Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Fersiwn Hydref 2007)
Gofynnwn i ni yn aml i gynghori elusennau ynghylch sut i recriwtio, dewis, penodi a sefydlu ymddiriedolwyr. Mae'r canllawiau hyn yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin, ac yn rhoi fframwaith ar gyfer y broses recriwtio.
Gall recriwtio, dewis ac yna sefydlu un neu ragor o ymddiriedolwyr newydd i'r elusen ddylanwadu'n fawr ar ba mor effeithiol y mae'r elusen yn y dyfodol. Pan fydd popeth yn gweithio'n dda, gall arwain at fwrdd ymddiriedolwyr cytbwys ac effeithiol ac elusen effeithiol sy'n cael ei rheoli'n dda. Fodd bynnag, os yw'r prosesau hyn yn wan, mae'n bosib y bydd gallu'r bwrdd ymddiriedolwyr i reoli'r elusen yn cael ei effeithio, ac yn yr achosion gwaethaf gall arwain at broblemau mawr i'r elusen a'i buddiolwyr.
Yn y llyfryn hwn, pan ddefnyddiwn 'rhaid', golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn. Er mwyn eich helpu i adnabod yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddio'r symbol
wrth ochr yr ateb byr yn yr adran honno.
Defnyddiwn 'dylai' ar gyfer eitemau y mae'r Comisiwn yn eu hystyried yn arfer da lleiaf, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol i'w cyflawni. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.
Cynigiwn gyngor llai ffurfiol hefyd ac argymhellion a all fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr wrth iddynt reoli eu helusen.
Mae'r canllaw hwn yn cwmpasu ystod o feysydd allweddol ynghylch recriwtio a phenodi ymddiriedolwyr newydd. Mae rhai o'r materion yn gymhleth ac mae cyfreithiau a rheoliadau gwahanol sy'n ymwneud â mathau gwahanol o elusennau yn gymwys iddynt. Ni ddylech ddibynnu ar y canllaw hwn i fod yn ddisgrifiad cywir neu gyflawn o'r materion cyfreithiol sy'n effeithio ar eich elusen. Mae'n rhoi cyflwyniad cyffredinol a golwg gyffredinol, ac yn tynnu sylw at feysydd lle y gall fod angen cyngor pellach arnoch naill ai gennym ni, neu gan ymgynghorwyr cyfreithiol eich elusen.
Mae patrwm y canllawiau hyn yn dilyn y prif benawdau a ddefnyddir yn yr adran nesaf. O dan pob pennawd, gofynnwn gyfres o gwestiynau perthnasol y gall ymddiriedolwyr newydd neu ymddiriedolwyr cyfredol eu codi am y broses recriwtio a sefydlu. Yn gyffredinol rhown ateb cryno (Yr ateb byr), ac yna awn ymlaen i roi esboniad pellach a chefndir (Yn fwy manwl).
Mae nifer o adnoddau y gall ymddiriedolwyr eu defnyddio i'w helpu. Ceisiwn annog ymddiriedolwyr i ddefnyddio arbenigedd sefydliadau perthnasol i'w cynorthwyo i weinyddu eu helusennau mor effeithiol â phosib.
Fe welwch fanylion cyswllt pob sefydliad y sonnir amdanynt yn y canllaw hwn, ynghyd â disgrifiad byr o'r hyn a wnânt, yn adran F.
Er ein bod wedi ceisio ysgrifennu'r llyfryn hwn mewn iaith bob dydd, mae'n rhaid i ni ddefnyddio rhai termau technegol mewn mannau. Mae'r rhestr hon yn esbonio rhai ohonynt:
Dogfen lywodraethol: Dogfen gyfreithiol sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, Cynllun y Comisiwn, neu'n ddogfen ffurfiol arall.
Elusen gorfforedig: Elusen sydd hefyd yn gwmni neu sydd â statws cyfreithiol tebyg i endid corfforedig yn ôl y gyfraith.
Mae ymddiriedolwr yn golygu ymddiriedolwr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. Yn nogfen lywodraethol yr elusen gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, ymddiriedolwyr rheoli, aelodau pwyllgor, llywodraethwyr neu gyfarwyddwyr, neu gall fod rhyw deitl arall ganddynt.
Mae bwrdd ymddiriedolwyr yn golygu corff llywodraethu'r elusen. Gall gael ei alw'n bwyllgor rheoli, pwyllgor gweithredol neu fwrdd cyfarwyddwyr, neu gall fod rhyw deitl arall ganddo.
Mae'r ddwy dudalen yma yn crynhoi prif gamau recriwtio ymddiriedolwyr newydd ac mae'n disgrifio trefn digwyddiadau arferol.
(1) Mae'r elusen yn adnabod bod angen ymddiriedolwyr newydd arni. Efallai bod swyddi gwag wedi codi ar ôl i ymddiriedolwyr ymddiswyddo, neu efallai bod yr ymddiriedolwyr cyfredol wedi penderfynu bod angen un neu ragor o ymddiriedolwyr newydd sy'n meddu ar sgiliau penodol i helpu gweinyddu'r elusen yn fwy effeithiol.
(2) Mae'r ymddiriedolwyr yn cytuno ar y sgiliau, profiad a gwybodaeth sydd eu hangen, ac yn nodi hyn ar ffurf disgrifiad swydd byr a manyleb person.
(3) Mae'r ymddiriedolwyr yn cytuno ar y cyfrifoldebau a'r broses recriwtio, a thrwy wneud hynny, maent yn gofalu eu bod yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion penodol a bennir yn nogfen lywodraethol yr elusen. Gall peth o'r gwaith gael ei ddirprwyo i is-grŵp o ymddiriedolwyr, ond y bwrdd ymddiriedolwyr cyfan sy'n parhau i reoli'r broses a'r penderfyniadau.
(4) Mae'r ymddiriedolwyr yn ystyried y dulliau gorau o ddenu amrywiaeth eang o ymgeiswyr sy'n meddu ar y sgiliau y mae eu hangen ar yr elusen. Gall hyn gynnwys hysbysebu yn y wasg leol a/neu arbenigol a defnyddio gwasanaethau broceriaeth ymddiriedolwyr.
(5) Mae rhestr fer yn cael ei pharatoi ac mae cyfweliadau'n cael eu cynnal yn erbyn meini prawf a gytunwyd. Mae panel bach o ymddiriedolwyr yn cynnal y cyfweliadau, a gofynnir cwestiynau tebyg i bob ymgeisydd er mwyn sicrhau agwedd deg a gwrthrychol. Cedwir nodiadau o bob cyfweliad.
(6) Mae'r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hadnabod a'u gwahodd i ymuno â'r ymddiriedolwyr, yn amodol ar eirdaon, archwiliad cefndir ffurfiol a chymeradwyaeth y bwrdd ymddiriedolwyr llawn. Rhoddir gwybod i ymgeiswyr aflwyddiannus ac estynnir diolch iddynt am fynegi diddordeb.
(7) Mae'r ymddiriedolwyr yn sicrhau bod yr ymgeiswyr heb gael eu hanghymhwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwr, a gofynnir i ymgeiswyr gadarnhau yn ysgrifenedig mai dyma yw'r achos.
(8) Gofynnir i ymgeiswyr ystyried a datgan unrhyw wrthdaro buddiannau sy'n bodoli neu a all godi.
(9) Os yw'r elusen yn gweithio gyda phobl ifanc neu bobl sy'n agored i niwed, bydd yr ymddiriedolwyr yn ceisio unrhyw Ddatgeliadau gofynnol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
(10) Yn dilyn y gwiriadau, datganiadau a Datgeliadau, mae'r ymddiriedolwyr yn penderfynu bwrw ati a ffurfioli penodi'r ymddiriedolwyr newydd.
(11) Mae'r ymddiriedolwyr yn edrych ar ddogfen lywodraethol yr elusen er mwyn sicrhau eu bod yn penodi'r ymddiriedolwyr newydd mewn ffordd briodol a chyfreithiol.
(12) Mae Cadeirydd yr elusen yn ysgrifennu at y darpar ymddiriedolwyr, gan nodi eu dyletswyddau a'r hyn y mae'r elusen yn ei ddisgwyl ganddynt; gofynnir iddynt arwyddo a dychwelyd copi o'r llythyr.
(13) Mae pecyn gwybodaeth am yr elusen yn cael ei anfon i'r ymddiriedolwyr newydd, ac mae proses sefydlu lawn yn cael ei threfnu. Mae'r ymddiriedolwyr newydd yn cwrdd ag ymddiriedolwyr yr elusen ac eraill sy'n ymwneud â'r elusen, megis aelodau staff, gwirfoddolwyr a buddiolwyr.
(14) Mae'r ymddiriedolwyr newydd yn mynychu eu cyfarfod bwrdd cyntaf ac yn cael eu croesawu. Mae pob parti perthnasol, megis noddwyr a chyfreithwyr ac archwilwyr yr elusen, yn cael gwybod am y penodiadau newydd.
Efallai eich bod chi'n ystyried gwahodd aelodau newydd i ymuno â'r bwrdd ymddiriedolwyr. Yn gyntaf, dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw ofynion perthnasol yn nogfen lywodraethol yr elusen, megis:
Dylech hefyd ystyried cwestiynau fel:
Mae ymddiriedolwyr yn holl bwysig. Mae'n bwysig iawn i unrhyw elusen gael ymddiriedolwyr sy'n ymroddedig i'w tasg ac sy'n meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad y mae eu hangen ar yr elusen.
Mae ymddiriedolwyr yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o reoli elusennau. Mae ganddynt lawer i'w gyfrannu hefyd i'w llwyddiant. Er enghraifft, gallant:
Mae gan y rhan fwyaf o bobl rywfaint o sgiliau, gwybodaeth neu brofiad y gallant eu cynnig i elusen. Dylai ymddiriedolwyr ddangos ymrwymiad personol cryf i nodau ac amcanion yr elusen. Mae hefyd yn hanfodol nad oes unrhyw rwystrau cyfreithiol neu rwystrau eraill i benodi ymddiriedolwr.
