Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Gorffennaf 2008
Am fersiwn lliw llawn o'r ddogfen hon, gan gynnwys graffeg, dewiswch y fersiwn PDF Saesneg .
Mae'r Comisiwn Elusennau wedi'i sefydlu gan y gyfraith fel y rheolydd a'r cofrestrydd annibynnol ar gyfer elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ein nod yw darparu'r rheoleiddio gorau posibl ar gyfer elusennau yng Nghymru a Lloegr, er mwyn cynyddu effeithiolrwydd elusennau a ffydd a hyder y cyhoedd ynddynt.
Amcanion y Comisiwn, sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Elusennau 2006, yw:
Mae'r Comisiwn yn adran anweinidogol o'r llywodraeth sy'n gweithredu'n annibynnol. Mae Deddf Elusennau 2006 yn gwahardd yn benodol ymarfer unrhyw swyddogaeth y Comisiwn sy'n amodol ar gyfarwyddyd neu reolaeth unrhyw Weinidog neu unrhyw adran arall o'r llywodraeth. Rydym yn rheoleiddio mwy na 190,000 o elusennau cofrestredig. Hefyd mae tua 100,000 o elusennau digofrestredig eraill sy'n gweithredu o dan wahanol raddfeydd o reoleiddio a/neu gymorth gan y Comisiwn. Mae gwybodaeth bellach am ein rôl, cyfrifoldebau a sut mae'r Comisiwn yn cyflawni ei waith ar gael ar wefan y Comisiwn.
Mae'r Comisiwn yn mabwysiadu ymagwedd seiliedig ar risg ac ymagwedd gymesur at reoleiddio. Mae hyn yn golygu ein bod yn ymgysylltu ag elusennau mewn ffordd a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddyn nhw ac i'r rhai sy'n cael budd ganddynt. Fel rheolydd modern, mae ymagwedd y Comisiwn yn pwysleisio rhoi cymorth ac arweiniad a hybu arfer gorau yn ogystal â sicrhau bod elusennau'n cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol. Ceisiwn annog a chefnogi elusennau i wella eu perfformiad trwy weithio mewn partneriaeth â nhw a gyda grwpiau mantell, gan helpu i ddiffinio a hwyluso arfer gorau a rhannu'r wybodaeth hon yn eang. Rhown bwyslais ar alluogi elusennau i gael yr effaith fwyaf ac annog arloesi, effeithiolrwydd a chydweithio ar draws y sector.
Mae Cymru a Lloegr wedi elwa o gael sector elusennol cryf a bywiog ers cannoedd o flynyddoedd. Mae elusennau'n bodoli i greu cymdeithas well ac maen nhw'n gweithredu am amryw helaeth o ddibenion mewn sawl ffordd wahanol. Mae gan y 190,000 o elusennau sydd wedi cofrestru gyda'r Comisiwn incwm blynyddol o fwy na £40 biliwn ac asedau o £70 biliwn pellach, mwy na 600,000 o aelodau staff cyflogedig a 925,000 o swyddi ymddiriedolwyr. Mae'r sector elusennol yn amrywiol ac yn estyn o neuaddau pentref lleol i sefydliadau celf cenedlaethol i elusennau lleddfu effeithiau trychineb rhyngwladol. Mae pob un o'r sefydliadau hyn wedi'u huno gan ymrwymiad i weithredu'n wirfoddol ac awydd i wneud y byd yn lle gwell. Mae elusennau'n darparu mecanweithiau ar gyfer dadlau adeiladol a gweithredu cymdeithasol er mwyn adeiladu cymdeithas sifil gryf. Mae hwn yn amddiffyniad pwysig yn erbyn eithafiaeth. Mae elusennau'n gwneud cyfraniad hollbwysig i gymdeithas a'r economi cenedlaethol, yn ogystal â chael effaith ehangach o amgylch y byd sy'n mynd i'r afael â nifer o achosion sylfaenol dadrithiad a all arwain pobl at droi i eithafiaeth neu derfysgaeth.
Mae'r sector yn cael mwy na dim ond effaith ddomestig. Bydd elusennau rhyngwladol yn aml yn gweithio mewn ardaloedd o risg uchel, lle y gall fod yr angen mwyaf. Gall elusennau gyrraedd y lleoedd a'r cymunedau anodd eu cyrraedd hynny na all y llywodraeth eu cyrraedd yn aml. Gallant weithio i rymuso pobl leol i wella atebolrwydd eu llywodraethau eu hunain; maent yn darparu gwasanaethau hanfodol mewn amgylchiadau eithafol a gwael; ac mae eu gwybodaeth o faterion lleol yn aml yn well na'r hyn sydd gan gyrff cyhoeddus neu breifat oherwydd eu bod yn agos at bobl a materion lleol.
