Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

CC10 - Nodweddion Elusen Effeithiol

(Fersiwn Gorffennaf 2008)

Gallwch hefyd weld fersiwn PDF lliw llawn o'r Nodweddion Elusen Effeithiol CC10

Cynnwys

A. Rhagair

Neges gan Gadeirydd a Phrif Weithredwr y Comisiwn Elusennau i ymddiriedolwyr elusen -

Annwyl Ddarllenydd,

Mae elusennau'n gweithredu am nifer o ddibenion gwahanol ond yr un yw eu nod sef gwneud y gorau ar gyfer eu buddiolwyr. Er mwyn gwneud hyn, mae'n hanfodol bod ymddiriedolwyr yn parhau i ofyn y cwestiynau: "Beth ydym ni wedi'i gyflawni?" a "beth allwn ni ei wneud i wella?" Mae cael nodau clir ar gyfer mesur perfformiad yn eu herbyn, cael dulliau gweithredu da, gwneud y mwyaf o'r adnoddau a bod yn agored ac yn atebol yn allweddol i gael hyd i'r ateb.

Mae'r fersiwn diwygiedig, wedi'i ddiweddaru o'n canllaw yn hybu ymagwedd gadarnhaol at wella. Mae'n fframwaith syml o arferion da sy'n cynnwys y gofynion rheoleiddio perthnasol. Mae unrhyw ofynion cyfreithiol wedi'u nodi'n glir, ond mae'r rhan fwyaf o'r canllaw yn ymwneud â'r hyn yr ydym ni, fel y rheolydd elusennau, wedi adnabod fel egwyddorion arfer da sylfaenol neu Nodweddion. Ein nod yw darparu fframwaith, ac o fewn y fframwaith hwnnw bydd hyder gan elusennau i gyflawni eu gwaith, arloesi a datblygu.

Mae Nodweddion Elusen Effeithiol yn bwriadu ategu canllawiau, safonau a chodau llywodraethu eraill y bydd elusennau efallai yn eu defnyddio - ac nid eu disodli. Os nad ydych yn dilyn cod neu safon arall, mae'r Nodweddion yn lle da i ddechrau.

Mae hanes o arloesi gan elusennau, ac enw da am wneud pethau mewn ffordd greadigol a gwahanol, gan ddylanwadu ar yr amgylchedd y maent yn gweithredu ynddo, dysgu oddi wrth eraill a rhannu gwybodaeth â nhw. Gobeithiwn y bydd y Nodweddion yn galluogi elusennau, a'u hymddiriedolwyr, i wella'n barhaus effeithiolrwydd eu gwaith er budd cyhoeddus.

Y Fonesig Suzi Leather
Cadeirydd

Andrew Hind
Prif Weithredwr

B. Cyflwyniad

B1. Pam ydym ni'n cynhyrchu'r canllaw hwn?

Y Comisiwn Elusennau yw rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Rhan o'n rôl fel rheolydd yw ceisio annog elusennau i fabwysiadu arferion da ym mhob agwedd ar eu gweithrediadau a'u gweithgareddau. Gall mabwysiadu arferion da helpu elusennau i gadw i fyny â newidiadau a'u gwneud yn fwy effeithiol pan fydd yn cyfrif - darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r bobl y cawsant eu sefydlu i'w cynorthwyo. Hefyd gall helpu sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol.

B2. Am beth mae'r canllaw hwn?

Mae'r canllaw hwn yn pennu'r safonau a fydd yn helpu ymddiriedolwyr i wella effeithiolrwydd eu helusen, a'r egwyddorion y mae ein fframwaith rheoleiddio yn bodoli i'w cefnogi. Rydym wedi rhannu'r rhain yn chwe Nodwedd neu egwyddor. Ar gyfer pob un o'r rhain, rydym wedi rhestru nifer o ffyrdd y gellid arddangos y Nodweddion, ond ni fydd pob enghraifft yn gymwys i bob elusen. Er bod rhai ohonynt yn ofynion cyfreithiol, mae'r rhan fwyaf yn faterion o arfer da.

Er y bydd y Nodweddion hyn yn berthnasol i bob elusen, bydd y ffordd y cânt eu harddangos neu eu cyflawni yn amrywio yn dibynnu ar faint, incwm, cymhlethdod a gweithgareddau pob elusen, er gall rhai elusennau gael hyd i ffyrdd gwahanol i gyrraedd yr un nod. Yn ein profiad ni, beth bynnag fo ei maint a'i gweithgareddau, gall ymddiriedolwyr ddefnyddio'r Nodweddion hyn fel ffordd o adolygu sut y mae eu helusen yn perfformio ac adnabod y meysydd lle mae'r elusen yn gryf a'r meysydd hynny sydd angen eu datblygu ymhellach.