Pan fydd ymddiriedolwyr yn ystyried recriwtio ymddiriedolwr neu ymddiriedolwyr newydd, man cychwyn da yw edrych ar ba sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y mae eu hangen er mwyn sicrhau bod yr elusen yn cael ei rheoli'n dda ac yn cael ei gweinyddu'n effeithiol, yn effeithlon ac yn briodol yn unol â maint a chymhlethdod yr elusen. Nid yw hyn yn golygu y dylai byrddau ymddiriedolwyr gynnwys arbenigwyr i ymdrin â phob sefyllfa a all godi.
Mae'r broses hon yn werthfawr ynddi'i hun ac argymhellwn fod ymddiriedolwyr yn adolygu sgiliau'r bwrdd ymddiriedolwyr yn gyson yn hytrach nag aros nes bod swydd wag ymddiriedolwr yn codi. Gall sgiliau ymddiriedolwyr amrywio o ran natur o sgiliau ariannol, cadw llyfrau neu farchnata i gysylltiadau â chymunedau perthnasol neu ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae hefyd yn bwysig bod yr amser a'r egni angenrheidiol gan yr ymddiriedolwr i'w neilltuo i'r elusen.
Mae asesu neu werthuso sgiliau'r ymddiriedolwyr cyfredol yn ffordd dda o adnabod unrhyw fylchau y mae angen eu llenwi. Bydd hyd a lled yr asesiad yn amrywio yn ôl maint a natur yr elusen. Ar gyfer elusennau llai a llai cymhleth gall yr asesiad fod yn eithaf syml, ond ar gyfer elusennau mwy a mwy cymhleth gall fod angen mabwysiadu dull gweithio mwy ffurfiol a strwythuredig.
Gall yr asesiad hwn, yn ogystal ag adnabod unrhyw fwlch sgiliau yn y bwrdd ymddiriedolwyr, helpu ffurfio'r sail ar gyfer 'disgrifiad swydd' i ymddiriedolwyr newydd. Gall fod yn ffordd ddefnyddiol o ddisgrifio'r rôl i ymddiriedolwyr newydd neu ddarpar ymddiriedolwyr, gan gynnwys faint o amser y bydd angen iddynt ei ymrwymo er mwyn cyflawni eu dyletswyddau newydd. Argymhellwn fod disgrifiadau swyddi yn cael eu paratoi ar gyfer pob ymddiriedolwr. Yn aml bydd elusen yn cael budd o ymddiriedolwyr sy'n adlewyrchu'r cymunedau a'r ardaloedd y mae'r elusen yn bodoli i'w gwasanaethu, ac sy'n adnabod y cymunedau a'r ardaloedd hynny.
Mae sicrhau nad oes unrhyw rwystrau cyfreithiol i benodi ymddiriedolwr yn hanfodol hefyd.
Mae Sefydliad Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig (ICSA), Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Chyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO) i gyd yn cynhyrchu disgrifiadau swyddi enghreifftiol i ymddiriedolwyr elusennau. Mae ICSA hefyd yn cynhyrchu disgrifiadau swyddi penodol i gadeiryddion, ysgrifenyddion a thrysoryddion elusennau. Gall aelodau Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol i Ymddiriedolwyr ac Aelodau Pwyllgorau Rheoli hefyd fod yn arf defnyddiol wrth lunio disgrifiad swydd, ac mae modd llwytho'r rhain i lawr o wefan UK Workforce Hub www.ukworkforcehub.org.uk. Cewch fwy o wybodaeth ynghylch pwy all a phwy na all fod yn ymddiriedolwr yn adran D.
Dylai. Mae bwrdd amrywiol yn fwy tebygol o gynnwys ystod ehangach o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad nag un culach ei sail. Pan fydd yn paratoi i recriwtio ymddiriedolwyr newydd, dylai elusen, yn gyffredinol, geisio cynyddu neu o leiaf cynnal amrywiaeth ei bwrdd ymddiriedolwyr.
Gall bwrdd ymddiriedolwyr amrywiol hefyd helpu sicrhau bod yr elusen yn deg ac yn agored ym mhob agwedd ar ei busnes, er enghraifft, rhoi grantiau neu gyflwyno gwasanaethau.
Credwn y bydd rheolaeth elusennau yn gwella os yw ymddiriedolwyr yn cael eu recriwtio o ystod ehangach o gefndiroedd. Mae hyn yn cynnwys ymddiriedolwyr o rannau o'r gymuned sydd heb chwarae rhan fawr mewn elusennau yn draddodiadol, megis pobl ifanc, pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Gall creu bwrdd amrywiol hefyd helpu cynyddu atebolrwydd a ffydd y cyhoedd.
Hefyd, mae rhai gofynion deddfwriaethol y mae'n rhaid i elusennau gydymffurfio â nhw; er enghraifft, mae Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiad) 2000 yn rhoi dyletswydd gyffredinol ar 'gyrff cyhoeddus' i hybu cydraddoldeb hiliol. Mae'r gwasanaethau a ddarperir gan rai elusennau wedi'u cynnwys o fewn y diffiniad hwn, ac mae'r ddeddfwriaeth yn rhywbeth y dylai elusen sy'n cael ei gweinyddu'n effeithiol geisio gweithio tuag ato. Mae'r un peth yn wir am Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003.
Cewch fwy o fanylion ynghylch sut i wneud bwrdd ymddiriedolwyr yn fwy amrywiol yn adran Ch6. Mae canllaw NCVO, 'Rheoli amrywiaeth yn y gweithle' yn rhoi mwy o wybodaeth am ofynion deddfwriaethol ynghylch amrywiaeth, ac mae WCVA yn ymdrin â nifer o'r rhain a gofynion cyfreithiol eraill yn y cyhoeddiad 'Canllaw cyflogaeth i adeiladau cymunedol (a grwpiau gwirfoddol eraill)'.
Yr ymddiriedolwyr cyfredol sy'n gyfrifol am recriwtio ymddiriedolwyr newydd. Mae'n rhaid iddynt arolygu rheoli proses agored ac effeithlon a gweithredu er lles gorau'r elusen bob amser.
Mae ymddiriedolwyr cyfredol yn gyfrifol yn gyfreithiol am recriwtio ymddiriedolwyr newydd. Gall ymddiriedolwyr elusennau sy'n cyflogi staff ddirprwyo rhai agweddau ar recriwtio staff, ond mae'n rhaid iddynt sicrhau eu bod yn cadw cyfrifoldeb cyffredinol a rheolaeth dros y prosesau recriwtio, dewis a sefydlu.
Wrth recriwtio ymddiriedolwyr newydd, rhaid i'r ymddiriedolwyr cyfredol weithredu er lles gorau'r elusen. Er mwyn sicrhau mai dyma yw'r achos, a'u bod mewn sefyllfa i esbonio i'r ymddiriedolwyr newydd yr hyn a ddisgwylir ganddynt, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr cyfredol fod yn glir yn eu meddyliau eu hunain am ddibenion ac amcanion yr elusen, yn ogystal â'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau mwy cyffredinol fel ymddiriedolwyr.
Mae amrywiaeth o ddulliau y gall byrddau ymddiriedolwyr eu defnyddio i recriwtio ymddiriedolwyr newydd. Mae ein profiad a'n gwaith ymchwil yn dangos mai'r dulliau traddodiadol o recriwtio ymddiriedolwyr newydd - sef argymhelliad personol a chlywed ar lafar - yw'r rhai mwyaf poblogaidd o hyd. Fodd bynnag, mae ein gwaith ymchwil wedi dangos er bod y dulliau hyn yn cael eu defnyddio'n gyffredinol o hyd, nid dyma'r ffyrdd mwyaf effeithiol o reidrwydd o gael hyd i'r bobl sy'n meddu ar y sgiliau y mae'r ymddiriedolwyr wedi'u hadnabod, oherwydd eu bod yn cyfyngu ar y maes y gellir tynnu ymddiriedolwyr ohono. Gall defnyddio dulliau ehangach a mwy cynhwysol o chwilio am ymddiriedolwyr newydd, megis hysbysebu a defnyddio gwasanaethau broceriaeth ymddiriedolwyr, agor y drws i ddewis ehangach o ymgeiswyr ac argymhellwn fod ymddiriedolwyr yn ystyried y dulliau hyn.
Ydy. Trwy hysbysebu mae modd cyrraedd mwy o bobl nag y gellir trwy glywed ar lafar, a gall hyn helpu elusen i ddenu ystod ehangach o ymgeiswyr gyda dewis ehangach o sgiliau a phrofiad.
Gall hysbysebu fod yn ffordd effeithiol o gyrraedd grŵp ehangach o bobl, ac mae'n rhoi cyfle i'r elusen bennu'r sgiliau y mae'r bwrdd ymddiriedolwyr yn chwilio amdanynt. Gall hysbysebu yn y wasg fod yn ddrud, ac ni fydd yn briodol i bob elusen. Fodd bynnag, mae rhai atebion cost isel ar gael, megis hysbysiadau am ddim ar wefannau lleol, hysbysfyrddau lleol neu daflenni newyddion. Er mwyn gwneud y mwyaf o hysbysebu, dylai ymddiriedolwyr ystyried yn ofalus ble i hysbysebu, a gwneud yn siŵr bod yr hysbyseb yn adlewyrchu'r elusen yn fanwl gywir a'r sgiliau a'r profiad y mae'r ymddiriedolwyr yn chwilio amdanynt.
Gall. Gall hyn fod yn ffordd dda o gael hyd i ymddiriedolwyr sy'n meddu ar y rhinweddau a'r sgiliau y mae eu hangen ar yr elusen. Ond cofiwch fod gofynion cyfreithiol penodol os yw'r ymddiriedolwr hefyd yn weithiwr cyflogedig yr elusen.
Efallai y bydd ymddiriedolwyr eisiau ystyried recriwtio ymddiriedolwyr newydd o'r tu mewn i'w helusen eu hunain. Gall fod gwirfoddolwyr o fewn yr elusen sy'n meddu ar y sgiliau y mae'r ymddiriedolwyr wedi'u hadnabod, neu a allai ddatblygu'r sgiliau hyn gyda hyfforddiant a chymorth pellach. Os yw gweithiwr yr elusen, yn hytrach na gwirfoddolwr, yn dymuno bod yn ymddiriedolwr, mae gofynion arbennig y bydd angen i'r elusen gydymffurfio â nhw, gan fod y gyfraith yn atal rhoi taliadau diawdurdod i ymddiriedolwyr.
