Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Beth mae angen i elusennau ei gyflwyno i'r Comisiwn Elusennau y flwyddyn hon?

Cynnwys

Beth mae angen i ymddiriedolwyr ei gyflwyno i'r Comisiwn y flwyddyn hon?

Mae dros 70% o elusennau yn dewis cyflwyno eu ffurflen ar-lein. Rydym wedi cael llawer o adborth gan gwsmeriaid sydd wedi ffeilio ar-lein y flwyddyn ddiwethaf ac rydym yn adolygu'r gwasanaeth yn gyson er mwyn ei gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i'w ddefnyddio. I gychwyn bydd pob elusen yn cael ei gwahodd i gyflwyno ei dogfennau blynyddol ar-lein. Fel arall, gallwch ofyn am fersiwn papur o'r ffurflen ond ni fyddwn yn anfon ffurflenni papur atoch fel mater o arfer. Dylech ganiatáu hyd at 7 diwrnod i dderbyn eich ffurflen bapur.

Mae tair rhan i'r Ffurflen Flynyddol ei hun a bydd y rhannau y mae'n rhaid i chi eu cwblhau yn dibynnu ar incwm eich elusen yn y cyfnod ariannol rydych yn adrodd arno.

Er enghraifft,

  • Gofynnir i elusennau gydag incwm o £10,000 neu lai yn y cyfnod adrodd i gwblhau Diweddariad Blynyddol. Mae hwn yn gofyn am wybodaeth sy'n ffurfio rhan o gofnod yr elusen ar y Gofrestr, gan gynnwys manylion ymddiriedolwyr ac adran sy'n gofyn am eich ardal gweithredu. Er nad yw'n ofynnol i chi gwblhau Ffurflen Flynyddol, gofynnir i elusennau bach gwblhau'r Diweddariad Blynyddol fel ffordd dda o fodloni eu rhwymedigaeth gyfreithiol i ddiweddaru eu manylion ar y Gofrestr.
  • Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i elusennau sydd ag incwm rhwng £10,001 a £25,000 yn y cyfnod adrodd i gwblhau Ffurflen Flynyddol sy'n gofyn am wybodaeth hanfodol i ddiweddaru manylion yr elusen. Er bod rhwymedigaeth gyfreithiol ar ymddiriedolwyr yr elusennau llai hyn i gwblhau Ffurflen Flynyddol, rydym wedi ceisio cadw'r baich gweinyddol i'r lleiaf posibl. Y ffurflen y mae'n rhaid iddynt eu cwblhau yw Rhan A - Gwybodaeth am yr Elusen y Ffurflen Flynyddol, sy'n debyg o ran cynnwys i'r Diweddariad Blynyddol uchod.
  • Rhaid i elusennau gydag incwm rhwng £25,001 a £500,000 yn y cyfnod adrodd gwblhau Ffurflen Flynyddol sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol (Rhan A) a datganiad o rwymedigaeth gyfreithiol yr ymddiriedolwyr i adrodd am ddigwyddiadau difrifol i'r Comisiwn Elusennau. Mae natur digwyddiadau y gellir adrodd amdanynt a gwybodaeth ynghylch sut i'w hadrodd yn cael eu hesbonio'n llawn yn y canllawiau sy'n cyd-fynd â'r ffurflen bapur a'r tudalennau cymorth yn y ffurflen ar-lein. Wrth gwblhau'r datganiad ar ddiwedd y Ffurflen, bydd yr ymddiriedolwr sy'n llofnodi yn ardystio bod unrhyw ddigwyddiad o'r fath sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod wedi cael ei adrodd i'r Comisiwn Elusennau.
  • Bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i elusennau sydd ag incwm rhwng £500,001 a £1,000,000 yn y cyfnod adrodd i gwblhau Rhan A - Gwybodaeth am yr Elusen y Ffurflen Flynyddol (fel uchod) yn ogystal â Rhan B - Gwybodaeth Ariannol y Ffurflen Flynyddol sy'n cynnwys cyfres o gwestiynau am gyllid yr elusen. Gellir defnyddio'r wybodaeth a geir o'r cwestiynau hyn i adnabod tueddiadau yn yr adnoddau sydd ar gael, ac sy'n cael eu gwario, gan y sector elusennol. Dylai'r wybodaeth fod ar gael yn hawdd i elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Datganiad o Arferion Cymeradwy newydd (SORP 2005) er mwyn sicrhau nad yw'r cwestiynau yn ormodol o feichus. Yn ogystal bydd y ffurflen yn cynnwys datganiad o rwymedigaeth gyfreithiol yr ymddiriedolwyr i adrodd am ddigwyddiadau difrifol i'r Comisiwn Elusennau, y cyfeirir atynt uchod. Wrth gwblhau'r datganiad ar ddiwedd y Ffurflen, bydd yr ymddiriedolwr sy'n llofnodi yn ardystio bod unrhyw ddigwyddiad o'r fath sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod wedi cael ei adrodd i'r Comisiwn Elusennau.
  • Rhaid i elusennau gydag incwm o fwy na £1,000,000 yn y cyfnod ariannol gwblhau Rhan A - Gwybodaeth am yr Elusen, Rhan B - Gwybodaeth Ariannol, a'r adran Adrodd am Ddigwyddiadau Difrifol yn ogystal â Rhan C - Ffurflen Gwybodaeth Gryno (SIR).

