus.
Yn dilyn ein hymgynghoriad ar ein canllawiau drafft ar fudd cyhoeddus, byddwn yn annog trafodaethau pellach ar atebolrwydd elusennau a rôl yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl gan elusennau. Trafodir y cyd-destun ehangach hwn yn adran 4.
Yn adran 4, rydym wedi cynnwys peth ddeunydd ar hybu arferion da, er mwyn annog elusennau i gael hyd i ffyrdd newydd a gwell o ddarparu budd i'r cyhoedd, a'r hyn sy'n bwysig i'r cyhoedd am elusennau a budd cyhoeddus, gan gynnwys rhai Safonau'r Dinesydd ar Fudd Cyhoeddus.
Er nad yw'r deunydd yn adran 4 yn ffurfio rhan o'n hymgynghoriad, ac nid yw'n rhan o'n canllawiau drafft ar fudd cyhoeddus, gobeithiwn y bydd yn cynnig gwybodaeth ac yn procio meddwl elusennau.
Byddwn yn ddiolchgar am bob ymateb trwy lythyr neu e-bost, a dylid ysgrifennu 'Ymgynghoriad ar y Canllawiau Budd Cyhoeddus Drafft' arnynt a'u hanfon atom trwy'r post i'r:
Comisiwn Elusennau Uniongyrchol
Blwch SP 1227
Lerpwl
L69 3UG
neu drwy'r e-bost
Gofynnir i chi anfon ymatebion erbyn 6 Mehefin 2007
Os yw'n briodol gofynnwn i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich ymateb. Os ydych yn grŵp cynrychioliadol, rhowch grynodeb o'r bobl a'r sefydliadau rydych yn eu cynrychioli gyda'ch ymateb. Os ydych yn cynrychioli elusen, byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi diben elusennol eich sefydliad.
Sylwch y gall y cyhoedd weld yr ymatebion, gan gynnwys enw a chyfeiriad ymatebwyr, oni bai y gofynnir yn benodol i'r ymateb fod yn gyfrinachol.
Rydym yn awyddus i ystyried barn pawb a all ein helpu i ddatblygu ein polisi a'n harweiniad. Fodd bynnag, gwyddwn nad ydym bob amser yn clywed oddi wrth y rheiny sy'n cynrychioli'r sector du a lleiafrifoedd ethnig a allai gyfrannu.
Rydym yn cymryd camau i sicrhau bod pawb sydd am wneud hynny yn cael cyfle i gyfrannu at ein hymgynghoriadau, ond mae angen ychydig o gymorth arnom. Er mwyn monitro'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn a fyddech cystal â chwblhau a dychwelyd y ffurflen fonitro.
Nid yw'n orfodol i gwblhau'r ffurflen hon ond, os ydych yn ymateb, byddwn yn sicrhau ei bod yn cael ei thynnu o'ch ymateb i'r ymgynghoriad pan gaiff ei derbyn a bod y wybodaeth yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Fel arall gallwch anfon y ffurflen hon ar wahân at: Jim Melton Bradley, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid, Comisiwn Elusennau, Woodfield House, Tangier, Taunton, Gwlad yr Haf, TA1 4BL.
Byddwn yn ystyried yr adborth a gawn ac yn ei ddefnyddio fel sail i adolygu ein canllawiau drafft Elusennau a Budd Cyhoeddus.
Byddwn yn adolygu ein canllawiau drafft gan ystyried y sylwadau rydym wedi'u derbyn erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori. Bwriadwn gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn ar ein gwefan cyn pen tri mis o ddyddiad cau yr ymgynghoriad.
Bwriadwn gynnwys y canllawiau terfynol mewn cyhoeddiad newydd, Elusennau a Budd Cyhoeddus nes ymlaen y flwyddyn hon. Byddwn hefyd yn ystyried pa ganllawiau pellach y gall fod eu hangen.
Os oes unrhyw ymholiadau pellach gennych am yr ymgynghoriad hwn, cysylltwch â:
Patrick Smidmore
Comisiwn Elusennau
Woodfield House
Tangier
Taunton
Gwlad yr Haf
TA1 4BL
Os hoffech wneud ymholiadau dros y ffôn, os oes ymholiadau gennych am unrhyw agwedd arall ar waith y Comisiwn neu os hoffech archebu unrhyw un o'n cyhoeddiadau, ffoniwch y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218 (neu 0845 300 0219 minicom i'r rhai sydd â nam ar y clyw).
Mae copi o'r ddogfen ymgynghori hon wedi cael ei anfon i nifer o gyrff mantell allweddol y sector a sefydliadau ac unigolion eraill sydd wedi mynegi diddordeb yn y pwnc. Os teimlwch fod eraill sydd â diddordeb y dylid ymgynghori â hwy, rhowch wybod i ni.
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn i gydymffurfio â'r chwe maen prawf ymgynghori yng Nghod Ymarfer Ymgynghori Swyddfa'r Cabinet:
Gwahoddir ymatebwyr i ystyried i ba raddau y mae'r meini prawf wedi cael eu bodloni a chynnig sylwadau ar hyn ac awgrymu ffyrdd o wella'r broses ymgynghori ymhellach. Os oes gan ymatebwyr sylwadau neu gwynion am y broses ymgynghori dylent gysylltu â:
Sue Smith
Comisiwn Elusennau
Harmsworth House
13-15 Bouverie Street
Llundain
EC4Y 8DP
Ffôn: 0845 300 0218
Rhestrir yma holl gwestiynau'r ymgynghoriad sydd i'w gweld trwy'r canllawiau drafft:
Cw1. Beth yw'ch barn chi am eglurder, arddull, fformat a'r iaith gyffredinol a ddefnyddir yn ein canllawiau drafft?
Cw2. Ydych chi'n credu bod y modd y mynegwyd yr egwyddorion budd cyhoeddus yn glir ac yn ddealladwy?
(gweler adran C5)
Cw3. Ydych chi'n credu bod y pedair egwyddor o fudd cyhoeddus a nodwyd yn ein canllawiau drafft yn grynodeb cywir o'r gyfraith?
(gweler adran C5)
Cw4. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein dealltwriaeth o rôl amodau cymdeithasol modern o ran asesu'r hyn sydd a'r hyn nad yw o fudd i'r cyhoedd?
(gweler adrannau Ch1 ac Ch2)
Cw5. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein dealltwriaeth o rôl barn y cyhoedd?
(gweler adran Ch3)
Cw6. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein dehongliad o egwyddor 1?
(gweler adran D)
Cw7. Beth yw'ch barn chi am fuddion ategol ac i ba raddau y gallant neu y dylent gael eu hystyried wrth asesu budd cyhoeddus sefydliad?
(gweler adran D6)
Cw8. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein dehongliad o egwyddor 2?
(gweler adran Dd)
Cw9. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein dehongliad o egwyddor 3?
(gweler adran E)
Cw10. Rydym wedi defnyddio'r term 'pobl ar incwm isel' oherwydd ei fod yn derm cyffredin a chredwn mai dyma'r term modern gorau i ddisgrifio'r bobl y mae'r llysoedd wedi cyfeirio atynt cyn hyn fel 'y tlodion'. A fyddai'n well gennych ddefnyddio term arall ar gyfer 'pobl ar incwm isel'? Os felly, pa derm arall sy'n well gennych a pham?
(gweler adran E1)
Cw11. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein dehongliad o egwyddor 4?
Cw12. Ydych chi'n credu y byddai'r deg cwestiwn a ofynnwyd yn y canllawiau drafft yn helpu ymddiriedolwyr elusennau a hyrwyddwyr i asesu a yw eu sefydliad yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus?
(gweler adran Ff)
Cw13. Oes unrhyw gwestiynau eraill y teimlwch y byddai o gymorth i'w cynnwys?
Cw14. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynigion ar gyfer asesu budd cyhoeddus elusennau sy'n bod?
(gweler adran G4)
Cw15. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynigion ar gyfer sut y gallai elusennau o faint gwahanol adrodd am eu budd cyhoeddus? Yn arbennig, oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynnig i ofyn i'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet newid Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2005 er mwyn gorfodi elusennau i ddarparu datganiad budd cyhoeddus yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr? Hefyd, croesawn sylwadau ar ffurf bosib y datganiad budd cyhoeddus syml i elusennau gydag incwm blynyddol o lai na £500,000, neu'r datganiad budd cyhoeddus llawnach i elusennau gydag incwm blynyddol o fwy na £500,000.
(gweler adran G5)
Cw16. Oes unrhyw bryderon arbennig gennych am allu rhai mathau o elusennau i ddangos budd cyhoeddus, yng ngoleuni'r egwyddorion budd cyhoeddus a nodwyd yn ein canllawiau drafft? Os felly, beth yw'r pryderon hynny a sut ydych chi'n credu y gallwn eu datrys?
Cw17. Ydych chi'n credu y bydd ymddiriedolwyr elusennau a'r bobl sy'n sefydlu elusennau newydd yn gallu cymhwyso'r egwyddorion yn ein canllawiau drafft i'w helusen er mwyn iddynt allu dangos eu bod yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus? Os na, pa newidiadau neu ganllawiau pellach ar yr egwyddorion ydych chi'n meddwl fyddai'n ddefnyddiol? Sylwch, byddwn yn darparu canllawiau pellach ar fudd cyhoeddus mathau penodol o elusennau yn dilyn ymgynghoriadau yn y dyfodol ar is-sectorau elusen penodol.
A. Rhagair
B. Cyflwyniad
C. Crynodeb
Ch. Ymagwedd fodern at fudd cyhoeddus
D. Egwyddor 1: Rhaid cael budd adnabyddadwy
Dd. Egwyddor 2: Rhaid darparu budd i'r cyhoedd, neu adran o'r cyhoedd
E. Egwyddor 3: Rhaid i bobl ar incwm isel allu cael budd
F. Egwyddor 4: Rhaid i unrhyw fudd preifat fod yn atodol
Ff. Sut i asesu a yw sefydliad yn darparu budd i'r cyhoedd
G. Ymagwedd y Comisiwn Elusennau at fudd cyhoeddus
Ng. Gwybodaeth bellach a chyngor
Canllawiau drafft y Comisiwn Elusennau ynghylch y gofyniad cyfreithiol bod rhaid i bob elusen gael dibenion elusennol sy'n darparu budd i'r cyhoedd.
Neges gan Gadeirydd a Phrif Weithredwr y Comisiwn Elusennau i ymddiriedolwyr elusennau ac unrhyw un arall sy'n ystyried sefydlu elusen newydd.
Annwyl Ddarllenydd,
Mae elusennau'n bodoli i greu cymdeithas well. Mae gan y 190,000 o elusennau sydd wedi'u cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau incwm blynyddol o £36 biliwn, bron 600,000 o aelodau staff cyflogedig a 900,000 o ymddiriedolwyr. Mae ystod eang o ddibenion ganddynt, ac maent yn ceisio eu cyflawni trwy sawl llwybr gwahanol. Mae cymdeithas ac unigolion yn elwa mewn sawl gwahanol ffordd drwy elusennau, ac mae elusennau eu hunain yn elwa o'r manteision sylweddol a ddaw drwy gael statws elusennol. Mae'r rhain yn ymwneud ag enw da yn rhannol - mae pobl yn fwy tebygol o gynnig amser, egni neu arian i elusen gofrestredig. Mae'n agor drysau: mae nifer o roddwyr grantiau yn rhoi i elusennau yn unig. Yna mae'r mater o ryddhad treth sy'n deillio o statws elusennol - gostyngiad mewn trethi busnes, dim treth incwm neu dreth stamp yn gyffredinol a chyfraddau treth arbennig weithiau.
Rhaid i bob elusen gael nodau (neu 'ddibenion') elusennol sy'n darparu budd i'r cyhoedd. Gelwir hyn y 'gofyniad budd cyhoeddus'. Mae Deddf Elusennau 2006 yn atgyfnerthu’r gofyniad hwn trwy gynnwys budd cyhoeddus yn benodol yn y diffiniad o ddiben elusennol. Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd budd cyhoeddus trwy roi amcan newydd i'r Comisiwn Elusennau, sef hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o weithrediad y gofyniad budd cyhoeddus.
Mae angen i ni fynegi ac esbonio'r cysyniad o fudd cyhoeddus mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'r gyfraith ac sy'n glir i'r cyhoedd. Mae'r canllawiau drafft yn esbonio, yn gyffredinol, yr hyn a olygir wrth y gofyniad budd cyhoeddus. Mae'n ceisio helpu ymddiriedolwyr, a sefydliadau sy'n ceisio cofrestru fel elusennau, i ddeall yn well yr hyn a olygir wrth fodloni’r gofyniad budd cyhoeddus.
Mae perthynas glir rhwng manteision statws elusennol a'r angen i elusennau ddarparu budd i'r cyhoedd. Mae elusennau yn werthfawr - maen nhw'n chwarae rôl hanfodol ac unigryw wrth wraidd ein cymdeithas a dylent allu dangos y budd y mae eu hamcanion elusennol yn ei ddarparu. Dyma hanfod y gofyniad budd cyhoeddus.
| Y Fonesig Suzi Leather Cadeirydd |
Andrew Hind Prif Weithredwr |
Pwrpas y canllawiau drafft yw:
Mae'r canllawiau drafft yn delio â budd cyhoeddus yn gyffredinol. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau pellach yn ddiweddarach, ar ôl ymgynghori ymhellach, ynghylch sut mae'r gofyniad budd cyhoeddus yn berthnasol yn benodol i wahanol fathau o elusennau.
Fe welwch ganllawiau ar wahân sy'n esbonio'r sail gyfreithiol ar gyfer yr egwyddorion budd cyhoeddus a ddisgrifir yn y canllawiau drafft yn yr adran Dadansoddi'r gyfraith sy'n sail i Elusennau a Budd Cyhoeddus ar ein gwefan.
Mae'r llyfryn hwn yn cymryd lle'r canllawiau blaenorol ar fudd cyhoeddus sydd i'w gweld yn ein llyfryn, RR8: Natur gyhoeddus elusennau.
Rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar fudd cyhoeddus i'w gwneud yn fwy hygyrch i ymddiriedolwyr ac adlewyrchu'r newidiadau yn y gyfraith ar fudd cyhoeddus yn deillio o Ddeddf Elusennau 2006.
Mae nifer o adnoddau y gall ymddiriedolwyr elusennau eu defnyddio i sicrhau bod eu helusen yn darparu budd i'r cyhoedd.
Esbonnir ble y gall ymddiriedolwyr gael hyd i wybodaeth bellach yn adran Ng y canllawiau drafft.
Er ein bod wedi ceisio ysgrifennu'r llyfryn hwn mewn iaith bob dydd, roedd rhaid i ni ddefnyddio termau technegol mewn mannau.
Mae'r rhestr hon yn esbonio rhai ohonynt.
Y gofyniad budd cyhoeddus: Mae'r 'gofyniad budd cyhoeddus' yn golygu'r gofyniad cyfreithiol bod rhaid i bob elusen gael dibenion elusennol sy'n darparu budd i'r cyhoedd. Yn y canllawiau drafft defnyddiwn y termau canlynol pan fyddwn yn siarad am y gofyniad hwn: 'y gofyniad budd cyhoeddus', 'budd cyhoeddus' a 'budd i'r cyhoedd'.
Diben(ion): Pan fyddwn yn siarad am elusennau, defnyddiwn y term hwn i olygu nod(au) neu fwriad(au) cyffredinol elusen, sydd fel arfer wedi'i nodi yn ei dogfen lywodraethol. Weithiau cyfeirir atynt fel 'amcanion' yr elusen.
'Rhaid' a 'dylai': Yn y llyfryn hwn, pan ddefnyddiwn 'rhaid' golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn. Defnyddiwyd y symbol
i'ch helpu adnabod yn hawdd yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol.
Defnyddiwn 'dylai' ar gyfer eitemau sy'n cael eu hystyried yn arfer da lleiaf, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol ar eu cyfer. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer gorau oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.
Dogfen lywodraethol: Dogfen gyfreithiol sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff eu gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, Cynllun y Comisiynwyr, neu'n ddogfen ffurfiol arall.
Ymddiriedolwyr: Y bobl sy'n gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Gallant gael eu galw'n Ymddiriedolwyr, Cyfarwyddwyr, Aelodau Bwrdd, Llywodraethwyr neu Aelodau Pwyllgor. Mae ymddiriedolwyr elusennau yn gyfrifol am reoli gweinyddiad elusen.
Buddiolwr neu Fuddiolwyr: Y bobl sy'n cael budd o'r elusen.
Cwestiynau'r ymgynghoriad:
Cw1. Beth yw'ch barn chi am eglurder, arddull, fformat a'r iaith a ddefnyddir yn y canllawiau drafft?
'Budd cyhoeddus' yw'r gofyniad cyfreithiol bod rhaid i bob elusen gael dibenion elusennol sy'n darparu budd i'r cyhoedd.
'Diben' yw nod neu amcan cyffredinol yr elusen sydd fel arfer wedi'i bennu yn ei dogfen lywodraethol.
Mae Deddf Elusennau 2006 (y "Ddeddf Elusennau") yn atgyfnerthu’r 'gofyniad budd cyhoeddus' trwy gynnwys budd cyhoeddus yn benodol yn y diffiniad o ddiben elusennol.
Mae'r 'gofyniad budd cyhoeddus', fel y'i bennwyd yn y Ddeddf Elusennau, yn mynnu bod dibenion sefydliad yn darparu budd i'r cyhoedd. Gelwir hyn yn 'brawf dibenion'.
Pan fyddwn yn ystyried a yw dibenion sefydliad yn darparu budd i'r cyhoedd, mae'n bosib y bydd angen i'r Comisiwn Elusennau ystyried gweithgareddau'r sefydliad er mwyn:
Er mwyn penderfynu a all neu a fydd diben yn gweithredu er budd y cyhoedd, mae'n bosib y bydd angen i ni ystyried y canlyniadau posib pe byddai sefydliad yn ymgymryd â diben arbennig. Mae hyn yn golygu y bydd angen i ni ystyried gwybodaeth gefndir ffeithiol berthnasol o bosib, megis gofyn am dystiolaeth o weithgareddau a gweithgareddau arfaethedig, er mwyn dangos y bydd dibenion y sefydliad yn bodloni'r egwyddorion budd cyhoeddus fel y pennwyd yn y canllawiau drafft. Mae pwysigrwydd y gweithgareddau sy'n cael eu hystyried wrth asesu a yw dibenion sefydliad er budd cyhoeddus neu beidio yn cael ei drafod yn fwy manwl yn ein Dadansoddiad o'r gyfraith sy'n sail i Elusennau a Budd Cyhoeddus.
Nid yw'r Ddeddf Elusennau yn cynnwys unrhyw ddiffiniad newydd o fudd cyhoeddus neu'n awgrymu sut y dylai elusennau ddangos bod eu dibenion er budd y cyhoedd. Mae'r Comisiwn Elusennau, fel rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr, yn gyfrifol am benderfynu sut y bydd y gofyniad budd cyhoeddus yn gweithredu.
Mae'r darpariaethau yn y Ddeddf Elusennau yn golygu, am y tro cyntaf, y bydd y gyfraith yn mynnu bod elusennau sy'n hyrwyddo addysg ne grefydd neu'n lleddfu tlodi yn dangos yn benodol bod eu dibenion yn darparu budd cyhoeddus. Cyn hyn, mae'r gyfraith wedi cymryd mai dyma yw'r achos ar gyfer y mathau hyn o elusennau. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i bob elusen ddangos yn y dyfodol bod eu dibenion yn darparu budd i'r cyhoedd. Ar wahân i hynny, mae'r gyfraith gyfredol ynghylch budd cyhoeddus, sy'n seiliedig ar benderfyniadau a wnaethpwyd gan y llysoedd a'r Comisiwn Elusennau dros y blynyddoedd, yr un fath.
Nid yw'r gofyniad budd cyhoeddus yn ofyniad newydd i elusennau. Mae'n rhaid i elusennau gael dibenion sy'n darparu budd i'r cyhoedd eisoes. Cyn gweithredu'r Ddeddf Elusennau, roedd modd cymryd yn ganiataol bod dibenion elusennau tlodi, crefyddol ac addysgol yn darparu budd cyhoeddus, ond roedd rhaid darparu budd i'r cyhoedd er mwyn i unrhyw sefydliad fod yn elusen. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf Elusennau yn atgyfnerthu'r gofyniad hwn trwy gynnwys budd cyhoeddus yn benodol yn y diffiniad o ddiben elusennol, rhoi amcan newydd i'r Comisiwn Elusennau i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r gofyniad budd cyhoeddus a mynnu bod ymddiriedolwyr elusennau yn ystyried ein canllawiau ar fudd cyhoeddus, y mae'r Ddeddf Elusennau yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni ymgynghori arnynt fel y bo'n briodol.
Byddwn yn seilio ein penderfyniadau ynghylch yr hyn sydd a'r hyn nad yw'n elusennol ar y gyfraith achos sylfaenol ar elusennau a budd cyhoeddus. Byddwn yn dilyn ymagwedd y llysoedd ac yn datblygu ein penderfyniadau ar fudd cyhoeddus yng nghyd-destun amodau economaidd a chymdeithasol sy'n newid, gan gynnwys agweddau cyhoeddus.
Mae modd apelio mewn ffordd weddol hawdd a rhad yn erbyn ein penderfyniadau am statws elusennol, gan gynnwys budd cyhoeddus, i'r Tribiwnlys Elusennau, a gafodd ei gyflwyno gan y Ddeddf Elusennau, yn ogystal ag apelio i'r llysoedd. Rhagwelir y bydd y Tribiwnlys Elusennau yn cael ei sefydlu yn 2008.
Dan y darpariaethau yn y Ddeddf Elusennau, rhaid i ymddiriedolwyr elusennau ystyried y canllawiau a gyhoeddwn ar fudd cyhoeddus pan fyddant yn ymarfer unrhyw bwerau neu ddyletswyddau a all fod yn berthnasol.
Felly, mae angen i ymddiriedolwyr a'u hymgynghorwyr fod yn gyfarwydd â'n canllawiau a'u deall. Mae angen iddynt wybod sut i sicrhau bod yr elusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus a sicrhau nad ydynt yn gwneud penderfyniadau a allai gael effaith niweidiol ar fudd cyhoeddus eu helusen. Hefyd, mae'n bwysig i ymddiriedolwyr ddeall y meini prawf a ddefnyddiwn i asesu a yw eu helusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus neu beidio.
Mae'r Ddeddf Elusennau yn diffinio 'dibenion elusennol' fel y dibenion hynny sydd wedi'u cynnwys o fewn y disgrifiadau o ddibenion elusennol a bennwyd yn y Ddeddf ac sydd er budd y cyhoedd.
Mae dibenion elusennol yn cynnwys y dibenion hynny y mae'r gyfraith yn eu cydnabod fel dibenion elusennol ar hyn o bryd, yn ogystal â'r dibenion elusennol newydd a all gael eu cydnabod wrth i'r gyfraith elusennau ddatblygu. Mae hefyd yn cynnwys dibenion y cydnabyddir eu bod yn debyg, neu'n cyfateb i ddibenion elusennol eraill.
Fe gewch arweiniad pellach ar ba ddibenion sy'n elusennol yn ein Sylwadau ar y Disgrifiadau o Ddibenion Elusennol yn y Ddeddf Elusennau .
Mae'r Ddeddf Elusennau yn rhoi'r disgrifiadau canlynol ar gyfer dibenion elusennol:
a) atal neu leddfu tlodi:
b) hyrwyddo addysg;
c) hyrwyddo crefydd;
ch) hyrwyddo iechyd neu achub bywydau;
d) hyrwyddo dinasyddiaeth neu ddatblygiad cymunedol;
dd) hyrwyddo'r celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth;
e) hyrwyddo chwaraeon amatur;
f) hyrwyddo hawliau dynol, datrys anghydfodau neu gymodi neu hybu cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb ac amrywiaeth;
ff) hyrwyddo gwarchod neu wella'r amgylchedd;
g) cynorthwyo'r rhai sydd mewn angen ar sail ieuenctid, oedran, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall;
ng) hyrwyddo lles anifeiliaid;
h) hybu effeithlonrwydd lluoedd arfog y Goron; neu effeithlonrwydd yr heddlu, y gwasanaethau tân ac achub neu'r gwasanaethau ambiwlans:
i) dibenion eraill a gydnabyddir ar hyn o bryd fel dibenion elusennol ac unrhyw ddibenion elusennol newydd sy'n debyg i ddibenion elusennol eraill.
Mae'r hyn sy'n cael ei ystyried yn fudd cyhoeddus yn gallu newid dros amser, wrth i anghenion ac amgylchiadau modern newid. Felly mae angen ystyried amodau modern wrth asesu egwyddorion budd cyhoeddus, sut y cânt eu cymhwyso a'u dehongli.
Rydym wedi adnabod pedair egwyddor sy'n dangos a yw sefydliad yn darparu budd i'r cyhoedd. Y pedair egwyddor yw:
Egwyddor 1: Rhaid cael budd adnabyddadwy
Egwyddor 2: Rhaid darparu budd i'r cyhoedd, neu adran o'r cyhoedd
Egwyddor 3: Rhaid i bobl ar incwm isel allu cael budd
Egwyddor 4: Rhaid i unrhyw fudd preifat fod yn atodol
Ein nod fydd sicrhau bod elusennau newydd ac elusennau sy'n bod yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Rydym yn ymrwymedig fel sefydliad i leihau baich gweinyddol rheoleiddio ar elusennau. Wrth ystyried sut mae elusennau newydd ac elusennau sy'n bod yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, byddwn yn mabwysiadu ymagwedd gyfatebol, gan ystyried beth sy'n rhesymol yn achos yr elusen arbennig.
Byddwn yn asesu budd cyhoeddus pob elusen newydd pan fyddant yn gwneud cais i gofrestru. Mae Adran G3 isod yn esbonio hyn yn fwy manwl.
Ar gyfer elusennau cofrestredig sy'n bod, byddwn yn mabwysiadu ymagwedd seiliedig ar risg at ein hasesiadau budd cyhoeddus, gan ganolbwyntio ein hadnoddau ar asesu budd cyhoeddus elusennau y gall fod yn anodd iddynt fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Mae Adran G4 isod yn esbonio hyn yn fwy manwl.
Yn ogystal â'n hasesiadau budd cyhoeddus o elusennau, teimlwn hefyd y dylai elusennau adrodd yn rheolaidd ynghylch sut mae eu dibenion yn darparu budd i'r cyhoedd. Teimlwn mai'r ffordd orau o wneud hyn o bosib yw trwy ddefnyddio fframweithiau adrodd sy'n bod mewn ffordd sy'n cyfateb â maint yr elusen. Yn adran G5 isod, nodwn sut y gallai elusennau o feintiau gwahanol adrodd am hyn.
Bwriedir i'r cwestiynau canlynol helpu sefydliadau (naill ai elusennau cofrestredig neu sefydliadau sy'n ceisio bod yn elusennau cofrestredig) ddarparu'r math o wybodaeth a fydd yn ein helpu i asesu a yw eu dibenion yn bodloni egwyddorion budd cyhoeddus a bennwyd yn y canllawiau drafft hyn:
Cwestiynau'r ymgynghoriad:
Cw2. Ydych chi'n credu bod y modd y mynegwyd yr egwyddorion budd cyhoeddus yn glir ac yn ddealladwy?
Cw3. Ydych chi'n credu bod y pedair egwyddor o fudd cyhoeddus a nodwyd yn ein canllawiau drafft yn grynodeb cywir o'r gyfraith?