Cewch fwy o wybodaeth yn Talu Ymddiriedolwyr Elusennau (CC11).
Gall. Mae ymddiriedolwyr sy'n defnyddio neu'n cael budd o wasanaethau'r elusen yn cael eu hadnabod fel ymddiriedolwyr sy'n ddefnyddwyr, a gallant wella rheolaeth effeithiol elusen, a gallant helpu sicrhau bwrdd ymddiriedolwyr mwy amrywiol a chynrychioliadol.
Mae'r penderfyniad i gynnwys defnyddwyr fel ymddiriedolwyr neu beidio yn un y mae angen i'r bwrdd ymddiriedolwyr ei ystyried ar sail amgylchiadau ac anghenion yr elusen. Gall ymddiriedolwyr sy'n ddefnyddwyr gyfrannu profiad uniongyrchol at ddatblygu gwasanaethau'r elusen a helpu ymddiriedolwyr eraill i ddatblygu mwy o ddealltwriaeth o bersbectif y defnyddwyr.
Yn achos ymddiriedolwyr sy'n ddefnyddwyr ac ymddiriedolwyr yn gyffredinol, mae angen i fyrddau ymddiriedolwyr sicrhau bod gweithdrefnau ar gyfer rheoli unrhyw wrthdaro buddiannau rhwng buddiannau personol ymddiriedolwr a buddiannau'r elusen. Mae'n bwysig cofio bod gan ymddiriedolwyr sy'n ddefnyddwyr yr un dyletswyddau a chyfrifoldebau ag unrhyw ymddiriedolwr arall. Eu rôl yw gweithredu er lles gorau'r elusen, ac nid cynrychioli buddiannau defnyddwyr.
Cewch fwy o wybodaeth am ymddiriedolwyr sy'n ddefnyddwyr yn Cynnwys Defnyddwyr: Buddiolwyr sy'n dod yn ymddiriedolwyr (CC24). Cewch fwy o wybodaeth am wrthdaro buddiannau yn adran D5.
Gallant, mewn sawl achos gall pobl ag anawsterau dysgu neu faterion iechyd meddwl eraill (trwy anabledd neu salwch) weithredu'n llawn fel ymddiriedolwyr elusen.
Un o'r gofynion cymhwyster i ymddiriedolwyr (gweler hefyd D1) yw bod rhaid i ymddiriedolwyr allu rheoli eu materion eu hunain er mwyn bod yn gymwys i reoli elusen. Er y gall hyn wahardd rhai pobl sydd ag anawsterau dysgu mwy difrifol, bydd nifer o bobl ag anawsterau dysgu yn gallu ateb y maen prawf hwn a chwarae rôl weithgar a chyfrifol yn y gwaith o reoli eu helusen, gan ddod â phrofiad a phersbectif defnyddiol i'r bwrdd ymddiriedolwyr. Mae hyn yr un mor berthnasol i'r bobl niferus hynny sydd â materion iechyd meddwl eraill, boed yn barhaol neu dros dro ac a achoswyd gan naill ai anaf neu afiechyd.
Gallant, mae nifer o sefydliadau yn cadw cofrestri o ymddiriedolwyr posib, neu'n cynnig gwasanaeth broceriaeth ymddiriedolwyr, gan gyfateb ymddiriedolwyr posib â swyddi gwag ar fyrddau elusennau.
Mae Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO) yn gweithredu Grŵp Rhwydwaith Broceriaeth Ymddiriedolwyr ac yn cynhyrchu llyfryn am ddim, 'Banc Ymddiriedolwyr: Cyfeirlyfr o wasanaethau broceriaeth ymddiriedolwyr'. Mae sawl sefydliad, ee Sefydliad Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig (ICSA), a Sefydliad Lleiafrifoedd Ethnig hefyd yn darparu cofrestri ymddiriedolwyr.
Mae nifer o ffynonellau eraill y gallwch eu defnyddio i gael hyd i gyfleoedd gwirfoddoli, gan gynnwys Do-it, sy'n gronfa ddata genedlaethol o gyfleoedd gwirfoddoli yn y Deyrnas Unedig: www.do-it.org.uk.
Mae cylchgronau, cyfnodolion a phapurau newydd arbenigol hefyd yn rhestru gwasanaethau broceriaeth ymddiriedolwyr a gall Cynghorau Gwasanaeth Gwirfoddol (CVS) lleol yn Lloegr, a Chynghorau Gwirfoddol Sirol (CVC) yng Nghymru, fod yn ffynhonnell gwybodaeth bellach. Cewch fanylion am rai o'r cyfnodolion a'r cylchgronau a all fod o gymorth yn adran F.
Gall rhwydweithio ag elusennau eraill, naill ai o'r un ardal leol neu sy'n cynnig gwasanaethau tebyg, fod yn ffordd arall o gael hyd i ymddiriedolwyr newydd. Gall hyn fod yn ffordd ddefnyddiol o rannu gwybodaeth ac arfer gorau. Mae Charity Trustee Networks (CTN) yn elusen sy'n helpu sefydlu a chefnogi rhwydweithiau o ymddiriedolwyr elusen ac mae hefyd yn rhedeg trusteenet, rhwydwaith cenedlaethol am ddim o ymddiriedolwyr ac aelodau pwyllgor rheoli.
Gallwch gael mwy o amrywiaeth trwy estyn allan i gymunedau sydd heb eu cynrychioli ar hyn o bryd, er enghraifft trwy hysbysebu a gwneud ymdrechion penodol i gynorthwyo pobl a allai gael anhawster fel arall i fynychu cyfarfodydd bwrdd.
Mae ffyrdd ymarferol o gynyddu amrywiaeth ar y bwrdd ymddiriedolwyr yn cynnwys:
Mae penodi ymddiriedolwr newydd i elusen yn fater pwysig. Cyn penodi ymddiriedolwr newydd mae'n rhaid i'r bwrdd ymddiriedolwyr sicrhau ei fod yn gweithredu o fewn y gyfraith, yn unol â dogfen lywodraethol yr elusen, a bod y darpar ymddiriedolwr heb ei anghymhwyso rhag bod yn ymddiriedolwr. Dylid ceisio datgeliadau ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed. Dylai elusennau hefyd sicrhau bod darpar ymddiriedolwr yn deall y cyfrifoldebau y maent yn eu hysgwyddo ac y gellir dibynnu arnynt i'w cyflawni mewn modd cyfrifol.
Na all. Mae cyfyngiadau cyfreithiol ar bwy all fod yn ymddiriedolwr elusen. Gall fod cyfyngiadau ychwanegol yn nogfen lywodraethol yr elusen. Cyn penodi ymddiriedolwr newydd, rhaid i'r bwrdd ymddiriedolwyr sicrhau bod y penodiad yn ateb gofynion dogfen lywodraethol yr elusen a'r gyfraith.
Wrth baratoi i benodi ymddiriedolwr newydd, mae'n rhaid i'r bwrdd ymddiriedolwyr sicrhau bod y person yn gymwys i weithredu fel ymddiriedolwr. Ni all unrhyw un sy'n iau nag 18 oed fod yn ymddiriedolwr ymddiriedolaeth elusennol neu gymdeithas anghorfforedig. Fodd bynnag, gall person dan 18 oed fod yn gyfarwyddwr, ac felly'n ymddiriedolwr, cwmni elusennol. Fe welwch wybodaeth bellach ar bobl ifanc fel ymddiriedolwyr ar dudalen Cyhoeddiadau a Chanllawiau ar ein gwefan www.charitycommission.gov.uk
Mae rhai pobl wedi'u hanghymwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwyr dan y gyfraith, gan gynnwys unrhyw un a ddisgrifir yn adran 72(1) Deddf Elusennau 1993. Mae hyn yn cynnwys:
Fel rheol mae'n drosedd i weithredu fel ymddiriedolwr tra rydych wedi'ch anghymhwyso oni bai ein bod ni wedi rhoi hepgoriad dan adran 72(4) Deddf Elusennau 1993 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006) (mae rhai darpariaethau arbennig sy'n gymwys i weinyddu cwmnïau elusennol). Cewch fwy o wybodaeth am waharddiadau a hepgoriadau anghymwyso yn ein canllawiau staff OG41 ac OG42 sydd ar gael trwy'r dudalen Cyhoeddiadau a Chanllawiau ar ein gwefan.
Yn ogystal â'r gwaharddiadau a fanylir yn adran 72(1) Deddf 1993, sy'n gymwys i bob math o elusennau, mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau'r Llysoedd 2000 yn anghymhwyso rhai unigolion rhag dal amrywiaeth o swyddi gydag elusennau plant, sy'n cynnwys ymddiriedolaeth elusen. Nid oes gennym yr awdurdod i roi hepgoriad ar gyfer y math hwn o waharddiad.
Rhaid i benodi ymddiriedolwr fod yn unol â dogfen lywodraethol yr elusen, a fydd yn amlinellu'r gweithdrefnau ar gyfer penodi ymddiriedolwyr newydd, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau, megis y nifer mwyaf o ymddiriedolwyr neu derfyn oedran. Mae'n bwysig bod ymddiriedolwyr yn dilyn y gweithdrefnau hyn. Os nad ydynt, gallai olygu bod y penodiad yn annilys. Os yw'r ddogfen lywodraethol yn cynnwys darpariaethau sy'n atal rhai pobl rhag gweithredu fel ymddiriedolwyr elusen, ni allwn roi hepgoriad dan adran 72(4) y Ddeddf 1993, (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006), oherwydd ni allwn wrth-wneud y darpariaethau o fewn dogfen lywodraethol.
Cyn penodi ymddiriedolwr, dylai'r bwrdd ymddiriedolwyr geisio datganiad gan y darpar ymddiriedolwr sy'n cadarnhau nad ydynt yn anghymwys. Dylai hefyd edrych ar gofrestri swyddogol unigolion anghymwys. Argymhellwn yn gryf y dylai elusennau sy'n gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed, mewn swyddi sy'n gymwys i gael Datgeliadau gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), wneud hynny.
Fan lleiaf, dylai'r bwrdd ymddiriedolwyr ofyn i ymddiriedolwyr newydd lofnodi datganiad i gadarnhau nad ydynt wedi'u hanghymhwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwr elusen.
