Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Fersiwn - Tachwedd 2009)
Gallwch weld y fersiwn lliw printiedig Cydweithio a Chyfuniadau: Cyflwyniad (CC34).
Canllawiau gan y Comisiwn Elusennau i bob elusen sy'n ystyried gweithio mewn partneriaeth neu uno â sefydliadau eraill.
Annwyl Ddarllenydd,
Nod pennaf unrhyw elusen yw darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r rhai sy'n cael budd o'i gwaith. Un ffordd o gyflawni hyn yw trwy weithio gydag eraill. Mae ystyried cyfleoedd i gydweithio a chyfuniadau yn rhan annatod o waith ymddiriedolwr yn yr hinsawdd sydd ohoni.
Gall cydweithio ddechrau o syniadau anffurfiol syml iawn, megis benthyca adnoddau. Ar begwn arall y sbectrwm mae trefniadau mwy integredig a all ofyn am gyngor proffesiynol, yn dibynnu ar faint a chymhlethdod yr elusennau dan sylw. Gall y trefniadau hyn ymwneud ag unrhyw agwedd ar weithgareddau'r elusen gan gynnwys gweinyddu, codi arian, ymgyrchu a chyflwyno gwasanaeth a gall greu arbedion cost a gwasanaethau gwell i'r rhai y mae'r elusen yn ceisio eu helpu. Mewn rhai achosion, gall elusennau gyfuno, hynny yw dod at ei gilydd i ffurfio un sefydliad. Bydd hyn yn cynnwys gweithdrefnau ffurfiol ac yn gofyn am gyngor proffesiynol fel arfer.
Dylai pob elusen ystyried o ddifrif ac mewn ffordd greadigol a oes ffyrdd y gallent wneud mwy i'w buddiolwyr trwy weithio gyda'i gilydd. Er bod gan bob elusen ei chyfraniad unigryw ei hun i'w wneud i gymdeithas, bydd elusen effeithiol yn ystyried a allai cydweithio neu weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill neu uno ag elusennau eraill wella effeithlonrwydd, sut y defnyddir cronfeydd a darparu gwasanaethau i fuddiolwyr yn awr ac yn y dyfodol. Ceisiwn annog ymddiriedolwyr i ystyried hyn yn gyson.
Pan fydd yr amodau'n gywir a gall ymddiriedolwyr weld manteision amlwg, rydym yn hapus i roi cymorth ac arbenigedd i helpu elusennau gyda phob agwedd ar y broses o gydweithio neu gyfuno.
Gofynnir i ni yn aml i gynghori elusennau ynghylch y materion y dylent eu hystyried wrth geisio cydweithio neu gyfuno. Ar sail ein profiad ni, mae'r canllaw hwn yn nodi'r materion a'r ffactorau y mae angen eu hystyried cyn gwneud unrhyw benderfyniad i fynd ymhellach. Rydym hefyd wedi adnabod y camau allweddol ac ymarferol sy'n gysylltiedig â'r gwahanol ddewisiadau. Mae ein cyhoeddiadau cysylltiedig Dewis Cydweithio: Eich helpu i lwyddo ac Uno Llwyddiannus: Eich helpu i lwyddo ar gael ar ein gwefan hefyd.
Yn y canllaw hwn, pan ddefnyddiwn 'rhaid', golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn. Er mwyn eich helpu i adnabod yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddio'r symbol
wrth ochr yr ateb byr yn yr adran honno.
Defnyddiwn 'dylai' am eitemau y mae'r Comisiwn yn eu hystyried yn arfer da lleiaf, ond nid oes gofyniad cyfreithiol penodol i'w cyflawni. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.
Cynigiwn gyngor llai ffurfiol hefyd ac argymhellion a all fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr wrth iddynt reoli eu helusen.
Mae'r canllaw hwn yn tynnu sylw at rai materion allweddol i ymddiriedolwyr elusen ac, os yw'n gymwys, eu staff ar y mater o gydweithio a chyfuniadau. Mae'n disgrifio ffyrdd o weithio mewn partneriaeth yn ogystal â'r gwahanol fathau o strwythurau a phrosesau sydd dan sylw. Mae'n ceisio helpu ymddiriedolwyr elusen i benderfynu a ydynt eisiau mynd ymlaen ac, os ydynt, beth yw'r gwahanol gamau a materion. Mae'r canllaw hwn yn canolbwyntio ar rôl y Comisiwn Elusennau ym maes gweithio mewn partneriaeth a chyfuniadau ac mae'n amlinellu'r cymorth y gallwn ei gynnig.
Mae'r canllaw yn cynnwys rhai enghreifftiau astudiaeth achos o gydweithio a chyfuniadau.
Mae Adran C yn dangos gwahanol fathau o gydweithio a phartneriaethau ac mae'n disgrifio'r strwythurau ffurfiol ac anffurfiol y gallai nifer o elusennau eu defnyddio pan fyddant yn gweithio gyda'i gilydd.
Mae Adran Ch yn disgrifio beth mae cyfuniad yn ei olygu yn ymarferol i elusen ac mae hefyd yn ymdrin â'r prif ystyriaethau i ymddiriedolwyr: costau, rôl y Prif Weithredwr a'r materion cyfreithiol a all godi.
Mae Adran D yn ymwneud â 'diwydrwydd dyladwy' - term technegol a ddefnyddir i ddisgrifio sut y dylai elusen sicrhau ei hun bod cyfuno â sefydliad newydd er lles gorau'r elusen a'i fod yn "addas".
Yn y canllaw hwn mae 'cydweithio' yn disgrifio dwy elusen neu fwy yn gweithio ar y cyd ar brosiect neu fenter er mwyn cyflawni eu dibenion, tra eu bod yn parhau i fod yn sefydliadau ar wahân. Gall y prosiect neu'r fenter ymwneud ag unrhyw agwedd ar weithgaredd gweithredol yr elusen, gan gynnwys gweinyddiaeth, rhannu adnoddau a symleiddio costau, darparu gwasanaeth a gweithgaredd codi arian, neu hysbysebu a gwella proffil cyhoeddus.
Weithiau gall penderfyniad i weithio gyda'i gilydd arwain at uno dwy elusen neu fwy yn ffurfiol. Defnyddiwn y gair 'cyfuniad' i ddisgrifio trosglwyddo neu uno asedau (a rhwymedigaethau) dwy elusen neu fwy sydd wedi'u cofrestru ar wahân. Bydd hyn yn golygu bod rhai neu bob un o'r partïon yn ailstrwythuro neu'n diddymu. Mewn achosion o'r fath, mae elusen newydd yn cael ei ffurfio neu mae un elusen yn dod o dan reolaeth y llall.
Er ein bod wedi ceisio ysgrifennu'r canllawiau hyn mewn iaith bob dydd, mae'n rhaid i ni ddefnyddio rhai termau technegol mewn mannau. Mae'r rhestr hon yn esbonio rhai ohonynt:
Mae awdurdod cyfreithiol yn derm cyffredinol ar gyfer y dull a ddefnyddir gan y Comisiwn Elusennau i awdurdodi newid i'r ffordd y mae elusen yn gweithredu. Gall olygu cynllun, gorchymyn neu, yn achos cwmnïau elusennol, caniatâd i newid o dan adran 64 o Ddeddf Elusennau 1993.