Mae'r adrannau canlynol yn esbonio egwyddorion y gofyniad budd cyhoeddus
Mae'r hyn sy'n cael ei ystyried yn fudd cyhoeddus yn gallu newid dros amser, wrth i anghenion ac amgylchiadau modern newid. Felly mae angen ystyried amodau modern wrth asesu egwyddorion budd cyhoeddus, sut y cânt eu cymhwyso a'u dehongli.
Mae'r llysoedd yn datblygu'r gyfraith elusennau er mwyn ystyried anghenion ac amgylchiadau modern. Mae hyn yn golygu y gall syniadau am yr hyn sydd o fudd i'r cyhoedd newid dros amser. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu dylanwadu (ymysg pethau eraill) gan amodau cymdeithasol ac economaidd, gan fwy o wybodaeth a dealltwriaeth a gan newidiadau mewn gwerthoedd cymdeithasol.
Gall amodau modern sy'n newid esgor ar ddibenion elusennol newydd. Hefyd, mae'n bosib i ddibenion a oedd unwaith yn elusennol beidio â bod yn elusennol mwyach, er bod hyn yn llai cyffredin.
Mae enghreifftiau o benderfyniad i gydnabod dibenion elusennol newydd yng ngoleuni amodau modern yn cynnwys ein penderfyniadau yn y blynyddoedd diweddar i gydnabod y canlynol fel dibenion elusennol:
Mae enghraifft o achos lle mae diben yn peidio â bod yn elusennol yng ngoleuni newid mewn agweddau ac amodau cymdeithasol yn cynnwys y Gymdeithas Gwrthfywddyraniad Genedlaethol, a oedd â'r prif ddiben o ddiddymu bywddyraniad (arbrofion labordy ar anifeiliaid byw). Yn 1895 derbyniodd y llys mai bwriad y Gymdeithas oedd cynnig budd i'r gymuned a'i bod yn elusen. Fodd bynnag, yn 1948 barnodd Tŷ’r Arglwyddi nad oedd y Gymdeithas yn elusennol oherwydd er y byddai diddymu bywddyraniad yn helpu anifeiliaid labordy, gan felly dyrchafu dynoliaeth yn foesol, roedd y niwed a achoswyd i fodau dynol trwy'r colled i wyddor ac ymchwil meddygol (a'r niwed dilynol i iechyd y cyhoedd) yn llawer drech na'r budd hwnnw.
Ond yn achos dibenion elusennol 'hen ffasiwn', mae'n llawer mwy arferol cael hyd i ffordd o'u moderneiddio er mwyn iddynt fod yn berthnasol i fywyd modern. Er enghraifft, mae'n bosib y byddem yn cytuno i newid dibenion elusen sy'n ymwneud â darparu gwaddolion priodas i forwynion tlawd mewn ardal leol arbennig os yw'n lleddfu tlodi menywod yn yr ardal honno.
Bydd ein penderfyniadau am yr hyn sy'n elusennol, a'r hyn sydd a'r hyn nad yw o fudd i'r cyhoedd, yn cael ei ddylanwadu'n gryf gan yr hyn sy'n berthnasol ac yn briodol i amodau cymdeithasol modern y dydd. Byddwn yn tanategu ein hymagwedd at fudd cyhoeddus trwy ddehongli'r gyfraith mewn ffordd fodern.
Nid yw sicrhau bod elusennau yn berthnasol i amgylchiadau'r byd modern yn golygu bod yr hyn sy'n 'hen' neu'n 'hen ffasiwn' yn 'ddrwg' neu'n 'anghywir' o reidrwydd, ac nid yw dim yn golygu yr hyn sy'n boblogaidd heddiw.
Er enghraifft, nid yw cylch gwaith y Comisiwn Elusennau yn cynnwys ystyried credoau crefyddol traddodiadol, hir-sefydlog neu geisio eu moderneiddio.
Mae'n golygu peidio â chymryd bod rhywbeth yn fuddiol dim ond oherwydd ei fod wedi cael ei ystyried yn fuddiol flynyddoedd yn ôl; mae'n golygu sicrhau bod yr hyn y mae elusennau yn ei wneud yn parhau i fod yn fuddiol heddiw.
Mae'r gyfraith gyfredol yn darparu sail ar gyfer cymryd penderfyniadau ynghylch budd cyhoeddus ond mae'n cyfeirio at nifer cyfyngedig iawn o achosion. Mae'r sector elusennau yn amrywiol; mae ystod eang o ddibenion ganddynt ac maent yn ceisio eu cyflawni trwy sawl llwybr gwahanol iawn. Mae'r gyfraith ar fudd cyhoeddus yn gymwys yn wahanol i ddibenion elusennol gwahanol. Bydd cymhwyso egwyddorion sy'n deillio o nifer fach o achosion sy'n cynnwys elusennau a sefyllfaoedd arbennig yn golygu bod y Comisiwn yn gwneud penderfyniadau anodd wrth lunio barn a dehongli'r gyfraith.
Byddwn yn cymhwyso ac yn dehongli'r gyfraith elusennau er mwyn sicrhau bod y buddion a ddarperir gan elusennau i'r cyhoedd yn parhau i fod yn berthnasol i'r gymdeithas sydd ohoni. Mewn rhai amgylchiadau, gall hyn olygu y gall fod yn ofynnol i rai elusennau sy'n bod newid y ffordd y byddant yn cyflawni eu dibenion elusennol er mwyn dangos bod eu dibenion yn parhau i ddarparu budd i'r cyhoedd.
Mewn achosion eithriadol, os yw'r ymddiriedolwyr yn cydweithredu â ni ond nid yw'r sefydliad yn gallu cyflawni'r gofyniad budd cyhoeddus, mae'n bosib y bydd angen i ni sicrhau bod unrhyw asedau elusennol y sefydliad yn cael eu cymhwyso yn y dyfodol at unrhyw ddibenion elusennol eraill sydd mor agos â phosib i'r dibenion hynny sydd wedi peidio â darparu budd cyhoeddus. Byddai hyn yn digwydd dim ond os nad oedd yn bosib i sefydliad fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Mae enghreifftiau o'r mathau o amgylchiadau lle y gallai fod yn briodol i ni ystyried amodau modern wrth asesu beth sydd o fudd i'r cyhoedd yn cynnwys:
Mae ein dull o asesu amodau cymdeithasol modern yn dibynnu ar yr hyn sy'n berthnasol i'r diben elusennol arbennig neu'r elusen arbennig sydd dan sylw. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae ymagwedd seiliedig ar dystiolaeth yn debygol o'n helpu penderfynu beth yw'r amodau cymdeithasol modern mewn perthynas â'r diben elusennol sydd i'w gyflawni. Er enghraifft, gallai olygu ystyried dangosyddion megis ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol, demograffeg leol a chanlyniadau'r cyfrifiad, adroddiadau'r llywodraeth neu'r sector neu arolygon, ac ati. Mae penderfynu i ba raddau y gallwn ystyried agweddau'r cyhoedd yn y cyd-destun hwn yn cael ei drafod isod.
Mae'n bosib y bydd angen mathau gwahanol o dystiolaeth yn dibynnu a ydym yn:
Wrth wneud penderfyniadau yn gyffredinol am yr hyn sydd o fudd i'r cyhoedd, mae'r llysoedd a'r Comisiwn yn rhoi ystyriaeth briodol i farn gyhoeddus; ond ni all barn gyhoeddus benderfynu'r hyn sydd neu'r hyn nad yw'n elusennol.
Nid yw statws elusennol yn cael ei benderfynu ar sail poblogrwydd.
Gall fod gwahaniaeth barn mawr ar fater ac mae agweddau cyhoeddus ar faterion arbennig yn gallu newid dros amser. Yn aml mae elusennau yn flaengar ac yn arloesol a gallant ymwneud â materion y mae eu teilyngdod heb gael eu profi eto, neu y mae'r cyhoedd heb werthfawrogi neu gydnabod eu gwerth eto. Weithiau bydd elusennau'n ymwneud â materion dadleuol y gall fod gwahaniaeth barn mawr yn eu cylch yn gyhoeddus, neu weithio mewn meysydd neu ddefnyddio dulliau arbennig nad ydynt yn boblogaidd ond sydd, serch hynny, yn werthfawr.
Weithiau, gall elusennau gwahanol fynegi barn wahanol am fater arbennig, ond eto i gyd gall y ddwy elusen gynnig budd i'r cyhoedd.
Er enghraifft, gall elusennau sy'n ymwneud â hybu lles anifeiliaid ac elusennau sy'n ymwneud â hybu iechyd neu leddfu salwch gynnig dadleuon gwahanol ynghylch defnyddio arbrofi ar anifeiliaid mewn ymchwil feddygol. Gall y ddau ddiben ddarparu budd i'r cyhoedd, ond mewn ffyrdd gwahanol.
Felly, er mwyn penderfynu a yw diben arbennig yn darparu budd cyhoeddus neu beidio, rhaid i'r Comisiwn Elusennau neu'r llysoedd neu'r Tribiwnlys Elusennau fodloni eu hunain fod budd i'r cyhoedd, waeth a yw'r cyhoedd, neu elusennau eraill, yn cytuno neu beidio bod budd o'r fath.
Fodd bynnag, os nad yw'r budd i'r cyhoedd yn amlwg, yr ymagwedd gyffredinol a fabwysiadwyd gan y llysoedd fu edrych am dystiolaeth o fudd cyhoeddus. Ar gyfer rhai mathau o fudd, gall hyn gynnwys ystyried unrhyw gonsensws cyffredinol o farn wrthrychol a rhesymedig, er na fyddai'r farn honno yn unig yn penderfynu'r mater o reidrwydd.
Mae penderfyniadau ynghylch budd cyhoeddus yn adlewyrchu bywyd bob dydd, yn ystyried y farn gyffredinol gymeradwy am natur a defnyddioldeb yr hyn y mae sefydliad yn ceisio ei gyflawni a'i fudd i'r cyhoedd. Felly, er na all farn gyhoeddus benderfynu ar yr hyn sy'n elusennol, gall fod yn ffactor defnyddiol i'w ystyried wrth ein helpu i ddeall beth yw amodau cymdeithasol modern, sydd yn eu tro yn ein galluogi i lunio'r ddealltwriaeth gyfreithiol o'r hyn sy'n elusennol mewn ffordd sy'n berthnasol i gymdeithas fodern.
Cwestiynau'r ymgynghoriad:
Cw4. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein dealltwriaeth o rôl amodau cymdeithasol modern o ran asesu'r hyn sydd a'r hyn nad yw o fudd i'r cyhoedd?
Cw5. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein dealltwriaeth o rôl barn y cyhoedd?
Rhaid bod yn glir pa fudd y mae dibenion elusen yn ei ddarparu i'r cyhoedd.
Dylai fod modd adnabod a diffinio'r budd i'r cyhoedd. Mewn rhai achosion gall fod yn hollol amlwg fod diben o fudd i'r cyhoedd ac felly ni fyddai unrhyw angen am brawf pellach o fudd cyhoeddus. Mewn achosion eraill, gall yr elfen o fudd i'r cyhoedd fod yn fwy dadleuol neu ddibynnu ar yr amgylchiadau a bydd angen tystiolaeth i'w ddangos.
Er enghraifft, gall fod angen dangos teilyngdod pensaernïol neu hanesyddol adeilad sydd i'w gadw neu deilyngdod artistig casgliad celf os nad yw'n amlwg.
Gall natur y budd edrych yn wahanol iawn yn dibynnu ar yr hyn y sefydlwyd yr elusen i'w gyflawni.
Mae Deddf Elusennau 2006 yn datgan bod rhaid i bob diben elusennol fod o fudd i'r cyhoedd. Felly rhaid i'r buddion y mae sefydliad yn eu darparu ymwneud (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) â chyflawni ei diben(ion) elusennol penodedig.
Hefyd mae'n golygu os oes mwy nag un diben gan elusen, bydd angen iddi ddangos bod pob un o'i dibenion yn cynnig budd i'r cyhoedd. Ni ellir defnyddio'r budd cyhoeddus a ddangosir gan un neu ragor o'i dibenion er mwyn 'gwneud iawn' am unrhyw ddiffyg budd cyhoeddus a gynigir gan ei dibenion eraill.
Er enghraifft, elusen y celfyddydau sy'n hybu'r celfyddydau trwy lwyfannu perfformiadau opera o'r radd flaenorol mewn adeilad sydd o bwysigrwydd hanesyddol a phensaernïol. Mae dau ddiben gan yr elusen. Y diben cyntaf yw hyrwyddo'r gelfyddyd opera. Yr ail ddiben yw cadw adeilad cenedlaethol pwysig. Ni fyddai'n ddigonol, er enghraifft, pe byddai'r ail ddiben yn darparu budd i'r cyhoedd ond nid oedd yr un cyntaf yn gwneud hynny.
Rhaid i bob elusen gael ei sefydlu er budd y cyhoedd, ond nid yw'r gyfraith yn mabwysiadu'r un mesurau ymarferol i asesu budd cyhoeddus ym mhob math o achos. Mae hyn yn golygu y gall y ffordd y mae'r cyhoedd yn elwa fod yn wahanol ar gyfer dibenion elusennol gwahanol.
Er enghraifft, mae'r buddion cyhoeddus a ddaw o warchod rhywogaethau dan fygythiad yn wahanol iawn i'r buddion cyhoeddus a ddaw o leddfu tlodi, sydd yn eu tro yn wahanol iawn i'r buddion cyhoeddus a ddaw o hyrwyddo addysg neu grefydd.
Gall elusennau ddarparu mathau gwahanol o fuddion i'r cyhoedd.
Mewn rhai achosion, mae'r budd i'r cyhoedd yn amlwg; ond mae'n llai amlwg mewn achosion eraill. Mae rhai buddion yn mynd yn uniongyrchol i unigolion mewn ffordd sy'n glir ac mewn ffordd y gellir ei mesur. Dyma'r math o fuddion y gellir eu profi'n gorfforol ac mae pobl yn eu derbyn yn 'uniongyrchol'. Bydd y rhan fwyaf o ddibenion elusennol yn cynnwys y mathau hyn o fuddion.