Gall ymddiriedolwyr hefyd ddefnyddio cofrestri swyddogol sy'n cofnodi enwau pobl sydd wedi'u hanghymhwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwyr elusen. Mae'r rhain yn cynnwys:
(1) Y Gofrestr Ansolfedd Unigolion a gedwir gan y Gwasanaeth Ansolfedd, sy'n cynnwys manylion ynghylch:
Gallwch chwilio'r Gofrestr ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd www.insolvency.gov.uk, trwy ymweld â swyddfa leol eich Derbynnydd Swyddogol, neu drwy'r post neu'r ffacs. Fe welwch fanylion cyswllt ar gyfer y Gwasanaeth Ansolfedd yn adran F.
(2) Cofrestr cyfarwyddwyr anghymwys a gedwir gan Dŷ'r Cwmnïau. Gallwch chwilio'r gofrestr ar wefan Tŷ'r Cwmnïau, www.companieshouse.gov.uk.
(3) Y gofrestr a gedwir gennym o'r holl bobl sydd wedi cael eu diswyddo fel ymddiriedolwr elusen naill ai gennym ni, trwy Orchmynion a wnaed o dan naill ai Ddeddf Elusennau 1960 neu Ddeddf Elusennau 1993 neu gan Orchymyn yr Uchel Lys ers 1 Ionawr 1993. Cedwir copi o'r gofrestr ym mhob swyddfa'r Comisiwn.
Dylai ymddiriedolwyr elusennau sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed gynnal gwiriadau ychwanegol, manylach, drwy gael Datgeliad gan y CRB. Argymhellwn yn gryf fod ymddiriedolwyr elusen sy'n gallu cael gwiriadau CRB yn manteisio ar y dewis hwn, er mwyn sicrhau bod yr unigolyn y dymunant ei benodi fel ymddiriedolwr yn gymwys a hefyd er mwyn sicrhau diogelwch buddiolwyr yr elusen. Mae'n rhaid i rai elusennau gael y gwiriadau hyn. Cewch fwy o wybodaeth yn adran Dd6.
Mae ffurflen datganiad enghreifftiol i ddarpar ymddiriedolwyr ar gael ar ein gwefan ar y dudalen Am Elusennau. Mae ffurflenni datganiad cymhwyster enghreifftiol i ymddiriedolwyr hefyd yn cael eu cynhyrchu gan nifer o sefydliadau eraill, gan gynnwys Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO) www.askncvo.org.uk. Cewch fwy o wybodaeth am y CRB a Datgeliadau'r CRB yn adran Dd.
Rydym yn debygol o gael gwybod oherwydd defnyddiwn sawl ffordd o fonitro a yw elusennau yn gwirio cymhwyster eu hymddiriedolwyr neu beidio.
Byddwn yn monitro a yw elusennau yn archwilio cymhwyster eu hymddiriedolwyr neu beidio mewn sawl ffordd:
Os yw unigolyn anghymwys yn cael ei benodi fel ymddiriedolwr elusen, bydd y penodiad yn annilys. Ni fydd yr unigolyn yn ymddiriedolwr, ac mae'n bosibl ei fod wedi cyflawni tramgwydd troseddol. Os nad oedd yr ymddiriedolwyr cyfredol wedi cynnal gwiriadau priodol cyn y penodiad, mae'n bosib eu bod nhw wedi gweithredu'n amhriodol.
Os yw unigolyn sydd wedi'i anghymhwyso rhag bod yn ymddiriedolwr, naill ai yn ôl y gyfraith gyffredinol fel y bo'n gymwys i ymddiriedolwyr elusen, neu yn ôl dogfen lywodraethol yr elusen, yn cael ei benodi fel ymddiriedolwr, mae'r penodiad yn annilys. Hefyd, os yw problemau'n codi gydag ymddiriedolwr, ac mae'n ymddangos bod yr ymddiriedolwyr cyfredol heb ddilyn yr arweiniad hwn, byddai hwn yn ffactor pwysig wrth ystyried a yw'r ymddiriedolwyr wedi gweithredu'n amhriodol.
Dan ddarpariaethau'r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau'r Llysoedd 2000, bydd unrhyw unigolyn sydd wedi'i anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant yn cyflawni trosedd os yw, o fwriad, yn gwneud cais, yn cynnig gwneud, neu'n derbyn gwaith gyda phlant, boed yn gyflogedig neu'n ddigyflog. Mae hefyd yn drosedd i gael gwaith ar gyfer rhywun, neu gynnig naill ai waith cyflogedig neu ddigyflog gyda phlant i rywun sydd wedi'i anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant neu ganiatáu iddynt barhau i wneud gwaith o'r fath.
Dan ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000, mae'n dramgwydd troseddol i unigolyn sydd wedi'i gadarnhau ar restr POVA (Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed) wneud cais bwriadol i dderbyn, neu gynnig gwneud unrhywwaith mewn swydd gofal, fel y diffinnir yn Neddf Safonau Gofal 2000. Ni all darparwr gofal, fel y diffinnir yn Neddf Safonau Gofal 2000, gyflogi unrhyw un mewn swydd gofal sydd wedi'i restru dros dro neu wedi'i gadarnhau ar restr POVA.
Fe gewch fwy o wybodaeth am POVA ar wefan yr Adran Iechyd yn www.dh.gov.uk.
Mae'n syniad da ystyried gwrthdaro buddiannau posib cyn penodi. Os oes posibilrwydd cryf y gallai gwrthdaro buddiannau godi yn dilyn penodi darpar ymddiriedolwr, gallai hyn awgrymu y dylai'r ymddiriedolwyr ailystyried y penodiad.
Mae gwrthdaro buddiannau yn unrhyw sefyllfa lle mae buddiannau neu deyrngarwch personol ymddiriedolwr, a rheiny'r elusen yn codi yr un pryd neu'n ymddangos petaent yn gwrthdaro. Er enghraifft, os oedd elusen wedi dyfarnu contract i sefydliad arall yr oedd ymddiriedolwr yn berchen arno, gallai'r person dan sylw wynebu pwysau sy'n gwrthdaro rhwng sicrhau'r elw mwyaf i'w gwmni a chadw costau'n isel i'r elusen.
Mae bob amser yn well rhagweld unrhyw wrthdaro buddiannau cyn penodi ymddiriedolwr, na delio â gwrthdaro o'r fath os a phryd y bydd yn codi. Mae'n anochel y bydd gwrthdaro buddiannau'n codi o bryd i'w gilydd, yn enwedig mewn cymunedau lleol lle y gall buddiannau orgyffwrdd, felly mae'n bosib na fydd y potensial ar gyfer gwrthdaro buddiannau fod yn ddigonol i atal penodi ymddiriedolwr sydd fel arall yn gymwys iawn. Mae'n bwysig adnabod gwrthdaro buddiannau a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei reoli'n briodol.
Fodd bynnag, os yw gwrthdaro o'r fath yn debygol o godi'n aml, gall hyn effeithio ar allu'r ymddiriedolwr i gyflawni eu dyletswyddau. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd buddiannau personol yn ddigon arwyddocaol i'w gwneud hi'n ofynnol i'r ymddiriedolwr adael cyfarfodydd mor aml fel na all wneud cyfraniad defnyddiol. Os mai dyma yw'r achos dylent ystyried sefyll lawr neu beidio â sefyll yn y lle cyntaf.
Felly dylid gofyn i ddarpar ymddiriedolwyr ynghylch gwrthdaro buddiannau posib, a dylid datgan y rhain i'r rheiny a fydd yn penderfynu ar y penodiad. Er enghraifft, os yw ymddiriedolwyr newydd yn cael eu hethol gan aelodaeth yr elusen, dylai'r aelodaeth fod yn ymwybodol o unrhyw wrthdaro buddiannau posib, er mwyn iddynt allu ystyried hyn pan fyddant yn pleidleisio.
Dylai elusen, fel mater o arfer gorau, gael trefniadau ar gyfer sylwi ar wrthdaro buddiannau posib sy'n cynnwys ymddiriedolwyr a delio â hyn. Mae agwedd agored yn arfer da. Un ymarfer defnyddiol y dylai elusennau ei ystyried yw gofyn i ymddiriedolwyr gyflwyno datganiad blynyddol o wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu bosib.
Mae nifer o sefydliadau yn darparu polisïau gwrthdaro buddiannau a chofrestr buddiannau enghreifftiol, megis Sefydliad Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig (ICSA). Fe gewch fwy o fanylion am ddelio â gwrthdaro buddiannau trwy'r dudalen Cyhoeddiadau a Chanllawiau ar ein gwefan www.charitycommission.gov.uk.
Mae'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) yn bodoli i helpu sefydliadau adnabod pobl sy'n anaddas ar gyfer rhai mathau o waith, yn enwedig gwaith sy'n cynnwys cael mynediad neu ddod i gysylltiad â phlant ac aelodau eraill o'r gymuned sy'n agored i niwed, trwy wneud 'Datgeliadau' o unrhyw gofnodion troseddol, cofnodion yr heddlu neu gofnodion tebyg. Mae hyn yn cynnwys ymddiriedolwyr elusen sy'n cael mynediad neu gyswllt o'r fath. Mae'r adran hon yn berthnasol i elusennau o'r fath yn unig, sydd â dyletswydd i sicrhau nad ydynt yn recriwtio ymddiriedolwyr a allai fod yn berygl i unrhyw blant neu oedolion sy'n agored i niwed.
Mae'r CRB yn darparu gwasanaeth Datgeliad sy'n cynnig mynediad at gofnodion troseddol, cofnodion yr heddlu a chofnodion eraill. Y nod yw atal pobl anaddas neu beryglus rhag dod i gysylltiad â phlant neu oedolion sy'n agored i niwed.
Mae'r CRB yn darparu gwasanaeth Datgeliad, sy'n cynnig mynediad at gofnodion a gedwir gan yr heddlu, ynghyd â gwybodaeth o'r rhestrau canlynol: Deddf Amddiffyn Plant (POCA), Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed (POVA), os yw'n gymwys, a Rhestr 99. Codir tâl am gael Datgeliad ar gyfer swyddi cyflogedig, er bod Datgeliadau i wirfoddolwyr, a fydd yn cynnwys y rhan fwyaf o ymddiriedolwyr, am ddim.