Mae'r Comisiwn yn cydnabod pwysigrwydd sector iach, atebol ac annibynnol dramor. Mae rôl barhaus, bwysig gan Raglen Ryngwladol y Comisiwn1 o ran helpu creu hyn drwy gefnogi datblygu rheoleiddio lleol effeithiol.
Y ddogfen hon yw strategaeth y Comisiwn ar gyfer darparu ei ymateb rheoleiddio i'r bygythiad o gamddefnydd gan derfysgwyr yn y sector elusennol. Mae'n cyflwyno ein hymagwedd gyffredinol ac yn nodi ein nodau i'r dyfodol. Mae'r strategaeth yn adeiladu ar ein gwaith a'n harbenigedd presennol yn y maes hwn ac yn cymhwyso ein hegwyddorion rheoleiddio cyffredinol yn ogystal â'n fframwaith risg a chymesuredd ar gyfer gwaith cydymffurfio. Nid yw'r risg o ecsploetio gan derfysgwyr yr un mor gymwys ar draws y sector ac nid yw'r ymagwedd 'un maint yn addas i bawb' yn briodol nac yn gymesur. Mae ein strategaeth a'n hymagwedd yn adlewyrchu hyn. Mae ymagwedd bedwar llinyn i'r strategaeth, a nodir yn fwy manwl yn adran Dd, gan gynnwys: Ymwybyddiaeth, Arolygu, Cydweithredu, Ymyrryd.
Mae ymagwedd bresennol y Comisiwn at reoleiddio yn darparu cyd-destun pwysig ar gyfer ein strategaeth. Bydd y Comisiwn yn parhau i:
Y ffactorau allweddol sy'n berthnasol i'n strategaeth ar gyfer diogelu'r sector rhag camdriniaeth gan derfysgwyr yw:
Mae'r Comisiwn yn credu'n gryf bod ei lwyddiant fel rheolydd sifil elusennau wedi'i seilio i raddau helaeth ar y parch a'r ffydd sydd gan y cyhoedd a'r elusennau eu hunain ynddo. Nid oes modd gorbrisio'r ffydd hon; mae'n un o'r manteision rheoleiddio mwyaf effeithiol rydym yn dibynnu arno.
Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i gydymffurfio â'i ddyletswydd i ystyried egwyddorion arferion rheoleiddio gorau gan gynnwys gweithgareddau sy'n gymesur, atebol, cyson, tryloyw ac wedi'u targedu dim ond ar yr achosion lle mae angen gweithredu. Ystyr cymesur yw nid yn unig cymryd camau sy'n gymesur â'r risg o niwed ond hefyd ystyried pa ddewisiadau eraill sydd ar gyfer cael yr un canlyniad sy'n golygu llai o ymyrryd.
Fel corff cyhoeddus, mae'r Comisiwn yn ymwybodol o'i ddyletswydd i weithredu'n gyson â Deddf Hawliau Dynol 2000, a hybu cysylltiadau hiliol da o dan Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976 fel y'i diwygiwyd.
Mae terfysgaeth yn fygythiad difrifol a pharhaus i gymdeithas y DU, buddiannau'r DU dramor a'r gymuned ryngwladol ehangach. Mae'r bygythiad hwn yn berthnasol i'r sector elusennol lawn gymaint ag unrhyw sector arall.
Ni wyddys gwir raddfa'r cronfeydd elusennol sy'n cael eu gwyro at ddibenion terfysgaeth, cysylltiadau elusennau â gweithgareddau terfysgwyr a chamddefnydd arall ond, fel y cydnabu Adolygiad y Swyddfa Gartref, "mae'r achosion gwirioneddol o gamddefnydd yn brin iawn". Mae ein profiad ein hunain yn awgrymu mai bach iawn yw nifer yr achosion lle mae tystiolaeth i brofi bod elusennau wedi ymwneud yn uniongyrchol, yn anuniongyrchol, yn fwriadol neu heb ymwybod â chefnogi gweithgareddau terfysgwyr. Fodd bynnag, mae camddefnydd o'r fath yn hollol annerbyniol, a gallai effaith hyd yn oed un achos a brofwyd sy'n cynnwys elusen fod yn arwyddocaol o ran ffydd a hyder y cyhoedd yn yr elusen honno ac yn y sector yn gyffredinol.
Buom bob amser yn effro i'r risg o gysylltiadau posibl rhwng elusennau a sefydliadau terfysgwyr a phobl sy'n gysylltiedig â nhw. Mae cymdeithas yn gwerthfawrogi elusennau’n fawr am sawl rheswm sydd hefyd yn gallu eu gwneud yn agored i gamddefnydd diegwyddor. Mae elusennau yn:
Hefyd, mae elusennau yn destun i wahanol lefelau rheoleiddio mewn gwahanol rannau o'r byd, a lefelau gwannach mewn rhai achosion.