Mae cydymffurfio â'r gyfraith yn rhan annatod o lywodraethu da a pherfformiad effeithiol. Nid yw'r canllaw hwn yn ceisio amlinellu'r holl ofynion cyfreithiol sy'n gymwys i elusennau ac ymddiriedolwyr elusen. Rhaid cydymffurfio ag unrhyw elfennau o Nodweddion sydd wedi'u marcio â'r symbolSymbol cyfreithiol oherwydd maent yn ofynion cyfreithiol. Mae canllawiau manwl ar feysydd deddfwriaeth arbennig a gweinyddu elusennau i'w gweld ar ein gwefan.

B3. Beth am godau a safonau eraill?

Mae nifer o godau a safonau eraill o arferion da y gall elusennau ddewis eu dilyn, neu y gellir disgwyl iddynt eu dilyn oherwydd eu bod yn cyflawni mathau arbennig o wasanaethau, neu fel amod o aelodaeth o gorff mantell. Mae rhai o'r codau a safonau eraill y gall elusennau eu dilyn wedi'u nodi yn adran D y canllaw hwn. Mae'r Cod Llywodraethu (Llywodraethu Da: cod ar gyfer y sector gwirfoddol a chymunedol) yn un o'r rhain ac fe'i cymeradwyir gan y Comisiwn. Bwriedir i'r canllaw hwn a'r Cod ategu ei gilydd.

Os yw'ch elusen yn dilyn cod neu safon arall, mae'n bosibl ei bod eisoes yn arddangos rhai neu bob un o'r Nodweddion. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried a oes agweddau o'r Nodweddion a allai ategu neu gryfhau ymagwedd eich elusen at lywodraethu, rheolaeth a gweithredu effeithiol.

B4. 'Rhaid' a 'dylai', beth ydym yn ei olygu?

Yn ein canllaw, pan ddefnyddiwn 'rhaid' golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn. Er mwyn eich helpu i adnabod y gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol defnyddiwyd y symbol Symbol cyfreithiol wrth ochr y pwyntiau bwled perthnasol.

Defnyddiwn 'dylai' ar gyfer eitemau a ystyrir yn arfer da lleiaf, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol ar eu cyfer. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllaw arfer da oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

Cynigiwn gyngor llai ffurfiol hefyd ac argymhellion a all fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr wrth iddynt reoli eu helusen. Ni fwriedir i'r Nodweddion fod yn rhagnodol, felly mae'r rhan fwyaf o'r pwyntiau bwled o dan bob Nodwedd wedi'u cynnwys o fewn y categori o gyngor hwn yn hytrach na gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol, oni bai y nodir fel arall.

B5. Canllawiau blaenorol

Mae'r canllaw hwn yn cymryd lle'r fersiwn blaenorol o Nodweddion Elusen Effeithiol (CC60), wedi'i ddiwygio a'i gyflwyno yn ein harddull tŷ newydd. Yn ogystal â diweddaru'r Cyflwyniad, mae'r Nodweddion eu hunain wedi cael eu hailddiffinio er mwyn egluro'r egwyddorion cyffredinol y bydd elusen effeithiol eisiau eu dilyn. Er enghraifft, rydym wedi dwyn ynghyd pwyntiau arfer ariannol da i greu Nodwedd newydd 'Sail ariannol gadarn a darbodus'.

Os hoffech gael mwy o gopïau o'r canllaw hwn, y cod archebu newydd yw CC10.

B6. Rhai termau technegol a ddefnyddir

Yn y canllaw hwn:

Buddiolwr neu fuddiolwyr: Term cyfreithiol ar gyfer unigolyn neu grŵp o bobl sy'n gymwys i gael budd o waith elusen. Diffinnir grŵp buddiolwyr elusen yn nogfen lywodraethol yr elusen. Weithiau gall buddiolwyr gael eu galw'n gleientiaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth.

Canlyniadau yw'r newidiadau, buddion, dysg neu effeithiau eraill sy'n digwydd o ganlyniad i wasanaethau neu weithgareddau'r elusen. (Gwahaniaethir rhwng canlyniadau ac allgynhyrchion - y gweithgareddau, gwasanaethau a chynhyrchion y mae'r elusen yn eu darparu. Mae allgynhyrchion yn dangos swm y gwaith sy'n cael ei wneud gan yr elusen yn hytrach na'i chanlyniadau.)

Cenhadaeth neu ddatganiad cenhadaeth: Term a ddefnyddir gan nifer o elusennau i ddisgrifio pam eu bod yn bodoli a pha effaith y maent yn dymuno ei chael. Gall datganiad cenhadaeth:

  • ddarparu esboniad o ddibenion yr elusen mewn iaith bob dydd;
  • helpu i gyfathrebu ethos a gwerthoedd yr elusen; a
  • darparu ffocws ar gyfer cynllunio strategol drwy ddiffinio'r canlyniadau neu'r nodau arbennig yr hoffai'r elusen eu cyflawni.

Rhaid i genhadaeth (neu ddatganiad cenhadaeth) yr elusen fod yn gyson â'i dibenion, ac nid yn ehangach na'i dibenion.