Ystyr cwmni elusennol yw cwmni (cyfyngedig trwy warant fel arfer):
ac
Ystyr dogfen lywodraethol yw unrhyw ddogfen sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, y dull o'i gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, yn gyfansoddiad, yn femorandwm ac erthyglau cymdeithasu, yn drawsgludiad, yn ewyllys, yn Siartr Frenhinol, yn Gynllun gan y Comisiwn neu'n ddogfen ffurfiol arall.
Dyletswydd gofal - mae gan bob ymddiriedolwr ddyletswydd gofal tuag at ei elusen. I ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig, mae Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn diffinio'r lefel gofal a'r amgylchiadau arbennig pan fydd rhaid ei defnyddio. Mae'r safon hon yn golygu bod disgwyl i ymddiriedolwyr ddefnyddio eu gwybodaeth a'u profiad mewn modd rhesymol ac er lles yr elusen. Os ydynt yn gwneud hynny, nid ydynt yn debygol o dorri'r gyfraith elusennau. Os oes arbenigedd proffesiynol neu fusnes gan ymddiriedolwr disgwylir iddo neu iddi ei ddefnyddio wrth weinyddu'r elusen.
Er bod y ddyletswydd gofal hon yn gymwys mewn rhai sefyllfaoedd yn unig a bod yn fanwl gywir fel y diffinnir yn y Ddeddf, mae cynsail cyfreithiol ac arferion da yn golygu y dylid ystyried bod y ddyletswydd gofal yn gymwys i bob agwedd ar waith ymddiriedolwyr.
Er nad yw'r Ddeddf yn gymwys i gwmnïau elusennol, mae egwyddorion cyffredinol y gyfraith elusennau yn golygu bod dyletswyddau ac egwyddorion tebyg yn gymwys i ymddiriedolwyr sy'n gyfarwyddwyr hefyd.
Dyletswydd pwyll - rhaid i ymddiriedolwyr:
Mae'r Gofrestr Elusennau yn cael ei chynnal gan y Comisiwn Elusennau. Mae'n cynnwys manylion elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae'n ofynnol i'r rhan fwyaf o elusennau yn ôl y gyfraith i gofrestru eu manylion gyda'r Comisiwn Elusennau (mae rhai wedi cofrestru'n wirfoddol).
Ystyr gwaddol parhaol yw eiddo elusen (gan gynnwys tir, adeiladau, arian parod neu fuddsoddiadau) nad oes modd i'r ymddiriedolwyr ei ddefnyddio fel pe bai'n incwm. Rhaid iddo gael ei ddal yn barhaol, weithiau i'w ddefnyddio i hybu dibenion yr elusen, weithiau i gynhyrchu incwm i'r elusen. Fel rheol ni all yr ymddiriedolwyr ddefnyddio gwaddol parhaol heb ein hawdurdod.
Defnyddir prif weithredwr i gyfeirio at yr aelod staff cyflogedig uchaf o fewn yr elusen. Gall fod amryw o deitlau ganddynt, gan gynnwys prif weithredwr, prif swyddog gweithredol, cyfarwyddwr, neu gyfarwyddwr cyffredinol.
SORP yw'r byrfodd Saesneg ar gyfer y Datganiad o Arferion Cymeradwy ar gyfer Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau. Fe'i diwygiwyd diwethaf yn 2005.
Ystyr TUPE yw Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981 a 2006. Mae'r rheoliadau hyn, a'r diwygiadau, yn gweithredu Cyfarwyddeb Hawliau Caffaeledig y Gymuned Ewropeaidd 1977. Mae TUPE yn ceisio diogelu hawliau gweithwyr pan fydd trosglwyddiad o un cyflogwr i'r llall.
Er y bydd TUPE yn gymwys mewn ystod eang o sefyllfaoedd, gall fod rhai amgylchiadau pan na fydd yn gymwys. Mae TUPE yn debygol o fod yn gymwys i gyfuniadau rhwng elusennau.
Mae ymddiriedolaethau arbennig neu gronfeydd cyfyngedig yn golygu cronfeydd neu eiddo a ddelir ac a weinyddir fel ymddiriedolaethau ar wahân gan neu ar ran elusen. Rhaid i ddibenion ymddiriedolaeth arbennig fod yn gulach na dibenion y brif elusen.
Ystyr ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau pwyllgor neu gall fod rhyw deitl arall ganddynt. Maen nhw'n gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol.
Mae ymddiriedolwyr gwarchod neu ymddiriedolwyr daliannol gan rai elusennau hefyd. Mae ymddiriedolwr gwarchod yn gorfforaeth a benodir i warchod, yn hytrach na rheoli, eiddo'r ymddiriedolaeth. Mae ymddiriedolwyr daliannol yn unigolion a benodir i ddal eiddo'r elusen. Gallant weithredu dim ond ar gyfarwyddiadau cyfreithiol yr ymddiriedolwyr elusen ac yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn y ddogfen lywodraethol.
Mae'r adran hon yn disgrifio gwahanol fathau ffurfiol ac anffurfiol o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth. Mae hefyd yn cynnig argymhellion arfer da i ymddiriedolwyr.
Mae cydweithio yn disgrifio dwy elusen neu fwy yn gweithio ar y cyd er mwyn cyflawni eu dibenion, tra eu bod yn parhau i fod yn sefydliadau ar wahân. Gall hyn ymwneud ag unrhyw agwedd ar weithgaredd gweithredol yr elusen, gan gynnwys gweinyddiaeth, codi arian, gwella proffil cyhoeddus, rhannu adnoddau, symleiddio costau a darparu gwasanaeth.
Gall cydweithio gwmpasu ystod eang o weithgareddau. Ar begwn anffurfiol y sbectrwm gall gynnwys rhwydweithio, rhannu gwybodaeth ac aelodaeth o gymdeithasau, grwpiau neu ffederasiynau. Er bod rôl bwysig gan yr enghreifftiau hyn o gydweithio anffurfiol, mae'r canllaw hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar brosiectau partneriaeth mwy ffurfiol a mentrau cydweithredol eraill. Mae enghreifftiau'n cynnwys:
Astudiaeth Achos
Cyngor Cymuned Dyfnaint a Neuadd Blwyf Kenn
Mae Cyngor Cymuned Dyfnaint, gydag incwm o tua £900,000, wedi'i leoli yn Exeter ac mae'n gwasanaethu Dyfnaint. Mae'n bodoli ar gyfer dibenion elusennol cyffredinol ac yn canolbwyntio ar gefnogi cymunedau gwledig. Mae ei weithgareddau yn cynnwys cymorth neuadd bentref, cynllunio cymunedol, tai a dysgu gwledig, cynhwysiant cymdeithasol ac adfywio gwledig. Mae Neuadd Blwyf Kenn yn elusen lai sydd wedi'i lleoli ger Exeter ac yn darparu neuadd i drigolion y plwyf ar gyfer dibenion cymdeithasol, addysgol a hamdden. Mae ganddi incwm blynyddol o tua £11,000.
Mae'r ddwy elusen yn bwriadu cydweithio mewn ffordd hollol newydd. Menter ar y cyd yw hon i ddarparu cyfadeilad pwrpasol newydd a fydd yn cynnig adeilad modern i'r Cyngor (sydd wedi'i leoli mewn adeilad parod ar hyn o bryd), a chyfleuster neuadd gymuned newydd i Neuadd Blwyf Kenn.
