Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

CC21 - Cofrestru fel Elusen

(Fersiwn Ebrill 2008)

Cynnwys

Am beth mae'r canllaw hwn?

Mae'n falch gennym eich bod am chwarae rhan weithgar mewn elusen. Mae'r canllaw hwn yn trafod rhai o'r materion y byddwch efallai eisiau eu hystyried os yw'r elusen yng Nghymru neu Loegr. Mae'n ymdrin â'r canlynol:

  • oes angen i chi ddechrau elusen newydd;
  • pa elusennau sy'n rhaid cofrestru;
  • y broses gofrestru.

Mae'r canllaw hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac ar ein gwefan: www.charitycommission.gov.uk.

Mae'r canllaw hwn yn adlewyrchu'r diffiniad o 'elusen' a bennwyd yn Neddf Elusennau 2006.

Ystyr geiriau neu ymadroddion a ddefnyddir

Mae'r termau canlynol yn cael eu defnyddio trwy'r canllaw hwn, a dylid ystyried bod ganddynt yr ystyron penodol fel y nodir isod.

Amcanion: fel arfer bydd amcanion (neu ddibenion) sefydliad yn cael eu mynegi yng 'nghymal amcanion' ei dogfen lywodraethol. Fodd bynnag, nid oes gan bob elusen ddogfen lywodraethol gyda chymal amcanion, ac weithiau nid yw'r cymal amcanion yn mynegi nodau'r sefydliad yn ddigonol nac yn gyflawn. Felly, mae gwahaniaeth rhwng nodau'r sefydliad a'r geiriau sy'n ymddangos yn ei chymal amcanion.

Ystyr buddiolwyr yw'r bobl (neu mewn rhai achosion, y cyrff) y mae nodau'r elusen yn bwriadu cynnig budd iddynt. Fel arfer bydd dogfen lywodraethol yr elusen yn esbonio pwy yw'r buddiolwyr.

Cyfarwyddyd statudol ar fudd cyhoeddus: y canllaw ar fudd cyhoeddus y mae'r Comisiwn Elusennau wedi'i gynhyrchu o dan adran 4 y Ddeddf Elusennau.

Ystyr Deddf 1993 yw Deddf Elusennau 1993, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006.

Ystyr dogfen lywodraethol yw unrhyw ddogfen sy'n pennu nodau'r elusen ac, fel arfer, y dull o'i gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, Cynllun y Comisiwn, Siarter Frenhinol, trawsgludiad, ewyllys neu'n ddogfen ffurfiol arall.

Ystyr eiddo yw tir, adeiladau, arian parod, buddsoddiadau neu unrhyw eiddo arall y mae'r elusen yn berchen arno.

Ystyr y Gofrestr yw'r Gofrestr Elusennau gyhoeddus gyfrifiadurol yng Nghymru a Lloegr, sydd i'w gweld ar ein gwefan.

Mae'r Gofrestr Ganolog yn cyfeirio at y man ym mhob un o'n swyddfeydd lle y gallwch edrych ar y Gofrestr.

Y gofyniad adrodd am fudd cyhoeddus: mae'n golygu'r gofyniad statudol i ymddiriedolwyr elusen adrodd am fudd cyhoeddus eu helusen yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr.

Yr hyrwyddwyr yw'r bobl sy'n bwriadu ffurfio (sefydlu) elusen - os yw'r elusen yn cael ei chofrestru efallai mai nhw fydd ei hymddiriedolwyr cyntaf.

Nodau: yn y canllaw hwn defnyddiwn y term hwn i olygu dibenion sefydliad unigol. Mae'n bwysig i allu gwahaniaethu'n glir rhwng dibenion sefydliad unigol a dibenion elusennol yn gyffredinol. Felly, defnyddiwyd y term 'nodau' fel ffordd fer o gyfeirio at ddibenion elusen neu sefydliad unigol sy'n gwneud cais i gofrestru fel elusen.

Defnyddir rhaid neu angen i gyfeirio at y camau y mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr, neu eu hasiantau neu eu gweithwyr, eu cymryd yn ôl y gyfraith.

Mae talu yn golygu taliad ar ffurf arian parod, a hefyd buddiannau eraill, megis llety rhad ac am ddim (neu lety cymorthdaledig) neu ddarparu car.

Ystyr tor-ymddiriedaeth yw gweithredu mewn ffordd sy'n groes i bwerau a dyletswyddau ymddiriedolwyr, os yw'r pwerau a'r dyletswyddau hynny wedi'u pennu yn nogfen lywodraethol yr elusen, neu'n rhan o'r gyfraith gyffredinol.

Ystyr ymddiriedolwr daliannol yw person, corfforaeth neu unigolyn sy'n dal teitl cyfreithiol i eiddo elusen ar ei rhan. Dangosir enw'r ymddiriedolwr daliannol ar y gofrestr tir neu gofrestr stoc cwmni fel y sawl sy'n dal teitl cyfreithiol i dir neu gyfranddaliadau sy'n eiddo'r elusen. Gall dogfen lywodraethol yr elusen roi pwerau a chyfrifoldebau ychwanegol i'r ymddiriedolwr(wyr) daliannol, ond fel arfer y cyfan a wnânt yw dal y teitl cyfreithiol i eiddo'r elusen. Ar yr amod bod ymddiriedolwyr daliannol yn gweithredu dim ond ar gyfarwyddiadau cyfreithlon yr ymddiriedolwyr rheoli ni fyddant yn gyfrifol am unrhyw weithred (neu ddiffyg gweithred) yr ymddiriedolwyr rheoli.

Ystyr ymddiriedolwr gwarchod yw corfforaeth (nid unigolion) sydd â'r brif swyddogaeth o ddal y teitl cyfreithiol i fuddsoddiadau ac eiddo ar ran yr elusen. Gall ymddiriedolwyr gwarchod weithredu trwy ddilyn cyfarwyddyd cyfreithlon yr ymddiriedolwyr elusen neu'r ymddiriedolwyr rheoli yn unig. Mae ymddiriedolwr gwarchod yn fath o ymddiriedolwr daliannol ond mae cyfrifoldebau penodol ganddo/ganddi fel y pennwyd yn adran 4 Deddf Ymddiriedolwyr Cyhoeddus 1906: nid oes unrhyw bwerau rheoli ganddo/ganddi.

Ystyr ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen. Rydych yn ymddiriedolwr elusen os ydych yn:

  • ymddiriedolwr ymddiriedolaeth elusennol (gall ymddiriedolaethau elusennol gael eu creu trwy ddatganiad o ymddiriedaeth neu drwy ewyllys rhywun);
  • cyfarwyddwr cwmni elusennol (elusen sy'n gwmni gyda memorandwm ac erthyglau cymdeithasu fel y ddogfen sy'n pennu sut y caiff yr elusen ei gweithredu); neu
  • aelod o'r pwyllgor sy'n gyfrifol am weithredu grŵp elusennol megis cymdeithas gymunedol neu gymdeithas rhieni athrawon.

Fel ymddiriedolwr elusen rydych yn gyfrifol am reoli'r elusen yn gyffredinol. Oherwydd hyn gallwch gael eich galw'n 'ymddiriedolwr rheoli'. Mae dau fath arall o ymddiriedolwr efallai y byddwch yn clywed amdanynt neu'n dymuno eu cael: ymddiriedolwyr 'daliannol' ac ymddiriedolwyr 'gwarchod'. Mae swyddogaethau arbennig gan yr ymddiriedolwyr hyn, a ddisgrifir isod, ac mae'n rhaid iddynt weithredu trwy ddilyn cyfarwyddiadau cyfreithlon yr ymddiriedolwyr rheoli bob amser.

Pan fyddwn yn defnyddio termau megis dylai'r ymddiriedolwyr neu awgrymwn, argymhellwn neu cynghorwn, cyfeiriwn at y camau y gallai'r ymddiriedolwyr, eu hasiantau neu eu gweithwyr eu cymryd, ac sy'n arfer dda yn ein barn ni, ond nid ydynt yn ofynion cyfreithiol.

RHAN I - DECHRAU ELUSEN

Sefydlu elusen newydd

1. Mae nifer o bobl yn cymryd yn ganiataol bod rhaid iddynt sefydlu elusen newydd os ydynt am wneud gwaith gwirfoddol. Ond nid yw hyn yn wir bob amser. Cyn sefydlu elusen newydd, darllenwch y canllaw ar ein gwefan Pethau i'w hystyried cyn dechrau elusen . Bydd yn eich helpu i werthuso ai dechrau elusen newydd yw'r ffordd orau i symud ymlaen.

Beth yw elusen?

2. Mae corff yn elusen os yw:

3. Yn y canllaw hwn cyfeiriwn at ddibenion elusen unigol fel ei 'nodau'. Fel arfer bydd nodau elusen wedi'u mynegi yng 'nghymal amcanion' ei dogfen lywodraethol.

Beth yw dibenion elusennol?

4. 'Dibenion elusennol' yw'r rhai sydd wedi'u cynnwys o fewn y disgrifiadau o ddibenion a all fod yn elusennol a bennwyd yn Neddf Elusennau 2006 ac sydd er budd y cyhoedd. Mae dibenion a all fod yn elusennol yn cynnwys y dibenion hynny yr oedd y gyfraith wedi'u cydnabod yn flaenorol fel dibenion elusennol, yn ogystal â'r dibenion elusennol newydd a all gael eu cydnabod wrth i'r gyfraith ddatblygu.

5. Mae Deddf Elusennau 2006 yn rhoi'r disgrifiadau canlynol ar gyfer dibenion:

(a) atal neu leddfu tlodi:
(b) hyrwyddo addysg;
(c) hyrwyddo crefydd;
(ch) hyrwyddo iechyd neu achub bywydau;
(d) hyrwyddo dinasyddiaeth neu ddatblygiad cymunedol;
(dd) hyrwyddo'r celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth;
(e) hyrwyddo chwaraeon amatur;
(f) hyrwyddo hawliau dynol, datrys anghydfodau neu gymodi neu hybu cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb ac amrywiaeth;
(ff) hyrwyddo gwarchod neu wella'r amgylchedd;
(g) cynorthwyo'r rhai sydd mewn angen, ar sail ieuenctid, oedran, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfanteision eraill;
(ng) hyrwyddo lles anifeiliaid;
(h) hybu effeithlonrwydd lluoedd arfog y Goron neu'r heddlu, y gwasanaethau tân ac achub neu'r gwasanaethau ambiwlans;
(i) dibenion eraill a gydnabyddir fel dibenion elusennol o dan y gyfraith sy'n bod ac unrhyw ddibenion newydd sy'n debyg i ddiben rhagnodedig arall.

6. Mae ein canllaw ar y we Sylwadau ar y Disgrifiadau o Ddibenion Elusennau yn Neddf Elusennau 2006 yn darparu gwybodaeth bellach am yr hyn y mae pob un o'r dibenion hyn yn ei gwmpasu.

Beth yw ystyr 'budd cyhoeddus'?

7. 'Budd cyhoeddus' yw'r gofyniad cyfreithiol sy'n datgan bod rhaid i bob sefydliad a ffurfiwyd ar gyfer un neu ragor o nodau elusennol allu dangos bod ei nodau er budd cyhoeddus er mwyn iddo gael ei gydnabod, a'i gofrestru, fel elusen yng Nghymru a Lloegr. Gelwir hyn y 'gofyniad budd cyhoeddus'.

8. Mae'r gofyniad budd cyhoeddus yn golygu, er mwyn bod yn elusen, mae'n rhaid i sefydliad allu dangos ei fod wedi'i sefydlu ar gyfer nodau sy'n gallu bod yn elusennol, ac a fydd yn cael eu cyflawni er budd cyhoeddus. Mae'n ofyniad sy'n gymwys i bob un o nodau sefydliad. Ni all elusen gael rhai nodau sydd er budd cyhoeddus a rhai sydd heb fod er budd cyhoeddus.