Mae gwefan CRB www.crb.gov.uk a llinell gais Datgeliadau ar 0870 90 90 844 yn darparu:
Mae Rhestr 99 yn cynnwys enwau, dyddiadau geni a chyfeirnodau athro pobl y mae eu cyflogaeth wedi cael eu gwahardd neu eu cyfyngu, naill ai ar sail camymddwyn neu ar sail feddygol. Fe'i cedwir gan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (DCSF). Fe gewch fwy o wybodaeth am Restr 99 ar wefan DCSF www.dcsf.gov.uk.
Mae dwy lefel o Ddatgeliad: y Datgeliad Safonol, sy'n cynnwys pob collfarn, rhybuddiad, rhybudd a cherydd a gedwir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, a'r Datgeliad Manylach, sy'n cynnwys lefel ychwanegol o wirio gyda chofnodion heddlu lleol. Hefyd, gyda'r naill ddatgeliad neu'r llall mae modd cael mynediad at yr wybodaeth a gedwir gan yr Adran Iechyd a'r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd mewn rhai achosion ar bobl yr ystyrir eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed, gan gynnwys:
Mae dwy lefel o Ddatgeliad, sef Safonol a Manylach.
Mae'r ddwy lefel o Ddatgeliad yn cynnwys:
Maen nhw ar gael ar gyfer:
Hefyd os yw meini prawf arbennig ynghylch cysylltiad rheolaidd wedi'u bodloni gellir gwirio yn y rhestrau amrywiol a gedwir gan yr Adran Iechyd a'r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd ar gyfer pobl yr ystyrir eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed.
Mae Datgeliadau Manylach hefyd yn cynnwys lefel ychwanegol o wirio gyda chofnodion heddlu lleol.
Gall fod hawl gan elusennau sy'n gweithio gyda phlant a rhai elusennau sy'n gweithio gydag oedolion sy'n agored i niwed gael Datgeliadau CRB ar gyfer eu hymddiriedolwyr, ac os felly dylent eu ceisio. Rhaid i rai sefydliadau gysylltu â'r CRB cyn cyflogi unigolion a bydd hyn yn cynnwys rhai ymddiriedolwyr elusen. Mae Adran Dd6 yn rhoi mwy o fanylion.
Bydd hawl gan elusen geisio Datgeliadau CRB ar gyfer ei hymddiriedolwr os yw
(a) yn elusen blant (gweler adran Dd4) neu elusen sy'n gweithio mewn sefydliad addysg bellach ac mae dyletswyddau arferol swydd ymddiriedolwr yn cynnwys cyswllt rheolaidd â phobl dan 18 oed neu os yw'r swydd ymddiriedolwr wedi'i chynnwys o fewn y diffiniad o 'swydd reoledig' (gweler adran Dd4); neu
(b) yn ymwneud â darparu gwasanaethau gofal i oedolion sy'n agored i niwed (gweler adran Dd5) neu gynrychiolydd, neu wasanaethau eiriolaeth i oedolion sy'n agored i niwed gan wasanaeth a gafodd ei gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu a grëwyd o dan unrhyw ymddeddfiad AC mae'r swydd ymddiriedolwr yn cynnig modd i'r ymddiriedolwr gael mynediad at oedolion sy'n agored i niwed sy'n derbyn y gwasanaethau hynny.
Os teimlwch y gallai'ch elusen gael ei chynnwys o fewn y meini prawf hyn, mae'n debyg bod hawl ganddi geisio Datgeliad Safonol CRB ar gyfer ei hymddiriedolwyr. Mae'n bosib na fydd hyn yn orfodol, ond cynghorwn yn gryf y dylid ceisio Datgeliadau CRB lle bynnag y bo'n bosib.
Yn ogystal â datgeliad safonol mae chwiliad Rhestr POCA a Rhestr 99 ar gael pan fydd swydd ymddiriedolwr yn swydd reoledig neu os yw'r swydd ymddiriedolwr yn cynnwys:
Mae chwiliad Rhestr POCA a Rhestr 99 hefyd ar gael os yw'r swydd ymddiriedolwr yn dod â'r ymddiriedolwr i gysylltiad rheolaidd â phlant ac mae ei ddyletswyddau’n cael eu cyflawni ar gais neu gyda chydsyniad cyflogwr perthnasol (dan gontract neu beidio).
Ystyr 'cyflogwr perthnasol' yw:
(a) awdurdod addysg lleol;
(b) unigolyn sy'n ymarfer swyddogaeth sy'n ymwneud â darparu addysg ar ran awdurdod addysg lleol;
(c) perchennog ysgol; neu
(ch) corff llywodraethu sefydliad addysg bellach.
Mae chwiliad Rhestr POVA yn dibynnu ar y meini prawf perthnasol ar gyfer chwiliad o'r fath a nodir isod yn adran Dd5
Mae Datgeliadau Manylach ar gael pan fydd y swydd ymddiriedolwr naill ai:
(a) yn cynnwys gofalu'n rheolaidd am unigolion dan 18 oed, eu hyfforddi, eu goruchwylio neu fod yn llwyr gyfrifol amdanynt; neu
(b) yn galluogi ymddiriedolwr i gael cysylltiad rheolaidd yn ystod ei ddyletswyddau gydag oedolyn sy'n agored i niwed (gweler Dd5 am ddiffiniad o 'oedolyn sy'n agored i niwed') ac mae'r swydd ymddiriedolwr yn golygu gofalu'n rheolaidd am unigolion 18 oed neu'n hŷn, eu hyfforddi, eu goruchwylio neu fod yn llwyr gyfrifol amdanynt.
Bydd Datgeliad Manylach ar gael i swydd ymddiriedolwr sy'n bodloni'r meini prawf penodedig yn unig. Er enghraifft, gall ymddiriedolwyr elusen llai ymwneud yn weithgar â'i gweithgareddau bob dydd gyda buddiolwyr ac felly gallant fod yn gymwys i gael Datgeliad Manylach.
Cewch fwy o wybodaeth i'ch helpu penderfynu a yw'ch elusen yn gymwys ar gyfer datgeliad CRB yn adrannau Dd4 ac Dd5.
Diffynir y term 'swydd reoledig' yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau'r Llysoedd 2000. Mae'n bwysig deall y term yn gywir oherwydd mae ei ddehongliad yn effeithio ar allu elusen i gael Datgeliad neu beidio ar gyfer darpar ymddiriedolwr.
Mae'r term 'swydd reoledig' wedi'i ddiffinio yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau'r Llysoedd 2000 fel a ganlyn:
I fod yn swydd reoledig, mae'r swyddi mewn rhai o'r categorïau wedi'u cyfyngu i ddyletswyddau arferol y swydd honno. Y bwriad yw eithrio gwaith 'untro'.
Mae'r canlynol yn rhai o'r mathau o sefydliadau y mae'n debygol y bydd angen iddynt gynnal gwiriadau CRB ar ymddiriedolwyr:
Mewn rhai achosion nid yw dyletswyddau ymddiriedolwr elusen sy'n gweithio gyda phlant yn cynnwys y math o gysylltiad agos â phlant a chyfrifoldeb unigol drostynt a fyddai'n gofyn am Ddatgeliad Manylach. Yn yr achosion hyn gall Datgeliad Safonol fod yn ddigonol.
Mae gan y termau 'oedolyn sy'n agored i niwed' ystyr cyfreithiol penodol dan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae'n bwysig deall y term yn gywir oherwydd mae ei ddehongliad yn effeithio ar elusen a'i gallu i gael Datgeliad, a pha fath o Ddatgeliad, ar gyfer ymddiriedolwr posib.
Os yw person yn 18 oed neu'n hŷn ac mae ganddo un o'r mathau canlynol o gyflyrau, ystyrir ei fod yn 'oedolyn sy'n agored i niwed' at ddibenion Deddf Safonau Gofal 2000:
Mae hawl gan elusen sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau gofal i oedolion sy'n agored i niwed neu gynrychioli, neu wasanaethau eiriolaeth i oedolion sy'n agored i niwed gan wasanaeth a gafodd ei gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu a grëwyd o dan unrhyw ymddeddfiad, a lle mae'r swydd ymddiriedolwr yn cynnig modd i ymddiriedolwr gael mynediad at oedolion sy'n agored i niwed sy'n derbyn gwasanaethau o'r fath yn ystod ei dyletswyddau arferol, gael Datgeliad Safonol ar gyfer ei hymddiriedolwyr, ac unrhyw staff neu wirfoddolwyr sydd â mynediad tebyg.
Caniateir chwiliad yn Rhestr Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed os yw'r swydd ymddiriedolwr yn 'swydd gofal'. Diffinnir hyn yn Neddf Safonau Gofal 2000 fel:
Mae'r gyfraith hefyd yn cydnabod bod is-set o oedolion sy'n agored i niwed yn ffurfio categori risg uwch. Mae person sy'n gallu cael cysylltiad rheolaidd yn ystod ei ddyletswyddau ac sy'n gofalu'n rheolaidd am yr oedolion sy'n agored i niwed risg uwch hyn, yn eu hyfforddi, eu goruchwylio neu'n llwyr gyfrifol amdanynt yn gymwys i gael Datgeliad Manylach. Mae'r Datgeliad Manylach yn gymwys os yw'r oedolion sy'n agored i niwed yn derbyn unrhyw un o'r gwasanaethau gofal canlynol:
ac o ganlyniad i gyflwr, gan gynnwys unrhyw un o'r canlynol:
mae anableddau ganddynt, gan gynnwys unrhyw un o'r canlynol:
Yn y cyd-destun hwn, yr un ystyr sydd i 'ofal cartref', 'clinig annibynnol', 'ysbyty annibynnol', 'asiantaeth feddygol annibynnol' a 'chorff Gwasanaeth Iechyd Gwladol' ag yn Neddf Safonau Gofal 2000; ac mae 'Gwasanaethau gofal' yn golygu unrhyw un o'r canlynol:
Mewn sawl achos mae'n bosib na fydd dyletswyddau ymddiriedolwr elusen sy'n gweithio gydag oedolion sy'n agored i niwed yn cynnwys y math o gysylltiad agos gydag oedolion sy'n agored i niwed a chyfrifoldeb unigol drostynt a fyddai'n eu gwneud yn gymwys i wneud cais am Ddatgeliad. Fodd bynnag, os yw dyletswyddau ymddiriedolwr yn golygu ei fod yn gymwys i wneud cais am Ddatgeliad, dylid gwneud hynny.