Wedi ceisio cyngor proffesiynol, mae'r elusennau wedi paratoi cytundeb menter ar y cyd sy'n rhoi manylion am y gymhareb fuddsoddi a'r trefniadau defnyddio ar gyfer pob elusen. Mae'r cynllun hefyd wedi cael caniatâd cynllunio llawn ac mae'r elusennau'n gweithio ar drefniadau cyllido ar hyn o bryd.
Mae'r ddwy elusen yn bodoli i gynnig budd i'r cyhoedd a hybu eu dibenion elusennol trwy weithgareddau datblygiad cymunedol. Roedd hyn yn golygu nad oedd angen am unrhyw bŵer penodol yn eu dogfennau llywodraethol, neu unrhyw awdurdod arall, cyn y gallent arwyddo cytundeb menter ar y cyd. Roedd eu dibenion eisoes yn caniatáu'r math hwn o gydweithio.
Mae'r fenter ar y cyd hon yn esiampl dda iawn o'r hyn a all fod yn bosibl pan fydd elusennau yn gweithio gyda'i gilydd er budd ei gilydd.
Rhaid i ymddiriedolwyr weithredu'n bwyllog er lles eu helusen. Yn ymarferol mae hyn yn golygu dylai manteision cydweithio gael eu sefydlu'n glir ar y cychwyn.
Fel arfer, nid yw cydweithio yn golygu bod angen cynnwys y Comisiwn oherwydd mae'r trefniadau yn debygol o ddod o fewn pwerau presennol yr ymddiriedolwyr. Fodd bynnag, yn dibynnu ar natur y cydweithio, mae'n bosibl y bydd angen i'r ymddiriedolwyr ystyried ceisio cyngor proffesiynol arbenigol.
Cyn ymrwymo i drefniadau cydweithredol â sefydliad arall, fel mater o arfer da, argymhellir bod ymddiriedolwyr yn:
Beth bynnag fo maint a chymhlethdod y trefniad arfaethedig, dylai ymddiriedolwyr asesu'r risgiau er mwyn sicrhau eu bod nhw wedi cael sylw digonol.
Astudiaeth Achos
Community Alliance
Mae Community Alliance (CA) yn bartneriaeth o bedwar rhwydwaith cenedlaethol yn seiliedig yn y gymuned - bassac, Community Matters, Development Trusts Association a The Scarman Trust. Sefydlwyd y bartneriaeth yn 2004 i ddarparu adnodd cenedlaethol o wasanaethau a chymorth i sefydliadau cymunedol yn Lloegr.
Nod CA yw helpu sefydliadau cymunedol i gael effaith hirdymor trwy ddatblygu perthynas fwy rhyngweithiol rhwng grwpiau cymunedol a'r cyhoedd.
Yr egwyddor y tu ôl i bartneriaeth CA yw cydweithio'n agos lle'n bosibl, gan sicrhau bod nodweddion unigryw pob sefydliad yn parhau. Maen nhw'n adnabod meysydd o ddiddordeb cyffredin, megis datblygu cynnyrch neu gyhoeddiadau, i helpu aelodau bob un o'r pedwar corff, ochr yn ochr â mentrau penodol ar gyfer sefydliadau unigol.
Mae ei lwyddiant yn dibynnu ar greu strwythur gyda rheolaeth dda, hyblygrwydd a chydbwysedd o fewnbwn gan bob un o'r pedwar aelod. Mae'r camau cyntaf wedi cynnwys sefydlu gweithgorau traws-bartner o staff o bob sefydliad, gan ddwyn ynghyd ymddiriedolwyr o'r pedwar rhwydwaith am gyfarfodydd rheolaidd a ffurfio gweithgor prif weithredwr cryf - bob un wedi'i gydlynu gan gyfarwyddwr rhaglen sy'n gyfrifol am ddarparu'r rhaglen a datblygu'r bartneriaeth.
Nid yw'n debygol y bydd unrhyw rwystrau cyfreithiol i elusennau sydd eisiau cydweithio, ar yr amod eu bod yn hybu eu dibenion elusennol. Fodd bynnag, yn dibynnu ar natur y cydweithio, mae'n bosibl y bydd angen i elusennau lunio cytundebau neu gontractau cyfreithiol. Ym mhob sefyllfa, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â darpariaethau dogfen lywodraethol eu helusen.
Wrth ystyried cynnig i gydweithio, dylai ymddiriedolwyr allu dangos bod:
Mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ymarfer eu dyletswydd gofal yn briodol. Mae hyn yn golygu y dylent ystyried yn drylwyr y risgiau posibl sy'n gysylltiedig â chydweithio. Yn arbennig, pan fyddant yn ystyried defnyddio eiddo neu asedau'r elusen wrth gydweithio, dylai ymddiriedolwyr asesu'n briodol y risgiau tebygol yn ogystal â'r manteision posibl. Os oes cwestiwn ynghylch y defnydd arfaethedig o unrhyw fath o eiddo elusen, a'r risgiau tebygol i eiddo o'r fath (er enghraifft, rhoi benthyciad i fenter ar y cyd) gallwn ddarparu cyngor wedi'i deilwra.
Mewn trefniadau cydweithredol, dylai elusennau ystyried beth fyddai'n digwydd pe na fyddai un o'r partïon yn gallu cyflawni ei rhwymedigaethau. Mae'n bwysig ystyried a fyddai'r parti neu'r partïon sy'n weddill yn gallu parhau â'r trefniadau gweithio. Os yw unrhyw beth yn mynd o'i le, gall materion atebolrwydd gael goblygiadau ehangach i'r elusennau dan sylw, a gall hyn effeithio ar eu hasedau a'u henw da. Am y rhesymau hyn mae'n bwysig cael cytundeb ffurfiol clir sy'n cyfateb i'r risgiau posibl.
Fel arfer, nid oes unrhyw rwystrau cyfreithiol i elusennau sydd eisiau cydweithio er mwyn hybu eu dibenion. Mae hyn oherwydd bod gan elusennau naill ai:
Os oes angen, gallwn baratoi Gorchymyn i egluro neu ychwanegu at bwerau ymddiriedolwyr. Cyn paratoi unrhyw Orchymyn, bydd rhaid i ni sicrhau bod yr hyn a gynigir er lles yr elusen.
Mae'n dra thebyg y bydd elusen yn cydweithio ag elusen arall. Fodd bynnag, weithiau bydd elusennau'n gweithio gyda phartneriaid o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat. Ym mhob achos, rhaid i ymddiriedolwyr fod yn hyderus bod y cydweithredu yn hybu amcanion eu helusen, yn ddefnydd priodol o gronfeydd elusennol a bod unrhyw fudd preifat yn atodol i hybu dibenion yr elusen. Os oes unrhyw amheuaeth, dylai elusennau neu ymddiriedolwyr gysylltu â ni am gyngor.
Gall elusennau a sefydliadau eraill weithredu gyda'i gilydd mewn amryw o strwythurau ffurfiol neu anffurfiol at ddiben darparu'r gwasanaethau gorau posibl i'w buddiolwyr.