9. Mae dwy egwyddor allweddol ac mae'n rhaid bodloni'r ddwy egwyddor er mwyn dangos bod nodau sefydliad er budd cyhoeddus. O fewn pob egwyddor mae rhai ffactorau pwysig y mae'n rhaid eu hystyried ym mhob achos. Y pedair egwyddor yw:

Egwyddor 1: Rhaid bod budd neu fuddiannau canfyddadwy

1a Rhaid bod yn glir beth yw'r buddion
1b Rhaid i'r buddion fod yn gysylltiedig â'r nodau
1c Rhaid pwyso a mesur buddion yn erbyn unrhyw anfantais neu niwed

Egwyddor 2: Rhaid darparu budd i'r cyhoedd, neu adran o'r cyhoedd

2a Rhaid i'r buddiolwyr fod yn briodol i'r amcanion
2b Os cynigir budd i garfan o'r cyhoedd, rhaid i'r cyfle i gael budd beidio â chael ei gyfyngu'n afresymol:

gan gyfyngiadau daearyddol neu gyfyngiadau eraill neu
gan allu i dalu unrhyw ffioedd a godir

2c Ni ellir eithrio pobl dlawd o'r cyfle i gael budd
2ch Rhaid i unrhyw fuddiannau preifat fod yn atodol

10. O dan Ddeddf Elusennau 2006, mae'n ofynnol i'r Comisiwn Elusennau gyhoeddi canllawiau ar fudd cyhoeddus. Mae ein canllaw statudol ar fudd cyhoeddus wedi'i gynnwys yn ein cyhoeddiad Elusennau a Budd Cyhoeddus. Yn ogystal, byddwn hefyd yn cyhoeddi canllaw atodol ar fudd cyhoeddus mathau penodol o elusennau.

11. Dylai unrhyw un sy'n ystyried sefydlu a chofrestru elusen newydd fod yn gyfarwydd â'n canllaw statudol ar fudd cyhoeddus.

Dyletswyddau budd cyhoeddus ymddiriedolwyr elusen

12. Mae gan ymddiriedolwyr elusen ddyletswyddau budd cyhoeddus i:

  • sicrhau eu bod yn ymgymryd â nodau eu helusen er budd cyhoeddus;
  • dilyn y canllawiau a gyhoeddwn ar fudd cyhoeddus (os ydynt yn ymarfer unrhyw bwerau neu ddyletswyddau a all fod yn berthnasol); ac
  • adrodd am fudd cyhoeddus eu helusen yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr.

13. Rhaid i unrhyw un sy'n gwneud cais i gofrestru eu sefydliad fel elusen fod yn ymwybodol bod rhaid i ymddiriedolwyr elusen ystyried, a chyflawni eu dyletswyddau statudol o ran budd cyhoeddus ac adrodd am fudd cyhoeddus. Mae'r angen i ateb y gofyniad budd cyhoeddus yn ddyletswydd barhaus i ymddiriedolwyr elusen trwy gydol bywyd yr elusen; nid yw'n ofyniad adeg cofrestru yn unig.

Asesu budd cyhoeddus sefydliadau sy'n gwneud cais i gofrestru fel elusennau

14. Pan fyddwn yn ystyried a yw nodau sefydliad yn darparu budd i'r cyhoedd, mae'n bosibl y byddwn yn ystyried gweithgareddau'r sefydliad er mwyn:

  • egluro beth yw ei nodau (hy, deall ystyr a chwmpas y geiriau a ddefnyddir yn ei hamcanion);
  • penderfynu a yw'r nodau hynny yn elusennol (hy, bod y nodau wedi'u cynnwys o fewn y disgrifiadau o ddibenion elusennol yn Neddf Elusennau 2006, neu'n cyfateb â nhw); a
  • sicrhau y bydd neu y gall y nodau gael eu cyflawni er budd cyhoeddus.

15. Yn achos sefydliad sy'n gwnned cais i gofrestru fel elusen, gallwn ystyried gwybodaeth gefndir ffeithiol berthnasol, megis gofyn am dystiolaeth o'i weithgareddau, neu weithgareddau arfaethedig, er mwyn penderfynu a yw ei nodau yn elusennol er budd cyhoeddus. Lle'n bosibl byddwn yn defnyddio'r wybodaeth y bydd sefydliad yn ei rhoi ar ei ffurflen gais i'n helpu ni i benderfynu a yw ei nodau yn elusennol ac er budd cyhoeddus. Os nad yw'n glir bod y nodau (a bydd y nodau) yn cael eu cyflawni er budd cyhoeddus, byddwn yn gofyn i'r sefydliad ddarparu tystiolaeth bellach lle bo angen. Os nad ydym yn fodlon y bydd y gofyniad budd cyhoeddus yn cael ei ateb, gallwn wrthod ei gofrestru, neu gallwn ofyn i'r ymgeisydd ddiwygio amcanion neu weithgareddau ei sefydliad er mwyn sicrhau y bydd yn ateb y gofyniad budd cyhoeddus cyn y gallwn fynd ati i'w gofrestru.

Nodau nad ydynt er budd cyhoeddus

16. Yn gyffredinol, nid yw nodau yn elusennol os ydynt er budd person a enwir neu unigolion penodol yn bennaf. Ni fyddant yn elusennol ychwaith os yw'r bobl a gaiff budd wedi'u diffinio gan berthynas bersonol neu gytundebol â'i gilydd. Er enghraifft, os yw'r buddiolwyr yn perthyn neu wedi'u cysylltu â'r sawl sy'n sefydlu'r elusen, neu os ydynt wedi'u diffinio trwy gyflogaeth gyffredin neu drwy aelodaeth o gorff anelusennol, er enghraifft, aelodau sefydliad proffesiynol.

17. Mae eithriad i'r rheol gyffredinol hon yn achos atal neu leddfu tlodi, pan fydd y bobl a fydd yn cael budd yn dod o grŵp mwy cyfyngedig, fel pobl sydd â'r un cyflogwr.

18. Ni all unrhyw sefydliad fod yn elusennol os:

  • yw ei nodau yn anghyfreithlon neu gellid dweud ei fod yn hyrwyddo nodau anghyfreithlon o dan gyfraith Cymru a Lloegr; neu
  • os yw wedi'i sefydlu er budd personol:
  • ei ymddiriedolwyr;
  • ei weithwyr cyflogedig (heblaw yn achos lleddfu tlodi - er enghraifft, ni fyddai unrhyw reswm fel rheol pam na ddylai cwmni neu fusnes weithredu cronfa les i'w staff sydd wedi'i gyfyngu at y diben o leddfu tlodi); neu
  • unigolion penodol eraill; neu
  • wedi'i greu ar gyfer nodau gwleidyddol.

Rhai nodau anelusennol y tybir eu bod yn elusennol yn aml

19. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o sefydliadau neu nodau y tybir eu bod yn elusennol yn aml, ond nid ydynt yn elusennol mewn gwirionedd:

  • clybiau chwaraeon unigol a sefydlwyd i roi budd i'w haelodau neu hybu rhagoriaeth (yn wahanol i gyfleusterau chwaraeon sy'n agored i bawb neu a ddarperir yn benodol ar gyfer grwpiau arbennig o bobl, fel yr henoed, neu fel dull o hybu adloniant iach);
  • hybu dibenion gwleidyddol neu bropagandaidd, neu hybu safbwynt arbennig (am fwy o fanylion edrychwch ar ein canllaw Dweud eich Dweud: Canllaw ar Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9));
  • nodau sy'n cynnwys trefniadau lle mae'r bobl sy'n gweinyddu'r corff yn cael budd personol sylweddol;
  • codi arian ar gyfer elusennau eraill ac nid yw'r trefnwyr yn cael unrhyw ddylanwad ar sut y mae'r arian yn cael ei wario;
  • nodau sy'n hybu cyfeillgarwch neu gyfeillgarwch rhyngwladol, er enghraifft, sefydliadau gefeillio trefi.

Apeliadau am arian

20. Nid yw codi arian yn amcan elusennol ynddo'i hun: mae'n weithgaredd y gellir ei wneud i helpu cyflawni diben elusennol. Os yw elusen am godi arian i wneud gwaith sydd heb ei gynnwys yn amcanion presennol yr elusen, gall greu elusen newydd gyda nodau penodol. Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr a yw'ch nodau codi arian arfaethedig wedi'u hawdurdodi gan amcanion eich elusen.

21. Mae rheolau cymhleth ynglŷn â chodi arian ac mae'n bosibl y bydd angen i chi geisio cyngor proffesiynol. Cynigiwn gyngor yn Elusennau a Chodi Arian (CC20). Argymhellwn eich bod yn darllen hwn ac yn ystyried y pwyntiau arfer da canlynol.

  • Dylid bod yn ofalus iawn wrth eirio apêl ysgrifenedig sy'n gofyn am arian gan y cyhoedd. Argymhellwn eich bod yn sicrhau bod y nodau y bwriada'r elusen ddefnyddio'r arian ar eu cyfer yn cael eu disgrifio'n fanwl.
  • Gall cofnod o araith neu ddarllediad gael ei ystyried yn dystiolaeth o nodau apêl. Ni all trefnwyr yr apêl honno newid nodau'r apêl i rywbeth sy'n groes i'r telerau a ddatganwyd pan wahoddwyd rhoddwyr i gyfrannu. Argymhellwn eich bod yn ofalus wrth eirio unrhyw apêl lafar.
  • Os ydych am godi arian at ddibenion cyffredinol elusen sy'n bod, mae'n rhaid i chi wneud hyn yn glir ac osgoi unrhyw awgrym y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio at ddiben mwy penodol.
  • Os yw apêl at ddiben penodol, ee talu am adeilad neu adfer adeilad, argymhellwn ei bod yn nodi beth fydd yn digwydd i'r arian os nad yw digon o arian, neu os yw gormod o arian, yn cael ei godi.

Apeliadau adeg trychineb

22. Cynghorwn eich bod yn cymryd gofal arbennig gydag apêl i gynorthwyo dioddefwyr trychineb (neu eu teuluoedd) pan fydd y buddiolwyr efallai yn nifer gweddol fach o bobl. Nid yw apeliadau adeg trychineb bob amser yn elusennol. Nid oes modd creu elusen os mai'r bwriad yw rhoi hawl i bobl benodol gael cymorth p'un ai ydynt mewn angen go iawn neu beidio, neu os yw'r buddiannau ar gyfer unigolion preifat arbennig yn unig. Os yw cronfa apêl adeg trychineb elusennol yn cael ei sefydlu, bydd pobl yn gallu cael budd dim ond ar sail eu hangen sydd wedi'i brofi.

23. Gwerthfawrogwn fod angen gwneud penderfyniadau cyflym iawn am apeliadau adeg trychineb fel rheol. Awgrymwn y dylai hyrwyddwyr ymgynghori yn gynnar â ni cyn lansio apêl o'r fath. Mae'r Twrnai Gwladol wedi cyhoeddi canllawiau ar apeliadau adeg trychineb sydd ar gael gennym ni (Apeliadau adeg Trychineb: Canllawiau'r Twrnai Gwladol (CC40)). Mae Cyllid a Thollau EM hefyd wedi cyhoeddi arweiniad o'r enw Canllawiau ar Drin Cronfeydd Apêl at Ddibenion Treth, ac mae'r canllaw ar gael ar ei wefan www.hmrc.gov.uk neu gan Gyllid y Wlad yn y cyfeiriad a nodir ar ddiwedd y llyfryn hwn.

Beth yw prif fanteision bod yn elusen?

24. Y prif fanteision yw hyn:

  • fel rheol, nid oes rhaid i elusennau dalu treth incwm/gorfforaeth (yn achos rhai mathau o incwm), treth enillion cyfalaf, neu stampdoll, ac nid oes rhaid talu treth etifeddu ar roddion i elusennau;
  • nid yw elusennau yn talu mwy nag 20% o'r trethi busnes arferol ar yr adeiladau a ddefnyddir ac a feddiannir ganddynt i hyrwyddo eu nodau elusennol;
  • gall elusennau gael triniaeth arbennig ar gyfer TAW mewn rhai amgylchiadau;
  • mae'n haws yn aml i elusennau gael arian o'r cyhoedd, ymddiriedolaethau rhoi grantiau a llywodraeth leol na chyrff anelusennol;
  • gall elusennau gynrychioli'n ffurfiol anghenion y gymuned a chynorthwyo i ateb yr anghenion hynny;
  • gall elusennau roi sicrwydd i'r cyhoedd eu bod yn cael eu monitro a'u cynghori gan y Comisiwn;
  • gall elusennau geisio cyngor gennym; a
  • gall elusennau gael gwybodaeth gennym, er enghraifft, ein hamrywiaeth o gyhoeddiadau rhad ac am ddim.

Beth yw cyfyngiadau bod yn elusen?