Am bob un o'r rhesymau hyn, gall terfysgwyr geisio ecsploetio a llygru elusennau at eu dibenion eu hunain.
Hefyd, cydnabyddwn fod pob rhan o economi'r DU, yn arbennig y sector ariannol, yn tynhau eu mesurau diogelu ac yn cryfhau eu hamddiffyniad yn erbyn camddefnydd gan derfysgwyr. Wrth i lwybrau i derfysgwyr ecsploetio yn y sectorau hyn gau, mae risg cynyddol o hoelio sylw ar sectorau eraill, gan gynnwys y sector elusennol. Mae hyn yn cynyddu'r bygythiad i'r sector. Mae angen clir i'r Comisiwn gefnogi elusennau yn y gwaith parhaus i fod yn fwy gwyliadwrus a chynyddu eu harferion asesu a rheoli risg, yn arbennig i elusennau sy'n gweithio'n rhyngwladol mewn ardaloedd risg uchel y byd.
Cydnabyddir bod angen i'r llywodraeth a'r Comisiwn ddeall yn well natur a graddfa'r bygythiad i elusennau gan derfysgwyr. Mae dadansoddiad pellach o'r risgiau penodol a wyneba elusennau a phryd y maent yn fwyaf agored i niwed yn hanfodol o ran cynorthwyo elusennau i ddiogelu eu hunain rhag camddefnydd. Bydd y Comisiwn, mewn partneriaeth â'r sector ac asiantaethau eraill y llywodraeth, yn ceisio darparu mwy o eglurder ar hyn. Mae profiad sylweddol ac eang gennym o'n gwaith achos cydymffurfio yn y maes hwn y byddwn yn ei ddadansoddi ac yn ei ddefnyddio, a byddwn yn ei gysylltu â'r wybodaeth arbenigol o fewn y sector a'r gymuned wrthderfysgaeth. Byddwn yn ailasesu ein strategaethau wrth i ni wybod mwy am natur y bygythiad a'r risg i elusennau.
Rydym mewn safle unigryw i gyfrannu at ddiogelu elusennau rhag cael eu camddefnyddio gan derfysgwyr, ac yn cryfhau'r mesurau diogelu i gadw i'r lleiaf posibl y risg a wynebant rhag cael eu camddefnyddio gan derfysgwyr. Mae rôl glir gennym i'w chwarae o ran cymryd camau rheoleiddio yn annibynnol ac, os yw'n briodol, mewn cydweithrediad â gwaith asiantaethau gorfodi'r gyfraith sy'n delio ag agweddau troseddol ar y camddefnydd hwnnw. Rydym mewn safle da i gysylltu â nhw, a gyda rheolyddion ac asiantaethau eraill, a rhannau eraill o'r llywodraeth a chefnogi ymddiriedolwyr eu hunain i ddiogelu eu helusennau rhag cael eu camddefnyddio. Mae'r safle hwn yn deillio'n bennaf o'n:
Mae'r ffordd yr awn ati i ddelio â'r bygythiad i elusennau gan derfysgwyr yn cyfateb â'n hymagwedd bresennol at reoleiddio. Gweithredwn yn gadarn, yn gyflym ac yn benderfynol mewn achos o drosedd fwriadol, troseddoldeb a chamddefnydd difrifol, gan gynnwys camddefnydd gan derfysgwyr, neu os oes risg y gall camddefnydd ddigwydd. Mae rheoleiddio effeithiol yn rhoi pwyslais cryf ar roi cymorth ac arweiniad i elusennau, gan helpu i adnabod arferion gorau - mewn partneriaeth â'r sector - a gwneud elusennau yn ymwybodol o'r safonau y dylent anelu atynt. Mae hyn yn atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf ac yn lleihau'r angen i ni ymyrryd yn ddiweddarach.
Mae effeithiolrwydd ein hymagwedd yn dibynnu ar gael y cydbwysedd cywir rhwng darparu cyngor ac arweiniad ac, os oes angen, ymyrryd ar sail tystiolaeth a chymesuredd. Ceisiwn reoleiddio mewn ffordd sy'n ymdrin yn effeithiol â chamddefnydd a risg gan leihau'r baich rheoleiddio a, chyn belled â phosibl, galluogi arian i lifo ar gyfer gweithgarwch elusennol cyfreithlon.
