Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
I gynorthwyo elusennau heb fod yn gwmni sy'n is na'r trothwy archwilio i baratoi adroddiadau blynyddol yr ymddiriedolwyr a chyfrifon ar sail croniadau, rydym wedi cynhyrchu pecynnau sy'n darparu templedi ar gyfer y dogfennau hyn. Os ydych yn eu cwblhau'n gyflawn byddant yn bodloni argymhellion SORP 2005 a gofynion y gyfraith a gellir eu defnyddio i'w cyflwyno i'r Comisiwn Elusennau.
Mae'r dogfennau yn yr adran hon ar gyfer yr elusennau hynny sy'n paratoi cyfrifon croniadau sy'n cynnwys mantolen, datganiad o weithgareddau ariannol a nodiadau.
Gall elusennau heb fod yn gwmni gydag incwm o dan £100,000 baratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau symlach ac mae pecynnau templed ar gyfer hyn ar gael fel CC16.
Mae nodiadau cwblhau ar gael mewn fformat PDF.
Mae'r dogfennau pro forma ar gael mewn ffurf ar gyfer eu hargraffu a'u cwblhau â llaw (fformat 'PDF').
Fel dewis arall i lwytho i lawr y ffurflenni a'r nodiadau o'r rhyngrwyd, gallwn ddarparu pecyn o'r holl ffurflenni uchod i'w cwblhau. Gall ymddiriedolwyr gael y rhain drwy:
| Nifer | Enw'r Ddogfen | Fformatau ar gael |
|---|---|---|
| Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol | ||
| Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr | ||
| Nodiadau cwblhau ar gyfer Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr | ||
| CC17a | Cyfrifon Croniadau | |
| CC17b | Nodiadau cwblhau ar gyfer Cyfrifon Croniadau |