Er enghraifft, y buddion sy'n deillio o:
Mewn rhai achosion gall fod yn fwy anodd i weld a mesur y buddion, megis y rhai sy'n cynnig budd i'r gymdeithas gyfan. Dyma'r math o fuddion y bydd pobl yn eu derbyn yn anuniongyrchol, neu mae'r buddion a dderbynnir gan unigolion yn darparu budd 'dilynol' i eraill.
Gall fod yn anodd diffinio neu ddisgrifio'r buddion hyn. Ond er nad yw rhai buddion yn cael eu cyffwrdd na'u gweld, mae modd eu hadnabod a'u profi, megis gwerthfawrogi'r celfyddydau, neu'r teimladau cadarnhaol a ddaw pan fyddwn yn helpu anifeiliaid sâl. Gellir ystyried y mathau hyn o fuddion ar yr amod bod y budd yn glir.
Er enghraifft, y buddion sy'n deillio o:
Nid oes rhaid i rai mathau o fudd gael mwy o bwysiad neu bwysigrwydd nag eraill, hyd yn oed y rhai sy'n haws eu hadnabod a'u mesur. Bydd pwysiad neu bwysigrwydd gwahanol fuddion yn dibynnu i raddau helaeth ar natur y diben elusennol sy'n cael eu cyflawni.
Mewn rhai amgylchiadau, gellir ystyried bod buddion sy'n fwy anodd eu diffinio neu eu mesur yn fwy pwysig neu'n cael mwy o effaith na'r rhai sy'n fwy amlwg oherwydd gallant gynnig budd i nifer fwy o bobl, neu gallant ddarparu buddion sy'n parhau am gyfnod hwy.
Er enghraifft, gellir ystyried bod y buddion ehangach i'r gymdeithas gyffredinol sy'n deillio o adsefydlu tramgwyddwyr ifanc neu'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau yn cael mwy o fudd oherwydd effaith ehangach y buddion i'r tramgwyddwyr unigol neu'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau a gafodd gymorth.
Mewn rhai amgylchiadau gall y buddion ehangach hyn i gymdeithas (megis buddion i'r sâl a ddaw o ddarparu hyfforddiant i feddygon neu nyrsys neu'r buddion i gymdeithas a ddaw o warchod yr amgylchedd) fod yn ddigon eu hunain i sefydliad fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Un budd i'r gymdeithas a ddyfynnir weithiau yw y gall elusennau ryddhau cronfeydd cyhoeddus.
Er enghraifft, ysgol annibynnol sy'n addysgu disgyblion a fyddai'n rhaid cael eu haddysgu fel arall ar draul cyhoeddus neu ysbyty preifat sy'n darparu gofal meddygol i gleifion a fyddai'n cael eu trin fel arall gan y GIG.
Er y gallwn ystyried y math hwn o fudd gyda mathau eraill o fuddion, fel rheol ni fyddai'n ddigonol os nad oes unrhyw fuddion cyhoeddus eraill.
Ystyr 'budd' yw'r budd cyffredinol i'r cyhoedd. Nid yw'n gwestiwn syml o ddangos y gellir darparu rhywfaint o fudd.
Gall cyflawni diben arbennig ddarparu ychydig o fudd i'r cyhoedd ond, wrth gyflawni'r budd hwnnw, gall gael effeithiau niweidiol neu andwyol hefyd; gelwir hyn yng nghyfraith yr Alban fel 'diffyg budd'. Os yw'r canlyniadau niweidiol neu andwyol yn fwy na'r buddion, y canlyniad cyffredinol yw na fyddai'r diben yn elusennol.
Gallai enghreifftiau o bethau y gellid eu hystyried yn 'ddiffyg budd' neu'n niweidiol gynnwys:
Mae'n gyfreithlon i elusennau ymgymryd â gweithgareddau ac ymgyrchu gwleidyddol wrth gyflawni eu dibenion elusennol, ond ni all dibenion elusen fod yn wleidyddol.
Ystyr 'diben gwleidyddol' yw unrhyw ddiben sy'n anelu at hybu buddion unrhyw blaid wleidyddol; neu sicrhau, neu wrthwynebu unrhyw newid yn y gyfraith neu bolisi neu benderfyniadau'r llywodraeth ganol neu'r awdurdodau lleol, boed yn y wlad hon neu dramor.
Mae ystyr arbennig i 'wleidyddol' o fewn y gyfraith elusennau ac ymdrinnir â hyn yn fwy manwl yn ein canllaw ar wahân Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau.
Mae'r gyfraith elusennau yn gwahaniaethu rhwng dibenion gwleidyddol a gweithgareddau gwleidyddol. Ni all elusennau ymgymryd â dibenion gwleidyddol oherwydd nid yw'r llysoedd na'r Comisiwn Elusennau mewn sefyllfa i farnu a yw diben gwleidyddol er budd y cyhoedd neu beidio. Fodd bynnag, gall elusen ymgymryd ag ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol fel ffordd o gyflawni ei dibenion elusennol, ar yr amod:
Er enghraifft, gallai elusen sy'n lleddfu tlodi dramor, ymgyrchu o blaid mabwysiadu hawliau dynol mewn gwlad arbennig os yw'n gallu dangos y byddai mabwysiadu'r hawliau hyn yn tueddu i leddfu tlodi yn y wlad honno. Neu, gall elusen sy'n ymwneud â chynorthwyo dioddefwyr camarfer hawliau dynol, wrth wneud hynny, adnabod camau y gallai'r llywodraeth dan sylw (neu lywodraeth arall) eu cymryd i atal y camarfer hwnnw.
Fodd bynnag, ni fyddai sefydliad a sefydlwyd at y diben o geisio diddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol 1998, neu a ddefnyddiodd ddulliau gwleidyddol fel y brif ffordd o gyflawni ei dibenion o atal a lleddfu tlodi, er enghraifft, yn elusennol.
Mae'n bosib i bob elusen ymgymryd â rhywfaint o weithgareddau ategol (neu atodol) wrth gyflawni ei gwaith a all ymwneud yn uniongyrchol neu beidio â chyflawni ei diben(ion) elusennol.
Os yw gweithgareddau o'r fath yn darparu budd i'r cyhoedd, ond nid ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni dibenion elusennol yr elusen, ni chânt eu hystyried wrth asesu budd cyhoeddus.
Rydym wedi nodi deg cwestiwn i helpu asesu a yw sefydliad yn bodloni'r egwyddorion a nodwyd yn y canllawiau drafft. Fe welwch y cwestiynau yn llawn yn adran Ff1.
Dyma'r cwestiynau a fydd yn ein helpu i asesu a yw sefydliad yn bodloni egwyddor 1 neu beidio:
1. Pa fudd(ion) ydy'ch sefydliad yn ei ddarparu?
2. Sut mae'r buddion hyn yn helpu bodloni diben(ion) eich sefydliad?
Cwestiynau'r ymgynghoriad:
Cw6. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein dehongliad o egwyddor 1?
Cw7. Beth yw'ch barn chi am fuddion ategol ac i ba raddau y gallant neu y dylent gael eu hystyried wrth asesu budd cyhoeddus sefydliad?
Rhaid darparu budd i'r 'cyhoedd', neu adran o'r 'cyhoedd'. Bydd yr hyn sy'n cael ei ystyried fel 'y cyhoedd' yn amrywio yn dibynnu ar ddibenion y sefydliad. Nid yw'n fater syml o rifau. Gall 'y cyhoedd' olygu grwpiau, cymunedau, cymdeithas neu'r ddynoliaeth.
Gall 'y cyhoedd' olygu cymunedau daearyddol, cymdeithasol neu economaidd; nid yw dim ond yn golygu pobl yn y DU.
Mae'r hyn sy'n cael ei ystyried fel 'y cyhoedd' yn amrywio yn ôl yr hyn y sefydlwyd yr elusen i'w gyflawni.
Er enghraifft, yn achos elusen sy'n darparu neuadd bentref leol neu ganolfan gymunedol, gallai'r 'cyhoedd' olygu pobl sy'n byw mewn tref neu bentref arbennig. Yn achos elusen ymchwil feddygol, gallai'r 'cyhoedd' olygu'r rhai sy'n dioddef o glefyd arbennig unrhyw le yn y DU (neu fan arall). Yn achos elusen sy'n ymwneud â gwarchod rhywogaethau mewn perygl, gallai'r 'cyhoedd' olygu'r ddynoliaeth.
Os yw'r 'cyhoedd', h.y. y buddiolwyr, wedi'u diffinio trwy gyfeirio at ardaloedd daearyddol (h.y. pobl sy'n byw mewn lle arbennig), rhaid diffinio'r ardaloedd daearyddol yn glir ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i'r DU. Gall sefydliad fod yn elusen a gafodd ei sefydlu a'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr ond mae eu buddiolwyr i gyd y tu allan i'r DU. Nid oes rhaid dangos budd i bobl sy'n byw yn y DU oni bai mai diben yr elusen yw darparu budd i bobl yn y DU. Fodd bynnag, ni fyddai dibenion sy'n cael eu cyflawni mewn gwledydd eraill sy'n groes i bolisi cyhoeddus y DU yn elusennol.
Er enghraifft, ni fyddai dibenion a fyddai'n niweidio perthynas y DU â gwladwriaeth gyfeillgar, neu'n tanseilio ein diogelwch cenedlaethol, yn elusennol.
Gall elusennau weithredu ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol. Mewn rhai achosion, darperir budd i'r ddynoliaeth ac felly mae'n mynd y tu hwnt i bob ffin ddaearyddol.
Er enghraifft, yn achos elusen sy'n ymwneud â lleddfu salwch dioddefwyr AIDS yn Affrica, 'y cyhoedd' fyddai dioddefwyr AIDS yn Affrica. Fodd bynnag, yn achos elusen sy'n darparu cae chwarae mewn tref neu bentref, 'y cyhoedd' fyddai'r bobl sy'n byw yn y dref neu'r pentref, neu'n ymweld â'r dref neu'r pentref. Yn achos gwarchod rhywogaethau mewn perygl, mae'r 'cyhoedd' yn debygol o fod yn fyd-eang.
Gall 'y cyhoedd' hefyd olygu cymunedau cymdeithasol neu economaidd, h.y. pobl sy'n gysylltiedig drwy angen elusennol neu amgylchiadau cymdeithasol arbennig neu sy'n rhannu anfantais gyffredin.
Er enghraifft:
Y man cychwyn i elusen fel arfer fyddai darparu cymaint o fudd â phosib, gan ystyried natur y diben y cafodd ei sefydlu i'w gyflawni a'r adnoddau sydd ganddi. Yn gyffredinol, po fwyaf yw angen unigol y buddiolwyr, neu'r mwyaf cyfyngedig yw'r adnoddau sydd ar gael i'r elusen, y mwyaf o gyfiawnhad fydd ar gyfer cyfyngu ar nifer y bobl fydd yn cael cymorth.
Ni all y nifer o fuddiolwyr posib fod yn ddibwys yn rhifiadol. Fodd bynnag, gall y nifer o fuddiolwyr go iawn sy'n gallu cael budd ar unrhyw adeg fod yn eithaf bach ar yr amod bod y buddion ar gael i unrhyw un sy'n gymwys i fod yn fuddiolwr.
Er enghraifft, gallai elusen gyda nifer fach o fuddiolwyr fod yn un sy'n cynnig nifer fach o leoedd ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir, megis nifer fach o ystafelloedd mewn elusendy neu gartref gofal, ond mae'r lleoedd hynny ar gael i unrhyw un sy'n gymwys i wneud cais amdanynt.
Mewn rhai achosion, gall fod modd dangos bod budd i adran fach o'r cyhoedd yn ddigonol.
Er enghraifft, bydd sefydliad sy'n ymwneud â lleddfu'r dioddefaint a achosir gan glefyd prin iawn yn darparu budd i'r cyhoedd er nad oes angen i lawer o bobl ddefnyddio ei wasanaethau. Er bod prinder y clefyd yn golygu mai ychydig bobl ar y tro fyddai'n cael eu heffeithio, mae'r gymdeithas gyfan yn elwa o’r ffaith bod unrhyw un sy'n dioddef o'r clefyd nawr, neu yn y dyfodol, yn gymwys i gael budd.
Gall fod rhai grwpiau o bobl o fewn cymdeithas sydd, er yn fach o ran nifer, yn dioddef rhyw anfantais gyffredin.
Er enghraifft, mae nifer o elusennau cofrestredig sy'n ceisio darparu ar gyfer anghenion addysgol, cymdeithasol a diogelwch personol pobl agored i niwed mewn amgylchiadau arbennig. Yn yr achosion hyn mae'r nifer weddol fach o fuddiolwyr wedi'i chyfiawnhau oherwydd yr angen sydd arnynt sy'n cael ei ateb; mae'r gymdeithas gyfan yn elwa o'r ffaith bod y bobl hynny yn cael eu cynorthwyo.
Rhaid ystyried ym mhob achos a yw unrhyw gyfyngiadau a osodir ar bwy sy'n derbyn budd wedi'u cyfiawnhau ac yn rhesymol yng ngoleuni natur y diben elusennol sydd i'w gyflawni ac a yw'r rhai a all gael budd yn gallu, yn y cyd-destun hwnnw, gael ei ystyried yn adran o'r 'cyhoedd'.
Wrth ystyried pwy yw'r 'cyhoedd' neu adran o'r 'cyhoedd' at ddiben elusennol arbennig, yr hyn sy'n bwysig yw pwy allai gael budd, yn ogystal â phwy sy'n cael budd. Mae’n cynnwys buddiolwyr posib (h.y. y rhai a allai gael budd yn y dyfodol) yn ogystal â'r buddiolwyr go iawn.
Er enghraifft, mae elusen yn darparu budd i'r cyhoedd os yw'r buddion y mae'n eu cynnig ar gael yn gyffredinol er mai dim ond ychydig o bobl mewn gwirionedd sy'n manteisio ar y buddion hynny o bryd i'w gilydd.