Mae'n bwysig bod y Comisiwn a'r llywodraeth yn gweithio'n galed i sicrhau nad un o ganlyniadau gymryd mwy o gamau i atal risg o gamddefnydd yw atal elusennau cyfreithlon, sy'n gweithredu o fewn y gyfraith, rhag gwneud gwaith gwerthfawr. Gallai hyn niweidio cymorth rhyngwladol mewn ardaloedd o risg uchel a byddai'n cael effaith negyddol ar fuddiolwyr. Mae angen dyngarol mawr yn bodoli'n aml yn yr ardaloedd hynny lle mae gwrthdaro neu lle y tybir bod grwpiau o derfysgwyr, neu'r rhai sy'n gysylltiedig â nhw, yn gweithredu. Byddai'n hollol annymunol pe byddai canlyniad anfwriadol strategaeth wrthderfysgaeth yn ei gwneud hi'n amhosib i elusennau cymorth dramor cyfreithlon ymwneud â darparu cymorth, neu ei gwneud hi'n amhosib i unrhyw elusen ddarparu cymorth mewn rhannau arbennig o'r byd. Mae hon yn her anodd a chymhleth i elusennau, y Comisiwn a'r llywodraeth.
Cydnabyddwn fod nifer o elusennau yn wynebu cyfyng-gyngor arbennig o heriol pan fyddant yn gweithredu mewn ardaloedd penodol o'r byd. Gall cyd-destunau gwleidyddol a chyfreithiol gymhlethu materion a gall sefydliadau yr ystyrir eu bod yn sefydliadau terfysgwyr, neu sy'n gysylltiedig â therfysgwyr, gael dylanwad neu reolaeth arwyddocaol mewn rhai ardaloedd; er enghraifft, yn y cyd-destunau gwahanol ac anodd yn Sri Lanka a Thiriogaethau Meddianedig Palestina. Mae hyn wedi'i gymhlethu ymhellach gan y safbwyntiau gwahanol a gymerir gan aelodau o'r gymuned ryngwladol at rai sefydliadau, sydd yn aml yn gosod amodau amrywiol ar y cymorth y maent yn ei roi i'r ardaloedd hyn. Mae angen cymorth ar elusennau i weld sut y gallant ddatrys yr anawsterau ymarferol a wynebant wrth gyflawni eu gwaith yn yr ardaloedd hyn, ac ar yr un pryd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith ac nid ydynt yn cefnogi terfysgwyr yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r llywodraeth a'r sector i egluro sut y gall cymorth dyngarol barhau mewn ardaloedd o'r fath ac aros o fewn y gyfraith yr un pryd.
Hefyd, rhaid i ni fod yn effro i'r risg anfwriadol y gall baich rheoleiddio uwch annog rhoi arian i sefydliadau digofrestredig neu i eraill dramor ac felly y tu hwnt i gwmpas rheoleiddio'r Comisiwn.
Gall y Comisiwn wneud cyfraniad arbennig o bwysig i ymdrin â'r bygythiad i elusennau gan derfysgwyr trwy roi pwyslais ar atal. Credwn y byddwn yn cael yr effaith fwyaf ar gadw i'r lleiaf posibl y risg i'r sector o fod yn agored i gamddefnydd gan derfysgwyr trwy annog a chefnogi datblygu dulliau llywodraethu cadarn, atebol a thryloyw o fewn elusennau, a pholisïau a gweithdrefnau rheolaeth ariannol a rheoli risg cyffredinol da. Bwriadwn feithrin mwy o ymwybyddiaeth o'r risgiau a wyneba elusennau gan derfysgwyr a hybu'r camau y dylid eu cymryd i gadw'r risgiau i'r lleiaf posibl ac arwain at atal a chanfod camddefnydd gan derfysgwyr yn gynnar. Byddwn yn hybu ymwybyddiaeth o risgiau a chyfrifoldebau a'r wybodaeth gan ymddiriedolwyr elusen o'r hyn i'w wneud os a phryd y mae amheuon yn codi. Byddwn yn disgwyl i bob elusen reoli risg yn effeithiol a chryfhau mesurau diogelu yn erbyn pob math o gamddefnydd, gan gynnwys camddefnydd gan derfysgwyr.
Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i gefnogi gwaith i ddatblygu strategaethau a gweithdrefnau effeithiol ar gyfer atal a delio â risgiau o elusennau yn cael eu camddefnyddio gan derfysgwyr. Er enghraifft, byddwn yn gweithio i ddiffinio’r egwyddor 'gwybod eich buddiolwr' ac yn nodi sut y disgwylir iddi gael ei chymhwyso gan elusennau. Cydnabyddwn fod gan nifer o elusennau, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio dramor mewn ardaloedd risg uchel, safonau da mewn lle eisoes i gadw i'r lleiaf posibl y risgiau o gamddefnydd gan derfysgwyr a llawer iawn o brofiad mewn gweithio mewn amgylcheddau gweithredu cymhleth. Hefyd, byddwn yn defnyddio ein profiad gwaith achos gweithredol helaeth wrth ddatblygu canllawiau a chyngor. Rydym yn mwynhau perthynas weithio da gyda'r sector ac yn ceisio datblygu'r berthynas hon ymhellach er mwyn adeiladu ar fesurau diogelu sy'n bod a hwyluso adnabod a rhannu arferion gorau presennol.
