Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Corff gwarchod yn annog arweinwyr elusennau Cymru i wynebu realiti heddiw

Pennaeth y CBI yn cefnogi ymgyrch i helpu elusennau i oroesi'r dirwasgiad 

16 Mehefin 2009

Mae elusennau yng Nghymru yn teimlo effaith y dirwasgiad mwy a mwy - ac nid yw gwneud dim byd yn ddewis mwyach yn ôl y Comisiwn Elusennau. Heddiw, gyda chefnogaeth y CBI, mae'r Comisiwn yn lansio menter - Testun Trafod - i gael pob elusen i ofyn rhai cwestiynau difrifol.

Testun Trafod yw'r 'sgwrs hanfodol i bob elusen', ac mae'n ganlyniad uniongyrchol i raglen gynhwysfawr dros bedwar mis o waith allgymorth ac ymchwil gan y Comisiwn. Mae'n cwmpasu'r meysydd allweddol lle mae elusennau yn dweud wrthym eu bod yn fwyaf agored i niwed ac mae'n gofyn 15 cwestiwn allweddol i helpu byrddau ymddiriedolwyr i ystyried y dewisiadau a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt nawr.

Ni fydd unrhyw sefydliad, boed yn fusnes neu'n elusen, yn goroesi'r cyfnod economaidd anodd hwn heb fod y rhai sy'n rheoli yn ystyried o ddifrif ei iechyd ariannol, ei gyfeiriad ac a yw'n gwneud y defnydd gorau o adnoddau.

Dywedodd Harry Iles, Pennaeth Swyddfa Cymru y Comisiwn Elusennau: “Rhaid i elusennau fod yn ddigon dewr i ofyn rhai cwestiynau sylfaenol. Mae dyfodol elusennau Cymru yn dibynnu ar hyn. Rhaid i hwn fod yn flaenoriaeth i bob bwrdd elusennau. Bydd gofyn y cwestiynau hyn yn helpu byrddau ymddiriedolwyr i adolygu eu dewisiadau, gwneud y penderfyniadau anodd ac yn rhoi dealltwriaeth glir iddynt o'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu a'r ffordd orau i fynd i'r afael â nhw."

Wrth sôn am fenter y Comisiwn Elusennau, dywedodd Cyfarwyddwr-Gyffredinol y CBI Richard Lambert: “Mae'n rhaid i fusnesau ar hyd a lled y wlad wneud penderfyniadau anodd am y camau y mae angen iddynt eu cymryd i oroesi'r dirwasgiad a dod allan ohono yn gryfach. Mae hynny'n golygu cael gwared ar yr hyn y byddai'n braf eu cael a chanolbwyntio ar weithgareddau craidd. Nid yw elusennau yn wahanol yn un o beth.

"Ond maen nhw'n wynebu'r her arbennig o weld y galw mwyaf erioed am eu gwasanaethau ar adeg pan fydd incwm dan y pwysau mwyaf. Mae Testun Trafod yn rhoi cyngor cadarn a fydd yn helpu ymddiriedolwyr i gymryd y camau sydd eu hangen i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol y maent yn eu cynnig. Byddwn yn annog ymddiriedolwyr i gymryd rhan yn y fenter werth chweil hon."

Mae 'Y dirywiad economaidd – 15 cwestiwn y mae angen i ymddiriedolwyr eu gofyn' ar gael ar wefan y Comisiwn yn www.charitycommission.gov.uk. Caiff ei gynnwys yng nghylchlythyr y Comisiwn i bob un o'r 190,000 o elusennau sydd wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr.

Diwedd.

Nodiadau i Olygyddion

1. Y Comisiwn Elusennau yw rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Gweler www.charitycommission.gov.uk i gael gwybodaeth bellach neu ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0845 300 0218.

2. Ym mis Medi 2008 a mis Chwefror 2009 cyhoeddodd y Comisiwn yr arolygon mwyaf cynhwysfawr a gafwyd ar y sector elusennol yn ystod y dirywiad economaidd. Roedd prif gasgliadau arolwg mis Chwefror yn cynnwys y canlynol:

    • mae 52% o elusennau wedi cael eu heffeithio gan y dirywiad, mae 58% o'r rhain wedi profi lleihad mewn incwm;
    • roedd 64% o'r elusennau mwyaf yn pryderu y gallai gwasanaethau neu gyllid gael eu heffeithio'n fawr;
    • roedd 32% o elusennau wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r dirywiad.

3. Yn ystod Mai 2009 cynhaliodd y Comisiwn gyfres o gyfarfodydd grŵp gydag elusennau yng Nghaerdydd, Rhydychen a Leeds i drafod sut roedd elusennau'n agored i niwed a'r heriau yr oeddent yn eu hwynebu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Mae'r Comisiwn hefyd yn parhau i drafod y materion hyn fel rhan o'i rhaglen barhaus o ymgysylltu ag elusennau mwy. I gael mwy o wybodaeth am y cymorth a gynigir gan y Comisiwn i elusennau ar yr adeg ansicr hon, ewch i www.charitycomission.gov.uk

4. Mae ychydig llai nag un filiwn o swyddi ymddiriedolwyr mewn elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr.

5. Y CBI yw'r prif sefydliad i fusnesau yn y DU ac mae'n cynnig llais i ryw 240,000 o fusnesau sydd gyda'i gilydd yn cyflogi tuag un rhan o dair o weithlu'r sector preifat. Gyda swyddfeydd ledled y DU yn ogystal â Brwsel, Washington a Beijing, mae'r CBI yn cydlynu cynrychiolaeth i fusnesau Prydain ar hyd a lled y byd.


Cyswllt y Cyfryngau: Swyddfa'r Wasg y CBI ar 020 7395 8239 neu alwr y tu allan i oriau swyddfa 07623 977854

I gael mwy o wybodaeth am y stori hon cysylltwch â Sarah Gibbs ar 020 7674 2332