Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

Pecyn Cyfrifon Croniadau (CC17) a (CC39)

I gynorthwyo elusennau sydd heb fod yn gwmnïau sy'n is na'r trothwy archwilio i baratoi adroddiadau blynyddol yr ymddiriedolwyr a chyfrifon ar sail croniadau, rydym wedi cynhyrchu dau becyn sy'n darparu templedi ar gyfer y dogfennau hyn. Os ydych yn cwblhau un o'r rhain yn gyflawn byddant yn bodloni argymhellion SORP 2005 a gofynion y gyfraith, a gellir eu defnyddio i'w hanfon i'r Comisiwn Elusennau.

Mae CC39 yn addas ar gyfer elusennau sydd am ddadansoddi eu dulliau adrodd ariannol gan ddefnyddio categorïau naturiol. Dyma'r mathau o benawdau incwm a gwariant a ddylai fod yng nghofnodion ariannol yr endid, ee incwm grant, rhoddion, costau cyflog, costau eiddo ac ati.

Mae CC17 yn addas i elusennau sy'n dymuno dadansoddi eu gwariant yn ôl gweithgaredd elusennol.

Mae'r dogfennau yn yr adran hon ar gyfer yr elusennau hynny sy'n paratoi cyfrifon croniadau sy'n cynnwys mantolen, datganiad o weithgareddau ariannol a nodiadau.

Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy'n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009, gall elusennau sydd heb fod yn gwmnïau gydag incwm gros o £250,000 neu lai baratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau symlach. Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dod i ben cyn 1 Ebrill 2009 ceir trothwy incwm gros is, sef £100,000 ac os yw'r incwm gros yn fwy na hyn mae'n rhaid paratoi cyfrifon croniadau. Gall elusennau sydd heb fod yn gwmnïau sy'n dewis paratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau ddefnyddio ein pecynnau templed, sef CC16.

Mae nodiadau cwblhau ar gael mewn fformat PDF.

Mae'r dogfennau pro forma ar gyfer pob fersiwn ar gael:

  • mewn ffurf ar gyfer eu hargraffu a'u cwblhau â llaw (fformat 'PDF') ac
  • fel taenlenni Microsoft Excel (ar gyfer cyfrifon) neu ffeiliau prosesu geiriau (fformat Microsoft Word .doc) i'w lawrlwytho a'u cwblhau ar gyfrifiadur.
Rhif Enw'r Ddogfen Fformatau ar gael
  Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol Word PDF
  Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr Word PDF
  Nodiadau cwblhau ar gyfer Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr   PDF
CC17a Cyfrifon Croniadau yn ôl gweithgareddau elusennol Excel PDF
CC17b Nodiadau cwblhau ar gyfer Cyfrifon Croniadau i gyd-fynd â CC17a   PDF
CC39a Cyfrifon croniadau yn ôl categori naturiol Excel PDF
CC39b Nodiadau cwblhau ar gyfer cyfrifon croniadau i gyd-fynd â CC39a   PDF

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis