Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Daeth grŵp cyntaf darpariaethau Deddf Elusennau 2006 i rym ar 27 Chwefror.
Dywedodd y Fonesig Suzi Leather, Cadeirydd y Comisiwn Elusennau:
"Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gweithredu’r rhan gyntaf o’r Ddeddf Elusennau. Yn ogystal â chyflwyno darpariaethau cyntaf Deddf Elusennau 2006, mae hefyd yn cadarnhau’r dyddiad pan fydd y Comisiwn yn troi’n gorfforaeth gorfforedig, gydag amcanion, swyddogaethau a dyletswyddau wedi’u diffinio o’r newydd a Bwrdd estynedig. Croesawn y newyddion hyn yn fawr."
Mae Crynodeb o arweiniad gweithredol a chyhoeddiadau wedi’u diweddaru ar gael ar ein gwefan nawr.
Mae cynllun gweithredu Swyddfa’r Trydydd Sector yn amlinellu pa rannau eraill o’r Ddeddf y disgwylir iddynt ddod i rym. Mae rhifyn hydref 2006 ein cylchlythyr, Newyddion y Comisiwn Elusennau, yn rhoi manylion am brif ddarpariaethau’r Ddeddf a gafodd Gydsyniad Brenhinol yn Nhachwedd 2006.