Gall 'y cyhoedd' gynnwys aelodau o genhedlaeth heddiw yn ogystal â chenedlaethau'r dyfodol. Fodd bynnag, yn gyffredinol, ni ddylai darparu budd i genedlaethau’r dyfodol fod ar draul cenedlaethau heddiw yn gyfan gwbl. Rhaid cael cydbwysedd rhwng darparu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a darparu budd i bobl heddiw.
Er enghraifft, er mwyn sicrhau cynaladwyedd y blaned i genedlaethau i ddod, gall fod angen i genhedlaeth heddiw newid eu ffordd o fyw neu osod cyfyngiadau tymor byr er mwyn sicrhau buddion amgylcheddol mwy hir dymor ar gyfer y dyfodol. Yn yr un modd, gall fod angen cyfyngu ar fynediad i safle pensaernïol neu ardal gadwraeth arbennig, neu wrthod mynediad i genhedlaeth heddiw er mwyn ei gadw at y dyfodol. Ond rhaid i'r budd a ddaw o ddarparu ar gyfer lleddfu newyn cenedlaethau'r dyfodol, er enghraifft, gael ei gydbwyso yn erbyn yr angen i ddarparu ar gyfer pobl sy'n marw o newyn heddiw.
Os na ddarperir budd i'r cyhoedd yn gyffredinol, gellir darparu budd i 'adran o'r cyhoedd' os yw cyfyngu ar y budd yn y ffordd hon yn berthnasol i'r dibenion elusennol. Ond bydd budd cyhoeddus yn cael ei effeithio os yw'r cyfyngiadau yn ddireswm, yn afresymol neu'n anghyfiawn.
Mae natur rhai dibenion elusennol yn golygu y byddai'n amhriodol i gyfyngu'r buddion i adran o'r cyhoedd.
Er enghraifft, ni fyddai'n briodol, nac yn gwneud synnwyr, i gyfyngu buddion gwarchod rhywogaethau mewn perygl neu gael hyd i wellhad ar gyfer clefyd arbennig i adran arbennig o'r cyhoedd. Natur y buddion sy'n deillio o'r dibenion elusennol hyn yw'r math sy'n darparu budd, ac a ddylai ddarparu budd i'r cyhoedd yn gyffredinol.
Er mwyn bod yn elusen, os yw sefydliad yn cyfyngu ar y buddion y mae'n eu darparu i 'adran o'r cyhoedd', rhaid i'r cyfyngiad fod yn rhesymegol, yn rhesymol ac yn un y gellir ei gyfiawnhau o ystyried natur ei ddibenion elusennol.
Er enghraifft, fel arfer ni all budd gael ei gyfyngu i grŵp arbennig o bobl yn seiliedig ar eu lliw gwallt neu gymorth ar gyfer tîm pêl-droed arbennig oni bai fod meddu ar y priodweddau hynny wedi'u cysylltu'n glir â'r diben elusennol sydd i'w gyflawni.
Yn gyffredinol mae'n rhesymol i gyfyngu'r budd i ardal ddaearyddol arbennig.
Er enghraifft, mae'n briodol bod budd cae chwarae ar gael i bobl sy'n byw, neu'n ymweld â'r safle arbennig lle y lleolir y cae chwarae.
Fodd bynnag, gall fod neu efallai ni all fod yn briodol i roi cyfyngiadau pellach ar bwy all gael budd.
Er enghraifft, yn achos darparu amwynder cyhoeddus, megis pont neu briffordd, fel arfer dylai'r budd fod ar gael i unrhyw un yn yr ardal arbennig honno a heb ei gyfyngu ymhellach i, dyweder, pobl yn yr ardal honno o ryw, crefydd neu liw gwallt arbennig, oherwydd nid oes gan osod y cyfyngiadau pellach hynny unrhyw beth i'w wneud â'r rheswm pam y gallai darparu'r amwynder hwnnw fod yn elusennol.
Os yw'r buddiolwyr wedi'u diffinio trwy gyfeirio at gymwysterau angen elusennol (megis salwch neu galedi ariannol er enghraifft), gan ardal ddaearyddol arbennig, neu feini prawf eraill, rhaid i nifer y buddiolwyr, neu fuddiolwyr posib fod yn ddigon mawr neu agored o ran natur er mwyn cael eu hystyried fel 'y cyhoedd' a rhaid iddynt gyfateb â'r dibenion elusennol sydd i'w cyflawni.
Fel rheol gyffredinol, ni ellir diffinio'r rhai sy'n cael budd o'r elusen trwy gysylltiad personol, megis perthynas deuluol neu gyflogwr cyffredin. Yn y gorffennol, mae sefydliadau sy'n ymwneud â lleddfu tlodi wedi cael eu trin fel eithriad i'r rheol hon. Fodd bynnag, wrth ystyried effaith darpariaethau budd cyhoeddus Deddf Elusennau 2006, a'r egwyddorion a bennwyd yn y canllawiau drafft hyn, ar gyfer is-sectorau elusennau arbennig, byddwn yn ystyried ymhellach a fydd yr eithriad hwn yn parhau.
Ni ddylai elusennau gael eu hystyried yn 'glybiau cyfyngedig' a dim ond rhai breintiedig sy'n gallu ymuno, oherwydd mae darparu budd 'i'r cyhoedd' a ddaw o hynny yn gyfyngedig iawn. Ond nid oes angen i bob elusen ddarparu budd i'r cyhoedd cyfan ychwaith. Yn gyffredinol, y mwyaf agored, eang ei orwelion a chynhwysol y pwrpas, mwyaf y budd y gellir ei ddarparu i'r cyhoedd. Felly, os yw pwrpas elusen yn fwy caeedig, cul ei orwelion a chyfyngedig, mwyaf y cyfiawnhad y bydd ei angen er mwyn dangos bod budd digonol yn cael ei ddarparu i'r cyhoedd. Os mai'r rheswm dros gyfyngu'r bobl a all gael budd yw delio â rhyw anfantais gyffredin a rennir gan y bobl hynny, mae'n fwy tebygol o ddangos budd i'r cyhoedd.
Os yw dibenion sefydliad yn ymwneud â darparu neu gynnal cyfleusterau arbennig er budd y cyhoedd, rhaid i unrhyw gyfyngiadau ar fynediad cyhoeddus (fel oriau agor cyfyngedig neu derfyniadau ar yr ardaloedd y gall pobl gael mynediad corfforol iddynt) fod yn rhesymol ac yn briodol yn yr amgylchiadau os yw eisiau dangos budd 'i'r cyhoedd'. Mewn achosion o'r fath, rhaid i'r raddfa o fynediad cyhoeddus (sut bynnag y'i darperir) fod yn ddigonol yn gyffredinol er mwyn i'r sefydliad hawlio ei fod yn darparu budd cyhoeddus. Hefyd, rhaid i elusennau sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith sy'n ymwneud â mynediad i wasanaethau.
Er enghraifft, os yw'n briodol, rhaid i ymddiriedolwyr ystyried darpariaethau Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a 2005 ynghylch darparu mynediad corfforol i adeiladau i bobl anabl.
Mae strwythur aelodaeth gan rai elusennau lle mae aelodau yn fuddiolwyr yr elusen hefyd. Yn yr achos hwn, rhaid i unrhyw gyfyngiadau ar bwy all ymuno fel aelod fod yn rhesymol a rhaid bod modd eu cyfiawnhau yn yr amgylchiadau er mwyn peidio ag effeithio ar fudd cyhoeddus y sefydliad.
Er enghraifft, os oes rhaid i unigolyn fod yn aelod er mwyn cael budd, mae'n bosib na fydd gan system aelodaeth sy'n gofyn i aelodau posib gael eu cynnig a'u heilio gan aelodau sy'n bod yn cynnwys yr elfen 'gyhoeddus' angenrheidiol oherwydd ei fod yn glwb aelodau preifat yn y bôn.
Fodd bynnag, gall fod yn briodol i gyfyngu ar fynediad i aelodaeth, mewn rhai amgylchiadau, fel yr esbonnir uchod, os yw wedi'i gysylltu â diben yr elusen.
Er enghraifft, gall y buddiolwyr gael eu cyfyngu i:
Mewn rhai achosion mae buddion sefydliad wedi'u cyfyngu i'r bobl sy'n gallu fforddio talu am y ffioedd y mae'n eu codi am ei wasanaethau. Os mai dyma yw'r achos, mae'n bosib nad yw'r buddion ar gael i adran ddigonol o'r cyhoedd er mwyn bodloni'r egwyddor hon a gall fod angen chwilio am fuddion eraill sydd ar gael i bobl na all fforddio talu'r ffioedd. Gall hyn effeithio ar allu'r sefydliad i fodloni'r drydedd egwyddor hefyd, sef rhaid i bobl ar incwm isel allu cael budd. Cewch arweiniad ar hyn yn adran E isod.
Hefyd rhaid i ymddiriedolwyr elusennau fod yn ymwybodol o effaith deddfwriaeth wahaniaethu wrth ddiffinio buddiolwyr eu helusen.
Er enghraifft, er bod modd diffinio buddiolwyr trwy gyfeirio at hil, cenedlaetholdeb, tarddiad ethnig neu genedlaethol, mae Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 yn atal elusennau rhag diffinio eu buddiolwyr trwy liw croen. Os yw elusen yn diffinio ei buddiolwyr trwy gyfeirio at liw eu croen yn ei dibenion, effaith Deddf Cysylltiadau Hiliol yw bod y dibenion yn cael eu trin fel pe bai'r cyfeiriad hwnnw wedi'u hepgor.
Felly, byddai elusen gyda dibenion sy'n darllen “er budd menywod duon mewn angen ariannol” yn cael eu trin fel elusen gyda dibenion “er budd menywod mewn angen ariannol”.
Rydym wedi nodi deg cwestiwn i helpu asesu a yw sefydliad yn bodloni'r egwyddorion a nodwyd yn y canllawiau drafft. Fe welwch y cwestiynau yn llawn yn adran Ff1.
Dyma'r cwestiynau a fydd yn ein helpu i asesu a yw sefydliad yn bodloni egwyddor 2 neu beidio:
3. Pwy mae'ch sefydliad wedi'i sefydlu i'w cynorthwyo yn bennaf?
4. Ydy'ch sefydliad yn darparu buddion ehangach i'r gymuned neu'r gymdeithas yn gyffredinol? Os felly, sut?
5. Pa feini prawf ydy'ch sefydliad yn eu defnyddio i ddewis buddiolwyr? Ydy unrhyw un wedi'i eithrio rhag bod yn fuddiolwr? Os felly, pwy sydd wedi'i eithrio a pham?
6. Oes aelodaeth gan eich sefydliad ac mae'n rhaid i rywun fod yn aelod er mwyn cael budd? Os felly, all unrhyw un ymaelodi? Os na, pwy all ymaelodi a pham?
7. Ydy'ch sefydliad yn darparu cyfleusterau, neu wasanaethau i'r cyhoedd? Os felly, pa gyfyngiadau, os oes, sydd ar yr hyn y gall pobl gael mynediad iddynt neu pwy all gael mynediad?
Cwestiynau'r ymgynghoriad:
Cw8. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein dehongliad o egwyddor 2?
Nid yw'r term 'pobl ar incwm isel' wedi'i ddiffinio, ond yng Nghymru a Lloegr er enghraifft, fel arfer byddi'n cynnwys cartrefi sy'n byw ar lai na 60% o'r incwm cyfartalog (cyn neu ar ôl ystyried costau tai) a phobl sy'n byw ar neu o dan lefel cymhorthdal incwm.
Yn gyffredinol, nid yw'n cynnwys pobl ar incwm isel ond sy'n gyfoethog o ran asedau.
Mae penderfyniadau'r llys ynghylch budd cyhoeddus elusennau wedi cyfeirio at elusennau yn peidio ac eithrio'r 'tlodion'. Rydym yn awgrymu defnyddio'r term 'pobl ar incwm isel' fel term cyfatebol mwy modern i'r 'tlodion'.
Mae'n bwysig deall y gall tlodi fodoli ar raddfeydd gwahanol a gall fod yn dymor byr neu'n dymor hir. Nid oes rhaid i unigolyn fod yn 'anghenus' i gael ei ystyried yn 'dlawd' neu'n 'unigolyn ar incwm isel'. Am fwy o arweiniad manwl ar hyn, edrychwch ar ein cyhoeddiad ar wahân Elusennau i Roi Cymorth ar gyfer Caledi Ariannol.
Wrth benderfynu pwy fyddai'n cael ei ystyried yn 'bobl ar incwm isel' mae'n bwysig ystyried y cyd-destun ar gyfer yr elusen dan sylw, h.y. yr hyn y sefydlwyd yr elusen i'w gyflawni a ble y mae'n gweithredu.
Er enghraifft, ydy'r elusen yn gweithredu mewn ardal weddol gyfoethog yn y DU neu yn yr ardaloedd tlotaf mewn gwledydd sy'n datblygu?
Rhaid i bobl ar incwm isel allu cael budd gan elusen.
Mae'r buddion y mae elusennau'n eu darparu i'r cyhoedd yn amrywio'n fawr, yn dibynnu ar natur y diben elusennol, maint yr elusen a sut a ble y mae'n gweithredu.
Yr hyn sy'n bwysig yw bod pobl ar incwm isel yn cael cyfle i gael budd. Mewn sawl achos, bydd pobl ar incwm isel yn cael budd yn yr un ffordd â phobl sy'n fwy cefnog.
Er enghraifft, mae'r buddion sy'n deillio os yw rhywogaethau mewn perygl yn cael eu gwarchod, neu os yw gwyddor feddygol yn cael ei hyrwyddo, neu os yw hawliau dynol pobl yn cael eu diogelu, yr un mor gymwys i bobl waeth beth fo'u sefyllfa ariannol bersonol.
Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu nad oes dau fath, neu ddosbarth o fudd; un i bobl ar incwm isel ac un i bawb arall.
