Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Mai 2009)
Mae digwyddiad sydd wedi cymryd lle mewn elusen yn cael ei ystyried yn ddifrifol os yw wedi creu neu gallai greu colled sylweddol o gronfeydd neu fod o risg arwyddocaol i eiddo, gwaith, buddiolwyr neu enw da yr elusen.
Dylai ymddiriedolwyr adrodd am ddigwyddiadau difrifol i'r Comisiwn pan fyddant yn ymwybodol ohonynt.
Fel mater o arfer orau argymhellwn fod ymddiriedolwyr pob elusen yn adrodd am unrhyw ddigwyddiad difrifol i'r Comisiwn.
Fodd bynnag, ar gyfer elusennau gydag incwm o fwy na £25,000 rhaid i ymddiriedolwyr, fel rhan o'r Ffurflen Flynyddol, arwyddo datganiad sy'n cadarnhau nad oes unrhyw ddigwyddiadau difrifol y dylent fod wedi'u dwyn at ein sylw, ond nid ydynt wedi gwneud hynny. Os na allant wneud y datganiad hwn ni fydd y Ffurflen Flynyddol wedi'i chwblhau ac ni fyddant wedi bodloni eu gofynion cyfreithiol.
Dylai ymddiriedolwyr adrodd am ddigwyddiadau difrifol i'r Comisiwn pan fyddant yn ymwybodol ohonynt. Gellir adrodd amdanynt mewn un o'r ffyrdd canlynol:
Pan fydd ymddiriedolwyr yn adrodd am ddigwyddiad difrifol i'r Comisiwn, dylent roi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl i'n helpu i benderfynu pa gamau sy'n briodol i'w cymryd, os o gwbl.
Rydym wedi diwygio ein Canllawiau ar gyfer ymddiriedolwyr sy'n adrodd am ddigwyddiadau difrifol. Mae hyn yn egluro:
Os oes unrhyw ymholiadau gennych, ar ôl darllen y Canllawiau, mae croeso i chi gysylltu â ni. Hefyd fe gewch wybodaeth ychwanegol yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Bydd ein hymateb yn dibynnu ar amgylchiadau arbennig y digwyddiad a gallu'r elusen (neu ei hymddiriedolwyr) i'w ddatrys heb i ni ymyrryd. Fel rheolydd modern, mae ein hymagwedd gyffredinol yn canolbwyntio ar roi cymorth ac arweiniad a hybu arfer orau yn ogystal â sicrhau bod elusennau'n cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein prif bryder bob amser yw diogelu'r elusen a hybu ffydd a hyder y cyhoedd yn y sector.
Nid yw adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn cymryd lle unrhyw un o'r dulliau y gall pobl eu defnyddio ar hyn o bryd i adrodd am bryderon ynghylch elusennau i'r Comisiwn Elusennau a ddylai gael eu hanfon i'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol. Am wybodaeth ychwanegol, cyfeiriwch at ein cyhoeddiad CC47- Cwynion am Elusennau.