Tri strwythur cyffredin yw:
Gall rhai o'r rhesymau dros ddewis un o'r strwythurau hyn gynnwys;
Strwythurau grŵp
Mae strwythurau grŵp yn fath arbennig o gydweithio, sy'n cynnig modd i elusennau gyflawni dibenion cyffredin dros ardal eang, neu gyflwyno ystod gymhleth o wasanaethau cysylltiedig ar gyfer eu buddiolwyr. Mae strwythur grŵp yn gymdeithas ffurfiol o sefydliadau ar wahân. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, rhiant-elusen yn sefydlu elusennau eraill ac is-gwmnïau anelusennol.
Gall grwpiau fod ar sawl ffurf a defnyddir amrywiaeth o derminoleg i ddisgrifio'r partïon perthnasol. Fodd bynnag, mae strwythur grŵp yn debygol o gael rhai neu bob un o'r nodweddion canlynol:
Os yw rhiant-gorff neu elusen yn sefydlu elusennau eraill a/neu is-gwmnïau anelusennol, mae'n debyg y bydd y gweithgareddau y mae elusennau eraill neu is-gwmnïau anelusennol yn ymgymryd â nhw, neu sy'n cael eu dosrannu iddynt yn rhai arbenigol, anelusennol neu'n golygu rhyw fath o risg. Bydd rhai elusennau yn dymuno ymgymryd â gweithgareddau sydd heb eu cynnwys o fewn eu busnes craidd ac mae eu dosrannu i elusennau eraill neu is-gwmnïau anelusennol yn gallu cynnig modd i'r rhiant-elusen gefnogi a hybu'r gweithgareddau hynny tra eu bod yn eu trin fel busnesau ar wahân, gan felly osgoi peryglu cronfeydd ac asedau'r rhiant-elusen.
Gall y sefyllfa hon godi hefyd pan fydd elusen yn troi'n rhiant-gorff elusennau sydd eisoes yn bod.
Astudiaeth Achos
Grŵp Cymdeithas Tai Portsmouth (PHA)
Mae grŵp PHA yn cynnwys pedwar sefydliad sy'n ymwneud â thai cymdeithasol ac adfywio cymunedol. Y pedwar sefydliad yw:
PHA yw'r rhiant- gwmni yn y Grŵp. Ei genhadaeth yw 'Adeiladu tai a chymunedau i ymfalchïo ynddynt'. Trwy weithio mewn partneriaeth ag aelodau grŵp a gyda sefydliadau lleol eraill mae'n darparu ystod eang o wasanaethau ar draws cymunedau De Hampshire.
Sefydlwyd PHA yn 1973 ac mae'n Landlord Cymdeithasol Cofrestredig gyda statws elusennol. Mae'n rheoli neu'n berchen ar fwy na 5,000 o gartrefi ac mae'n datblygu 200 pellach bob blwyddyn. Mae hefyd yn cefnogi datblygu ystod o fentrau cymunedol gan gynnwys: mentrau cymdeithasol, bancio cymunedol a hyfforddiant datblygiad cymunedol.
Mae Portsmouth Foyer yn darparu cymuned gymysg i bobl ifanc 16-25 oed gan gynnwys llety â chymorth yn ogystal â rhaglenni dysgu a datblygu. Mae hefyd yn darparu cyngor mynediad at gyflogaeth, prosiectau menywod, cynllun symud ymlaen â chymorth a chefnogaeth i geiswyr lloches.
Mae Canolfan Roberts wedi'i hymrwymo i gynorthwyo teuluoedd sy'n agored i niwed oherwydd digartrefedd neu anawsterau perthynas. Mae'n darparu meithrinfa gyda lleoedd i blant ifanc iawn yn ogystal â chanolfan gyswllt ac amryw o wasanaethau cymorth tenantiaeth.
Mae Foyer a Chanolfan Roberts yn cael eu hystyried yn ganolfannau rhagoriaeth o fewn eu meysydd gweithredu. Mae'r ddwy yn elusennau cofrestredig ac yn gwmnïau cyfyngedig drwy warant. Felly maen nhw'n cael cymorth a ffocws rheoli eu bwrdd ymddiriedolwyr eu hunain tra hefyd yn elwa o gymorth PHA, yn enwedig gyda gwasanaethau proffesiynol megis cyllid ac AD.
Mae Ymddiriedolaeth Bill Sargent yn ymddiriedolaeth elusennol sy'n hybu ymchwil gweithredu i ddigartrefedd a materion cysylltiedig ag allgau cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'n gwerthuso effaith mentrau bancio cymunedol lleol ac mae'n bwriadu ymchwilio i anghenion tai y gymuned Bangladeshi leol.
Strwythurau cyswllt neu ffederal
Mewn strwythur cyswllt neu ffederal bydd elusen genedlaethol fel arfer sy'n ymarfer rhywfaint o reolaeth dros elusennau annibynnol lleol sy'n ffurfio ei haelodau (neu cysylltiedigion). Bydd ymddiriedolwyr eu hunain gan bob elusen leol sy'n gyfrifol am reolaeth gyffredinol yr elusen leol.
Enghraifft o sut mae strwythur cyswllt neu ffederal yn gweithio
Mae elusen genedlaethol yn cael ei sefydlu i gefnogi a chynorthwyo pobl anabl. Mae dibenion cytûn gan ei haelodau, sydd hefyd yn elusennau annibynnol. Yn yr enghraifft hon, mae dibenion yr aelodau wedi'u cyfyngu i ardal ddiffiniedig a lleol, megis darparu cyfleusterau gofal dydd neu leddfu angen ymysg dosbarth buddiolwyr mewn ardal ddaearyddol leol arbennig.
Mae aelodau'r strwythur cyswllt hwn wedi'u cysylltu gan enw, brand a dibenion cyffredin. Fel amod aelodaeth fel arfer gofynnir i aelodau'r grŵp ddefnyddio dogfen lywodraethol safonol a ddarperir gan y corff cenedlaethol. Mae enghreifftiau o reolaeth gyfansoddiadol y bydd corff cenedlaethol eisiau ei chael dros ei aelodau yn cynnwys yr hawl i:
Mae gan y corff cenedlaethol swyddogaeth cynghori a chefnogi ond mae hefyd yn gallu gosod amodau ar sut y mae'r aelod-elusennau yn gweithredu, yn gyfnewid am ddefnyddio'r brand neu'r enw.
Os yw'r elusen genedlaethol yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol yr elusennau lleol, gall hyn olygu nad yw'r cyrff lleol yn elusennau annibynnol ond yn hytrach yn ganghennau o'r brif elusen. Mewn achos o'r fath mae un elusen yn bodoli ac nid yw'n strwythur cyswllt neu ffederal. Yn y sefyllfa hon, er nad oes gan y canghennau neu bwyllgorau lleol hyn unrhyw ddisgresiwn dros y polisïau sydd i'w mabwysiadu (ac eithrio o fewn y terfynau a gytunwyd â'r corff ymddiriedolwyr cenedlaethol), gallant fanteisio ar weithio dan fantell yr elusen genedlaethol.
Strwythurau clymblaid
At ddibenion y canllaw hwn yn unig, defnyddiwn y term 'Strwythur clymblaid' i ddisgrifio strwythur sy'n bodoli pan fydd nifer o elusennau gwahanol yn cytuno i gydweithio at ddiben cyffredin, sydd weithiau'n cael ei ddisgrifio fel 'partneriaeth gyfartal'. Gall y cytundeb fod yn gydweithrediad dros dro gyda rhyw nod arbennig mewn golwg, neu gallai gael ei sefydlu yn fwy ffurfiol gyda chymdeithas newydd yn cael ei sefydlu (fel yn yr astudiaeth achos isod).
Astudiaeth Achos
Y Pwyllgor Argyfwng
Mae'r Pwyllgor Argyfwng yn elusen gofrestredig ac yn fforwm cenedlaethol o brif asiantaethau dyngarol annibynnol y DU. Fe'i sefydlwyd i gefnogi ei haelodau, un deg tri o asiantaethau ar hyn o bryd, yn eu tasg o leddfu dioddefaint dynol difrifol ymysg y rhai lleiaf abl i wrthsefyll effeithiau prif argyfwng dramor trwy:
Ei diben yw darparu fforwm cenedlaethol ar gyfer codi arian ar y cyd a chynorthwyo a hybu cyfnewid gwybodaeth ddibynadwy yn gyflym mewn ymateb i argyfwng dramor. Mae apeliadau'r Pwyllgor Argyfwng yn cael eu rheoli gan Ysgrifenyddiaeth fach sy'n mwynhau cefnogaeth unigryw a hael gan lu o sefydliadau allanol sy'n darparu eu gwasanaethau am ychydig neu ddim tâl yn ystod lansio'r apêl ac wedi hynny. Mae'r gefnogaeth bwerus ac eang hon, a elwir y 'Rhwydwaith Ymateb Cyflym' yn cynnig modd lansio apeliadau yn gyflym ac yn gost-effeithiol. Mae hefyd yn gwarantu ymwybyddiaeth gyhoeddus eang ynghylch graddfa ac anghenion pob argyfwng trwy gyfleu neges gyson a chlir am yr argyfwng, ac mae'n cynnig ffyrdd cyfleus i'r cyhoedd yn y DU gyfrannu.
Nodwedd hanfodol y Pwyllgor Argyfwng yw'r ymrwymiad gan ei aelod-asiantaethu, yn gyntaf i gydweithio i lansio apeliadau cenedlaethol, ac yn ail i fod yn atebol ar y cyd ac yn unigol am wario'r arian a godir.
Gall trefniadau cydweithio ffurfiol amrywio. Mae enghreifftiau yn cynnwys:
Rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau eu bod yn ymarfer eu dyletswydd pwyll yn briodol pan fyddant yn paratoi cytundebau cydweithredol. Dylai cytundebau fod yn ddigon cadarn i warchod buddiannau pob parti ac ystyried y risgiau, ond ni ddylent fod yn rhwystr i arloesi neu gynhyrchu costau gweinyddol afresymol.
Fel arfer bydd cydweithio anffurfiol yn fwy priodol pan fydd y cydweithio yn cynnwys gweithgareddau risg isel megis rhannu gwybodaeth, profiad neu wybodaeth arfer gorau. Fodd bynnag, hyd yn oed ar gyfer cydweithio anffurfiol o'r fath dylai'r trefniadau a'r gweithdrefnau gael eu hegluro'n ysgrifenedig er mwyn osgoi unrhyw ddryswch.
Mae trefniadau ffurfiol yn cynnig modd i ymddiriedolwyr elusen adnabod risgiau a'u rheoli yn well. Gall contractau ffurfiol leihau rhai risgiau, rhai cyfreithiol yn bennaf, ac os cânt eu paratoi'n ofalus gallant ddiogelu elusennau hefyd rhag risgiau i'w hasedau a'u henw da. Yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad eu hymddiriedolwyr a'u staff, mae'n bosibl y bydd angen i ymddiriedolwyr elusen geisio cyngor proffesiynol arbenigol pan fyddant yn paratoi trefniadau cydweithio ffurfiol.
Gall cydweithio fod ar ffurf menter ar y cyd a weithredir trwy gwmni ar wahân, wedi'i sefydlu i wahanu'r elfen gydweithio o weithgareddau parhaus pob elusen.
Os yw cytundeb ffurfiol yn cael ei gynnig, dylai ymddiriedolwyr sicrhau bod eu helusen yn gallu bodloni telerau unrhyw gontract y maent yn ei arwyddo trwy gyfnod bodolaeth y contract.
Neges gyffredinol allweddol yw ei bod hi'n bwysig gosod y rheolau sylfaenol ond peidio â gor-gymhlethu'r trefniadau. Mae hefyd yn bwysig bod cytundeb ar gyfer terfynu'r trefniadau yn cael ei lunio o'r dechrau rhag ofn bod amgylchiadau'n newid ac nid yw'r trefniadau yn ymarferol mwyach.
Mae'r adran hon yn disgrifio beth yw cyfuniad elusen ac mae'n sôn am faterion cyfreithiol ac ymarferol allweddol. Pan fyddant yn ystyried uno, rhaid i ymddiriedolwyr:
Mae uno elusennau yn golygu bod dwy elusen wahanol neu fwy yn dod ynghyd i ffurfio un sefydliad. Mewn achosion o'r fath, bydd naill ai elusen newydd yn cael ei ffurfio i barhau â'r gwaith neu gymryd asedau'r elusennau gwreiddiol, neu bydd un elusen yn dod o dan reolaeth y llall. Rhaid i'r ymddiriedolwyr weithredu yn unol â'r pwerau yn nogfen lywodraethol eu helusen neu'r pwerau a roddir iddynt yn ôl y gyfraith er mwyn sicrhau bod unrhyw gyfuniad yn gyfreithiol gadarn. Os nad yw'r pwerau hyn yn ddigonol, mae'n bosibl y bydd yr ymddiriedolwyr yn dymuno cysylltu â ni i geisio cael pwerau ychwanegol.
Mae'r term cyfuniad yn fwy cysylltiedig â'r sector masnachol pan fydd dau gwmni neu fwy yn uno er mwyn arbed costau, cynyddu elw a gwella gwasanaethau. Yng nghyd-destun elusennau, prif ddiben uno yw ateb anghenion buddiolwyr neu ddefnyddwyr yr holl elusennau yn well, a gwneud y defnydd gorau o'u cronfeydd ac eiddo elusennol.
Bydd union broses uno rhwng elusennau yn dibynnu ar y strwythurau cyfreithiol a'r pwerau sydd wedi'u cynnwys ym mhob un o ddogfennau llywodraethol yr elusennau. Fel arfer bydd uno yn cymryd un o'r ffurfiau canlynol:
Os yw ymddiriedolwyr elusen yn ystyried y posibilrwydd o uno ac yn ystyried dichonoldeb y dewisiadau amrywiol, gallant nodi materion cyfreithiol lle mae gofyn am fewnbwn, cyngor neu arweiniad y Comisiwn. Os oes angen awdurdod cyfreithiol i alluogi'r trefniadau, rydym yn hapus i gynghori'r ymddiriedolwyr ar y dewis mwyaf effeithiol.
Astudiaeth Achos
Volunteering England
Roedd cyrff ymddiriedolwyr y tair elusen broffil uchel hyn wedi gwneud penderfyniad ar y cyd i gyfuno, a lansiwyd yr elusen Volunteering England yn 2004:
Cyn y cyfuno, roedd y tair elusen eisoes wedi gweithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth â'i gilydd ac roedd cyfuniad i'w weld yn ddilyniant synhwyrol a naturiol.
Roedd yr ymddiriedolwyr yn sylweddoli ei bod hi'n gwneud synnwyr i gael un sefydliad cenedlaethol oherwydd roedd swyddogaethau craidd y tair elusen yn gorgyffwrdd. Roedd yr elusennau a oedd yn bod yn creu un cwmni elusennol newydd, Volunteering England, er mwyn sicrhau statws cyfartal i bob un o'r tri phartner ac adlewyrchu'n well y brif egwyddor sylfaenol sef bod y tri sefydliad yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth newydd. Roedd memorandwm ac erthyglau Volunteering England yn darparu ar gyfer ffurfio bwrdd ymddiriedolwyr newydd sbon, rhai wedi'u hethol o aelodaeth y cwmni a rhai wedi'u penodi gan gyrff eraill yn y sector gwirfoddol.
Nodwyd bod y cyfuniad yn cynnig y manteision canlynol:
Mae'r cyfuniad wedi:
Mae'r Bwrdd newydd yn credu bod y cyfuniad wedi gweithio oherwydd cyd-ddealltwriaeth ymysg ymddiriedolwyr y tair cyn elusen mai dyma oedd y peth iawn i'w wneud o ran gwirfoddoli. Roedd rheswm clir dros uno, roedd yr amgylchedd yn iawn ac roedd yn gwneud synnwyr strategol.
Mae angen gwybodaeth am ddibenion, pwerau ac eiddo'r elusennau sy'n rhan o gynnig i gyfuno. Diben hyn yw adnabod unrhyw broblemau posibl neu rwystrau cyfreithiol i gyfuniad cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
Mae'r rhain yn rhai enghreifftiau o'r math o wybodaeth y mae ei hangen:
Ddim bob amser. Nid oes angen ein caniatâd ar gyfer y rhan fwyaf o gyfuniadau elusennau. Ond mae'n rhaid i ni ymwneud â'r broses os nad oes gan elusen ddigon o bwerau ac mae'n dymuno mynd ymlaen â chynnig i gyfuno, neu mae ei dogfen lywodraethol yn gofyn yn benodol am ein caniatâd pan fydd yn diddymu neu'n uno.
Bydd dogfen lywodraethol elusen, yn fwy aml na pheidio, yn cynnwys y pŵer y mae ei angen i alluogi elusen i uno ag elusen arall. Mae enghreifftiau o'r pwerau nodweddiadol y gallai fod gan ymddiriedolwyr yn cynnwys:
Os yw pwerau presennol elusennau (yn gyfansoddiadol ac ymhlyg) yn rhwystr i gyfuno ag elusen arall, gallwn gynnig cyngor ac arweiniad wedi'i deilwra i helpu sicrhau'r ffordd orau ymlaen.
Ddim o reidrwydd, ond rhaid i ddibenion yr elusennau sy'n uno fod yn gydnaws â'i gilydd.
Prif ddyletswydd ymddiriedolwyr elusen sy'n trosglwyddo ei hasedau i elusen arall (elusen sy'n trosglwyddo) yw ystyried anghenion a buddiannau'r rheiny sy'n elwa o'i gwaith. Rhaid i ddibenion yr elusennau sy'n cyfuno fod yn gydnaws â'i gilydd. Rhaid i elusennau sy'n trosglwyddo sicrhau bod gan yr elusen sy'n derbyn ddibenion sy'n addas, gan ystyried telerau'r cymal diddymu neu bŵer arall a ddefnyddir gan yr elusen sy'n trosglwyddo.
Rydym yn hapus i gynghori ar ddibenion elusennol yr elusen sy'n derbyn, ac a ydynt yn ddigonol, os oes unrhyw ansicrwydd.
Na fydd, ond mae'n bwysig adnabod y dosbarthiadau hyn o gronfeydd oherwydd rhaid delio â nhw yn unol â'r rheolau sy'n pennu sut y cânt eu defnyddio ac nid oes modd eu cymysgu â'r asedau cyffredinol y mae'r elusen sy'n derbyn yn berchen arnynt.
Fel arfer bydd angen sicrhau bod yr ymddiriedolaethau arbennig, cronfeydd cyfyngedig a gwaddolion parhaol sy'n cael eu trosglwyddo i'r elusen newydd, yn parhau i fodoli ar wahân a bod cylch cadw amdanynt os yw hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Fodd bynnag, weithiau bydd telerau ymddiriedolaethau arbennig neu gronfeydd cyfyngedig yn cynnig modd i'r cronfeydd gael eu dirwyn i ben a'u trosglwyddo i asedau cyffredinol yr elusen sy'n derbyn. Os nad yw'r telerau yn caniatáu hyn, fel arfer bydd modd i ymddiriedolwyr yr elusen sy'n bodoli benodi ymddiriedolwyr eraill ar gyfer yr ymddiriedolaethau arbennig (ymddiriedolwyr yr elusen sy'n derbyn yn ôl pob tebyg), i gymryd drosodd pan fydd y cyfuniad wedi digwydd. Mae'n bosibl y bydd angen i ymddiriedolwyr geisio cyngor cyfreithiol ar y mater hwn. Rydym yn hapus i gynorthwyo os oes pwerau penodi annigonol.
Astudiaeth Achos
CLIC Sargent
Roedd Cancer Leukaemia in Childhood (CLIC), gydag incwm blynyddol o £6.4 miliwn ac yn gweithredu'n genedlaethol, a Sargent Cancer Care for Children, gydag incwm blynyddol o £7 miliwn a hefyd yn gweithredu'n genedlaethol, yn ddwy elusen oedd yn bodoli i ddarparu cymorth clinigol, seico-gymdeithasol ac emosiynol i blant a phobl ifanc gyda chanser, a'u teuluoedd.
Trwy benderfynu uno, dewison nhw ddirwyn i ben y ddau sefydliad a throsglwyddo eu hasedau i gwmni elusennol newydd ei ffurfio gyda'r un dibenion yn union.
Prif amcanion cyfuno CLIC a Sargent Cancer Care for Children oedd:
Roedd y Comisiwn Elusennau wedi cwrdd â chynrychiolwyr y ddwy elusen a'u cynghorwyr proffesiynol a thrafodwyd y ffordd ymlaen. Nododd y Comisiwn pa gamau o'r broses gyfuno a fyddai'n gofyn am fewnbwn gan y Comisiwn. Roedd y camau hyn yn cynnwys:
Yn ogystal â'r penderfyniad cyffredinol i uno, roedd rhai o brif ystyriaethau yr ymddiriedolwyr yn y broses yn cynnwys:
Cyfunodd CLIC a Sargent Cancer Care for Children yn Ionawr 2005. Mae arwyddion bod y cyfuniad wedi bod yn llwyddiant ac mae'r elusen newydd, CLlC Sargent yn darparu gwasanaeth gwell i fuddiolwyr ac mae'n edrych yn debyg y bydd yn cyrraedd ei incwm amcanol.
Mae CLIC Sargent yn awyddus i rannu eu profiadau uno gydag elusennau eraill sydd efallai'n ystyried ymgymryd â'r broses: mae croeso i chi gysylltu â'r elusen ar 020 8752 2800.
Gall dogfen lywodraethol yr elusen, sef gweithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad neu femorandwm ac erthyglau cymdeithasu fel arfer, gynnwys pwerau y gellid eu defnyddio i uno. Bydd y rhain yn amrywio o elusen i elusen a gall fod llwybrau eraill i uno.