25. Mae cyfyngiadau ar yr hyn y gall elusennau ei wneud, o ran y mathau o waith a wnânt, a'r ffyrdd y gallant weithredu:

  • Mae'n rhaid i elusen gael nodau elusennol yn unig. Gall rhai sefydliadau ymgymryd â'u nodau trwy amryw o weithgareddau, rhai ohonynt yn elusennol, rhai ohonynt yn anelusennol. I fod yn elusen, byddai'n rhaid i'r math hwn o sefydliad atal ei weithgareddau anelusennol. (Wrth gwrs, gellir parhau â'r gweithgareddau anelusennol os yw corff anelusennol ar wahân yn ymgymryd â nhw). Bydd angen i hyrwyddwyr ystyried yn ofalus a fydd statws elusennol yn cyfyngu'n fawr ar eu gweithgareddau arfaethedig. Os felly, mae'n bosib na fydd statws elusennol yn addas i'ch sefydliad chi.
  • Mae cyfyngiadau ar faint o weithgareddau neu ymgyrchu gwleidyddol y gall elusen ymgymryd ag ef - rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar hyn yn Dweud eich Dweud - Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9).
  • Mae rheolau caeth ynglŷn â gweithgareddau masnachu elusennau. Gallwch gael arweiniad ar hyn yn Ymddiriedolwyr, masnachu a threth (CC35), ar ein gwefan.
  • Ni all ymddiriedolwyr gael budd ariannol o'r elusen y maent yn ei rheoli oni bai fod dogfen lywodraethol yr elusen neu'r Comisiwn yn rhoi caniatâd penodol ar gyfer hyn. Mae buddiannau ariannol yn cynnwys cyflogau, gwasanaethau, neu roi contractau busnes i fusnes yr ymddiriedolwr ei hun o'r elusen. Ni ellir caniatáu buddiannau sy'n groes i ffurfio sefydliad at ddibenion elusennol yn unig (mae arweiniad pellach ar gael yn Talu Ymddiriedolwyr Elusennau (CC11)). Mae problemau tebyg yn codi os yw gŵr/gwraig, perthynas neu bartner yr ymddiriedolwr yn derbyn buddiannau o'r fath. Ond, mae hawl gan ymddiriedolwyr gael eu had-dalu am eu treuliau parod rhesymol, er enghraifft, tocynnau trên i gyfarfodydd ymddiriedolwyr.
  • Mae angen i ymddiriedolwyr osgoi unrhyw sefyllfa lle mae eu buddiannau personol yn gwrthdaro â'u dyletswyddau fel ymddiriedolwyr.
  • Mae'r gyfraith elusennau yn gosod rhai rhwymedigaethau o ran adrodd ariannol; mae'r rhain yn amrywio yn ôl maint yr elusen. Cewch fanylion pellach yn ein canllaw Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: Yr hanfodion Ebrill 2008 CC15a) .

Pa broblemau allai elusen newydd eu hwynebu?

26. Nid oes rhaid i sefydlu elusen newydd fod yn broses gymhleth. Fodd bynnag mae angen enw, arian, pobl a ffyrdd clir o weithredu ar bob sefydliad. Bydd angen i chi ystyried y cwestiynau canlynol o leiaf:

  • Beth fydd enw eich elusen?
  • Sut byddwch chi'n codi'r arian y bydd ei angen arnoch i weithredu eich elusen a chyflawni eich amcanion?
  • Oes angen i chi weithio ar eich pen eich hun neu a oes grŵp arall y gallech ymuno ag ef neu weithio gydag ef?
  • Sut byddwch chi'n recriwtio ymddiriedolwyr i weinyddu'r elusen?
  • Pa fath o ddogfen lywodraethol fydd ei angen ar eich elusen?

Rydym wedi cynnig peth arweiniad isod i'ch helpu i ateb y rhain.

Dewis enw

Enw'r elusen

27. Mae enw elusen yn bwysig. Yr hyn y mae aelodau'r cyhoedd yn ei gofio fwyaf am elusen yw'r enw yn hytrach na rhif cofrestru'r elusen. Enw'r elusen sy'n ymddangos ar ei llenyddiaeth apêl a'i thuniau casglu. Felly mae'n bwysig bod enwau elusennau yn ddigon gwahanol er mwyn osgoi dryswch, ac nid ydynt yn camarwain aelodau'r cyhoedd mewn unrhyw ffordd. Mae Adran 6 Deddf 1993 yn rhoi pwerau i ni orfodi elusen i newid ei henw mewn rhai amgylchiadau.

28. Ni all enw elusen gynnwys gair neu ymadrodd a allai beri tramgwydd. Ni fyddai hyn er lles yr elusen na'r sector elusennol cyfan. Mewn rhai achosion, ni chaniateir enwau o'r fath o dan y gyfraith.

29. Cyn cofrestru elusen newydd, byddwn yn cymharu'r enw arfaethedig â'r rhai sydd eisoes ar y Gofrestr i weld a oes unrhyw enwau tebyg neu enwau sydd yr union yr un fath. Os yw'r enw arfaethedig yr un fath, neu'n rhy debyg i enw sydd eisoes wedi'i gofrestru, byddwn yn penderfynu a yw'r enw arfaethedig yn dderbyniol i'w ddefnyddio eto. Os nad yw'n dderbyniol gofynnir i chi newid yr enw. Er na allwn fynnu bod enw'n cael ei newid cyn cofrestru, mae pŵer gennym orchymyn bod enw yn cael ei newid ar ôl i elusen gael ei chofrestru.

30. Argymhellwn yn gryf eich bod chi'n gwneud eich archwiliadau eich hun ynglŷn â'r enwau sydd ar gael cyn sefydlu elusen newydd a chyflawni'r ddogfen lywodraethol. Gallwch wneud hyn naill ai trwy edrych ar y Gofrestr ar ein gwefan, neu drwy ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218.

31. Nid yw rhoi enw ar y Gofrestr yn rhoi i'r elusen sy'n ei ddefnyddio unrhyw hawliau o dan y gyfraith gyffredinol. Ni allwn warantu'r defnydd o enw arbennig ychwaith, hyd yn oed os ar adeg yr ymholiad, nid oeddwn yn ymwybodol o unrhyw wrthwynebiad i'r defnydd o'r enw hwnnw. Y rheswm am hyn yw oherwydd efallai nad ydym yn gwybod am yr holl enwau sy'n cael eu defnyddio gan elusennau anghofrestredig, neu enwau a all fod wedi'u diogelu'n gyfreithiol gan gorff elusennol neu anelusennol arall.

32. Sylwch nid yw cofnodi enw ar y Gofrestr yn ein rhwystro rhag gorchymyn wedi hyn bod enw yn cael ei newid. Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw gostau y mae'n rhaid i'r elusen eu talu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o ganlyniad i unrhyw gyfarwyddyd dilynol i newid enw.

33. Ni allwn awgrymu enwau ar gyfer elusennau.

Cwmnïau sy'n defnyddio'r gair elusen neu elusennol yn eu teitl

34. Os yw cwmni eisiau defnyddio'r geiriau 'elusen', 'elusennol' neu 'elusennau' yn ei deitl neu unrhyw air cyfansawdd sy'n cynnwys y rhain, rhaid iddo gael caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio cyn y gellir rhoi Tystysgrif Ymgorffori. Cyn ei gymeradwyo, bydd angen i Dŷ'r Cwmnïau weld llythyr gennym yn cadarnhau a oes unrhyw wrthwynebiad gennym neu beidio i'r defnydd o'r geiriau hyn yn nheitl y sefydliad hwnnw. Os yw'ch cwmni eisiau defnyddio un o'r geiriau hyn yn ei enw dylech wneud cais ffurfiol i ni ac ar yr un pryd gwneud cais i gofrestru. Byddwn yn ystyried y ddau gais ar yr un pryd.

Pa obaith sydd o godi arian?

35. Mae'r cyllid sydd ar gael i'r sector elusennol yn gyfyngedig. Gall fod yn anodd i unrhyw elusen newydd gael arian oherwydd gall fod yn well gan awdurdodau lleol, y cyhoedd a sefydliadau sy'n rhoi arian i elusennau gyfrannu at elusennau sefydledig yn hytrach nag i elusen newydd. Mae ein canllaw Elusennau a Chodi Arian (CC20), yn rhoi mwy o wybodaeth am hyn.

Oes elusen arall sydd eisoes yn gwneud gwaith tebyg?

36. Mae mwy na 190,000 o elusennau cofrestredig yn gweithio ledled y DU a thramor, sy'n gwneud ystod eang o waith. Mae'n debyg iawn bod elusen eisoes yn bodoli sy'n gwneud y math o waith yr hoffech chi ei wneud, ac mae'n bosib bod un yn gweithio yn eich ardal chi o'r wlad. Awgrymwn eich bod yn ystyried a fyddai'n well cynnig eich gwasanaethau i elusen sy'n bod, neu gyfuno ag elusen sy'n bod. Fel arfer mae'n llai effeithiol i gael sawl sefydliad sy'n ceisio gwneud yr un math o waith yn yr un lle, ac mae'n dyblygu costau gweinyddol.

37. Os hoffech goffáu rhywun sy'n agos i chi, gall fod modd creu cronfa a enwir ar wahân o fewn elusen sy'n bod: gall hyn fod yr un mor effeithiol â chreu elusen newydd.

38. Os hoffech chwilio am elusennau yn eich ardal chi, gallwch ddod o hyd i'r Gofrestr ar ein gwefan, neu gallwch ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218.

Beth yw ymddiriedolwyr elusen?

39. Dyma'r bobl sy'n gyfrifol am "reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol" (adran 97 Deddf 1993). Mae hwn yn ddiffiniad cyfreithiol o'r bobl hynny a fydd yn gweinyddu ac yn gyfrifol am yr elusen. Pan fyddwch yn sefydlu elusen mae angen i chi feddwl yn ofalus pwy fydd ymddiriedolwyr cyntaf yr elusen.

40. Mae gan bob elusen gorff ymddiriedolwyr hawdd ei adnabod, ond bydd enwau gwahanol ganddynt yn aml yn dibynnu ar ba fath o ddogfen lywodraethol sydd gan yr elusen. Mae rhai enghreifftiau yn y tabl canlynol:

Mathau o ddogfen lywodraethol

Fel arfer gelwir yr ymddiriedolwyr elusen yn

Cyfansoddiad neu Reolau

Aelodau pwyllgor gwaith neu bwyllgor rheoli

Gweithred Ymddiriedolaeth

Ymddiriedolwyr

Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu

Bwrdd, cyngor rheoli neu gyfarwyddwyr

Materion i ddarpar ymddiriedolwyr eu hystyried

41. Beth bynnag y gelwir yr ymddiriedolwyr, mae eu cyfrifoldebau fel ymddiriedolwyr yr un fath. Mae gan gyfarwyddwyr cwmnïau elusennol gyfrifoldebau hefyd o dan y gyfraith cwmnïau. Mae dyletswyddau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr elusen yn eang a rhaid eu cymryd o ddifrif. Rhaid i unrhyw un sydd am fod yn ymddiriedolwr fod yn barod i roi'r amser a'r ymdrech angenrheidiol i ddeall ac ymgymryd â'r cyfrifoldebau hynny. Mae ein canllaw Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod (CC3) yn amlinellu'r rhain.

42. Mae'n egwyddor gyfreithiol gyffredinol na ddylai'r rhai sy'n gweinyddu'r elusen (yr ymddiriedolwyr) gael budd ariannol ohoni, oni bai fod caniatâd penodol ganddynt i wneud hynny naill ai trwy ddogfen lywodraethol yr elusen neu gennym ni. Rhaid i ymddiriedolwyr osgoi cael eu rhoi mewn sefyllfa lle mae eu dyletswyddau fel ymddiriedolwr yn gwrthdaro â'u buddiannau personol eu hunain. Ond nid yw'r egwyddor gyfreithiol hon yn atal ymddiriedolwyr elusen gymunedol (ee teml) rhag mwynhau buddiannau'r elusen honno fel aelod o'u cymuned. Os nad ydych yn siŵr a yw hyn yn berthnasol i'ch elusen chi neu beidio edrychwch ar ein canllaw Cynnwys Defnyddwyr: Buddiolwyr sy'n dod yn ymddiriedolwyr (CC24).

43. Rydym wedi cyhoeddi amrywiaeth o ganllawiau i ymddiriedolwyr (neu'r rhai sy'n ystyried bod yn ymddiriedolwr), er enghraifft Talu Ymddiriedolwyr Elusennau (CC11) a Cael hyd i ymddiriedolwyr newydd (CC30).

All unrhyw un weithredu fel ymddiriedolwr?