Ystyr CRB yw'r Swyddfa Cofnodion Troseddol sy'n bodoli i helpu sefydliadau i adnabod pobl sy'n anaddas ar gyfer rhai mathau o waith, yn enwedig gwaith sy'n cynnwys cael at blant neu ddod i gysylltiad â phlant ac aelodau eraill o gymdeithas sy'n agored i niwed. Gall wneud 'Datgeliadau' o unrhyw gofnodion troseddol, yr heddlu neu gofnodion tebyg.

Mae dangosyddion yn wybodaeth eglur, hawdd ei mesur, sy'n dangos sut mae'r elusen yn perfformio.

Dibenion (weithiau'n cael eu galw'n amcanion) yw'r dibenion elusennol cyfreithiol y mae elusen yn bodoli i'w cyflawni neu'r pethau y cafodd ei sefydlu i'w cyflawni fel y nodir yn ei dogfen lywodraethol. Gall y dibenion gael eu geirio yn eithaf eang a'u mynegi mewn iaith gyfreithiol. Maent yn cyfeirio (ac o ganlyniad yn cyfyngu ar) sut y mae'n rhaid defnyddio asedau'r elusen.

Ystyr dogfen lywodraethol yw dogfen gyfreithiol sy'n pennu amcanion neu ddibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, yn gyfansoddiad, yn femorandwm ac erthyglau cymdeithasu, yn drawsgludiad, yn ewyllys, yn Siartr Frenhinol, yn Gynllun gan y Comisiwn neu'n ddogfen ffurfiol arall.

Ystyr effaith yw'r newid, effaith neu fudd y mae gwasanaethau a gweithgareddau'r elusen yn ei gael ar gymdeithas. Mae'n hirdymor, yn eang ac yn gynaliadwy yn aml a gall fod yn gadarnhaol neu'n negyddol, yn fwriadol neu'n anfwriadol.

Ystyr gweithgareddau yw unrhyw beth a wneir gan ddefnyddio adnoddau sy'n eiddo'r elusen neu sydd o dan ei rheolaeth, ac mae'n cynnwys ei holl waith a'i gwasanaethau.

Ystyr ymddiriedolwr yw ymddiriedolwr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. Yn nogfen lywodraethol yr elusen gellir eu galw gyda'i gilydd yn ymddiriedolwyr, y bwrdd, ymddiriedolwyr rheoli, y pwyllgor rheoli, llywodraethwyr neu gyfarwyddwyr, neu gall fod rhyw deitl arall ganddynt.

C. Cipolwg cyflym ar y Nodweddion

Nodwedd 1: Bod yn glir ynghylch ei dibenion a'i chyfeiriad

Mae elusen effeithiol yn glir ynghylch ei dibenion, ei chenhadaeth a'i gwerthoedd ac yn eu defnyddio i lywio pob agwedd ar ei gwaith.

Nodwedd 2: Bwrdd cryf

Mae elusen effeithiol yn cael ei rhedeg gan fwrdd neu gorff ymddiriedolwyr hawdd ei adnabod sydd â'r cydbwysedd cywir o sgiliau a phrofiad, yn gweithredu er lles gorau'r elusen a'i buddiolwyr, yn deall ei chyfrifoldebau ac yn gweithredu systemau i'w hymarfer yn briodol.

Nodwedd 3: Addas i'r pwrpas

Mae strwythur, polisïau a gweithdrefnau elusen effeithiol yn ei galluogi i gyflawni ei dibenion a'i chenhadaeth a darparu ei gwasanaethau yn effeithlon.

Nodwedd 4: Dysgu a gwella

Mae elusen effeithiol bob amser yn ceisio gwella ei pherfformiad a'i heffeithlonrwydd, a dysgu ffyrdd newydd a gwell o gyflawni ei dibenion. Bydd asesiad elusen o'i pherfformiad, ac effaith a chanlyniadau ei gwaith, yn bwydo i mewn i'w phrosesau cynllunio a bydd yn dylanwadu ar ei chyfeiriad yn y dyfodol.

Nodwedd 5: Sail ariannol gadarn a darbodus

Mae gan elusen effeithiol yr adnoddau ariannol a'r adnoddau eraill sydd eu hangen i gyflawni ei dibenion a'i chenhadaeth, ac mae'n eu rheoli a'u defnyddio er mwyn cyflawni ei photensial.

Nodwedd 6: Atebol a thryloyw

Mae elusen effeithiol yn atebol i'r cyhoedd ac eraill sydd â diddordeb yn yr elusen (rhanddeiliaid) mewn ffordd sy'n dryloyw ac yn ddealladwy.

Ch. Y Nodweddion

Nodwedd 1: Bod yn glir ynghylch ei dibenion a'i chyfeiriad

Mae elusen effeithiol yn glir ynghylch ei dibenion, ei chenhadaeth a'i gwerthoedd, ac yn eu defnyddio i lywio pob agwedd ar ei gwaith.

