(Version 07/01)
Cynnwys
Am beth mae'r canllaw hwn?
1. Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut y gellir defnyddio neuadd eglwys
ar gyfer dibenion elusennol eraill os nad oes mo'i hangen mwyach at
ddibenion eglwysig yn unig. Mae hefyd yn esbonio'r dewisiadau sydd gan
ymddiriedolwyr os nad oes unrhyw angen i'r eiddo gael ei ddefnyddio
mwyach ar gyfer y dibenion y bwriadwyd iddo gael ei ddefnyddio yn wreiddiol.
2. Mae'r canllaw yn ymdrin yn bennaf â sefyllfa neuaddau eglwysi
rhydd-ddaliad. Os yw'r eiddo yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr
y neuadd eglwys dan brydles ac nid oes angen y neuadd mwyach at ddibenion
eglwysig, bydd angen i'r ymddiriedolwyr ystyried telerau'r brydles.
Mae'n bosib y bydd rhaid iddynt hefyd ymgynghori â'r rhydd-ddeiliad
ynglyn ag unrhyw newid yn nefnydd yr adeilad (gweler paragraff
8 isod). Er hynny, gall cynnwys y canllaw hwn fod yn berthnasol
o hyd yn yr amgylchiadau hyn.
3. Nid yw'r canllaw hwn yn ymwneud â'r defnydd achlysurol
o neuadd eglwys ar gyfer dibenion eraill. Fe'i lluniwyd i ddelio â
newidiadau mewn defnydd mwy tymor hir.
Ystyr geiriau neu ymadroddion a ddefnyddir
4. Yn y canllaw hwn:
Ystyr Deddf 1993 yw Deddf
Elusennau 1993.
Ystyr neuadd eglwys yw unrhyw adeilad sydd, yn ôl ei ymddiriedolaethau,
i'w ddefnyddio ar gyfer dibenion eglwysig.
Mae defnydd ar gyfer dibenion eglwysig yn golygu defnydd ar
gyfer unrhyw ddiben sy'n hyrwyddo crefydd, gan gynnwys defnydd gan sefydliadau
sy'n gysylltiedig â'r eglwys. Er enghraifft, defnyddio'r eiddo
ar gyfer:
- dathlu Gwasanaeth Dwyfol;
- gweithgareddau efengylaidd;
- dosbarthiadau bedydd;
- gwyliau crefyddol;
- Ysgolion Sul;
- cyfarfodydd clerigwyr; a
- gweithgareddau sy'n ymwneud â gwasanaethau crefyddol (e.e.
gwleddoedd priodas).
Gall hefyd gynnwys cyfarfodydd
- y brownis, y cybiaid, y geidiau a'r sgowtiaid; a
- chlybiau a chymdeithasau eglwysig (e.e. Undeb y Mamau).
Ystyr dogfen lywodraethol yw unrhyw ddogfen sy'n pennu dibenion
yr elusen ac, fel arfer, y dull o'i gweinyddu. Gall fod yn weithred
ymddiriedolaeth, yn gyfansoddiad, yn drawsgludiad, yn ewyllys neu'n
Gynllun gan y Comisiynwyr.
Ystyr ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusennau. Ymddiriedolwyr
elusennau yw'r bobl sy'n gyfrifol, dan ddogfen lywodraethol yr elusen,
am reolaeth a gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. Mae gan rai elusennau
ymddiriedolwr gwarchodaeth (neu yn achos Eglwys Loegr, awdurdod
esgobaethol) ac fe gyfyngir eu swyddogaeth dan y ddogfen lywodraethol
i ddal eiddo'r elusen. Nid oes gan yr ymddiriedolwr gwarchodaeth unrhyw
bwer i wneud penderfyniadau rheolaeth ac mae'n rhaid iddo weithredu
yn ôl cyfarwyddyd cyfreithiol ymddiriedolwyr yr elusen. Yn aml
iawn yn Eglwys Loegr, Cyngor yr Eglwys Blwyf fydd ymddiriedolwyr elusen
neuadd eglwys a'r Bwrdd Cyllid Esgobaethol fydd yr awdurdod esgobaethol.
Ystyr ymddiriedolaethau elusen yw'r darpariaethau a gynhwysir
yn y ddogfen lywodraethol. Os oes tir, ac nid oes unrhyw ddogfen lywodraethol
ffurfiol, gall yr ymddiriedolaethau gael eu dehongli o'r modd y cafodd
y tir ei ddefnyddio.
Rhan I: Neuaddau eglwysi sydd eu hangen
at ddefnydd yr eglwys a defnyddiau elusennol eraill
Pryd gall neuadd eglwys gael ei defnyddio
ar gyfer dibenion elusennol eraill?
5. Weithiau gall ymddiriedolwyr neuadd eglwys ganfod:
- nad oes angen y neuadd trwy'r amser ar gyfer dibenion eglwysig,
er bod ei hangen ar sail achlysurol a rheolaidd;
- nad oes digon o arian ganddynt i gynnal y neuadd neu ei gwella i
safonau derbyniol;
- bod y gymuned angen y neuadd ar gyfer defnydd elusennol ychwanegol,
nad yw'n cael ei ystyried yn ddiben eglwysig, megis ar gyfer neuadd
bentref neu ganolfan ieuenctid.
6. Os mai dyma yw'r achos, oni bai fod dogfen lywodraethol yr elusen
yn caniatáu defnyddio'r eiddo ar gyfer dibenion an-eglwysig,
ni all yr ymddiriedolwyr ganiatáu i'r neuadd gael ei defnyddio
ar gyfer diben elusennol arall. Y rheswm am hyn yw oherwydd eu bod yn
gaeth i'r ymddiriedolaethau y mae'r neuadd yn cael ei dal arnynt h.y.
i'w defnyddio ar gyfer dibenion eglwysig yn unig.
7. Er hynny, os yw'r ymddiriedolwyr yn canfod nad oes unrhyw ddefnydd
eglwysig go iawn mwyach ar gyfer yr eiddo mae'n rhaid iddynt
ystyried gwerthu neu osod y neuadd ar y farchnad agored (gweler Rhan
II o'r canllaw hwn).
Sut y gellir newid defnydd?
8. Os yw ymddiriedolwyr neuadd eglwys yn dal prydles
y neuadd sydd ond yn caniatáu defnyddio'r eiddo fel neuadd eglwys,
bydd angen iddynt ystyried:
- trafod amrywiad yn y brydles gyda'r landlord i ganiatáu newid
defnydd; neu
- roi'r gorau i'r brydles sy'n bodoli eisoes a thrafod un newydd.
9. Os yw rhydd-ddaliad y neuadd yn cael ei ddal gan yr ymddiriedolwyr
ar ymddiriedolaeth i'w defnyddio fel neuadd eglwys, bydd angen i'r ymddiriedolwyr
ystyried a yw'r eiddo yn destun unrhyw gyfamod sy'n cyfyngu ei defnydd.
Os yw, mae'n bosib y bydd angen i'r ymddiriedolwyr geisio amrywiad o'r
cyfamod.
10. Yn y ddau achos bydd angen i'r ymddiriedolwyr geisio cyngor cyfreithiol
ar unrhyw newid yn eu gweithredoedd eiddo.
11. Ar wahân i'r cwestiwn o eiddo, bydd angen i'r ymddiriedolwyr
ystyried a oes angen ein caniatâd ar gyfer y newid defnydd. Oni
bai fod ymddiriedolaethau'r elusen yn rhoi pwer diwygio i'r ymddiriedolwyr,
fel rheol bydd unrhyw newid yn ymddiriedolaethau elusen angen ein sêl
bendith ni. Os oes gan ymddiriedolwyr bwer diwygio, mae'n rhaid i unrhyw
newid yn nefnydd neuadd eglwys gael ei weithredu yn unol â'r pwer
hwnnw.
12. Os yw'r neuadd eglwys yn cael ei dal gan yr ymddiriedolwyr dan
brydles, gellir gweithredu amrywiad yn nhelerau'r brydles yn unol ag
un o'r dewisiadau a nodir ym mharagraff 8, ond mae'n
bosib y bydd angen ein cymeradwyaeth ar gyfer yr amrywiad trwy gyfrwng
Gorchymyn neu Gynllun, a dylid ymgynghori â ni cyn cymryd unrhyw
gamau cyfreithiol terfynol.
13. Os yw'r ymddiriedolwyr yn dal rhydd-ddaliad y neuadd eglwys, bydd
rhaid i unrhyw newid yn yr ymddiriedolaethau sy'n nodi defnydd o'r neuadd
gael ei wneud trwy Gynllun. Bydd y Cynllun yn awdurdodi ymddiriedolwyr
y neuadd eglwys i ganiatáu defnydd ehangach neu roi'r neuadd
ar les i elusen briodol arall. Yn achos prydles mae'n bosib y bydd angen
ystyried os yw adrannau 36 a 37 o Ddeddf 1993 yn berthnasol i'r weithred
neu beidio; mae ein canllaw Gwerthu Tir Elusennau
(CC28) yn ymdrin â'r adrannau hyn o Ddeddf 1993 yn fanwl.
Bydd rhaid i unrhyw brydles ddilyn y telerau a osodwyd ym mharagraffau
20 i 26 isod.
14. Mae'n bwysig nodi na ellir rhoi prydles hyd nes bod Cynllun wedi'i
lunio.
15. Yn ogystal â chael ein caniatâd ar gyfer unrhyw brydles
neu werthu eiddo, mae'n bosib y bydd angen i ymddiriedolwyr neuadd eglwys
gael caniatâd ffurfiol yr awdurdod esgobaethol. Er enghraifft,
os yw'r eiddo yn cael ei ddal gan gyngor yr eglwys blwyf dan adran 6(3)
Mesur (Pwerau) Cyngor yr Eglwys Blwyf 1956, neu (yn fwy anaml) dan Fesur
Periglorion a Wardeniaid Eglwysi (Ymddiriedolaethau) 1964.
Beth fydd Cynllun yn ei wneud?
16. Bydd y Cynllun yn darparu awdurdod i'r ymddiriedolwyr naill
ai caniatáu defnydd helaethach o'r neuadd eglwys neu roi'r eiddo
ar les, ar yr amod y bydd y dalwyr prydles yn ei defnyddio ar gyfer
y diben elusennol penodol yn unig (er enghraifft, fel neuadd bentref).
Fel rheol bydd y Cynllun hefyd yn nodi, lle y bo'n briodol:
- y defnyddiau ychwanegol;
- cyfnod y brydles;
- y rhent sydd i'w dalu;
- y diwrnodau a/neu'r achlysuron y cedwir defnydd o'r eiddo i ymddiriedolwyr
y neuadd eglwys heb dâl; a
- sut y bydd y rhent neu daliad arall sy'n ddyladwy i ymddiriedolwyr
y neuadd eglwys yn cael eu cymhwyso ganddynt ar gyfer dibenion elusennol
eraill.
17. Bydd y Cynllun yn ffurfio rhan o ddogfen lywodraethol yr elusen
neuadd eglwys, ond dylai ymddiriedolaethau yr elusen sy'n dal y brydles
gael eu hamlinellu mewn dogfen ar wahân (a allai fod yn yr atodiad
i'r brydles ei hun).
Sut mae'r elusen neuadd eglwys yn elwa
o roi prydles i elusen an-eglwysig?
18. Prif bwrpas rhoi prydles o'r fath (yn hytrach na gwerthu'r eiddo
neu ei osod yn llwyr fel buddsoddiad) yw cadw defnydd o'r eiddo ar gyfer
dibenion eglwysig ar adegau arbennig. Mae prydles o'r fath hefyd yn
cadw'r adeilad yn ddiogel (naill ai drwy gyfamodau cynnal a chadw neu
godi rhent priodol) ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol pe byddai ei angen
unwaith eto ar gyfer dibenion eglwysig ehangach. Yn y cyfamser, mae'n
golygu bod adeilad nad yw'n gallu cael ei gynnal yn iawn neu ei wella
i safonau modern gan ymddiriedolwyr y neuadd eglwys yn cael ei ddefnyddio'n
llawn.
19. Dylid rhoi prydles pan nad yw ymddiriedolwyr y neuadd eglwys yn
dymuno cadw cyfrifoldeb dros gynnal a chadw'r neuadd neu nid ydynt am
fod yn brif ddefnyddiwr mwyach. Mewn achosion eraill gall estyniad syml
yn nefnydd yr eiddo fod yn fwy priodol.
Pa ddarpariaethau ddylai prydles eu
cynnwys?
20. Fel rheol ddylai prydles:
- gynnwys darpariaethau addas ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw'r
eiddo a'r dalwyr prydles yn talu rhent amdano;
- galluogi ymddiriedolwyr y neuadd eglwys i godi'r rhent gorau y gellir
yn rhesymol ei gael gan ystyried y defnydd neilltuedig ar gyfer dibenion
elusennol a rhwymedigaethau'r dalwyr prydles dan y brydles;
- sicrhau bod ymddiriedolwyr y neuadd eglwys yn cadw'r hawl i ddefnyddio'r
eiddo, yn rhad ac am ddim, ar ddiwrnodau penodol a/neu ar nifer penodol
o achlysuron;
- cynnwys cyfamod yn erbyn trosglwyddo'r brydles neu'r dalwyr prydles
yn gosod yr eiddo yn rhy rad; a
- darparu i'r dalwyr prydles gael cyfrifoldeb ariannol dros atgyweirio
a chynnal a chadw'r neuadd.