44. Ni all unrhyw un sy'n iau na 18 oed gael ei benodi yn ymddiriedolwr oni bai fod yr elusen yn gwmni cofrestredig. Bydd Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno oedran lleiaf i gyfarwyddwyr cwmni, sef 16 oed (er gall yr Ysgrifennydd Gwladol baratoi rheoliadau sy'n darparu ar gyfer eithriadau i hyn). Disgwylir i hyn ddod i rym ym mis Hydref 2008. Gwaherddir rhai pobl rhag gweithredu fel ymddiriedolwyr elusen o dan y gyfraith, gan gynnwys unrhyw un a ddisgrifir yn adran 72(1) Deddf Elusennau 1993, sef yn fras:

  • unrhyw un sydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o drosedd sy'n cynnwys twyll neu anonestrwydd, oni bai fod y ddedfryd wedi darfod;
  • unrhyw un sy'n fethdalwr heb ei ryddhau;
  • unrhyw un sydd wedi cael ei ddiswyddo yn flaenorol o swydd ymddiriedolwr elusen gan y Llys neu gennym ni;
  • unrhyw un sy'n destun gorchymyn gwaharddiad o dan Ddeddf Gwahardd Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986.

45. Mae'n drosedd i weithredu fel ymddiriedolwr elusen os ydych wedi'ch anghymhwyso oni bai ein bod wedi rhoi hepgoriad. Yn ogystal â'r gwaharddiadau a fanylir yn adran 72(1) Deddf 1993, sy'n gymwys i bob math o elusennau, mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau'r Llysoedd 2000 yn anghymhwyso rhai unigolion rhag dal amrywiaeth o swyddi gydag elusennau plant fel y'u diffinnir yn adran 36 y Ddeddf honno. Mae hyn yn cynnwys ymddiriedolaeth elusen. Nid oes gennym yr awdurdod i roi hepgoriad ar gyfer y math hwn o waharddiad.

Pa nodweddion sy'n angenrheidiol i fod yn ymddiriedolwr?

46. Mae angen i ymddiriedolwyr allu a bod yn barod i neilltuo amser ar gyfer gweinyddu'r elusen yn effeithlon a chyflawni ei hymddiriedolaethau. Argymhellwn eu bod yn cael eu dewis ar sail eu profiad a'u sgiliau perthnasol ac mae angen iddynt fod yn barod i gymryd rhan weithgar yng ngweinyddiad yr elusen. Ni ddylid eu penodi ar sail eu statws neu safle yn y gymuned yn unig; swyddogaeth noddwyr yw hyn.

47. Credwn fod amrywiaeth ar draws corff yr ymddiriedolwyr yn ffactor pwysig o ran atebolrwydd. Mae dewis ymddiriedolwyr o amrywiaeth o gefndiroedd cymdeithasol ac economaidd yn ffordd dda o gyflawni hyn. Rhoddir mwy o arweiniad yn Cael hyd i ymddiriedolwyr newydd: yr hyn y mae angen i elusennau wybod (CC30).

Pa egwyddorion sy'n angenrheidiol i arwain ymddiriedolwyr wrth weinyddu eu helusen?

48. Mae angen i ymddiriedolwyr ddilyn rhai egwyddorion arweiniol:

  • Rhaid i incwm ac eiddo'r elusen gael eu defnyddio ar gyfer y nodau a nodir yn y ddogfen lywodraethol ac nid ar gyfer unrhyw ddiben arall, a rhaid iddo gael ei ddefnyddio (gan gynnwys os yw'r defnydd trwy gyfrwng darparu gwasanaethau) yn deg rhwng y bobl sy'n gymwys i gael budd ohono.
  • Dylai ymddiriedolwyr gadw incwm yr elusen wrth gefn dim ond os oes polisi clir ganddynt ynglŷn â chronfeydd wrth gefn (er enghraifft i ymdrin â digwyddiad annisgwyl). Mae ein canllaw Cronfeydd Wrth Gefn Elusennau (CC19) yn esbonio mwy am hyn.
  • Mae'n ofynnol i ymddiriedolwyr weithredu'n rhesymol ac yn ddoeth ym mhob mater sy'n gysylltiedig â'r elusen ac mae angen iddynt gadw buddiannau'r elusen mewn cof bob amser. Ni allant adael i'w barn bersonol neu eu rhagfarnau effeithio ar eu hymddygiad fel ymddiriedolwyr.
  • Mae angen iddynt ymarfer yr un raddfa o ofal wrth ddelio â gweinyddu'r elusen fel y byddai person busnes doeth yn ei ymarfer wrth reoli ei faterion ei hun neu faterion rhywun arall y mae'n gyfrifol amdano.
  • Os yw'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr wneud penderfyniad sy'n effeithio ar fuddiannau personol un o'u plith, mae'n arfer da i wahardd y person hwnnw o unrhyw drafodaethau neu bleidlais ar y mater. Dylai hyn gael ei nodi yn y ddogfen lywodraethol.

49. Os oes unrhyw ansicrwydd, dylai ymddiriedolwyr geisio eu cyngor proffesiynol eu hunain.

50. Credwn ei fod yn bwysig bod polisi diogelu plant ac oedolion sy'n agored i niwed addas gan sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed. Os ydych yn gwneud cais i gofrestru eich elusen ac yn bwriadu gweithio â phlant neu oedolion sy'n agored i niwed gofynnir i chi roi copi i ni o'ch polisi diogelu. Gall fod yn ofynnol yn gyfreithiol hefyd i elusennau sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed gynnal archwiliadau priodol ar ymddiriedolwyr a/neu weithwyr gyda'r Swyddfa Cofnodion Troseddol. Mae mwy o wybodaeth ynghylch pa elusennau ddylai geisio datgeliadau CRB ar gyfer eu hymddiriedolwyr yn Cael hyd i ymddiriedolwyr newydd: yr hyn y mae angen i elusennau wybod (CC30).

Beth yw rhwymedigaethau ymddiriedolwyr?

51. Os yw ymddiriedolwyr yn gweithredu'n ddoeth, yn gyfreithlon ac yn unol â'u dogfen lywodraethol, gall unrhyw gostau a ddaw i'w rhan fel ymddiriedolwyr gael eu talu trwy adnoddau'r elusen. Ond os ydynt yn gweithredu fel arall efallai y byddant yn cyflawni tor-ymddiriedaeth a byddant yn atebol i dalu unrhyw gostau'r elusen sy'n codi o ganlyniad i'w gweithrediadau eu hunain, neu wneud iawn am unrhyw golled i'r elusen. Gan fod rhaid i ymddiriedolwyr weithredu ar y cyd wrth weinyddu'r elusen, byddant hefyd yn gyfrifol ar y cyd am dalu unrhyw gostau sy'n codi yn sgîl eu gweithrediadau eu hunain neu sy'n codi ar eu rhan. Gallwn ddwyn achos llys er mwyn adennill yn bersonol o'r ymddiriedolwyr unrhyw arian a gollwyd i'r elusen oherwydd tor-ymddiriedaeth gan yr ymddiriedolwyr.

52. Os yw ymddiriedolwyr yn llunio contractau wrth weinyddu'r elusen, ac o ganlyniad i hyn, maent yn mynd i ddyledion sy'n rhoi cyfanswm o fwy na gwerth asedau'r elusen, gall credydwyr yr elusen eu herlyn yn bersonol am y gwahaniaeth. Argymhellwn yn gryf fod ymddiriedolwyr yn ofalus iawn wrth lunio contractau sylweddol neu'n benthyca swm sylweddol er mwyn sicrhau bod yr elusen yn gallu talu eu dyledion. Os yw'ch corff yn debygol o lunio contractau i ddarparu gwasanaethau, neu'n bwriadu cyflogi staff yn uniongyrchol, dylech ystyried defnyddio'r fformat cwmni. Rhoddir mwy o wybodaeth yn Atodiad A.

Mathau o ddogfennau llywodraethol

Y dewis o ddogfen lywodraethol

53. Mae angen dogfen lywodraethol ar bob elusen. Mae'r ddogfen lywodraethol yn pennu sut y gellir gwario incwm yr elusen, sut y caiff yr ymddiriedolwyr eu penodi a sut y bydd yr elusen yn gweithredu.

54. Mae tri phrif fath o ddogfen lywodraethol, a bydd y math a ddewiswch yn pennu pa fath o sefydliad fydd yr elusen. Y tri phrif fath o ddogfen lywodraethol yw:

  • Cyfansoddiad neu Reolau;
  • Gweithred ymddiriedolaeth; a
  • Memorandwm ac erthyglau cymdeithasu.

55. Rhoddir arweiniad byr yn Atodiad A ar y mathau hyn o ddogfen lywodraethol. Os oes angen gwybodaeth fwy manwl arnoch, edrychwch ar ein llyfryn Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol (CC22).

Dogfennau llywodraethol enghreifftiol

56. Rydym yn cynhyrchu ffurfiau enghreifftiol o'r mathau hyn o ddogfennau llywodraethol:

57. Mae ein henghreifftiau yn cynnwys darpariaethau gweinyddol sy'n addas ar gyfer pob un o'r mathau hyn o sefydliad. Ond mae angen i unrhyw un sy'n defnyddio'r enghreifftiau hyn nodi amcanion y sefydliad, llenwi'r bylchau gwag mewn rhai cymalau, a dewis rhai cymalau os oes dewisiadau ar gael. Mae copïau o'r enghreifftiau hyn ar gael o bob un o'n swyddfeydd, yn rhad ac am ddim, neu ar ein gwefan.

58. Mae Cymdeithas y Gyfraith Elusennau (CLA) hefyd yn cynhyrchu dogfennau llywodraethol enghreifftiol addas, a chodir tâl am y rhain. Er mwyn archebu copïau o ddogfennau llywodraethol y Gymdeithas anfonwch e-bost at weinyddydd y Gymdeithas.

59. Rydym wedi cyhoeddi rhai amcanion enghreifftiol ar ein gwefan, ac os ydynt yn addas, eu cynnwys mewn dogfen lywodraethol, yn enwedig dogfen lywodraethol enghreifftiol.

Dogfennau llywodraethol cymeradwy

60. Mae rhai elusennau cenedlaethol mawr yn cynhyrchu dogfen lywodraethol gymeradwy y gall sefydliadau sy'n gysylltiedig â'r elusen honno ei defnyddio. Mae'r dogfennau llywodraethol cymeradwy hyn yn cynnwys amcanion cytûn a darpariaethau gweinyddol sy'n benodol i fath arbennig o sefydliad. Fe welwch restr o sefydliadau y cytunwyd ar ddogfen lywodraethol gymeradwy ar eu cyfer ar ein gwefan.

Gallwch wneud cais i gofrestru trwy wasanaeth cais i gofrestru ar-lein y Comisiwn. Mae'n cynnig ffordd gyflym a hawdd i anfon y ffurflen cais i gofrestru a'r ddogfen lywodraethol i'r Comisiwn. Bydd y system hawdd ei defnyddio yn darparu arweiniad ar-lein i chi pan fyddwch yn cwblhau'r ffurflen, a gallwch gadw'r ffurflen unrhyw bryd a dod 'nôl ati yn ddiweddarach os dymunwch. Hwn yw cam cyntaf y cais i gofrestru ar-lein. Bydd defnyddio'r system cais ar-lein yn lleihau'r amser a dreulir yn asesu eich cais a chwblhau cofrestru elusen. Cewch fynediad i'r gwasanaeth cais ar-lein trwy ein gwefan.

Oes angen i chi gofrestru eich elusen?

61. Y Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr ydym ni. Ni allwn gofrestru sefydliadau a ffurfiwyd o dan gyfraith gwlad dramor, neu yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysodd y Sianel. Felly cyn cofrestru'r corff rhaid iddo ddod o dan gyfraith Cymru a Lloegr. I gwmnïau fel rheol mae hyn yn golygu bod rhaid iddynt gael eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr. Mewn achosion eraill os nad yw'r ddogfen lywodraethol ei hun yn gwneud hyn yn glir, y gyfraith berthnasol fydd cyfraith y wlad y mae gan y sefydliad y cysylltiadau agosaf â hi. Bydd hyn yn dibynnu i ba raddau:

  • y mae canolfan weinyddol y sefydliad yng Nghymru a Lloegr;
  • y mae'r rhan fwyaf o'r ymddiriedolwyr yn byw yng Nghymru a Lloegr;
  • y mae'r rhan fwyaf o eiddo'r sefydliad yng Nghymru a Lloegr.

62. Byddwn yn rhoi cyngor os oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â chofrestru sefydliad o'r fath.

63. Y gofynion lleiaf ar gyfer cofrestru yw bod rhaid i elusen gael incwm o fwy na £5000 y flwyddyn.

64. Bydd sefydliadau gydag incwm blynyddol heb fod yn fwy na £5000 o bob ffynhonnell yn gallu ceisio cael eu cofrestru'n wirfoddol pan ddaw'r rhan o Ddeddf Elusennau 2006 sy'n caniatáu hyn i rym. Byddwn yn ei gyhoeddi ar ein gwefan cyn iddo ddigwydd. Tan hynny blaenoriaeth y Comisiwn yw cwblhau'r rhaglen o gofrestru elusennau sydd wedi'u hesgusodi a'u heithrio: nid yw'n ofynnol i ni gofrestru darpar elusen na all ddangos ei bod eisoes wedi cyrraedd y lleiafswm incwm.

65. Byddwn yn ystyried cais i gofrestru gan sefydliad sy'n is na'r lleiafswm incwm mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Mae enghreifftiau o'r achosion hynny yn cynnwys:

  • sefydliadau proffil uchel sy'n debygol o gael cyllid sylweddol mewn cyfnod byr iawn a byddai ffydd gyhoeddus mewn elusen yn lleihau os teimlir ein bod heb ymarfer ein swyddogaeth rheoleiddio;
  • gall y sefydliad ddarparu tystiolaeth benodol bod cyllid grant sylweddol yn dibynnu ar gael statws elusen gofrestredig.

66. Ni fyddwn yn ystyried cais dim ond oherwydd bod yr ymddiriedolwyr yn meddwl y byddant yn ei chael hi'n anodd i ddenu cyllid heb rif elusen gofrestredig. Gall sefydliad sefydlu ei hygrededd mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, i elusennau llai bydd HMRC yn asesu a oes modd rhoi rhyddhad treth. Bydd rhif HMRC yn darparu tystiolaeth o statws elusennol. Fel arall mae'n bosibl yr hoffech sefydlu cyfrif a enwir gydag elusen sy'n bod nes eich bod wedi cyrraedd y lefel incwm gofynnol.

67. Os oes llai na'r lleiafswm incwm gan eich sefydliad PEIDIWCH â chyflwyno cais nes eich bod yn sicr ein bod yn barod i'w ystyried. Gallwch e-bostio'r Uned Gofrestru neu ysgrifennu at y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol gan esbonio pam y teimlwch y dylem ystyried eich cais.

68. Os ydych yn cyflwyno cais, ac nid oes gennych naill ai:

  • y dystiolaeth incwm sy'n ofynnol; neu
  • lythyr neu e-bost gennym yn cadarnhau ein bod wedi cytuno i asesu'r cais;

caiff eich cais ei ddychwelyd atoch i'w gadw nes bod gan yr elusen incwm o fwy na £5000.

69. Fel tystiolaeth o incwm fel rheol bydd angen un o'r canlynol arnom:

  • cyfrifon blynyddol diweddaraf;
  • cyfriflen banc; neu
  • gynnig ffurfiol o gyllid.

70. Os nad oes rhif cyfeirnod HMRC gennych yna mae'n bosibl na fydd banciau yn caniatáu i chi agor cyfrif di-dreth. Fodd bynnag, dylech allu agor cyfrif trysorydd. Gellir ei droi'n gyfrif di-dreth pan ac os cewch statws elusen gofrestredig neu gallwch ddangos bod HMRC wedi cydnabod statws elusennol y sefydliad.

71. Rhaid i gorff gofrestru gyda ni os yw'n bodloni'r gofynion ar gyfer statws elusennol (gweler paragraff 2) a'r gofyniad lleiaf ar gyfer cofrestru (gweler paragraff 63).

Pa elusennau nad oes rhaid iddynt gofrestru?

72. Bydd y rhan fwyaf o elusennau yn bodloni'r ddwy set o feini prawf a ddisgrifir uchod a rhaid iddynt gofrestru. Ond nid oes modd i rai elusennau, a elwir yn elusennau sydd wedi'u hesgusodi, gofrestru ac nid yw ein pwerau goruchwylio yn berthnasol iddynt. Mae'r elusennau hyn (a restrir yn Atodlen 2 Deddf 1993) yn cynnwys rhai sefydliadau addysgol, a'r rhan fwyaf o brifysgolion ac amgueddfeydd cenedlaethol. Cewch fwy o fanylion am elusennau sydd wedi'u hesgusodi yn Arweiniad Gweithredol OG57, sydd wedi'i ysgrifennu ar gyfer ein staff yn bennaf ac ar ein gwefan.

73. Mae rhai elusennau eraill wedi'u heithrio o'r angen i gofrestru, er (yn wahanol i elusennau sydd wedi' hesgusodi ) mae darpariaethau eraill Deddf 1993 yn berthnasol iddynt, a hefyd ein goruchwyliaeth ni. Mae'r elusennau hyn wedi cael eu heithrio yn benodol o'r gofyniad i gofrestru gan ddeddfwriaeth neu Orchymyn y Comisiwn. Mae'r rheoliadau eithrio creiddiol wedi cael eu hestyn tan 2012. Fodd bynnag, bydd dyletswydd ar elusennau sydd wedi'u heithrio gydag incwm o fwy na £100,000 gofrestru pan ddaw'r rhan berthnasol o Ddeddf Elusennau 2006 i rym. Disgwylir i hyn ddigwydd yn hwyr yn 2008.

74. Mewn amgylchiadau eithriadol, byddwn yn ystyried cofrestru, yn wirfoddol, elusen sydd wedi'i heithrio o'r angen i gofrestru. Bydd angen i'r ceisydd ein darbwyllo bod rheswm da dros wneud hyn. Fel rheol gyffredinol rydym yn gweithio gyda chyrff mantell sy'n arolygu grwpiau o elusennau sydd wedi'u heithrio. Bydd y gwaith hwn yn golygu bod gweithdrefnau cytûn gennym mewn lle a dogfennau llywodraethol cymeradwy (er enghraifft, ar gyfer y mathau gwahanol o eglwysi) pan fydd angen cofrestru. Nid yw'r rhan fwyaf o'r cyrff cenedlaethol yn awyddus i ganghennau lleol eu sefydliadau gysylltu â ni yn annibynnol ymlaen llaw.

RHAN II - Y BROSES GOFRESTRU

Sut i wneud cais

75. Er mwyn cofrestru elusen, bydd angen i chi ddefnyddio'r pecyn sy'n cynnwys y ffurflen gais ar gyfer cofrestru (sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg). Gallwch ei lwytho i lawr o'n gwefan neu gallwch ei gael trwy ddychwelyd y cwpon y tu mewn i glawr cefn y cyhoeddiad hwn. Gofynnwch am y pecyn dim ond os ydych yn credu, ar ôl darllen y canllaw hwn:

  • bod eich sefydliad yn elusennol; ac
  • mae'n ofynnol iddo gofrestru.

76. Dylech gyflwyno cais dim ond ar ôl i chi fabwysiadu dogfen lywodraethol yn ffurfiol. Mae'r tablau yn Atodiad A yn esbonio sut i fabwysiadu mathau gwahanol o ddogfennau llywodraethol. Ond gallwn (mewn amgylchiadau eithriadol) ystyried cais gan sefydliad sydd heb fabwysiadu dogfen lywodraethol yn ffurfiol eto. Ystyrir pob cais ar ei deilyngdod ei hun ond mae'r amgylchiadau pan fyddwn o bosibl yn ystyried dogfen lywodraethol ddrafft yn cynnwys:

  • os yw apêl adeg trychineb ar fin gael ei lansio ac mae amser yn brin; neu
  • os yw'r elusen arfaethedig yn gweithredu mewn maes sydd ar ymylon y gyfraith elusennau, ac mae'n bosibl y bydd angen ceisio barn ein staff cyfreithiol; neu
  • os yw'r elusen arfaethedig yn gwmni ac mae'n dymuno defnyddio gair sensitif yn ei henw (gweler paragraff 34).

77. Bydd yr atebion i nifer o'r cwestiynau ar y ffurflen gais yn dibynnu ar yr hyn sydd yn y ddogfen lywodraethol. I wneud cais i gofrestru anfonwch y canlynol atom:

  • y ffurflen gais wedi'i chwblhau;
  • y ffurflen datganiad ymddiriedolwyr wedi'i harwyddo;
  • copi o'r ddogfen lywodraethol; a
  • thystiolaeth o incwm neu lythyr neu e-bost gennym yn cadarnhau ein bod wedi cytuno i asesu'r cais er bod y trothwy incwm heb ei gyrraedd.

78. Os yw'r ymgeiswyr yn bwriadu gweithio â buddiolwyr sy'n agored i niwed mae'r datganiad ymddiriedolwyr yn gofyn i'r ymddiriedolwyr gadarnhau bod y sefydliad wedi cynnal unrhyw wiriadau angenrheidiol neu a argymhellir gyda'r Swyddfa Cofnodion Troseddol neu unrhyw asiantaeth berthnasol arall.

Cyflymu eich cais

79. Os ydych yn mabwysiadu dogfen lywodraethol gymeradwy briodol (gweler paragraff paragraff 60) heb ei diwygio (heblaw llenwi'r bylchau neu ddileu paragraffau dewisol) bydd yn cyflymu'ch cais i gofrestru. Rhaid i sefydliadau sy'n defnyddio dogfen lywodraethol gymeradwy gadarnhau'r canlynol:

  • bod y corff cenedlaethol wedi cytuno y gallant ddefnyddio'r ddogfen lywodraethol gymeradwy; a
  • byddant yn gweithredu o fewn y canllawiau a gyhoeddwyd gan y corff hwnnw.

Gallwch wneud cais i gofrestru trwy wasanaeth cais i gofrestru ar-lein y Comisiwn. Mae'n cynnig ffordd gyflym a hawdd i anfon y ffurflen cais i gofrestru a'r ddogfen lywodraethol i'r Comisiwn. Bydd y system hawdd ei defnyddio yn darparu arweiniad ar-lein i chi pan fyddwch yn cwblhau'r ffurflen, a gallwch gadw'r ffurflen unrhyw bryd a dod 'nôl ati yn ddiweddarach os dymunwch. Hwn yw cam cyntaf y cais i gofrestru ar-lein. Bydd defnyddio'r system cais ar-lein yn lleihau'r amser a dreulir yn asesu eich cais a chwblhau cofrestru elusen. Cewch fynediad i'r gwasanaeth cais ar-lein trwy ein gwefan.

80. Bydd gan sefydliadau sy'n mabwysiadu un o'n dogfennau llywodraethol enghreifftiol ddogfennau llywodraethol sy'n haws eu hystyried oherwydd bod y darpariaethau gweinyddol eisoes wedi cael eu cytuno.

81. Fodd bynnag, os yw sefydliad eisiau cael ei gydnabod fel elusen rhaid iddo gael amcanion sy'n elusennol yn unig. Gall fod yn anodd cael hyn yn iawn. I'ch helpu gyda hyn darparwn rai amcanion enghreifftiol ar gyfer ystod eang o wahanol fathau o elusennau ar ein gwefan o dan 'Amcanion enghreifftiol'.

82. Os nad yw'r ffordd y mae'r cymal amcanion wedi'i geirio yn elusennol bydd rhaid i ni ofyn i chi newid y ddogfen lywodraethol cyn y gallwn symud ymlaen. Mae hyn yn debygol o achosi oedi sylweddol.

83. Cyn defnyddio dogfen lywodraethol gymeradwy neu enghreifftiol gydag amcanion enghreifftiol mae angen i chi sicrhau bod y ddogfen lywodraethol rydych yn ei chreu yn adlewyrchu'n gywir yr hyn y bydd y sefydliad yn ei wneud a sut y bydd yn gweithredu.

Datganiad gan yr ymddiriedolwyr neu'r hyrwyddwyr

84. Rhaid i bob un o'r ymddiriedolwyr arwyddo'r ffurflen datganiad. Er mwyn sefydlu bod unigolyn heb ei anghymhwyso rhag bod yn ymddiriedolwr, mae angen y canlynol arnom:

  • yr holl enwau a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd gan yr ymddiriedolwyr;
  • eu cyfeiriadau; a'u
  • dyddiadau geni.

85. Fodd bynnag, dim ond dewis enw pob ymddiriedolwr fydd i'w weld ar y Gofrestr gyhoeddus ar ein gwefan.

Sut ydym ni'n penderfynu a yw'ch sefydliad yn elusen?

86. Rhaid i ni gymhwyso'r gyfraith elusennau wrth lunio ein barn ynglŷn â statws elusennol sefydliad. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwirio bod yr amcanion yn elusennol. Fel rheol mae hyn yn golygu ystyried a yw'r amcanion yn cael eu cydnabod fel rhai elusennol ar hyn o bryd. Os nad ydynt byddwn yn dilyn yr egwyddorion a nodir yn Cydnabod Dibenion Elusennol Newydd (RR1A) wrth ystyried a oes modd cydnabod diben elusennol newydd o fewn y gyfraith.
  • Gwirio ei weithgareddau neu ei weithgareddau arfaethedig er mwyn penderfynu a ydynt yn gallu hyrwyddo'r diben penodedig.
  • Bod yn fodlon bod y sefydliad yn dangos budd cyhoeddus digonol.

87. Seilir ein penderfyniad yn bennaf ar yr wybodaeth a rowch.

88. Mae'n rhaid i ni gael ychydig o wybodaeth ffeithiol sylfaenol am yr elusen a'r ymddiriedolwyr er mwyn gwneud y cofnodion priodol yn y Gofrestr Elusennau. Rhaid i ni fodloni ein hunain bod modd cofrestru'r sefydliad ac nid yw wedi'i esgusodi neu ei eithrio rhag cofrestru.

89. Os na all y sefydliad weithredu, ac nid oes unrhyw gynlluniau ganddo i'w alluogi i weithredu yn y dyfodol agos, yna ni all aros ar y Gofrestr. Yn ogystal rhaid i ni fodloni ein hunain bod pob un o'r ymddiriedolwyr yn gallu gweithredu fel ymddiriedolwr. Byddwn yn cynnal archwiliadau ag asiantaethau eraill (ee y Gwasanaeth Methdaliad), ac os yw'n golygu gweithio gyda phlant bydd angen i ni fodloni'n hunain bod unrhyw archwiliadau sy'n ofynnol wedi cael eu cynnal trwy'r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn erbyn y rhestrau a weinyddir ganddi o dan Ddeddf Amddiffyn Plant 1999.

Gwybodaeth atodol

90. Mewn sawl achos ni all yr amcanion gael eu geirio fel rhai elusennol, ond mae'r gweithgareddau arfaethedig pan gânt eu hesbonio'n llawn yn dangos bwriad elusennol clir. Mewn achosion o'r fath byddwn yn rhoi cyngor ar y newidiadau i eiriad yr amcanion, yn hytrach na gwrthod y cais.

Rhoi cyngor ac arweiniad

91. Mae ein swyddogaethau o dan Ddeddf 1993 yn cynnwys:

  • annog datblygu dulliau gweinyddu gwell;
  • ymchwilio i gamymddwyn honedig neu gamreoli wrth weinyddu elusennau.

92. Fel y rheolydd elusennau, mae nifer o amcanion gennym hefyd, gan gynnwys cynyddu ffydd a hyder cyhoeddus mewn elusennau. Credwn ei fod yn ddoeth cynnig arweiniad i sefydliadau cyn eu bod yn dechrau eu bywyd ar y Gofrestr. Dylai fod nod tebyg gan bob un ohonom o roi'r cyfle gorau i bob elusen ffynnu. O ganlyniad os teimlwn ei fod yn briodol byddwn yn cynnig arweiniad ar reolaeth a materion arfer da ar yr adeg hon. Gall hyn olygu newidiadau i ddarpariaethau gweinyddol eich dogfen lywodraethol nad ydynt yn effeithio ar statws elusennol y sefydliad. Mae profiad wedi dangos bod sefydliadau'n gwerthfawrogi cael y math hwn o arweiniad ar yr adeg hon.

Beth sy'n digwydd pan fyddwn yn derbyn eich cais?

93. Pan fydd y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol wedi derbyn:

  • y ffurflen gais wedi'i chwblhau;
  • datganiad yr ymddiriedolwyr; a
  • dogfennaeth ategol a restrir yn Atodiad A;

byddant yn anfon cydnabyddiaeth atoch.

94. Ar yr un pryd caiff y cais ei anfon i'r Uned Gofrestru i'w asesu. Nod yr Uned Gofrestru yw rhoi ymateb cychwynnol i'r cais o fewn 15 diwrnod gwaith. Os ydych wedi defnyddio dogfen lywodraethol gymeradwy heb ei newid ac nid oes unrhyw fudd preifat sylweddol i unrhyw ymddiriedolwr neu barti cysylltiedig fel rheol byddwn yn gallu cymeradwyo'ch cais a rhoi'r rhif cofrestru i chi o fewn yr amserlen hon.

95. Fodd bynnag, bydd rhaid i ni ofyn cwestiynau pellach yn aml iawn, cyn y gallwn ddweud a yw'r sefydliad yn elusennol yn ôl y gyfraith neu beidio. Os yw hyn yn digwydd byddwn yn rhoi enw a rhif cyswllt i chi ar gyfer y sawl sy'n delio â'ch cais. Hefyd cewch gyfeirnod i'w ddyfynnu mewn gohebiaeth yn y dyfodol.

96. Os oes angen i ni gysylltu â chi am wybodaeth neu eglurhad pellach, byddwn yn ceisio bod yn glir ynghylch ein cwestiynau ac a ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â statws elusennol neu faterion llywodraethu ac arfer da. Weithiau wrth i ni greu darlun o'r sefydliad ni fydd modd i ni wahaniaethu'n glir rhwng y ddau nes bod yr wybodaeth angenrheidiol gennym.

A fyddwn yn ystyried cais os yw'r ddogfen lywodraethol mewn ffurf ddrafft, hynny yw, nid yw'r sefydliad yn bodoli eto?

97. Yn gyffredinol, yr ateb yw 'NA FYDDWN'. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod gan sefydliadau sydd eisoes yn bod syniad clir o sut y byddant yn cyflawni eu hamcanion. Yn y gorffennol, os yw corff yn cyflwyno dogfen lywodraethol ddrafft, mae hyn yn aml yn arwain at lawer o ohebu oherwydd nid oes gan yr hyrwyddwyr unrhyw ddealltwriaeth glir o'r hyn y maen nhw eisiau ei wneud. Mewn sawl un o'r achosion hyn nid yw'r sefydliad byth yn cael ei sefydlu.

98. Yr unig eithriad cyffredinol yw ceisiadau gan gwmnïau sy'n dymuno defnyddio'r gair elusen neu elusennol yn ei enw (gweler paragraff 34) neu apeliadau adeg trychineb (gweler paragraff 22 a 23).

99. Os yw'r amcanion a'r gweithgareddau yn ymddangos eu bod yn elusennol, gofynnir i chi gyflwyno cais ffurfiol, ond nid yw hyn yn gwarantu y bydd y corff yn cael ei gofrestru.

Beth sy'n digwydd os nad yw'ch cais yn llwyddiannus?

100. Os, ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a ddarparwyd gyda'r cais, rydym yn penderfynu nad yw'ch corff yn elusennol yn unig, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn rhoi'r rheswm am hyn. Bydd y llythyr hefyd yn esbonio os ydych yn anghytuno â'n penderfyniad neu os ydych yn teimlo ein bod wedi camddeall eich cais, bydd angen i chi ysgrifennu atom yn nodi'r rhesymau pam y teimlwch fod eich sefydliad yn elusennol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni adolygu ein penderfyniad. Mae hawl gennych apelio i'r Tribiwnlys Elusennau os na allwn gofrestru eich sefydliad ar ôl adolygu'r penderfyniad.

Dyddiad cofrestru

101. Os yw'ch cais yn llwyddiannus, y dyddiad cofrestru yw'r dyddiad pan fyddwn yn rhoi eich sefydliad ar y Gofrestr Elusennau. Ond, nid yw statws elusennol yn dibynnu ar gofrestru ond yn hytrach ar y dyddiad pan gafodd y sefydliad ei ffurfio fel elusen (er enghraifft, y dyddiad y mabwysiadwyd yr amcanion elusennol). Gall Cyllid a Thollau EM ôl-ddyddio eithriad treth i'r dyddiad pan ddechreuodd eich corff gyflawni nodau elusennol yn unig, hyd yn oed os oedd hyn cyn y dyddiad cofrestru.

102. Bydd manylion am eich elusen yn ymddangos ar y Gofrestr Gyhoeddus ar ein gwefan cyn pen dau ddiwrnod gwaith o gael ei derbyn i'w chofrestru.

Beth sy'n digwydd ar ôl cofrestru?

103. Nid diwedd y broses yw cofrestru. Bydd nifer o ddyletswyddau a chyfrifoldebau parhaus gennych, a gall rhai ohonynt gynnwys cysylltiad rheolaidd â ni. Bydd y cysylltiad hwn yn rhoi cyngor a chymorth i chi pan fydd ei angen arnoch, a hefyd bydd yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod elusennau'n cael eu monitro a'u harolygu'n effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud yr hyn y dylent fod yn ei wneud. Mae'r canlynol yn rhestr o rai o'r pethau y bydd rhaid i chi eu gwneud os ydych yn ymddiriedolwr elusen gofrestredig:

  • cadw cyfrifon eich elusen;
  • dweud wrthym am unrhyw newidiadau i'ch dogfen lywodraethol (er enghraifft, newid dyddiad penodedig y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu newid nifer y cyfarfodydd ymddiriedolwyr);
  • dweud wrthym am unrhyw newidiadau i fanylion eich elusen a ddangosir ar y Gofrestr Elusennau (er enghraifft cyfeiriad y gohebydd) - un ffordd o gyflawni'r ddyletswydd hon yw dychwelyd ffurflen diweddaru manylion yr elusen sy'n cael ei dosbarthu bob blwyddyn;
  • dweud wrthym os nad yw'ch elusen yn bodoli neu'n gweithredu mwyach; ac
  • mae dyletswydd gyfreithiol ar elusennau sydd ag incwm neu wariant o fwy na £10,000 i ddychwelyd Ffurflen Flynyddol bob blwyddyn. Dylid cynnwys y Cyfrifon, Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol neu Ariannol ac Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr gyda'r ffurflen hon. Rhaid i'r dogfennau hyn gael eu hanfon atom cyn pen 10 mis o ddiwedd blwyddyn ariannol yr elusen.

104. Os yw'ch cais i gofrestru yn llwyddiannus, byddwn yn anfon llythyr at bob ymddiriedolwr a thaflen yn eu croesawu ac yn eu hatgoffa o'r dyletswyddau hyn, a byddwn hefyd yn ysgrifennu at y gohebydd enwebedig i gadarnhau cofnod eich elusen ar y Gofrestr Elusennau.

Atodiad A: Pa strwythur cyfreithiol sydd orau i'ch sefydliad?

Cyfansoddiad

Pa fath o sefydliad sy'n cael ei greu gan gyfansoddiad?

Math o sefydliad:

Sefydliad Anghorfforedig

Fel arfer, gelwir yr ymddiriedolwyr yn:

Aelodau'r Pwyllgor Gwaith neu'r Pwyllgor Rheoli

Gall cyfansoddiad gael ei alw yn enw arall hefyd, ee Rheolau.

Mae rhan 'sefydliad' y disgrifiad yn golygu ei fod yn gorff sy'n cynnwys grŵp o bobl sydd wedi penderfynu cydweithredu i hybu'r hyn y sefydlwyd y corff i'w wneud, ac mae ganddynt rolau arbennig i'w chwarae yn ei weinyddiad.

Mae rhan 'anghorfforedig' y disgrifiad yn dweud wrthych nad yw'r sefydliad yn gwmni. Mae hyn yn golygu:

  • Ni fydd gan y sefydliad atebolrwydd cyfyngedig a phersonoliaeth gyfreithiol ei hun (hy gall yr ymddiriedolwyr elusen fod yn atebol i ad-dalu unrhyw ddyledion sy'n codi ar ran yr elusen. Gall dyledion o'r fath gael eu talu o gronfeydd yr elusen ei hun oni bai fod yr ymddiriedolwyr elusen heb weithredu'n ddoeth, yn gyfreithlon, ac yn unol â dogfen lywodraethol yr elusen);
  • ni fydd y gymdeithas yn gallu berchen ar dir (a buddsoddiadau fel arfer) yn ei enw ei hun.

Gall fod yn briodol i ffurfio sefydliad anghorfforedig os yw un neu ragor o'r canlynol yn berthnasol:

  • Bydd y sefydliad yn weddol fach o ran asedau;
  • Bydd y sefydliad yn gangen leol o elusen genedlaethol, ac mae cyfansoddiad safonol yn bodoli ar gyfer y canghennau;
  • Mae aelodaeth ganddo;
  • Mae'r ymddiriedolwyr elusen yn cael eu hethol neu eu penodi i ddal swydd am gyfnod penodedig, un flwyddyn fel arfer;
  • Bydd yr ymddiriedolwyr elusen yn cael eu hethol gan aelodau;
  • Mae angen cynrychioli barn trigolion a sefydliadau lleol trwy aelodaeth neu fel defnyddwyr y cyfleusterau;
  • Bydd amcanion y sefydliadau yn cael eu cyflawni yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan, neu drwy, ei aelodau (hy pan fydd yr aelodau yn dal swydd neu'n ymgymryd â gwaith gwirfoddol ar ran y sefydliad.

Cyngor cyfreithiol proffesiynol

Yn gyffredinol, nid oes angen hyn arnoch. Gan fod cyfansoddiad yn ddogfen llai cymhleth na gweithred ymddiriedolaeth neu femorandwm ac erthyglau cymdeithasu, efallai na fydd angen cymorth ymgynghorydd cyfreithiol proffesiynol arnoch i'w sefydlu. Cewch arweiniad pellach ar baratoi cyfansoddiad yn Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol (CC22).

Sut mae cyfansoddiad yn cael ei weithredu?

Fel rheol, caiff ei weithredu trwy gael ei fabwysiadu (ei dderbyn i'w ddefnyddio) mewn cyfarfod ffurfiol o'r bobl hynny sydd, neu a fydd yn ymddiriedolwyr elusen a'r aelodaeth gyffredinol.

Bydd gofyn i chi gael fersiwn terfynol teipiedig o'r cyfansoddiad sy'n rhaid:

  • cael ei arwyddo gan bob un o'r ymddiriedolwyr elusen:
  • cael ei ddyddio ar ddiwrnod y cyfarfod lle y cytunwyd arno; a
  • dylai nodyn sy'n dweud bod y cyfansoddiad wedi cael ei fabwysiadu'n ffurfiol gael ei roi yng nghofnodion y cyfarfod hwnnw.

Pa ddogfennau sydd eu hangen i gofrestru?

Yn ogystal â'r ffurflen gais a'r datganiad ymddiriedolwyr, sydd wedi'u cynnwys yn y pecyn Cais i Gofrestru Elusen (CC5), rhaid darparu'r canlynol:

  • copi o fersiwn cyfredol y cyfansoddiad;
  • cadarnhad gan un o'r ymddiriedolwyr o'r dyddiad y mabwysiadwyd y cyfansoddiad gan gyfarfod yr aelodau; a
  • thystiolaeth o'r lefel incwm gofynnol, neu gopi o lythyr neu e-bost gennym yn cytuno i ystyried y cais.

Gweithred Ymddiriedolaeth

Pa fath o sefydliad sy'n cael ei greu gan weithred ymddiriedolaeth?

Math o sefydliad:

Ymddiriedolaeth

Fel arfer, gelwir yr ymddiriedolwyr yn:

Ymddiriedolwyr

Gall gweithredoedd ymddiriedolaeth hefyd gael eu galw'n enwau eraill, fel datganiad neu weithred ymddiriedaeth, neu weithred setlo.

Bydd gweithred ymddiriedolaeth yn creu ymddiriedolaeth. Ni all ymddiriedolaeth berchen ar dir neu arwyddo dogfennau yn ei henw ei hun.

Gall fod yn briodol i sefydlu ymddiriedolaeth pan fydd rhai neu bob un o'r canlynol yn berthnasol:

  • Bydd y sefydliad yn cael ei weinyddu gan grŵp gweddol fach o bobl.
  • Nid oes unrhyw derfyn amser ar ba mor hir y bydd yr ymddiriedolwyr elusen yn eu swydd (er ein bod yn argymell bod cyfansoddiad corff yr ymddiriedolwyr yn cael ei adolygu'n gyson).
  • Bydd yr ymddiriedolwyr elusen parhaol yn penodi'r ymddiriedolwyr elusen newydd.
  • Nid yw'r sefydliad yn mynd i ddibynnu ar aelodaeth ar gyfer unrhyw ran o'i weinyddiad.
  • Bydd gweinyddiad y sefydliad yn syml.
  • Bydd yn sefydliad rhoi grantiau yn unig.
  • Bydd tir ac adeiladau yn cael eu dal ar ymddiriedolaeth at ddefnydd parhaol ar gyfer nodau'r elusen.
  • Bydd cyfyngiad ar wario cyfalaf.

Cyngor cyfreithiol proffesiynol

Mae gweithred ymddiriedolaeth yn ddogfen ffurfiol, felly efallai y bydd angen cymorth ymgynghorydd cyfreithiol proffesiynol arnoch i'w chwblhau a'i chyflawni. Cewch fwy o wybodaeth am baratoi gweithred ymddiriedolaeth yn Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol (CC22).

Sut mae gweithred ymddiriedolaeth yn cael ei gweithredu?

Mae'n cael ei chyflawni: mae hyn yn golygu bod angen i'r rheiny sy'n sefydlu'r ymddiriedolaeth ei harwyddo a'i dyddio, ger bron tyst annibynnol. Yna rhaid i'r tystion roi eu henw wrth ochr pob un o'r llofnodion a rhoi eu cyfeiriad. Diben hyn yw dilysu hunaniaeth y rhai sy'n arwyddo. Dylai'r weithred ymddiriedolaeth gyfeirio at swm penodol o arian neu ryw ased arall y bydd yr ymddiriedolaeth yn berchen arno ar yr adeg y mae'r weithred ymddiriedolaeth yn cael ei chyflawni. Mae'n dderbyniol i swm nominal o arian gael ei ddatgan, £5 neu £10 dyweder. Os yw'r weithred ymddiriedolaeth yn datgan ymddiriedolaethau elusennol ond nid yw'n cyfeirio at unrhyw asedion a ddelir ar yr ymddiriedolaethau hynny adeg cyflawni'r weithred, ni allwn gofrestru'r elusen oni bai a hyd nes bod tystiolaeth annibynnol bod rhyw eiddo wedi cael ei setlo ar ymddiriedolaethau'r weithred, a bod yr elusen yn bodloni'r gofynion lleiaf ar gyfer cofrestru.

Oes angen stampio'r weithred ymddiriedolaeth?

Ar gyfer gweithredoedd a gyflawnwyd ar ôl 1 Rhagfyr 2003 bydd yn dibynnu ar yr asedau sy'n cael eu dal ar ymddiriedolaeth. Os yw'r weithred yn datgan ymddiriedolaeth dros:

  • stociau a chyfranddaliadau, dylid ei hanfon i Swyddfa Stampio Caeredin Cyllid a Thollau EM, rhag ofn bod angen talu stampdoll;
  • budd mewn tir (hy, y rhydd-ddaliad neu'r les-ddaliad), nid oes angen ei stampio - mae trefn ardystio ar wahân yn bodoli erbyn hyn ar gyfer Treth Tir Stampdoll;
  • arian parod, ni fydd angen ei stampio.

Bydd angen stampio gweithredoedd a gyflawnwyd cyn 1 Rhagfyr 2003. Cewch wybodaeth bellach ar wefan Cyllid a Thollau EM (www.hmrc.gov.uk) neu drwy ffonio llinell gymorth Trethi Stamp: 0845 603 0135.

Pa ddogfennau sydd eu hangen i gofrestru?

Yn ogystal â'r ffurflen gais a'r datganiad ymddiriedolwyr, sydd wedi'u cynnwys yn y pecyn Cais i Gofrestru Elusen (CC5) rhaid darparu'r canlynol:

  • copi o'r weithred ymddiriedolaeth wedi'i dyddio sy'n dangos enwau'r ymddiriedolwyr elusen cyntaf a'r tystion i'w llofnodion;
  • copi o unrhyw weithredoedd atodol neu weithredoedd amrywiad sy'n dangos diwygiadau dilynol;
  • os yw'r weithred(gweithredoedd) yn datgan ymddiriedolaethau dros stociau a chyfranddaliadau, tystiolaeth o ddyfarniad gan y Swyddfa Stampio leol neu dystysgrif eithrio ddilys; a
  • thystiolaeth o'r lefel incwm gofynnol, neu gopi o lythyr neu e-bost gennym yn cytuno i ystyried y cais.

Memorandwm ac erthyglau cymdeithasu

Pa fath o sefydliad sy'n cael ei greu gan femorandwm ac erthyglau cymdeithasu?

Math o sefydliad:

Cwmni cyfyngedig drwy warant

Fel arfer, gelwir yr ymddiriedolwyr yn:

Bwrdd, cyngor rheoli neu gyfarwyddwyr

Mae memorandwm ac erthyglau cymdeithasu yn creu cwmni. Mae gan gwmni fantais dros ymddiriedolaeth a sefydliad anghorfforedig oherwydd ei fod yn 'gorfforedig'. Mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei ystyried yn berson yn ôl y gyfraith, yn yr un ffordd ag unigolyn. Felly gall cwmni, fel unigolyn, berchen ar dir.

Mae cwmni yn berson cyfreithiol sy'n hollol ar wahân i'w aelodau a'i gyfarwyddwyr. Y cyfarwyddwyr yw asiantau'r cwmni ac felly nid ydynt yn atebol yn bersonol fel rheol am ei ddyledion. Gall person sy'n gweithredu fel cyfarwyddwr tra ei fod wedi'i wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr fod yn atebol yn bersonol.

Gall cyfarwyddwr fod yn atebol i wneud taliadau i'r cwmni:

  • os yw ef neu hi yn gweithredu'n groes i ymddiriedolaeth neu ddyletswydd i'r cwmni; neu
  • os yw ef neu hi yn gyfrifol am fasnachu twyllodrus neu anghyfiawn gan y cwmni (adrannau 213/214 Deddf Methdaliad 1986).

Bydd 'atebolrwydd cyfyngedig' gan y cwmni hefyd sy'n golygu, yn achos cwmni elusennol arferol, fod ei aelodau yn atebol i dalu dyledion y cwmni dim ond i'r raddfa y maent wedi ymgymryd i'w gwarantu (y terfyn atebolrwydd a nodwyd yn y memorandwm cymdeithasu fel arfer yw swm nominal fel £5).

Mae cwmni yn gweithredu yn ôl y gyfraith cwmnïau, yn ogystal â'r gyfraith elusennau, ac mae rhai dyletswyddau y mae'n rhaid ymgymryd â nhw, fel cyflwyno'r cyfrifon bob blwyddyn i'r Cofrestrydd Cwmnïau.

Ond, ni all cwmnïau elusennol byth fod yr un fath â chwmnïau masnachol. Prif ddiben cwmnïau masnachol yw gwneud elw i'w ddosbarthu i'w aelodau. Mae cyfansoddiad cwmni elusennol bob amser yn gwahardd dosbarthu elw i'r aelodau. Mae holl eiddo cwmni elusennol i'w ddefnyddio ar gyfer nodau elusennol.

Pa sefydliadau sy'n defnyddio'r math hwn o strwythur?

Gall fod yn briodol i sefydlu cwmni os yw rhai neu bob un o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae'r sefydliad yn eithaf mawr;
  • bydd ganddo weithwyr;
  • bydd yn darparu gwasanaethau elusennol dan gytundebau;
  • bydd yn llunio contractau masnachol yn rheolaidd;
  • bydd yn berchennog sylweddol ar dir rhydd-ddaliad neu brydlesol neu eiddo arall (nad yw'n waddol parhaol).

Cyngor cyfreithiol proffesiynol

Gan fod cwmni yn ddarostyngedig i'r gyfraith cwmnïau (a all fod yn eithaf cymhleth) mae'n bosibl y bydd angen cymorth ymgynghorydd cyfreithiol proffesiynol arnoch i'w sefydlu.

Sut mae memorandwm ac erthyglau cymdeithasu yn cael ei weithredu?

Mae'n cael ei weithredu trwy gael ei danysgrifio gan un neu fwy o bobl yn unol â darpariaethau Rhan I Deddf Cwmnïau 1985, a thrwy gofrestru gyda'r Cofrestrydd Cwmnïau yn Nhŷ'r Cwmnïau a fydd yn cyhoeddi Tystysgrif Ymgorffori. Codir ffi am gofrestru cwmnïau gyda'r Cofrestrydd Cwmnïau. (Gallwch gysylltu â Thŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd CF4 3UZ, ffôn 0870 333 3636 neu ar ei wefan yn www.companieshouse.gov.uk.)

Pa ddogfennau sydd eu hangen i gofrestru?

Yn ogystal â'r ffurflen gais a'r datganiad ymddiriedolwyr, sydd wedi'u cynnwys yn y pecyn pecyn Cais i Gofrestru Elusen (CC5) rhaid darparu'r canlynol:

  • copi o'r memorandwm ac erthyglau cymdeithasu;
  • copi o'r dystysgrif corffori (oni bai oherwydd geiriau fel 'elusen' yn enw'r cwmni fod rhaid i ni ddyfarnu cyn y gall y cwmni gael ei gorffori); a
  • chopi o unrhyw benderfyniad(au) arbennig sy'n dangos diwygiadau i'r memorandwm ac erthyglu ar ôl corffori; a
  • thystiolaeth o'r lefel incwm gofynnol, neu gopi o lythyr neu e-bost gennym yn cytuno i ystyried y cais.

Atodiad B: Cyfeiriadau a rhifau ffôn defnyddiol

Comisiwn Elusennau

Gallwch gael copïau o'r rhan fwyaf o'n cyhoeddiadau ar ein gwefan ynghyd â chyngor pellach ar gofrestru, dyletswyddau ymddiriedolwyr, cwestiynau cyffredin am reoliadau cyfrifon a'r Ffurflenni Blynyddol etc.

Comisiwn Elusennau Uniongyrchol
Blwch SP 1227
Lerpwl
L69 3UG

Ar gyfer ymholiadau ffôn cyffredinol: 0845 300 0218

Action with Communities in Rural England (ACRE)

Somerford Court
Somerford Road
Cirencester
Swydd Gaerloyw GL7 1TW

Ffôn: 01285 653477
Gwefan: www.acre.org.uk

Mae'r sefydliad yn cynnig cyngor a chymorth ar ystod eang o faterion o gofrestru i gynnal adeiladau. Mae hefyd yn darparu hyfforddiant ac yn cyhoeddi llyfrau a thaflenni ac mae ganddo wasanaeth arbennig ar gyfer ymddiriedolwyr rheoli neuaddau pentref o'r enw 'Gwasanaeth Ymgynghorol Neuaddau Pentref Cenedlaethol'.

Mae grwpiau ACRE lleol yn cynorthwyo elusennau a chyrff gwirfoddol yn eu hardal. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol yn cynnig cyngor uniongyrchol, neu gall roi elusennau mewn cysylltiad â'u ACRE lleol.

Association of Charitable Foundations

Central House
14 Upper Woburn Place
Llundain WC1H 0AE

Ffôn: 020 7255 4499
Gwefan: www.acf.org.uk

Mae'r Sefydliad yn cynorthwyo ymddiriedolaethau a sefydliadau sy'n rhoi grantiau, gan gynnwys sefydliadau newydd sydd yng nghamau cynnar datblygiad. Mae'n darparu amrywiaeth o gyrsiau, seminarau a chyhoeddiadau ar arfer da ym maes rhoi grantiau ac ar agweddau perthnasol ar y gyfraith elusennau, ac mae'n cynrychioli elusennau sy'n rhoi grantiau yn yr arena gyhoeddus. Mae'r Sefydliad yn cynnig aelodaeth i bob elusen sy'n rhoi grantiau, ac yn croesawu ymholiadau gan sefydliadau nad ydynt yn aelodau heb unrhyw orfodaeth i ymuno.

Y Comisiwn Hapchwarae

Adran Lotrïau
4th Floor
Victoria Square House
Victoria Square
Birmingham
B2 4BP

Ffôn: 0121 230 6666

Mae'r sefydliad yn darparu gwybodaeth am y rheoliadau sy'n ymwneud â lotrïau. Mae'n Asiantaeth y Llywodraeth, ac felly gall unrhyw unigolyn geisio gwybodaeth o'r Bwrdd.

Community Matters

12 -20 Baron Street
Islington
Llundain N1 9LL

Ffôn: 020 7837 7887
Gwefan: www.communitymatters.org.uk

Mae'r corff yn darparu cyngor a chymorth, Gwasanaeth Ymgynghorol Cymunedol, cyrsiau, seminarau, cynadleddau ac ystod eang o gyhoeddiadau. Cynigir ei wasanaethau i sefydliadau cymunedol newydd a sefydledig.

Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO)

Regent's Wharf
8 All Saints Street
Llundain N1 9RL

Ffôn: 020 7713 6161
Desg gymorth rhadffôn: 0800 2798 798

Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO) yw'r corff mantell mwyaf i'r sector gwirfoddol a chymunedol ac mae'n cynnig cyngor a gwybodaeth ar ystod eang o bynciau. Yn ogystal â darparu cyngor arfer orau, mae NCVO yn cynrychioli'r sector pan fydd yn delio â'r llywodraeth a'r rhai sy'n llunio polisïau. Mae NCVO yn gorff aelodaeth hefyd ac mae mwy na 4,200 o sefydliadau yn aelodau.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Tŷ Baltig
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd CF10 5FH

Ffôn: 029 2043 1700

WCVA yw llais y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae'n cynrychioli buddiannau ac yn ymgyrchu dros gyrff gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau yng Nghymru. Mae'n darparu ystod gynhwysfawr o wybodaeth, gwasanaethau ymgynghori, cyllid, rheolaeth a hyfforddiant.

Cyllid a Thollau EM

HMRC Charities
St John's House
Merton Road
Bootle
Glannau Mersi L69 9BB

Ffôn: 08453 020203

HMRC Charities yw cangen busnes Cyllid a Thollau EM sy'n gyfrifol am bob mater sy'n ymwneud â threthu elusennau, gan gynnwys TAW. Cyhoeddir amrywiaeth o lyfrynnau ar y rhyddhad treth sydd ar gael i elusennau.

Cymdeithas Cynghorau Gwirfoddol Sirol Cymru (WACVC)

d/o G Benfield
WCVA
(Cyfeiriad fel uchod)

Ffôn: 029 2043 1700

Cymdeithas Genedlaethol Gweithredu Gwirfoddol a Chymunedol (NAVCA)

The Tower
2 Furnival Square
Sheffield S1 4QL

Ffôn: 0114 278 6636

Y gymdeithas hon yw'r corff mantell cenedlaethol ar gyfer 250 o Gynghorau Gwasanaeth Gwirfoddol yn Lloegr. Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol lleol yn darparu cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i gyrff gwirfoddol ac elusennau yn ei ardal, gan gynnwys cymorth gyda chofrestru. Os hoffech gael manylion am eich Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol lleol chi, cysylltwch â NAVCA uchod.

Mae sefydliadau sy'n debyg i NAVCA yn bodoli ar gyfer cyrff gwirfoddol ac elusennau a leolir yng Nghymru. Cysylltwch â WCVA (gweler uchod).

Cymdeithas y Gyfraith Elusennau

Gweinyddwr CLA

E-bost: admin@charitylawassociation.org.uk

Charities Aid Foundation

25 Kingshill Avenue
Kings Hill
West Malling
Caint ME19 4TA

Ffôn: 01732 520000
Gwefan: www.cafonline.org.uk

Mae'r Sefydliad yn darparu gwasanaethau i hwyluso rhoi mewn modd treth effeithlon, ac yn cynnig gwasanaethau gweinyddu cyfamodau. Mae'n gwneud gwaith ymchwil ac yn cyhoeddi gwybodaeth ar bob agwedd ar gyllido sy'n ymwneud â'r sector gwirfoddol. Mae ei wasanaethau ar gael i'r sector gwirfoddol yn gyffredinol.

Directory of Social Change

24 Stephenson Way
Llundain NW1 2DP

Ffôn: 0845 077 7707

Mae'r sefydliad yn cynnig ystod eang o gyrsiau a digwyddiadau hyfforddi ar nifer o bynciau gan gynnwys rheoli gwirfoddolwyr, cyfathrebu a chodi arian. Mae ystod eang o gyhoeddiadau hefyd yn cael ei chynhyrchu (ee Llawlyfr Codi Arian, Canllaw i'r Prif Ymddiriedolaethau). Mae gwasanaethau ar gael i unrhyw grŵp yn y sector gwirfoddol.

Elusennau Gogledd Iwerddon:

Adran Datblygiad Cymdeithasol
Yr Uned Wirfoddol a Chymunedol
Ground Floor
Lighthouse Building
1 Cromac Place
Gasworks Business Park
Ormeau Road
Belfast BT7 2JB

Ffôn: 02890 829414
E-bost: vcu@dsdni.gov.uk

Financial Services Authority

25 The North Colonnade
Canary Wharf
Llundain E14 5HS

Ffôn: 020 7066 1000
Gwefan: www.fsa.gov.uk

Housing Corporation

Maple House
149 Tottenham Court Road
Llundain W1P 6BN

Ffôn: 0845 230 7000

Institute of Fundraising

Park Place
12 Lawn Lane
Llundain
SW8 1UD

Ffôn: 020 7840 1000

Mae'r Institute of Fundraising yn elusen gofrestredig sy'n cynnig cyrsiau addysg a hyfforddiant mewn codi arian i elusennau gyda'r nod o wella safonau perfformiad ac arfer moesegol ym maes codi arian elusennau.

Mae'r Sefydliad yn un proffesiynol, ac mae aelodaeth yn agored i unigolion yn unig, sy'n rhaid dilyn cod ymarfer caeth.

Interchange Legal Advisory Service

Interchange Studios
Hampstead Town Hal Centre
213 Haverstock Hill
Llundain NW3 4QP

Ffôn: 020 7692 5860

Ffacs: 020 7813 7493

E-bost: legal@interchange.org.uk

Mae'r corff hwn yn rhoi cyngor i'r ystod gyfan o elusennau, a darpar elusennau, gan gynnwys grwpiau cenedlaethol a lleol. Mae'r cyngor yn cynnwys llunio dogfennau llywodraethol, rhoi cyngor ar y gyfraith ymddiriedolaeth ac elusennau, a materion sy'n ymwneud â chyfrifoldebau ymddiriedolwyr, cyflogaeth, eiddo, diddymu a methdaliad.

Office of the Scottish Charity Regulator

2il Lawr
Quadrant House
9 Riverside Drive
Dundee DD1 4NY

Ffôn: 01382 346890 neu 07724 150833
E-bost: info@oscr.org.uk

Tŷ'r Cwmnïau

Ffordd y Goron
Maindy
Caerdydd
CF14 3UZ

Ffôn: 0870 333 3636

Gwefan: www.companieshouse.gov.uk

Atodiad C - Canllawiau'r Comisiwn Elusennau

Rydym yn cynhyrchu amrywiaeth o ganllawiau mewn fformatau gwahanol (ee llyfrynnau, casetiau sain, cryno ddisgiau a thaflenni gwybodaeth). Mae'r rhai sy'n berthnasol i ddechrau a chofrestru elusen wedi'u rhestru isod gyda chyfeirnodau priodol. Am restr lawn edrychwch ar Cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau(CC1). Mae pob un ar gael ar ein gwefan neu drwy ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218.

Canllawiau (ar gael ar y wefan neu gopi caled)

Os hoffech gael y rhain ar gasét sain, rhowch AC yn lle CC yn y cyfeirnod. Mae rhai (ee CC3, CC3(a) a CC37) ar gael ar CD yn lle hynny.

Mae'r canlynol hefyd ar gael:

Cyhoeddiadau'r Adolygiad o'r Gofrestr

Dogfennau llywodraethol enghreifftiol

Adroddiadau Ymchwil

Braille

Mae'r cyhoeddiadau canlynol ar gael mewn Braille hefyd:

  • CC3 Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod
  • CC9 Dweud eich Dweud: Canllaw ar Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau
  • CC20 Elusennau a Chodi Arian
  • CC22 Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol
  • CC24 Cynnwys Defnyddwyr: Buddiolwyr sy'n dod yn ymddiriedolwyr
  • CC44 Elusennau Bach: Trosglwyddo Eiddo, Newid Ymddiriedolaethau, Gwario Cyfalaf

Ieithoedd eraill

Mae'r rhan fwyaf o'n cyhoeddiadau ar gael yn Gymraeg, ac mae CC3a hefyd ar gael ar ein gwefan mewn Arabeg, Bengaleg, Cantoneg, Gujerati, Pwnjabeg, Somalieg ac Wrdw. Cysylltwch â staff y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol am y manylion diweddaraf.

Newidiadau pwysig ers y fersiwn blaenorol o'r canllaw hwn

Cyhoeddwyd y fersiwn blaenorol o'r canllaw hwn yn Hydref 2007. Mae newidiadau pwysig a gyflwynir yn y fersiwn hon yn cynnwys y diffiniad o 'elusen', a gyflwynwyd gan Ddeddf Elusennau 2006, ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrll 2008.

Gwnaethpwyd mân newidiadau eraill i ddiweddaru'r testun.

(v 1.2.0)