Er mwyn dangos hyn, mae'r elusen yn:

  • sicrhau bod ei chenhadaeth a'i gweithgareddau arfaethedig wedi'u cynnwys o fewn y dibenion a bennwyd yn ei dogfen lywodraethol;Symbol cyfreithiol
  • gweithredu gyda syniad clir o'i chenhadaeth, a'r strategaethau a'r camau y bydd yn eu cymryd i'w chyflawni, fel y pennwyd mewn dogfennau ysgrifenedig sy'n cael eu hadolygu'n gyson, gan roi ffocws, cyfeiriad ac eglurder i'r elusen;
  • gallu esbonio sut mae ei holl weithgareddau yn ymwneud â'i dibenion, ei strategaeth a'i chenhadaeth ac yn eu cefnogi, ac yn cynnig budd i'r cyhoedd;
  • adolygu'n rheolaidd a yw dibenion yr elusen fel y pennwyd yn ei dogfen lywodraethol yn gyfoes ac yn berthnasol i anghenion ei buddiolwyr;
  • gweithredu'n annibynnol ac yn cydnabod ei bod yn bodoli i ddilyn ei dibenion ei hun ac nid i gyflawni polisïau neu gyfarwyddiadau unrhyw gorff arall;Symbol cyfreithiol
  • ystyried cynaladwyedd yn y dyfodol - cydbwyso'r hyn sydd ei angen yn awr a'r hyn a fydd ei angen yn y dyfodol.

Nodwedd 2: Bwrdd cryf

Mae elusen effeithiol yn cael ei rhedeg gan fwrdd neu gorff ymddiriedolwyr hawdd ei adnabod sydd â'r cydbwysedd cywir o sgiliau a phrofiad, yn gweithredu er lles gorau'r elusen a'i buddiolwyr, yn deall ei chyfrifoldebau ac yn gweithredu systemau i'w hymarfer yn briodol.

Er mwyn dangos hyn, mae'r elusen yn:

  • sicrhau bod y corff ymddiriedolwyr wedi'i gyfansoddi yn unol â'r ddogfen lywodraethol;Symbol cyfreithiol
  • adnabod y cymysgedd o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sy'n ofynnol ar gyfer gweinyddu'r elusen yn effeithlon ac yn effeithiol a sicrhau bod recriwtio a phenodi ymddiriedolwyr newydd yn darparu cyfleoedd digonol ar gyfer ailasesu a gwireddu'r cymysgedd hwnnw;
  • corff ymddiriedolwyr sy'n briodol ar gyfer maint yr elusen - yn ddigon mawr i gynnwys y sgiliau a'r profiad sydd ei angen i redeg yr elusen yn effeithlon, ond yn ddigon bach i ganiatáu trafodaethau a gwneud penderfyniadau effeithiol;
  • dangos dealltwriaeth glir o rolau'r corff ymddiriedolwyr a staff gyda disgrifiadau rôl ar gyfer ymddiriedolwyr a swyddogion yr elusen (megis y Cadeirydd a'r Trysorydd);
  • sicrhau bod awdurdod dirprwyedig clir a phriodol gan bwyllgorau, staff ac asiantau'r elusen i ymgymryd â'u rolau dynodedig er mwyn cyflawni dibenion yr elusen. Hefyd mae systemau mewn lle ganddi ar gyfer monitro ac arolygu'r ffordd y mae pwerau dirprwyedig yn cael eu hymarfer;
  • ymgymryd â'r holl wiriadau priodol i sicrhau bod darpar ymddiriedolwr yn gymwys ac yn addas i weithredu yn y rhinwedd hwnnw. (Ar gyfer rhai elusennau gall fod gofyniad cyfreithiol i geisio datgeliadau CRB ar gyfer darpar ymddiriedolwyr (ac ymddiriedolwyr mewn swydd)Symbol cyfreithiol));
  • adnabod ac ateb anghenion sefydlu, hyfforddi a datblygu unigol ymddiriedolwyr a gweithredu fframwaith ar gyfer gwerthuso perfformiad y bwrdd ac ymddiriedolwyr;
  • sicrhau bod ei hymddiriedolwyr yn deall bod rhaid iddynt weithredu er lles yr elusen yn unig a bod unrhyw wrthdaro buddiannau yn cael eu hadnabod a'u rheoli;Symbol cyfreithiol
  • adnabod a chydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a cheisio cyngor proffesiynol lle y bo angen.Symbol cyfreithiol

Nodwedd 3: Addas i'r pwrpas

Mae strwythur, polisïau a gweithdrefnau elusen effeithiol yn ei galluogi i gyflawni ei dibenion a'i chenhadaeth a darparu ei gwasanaethau yn effeithlon.

