Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Mae'n rhaid i bob elusen baratoi cyfrifon blynyddol ac mae'n rhaid i'r rhan fwyaf ohonynt, a dylai'r rhan fwyaf ohonynt baratoi adroddiadau blynyddol yr ymddiriedolwyr. Mae'r dudalen hon yn crynhoi'r canllawiau a'r cymorth sydd ar gael ar ein gwefan i gynorthwyo'r rheiny sy'n paratoi cyfrifon elusennau:
Mae ein Canllaw Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: Yr hanfodion (CC15) yn nodi'r gofynion cyfrifyddu ar gyfer gwahanol fathau o elusennau ac elusennau o wahanol faint pan fyddant yn paratoi cyfrifon ac adroddiadau ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau rhwng 27 Chwefror 2007 a 31 Mawrth 2008.
Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, cyfeiriwch at Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: Yr hanfodion Ebrill 2008 (CC15a ).
Gall elusennau bach heb fod yn gwmnïau sydd ag incwm o £100,000 neu lai ddewis paratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau (y ffurf symlaf o gyfrifon). Mae'r pecyn hwn yn darparu templed ar gyfer patrwm a chynnwys adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr a chyfrifon ac mae'n cynnig dull symlach i elusennau bach nad ydynt yn dymuno paratoi cyfrifon croniadau llawn.
Mae ein Hadroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a Chyfrifon Enghreifftiol (2005) yn cynnwys enghraifft o becyn derbyniadau a thaliadau sydd wedi'i gwblhau o'r enw Westbeach Youth Club.
Fe anogir elusennau a hoffai gynhyrchu cyfrifon croniadau i ddefnyddio'r Pecyn Cyfrifon Croniadau (CC17).
O 1 Ebrill 2008 gall pob elusen (boed yn gwmni neu beidio) ddewis cael archwiliad annibynnol yn lle archwiliad ariannol. Mae'n dilyn newid yn y gyfraith cwmnïau a gyflwynwyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006 sy'n estyn y dewis o gael archwiliad annibynnol i elusennau sy'n gwmnïau am y tro cyntaf. Mae'r canllaw newydd ar archwiliad annibynnol mewn dau gyhoeddiad erbyn hyn:
CC31- Archwiliad Annibynnol o Gyfrifon Elusennau - Canllaw Ymddiriedolwyr sy'n disgrifio beth yw archwiliad annibynnol ac yn rhoi cyngor i ymddiriedolwyr ynghylch sut i ddewis eu harchwiliwr.
CC32 - Archwiliad Annibynnol o Gyfrifon Elusennau - Canllaw Archwilwyr sy'n disgrifio beth yw archwiliad annibynnol, pwy all ymgymryd ag archwiliad annibynnol, y Cyfarwyddiadau y mae'n rhaid i'r archwiliwr eu dilyn a chyfrifoldebau chwythu'r chwiban. Mae'n cynnwys adroddiadau archwilwyr annibynnol enghreifftiol a chyngor ar gyfer archwilio elusennau sydd wedi cofrestru dwywaith gyda Swyddfa Rheolydd Elusennau'r Alban.
Cyn blynyddoedd ariannol yn dechrau 1 Ebrill 2008 dim ond elusennau heb fod yn gwmnïau oedd yn is na'r trothwy archwilio fyddai'n gallu gofyn i archwiliwr annibynnol archwilio eu cyfrifon yn hytrach nag archwiliwr ariannol. Mae'r Comisiwn Elusennau wedi cynhyrchu canllaw ar gyfer archwilwyr annibynnol ac adroddiadau archwilwyr annibynnol pro forma:
CC63a - Archwiliad Annibynnol o Gyfrifon Elusennau
Mae'r canllaw hwn yn berthnasol i elusennau heb fod yn gwmnïau ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu yn dechrau cyn 1 Ebrill 2008 ac mae'n darparu sylwadau ar gyfarwyddiadau'r Comisiwn Elusennau i archwilwyr annibynnol ac yn rhoi manylion ynghylch sut i gyfrifo incwm gros a chyfanswm gwariant elusen.
