Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Gorffennaf 2008)
Rydym wedi rhoi'r wedd derfynol ar ein strategaeth wrthderfysgaeth, gyda sêl bendith Bwrdd y Comisiwn ar ôl ystyried yr ymatebion a gawsom yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol ar ein strategaeth wrthderfysgaeth ddrafft yn gynharach yn 2008.
Erbyn hyn mae'r strategaeth wrthderfysgaeth yn cynrychioli datganiad ffurfiol o sut y mae'r Comisiwn yn bwriadu cyflawni ei ymateb rheoleiddiol i'r bygythiad o ymwneud neu gamdriniaeth gan derfysgwyr yn y sector elusennol. Mae'r strategaeth yn disgrifio ein dull gweithredu pedwar llinyn sef: Ymwybyddiaeth, Arolygu, Cydweithredu ac Ymyrryd. Rydym wedi pennu dangosyddion meincnod o lwyddiant ar gyfer pob llinyn a byddwn yn paratoi adroddiad cyhoeddus ar gynnydd fel rhan o'n hadroddiad blynyddol ar waith cydymffurfio'r Comisiwn.
Mae Strategaeth Wrthderfysgaeth y Comisiwn ar gael ar ein gwefan.
Hefyd rydym wedi crynhoi'r ymatebion cyhoeddus i'r strategaeth wrthderfysgaeth ddrafft. Gweler Crynodeb o'r Ymatebion Cyhoeddus i'r Strategaeth Wrthderfysgaeth Ddrafft gyda Sylwadau gan y Comisiwn.