Y pŵer mwyaf cyffredin yw'r un sy'n cynnig modd i ymddiriedolwyr ddiddymu neu ddirwyn yr elusen i ben a throsglwyddo asedau'r elusen i elusen neu elusennau eraill sydd â dibenion tebyg. Bydd pŵer diamwys gan rai elusennau i uno ag elusen arall.
Dyma rai goblygiadau'r wahanol ddogfennau llywodraethol:
Ymddiriedolaeth: Nid oes gan ymddiriedolaeth a reolir gan weithred ymddiriedolaeth aelodau fel arfer a bydd pob penderfyniad yn cael ei wneud gan yr ymddiriedolwyr yn unol â'r gweithdrefnau a bennir yn y weithred. Gall y weithred gynnwys pŵer diamwys i uno, neu bŵer i ddiddymu a throsglwyddo asedau'r elusen i elusen arall, neu'r ddwy weithiau.
Cymdeithas anghorfforedig: Mae aelodau gan y fath hon o elusen sy'n chwarae rôl allweddol yng ngweinyddiad yr elusen. Gallai'r ddogfen lywodraethol, cyfansoddiad fel arfer, gynnwys pŵer diamwys i uno ac fel arfer mae'n cynnwys pŵer i ddiddymu'r elusen a throsglwyddo ei hasedau i elusen arall. Er bod yr ymddiriedolwyr yn gyfrifol am weinyddiad cyffredinol yr elusen, bydd penderfyniadau megis diddymu'r elusen yn gofyn am bleidlais yr aelodau. Mae hyn yn golygu y gall aelodau bleidleisio yn erbyn cynnig i ddiddymu (gweler Ch7).
Cwmni elusennol: Bydd dogfen lywodraethol cwmni elusennol, sef memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, yn cynnwys amryw o bwerau fel arfer a fydd yn ei galluogi i uno ag un elusen neu fwy.
Bydd unrhyw newidiadau i ddibenion yr elusen neu unrhyw beth sy'n cyfeirio neu'n cyfyngu ar sut y mae ei heiddo yn cael ei ddefnyddio yn gofyn am ein caniatâd ni dan adran 64 o Ddeddf Elusennau 1993. Rhaid i gwmnïau elusennol hefyd roi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am newid i'w memorandwm ac erthyglau cymdeithasu neu eu diddymiad.
Mae cyfuniadau rhwng cwmnïau elusennol yn tueddu i fod yn haws i'w gweinyddu oherwydd natur dreuliadwy eu heiddo. Ni all cwmnïau elusennol ddal gwaddol parhaol yn gorfforaethol oherwydd, trwy ei natur, mae gwaddol parhaol yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth i'w fuddsoddi neu i'w gadw, a rhaid ei ddefnyddio i hyrwyddo'r dibenion elusennol y cafodd ei roi ar ei gyfer yn unig. Rhaid i holl asedau cwmni elusennol fod yn asedau y gellir eu defnyddio ar gyfer ei ddibenion cyffredinol ei hun a all fod yn ehangach na'r dibenion y rhoddwyd y cronfeydd ar eu cyfer (mae hyn yn cynnwys talu credydwyr yn achos datodiad). Gall gwaddol parhaol gael ei ddal gan gwmni elusennol mewn ymddiriedolaeth (os yw'n ymddiriedolwr corfforaethol) ond nid fel eiddo corfforaethol.
Yn gyffredinol bydd strwythur aelodaeth gan gymdeithasau anghorfforedig a chwmnïau elusennol a bydd y ddogfen lywodraethol yn pennu rôl yr aelodau hyn yng ngweinyddiad yr elusen.
Os oes aelodau gan elusen, dylai ymddiriedolwyr ystyried rôl a chyfraniad yr aelodau hynny yn y broses gyfuno yn gynnar yn y broses. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw'r cynigion, neu ymarfer unrhyw bŵer i uno, yn gofyn am ganiatâd neu fewnbwn arall yr aelodau hynny. Er enghraifft:
Gall fod modd i elusennau llai fanteisio ar adrannau 74 neu 75 o Ddeddf Elusennau 1993 sy'n gwneud darpariaethau arbennig i rai elusennau bach drosglwyddo eiddo, addasu eu hymddiriedolaethau neu ddefnyddio eu cyfalaf gyda chaniatâd y Comisiwn.
Peidiwch â diystyru cost cyfuniad. Neilltuwch lefelau digonol o gyllid ar gyfer y cyfuniad, ac adolygwch y costau gwirioneddol a'r costau a ragwelir yn gyson.
Gellir cyfrifo rhai costau ymlaen llaw, megis:
Gallai costau annisgwyl gynnwys:
Yn y tymor byr gall fod mwy o gostau na buddiannau ac os yw'r ymddiriedolwyr yn ystyried uno, mae'n rhaid iddynt fod yn hyderus bod y manteision a ragwelir yn y tymor hir yn cyfiawnhau'r costau hynny.
Mae rhai cyrff cyllido yn rhoi grantiau i elusennau archwilio uno (gweler adran Dd Gwybodaeth a chyngor pellach). Er ei fod yn syml yn weinyddol weithiau, gall uno fod yn gymhleth yn aml o ran newid cyfundrefnol a diwylliannol, a all olygu y gallai elusennau sy'n ystyried uno fanteisio ar gyngor annibynnol arbenigol. Fel unrhyw gontract o bwys, dylai ymddiriedolwyr ystyried gyflwyno tendr am y gwasanaethau proffesiynol hyn i'w helpu i uno.
Oes. Mae costau cyfuniad yn ddefnydd priodol o gronfeydd elusen.
Mae ymddiriedolwyr elusen yn gyfreithiol gyfrifol am wneud unrhyw benderfyniad i asesu cynnig i uno. Mae'r gwaith hwn yn cael ei ddirprwyo i staff uwch o fewn yr elusen yn aml. Fodd bynnag, mae angen i'r ymddiriedolwyr eu hunain ystyried yn llawn yr holl faterion perthnasol cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
Mae'r prif faterion i roi sylw iddynt wrth ystyried cynnig i uno yn cynnwys:
Mae cyfuniadau yn brosiectau mawr. Er na ddylid diystyru agweddau diwylliannol ar uno, bydd proses rheoli prosiect strwythuredig yn helpu sicrhau eglurdeb ynghylch cynllunio, amserlenni a chostau trwy'r broses uno.
Fel rheol mae'r camau canlynol yn rhan o'r broses gynllunio ar gyfer cyfuniad:
Nid yw hon yn rhestr gyflawn a bydd yn amrywio yn ôl maint a natur yr elusennau sy'n uno.
Bydd y rôl y bydd prif weithredwr yn ei chwarae mewn cyfuniad yn amrywio. Mewn sawl achos, mae cyfraniad y prif weithredwr yn hanfodol i'r broses (ac mae'n bosibl ei fod wedi adnabod neu gychwyn y cynnig i uno). Yn yr achosion hyn, mae'n debygol o chwarae rôl allweddol yn y broses. Serch hynny, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusen barhau i reoli'r broses gyfan. Dylai prif weithredwr ac unigolion eraill (gan gynnwys ymgynghorwyr) neu bwyllgorau, y mae tasgau neu gyfrifoldebau arbennig wedi cael eu dirprwyo iddynt, adrodd yn ôl i'r ymddiriedolwyr yn gyson.