Bydd newid diweddar yn y gyfraith elusennau yn gwneud bywyd yn haws i'r elusennau hynny sydd â diwedd blwyddyn ariannol ar neu ar ôl 01 Ebrill 2009. Gweler y tablau canlynol i weld pa ddogfennaeth flynyddol y mae'n ofynnol i'ch elusen ei chyflwyno.

Elusennau gyda diwedd blwyddyn ariannol sy'n diweddu ar neu cyn 31 Mawrth 2009

Ffurflen Flynyddol 2009 - Crynodeb o'r Gofynion

Incwm yn y cyfnod ariannol dan sylw
Diweddariad Blynyddol/Rhan A (ar-lein/ffurflen bapur)
Ffurflen Flynyddol/Rhan A (ar-lein/ffurflen bapur)
Adrodd am Ddigwyddiadau Difrifol - Datganiad (ar-lein a ffurflen bapur)
Gwybodaeth Ariannol//Rhan B (ar-lein/ffurflen bapur)
Ffurflen Gwybodaeth Gryno (ar-lein/ffurflen bapur)
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a Chyfrifon
£10K neu lai
Delwedd o dic
>£10K - £25K
Delwedd o dic
Delwedd o dic
Delwedd o dic
>£25K - £500K
Delwedd o dic
Delwedd o dic
Delwedd o dic
>£500K - £1M
Delwedd o dic
Delwedd o dic
Delwedd o dic
Delwedd o dic
>£1m
Delwedd o dic
Delwedd o dic
Delwedd o dic
Delwedd o dic
Delwedd o dic

Elusennau gyda diwedd blwyddyn ariannol sy'n diweddu ar neu ar ôl 01 Ebrill 2009

Ffurflen Flynyddol 2009 - Crynodeb o'r Gofynion

Incwm yn y cyfnod ariannol dan sylw
Diweddariad Blynyddol/Rhan A (ar-lein/ffurflen bapur)
Ffurflen Flynyddol/Rhan A (ar-lein/ffurflen bapur)
Adrodd am Ddigwyddiadau Difrifol - Datganiad (ar-lein a ffurflen bapur)
Gwybodaeth Ariannol//Rhan B (ar-lein/ffurflen bapur)
Ffurflen Gwybodaeth Gryno (ar-lein/ffurflen bapur)
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a Chyfrifon
£10K neu lai
Delwedd o dic
>£10K - £25K
Delwedd o dic
Delwedd o dic
>£25K - £500K
Delwedd o dic
Delwedd o dic
Delwedd o dic
>£500K - £1M
Delwedd o dic
Delwedd o dic
Delwedd o dic
Delwedd o dic
>£1m
Delwedd o dic
Delwedd o dic
Delwedd o dic
Delwedd o dic
Delwedd o dic

Beth am gyfrifon yr elusen?