Mae elusennau'n gweithredu yn ôl darpariaethau deddfwriaeth wrthderfysgaeth y DU a'r rhwymedigaethau sy'n deillio ohonynt. Bydd y Comisiwn yn cydweithio â'r llywodraeth i ddarparu canllawiau clir ar rwymedigaethau cyfreithiol elusennau o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000 a deddfwriaeth sancsiynau ariannol eraill.
Yn ogystal â sicrhau bod elusennau’n ymwybodol o'u rhwymedigaethau cyfreithiol, bydd ychwanegu gwerth at waith elusennau a gwella dealltwriaeth y cyhoedd yn sbardunau pwysig i'r Comisiwn wrth gynhyrchu canllawiau newydd neu ddiwygiedig. Byddwn yn parhau i wahaniaethu rhwng yr hyn y mae'n 'rhaid' i elusennau ei wneud yn ôl gofynion cyfreithiol a'r hyn y 'dylent' ei wneud i fodloni safonau arferion da cyffredin. Cydnabyddwn bwysigrwydd bod yn glir ynghylch y gwahaniaeth hwn mewn unrhyw ganllaw a gynhyrchiwn.
Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth er mwyn cydlynu'n fwy effeithiol â rheolyddion eraill ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith yn y DU ac yn rhyngwladol er mwyn atal ac amharu ar gamddefnydd ariannol gan derfysgwyr. Mewn rhai achosion, byddwn yn y sefyllfa orau i gymryd yr awenau o ran amharu ar gamddefnyddio elusennau gan derfysgwyr trwy ein gweithrediadau cydymffurfio a thrwy ddefnyddio ein pwerau rheoleiddio sifil. Mewn achosion eraill, gallwn helpu sicrhau bod asiantaethau eraill yn deall y sector yn well pan fyddant yn ymchwilio i'r camddefnydd sy'n gysylltiedig ag ef. Hefyd, gallwn ddefnyddio ein gwybodaeth o'r sector elusennol i ddarparu gwybodaeth a dadansoddiad o dueddiadau a'r risgiau sy'n wynebu'r sector, ac ategu'r wybodaeth a'r dadansoddiad a wnaed gan y sector ei hun mewn perthynas â'r bygythiad gan derfysgwyr.
Mae'n rhaid i elusennau gydymffurfio â'r gyfraith. Pan fydd ymddiriedolwyr yn gweithredu'n rhesymol ac yn onest ymatebwn yn hyblyg a byddwn yn ystyried hyn wrth benderfynu p'un ai i gymryd unrhyw gamau rheoleiddio yn erbyn ymddiriedolwyr, ac wrth asesu sut i gefnogi ymddiriedolwyr i roi'r elusen yn ôl ar sylfaen gadarn. Bydd trosedd fwriadol, troseddoldeb a chamddefnydd difrifol, gan gynnwys camddefnydd gan derfysgwyr, yn cael ei drin yn gadarn ac yn benderfynol yn seiliedig ar y dystiolaeth a thargedu craidd y camddefnydd. Lle'n bosibl, byddwn yn sicrhau y gall gweithgarwch elusennol cyfreithlon barhau yn ystod ymchwiliad ac ar ôl hynny. Rhaid i gamau rheoleiddio sy'n atal llif cronfeydd gael ei gyfiawnhau gan dystiolaeth bod hyn yn gam angenrheidiol a phriodol i'w gymryd. Felly mae swyddogaeth cydymffurfio a gorfodi effeithiol yn y Comisiwn yn hollbwysig.
Mae swyddogaeth Cydymffurfio a Chymorth y Comisiwn yn gyfrifol am gyflawni ein 'hamcan cydymffurfio' gan gynnwys gwaith rheoleiddio gydag elusennau os yw eu hasedau, eu gwasanaethau neu eu buddiolwyr mewn perygl difrifol o gael eu camddefnyddio neu eu niweidio. Mae hyn yn cynnwys risgiau i enw da elusennau unigol a, thrwy estyniad, pryderon am hyder cyhoeddus mewn elusennau yn gyffredinol a rheoleiddio'r sector yn effeithiol. Ei swyddogaeth yw adnabod ac ymchwilio i gamddefnydd neu gamreoli ymddangosiadol yng ngweinyddiad elusennau a datrys yr anawsterau a wynebir, naill ai drwy roi cymorth i ymddiriedolwyr neu, os oes angen, ymyrryd i ddiogelu'r elusen drwy ddefnyddio pwerau cyfreithiol y Comisiwn. Mae swyddogaeth Cydymffurfio'r Comisiwn hefyd yn lledaenu'r gwersi a ddysgwyd gan brofiad gwaith achos i'r sector ac i'r cyhoedd er mwyn hybu arfer da a chadw'r risg i'r lleiaf posibl.