Nid oes rhestr derfynol o swyddi y mae gwiriadau cofnodion troseddol yn ofynnol ar eu cyfer, neu yr argymhellir gwiriadau ar eu cyfer, ond mae'r CRB yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol sydd ar gael ar ei wefan www.crb.gov.uk neu trwy ffonio llinell gymorth CRB ar 0870 90 90 811.
Mae gwybodaeth i elusennau sy'n darparu gwasanaethau gofal hefyd ar gael o'r Comisiwn dros yr Arolygiaeth Gofal Cenedlaethol yn www.csci.org.uk, ac mae'r Adran Iechyd wedi cynhyrchu Canllaw Ymarferol sy'n delio ag amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed ac mae'n cynnwys rhai enghreifftiau o ba fathau o swyddi fydd yn gymwys i gael gwiriad CRB (www.dh.gov.uk).
Yn achos rhai elusennau, sef y rheiny a ddosberthir fel 'sefydliadau gofal plant', mae gwiriadau yn orfodol. Mewn achosion eraill mae cynnal gwiriadau yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr. Ond argymhellwn yn gryf y dylai pob elusen sydd mewn sefyllfa i ddefnyddio gwasanaethau'r CRB i archwilio cefndir darpar ymddiriedolwyr yn gwneud hynny, er nad yw hyn efallai yn orfodol.
Nid yw deddfwriaeth CRB yn ei gwneud hi'n orfodol i elusennau (ac eraill) gynnal gwiriadau CRB ar gyfer pob swydd berthnasol. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau cymhwyster unigolion i weithredu fel ymddiriedolwyr a gwarchod buddiannau buddiolwyr, dylai ymddiriedolwyr elusennau sy'n gallu defnyddio gwasanaethau'r CRB wneud hynny.
Rhaid i sefydliadau a ddiffinnir fel 'sefydliadau gofal plant' o fewn telerau Deddf Amddiffyn Plant 1999 wirio yn erbyn Rhestr Deddf Amddiffyn Plant, a gellir gwneud hyn dim ond trwy'r CRB.
Gall awdurdodau eraill hefyd fynnu bod gwiriadau CRB yn cael eu cynnal. Er enghraifft, dan Reoliadau Addysg (Safonau Ysgolion annibynnol)(Lloegr) 2003, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol Addysg gynnal gwiriad CRB ar berchennog ysgol annibynnol. Gall hyn gynnwys unig berchennog ond hefyd gall olygu corff llywodraethu, ymddiriedolwyr neu gyfarwyddwyr.
Cewch fwy o wybodaeth am y gwiriadau y mae'n rhaid eu cynnal ar berchnogion ysgolion annibynnol ar wefan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd: www.dcsf.gov.uk.
Dylem. Gwiriadau CRB yw'r ffordd orau ar hyn o bryd i ymddiriedolwyr wirio a yw cyd-ymddiriedolwr wedi'i anghymhwyso rhag gweithio gyda buddiolwyr agored i niwed. Am y rheswm hwn mae polisi'r Comisiwn fel a ganlyn:
Mae dyletswydd gofal gan bob ymddiriedolwr elusen a dyletswydd i weithredu er lles yr elusen yn unig. Mae'r Comisiwn yn credu bod yr ymddiriedolwyr elusen mewn perygl o weithredu'n groes i'r dyletswyddau hyn os ydynt, heb reswm da, yn methu â chynnal gwiriadau CRB priodol pan fydd hawl ganddynt wneud hynny. Mewn rhai amgylchiadau, gellir ystyried methiannau o'r fath yn dystiolaeth o gamymddygiad /neu gamreoli yng ngweinyddiad yr elusen.
Mae nifer o droseddau penodol sy'n ymwneud ag unigolion anghymwys yn gweithredu fel ymddiriedolwyr elusen, a ddisgrifir yn adran D4.
Rhaid i'r darpar ymddiriedolwr gyflwyno'r cais. Bydd angen i gorff sydd wedi'i gofrestru gyda'r CRB ei gydlofnodi, a all olygu'r elusen dan sylw neu 'gorff mantell CRB'. Bydd y CRB yn anfon y dystysgrif Datgeliad at yr unigolyn, a chopi i'r sawl sy'n ei chydlofnodi.
Mae'n rhaid i'r unigolyn wneud cais am Ddatgeliad, yn hytrach na'r sefydliad y bydd yn gweithio neu'n gwirfoddoli iddo. Bydd rhaid i gorff sydd wedi'i gofrestru gyda'r CRB at y diben hwnnw gydlofnodi'r ffurflen gais.
Gall elusen gofrestru gyda'r CRB er mwyn iddo allu cydlofnodi ceisiadau am Ddatgeliadau sy'n ymwneud â swyddi cyflogedig neu wirfoddol o fewn yr elusen. Fel arall, gall ofyn i sefydliad arall sydd eisoes wedi cofrestru gyda'r CRB fel 'corff mantell CRB' i gydlofnodi'r ceisiadau ar ei ran.
Mae'r canlynol yn rhai enghreifftiau o sefydliadau sydd wedi cofrestru, neu sydd efallai yn gallu cofrestru, fel 'corff mantell CRB':
Yng Nghymru yn unig, mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn gweithredu fel corff mantell CRB ac yn gwasanaethu'r sector gwirfoddol cyfan yng Nghymru. Mae WCVA, gyda nawdd gan Gynulliad Cymru, wedi sefydlu Uned Cofnodion Troseddol sy'n darparu mynediad at wasanaeth Datgeliad y CRB. Gall yr Uned gydlofnodi ceisiadau am wiriadau i weithwyr a gwirfoddolwyr ar gyfer swyddi yng Nghymru. Nid yw'r Uned yn codi unrhyw dâl gweinyddol am brosesu'r gwiriad. Cewch fwy o wybodaeth ar wefan WCVA: www.wcva.org.uk.
Mae gwefan CRB www.crb.gov.uk yn darparu'r wybodaeth ganlynol:
Gellir gwarantu bod Datgeliad yn gyflawn dim ond ar y dyddiad y caiff ei gyhoeddi. Dylai elusennau geisio Datgeliadau CRB newydd bob hyn a hyn, os yw'n gymwys. Argymhellwn mai bob tair blynedd sy'n briodol fel rheol.
Bydd pob Datgeliad yn cynnwys y dyddiad y cafodd y Datgeliad ei argraffu, ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa fel y mae ar y dyddiad cyhoeddi. Nid oes terfyn amser ar ddilysrwydd Datgeliad oherwydd gallai collfarn neu fater arall gael ei gofnodi yn erbyn deiliad y Datgeliad unrhyw bryd ar ôl iddo gael ei gyhoeddi. Felly, y mwyaf agos i ddyddiad cyhoeddi'r Datgeliad, mwyaf dibynadwy fydd ei gynnwys.
Dylai elusennau ailwirio ymddiriedolwyr, gan gynnwys ymddiriedolwyr a gafodd eu penodi'n wreiddiol gan y Comisiwn, ac eraill mewn swyddi perthnasol, bob tair blynedd. Os yw ymddiriedolwyr yn mabwysiadu'r polisi hwn o ailwirio bob tair blynedd, bydd hyn yn golygu y bydd yr unigolion hynny a oedd eisoes yn ymddiriedolwyr neu'n weithwyr cyflogedig cyn i'r Swyddfa Cofnodion Troseddol gychwyn yn cael eu gwirio hefyd.
Mae'r CRB yn darparu canllawiau ar ei wefan www.crb.gov.uk am y materion sy'n ymwneud ag ailddefnyddio gwiriadau CRB a geisiwyd ar gyfer swydd mewn un sefydliad ac yna eu defnyddio ar gyfer swydd mewn sefydliad arall.
Nid bwriad Datgeliad yw gwrthod pob darpar ymddiriedolwr elusen sydd â chofnod troseddol neu gofnod o gamymddygiad yn y gorffennol. Fodd bynnag, dylai ymddiriedolwyr ddefnyddio gofal rhesymol.
Gall fod amgylchiadau pan fydd Datgeliad yn dangos achos pryder am ddarpar ymddiriedolwr, ond nid yw'n ddigonol i'w anghymhwyso dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau'r Llysoedd 2000 neu Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Yn yr achosion hyn dylai ymddiriedolwyr ddefnyddio gofal rhesymol, yn seiliedig ar:
Mae'n bwysig cofio bod Datgeliad yn ceisio galluogi sefydliadau i wneud penderfyniad gwybodus gwell. Nid bwriad Datgeliad yw arwain cyflogwyr at wrthod ymgeiswyr sydd â chofnod troseddol fel mater o arfer, ac mae'r un peth yn wir wrth benodi ymddiriedolwyr. Fodd bynnag, mewn achosion o'r fath bydd angen i'r ymddiriedolwyr ystyried y penodiad arfaethedig yn ofalus.
Mae'r CRB yn darparu canllaw i ddefnyddwyr ei wasanaethau ynghylch sut i gael y cydbwysedd iawn rhwng gwarchod ac ailsefydlu. Mae cyhoeddiadau defnyddiol a gymeradwyir gan y CRB yn cynnwys 'Recruiting Safely' gan NACRO a 'A Practical Guide to Employing Ex-Offenders' gan Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad. Mae'r ddau gyhoeddiad yma i'w gweld ar wefan CRB www.crb.gov.uk
Gall ymddiriedolwyr gael eu penodi mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys cael eu henwebu gan ymddiriedolwyr cyfredol, cael eu hethol gan aelodau'r elusen, neu drwy rinwedd swydd arall sydd ganddynt (ymddiriedolwyr 'ex officio'). Mae'n bwysig bod darpar ymddiriedolwr yn deall y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau y bydd ganddo. Pan fydd ymddiriedolwr wedi cael ei benodi, mae gwahanol gamau yn ofynnol i ffurfioli'r penodiad.