Mae'r gyfraith elusennau wedi newid yn ddiweddar felly mae'r gofynion yn wahanol yn dibynnu ar ddyddiad diwedd eich cyfnod adrodd.

Rhaid i elusennau gyda chyfnod ariannol sy'n diweddu ar neu cyn 31 Mawrth 2009 gydag incwm sy'n fwy na £10,000 gyflwyno eu Hadroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon i'r Comisiwn. Hefyd dylai'r cyfrifon gynnwys unrhyw adroddiad angenrheidiol yr archwiliwr annibynnol neu archwiliwr ariannol.

Rhaid i elusennau gyda chyfnod ariannol sy'n diweddu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009 gydag incwm sy'n fwy na £25,000 anfon eu Hadroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon i'r Comisiwn. Hefyd dylai'r cyfrifon gynnwys unrhyw adroddiad angenrheidiol yr archwiliwr annibynnol neu archwiliwr ariannol.

Rhaid i bob elusen - hyd yn oed y rhai sy'n is na'r trothwyon ariannol a nodwyd uchod - baratoi cyfrifon a sicrhau eu bod ar gael i'r Comisiwn ar gais.

Mae mwy o gyngor manwl ar ofynion cyfrifyddu i'w weld ar ein Tudalen Cyfrifon Elusennau.

Cofiwch, gallwch anfon copi o gyfrifon eich elusen ac Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr atom trwy ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein diogel.

Pryd mae angen i ymddiriedolwyr gyflwyno eu dogfennau?

Rhaid cwblhau'r Ffurflenni Blynyddol, Ffurflenni Gwybodaeth Gryno, Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon cyn pen 10 mis o ddiwedd blwyddyn ariannol yr elusen. Dyma yw'r dyddiad cau statudol, ond ceisiwn annog elusennau i ffeilio eu dogfennau gyda ni cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

Anogir elusennau gydag incwm o £10,000 neu lai i gwblhau eu ffurflen a'i hanfon atom cyn gynted â phosibl.

Bydd y cyfnod 10 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol bob amser yn gorffen ar yr un dyddiad yn y mis perthnasol. Mae hyn yn golygu bod gan elusen gyda diwedd blwyddyn ariannol ar 30 Medi tan hanner nos ar 30 Gorffennaf y flwyddyn ganlynol i gyflwyno ei Ffurflen Flynyddol a chyfrifon, nid 31 Gorffennaf. Os nad oes unrhyw ddyddiad cyfatebol yn y mis perthnasol, bydd diwrnod olaf y mis yn gymwys. Er enghraifft, os mai 30 Ebrill yw diwedd blwyddyn ariannol yr elusen, bydd ganddi tan hanner nos ar 28/29 Chwefror y flwyddyn ganlynol i gyflwyno ei dogfennau.

Ble i fynd am fwy o gymorth?

I gael cymorth a chyngor ar gwblhau'r Ffurflen Flynyddol/Diweddariad Blynyddol, adran Adrodd am Ddigwyddiadau Difrifol neu Ffurflen Gwybodaeth Gryno, ffoniwch y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 218. Mae cynghorwyr ar gael i ateb eich ymholiadau rhwng 8am - 8pm, Llun - Gwener a rhwng 9am - 1pm ar ddydd Sadwrn (ac eithrio gwyliau banc). Mae gwasanaeth Ffôn Testun gennym hefyd ar 0845 3000 219 i alwyr sydd â nam ar y clyw neu'r lleferydd.

Cwestiynau Cyffredin

Mae'r atebion i rai cwestiynau cyffredin arall i'w gweld ar ein gwefan.