Fel rhan o ymagwedd seiliedig ar risg a chymesur at reoleiddio, rydym wedi datblygu fframwaith risg a chymesuredd ar gyfer ein gwaith cydymffurfio. Mae hyn yn sicrhau bod ein penderfyniadau a'n gweithrediadau yn briodol ac yn gyson, a bod ein hadnoddau wedi'u targedu lle y gallwn gael yr effaith fwyaf. Mae ein hymagwedd yn cydnabod na allwn ddileu neu geisio rheoli'r holl risgiau fel rheolydd. Nid yw'r gallu gennym i wneud hynny. Hefyd, byddai'n rhoi baich rheoleiddio annerbyniol ar elusennau a byddai'n amharu ar yr arloesi a'r gallu i addasu sy'n nodweddu'r sector. Mae ein hymagwedd yn cynnig modd i ni reoleiddio mewn model effeithiol, amserol, cymesur ac wedi'i dargedu. Mae'n sicrhau bod ein hymyrraeth yn briodol, a'i fod yn adlewyrchu'n briodol ddifrifoldeb y broblem ac effaith bosibl methu â'i rheoleiddio. Yn ogystal, mae'n cynnig modd i ni adnabod, yn gynnar yn y broses, elusennau a allai fod yn wynebu problemau a rhoi cymorth neu gyngor iddynt leddfu neu osgoi'r problemau hynny - symud o waith hachos adweithiol i waith achos rhagweithiol. Byddwn yn mabwysiadu ymagwedd seiliedig ar dystiolaeth at werthuso parhaus ac yn ymchwilio i sut y mae problemau difrifol yn codi mewn elusennau, lle mae'r risgiau cyfredol yn codi, a'r tueddiadau sy'n dod i'r amlwg a'r newidiadau i'r risgiau hynny.
Wrth asesu p'un ai i ymyrryd a pha mor gyflym i wneud hynny, mae'r Comisiwn yn mabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar lefelau goddefgarwch ac mae'n adnabod nifer o faterion "dim goddefgarwch". Os oes pryderon gennym fod materion o'r fath neu y gall materion o'r fath godi mewn elusen, cânt sylw uniongyrchol gan swyddogaeth Cydymffurfio a Chymorth oherwydd y risgiau sy'n codi i'r cyhoedd, buddiolwyr ac unplygrwydd ac enw da elusennau. Drwy ddefnyddio ein fframwaith risg a chymesuredd rydym yn asesu'n gyflym y camau mwyaf priodol a chymesur i'w cymryd. Mae hyn yn golygu ein bod yn penderfynu a fyddwn yn ymwneud rhagor â'r mater, lefel y flaenoriaeth a sylw y byddwn yn ei rhoi a pha adran o'r Comisiwn fydd yn delio â'r mater. Bydd unrhyw weithredu yn dibynnu ar yr amgylchiadau arbennig, difrifoldeb a graddfa'r broblem, a'r dystiolaeth sydd ar gael. Pan fydd materion "dim goddefgarwch" yn codi neu wedi codi, nid yw'n golygu'n awtomatig y byddwn yn ymyrryd trwy ddefnyddio ein pwerau mewn materion neu weinyddiaeth elusen. Yng nghyd-destun ein hymateb i'r Adolygiad, y materion "dim goddefgarwch" perthnasol yw:
Bydd y materion hyn yn destun adolygu ac addasu.
Pan fydd elusennau, neu'r rhai sy'n ymwneud â nhw, wedi cyflawni tramgwydd troseddol mae hwn yn fater i'r asiantaethau gorfodi'r gyfraith a byddwn yn cyfeirio amheuon o weithgareddau troseddol, gan gynnwys terfysgaeth, iddynt fel y bo'n briodol. Mae hyn yn unol â'n hymagwedd gyffredinol at faterion o droseddoldeb o fewn elusennau, neu sy'n gysylltiedig ag elusennau.