Gall elusennau bach heb fod yn gwmnïau sy'n is na'r trothwy archwiliad (incwm blynyddol gros o fwy na £500k neu gyfanswm incwm o fwy na £100,000 a chyfanswm asedau o fwy na £2.8 m) ddefnyddio'r pecyn hwn pan fyddant yn paratoi eu cyfrifon ar sail croniadau. Mae'r pecyn yn darparu templed ar gyfer patrwm a chynnwys adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr a chyfrifon.
Fe anogir elusennau sy'n paratoi cyfrifon croniadau i fod yn gyfarwydd â'r SORP ac mae gwybod am y SORP yn hanfodol os na ddefnyddir Pecyn Cyfrifon Croniadau (CC17).
Mae elusennau sy'n gwmnïau yn paratoi cyfrifon ar ddull croniadau ac felly mae'n ofynnol iddynt ddefnyddio'r SORP.
Mae'r Datganiad o Arferion Cymeradwy Elusennau (SORP Elusennau) yn cynnig argymhellion ar gyfer fformat a chynnwys adroddiadau a chyfrifon elusennau. Mae'n gymwys i elusennau sy'n paratoi cyfrifon croniadau er mwyn rhoi 'darlun gwir a theg'. Ynghyd â'r SORP Elusennau mae'r dudalen hon yn darparu cysylltiadau pellach a all fod o gymorth i'r rhai sy'n paratoi cyfrifon.
Dylai elusennau sydd â chyfnod cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005 gyfeirio at SORP 2005.
Mae nifer o enghreifftiau o adroddiadau elusennau a chyfrifon wedi'u paratoi o dan SORP 2005 ar gael i gynorthwyo'r rheiny sy'n llunio fformat a phatrwm eu cyfrifon.
Mae'r fframwaith ar gyfer cyfrifyddu ac adrodd wedi datblygu'n fawr dros y blynyddoedd. Er bod Deddf Elusennau 2006 yn symleiddio'r rheolau, sylweddolwn y bydd elusennau, eu cynghorwyr ac eraill eisiau cyfeirio'n ôl o bryd i'w gilydd at y gofynion ar gyfer cyfrifyddu ac adrodd mwy cymhleth oedd yn berthnasol i flynyddoedd ariannol cynharach.
Cewch weld trafodaethau'r Pwyllgor SORP newydd, pwy ydynt a beth gafodd ei drafod yn y cyfarfod diwethaf a manylion rhaglen ymchwil Pwyllgor SORP ar adroddiadau a chyfrifon elusennau.
Mae 'Gwobrau Cyfrifon Ar-lein Elusennau' CAEW / CAF yn cydnabod rhagoriaeth mewn adroddiadau ariannol ac yn annog arferion gorau mewn cyfrifon ariannol ar-lein gydag enghreifftiau o elusennau o bob lliw a llun. Edrychwch ar gyfrifon yr enillwyr hyn i gael cymorth ymarferol a pharatoi adroddiadau a chyfrifon o safon.
Am y blynyddoedd ariannol yn dechrau cyn 1 Ebrill 2008, gall cwmnïau elusennol bach sy'n is na'r trothwy archwiliad ariannol ddewis adroddiad eithrio archwiliad ariannol gan Gyfrifydd Adrodd yn lle archwiliad ariannol. Cyhoeddir y safonau ar gyfer gwaith o'r fath gan y Bwrdd Arferion Archwilio.
Mae'n darparu dolenni i wefannau sefydliadau eraill sy'n darparu gwybodaeth neu arweiniad pellach ar gyfrifon, treth a materion ariannol eraill.
Gall y Comisiwn Elusennau ddarparu cyngor pellach ar faterion cyfrifyddu elusennau cyffredinol.