Nid yw'n golygu bod rhaid i bob elusen gael buddiolwyr sydd ar incwm isel. Nid yw'r ffaith y gall pobl ar incwm isel ddewis peidio â chael budd yn effeithio ar fudd cyhoeddus y sefydliad sy'n cynnig y budd. Nid yw'n golygu ychwaith bod rhaid i elusennau helpu pob unigolyn ar incwm isel; mae adnoddau cyfyngedig gan elusennau ac ni allant helpu pawb. Yr hyn sy'n bwysig yw bod pobl yn cael cyfle i gael budd beth bynnag fo'u hincwm.
Fodd bynnag, os yw elusen yn codi tâl am ei gwasanaethau gall hyn gael yr effaith o eithrio pobl na allant, oherwydd eu sefyllfa ariannol, fforddio talu'r ffioedd ac felly nid ydynt yn cael yr un cyfle o bosib i gael budd, neu gael budd yn yr un ffordd, â rhywun sy'n fwy cefnog. Mae'r effaith y gall y sefyllfa hon ei chael ar asesu budd cyhoeddus sefydliad yn cael ei ystyried yn fanwl isod.
Gall elusennau godi tâl am eu gwasanaethau ond os yw'r taliadau mor uchel fel eu bod yn eithrio pobl ar incwm isel rhag cael budd, naill ai oherwydd na allant fforddio, neu ni allant gael cyllid arall i dalu'r ffioedd, mae hyn yn debygol o effeithio ar fudd cyhoeddus.
Mae enghreifftiau o elusennau a all godi tâl ar eu defnyddwyr ar gyfer defnyddio eu gwasanaethau a'u cyfleusterau yn cynnwys:
Gall elusen godi tâl sy'n fwy na chost y gwasanaethau neu'r cyfleusterau y mae'n eu darparu. Mae hyn yn dderbyniol ar yr amod bod y tâl yn rhesymol ac yn angenrheidiol er mwyn cyflawni dibenion yr elusen, er enghraifft cynnal neu ddatblygu'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu. Fodd bynnag, os yw'r tâl mor uchel fel ei fod mewn gwirionedd yn eithrio pobl ar incwm isel, mae hyn yn debygol o effeithio ar fudd cyhoeddus.
Ni ddylid drysu rhwng codi tâl a ffurfiau eraill o gyfraniad ariannol i elusennau, megis yn achos elusennau crefyddol, y mae eu credoau craidd yn gallu cynnwys cyfraniad ariannol gan ddilynwyr, ar ffurf degymau, dyweder. Yn gyffredinol, os nad yw'r budd yn dibynnu ar dalu cyfraniad ariannol ni fydd yn effeithio ar fudd cyhoeddus. Fodd bynnag, gallai'r budd cyhoeddus gael ei effeithio mewn amgylchiadau lle mae pwysau mawr yn cael eu rhoi ar fuddiolwyr i wneud cyfraniad ariannol, neu os yw'r cyfraniad ariannol sydd ei angen i ddarparu budd yn sylweddol o'i gymharu â sefyllfa ariannol y sawl sy'n cyfrannu, er nad yw'r budd yn dibynnu yn gyfreithiol ar roi cyfraniad o'r fath.
Wrth ystyried i ba raddau y gallai godi tâl effeithio ar allu elusen i ddangos budd i'r cyhoedd, dilynir yr egwyddorion cyffredinol canlynol:
Bydd yr egwyddorion hyn yn gymwys mewn ffordd sy'n ystyried natur y diben elusennol arbennig a'r gyfraith y sy'n gymwys iddo, amgylchiadau arbennig y sefydliad a'r amodau modern y mae'r sefydliad yn gweithredu oddi dano.
Mae'r egwyddorion bras hyn yn golygu y gall codi ffioedd uchel, mewn rhai amgylchiadau, effeithio ar gynnig buddion i'r cyhoedd.
Os yw defnyddio'r buddion yn seiliedig ar y gallu i dalu'r ffioedd a godir, rhaid egluro bod modd darparu'r budd i'r cyhoedd yn gyffredinol o hyd, neu i adran ddigonol o'r cyhoedd, ac mae'n rhaid cynnwys pobl ar incwm isel.
Bydd y ffyrdd y gall budd gael ei ddarparu o hyd i'r cyhoedd yn amrywio yn dibynnu ar ddiben ac amgylchiadau pob sefydliad. Ar yr amod y gellir dangos bod budd cyhoeddus digonol yn cael ei ddarparu, yn gyffredinol bydd yn fater i'r ymddiriedolwyr benderfynu pa ddulliau a ddefnyddir gan yr elusen i sicrhau a dangos bod ei dibenion yn darparu budd cyhoeddus. Wrth asesu'r budd cyhoeddus cyffredinol a ddarperir gan elusen sy'n codi ffioedd byddwn yn ystyried y buddion cyfan y mae'n eu darparu.
Er enghraifft, yn achos elusen y celfyddydau sy'n codi ffioedd uchel, gallai ddarparu ystod o fuddion gan gynnwys:
Gan ddefnyddio'r ymagwedd hon mewn achosion lle y codir ffioedd uchel am wasanaethau neu gyfleusterau, byddwn yn ystyried y materion canlynol:
Yn amlwg bydd hyn yn dibynnu ar lefel y ffioedd a godir a'r gwasanaeth a ddarperir. Bydd nifer y bobl ar incwm isel sy'n methu â chael buddion yr elusen yn amrywio o'i gymharu'n uniongyrchol â lefel y ffioedd a godir.
Er enghraifft, os codir ffioedd o £20,000 i fynychu cwrs hyfforddiant galwedigaethol, mae'n debyg y byddant yn eithrio nifer sylweddol o bobl rhag cael y buddion, gan gynnwys pobl ar incwm isel. Os yw'r ffioedd a godir yn 50 ceiniog i gael mynediad i gyfleusterau canolfan gymunedol, nid yw llawer o bobl yn debygol o gael eu heithrio.
Nid yw 'peidio ac eithrio' pobl ar incwm isel yn golygu darparu rhyw fath o fudd 'rhannol' i unigolyn neu unigolion ar incwm isel; rhaid iddo fod yn fwy na budd minimal neu nominal neu fudd sy'n codi dim ond drwy hap.
I'r gwrthwyneb, byddai budd cyhoeddus sy'n mynnu nad oes unrhyw rwystrau ariannol i gael buddion yn gyfystyr â 'safon aur' afrealistig i elusennau codi ffioedd ei bodloni.
Os yw pobl ar incwm isel yn methu â chael budd o elusen mewn ffordd uniongyrchol, oherwydd ni allant fforddio talu'r ffioedd a godir am ei gwasanaethau, rhaid bod ffyrdd rhesymol eraill ar gael iddynt gael budd.
Fel arfer, bydd buddion uniongyrchol i bobl ar incwm isel yn cael eu hystyried yn gyntaf, yn enwedig pan fydd ffioedd yn cael eu codi. Ond gellir ystyried buddion anuniongyrchol neu 'gynyddol' hefyd.
Yn y rhan fwyaf o achosion disgwylir i fuddion uniongyrchol gael eu darparu fel arfer, yn enwedig os codir ffioedd. Yng nghyd-destun elusennau sy'n codi ffioedd, os yw buddion uniongyrchol yn cael eu darparu, fel arfer dylai fod mynediad rhesymol i'r buddion hynny gan adran ddigonol o'r cyhoedd, gan gynnwys pobl ar incwm isel.
Bydd faint o fynediad sydd ei angen yn cael ei ystyried mewn canllawiau pellach ar sut y mae'r egwyddorion budd cyhoeddus yn gymwys yn arbennig i elusennau sy'n codi tâl.
Anogir elusennau sy'n codi tâl i fod yn flaengar ac yn greadigol wrth ystyried sut i ddarparu'r buddion mwyaf i'r cyhoedd, ac yn arbennig i bobl na allant fforddio talu'r ffioedd a godir.
Mae enghreifftiau o sut y gallai buddion uniongyrchol gael eu darparu i bobl ar incwm isel yn cynnwys:
Mae enghreifftiau o sut y gallai buddion 'uniongyrchol' gael eu darparu i bobl ar incwm isel yn cynnwys:
Wrth ystyried a yw codi ffioedd yn effeithio ar fudd cyhoeddus, gall y ffactorau cyffredinol canlynol fod yn berthnasol:
Gall fod angen ystyried yn fanwl pa drefniadau sydd ar gael i alluogi pobl ar incwm isel i gael budd. I ddangos hyn, yn yr enghreifftiau uchod, os yw'r disgownt ar bris y tocynnau cyngerdd yn golygu bod y swm sy'n daladwy yn parhau i atal pobl ar incwm isel rhag mynd i'r cyngerdd, neu os codir tâl am yr yswiriant meddygol ac mae hwn y tu hwnt i bobl ar incwm isel, neu os yw'r ysgol yn codi tâl ar yr elusen addysgol arall neu ysgol y wladwriaeth am ddefnyddio'r cyfleusterau, bydd y trefniadau hyn yn effeithio ar faint o bwys sydd ganddynt.
Gall hyn gynnwys ystyried i ba raddau y mae'r math o wasanaeth neu gyfleuster a ddarperir yn un y mae angen cyhoeddus amdano, ac i ba raddau y mae'r gwasanaethau neu'r cyfleuster a ddarperir yn cyfrannu at ateb yr angen hwn.
Er enghraifft, gall ysbyty nad yw'n cael ei rhedeg gan y GIG ddarparu offer sganio arbenigol nad yw ar gael yn yr ysbyty GIG lleol, neu gallai unigolyn oedrannus mewn cartref gael gofal am gyfnod hwy nag y byddai wedi'i dderbyn gan ddarparwyr gwasanaeth cyhoeddus.
Gellir rhoi pwys ychwanegol ar werth y buddion a ddaw drwy ddarparu gwasanaeth arbenigol, megis ysgol neu ysbyty sy'n ateb angen penodol.
Er enghraifft, yr anghenion addysgol ychwanegol a all godi i ddisgyblion gyda dyslecsia neu'r driniaeth arbenigol sy'n cael ei chynnig i gleifion gyda math arbennig o ganser. Fodd bynnag, ni fyddai ysgol sy'n cynnig budd i ddisgyblion dyslecsig mwy cefnog neu ysbyty sy'n cynnig budd i gleifion canser cyfoethog yn unig yn elusennol.
Ni fyddai'n ddigonol os mai'r unig fudd a ddaw i bobl ar incwm isel yw'r budd ehangach y mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn ei dderbyn pan fydd gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan elusen yn derbyn cronfeydd cyhoeddus. (Cynigir buddion o'r fath i drethdalwyr yn bennaf ac nid yw pobl ar incwm isel yn talu llawer neu dim treth.)
Rydym wedi nodi deg cwestiwn i helpu asesu a yw sefydliad yn bodloni'r egwyddorion a nodwyd yn y canllawiau drafft. Fe welwch y cwestiynau yn llawn yn adran Ff1.
Dyma'r cwestiynau a fydd yn ein helpu i asesu a yw sefydliad yn bodloni egwyddor 3 neu beidio:
8. Ydy'ch sefydliad yn codi tâl am ei wasanaethau? Os ydyw, sut mae'r taliadau yn cael eu gosod? Ydy'r gyfradd lawn yn cael ei chodi ar bawb?
9. Faint o bobl ar incwm isel sy'n gallu cael budd o'ch sefydliad?
Cwestiynau'r ymgynghoriad:
Cw9. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein dehongliad o egwyddor 3?
Cw10. Rydym wedi defnyddio'r ymadrodd 'pobl ar incwm isel' oherwydd ei fod yn ymadrodd cyffredin a chredwn mai dyma'r term modern gorau i ddisgrifio'r bobl y mae'r llysoedd wedi cyfeirio atynt cyn hyn fel 'y tlodion'. Rydym wedi ystyried mathau eraill o ymadroddion ar gyfer 'pobl ar incwm isel' fel a ganlyn:
(i) ‘Y tlodion’ - Defnyddiwyd yr ymadrodd hwn yn flaenorol gan y llysoedd ond teimlwn y gall gael ei ystyried yn hen ffasiwn ac yn gamarweiniol o bosib yn awr.
(ii) 'Pobl mewn caledi ariannol' - Er y teimlwn fod hyn yn well na 'y tlodion' mae'n term llai cyffredin na 'phobl ar incwm isel.'
(iii) 'Y llai da eu byd' - Teimlwn fod hyn yn well na 'y tlodion' ond mae'n bosib bod diffyg eglurder (h.y. yn llai da eu byd na beth neu bwy?) ac mae'n derm cymharol nad yw'n cael ei ddeall yn gyffredinol o bosib.
(iv) 'Pobl mewn sefyllfa ariannol gyfyng' - Unwaith eto, er ei fod yn well na 'y tlodion' a gallai gynnwys lefel incwm unigolyn a gwerth unrhyw asedau sydd ganddynt, efallai nad yw'r term 'cyfyng' yn eglur (h.y. pa mor gyfyng?) ac nid yw'n cael ei ddefnyddio mor aml â 'phobl ar incwm isel.'
(v) 'Pobl sydd dan anfantais economaidd' - Mae'n derm cymharol a goddrychol (h.y. pa mor ddifreintiedig?) ac felly gall fod yn agored i lawer o wahanol ddehongliadau.
(v) 'Pobl mewn sefyllfa ariannol gyfyngedig' - Mae'n derm cymharol a goddrychol (h.y. pa mor gyfyngedig?) ac felly gall fod yn agored i lawer o wahanol ddehongliadau.
(vii) 'Pobl mewn sefyllfa ariannol gyffredin' neu 'bobl mewn sefyllfa ariannol gymedrol' - Credwn fod y term hwn yn mynd y tu hwnt i'r hyn a nodir yn y gyfraith elusennau ar hyn o bryd, gan estyn y tu hwnt i bobl sy'n 'dlawd' ac felly byddai angen deddfwriaeth er mwyn ei ddefnyddio.