Wedi recriwtio ymddiriedolwr newydd, mae'n bwysig ei groesawu, datblygu ei sgiliau, gwneud yn siŵr ei fod yn gyfarwydd â gwaith yr elusen a'i fod yn cael ei gyflwyno i'r ymddiriedolwyr eraill ac aelodau staff allweddol. Mae'n syniad da gweithredu proses sefydlu ffurfiol.
Gall ymddiriedolwyr gael eu hethol neu eu henwebu gan ymddiriedolwyr cyfredol, eu henwebu gan sefydliadau eraill, neu gallant fod yn ymddiriedolwyr trwy rinwedd swydd arall sydd ganddynt.
Gall ymddiriedolwyr gael eu penodi mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Er enghraifft:
Os yw ymddiriedolwyr yn cael eu penodi neu eu henwebu gan gorff allanol, megis awdurdod lleol, mae'n bosib bod gan yr elusen ei hun lai o bŵer i reoli'r penodiad. Fodd bynnag, gall ddylanwadu arno o hyd a gall y canllaw hwn fod yn ddefnyddiol. Fel pob penodiad ymddiriedolwr, mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar unrhyw gorff allanol sy'n penodi ymddiriedolwr i elusen i wneud hyn er lles gorau'r elusen yn hytrach nag er ei lles ei hun. Gall fod o gymorth i'r elusen amlinellu i'r corff penodi yr hyn sy'n ofynnol gan ymddiriedolwr ac unrhyw sgiliau neu nodweddion arbennig y mae'r elusen yn eu ceisio. Er mwyn i ymddiriedolwyr gael mwy o reolaeth dros y penodiad, gallent ofyn i'r corff enwebu ddarparu enwau dau berson i'r elusen eu hystyried.
Heblaw yn achos ymddiriedolwr ex officio, mae penodi ymddiriedolwr yn effeithiol dim ond pan fydd darpar ymddiriedolwr wedi cytuno'n ffurfiol i dderbyn swydd ymddiriedolwr. Yna gall y swydd ddechrau ar unwaith, neu ar ddyddiad penodedig.
Dylai darpar ymddiriedolwr fod yn ymwybodol o'r cyfrifoldebau cyfreithiol a fydd ganddo. Dylai'r penodiad hefyd gael ei wneud mewn ffordd sy'n gwasanaethu buddiannau gorau'r elusen.
Dylai darpar ymddiriedolwr ddeall y cyfrifoldebau cyfreithiol y bydd ganddo pan fydd yn ymddiriedolwr. Cewch fanylion am gyfrifoldebau ymddiriedolwyr yn ein canllaw Yr Ymddiriedolwr Elusen Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod (CC3). Dylid penodi ymddiriedolwr newydd mewn ffordd sy'n darparu ar gyfer buddiannau gorau'r elusen. Mae'r canlynol yn rhai o'r prif feysydd arfer da wrth recriwtio a phenodi ymddiriedolwyr sy'n cael sylw yn y canllawiau hyn:
Yn dibynnu ar natur yr elusen, bydd angen i'r cyrff swyddogol amrywiol gael gwybod bod ymddiriedolwr newydd wedi cael ei benodi. Mae'n bosib y bydd angen i chi drosglwyddo eiddo hefyd a ddelir mewn ymddiriedolaeth gan yr ymddiriedolwyr, newid gorchmynion banc, a hysbysu buddgyfranogwyr eraill.
Yn dilyn penodi ymddiriedolwr newydd, rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau bod:
Dylent hefyd sicrhau bod:
Pan gaiff ei benodi, dylid cysylltu'n ffurfiol â'r ymddiriedolwr newydd i'w groesawu fel ymddiriedolwr ac i gadarnhau ei benodiad. Mae Sefydliad Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig (ICSA) yn cynhyrchu llythyrau enghreifftiol i'w hanfon at ymddiriedolwyr newydd pan gânt eu penodi.
Dylai ymddiriedolwr newydd dderbyn copïau o bob dogfen allweddol sy'n ymwneud â gwaith yr elusen, a'i ddyletswyddau fel ymddiriedolwr.
Dylai'r ymddiriedolwr newydd dderbyn dogfennau allweddol sy'n ymwneud â'r elusen, gydag esboniad o'u diben a'u heffaith. Drwy hyn gall ymddiriedolwyr newydd wybod sut mae'r elusen yn gweithio a gallant wneud cyfraniad effeithiol at reolaeth yr elusen cyn gynted â phosib. Mae hyn yn arfer da, ond gall hefyd fod yn ofynnol yn nogfen lywodraethol yr elusen.
Dylai dogfennau allweddol sydd i'w rhoi i'r ymddiriedolwyr newydd gynnwys:
Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i roi copi i ymddiriedolwyr newydd o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymddiriedolwyr ac Aelodau Pwyllgorau Rheoli. Mae'r Safonau hyn wedi cael eu paratoi i ddarparu cyngor a disgrifio arfer gorau ar rôl ymddiriedolwr. Gallwch lwytho copi o'r Safonau i lawr o wefan UK Workforce Hub www.ukworkforcehub.org.uk.
Dylai elusennau fuddsoddi yn hyfforddiant, cymorth a datblygiad eu hymddiriedolwyr, fel aelodau staff, er mwyn cynyddu'r cyfraniad y gall y bwrdd ei wneud at reolaeth yr elusen. Bydd lefel y cymorth a roddir yn dibynnu ar faint a natur yr elusen.
Mewn elusen a weinyddir yn effeithiol mae'r broses sefydlu yn nodi dechrau proses barhaus o hyfforddiant a datblygiad ymddiriedolwyr, er mwyn sicrhau y gall ymddiriedolwyr barhau i wneud cyfraniad effeithiol i'r elusen. Bydd lefel yr hyfforddiant a'r cymorth y bydd ei hangen ar ymddiriedolwyr yn amrywio yn ôl maint a natur yr elusen, ond mae'n bosib y bydd ymddiriedolwyr yn dymuno ystyried rhai o'r canlynol:
Dylai ymddiriedolwyr adolygu'r gweithdrefnau bob hyn a hyn ar gyfer recriwtio, sefydlu a datblygiad parhaus ymddiriedolwyr er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau hyn yn parhau i fod yn effeithiol.
Cewch fanylion am ffynonellau gwybodaeth eraill, gan gynnwys gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi a datblygu i ymddiriedolwyr, ar hafan ein gwefan.
Yn gyntaf gwnewch yn siŵr bod yr ymddiriedolwr newydd wedi derbyn yr holl ddogfennau allweddol a nodir yn adran E4. Dylai'r ymddiriedolwr newydd hefyd gwrdd â'r ymddiriedolwyr eraill a phobl allweddol o fewn yr elusen er mwyn deall ei gwaith yn well ac unrhyw sialensiau y bydd efallai yn eu hwynebu.
Mae rhaglen sefydlu briodol yn hanfodol fel rhan o'r broses o sicrhau y gall ymddiriedolwyr fod yn aelodau gwerthfawr ac effeithiol o'r bwrdd mor gyflym â phosib. Dylai pob elusen, pa mor fawr neu fach y bônt, ystyried anghenion yr elusen ac ymddiriedolwyr newydd trwy ddarparu rhaglen sefydlu sy'n addas i'r ymddiriedolwyr newydd a maint a natur yr elusen, ac a fydd yn rhoi'r wybodaeth y bydd ei hangen ar yr ymddiriedolwr.
Ar gyfer ymddiriedolwyr newydd elusennau llai a symlach, efallai mai trafodaeth gyda'r ymddiriedolwyr presennol fydd y ffordd orau o ddysgu popeth y mae angen iddynt ei wybod i gychwyn er mwyn gwneud cyfraniad effeithiol at reolaeth yr elusen.
Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i ymddiriedolwyr newydd siarad â phobl allweddol o fewn yr elusen er mwyn cael dealltwriaeth glir o sut mae'r elusen yn gweithredu.
Ar gyfer elusennau mwy a mwy cymhleth, gallai rhaglen sefydlu fwy strwythuredig helpu'r ymddiriedolwr newydd i ddeall gwaith yr elusen yn well, a gallai'r rhaglen hon gynnwys:
Mae Sefydliad Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig (ICSA) yn cynhyrchu pecyn sefydlu enghreifftiol i ymddiriedolwyr. Mae'r Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO) yn cynhyrchu amrywiaeth o wybodaeth i ymddiriedolwyr, gan gynnwys 'The Good Trustee Guide'.
Mae nifer o adnoddau y gall ymddiriedolwyr elusen eu defnyddio i'w helpu pan fyddant yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd. Nid yw hon yn rhestr derfynol o'r holl ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael, ond mae'n cynnig golwg gyffredinol dda a man cychwyn defnyddiol. Ceisiwn annog ymddiriedolwyr i ddefnyddio'r ystod eang o sefydliadau sy'n gallu eu helpu eraill i weinyddu eu helusen mor effeithiol â phosib. Cewch fanylion am ffynonellau gwybodaeth pellach o dan Cysylltiadau Defnyddiol ar hafan ein gwefan.
Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO)
Mae NCVO yn cynhyrchu ystod eang o wybodaeth a gwasanaethau cynnal i'r rheiny sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol. Mae NCVO yn cynhyrchu 'The Good Trustee Guide' sy'n cynnwys gwybodaeth ymarferol ar bob agwedd ar rôl ymddiriedolwr. Mae ei wefan hefyd yn cynnwys manylion Grŵp Rhwydwaith Broceriaeth Ymddiriedolwyr sy'n rhwydwaith o wasanaethau lleoliad broceriaeth sy'n cyfateb ymddiriedolwyr â swyddi gwag ar fyrddau cyrff gwirfoddol (www.trusteebank.org)
Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO)
Regent's Wharf
8 All Saints Street
Llundain N1 9RL
Ffôn: 020 7713 6161
Ffacs: 020 7713 6300
Rhadffôn: 0800 2798 798
E-bost: helpdesk@ncvo-vol.org.uk
Gwefan: www.ncvo-vol.org.uk
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
WCVA yw llais y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae'n cynrychioli buddiannau, ac yn ymgyrchu dros gyrff gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau yng Nghymru. Mae'n darparu ystod gynhwysfawr o wybodaeth, gwasanaethau ymgynghori, cyllid, rheolaeth a hyfforddiant. Gall elusennau ddefnyddio gwefan WCVA i gael hyd i'w Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) agosaf.