Amcan cyffredinol strategaeth wrthderfysgaeth y Comisiwn yw:
"Adnabod, tarfu ar ac atal terfysgaeth a chamddefnydd difrifol arall o'r sector elusennol. Gwnawn hyn ein hunain a thrwy gydweithredu ag asiantaethau perthnasol eraill trwy:
Mae ymagwedd bedwar llinyn i'r strategaeth ar gyfer adnabod a chadw i'r lleiaf posibl y risg o ecsploetio gan derfysgwyr mewn elusennau. Mae hyn yn adlewyrchu cydbwysedd rhwng cymorth ac arweiniad, atal ac ymyrryd. Byddwn yn parhau i adeiladu a chryfhau ein gwaith cydymffurfio a datblygu arbenigedd yn y maes hwn. Yn arbennig, byddwn yn cyfnerthu ein cysylltiadau gweithio â rheolyddion eraill a'r asiantaethau gorfodi'r gyfraith gan gynnal ein hannibyniaeth. Yn ogystal, byddwn yn ceisio monitro'n rhagweithiol y maes risg uchel hwn gan geisio ymyrryd yn gynnar, yn enwedig pan na fydd arweiniad yn cael ei ddilyn ac nid yw gofynion yn cael eu bodloni. Byddwn yn rhoi pwyslais mawr ar waith atal, gan geisio egluro gofynion cyfreithiol a chefnogi ac adeiladu arferion gorau trwy gydweithio a gweithio mewn partneriaeth â'r sector. Y pedwar llinyn yw:
Byddwn yn cydweithio'n agos â'r sector er mwyn adeiladu ar fesurau diogelu presennol elusennau i gadw i'r lleiaf posibl y risg o gamddefnydd gan derfysgwyr. Byddwn yn ceisio:
darparu cyngor ac arweiniad wedi'u diweddaru gan gynnwys: ein Canllaw Gweithredol ar Elusennau a Therfysgaeth (OG96) a'n canllaw ar Elusennau sy'n Gweithio'n Rhyngwladol; canllaw ar rwymedigaethau cyfreithiol elusennau gan gynnwys o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000, deddfwriaeth sancsiynau ariannol eraill a deddfwriaeth berthnasol yr Undeb Ewropeaidd, canllawiau ar restrau gwaharddedig a dynodedig - beth ydynt a sut i'w defnyddio; canllaw ar 'lywodraethu da' a rheolaethau ariannol, gan gynnwys codi arian, trosglwyddo arian dramor a dilysu'r defnydd terfynol o arian; ac wrth ddiffinio egwyddorion 'gwybod eich' ar gyfer diwydrwydd dyladwy a'r safonau lleiaf y disgwyliwn i elusennau eu cyrraedd wrth eu cymhwyso;
Bydd sicrhau bod elusennau'n deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol, ychwanegu gwerth at waith elusennau a gwella dealltwriaeth y cyhoedd yn egwyddorion pwysig ar gyfer yr agwedd hon ar ein gwaith.
Byddwn yn mabwysiadu ymagwedd fwy rhagweithiol at ddadansoddi tueddiadau a phroffilio risgiau a'r hyn sy'n agored i niwed yn y sector o ran y bygythiad gan derfysgwyr. Byddwn yn monitro'r sector mewn meysydd rydym yn eu cydnabod fel risg uchel er mwyn adnabod, yn gynnar yn y broses, yr elusennau hynny a all fod yn wynebu problemau, er mwyn i ni eu rhybuddio am y risgiau a rhoi cyngor a chymorth iddynt. Byddwn yn monitro'r sector er mwyn rhagweld ac ymateb i bryderon sy'n effeithio arno.
Bydd elusennau sy'n cael eu hadnabod fel rhai a all fod mewn perygl posibl yn cael sylw trwy waith achos i roi arweiniad iddynt ar roi systemau digonol mewn lle ar gyfer cadw'r risg hwnnw i'r lleiaf posib a'i reoli. Bydd ymweliadau i'r safle yn briodol mewn rhai achosion fel rhan o'n hymagwedd seiliedig ar risg at reoleiddio; weithiau, byddwn yn ymweld ag elusennau dramor.
Bydd ein Huned Monitro Rhagweithiol dan arweiniad cudd-wybodaeth yn ymgymryd â'r gwaith hwn. Drwy gynhyrchu a diweddaru proffiliau risg a dangosyddion risg penodol bydd y Comisiwn mewn sefyllfa well i ymgymryd â gwaith ataliol mewn perthynas ag elusennau sy'n agored i derfysgaeth a meysydd risg uchel eraill. Caiff y dangosyddion risg hyn eu hadolygu'n gyson yng nghyd-destun ein fframwaith risg a chymesuredd ar gyfer ein gwaith cydymffurfio, ac yn sgîl datblygiadau o fewn y sector, ein profiad gweithredol ein hunain, a theipoleg gwybodaeth a risg a ddatblygwyd gan asiantaethau eraill y llywodraeth sy'n ymwneud â gwaith gwrthderfysgaeth.
Yn ogystal â chynnal cysylltiadau agos â'r sector elusennau, byddwn yn cydweithio â rheolyddion eraill y llywodraeth ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith trwy ffurfioli ein protocolau a chryfhau ein trefniadau gweithredol. Bydd y rhain yn egluro ac yn gosod y fframwaith, ac o fewn y fframwaith hwnnw bydd y Comisiwn yn cydgysylltu ac yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaeth arall er mwyn sicrhau yn well yr amharir ar y rhai sy'n ceisio ecsploetio elusennau at ddibenion terfysgaeth. Bydd yn cynnwys:
Byddwn yn gweithredu'n rhagweithiol, yn gadarn, yn effeithiol ac yn gyflym os oes tystiolaeth neu amheuon difrifol gennym o gamddefnydd gan derfysgwyr sy'n cynnwys elusennau.