A fyddai'n well gennych ein bod yn defnyddio ymadrodd arall ar gyfer 'pobl ar incwm isel'? Os felly, pa ymadrodd arall sy'n well gennych a pham?
Mae 'budd preifat' yn codi pan fydd unigolyn neu sefydliad yn elwa'n bersonol o dderbyn budd. Mewn rhai achosion gallant elwa mewn ffordd elusennol; ond ni fydd yn elusennol mewn achosion eraill.
Gall elusennau ddarparu buddion preifat ar yr amod bod y buddion hynny yn cyfrannu'n uniongyrchol tuag at gyflawni dibenion yr elusen a/neu yn atodol i gyflawni'r dibenion hynny.
Rhaid i elusen ddarparu mwy o fuddion cyhoeddus na buddion preifat.
Mae enghreifftiau o fuddion preifat sy'n cyfrannu'n uniongyrchol tuag at gyflawni dibenion elusen yn cynnwys rhoi grant i unigolyn i leddfu eu caledi ariannol neu ddarparu addysg i rywun.
Mae enghreifftiau o fuddion preifat sy'n atodol i gyflawni dibenion elusen yn cynnwys talu cyflogau rhesymol i staff elusen neu os yw busnesau'n cael elw cyfyngedig o ganlyniad i brosiectau adfywio elusennol.
Yn gyffredinol, mae budd preifat yn atodol yn gyfreithlon os:
Os yw'n ddymunol rhoi buddion i aelodau sefydliad er mwyn cyflawni ei ddibenion elusennol, yn gyffredinol gellir ystyried bod y budd preifat i aelodau yn atodol. Fodd bynnag, fel arfer ni all sefydliad a gefnogir gan ei aelodau at ddiben darparu buddion i'w hunain fod yn elusen. Mae'n gwestiwn o raddfa; ydy'r sefydliad yn bodoli'n bennaf i gynnig mantais i'w aelodau neu ydy'r strwythur aelodaeth wedi cael ei fabwysiadu dim ond fel ffordd effeithiol o ddarparu buddion elusennol neu er mwyn hwyluso gweinyddu'r elusen?
Rydym wedi nodi deg cwestiwn i helpu asesu a yw sefydliad yn bodloni'r egwyddorion a nodwyd yn y canllawiau drafft. Fe welwch y cwestiynau yn llawn yn adran Ff1.
Dyma'r cwestiynau a fydd yn ein helpu i asesu a yw sefydliad yn bodloni egwyddor 4 neu beidio:
10. Ydy unrhyw un yn derbyn budd preifat o'ch sefydliad? Os ydynt, pa fuddion ydynt nhw'n eu derbyn? Sut mae'r buddion hyn yn cyfrannu at gyflawni dibenion eich sefydliad a/neu i ba raddau ydyn nhw'n atodol?
Cwestiynau'r ymgynghoriad:
Cw11. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein dehongliad o egwyddor 4?
Mae'r adrannau canlynol yn disgrifio sut y bydd y Comisiwn Elusennau yn asesu budd cyhoeddus elusennau
Ff1. Bwriedir i'r cwestiynau canlynol helpu sefydliadau (naill ai elusennau cofrestredig neu sefydliadau sy'n ceisio bod yn elusennau cofrestredig) i ddarparu'r math o wybodaeth a fydd yn ein helpu i asesu a ydynt yn bodloni'r egwyddorion budd cyhoeddus a nodwyd uchod:
Egwyddor 1:
1. Pa fudd(ion) ydy'ch sefydliad yn eu darparu?
2. Sut mae'r buddion hyn yn helpu bodloni diben(ion) eich sefydliad?
Egwyddor 2:
3. Pwy mae'ch sefydliad wedi'i sefydlu i'w cynorthwyo yn bennaf?
4. Ydy'ch sefydliad yn darparu buddion ehangach i'r gymuned neu'r gymdeithas yn gyffredinol? Os felly, sut?
5. Pa feini prawf ydy'ch sefydliad yn eu defnyddio i ddewis buddiolwyr? Ydy unrhyw un wedi'i eithrio rhag bod yn fuddiolwr? Os felly, pwy sydd wedi'i eithrio a pham?
6. Oes aelodaeth gan eich sefydliad ac mae'n rhaid i rywun fod yn aelod er mwyn cael budd? Os felly, all unrhyw un ymaelodi? Os na, pwy all ymaelodi a pham?
7. Ydy'ch sefydliad yn darparu cyfleusterau, neu wasanaethau i'r cyhoedd? Os felly, pa gyfyngiadau, os oes, sydd ar yr hyn y gall pobl gael mynediad iddynt neu pwy all gael mynediad?
Egwyddor 3:
8. Ydy'ch sefydliad yn codi tâl am ei wasanaethau? Os ydyw, sut mae'r tâl yn cael ei gosod? Ydy'r gyfradd lawn yn cael ei chodi ar bawb?
9. Faint o bobl ar incwm isel sy'n gallu cael budd o'ch sefydliad?
Egwyddor 4:
10. Ydy unrhyw un yn derbyn budd preifat o'ch sefydliad? Os ydynt, pa fuddion ydyn nhw'n eu derbyn? Sut mae'r buddion hyn yn cyfrannu at gyflawni dibenion eich sefydliad a/neu i ba raddau ydyn nhw'n atodol?
Cwestiynau'r ymgynghoriad:
Cw12. Ydych chi'n meddwl y byddai'r cwestiynau hyn yn helpu ymddiriedolwyr elusennau a hyrwyddwyr i asesu a yw eu sefydliad yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus?
Cw13. Oes unrhyw gwestiynau eraill y teimlwch allai fod o gymorth i'w cynnwys?
Mae Deddf Elusennau 2006 yn rhoi amcan budd cyhoeddus newydd i'r Comisiwn Elusennau sef 'hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o weithrediad y gofyniad budd cyhoeddus'.
Hefyd, mae'n ofynnol i ni ddarparu canllawiau i helpu bodloni ein hamcan budd cyhoeddus ac ymgymryd â pha bynnag ymgynghoriadau y teimlwn sy'n briodol cyn cyhoeddi'r canllawiau hyn. Mae'r canllawiau drafft hyn yn disgrifio ac yn esbonio prif egwyddorion y gofyniad budd cyhoeddus a sut y maent yn gymwys i bob elusen.
Mae elusennau'n cwmpasu ystod eang o ddibenion. Rhaid i bob elusen gael dibenion elusennol sy'n darparu budd i'r cyhoedd, ond nid yw'r gyfraith yn mabwysiadu'r un mesurau ymarferol i asesu budd cyhoeddus ym mhob math o achos.
Mae hyn yn golygu y gall y ffyrdd y gellir dangos budd cyhoeddus fod yn wahanol ar gyfer dibenion elusennol gwahanol. Oherwydd hyn, mae'r gofyniad budd cyhoeddus yn debygol o edrych yn wahanol i grwpiau gwahanol o elusennau.
Er mwyn darparu gwybodaeth glir ynghylch sut y mae gwahanol grwpiau o elusennau yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, byddwn yn cyhoeddi canllawiau am yr hyn y mae budd cyhoeddus yn ei olygu i wahanol fathau o elusennau. Mewn rhai meysydd mae'n debygol o fod yn gymhleth, ond defnyddiwn ein gwybodaeth a'n profiad o weithio gydag elusennau i esbonio beth yw'r gyfraith a sicrhau ei bod yn ystyried amodau cymdeithasol ac economaidd cymdeithas fodern.
Hefyd, byddwn yn gwneud astudiaethau ymchwil sy'n dangos i ba raddau y mae gwahanol fathau o elusennau yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Bydd yr adborth a gawn o'n hymgynghoriadau cyhoeddus ar fudd cyhoeddus, a chasgliadau ein hastudiaethau ymchwil yn helpu i ddarparu gwybodaeth fwy manwl ynghylch sut y gall gwahanol fathau o elusennau fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, a fydd yn ei dro yn helpu cynnig gwybodaeth ar gyfer ein hasesiadau budd cyhoeddus o elusennau.
Wrth benderfynu pa grwpiau o elusennau i'w harchwilio yn gyntaf byddwn yn ystyried materion risg a materion sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd.
Er enghraifft, mae pryderon wedi'u mynegi eisoes ynghylch sefydliadau addysgol ac ysbytai ac elusennau eraill sy'n codi ffioedd. Mae'r Ddeddf Elusennau hefyd yn dileu'r rhagdybiaeth o fudd cyhoeddus ar gyfer dibenion tlodi, addysgol a chrefyddol. O ganlyniad, bydd nifer o elusennau o'r fath yn meddwl am y gofyniad budd cyhoeddus am y tro cyntaf.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth sydd gennym fel rheolydd elusennau. Casglwn wybodaeth safonol at ddibenion cynnal cronfa ddata o elusennau a monitro'r elusennau hyn. Hefyd, mae gwybodaeth gennym o'n gwaith bob dydd gydag elusennau sy'n ceisio cyngor ac rydym yn gwneud newidiadau cyfreithiol ar eu cyfer er mwyn iddynt allu gweithio'n effeithiol mewn amgylchiadau sy'n newid, trwy ymweliadau a chyfarfodydd ag elusennau a thrwy ein gwaith i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gyfraith ac ymchwilio i gamweinyddu a chamddefnydd.
Hefyd, byddwn yn trafod y mater o fudd cyhoeddus gydag elusennau sy'n ffurfio rhan o'r grŵp arbennig, gyda chyrff mantell perthnasol a defnyddwyr yr elusennau hyn. Os yw'n briodol, byddwn yn comisiynu ymchwil mwy cyffredinol ar sut mae dibenion elusennau arbennig yn darparu budd cyhoeddus a barn y cyhoedd am y dibenion hynny.
Byddwn yn ystyried ffactorau eraill, megis mesurau i ehangu mynediad i wasanaethau a chyfleusterau elusennau sy'n codi tâl i bobl y gall fod yn anodd iddynt ddefnyddio eu gwasanaethau oherwydd bod ffioedd yn cael eu codi.
Yn unol â'r darpariaethau yn Neddf Elusennau 2006, bydd rhaid i bob sefydliad a gofnodir ar y Gofrestr Elusennau ddangos yn gadarnhaol fod dibenion elusennol ganddo sydd er budd y cyhoedd.
Pan fydd sefydliad yn gwneud cais i gofrestru fel elusen, bydd angen iddo esbonio sut mae ei ddibenion yn darparu budd i'r cyhoedd. Mewn rhai achosion, bydd angen iddo ddarparu tystiolaeth ategol hefyd. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn ystyried diwygio ein ffurflen gais gofrestru i gynnwys cwestiynau penodol am fudd cyhoeddus.
Fel y mae hi ar hyn o bryd, defnyddiwn y wybodaeth y mae sefydliad yn ei darparu ar ei ffurflen gais i benderfynu a yw ei ddibenion yn elusennol ac yn darparu budd digonol i'r cyhoedd. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd hyn yn amlwg.
Mae asesu budd cyhoeddus ar gyfer ceisiadau gan sefydliadau sy'n defnyddio dibenion elusennol adnabyddus a defnyddio dogfen lywodraethol gymeradwy yn debygol o fod yn weddol ddidrafferth.
Os nad yw'n syml (er enghraifft, os yw diben y sefydliad yn weddol newydd neu mae ganddo ryw nodwedd anarferol) byddwn yn asesu'r wybodaeth yn ofalus yn erbyn yr egwyddorion a nodir yn y canllawiau drafft hyn, ac os oes angen, byddwn yn ceisio eglurhad gan ymgeiswyr o ran sut y bydd dibenion y sefydliad yn darparu budd i'r cyhoedd. Os yw'n briodol, byddwn yn rhoi cyngor i sefydliad ynghylch sut i newid ei ddibenion er mwyn darparu budd digonol i'r cyhoedd.
Os nad yw sefydliad sy'n gwneud cais i gofrestru yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, gallwn ddarparu cyngor lle'n bosib ynghylch sut i newid neu ailstrwythuro ei ddibenion er mwyn iddo allu bodloni'r gofyniad. Os na all sefydliad ddangos bod ei ddibenion yn darparu budd i'r cyhoedd, nid oes modd ei gofrestru oherwydd ni fydd yn elusen.
Rhaid i elusen barhau i fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus trwy gydol ei hoes.
Wrth asesu a yw elusennau yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, hoffwn fabwysiadu ymagwedd gyfatebol, gan ystyried beth sy'n rhesymol yn achos yr elusen arbennig. Hefyd, hoffwn osgoi dyblygu gwaith ac rydym yn ymrwymedig fel sefydliad i leihau'r baich gweinyddol ar elusennau.
Cynigiwn fabwysiadu ymagwedd seiliedig ar risg wrth asesu budd cyhoeddus elusennau sy'n bod, gan ganolbwyntio ein hadnoddau ar asesu budd cyhoeddus elusennau a all ei chael hi'n anodd bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Er enghraifft, gallai ein meini prawf risg gynnwys:
Cynigiwn ofyn i ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig, wedi'u dewis ar sail ein meini prawf risg, ddarparu esboniad mwy manwl ynghylch sut y teimlant fod eu helusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Er enghraifft, gallai hyn gynnwys elusennau sy'n codi ffioedd uchel a all ei chael hi'n anodd dangos budd i bobl ar incwm isel, neu elusennau lle mae graddfa uchel o fudd preifat, lle y gall fod yn anodd dangos bod y budd preifat yn atodol yn unig.
Credwn y dylai ymddiriedolwyr elusennau adrodd am fudd cyhoeddus a sut mae eu helusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Mae'n rhaid i bob elusen ddarparu budd i'r cyhoedd er mwyn bod yn gymwys i gael statws elusennol. Mae statws elusennol yn cynnig nifer o fanteision ariannol ac ymarferol.
Er enghraifft:
Hefyd mae ystod o fanteision nad yw mor hawdd eu mesur na'u meintioli.