21. Dylai ymddiriedolwyr y neuadd eglwys roi cyfarwyddyd clir a sicrhau
eu bod yn cymryd cyngor proffesiynol annibynnol gan, er enghraifft,
cyfreithwyr a syrfewyr wrth ystyried telerau unrhyw brydles y byddant
yn ei rhoi.
Pa mor hir ddylai'r brydles bara?
22. Fel rheol dylai'r brydles bara am gyfnod o ddim mwy na 35 blynedd,
gyda dim dewis i adnewyddu. Bydd hyn yn caniatáu i'r dalwyr prydles
wneud cais am gymorth grant yr awdurdod lleol i wella neu atgyweirio'r
eiddo os oes angen.
23. Os yw'r dalwyr prydles yn bwriadu gwario symiau mawr o arian (swm
gormodol ar gyfer prydles 35 blynedd) ar yr eiddo, rydym yn cydnabod
ei fod yn rhesymol y dylent fwynhau sicrwydd daliadaeth am gyfnod hwy.
Mewn amgylchiadau o'r fath dylai ymddiriedolwyr y neuadd eglwys:
- geisio cyngor proffesiynol ynglyyn â hyd y tymor a roddir
mewn unrhyw achos arbennig;
- cymryd i ystyriaeth yr angen i adolygu'r trefniadau o bryd i'w gilydd;
- rhoi gwybod i ni.
A oes unrhyw amodau arbennig os yw'r
dalwyr prydles yn ymgymryd â gwaith adeiladu?
24. Os yw'r dalwyr prydles yn ymgymryd â gwaith adeiladu, mae'n
bosib na fydd ymddiriedolwyr y neuadd eglwys yn gallu defnyddio'r neuadd,
er enghraifft, os yw'r eiddo yn cael ei ddymchwel a'i ailadeiladu, ei
adnewyddu neu ei wella. At hynny, mae'n bosib i'r neuadd gael ei roi
ar les ar rent isel yn rhannol oherwydd bod gwaith o'r fath yn mynd
i gael ei wneud. Yn yr amgylchiadau hyn mae'n rhesymol y dylai ymddiriedolwyr
y neuadd eglwys gael eu diogelu rhag gohirio gormodol o ran cwblhau'r
gwaith (yn enwedig oherwydd y dalwyr prydles mae'n debyg sydd wedi cyflwyno'r
cynnig). Os gwyddys ymlaen llaw y bydd gwaith adeiladu yn digwydd, bydd
y Cynllun sy'n awdurdodi'r brydles yn ei wneud yn ofynnol iddynt gwblhau'r
gwaith o fewn tair blynedd.
25. Os yw'r neuadd bresennol i gael ei dymchwel ac mae un arall yn
cael ei hadeiladu gan y dalwyr prydles, bydd angen i'r brydles gynnwys
darpariaethau arbennig am y neuadd newydd. Er mwyn diogelu eu buddiannau
eu hunain, dylai ymddiriedolwyr neuaddau eglwysi geisio cyngor cyfreithiol
cyn cychwyn ar brydles o'r fath. Mae'n rhaid iddynt hefyd fodloni eu
hunain fod gan y dalwyr prydles yr adnoddau ariannol i gwblhau'r project.
26. Mewn rhai achosion gall gwaith adeiladu sylweddol gael eu cynnig
ar ôl i'r brydles gael ei rhoi. Os nad yw ymddiriedolwyr y neuadd
eglwys yn gwrthwynebu, rydym yn barod i gynnwys darpariaeth yn y Cynllun
sy'n caniatáu amrywio telerau'r brydles os ceir gwariant sylweddol
ar ailadeiladu, atgyweiriadau neu foderneiddio gan y dalwyr prydles
ar ôl i'r brydles gael eu rhoi.
Beth sy'n digwydd ar ddiwedd y brydles?
27. Yn fuan cyn diwedd y brydles bydd angen i ymddiriedolwyr y neuadd
eglwys ystyried y defnydd o'r eiddo yn y dyfodol. Fel rheol bydd tri
dewis.
- Os oes angen y neuadd eglwys eto i'w defnyddio at ddibenion eglwysig
yn unig, ni ddylid rhoi prydles bellach a dylai ymddiriedolwyr y neuadd
eglwys gymryd rheolaeth o'r eiddo.
- Os oes angen defnydd achlysurol neu reolaidd at ddibenion eglwysig
o hyd, fel arfer ni fydd rheswm pam na ellir rhoi prydles newydd ar
ôl i ni awdurdodi'r cynigion newydd trwy Gynllun pellach.