Er mwyn dangos hyn, mae'r elusen yn:

  • adolygu ei dogfen lywodraethol yn gyson er mwyn sicrhau ei bod yn gyfoes a bod y pwerau sydd eu hangen arnynt gan yr ymddiriedolwyr i gyflawni dibenion yr elusen a rheoli ei hadnoddau'n effeithiol;
  • cymryd camau priodol i ddiogelu ei henw da ym mhob agwedd ar ei gwaith, yn enwedig wrth ddelio â buddiolwyr ac eraill sydd â budd yn yr elusen;
  • gweithredu polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod yr holl fuddiolwyr sy'n agored i niwed wedi'u diogelu rhag cael eu cam-drin;
  • adolygu ac asesu'n gyson y risgiau y mae'r elusen yn eu hwynebu ym mhob maes gwaith a'r cynlluniau ar gyfer rheoli'r risgiau hynny;
  • adolygu'n rheolaidd ei strwythurau, polisïau a gweithdrefnau i sicrhau eu bod yn parhau i gefnogi, ac yn ddigonol ar gyfer cyflawni dibenion a chenhadaeth yr elusen; mae'n cynnwys polisïau a gweithdrefnau sy'n delio â strategaethau, swyddogaethau a chyfrifoldebau'r bwrdd; arferion cyflogaeth da ac annog a defnyddio gwirfoddolwyr;
  • adnabod, hybu a gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth buddiolwyr, staff a gwirfoddolwyr, ac ym mhob agwedd ar ei gweithgaredd;
  • ystyried a allai cydweithredu a phartneriaeth (gan gynnwys y posibilrwydd o uno) â sefydliadau eraill wella effeithlonrwydd, y defnydd o arian a'r ddarpariaeth well o fuddiannau a gwasanaethau i fuddiolwyr.

Nodwedd 4: Dysgu a gwella

Mae elusen effeithiol bob amser yn ceisio gwella ei pherfformiad a'i heffeithlonrwydd, a dysgu ffyrdd newydd a gwell o gyflawni ei dibenion. Bydd asesiad elusen o'i pherfformiad, ac effaith a chanlyniadau ei gwaith, yn llywio ei phrosesau cynllunio a bydd yn dylanwadu ar ei chyfeiriad yn y dyfodol.

Er mwyn dangos hyn, mae'r elusen yn:

  • ystyried sut i adnabod, mesur a dysgu o gyraeddiadau’r elusen, ei heffeithiau a'i chanlyniadau, gan gynnwys yr effeithiau cadarnhaol a negyddol y mae'n eu cael ar fuddiolwyr, ar eraill sydd â budd yn yr elusen a'r gymuned ehangach;
  • gosod targedau cyraeddadwy a dangosyddion ar gyfer mesur a gwerthuso llwyddiant a gwelliant yn eu herbyn yn seiliedig ar ddibenion yr elusen, anghenion ei buddiolwyr, ansawdd ei gwasanaethau a'r adnoddau sydd ar gael;
  • croesawu a gweithredu ar adborth (cadarnhaol yn ogystal â heriol) gan ei buddiolwyr a phobl eraill sydd â diddordeb yn yr elusen am y gwasanaethau y mae'n eu darparu a'r meysydd y gellid eu gwella;
  • ystyried ac asesu ffyrdd arloesol a chreadigol o weithio tuag at gyflawni ei diben a'i nodau;
  • adnabod tueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn yr amgylchedd lle y mae'n gweithredu a defnyddio'r wybodaeth hon fel rhan o'i phrosesau cynllunio;
  • adnabod a defnyddio cyfleoedd i ddylanwadu ar yr amgylchedd y mae'n gweithio ynddo er mwyn hwyluso ei chenhadaeth a'i dibenion, dilyn y gyfraith ac arferion da wrth ymgyrchu neu lobïo;
  • peidio â bod yn hunanfodlon ond yn hytrach ymgymryd â phroses o welliant parhaus, gan ddefnyddio technegau ac offer sy'n gweddu orau i'w maint a'i gweithgareddau, megis systemau ansawdd a gydnabyddir a meincnodi, er mwyn gwella ei pherfformiad ei hun yn y dyfodol;
  • dangos parodrwydd i rannu arferion da gydag eraill.

Nodwedd 5: Sail ariannol gadarn a darbodus

Mae gan elusen effeithiol yr adnoddau ariannol a'r adnoddau eraill sydd eu hangen i gyflawni ei dibenion a'i chenhadaeth, ac mae'n eu rheoli a'u defnyddio i gyrraedd ei photensial llawn.

Er mwyn dangos hyn, mae'r elusen yn:

  • gweithredu polisïau i reoli ei chronfeydd wrth gefn, ei buddsoddiadau a'i benthyca, gan geisio cyngor proffesiynol pan fydd ei angen;
  • integreiddio cynllunio ariannol gyda chynllunio a rheolaeth sefydliadol ehangach, gan sicrhau bod cronfeydd ar gael pan fydd eu hangen ar yr elusen ac yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol i gynnig budd i'r elusen;
  • sicrhau cynaladwyedd ariannol trwy reoli llif arian a monitro ac adolygu perfformiad ariannol yn ystod y flwyddyn, gan gymryd camau cywirol amserol lle y bo angen;
  • ystyried ffynonellau ei hincwm a rhoi strategaeth ar waith i godi'r cronfeydd sydd eu hangen - amrywio ei ffynhonnell incwm cyn belled â phosibl;
  • adolygu ei strategaethau a gweithgareddau codi arian er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau arfer da, gan ystyried unrhyw faterion moesegol perthnasol;
  • ymwybodol o'r risgiau ariannol sy'n gysylltiedig â mentrau presennol a newydd a rheoli'r risg o golled, gwastraff a thwyll trwy gael rheolaethau a gweithdrefnau ariannol cadarn;
  • strwythuro gweithgareddau’r elusen mewn ffordd dreth-effeithlon a chadw i'r lleiaf posibl y risg gweithredol i'r elusen o weithgareddau masnachu;
  • paratoi ei Hadroddiad Blynyddol a chyfrifon yn unol â gofynion arfer da, a bodloni'r gofynion cyfreithiol ar gyfer ei chwblhau mewn pryd.Symbol cyfreithiol

Nodwedd 6: Atebol a thryloyw

Mae elusen effeithiol yn atebol i'r cyhoedd ac eraill sydd â diddordeb yn yr elusen (rhanddeiliaid) mewn ffordd sy'n dryloyw ac yn ddealladwy.

Er mwyn dangos hyn, mae'r elusen yn:

  • cydymffurfio â'i rhwymedigaethau cyfreithiol (ac arferion gorau), fel y pennwyd yn y Datganiad o Arferion Cymeradwy (SORP), i gynhyrchu cyfrifon ac adroddiad blynyddol sy'n cynnwys esboniad o'r hyn y mae'r elusen wedi'i wneud er budd cyhoeddus yn ystod y flwyddyn;Symbol cyfreithiol
  • esbonio yn ei Hadroddiad Blynyddol i ba raddau y mae wedi cyflawni ei dibenion elusennol mewn ffordd y gall pobl sydd â budd yn yr elusen ei ddeall;
  • dilyn gweithdrefnau sydd wedi'u hysbysebu'n dda, effeithiol ac amserol ar gyfer delio â chwynion am yr elusen a'i gweithgareddau. Dylai'r rhain esbonio sut i gwyno ac apelio, a rhoi manylion am y broses a'r amserlenni tebygol;
  • gallu dangos sut y mae'n cynnwys buddiolwyr a defnyddwyr gwasanaeth wrth ddatblygu a gwella ei gwasanaethau; gallai'r cyfraniad fod trwy benodi buddiolwyr fel ymddiriedolwyr neu eu cynnwys drwy drafodaethau, ymgynghori neu fewnbwn gan grŵp defnyddwyr;
  • gweithredu cynllun cyfathrebu sy'n sicrhau bod gwybodaeth amserol a chywir yn cael ei rhoi i bawb sydd â budd yng ngwaith yr elusen, gan gynnwys y cyfryngau, rhoddwyr a buddiolwyr.

D. Gwybodaeth bellach a chyngor

D1. Cyhoeddiadau allweddol y Comisiwn Elusennau

Mae'r Comisiwn Elusennau yn cynhyrchu ystod eang o gyhoeddiadau a chanllawiau ar y wefan sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i ymddiriedolwyr elusen a'r cyhoedd ar nifer o faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith elusennau a rheoleiddio. Mae'r rhestr lawn o gyhoeddiadau i'w gweld ar ein gwefan ac yn ein llyfryn Cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau (CC1), ond mae'r rhestr isod yn ddetholiad ohonynt yn seiliedig ar rai o'r materion a drafodir yn y canllaw hwn.

Rydym hefyd wedi rhestru rhai sefydliadau eraill y gellir eu defnyddio fel ffynonellau gwybodaeth.

  • Canllaw

Elusennau a Rheoli Risg
Amddiffyn Plant
Gwrthdaro Buddiannau

  • Cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau a Chodau Archeb

Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod (CC3)
Rheolaethau Ariannol Mewnol i Elusennau (CC8)
Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9)
Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: yr hanfodion Ebrill 2008 (CC15a )
Elusennau a Chodi Arian (CC20)
Cael Hyd i Ymddiriedolwyr Newydd: Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr wybod (CC30)
Cwynion am Elusennau (CC47)

I gael copïau o'r rhain neu unrhyw un arall o'n cyhoeddiadau gallwch naill ai:

  • edrych arnynt a'u hargraffu o'n gwefan www.charitycommission.gov.uk;
  • eu harchebu yn ystod oriau agor - Llun - Gwener 08:00 -20:00 a 09:00 -13:00 ar ddydd Sadwrn drwy ffonio ni ar 0845 300 0218; neu
  • ysgrifennu at y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol, Blwch SP 1227, Lerpwl, L69 3UG

D2. Ffynonellau eraill o wybodaeth ddefnyddiol

Codau a safonau

Llywodraethu Da: Cod ar gyfer y sector gwirfoddol a chymunedol ('y Cod').

Cynhyrchwyd y Cod mewn partneriaeth rhwng acevo, CTN, NCVO a ICSA (am fanylion gweler isod o dan Sefydliadau) gyda chyngor a chymorth gan y Comisiwn a mewnbwn gan gyrff sector eraill. Cafodd ei gynhyrchu gan y sector, i'r sector, ac mae'n ceisio egluro'r egwyddorion y tu ôl i lywodraethu da a helpu'r sector wrth wneud penderfyniadau, bod yn atebol a gwaith byrddau.