Bu galw cynyddol o du'r cyhoedd yn y blynyddoedd diweddar am fwy o dryloywder ac atebolrwydd gan elusennau, a adlewyrchir er enghraifft yn y newidiadau i'r gofynion adrodd a chyfrifyddu i elusennau.
Er enghraifft:
Yn unol â'r tuedd cyffredinol hwn, teimlwn y dylid annog elusennau i adrodd am fudd cyhoeddus a sut y maent yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus a'r ffordd orau o wneud hyn o bosib yw defnyddio'r fframweithiau adrodd presennol (fel y gwna lawer eisoes).
Hefyd, rydym yn cydnabod yr angen i gydbwyso'r awydd am fwy o dryloywder ac atebolrwydd gan elusennau ynghylch y manteision i'r cyhoedd a ddarparant, yn erbyn ein hymrwymiad i leihau'r baich gweinyddol ar elusennau.
Ni chredwn fod ymagwedd 'un maint addas i bawb' tuag at adrodd ar fudd cyhoeddus. Felly, nodwyd isod y ffyrdd arfaethedig y credwn y gallai elusennau o wahanol feintiau adrodd am fudd cyhoeddus a sut y maent yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Elusennau gydag incwm blynyddol o lai na £500,000:
I elusennau sy'n is na'r trothwy archwilio newydd a gyflwynwyd gan y Ddeddf Elusennau, cynigiwn ofyn i'r ymddiriedolwyr gynnwys datganiad syml yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr ynghylch sut mae eu helusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Teimlwn y dylai hyn fod yn fwy na chadarnhad syml bod yr elusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus ond nid oes angen iddo fod yn fwy na datganiad byr yn nodi sut mae dibenion yr elusen wedi darparu budd i'r cyhoedd yn ystod y flwyddyn. Teimlwn y dylai'r datganiad gadarnhau bod yr ymddiriedolwyr wedi ystyried ein canllawiau ar fudd cyhoeddus os oedd hynny'n berthnasol.
Gellid annog yr elusennau hyn i ddarparu datganiadau budd cyhoeddus llawnach yn wirfoddol yn Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a hefyd gallem gynnal asesiadau budd cyhoeddus o'r elusennau yn y band incwm hwn os teimlwn fod perygl nad ydynt yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Elusennau gydag incwm blynyddol o fwy na £500,000:
I elusennau sy'n fwy na'r trothwy archwilio newydd a gyflwynwyd gan y Ddeddf, cynigiwn ofyn i'r ymddiriedolwyr ddarparu esboniad llawnach yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr ynghylch sut mae eu helusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Teimlwn y dylai elusennau yn y band incwm hwn ddarparu esboniad mwy manwl o ddibenion yr elusen a sut y maent wedi darparu budd i'r cyhoedd yn ystod y flwyddyn.
Er enghraifft, yn achos elusennau sy'n codi ffioedd uchel ac nid yw'r budd cyhoeddus yn amlwg yn syth oherwydd lefel uchel y ffioedd a godir, un ffordd y gallent feintioli buddion cyhoeddus eu helusen fyddai asesu ac adrodd am werth (ariannol, cymdeithasol neu arall) y buddion a ddarparant, ochr yn ochr â gwerth y rhyddhad treth, neu fuddion eraill, a dderbyniant.
Teimlwn y dylai'r datganiad hefyd gadarnhau bod yr ymddiriedolwyr wedi ystyried ein canllawiau ar fudd cyhoeddus.
Hefyd, gallem gynnal asesiadau budd cyhoeddus o'r elusennau yn y band incwm hwn os teimlwn fod perygl nad ydynt yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Mae'r cynigion hyn yn cyfateb â'r egwyddor sefydledig o ofyn i elusennau sy'n ddarostyngedig i archwiliad am fwy o wybodaeth fanwl na'r rhai nad ydynt yn ddarostyngedig i archwiliad. Mae'r cynigion hyn yn dibynnu ar wneud y newidiadau angenrheidiol i Reoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2005 ('Rheoliadau 2005'). Byddai'n rhaid i'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet wneud y Rheoliadau hyn a byddant yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar wahân, yn ystod hanner cyntaf 2007.
Gwahoddwn sylwadau ar y cynnig hwn ac, yn arbennig, ar ein cynigion i ofyn i'r Gweinidog newid Rheoliadau 2005 er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol i elusennau ddarparu datganiad budd cyhoeddus yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr.
Yn amodol ar y newidiadau angenrheidiol i Reoliadau 2005, mae'n debygol y gellid gweithredu'r cynigion hyn ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu yn dechrau Hydref 2007 ymlaen, gyda'r set gyntaf lawn o ddata ar gael o ganol 2010.
Os nad yw elusennau unigol yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus bydd angen i ni weithredu ymhellach lle bo angen.
Os nad yw elusennau’n bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus ond gallant wneud hynny, gallem weithredu drwy gynorthwyo'r elusen i newid ei dibenion datganedig er mwyn iddi allu bodloni'r gofyniad hwn. Hefyd, gallem ddefnyddio ein pwerau rheoleiddio i orfodi newid os nad yw'r ymddiriedolwyr yn cydweithredu â ni.
Er enghraifft, gallem ddefnyddio ein pwerau i benodi ymddiriedolwyr newydd neu ddefnyddio ein pwerau newydd yn y Ddeddf Elusennau i roi cyfarwyddiadau i'r ymddiriedolwyr pan ddaw'r pwerau hyn i rym.
Fodd bynnag, rhagwelwn y gallai fod angen i ni wneud hyn mewn rhai achosion yn unig.
Mewn achosion eithriadol, os yw'r ymddiriedolwyr yn cydweithredu â ni ond nid yw'r sefydliad yn gallu darparu digon o fudd cyhoeddus, mae'n bosib y bydd angen i ni sicrhau bod unrhyw asedau elusennol y sefydliad yn cael eu cymhwyso yn y dyfodol at unrhyw ddibenion elusennol eraill sy'n agos i unrhyw ddiben nad yw'n darparu budd cyhoeddus digonol mwyach. Byddai hyn yn digwydd dim ond os nad oedd yn bosib i sefydliad fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.
Nid oes modd bod yn fwy penodol ar hyn o bryd ynghylch y camau y gallem eu cymryd. Bydd ein hymagwedd yn seiliedig ar ganlyniadau ein gwaith yn y dyfodol a fydd yn disgrifio sut y gall elusennau gyda dibenion arbennig fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus mewn cymdeithas fodern. Hefyd, bydd yn dibynnu ar y pwerau sydd gan elusen unigol yn ei dogfen lywodraethol i fynd i'r afael â'r materion ei hun.
Mae modd adolygu apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau, gan gynnwys penderfyniadau i wrthod cofrestru a phenderfyniadau i newid dibenion elusen, dan ein system adolygu penderfyniad mewnol, ac yna, gan y llysoedd. Yn dilyn sefydlu'r Tribiwnlys Elusennau, a gyflwynwyd gan y Ddeddf Elusennau yn 2008, gall ymddiriedolwyr elusennau apelio ymhellach yn erbyn ein penderfyniad i'r Tribiwnlys, pan fydd ein system adolygu penderfyniadau mewnol wedi'i chwblhau.
Cwestiynau'r ymgynghoriad:
Cw14. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynigion ar gyfer asesu budd cyhoeddus elusennau sy'n bod?
Cw15. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynigion ar gyfer sut y gallai elusennau o faint gwahanol adrodd am eu budd cyhoeddus? Yn arbennig, oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ein cynnig i ofyn i'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet newid Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2005 er mwyn gorfodi elusennau i ddarparu datganiad budd cyhoeddus yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr? Hefyd, croesawn sylwadau ar ffurf bosib y datganiad budd cyhoeddus syml i elusennau gydag incwm blynyddol o lai na £500,000, a'r datganiad budd cyhoeddus llawnach i elusennau gydag incwm blynyddol o fwy na £500,000.
Cw16. Oes unrhyw bryderon arbennig gennych am allu rhai mathau o elusennau i ddangos budd cyhoeddus, yng ngoleuni'r egwyddorion budd cyhoeddus a nodwyd yn y canllawiau drafft hyn? Os felly, beth yw'r pryderon hynny a sut ydych chi'n credu y gallwn eu datrys?
Cw17. Ydych chi'n credu y bydd ymddiriedolwyr elusennau a'r bobl sy'n sefydlu elusennau newydd yn ei chael hi'n anodd i ddeall a chymhwyso'r egwyddorion yn y canllawiau drafft i'w helusen er mwyn iddynt allu dangos eu bod yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus? Os na, pa newidiadau neu ganllawiau pellach ar yr egwyddorion ydych chi'n meddwl fyddai'n ddefnyddiol? Sylwch, byddwn yn darparu canllawiau pellach ar fudd cyhoeddus mathau penodol o elusennau yn dilyn ymgynghoriadau yn y dyfodol ar is-sectorau elusen penodol.
Mae nifer o adnoddau y gall ymddiriedolwyr elusennau a'u hymgynghorwyr eu defnyddio i'w helpu i ddeall a yw eu helusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus neu beidio.
Nid yw'r adran hon yn darparu rhestr derfynol o'r holl ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael, ond mae'n cynnig golwg gyffredinol dda a man cychwyn defnyddiol. Cewch fanylion am ffynonellau gwybodaeth eraill yn Cysylltiadau defnyddiol ar hafan ein gwefan.
Mae'r Comisiwn Elusennau yn cynhyrchu ystod eang o gyhoeddiadau ac arweiniad ar y wefan sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i ymddiriedolwyr elusennau a'r cyhoedd ar faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith elusennau, rheoleiddio ac arfer gorau.
Mae'r rhestr cyhoeddiadau lawn ar ein gwefan ac yn Cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau, ond mae'r rhestr isod yn ddetholiad yn seiliedig ar y materion a ymdrinnir yn y canllawiau drafft hyn.
Cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau:
RR1A Cydnabod Dibenion Elusennol Newydd
CC4 Elusennau i Roi Cymorth ar gyfer Caledi Ariannol
CC9 Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau
CC11 Talu Ymddiriedolwyr Elusennau
CC21 Cofrestru Elusen
Cyhoeddiadau ar y wefan:
Sylwadau ar y Disgrifiadau o Ddibenion Elusennol yn y Ddeddf Elusennau
I gael copïau o'r rhain neu unrhyw un o'n cyhoeddiadau gallwch:
Anogwn elusennau i fod yn ddyfeisgar o ran cael hyd i ffyrdd newydd a gwell o ddarparu budd i'r cyhoedd a lledaenu arfer da.
Ceisiwn ysgogi'r broses hon drwy sefydlu gyda rhannau gwahanol o'r sector elusennau beth a olygir wrth ledaenu arfer da yng nghyd-destun darparu budd cyhoeddus, rhoi cyhoeddusrwydd i hyn a galluogi elusennau unigol, lle bo'n briodol, i gymharu eu hunain â'i gilydd. Byddai hyn yn galluogi byrddau ymddiriedolwyr annibynnol sy'n gweithio mewn meysydd tebyg i rannu syniadau ynghylch sut y maen nhw, ac elusennau eraill, yn llwyddo. Byddai'r ymdrechion i wella sydd eisoes yn cael eu gwneud gan lawer yn cael eu harddangos yn fwy penodol a gallem fonitro cynnydd yr hyn a gyflawnwyd.
Gallem gyhoeddi canllawiau am yr hyn y mae budd cyhoeddus yn ei olygu ar gyfer mathau gwahanol o elusennau a gwneud astudiaethau ymchwil sy'n dangos i ba raddau y mae'r elusennau hyn yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Gallem annog cyrff proffesiynol ac is-sector i gyhoeddi adroddiadau cyfansawdd sy'n tynnu sylw at berfformiad eu helusennau arbennig, arddangos arfer da a beth yw'r 'norm' yn y sector. Ond rydym yn cydnabod y gall fod achosion pan fydd yn fwy priodol i'r Comisiwn Elusennau gynhyrchu'r rhain. Byddai hyn i gyd yn amodol ar ymgynghoriad yn y dyfodol.
Mae'r cyhoedd yn darparu cymorth sylweddol i elusennau. Felly, mae er lles ymddiriedolwyr elusennau i ystyried yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei feddwl am sut y mae elusennau'n darparu budd cyhoeddus.
Gofynnwyd i aelodau'r cyhoedd am eu barn ynghylch yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw o ran sut mae elusennau'n darparu budd i'r cyhoedd. Mae'r safbwyntiau hyn yn ffurfio'r sail i rai Safonau'r Dinesydd ar Fudd Cyhoeddus a amlinellir isod.
Fe welwch fanylion ynghylch sut y cynhyrchwyd Safonau'r Dinesydd ar Fudd Cyhoeddus yn yr adroddiad Beth mae'r cyhoedd yn meddwl yw budd cyhoeddus, a baratowyd ar gyfer y Comisiwn Elusennau gan Opinion Leader, ac ar gael ar ein gwefan.
Nid yw Safonau'r Dinesydd hyn yn ofyniad cyfreithiol i elusennau. Nid ydynt yn ffurfio rhan o ganllawiau drafft y Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus. Fodd bynnag, maent yn rhywbeth y teimlwn y gallai fod yn ddefnyddiol i elusennau eu hystyried. Maen nhw'n helpu rhoi rhyw syniad o ble y gallai elusennau ddangos mwy o atebolrwydd ac effeithiolrwydd yng nghyd-destun darparu budd i'r cyhoedd a fydd, yn ei dro, yn gallu helpu cynyddu ffydd a hyder y cyhoedd mewn elusennau. Felly, teimlwn y bydd hyn yn helpu hybu amcan statudol newydd y Comisiwn Elusennau sef 'cynyddu ffydd a hyder y cyhoedd mewn elusennau'.
Mae pum disgwyliad allweddol y mae aelodau'r cyhoedd wedi'u nodi sy'n greiddiol i fudd cyhoeddus elusennau:
1. Ymateb i angen
2. Gwella bywydau
3. Addysg a datblygiad
4. Meithrin teimlad o gymuned
5. Ystyried cenedlaethau'r dyfodol