- Os nad oes angen y neuadd o gwbl mwyach ar gyfer dibenion eglwysig,
dylid ei gwerthu (neu ei gosod ar rent farchnad lawn os yw'r ymddiriedolwyr
yn cael eu cynghori i wneud hyn) gan fod ymddiriedolaethau'r eglwys
wedi methu (gweler paragraff 30 isod).
Beth yw'r berthynas rhwng ymddiriedolwyr
y neuadd eglwys a'r dalwyr prydles?
28. Yn gyfreithiol, bydd y berthynas rhwng ymddiriedolwyr y neuadd
eglwys a'r dalwyr prydles ar ffurf landlord a thenant, a dylai fod ar
sail busnes.
29. Os yw'r daliwr prydles yn elusen bydd rhaid i gorff ymddiriedolwyr
gael ei sefydlu i ymgymryd â'r telerau a osodwyd uchod. Os nad
ydynt wedi gwneud eisoes bydd angen iddynt gofrestru eu sefydliad gyda
ni fel elusen ar wahân, yn gwbl wahanol i elusen y neuadd eglwys.
Mewn sawl achos, os mai neuadd bentref neu ganolfan ieuenctid yw'r daliwr
prydles, bydd pwyllgor rheoli eisoes mewn bodolaeth ac efallai y bu'n
defnyddio adeiladau eraill ers cryn amser. Efallai y bydd yn briodol
i ymddiriedolwyr y neuadd eglwys gael eu cynrychioli ar y pwyllgor rheoli
hwnnw.
Rhan II: Neuaddau eglwysi nad oes mo'u
hangen mwyach ar gyfer dibenion eglwysig
A ddylai'r ymddiriedolwyr werthu neu
osod yr eiddo?
30. Dylent. Os nad oes angen neuadd eglwys o gwbl
mwyach ar gyfer dibenion eglwysig gellir dweud bod ymddiriedolaethau'r
elusen wedi methu. Dylai'r ymddiriedolwyr geisio cyngor proffesiynol
ynglyn â gwerthu'r neuadd (am y pris gorau y gellir yn rhesymol
ei gael) neu ei gosod (am y rhent farchnad lawn). Bydd angen i ymddiriedolwyr
y neuadd eglwys ystyried hefyd a oes unrhyw gyfyngiadau statudol ar
werthu neu osod yr eiddo (e.e. eiddo a ddelir dan adran 6 Mesur (Pwerau)
Cyngor yr Eglwys Blwyf 1956).
A oes unrhyw ofynion arbennig?
31. Oes. Cyn y gall yr ymddiriedolwyr werthu neu osod yr eiddo mae'n
rhaid iddynt gael y pwer i wneud hynny. Gall dogfen lywodraethol yr
elusen gynnwys naill ai pwer penodol neu bwer a awgrymwyd i werthu neu
osod, a gall amlinellu sut y dylai'r incwm o'r enillion gwerthu a fuddsoddwyd
neu'r rhent o'r eiddo gael eu defnyddio yn y dyfodol. Os nad yw'r ddogfen
lywodraethol yn cynnwys pwer o'r fath, bydd rhaid i ni wneud Cynllun
er mwyn:
- rhoi'r pwer i werthu neu osod yr eiddo i'r ymddiriedolwyr; a
- darparu ar gyfer sut y dylai incwm yr elusen gael ei ddefnyddio
ar gyfer dibenion eglwysig eraill.
32. Unwaith y gwneir Cynllun, bydd yr ymddiriedolwyr yn gallu mynd
ymlaen â'r weithred ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â'r
gofynion statudol a nodwyd yn adran 36 Deddf 1993.
33. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau Gwerthu
Tir Elusennau (CC28) a Gwneud Cynllun (CC36).
A all yr ymddiriedolwyr werthu neu
osod y neuadd i elusen arall am lai na'i gwerth llawn?
34. Gall, mewn rhai achosion. Os yw dogfen lywodraethol elusen y neuadd
eglwys yn rhoi awdurdod benodol i'r ymddiriedolwyr werthu neu osod yr
eiddo yn y fath fodd, gallant fynd ymlaen gyda'r weithred heb gydymffurfio
â'r gofynion statudol a nodwyd yn adran 36 Deddf 1993. Nid oes
angen i'r ymddiriedolwyr ychwaith yn yr amgylchiadau hyn geisio ein
caniatâd ar gyfer y weithred.
35. Os nad yw'r ymddiriedolwyr yn sicr os yw'r ymddiriedolaethau yn
awdurdodi'r weithred arfaethedig, dylent gysylltu â ni am gyngor.
Gweler tudalennau 13-14 o'r canllaw hwn ar gyfer y dosbarthiad gwaith
rhwng y swyddfeydd.