Byddwn yn trin honiadau neu amheuon o weithgarwch gan derfysgwyr o fewn elusennau, neu sy'n cynnwys unigolion sy'n gysylltiedig ag elusennau, fel mater dim goddefgarwch. Bydd pob achos yn cael ei asesu’n brydlon ac yn effeithlon a gweithredir yn gymesur yn ôl y risg sydd i'r elusen, y sector a'r gymdeithas. Bydd ein hymchwiliadau yn gadarn, yn drylwyr ac wedi'u llywio gan gudd-wybodaeth a thystiolaeth, sy'n ceisio:
Byddwn yn cynyddu ein gallu i ddelio â gwaith sy'n cynnwys camddefnydd gan derfysgwyr drwy ddatblygu cronfa o arbenigedd gwrthderfysgaeth gyda staff arbenigol, hyfforddedig a medrus i ddelio â'r mathau hyn o achosion. Bydd y staff yma yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau ymchwilio ariannol arbenigol a sgiliau perthnasol eraill. Byddwn yn gwella diogelwch ein hisadeiledd ein hunain er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cysylltu â gweddill y llywodraeth yn y maes hwn.

Mae'r Comisiwn mewn sefyllfa unigryw i lywio'r ddadl ar faterion terfysgaeth sy'n gysylltiedig ag elusennau. Rydym yn ymrwymedig i adeiladu ar yr arbenigedd a'r wybodaeth sydd gan ein staff. Mae gwybodaeth drylwyr ac eang gan ein staff o'r gyfraith elusennau, rheoleiddio ac arferion gorau yn ogystal â bod yn ymwybodol o'r anawsterau bob dydd a wyneba elusennau yn eu gwaith. Defnyddir yr arbenigedd hwn i hwyluso a chodi ymwybyddiaeth ymysg asiantaethau eraill sy'n ymwneud â gwaith gwrthderfysgaeth, a'r gweithwyr proffesiynol hynny sy'n cynghori elusennau. Mae'r Comisiwn hefyd yn ymrwymedig i ddysgu o'r asiantaethau hynny felly wrth i dueddiadau newydd godi ac wrth i fygythiadau a risgiau ddod i'r amlwg bydd staff y Comisiwn yn cael gwybod ac yn cael eu grymuso i ymateb a delio â nhw yn briodol.
Mae dangosyddion meincnod llwyddiant wedi'u gosod yng nghyd-destun ehangach amcanion statudol y Comisiwn. Ein dangosyddion llwyddiant ar gyfer pob llinyn o'n strategaeth wrthderfysgaeth yw:
Byddwn yn ceisio datrys achosion lle rydym yn ymyrryd mewn modd amserol a phriodol.
Fel rhan o'n gwaith adrodd cyhoeddus blynyddol ar waith cydymffurfio'r Comisiwn byddwn yn adrodd ar:
Ni fyddwn yn mesur llwyddiant yn nhermau nifer cynyddol yr ymchwiliadau, oherwydd gall hyn fod yn gamarweiniol.
Bydd y cyfraniad cyllid ychwanegol o £1 miliwn gan Drysorlys EM ar gyfer 2007-08 ynghyd â rhai adnoddau'r Comisiwn wedi'u hailgyfeirio yn cynnig modd i ni fuddsoddi mewn gwaith ymwybyddiaeth ac allgymorth, a datblygu ymhellach a chryfhau gallu yn ein swyddogaeth Cydymffurfio ar gyfer gwaith achos sy'n cynnwys cysylltiadau posibl neu honedig â therfysgaeth mewn elusennau. Yn y blynyddoedd i ddod bydd y £1 miliwn y flwyddyn ychwanegol yn cael ei gynnwys yn ein sylfaen cyllid.
David Walker
Pennaeth Allgymorth a Datblygu, Cydymffurfio a Chymorth
ffôn: 020 7674 2529
e-bost
Y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol
Blwch SP 1227
LERPWL
L69 3UG
1. Mae'r Rhaglen Ryngwladol wedi'i chyllido'n bennaf gan Gronfa Cyfleoedd Byd-eang y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
2. Y rhai sydd wedi'u cynnwys o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Trosedd a Diogelwch Gwrthderfysgaeth 2001, ac sy'n ymddangos ar restrau'r DU, Undeb Ewropeaidd a Chenhedloedd Unedig o sefydliadau dynodedig.