Mae Uned Cofnodion Troseddol WCVA yn gorff mantell cofrestredig gyda'r Swyddfa Cofnodion Troseddol ac mae'n gallu cydlofnodi ceisiadau Datgeliad ar ran cyrff gwirfoddol eraill yng Nghymru.
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Tŷ Baltig,
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd, CF10 5FH
Ffôn: 029 2043 1700
Llinell gymorth: 0800 2888 329
E-bost: enquiries@wcva.org.uk
Gwefan: www.wcva.org.uk
Cynghorau Gwirfoddol Sirol Cymru (CVC)
Rôl y Cynghorau Gwirfoddol Sirol yw darparu cyngor a gwybodaeth i sefydliadau gwirfoddol lleol ar unrhyw fater a all effeithio arnynt. Maen nhw'n cefnogi gweithredu gwirfoddol trwy gynorthwyo gwirfoddolwyr, cynghori ar arfer da a darparu gwybodaeth ar ffynonellau nawdd ac amryw o faterion eraill. Maen nhw hefyd yn cynrychioli'r sector gwirfoddol ar bartneriaethau traws-sector. Cewch fanylion cyswllt pob Cyngor ar wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) (am fanylion gweler uchod).
Cymdeithas Genedlaethol Gweithredu Gwirfoddol a Chymunedol (NAVCA)
Y gymdeithas hon yw'r corff mantell cenedlaethol ar gyfer 250 o Gynghorau Gwasanaeth Gwirfoddol yn Lloegr. Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol lleol yn darparu cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i gyrff gwirfoddol ac elusennau yn ei ardal, gan gynnwys cymorth gyda chofrestru. Os hoffech gael manylion am eich Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol lleol chi, cysylltwch â NAVCA uchod. Mae sefydliadau sy'n debyg i NAVCA yn bodoli ar gyfer cyrff gwirfoddol ac elusennau a leolir yng Nghymru. Cysylltwch â WCVA (gweler uchod).
NAVCA
The Tower
2 Furnival Square
Sheffield S1 4QL
Ffôn: 0114 278 6636
Ffacs: 0114 278 7004
E-bost: navca@navca.org.uk
Gwefan: www.navca.org.uk
Cymdeithas Prif Weithredwyr Cyrff Gwirfoddol (acevo)
Mae'r corff aelodaeth ar gyfer prif weithredwyr cyrff gwirfoddol acevo yn gweithio i gysylltu, datblygu a chynrychioli arweinwyr y sector.
Cymdeithas Prif Weithredwyr Cyrff Gwirfoddol
1 New Oxford Street
Llundain WC1A 1NU
Ffôn: 0845 345 8481
Ffacs: 0845 345 8482
E-bost: info@acevo.org.uk
Gwefan: www.acevo.org.uk
Charity Trustee Networks (CTN)
Mae'n cynnig cyd-gymorth i ymddiriedolwyr trwy annog a datblygu grwpiau rhwydwaith Ymddiriedolwyr hunangymorth gan ddarparu gwasanaeth ymgynghorol a mentora.
Charity Trustee Networks
3-4 Frensham Suite
Friary Court
13 -21 High Street
Guildford
Surrey GU1 3DG
Ffôn: 01483 230280
Ffacs: 01483 303932
E-bost: info@trusteenet.org.uk
Gwefan: www.trusteenet.org.uk
Directory of Social Change (DSC)
Mae'n hybu newid cymdeithasol cadarnhaol ac yn darparu ystod eang o adnoddau ar gyfer ymddiriedolwyr.
Llundain
24 Stephenson Way
Llundain NW1 2DP
Ffôn: 020 7391 4800
Lerpwl
Federation House
Hope Street
Lerpwl
L1 9BW
Ffôn: 0151 708 0117
Ffôn: 08450 77 77 07
E-bost (Llundain): enquiries@dsc.org.uk
(Lerpwl): north@dsc.org.uk
Gwefan: www.dsc.org.uk
Ethnic Minority Foundation (EMF)
Mae EMF yn datblygu adnoddau i sefydliadau du a lleiafrif ethnig, sy'n cynnwys cyfleoedd rhwydweithio a chyfleoedd hyfforddi a chofrestr ymddiriedolwyr.
Ethnic Minority Foundation
Forbes House
9 Artillery Lane
Llundain E1 7LP
Ffôn: 020 7426 8950
E-bost: enquiries@ethnicminorityfund.org.uk
Gwefan: www.ethnicminorityfund.org.uk
Gwasanaeth Ansolfedd
Mae'n cynnal y Gofrestr Ansolfedd Unigolion. Gallwch chwilio'r gofrestr ar-lein, yn swyddfa leol eich Derbynnydd Swyddogol, neu trwy'r post. I chwilio trwy'r post, cysylltwch â:
The Insolvency Service
21 Bloomsbury Street
Llundain
WC1B 3QW
Ffôn: 0845 602 9848
Gwefan: www.insolvency.gov.uk
Institute of Chartered Secretaries and Administrators (ICSA)
ICSA yw'r corff proffesiynol ar gyfer ysgrifenyddion siartredig. Mae'n cynhyrchu nifer o ganllawiau arfer da a nodiadau cyfarwyddyd. Mae hefyd yn cadw cofrestr ymddiriedolwyr sydd ar gael i elusennau sy'n chwilio am ymddiriedolwyr newydd.
Institute of Chartered Secretaries and Administrators (ICSA)
16 Park Crescent
Llundain W1B 1AH
Ffôn: 020 7580 4741
Ffacs: 020 7323 1132
E-bost: info@icsa.co.uk
Gwefan: www.icsa.org.uk
REACH
Sefydliad sy'n cyfateb sgiliau pobl brofiadol i anghenion cyrff gwirfoddol.
REACH
89 Albert Embankment
Llundain SE1 7TP
Ffôn: 020 7582 6543
Ffacs: 020 7582 2423
E-bost: mail@reach-online.org.uk
Gwefan: www.reach-online.org.uk
Swyddfa Cofnodion Troseddol
Sefydlwyd y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB fel asiantaeth weithredol o'r Swyddfa Gartref, i helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel. Gweler adran Dd am fanylion llawn.
Swyddfa Cofnodion Troseddol
Gwasanaethau Cwsmeriaid
Blwch SP 110
Lerpwl L69 3EF
Ffôn: 0870 90 90 811
Gwefan: www.crb.gov.uk
Llinell gais datgeliadau: 0870 90 90 844
Gwefan gwybodaeth datgeliadau: www.crb.gov.uk
Tŷ’r Cwmnïau
Yr awdurdod corfforedig i gwmnïau cyfyngedig. Mae hefyd yn cynnal seminarau i gyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion cwmni newydd eu penodi.
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Maindy
Caerdydd CF14 3UZ
Ffôn: 0870 333 3636
Minicom: 02920 381245
E-bost: enquiries@companies-house.gov.uk
Gwefan: www.companieshouse.gov.uk
Mae'r cyhoeddiadau canlynol yn aml yn ymdrin â materion sy'n berthnasol i recriwtio, dewis a sefydlu ymddiriedolwyr.
Charities Management
Mitre House Publishing
154 Graham Road
Wimbledon
Llundain
SW19 3SJ
Ffôn: 020 8542 7766
E-bost: charitiesman@btconnect.com
Gwefan: www.charitiesmanagement.com
Charity Finance
3 Rectory Grove
Llundain SW4 0DX
Ffôn: 020 7819 1200
Ffacs: 020 7819 1201
E-bost: katie@charityfinance.co.uk
Gwefan: www.charityfinance.co.uk
Charity Times
Ffôn: 020 7562 2402
Ffacs: 020 7374 2703
Gwefan: www.charitytimes.com
Governance: essential information for effective trustees
Ffôn: 020 7819 0391
E-bost: subs@charitygovernance.co.uk
Gwefan: www.charitygovernance.co.uk
The Guardian
Mae adran The Society ar ddydd Mercher yn arbennig o ddefnyddiol.
Gwefan: www.SocietyGuardian.co.uk
Rhwydwaith Cymru
Cysylltwch â WCVA am fanylion.
Third Sector
Ffôn: 020 8606 7500
E-bost: subscriptions@haymarket.com
Gwefan: www.thirdsector.co.uk
Voluntary Sector
Cysylltwch â NCVO am fanylion
Mae'r Comisiwn Elusennau yn cynhyrchu ystod eang o gyhoeddiadau a chanllawiau ar y wefan sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i ymddiriedolwyr elusen a'r cyhoedd ar faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith elusennau, rheoleiddio ac arfer gorau. Mae rhestr gyhoeddiadau lawn i'w gweld ar ein gwefan ac yn ein cyhoeddiad CC1, ond mae'r rhestr isod yn ddetholiad yn seiliedig ar y materion a drafodwyd yn y canllaw hwn.
I gael copïau o'r rhain neu unrhyw un o'n cyhoeddiadau gallwch:
Y Comisiwn Elusennau yw rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ei nod yw darparu'r dull rheoleiddio gorau posib ar gyfer elusennau yng Nghymru a Lloegr, er mwyn cynyddu effeithiolrwydd elusennau a ffydd ac ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o elusennau gofrestru gyda'r Comisiwn, ond nid oes rhaid i rai mathau arbennig o elusen gofrestru. Mae rhyw 190,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae'r fframwaith yn wahanol yn yr Alban, ac nid yw'r Comisiwn yn rheoleiddio elusennau'r Alban.
Mae'r Comisiwn yn darparu ystod eang o gyngor ac arweiniad i elusennau a'u hymddiriedolwyr, a gall helpu gyda phroblemau yn aml. Rhaid i elusennau cofrestredig sydd ag incwm neu wariant blynyddol o fwy na £10,000 ddarparu gwybodaeth a chyfrifon blynyddol i'r Comisiwn. Mae pwerau eang gan y Comisiwn i ymyrryd mewn materion elusen os yw pethau wedi mynd o chwith.
Cewch fwy o wybodaeth am y Comisiwn ynghyd â'r canllawiau amrywiol i elusennau ar ein gwefan, neu drwy ffonio ein llinell gyswllt 0845 300 0218.
Cyfeiriad:
Comisiwn Elusennau Uniongyrchol
Blwch SP 1227
Lerpwl
L69 3UG
v1.0.0