Cafodd y Cod ei hybu trwy'r National Hub of Expertise in Governance. Ers ei gau, mae'r grŵp sefydlu gwreiddiol wedi ailafael yn y cyfrifoldeb dros hybu a datblygu'r Cod. Gallwch lwytho i lawr copïau o'r cod o:

www.ncvo-vol.org.uk/workarea/linkit.aspx?LinkIdentifier=id&ItemID=3837 neu www.trusteenet.org.uk/resources/2047

Hefyd gallwch archebu copïau o'r Cod gan NCVO (codir tâl).

Y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymddiriedolwyr ac Aelodau Pwyllgorau Rheoli

Mae'r safonau ar gael ar y wefan isod. Mae'r safonau yn ategu'r Cod Llywodraethu ac wedi'u hanelu at ymddiriedolwyr unigol ond mae'r Cod a'r Nodweddion wedi'u hanelu at fyrddau ymddiriedolwyr cyfan a'r sefydliadau y maent yn eu llywodraethu.

Gwefan: www.governancehub.org.uk

Termau allweddol

Mae gwefan Charities Evaluation Services (manylion llawn isod) yn cynnwys rhestr o dermau allweddol y gall fod yn ddefnyddiol i elusennau pan fyddant yn ystyried codau a safonau eraill.

Sefydliadau

Association of Charitable Foundations (ACF)

ACF yw'r brif gymdeithas aelodaeth ar gyfer ymddiriedolaethau a sefydliadau rhoi grantiau yn y DU. Rhown gymorth a chefnogaeth i ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol, rydym yn cynrychioli eu buddiannau ac yn hybu arferion da ym maes rhoi grantiau.

Association of Charitable Foundations (ACF)
Central House
14 Upper Woburn Place
Llundain
WC1H 0AE
Ffôn: 020 7255 4499
E-bost
Gwefan: www.acf.org.uk

Association of Chief Executives of Voluntary Organisations (acevo)

Mae acevo yn sefydliad proffesiynol ar gyfer prif weithredwyr yn y sector gwirfoddol. Mae'n cynnig cymorth, cyngor a chyfleoedd datblygu iddynt gyda'r nod o godi safonau o fewn y sector gwirfoddol trwy wella proffesiynoldeb ac arbenigedd prif weithredwyr.

acevo
1 New Oxford Street
Llundain
WC1A 1NU
Ffôn: 0845 345 8481
E-bost
Gwefan: www.acevo.org.uk

Black Training and Enterprise Group (BTEG)

Mae BTEG yn elusen genedlaethol sy'n gweithio i wella'r cyfleoedd a'r canlyniadau ar gyfer pobl a chymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig. Mae ei wasanaethau'n cynnwys cyngor a chymorth, datblygu safonau, gwybodaeth, lobïo, ymchwil a hyfforddiant.

Black Training and Enterprise Group
2nd Floor, Lancaster House
31-33 Islington High Street
Llundain
N1 9LH
Ffôn: 020 7843 6110
E-bost
Gwefan: www.bteg.co.uk

The Compact

Mae'r Compact yn gytundeb rhwng y Llywodraeth a'r sector gwirfoddol a chymunedol yn Lloegr. Mae'r Compact a'i Godau Ymarfer yn darparu cyfres ddefnyddiol o egwyddorion i elusennau ei dilyn pan fyddant yn ymwneud â chysylltiau gwaith (cyllido neu fel arall) gyda'r llywodraeth. Os yw elusen yn dilyn (ac, yn ddelfrydol, yn dyfynnu) yr egwyddorion hyn mewn unrhyw gysylltiadau sydd ganddi â'r llywodraeth, mae'r elusen ar sail llawer cryfach i fyny bod y llywodraeth yn eu dilyn yn gyfnewid am hyn. The Commission for the Compact yw'r corff annibynnol sy'n gyfrifol am arolygu'r Compact.

Commission for the Compact
77 Paradise Circus Queensway
Birmingham
B1 2DT
Ffôn: 0121 2375900
E-bost
Gwefan: www.thecompact.org.uk

Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO)

Mae NCVO yn darparu ystod eang o wybodaeth a gwasanaethau cymorth i'r rhai sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol, gan gynnwys cyhoeddiad ar sefydlu a chefnogi ymddiriedolwyr.

Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO)
Regents Wharf
8 All Saints Street
Llundain N1 9RL
Ffôn: 020 7713 6161
Ffacs: 020 7713 6300
Desg gymorth: 0800 2798 798
E-bost
Gwefan: www.ncvo-vol.org.uk

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Mae WCVA yn cynrychioli buddiannau, ac yn ymgyrchu dros gyrff gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau yng Nghymru. Mae'n darparu ystod gynhwysfawr o wybodaeth, gwasanaethau ymgynghori, cyllid a gwasanaethau rheolaeth a hyfforddiant sy'n cynnig gwefan llywodraethu arbennig, cynhadledd a chylchlythyr. Gall elusennau ddefnyddio gwefan WCVA i gael hyd i'w Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) agosaf.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Tŷ Baltig
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FH
Ffôn: 029 2043 1700
Llinell gymorth: 0870 607 1666
Gwefan: www.wcva.org.uk
Gwefan Llywodraethu: www.trusteewales.org.uk

Cymdeithas Genedlaethol Gweithredu Cymunedol a Gwirfoddol (NAVCA)

Gall elusennau lleol ddefnyddio gwefan NAVCA i gael hyd i'w sefydliad seilwaith lleol agosaf. NAVCA yw llais cenedlaethol seilwaith trydydd sector lleol yn Lloegr. Mae ei aelodau'n gweithio gyda 164,000 o grwpiau a sefydliadau trydydd sector lleol sy'n darparu gwasanaethau cymunedol, yn adfywio cymdogaethau, yn hybu gwirfoddoli ac yn ymdrin â gwahaniaethu mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus lleol.

Cymdeithas Genedlaethol Gweithredu Cymunedol a Gwirfoddol (NAVCA)
The Tower
2 Furnival Square
Sheffield
S1 4QL
Ffôn: 0114 278 6636
E-bost
Gwefan: www.navca.org.uk

Charities Evaluation Services (CES)

Mae CES yn elusen a sefydlwyd i gynyddu effeithiolrwydd y sector gwirfoddol drwy ddatblygu ei defnydd o systemau gwerthuso ac ansawdd a gall helpu gyda gosod nodau ac amcanion, egluro'r canlyniadau a'r effaith a fwriedir, hyfforddiant, cyngor a chymorth gyda systemau ansawdd (megis PQASSO) a monitro a gwerthuso.

Charities Evaluation Services
4 Coldbath Square
Llundain
EC1R 5HL
Ffôn: 020 7713 5722
E-bost
Gwefan: www.ces-vol.org.uk

Charity Finance Directors' Group (CFDG)

Mae CFDG yn sefydliad aelodaeth sy'n arbenigo mewn cynorthwyo elusennau i reoli eu cyfrifon, materion treth, archwilio a swyddogaethau cyllid cysylltiedig eraill. The Charities Resource Network yw gwasanaeth gwybodaeth ar-lein CFDG.

Charity Finance Directors' Group
3rd Floor
Downstream Building
1 London Bridge
Llundain
SE1 9BG
Ffôn: 0845 345 3192
E-bost
Gwefan: www.cfdg.org.uk

Charity Trustee Networks (CTN)

CTN yw'r sefydliad cenedlaethol ar gyfer ymddiriedolwyr sy'n hwyluso, rhwydweithiau ac yn darparu adnoddau a chymorth i helpu ymddiriedolwyr fagu hyder a chynyddu eu heffeithiolrwydd.

Charity Trustee Networks
3-4 Frensham Suite
Friary Court
13-21 High Street
Guildford
GU1 3DG
Ffôn: 01483 230280
E-bost
Gwefan: www.trusteenet.org.uk

Directory of Social Change (DSC)

Mae'r DSC yn hybu newid cymdeithasol cadarnhaol ac yn darparu ystod eang o adnoddau i ymddiriedolwyr gan gynnwys hyfforddiant a chyhoeddiadau.

Llundain
24 Stephenson Way
Llundain
NW1 2DP

Ffôn: 0845 077 7707
Gwefan: www.dsc.org.uk

Hyfforddiant a Digwyddiadau Llundain: E-bost

Lerpwl
Federation House
Hope Street
Lerpwl
L1 9BW

Lerpwl: E-bost

Fundraising Standards Board

Mae FSB yn ymdrin â chwynion gan y cyhoedd ynghylch sut mae ei aelodau'n codi arian. Mae aelodau'n dilyn cyfres o godau ymddygiad a rhaid iddynt gytuno i ddilyn proses gwyno annibynnol, gadarn a thryloyw.

Fundraising Standards Board
Hampton House
20 Albert Embankment
Llundain
SE1 7TJ
Ffôn: 0845 402 5442
E-bost
Gwefan: www.frsb.org.uk

The Institute of Chartered Secretaries and Administrators (ICSA)

Y corff proffesiynol ar gyfer ysgrifenyddion siartredig. Mae ICSA yn hybu arferion gorau ac yn darparu arweiniad ar lywodraethu da. Mae ICSA yn cynnig cymhwyster proffesiynol sy'n cwmpasu busnes, y gyfraith cwmnïau, llywodraethu corfforaethol, rheolaeth, cyllid/cyfrifyddu, gweinyddu ac arferion ysgrifenyddol cwmni.

ICSA
16 Park Crescent
Llundain W1B 1AH
Ffôn: 020 7580 4741
Ffacs: 020 7323 1132
E-bost
Gwefan: www.icsa.org.uk

Institute of Fundraising

Y corff proffesiynol sy'n cynrychioli codwyr arian yn y DU. Ei genhadaeth yw cefnogi codwyr arian trwy arweinyddiaeth, cynrychiolaeth, gosod safonau ac addysg i sicrhau codi arian gwych.

Institute of Fundraising
Park Place
12 Lawn Lane
Llundain
SW8 1UD
Ffôn: 020 7840 1000
Ffacs: 020 7840 1001
Gwefan: www.institute-of-fundraising.org.uk