Weithiau, gall ymddiriedolwyr elusen ystyried cyfuniad os na fydd unrhyw rôl i'r prif weithredwr yn y dyfodol. Yn yr achosion hyn, bydd angen i'r ymddiriedolwyr yrru'r cyfuniad yn ei flaen yn rhagweithiol a hefyd bod yn arbennig o ymwybodol o reoli cyfathrebu gyda'r prif weithredwr, staff a rhanddeiliaid allweddol eraill.
O bosib. Dylai pob elusen sy'n rhan o'r broses gyfuno fod wedi adnabod fel rhan o broses diwydrwydd dyladwy (gweler adran D) a fydd angen ymgynghori ag unrhyw gorff cyhoeddus arall neu ei gynnwys fel rhan o'r broses gyfuno.
Mae'r asiantaethau canlynol yn enghreifftiau o'r rheiny y bydd efallai angen eu hystyried:
Nid yw hon yn rhestr gyflawn, a bydd yn amrywio yn ôl dibenion a gweithgareddau'r elusen.
Gallwch weld y Gofrestr Cyfuniadau ar wefan y Comisiwn ac mae'n dangos yr elusen sydd wedi derbyn eiddo elusen neu elusennau sydd wedi peidio â bodoli. Fodd bynnag, gall gynnwys manylion am y cyfuniadau y cawsom wybod amdanynt gan yr elusen sy'n derbyn yn unig.
Cyflwynwyd adrannau newydd 75C, D, E ac F Deddf Elusennau 1993 gan Ddeddf Elusennau 2006 ac mae'n darparu ar gyfer sefydlu Cofrestr Cyfuniadau. Fe welwch fanylion llawn ynghylch sut mae'r Gofrestr yn gweithredu yn ein canllaw gweithredol Cofrestr Cyfuniadau Elusennau (OG60) ar ein gwefan.
Mae'r darpariaethau yn bwriadu mynd i'r afael â dau fater:
Diffinnir cyfuniadau perthnasol (y rhai sy'n gymwys i'w cynnwys ar y Gofrestr) yn adran 75C(4). Yn fras, mae cyfuniad perthnasol yn cwmpasu:
Mae'n ofynnol i ni gofrestru'r cyfuniadau hynny y cawn wybod amdanynt yn unig gan ymddiriedolwyr yr elusen sy'n drosglwyddai pan fydd yr holl eiddo sydd i'w drosglwyddo wedi'i gwblhau ac mae'r trosglwyddwr wedi peidio â bodoli. Mae'n bosibl bod y cyfuniad y cawn wybod amdano wedi cymryd lle cyn y daeth adrannau 75C, D, E ac F i rym. Fodd bynnag, rhaid i'r elusen sy'n drosglwyddai roi gwybod i ni am unrhyw gyfuniad os yw datganiad breinio wedi cael ei ddefnyddio i drosglwyddo'r teitl i eiddo'r trosglwyddwr i'r trosglwyddai.
Gall ymddiriedolwyr elusen sy'n drosglwyddai ddefnyddio'r ffurflen CSD-1162 (ar gael ar ein gwefan) i roi gwybod i ni am gyfuniad perthnasol.
Mae diwydrwydd dyladwy yn gymal sy'n hanu o'r sector corfforaethol. Fe'i defnyddir i ddisgrifio'r camau y mae sefydliadau yn eu cymryd i sicrhau eu hunain fod cyfuniad er eu lles gorau nhw. Yng nghyd-destun elusennau, mae 'diwydrwydd dyladwy' yn disgrifio ymchwilio i elusen neu elusennau eraill cyn cwblhau cyfuniad. Canlyniad ymarfer diwydrwydd dyladwy yw bod gan elusen wybodaeth lawn am y sefydliad y mae'n ceisio cyfuno ag ef (hy, nid oes unrhyw beth annisgwyl).
Os oes cydweithio sy'n golygu risgiau ariannol neu enw da sylweddol gellir dilyn yr un broses, er efallai na fydd wedi'i disgrifio felly.
Mae costau comisiynu gwaith diwydrwydd dyladwy yn ddefnydd priodol o gronfeydd elusennol, ond dylid eu rhagweld ar y cychwyn a'u hadolygu'n gyson er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gyfateb â'r risgiau dan sylw.
Mae gan gydweithio a chyfuniadau y potensial i adael elusennau yn agored i amryw o risgiau, gan gynnwys rhwymedigaethau ychwanegol. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr bob elusen gydymffurfio â'u dyletswydd gyfreithiol i weithredu'n bwyllog. Wrth gynllunio cyfuniad arfaethedig neu drefniadau cydweithio dan gontract, dylent sicrhau eu bod nhw wedi adnabod unrhyw risgiau posibl i'w helusen cyn arwyddo unrhyw gytundeb.
Dylai natur y gwiriadau a ddefnyddir gyfateb â:
Er enghraifft, gall fod angen ymarfer mwy trylwyr os oes gan elusennau un neu fwy o'r canlynol:
Yn dibynnu ar eu hasesiad cychwynnol, gall fod angen cyngor proffesiynol ar ymddiriedolwyr i sicrhau bod lefel briodol o ddiwydrwydd dyladwy.
Mae prif elfennau diwydrwydd dyladwy yn tueddu i gynnwys materion masnachol, ariannol a chyfreithiol. Bydd angen ymdrin â materion eraill yn aml megis strategaeth codi arian, gwerthuso ffynonellau incwm yn y dyfodol, eiddo, pensiynau a darparu a chynnal a chadw systemau technoleg gwybodaeth.
Awgrymir yma rhai o'r mathau o faterion y gellid eu hystyried fel rhan o ymarfer diwydrwydd dyladwy i elusen neu sefydliad arall:
Diwydrwydd dyladwy masnachol:
Diwydrwydd dyladwy ariannol:
Materion cyfreithiol:
Nid oes unrhyw ffordd ragosodedig neu ragnodedig ar gyfer ymgymryd ag ymarferion diwydrwydd dyladwy.
Er y dylai cyrff ymddiriedolwyr bob elusen sy'n ystyried cyfuno gynnal ymarfer diwydrwydd dyladwy, gellir ei gynnal gyda neu heb gyngor proffesiynol allanol. Os oes profiad digonol gan ymddiriedolwyr, gall yr ymarfer diwydrwydd dyladwy gael ei gynnal ganddyn nhw. Mantais cyngor allanol yw y gall gweithwyr proffesiynol sydd ag arbenigedd weithredu'n annibynnol ac yn wrthrychol. Gellid eu defnyddio hefyd i ofyn cwestiynau lletchwith a gofyn am dystiolaeth ddogfennol i ategu'r atebion.
Mae diwydrwydd dyladwy yn rhoi gwybodaeth fanwl i'r ymddiriedolwyr a all helpu meithrin ffydd yn ystod y trafodaethau uno, ac yn y dyfodol ar ôl i'r cyfuniad gael ei gwblhau. Bydd yr ymarfer hefyd yn adnabod unrhyw broblemau cyn i'r cyfuniad fynd rhagddo yn ffurfiol. Mae hyn yn gwella gallu ymddiriedolwyr i ymdrin yn briodol â'r problemau hynny yn gynnar yn y broses, ac yn gwella'r posibilrwydd o gyfuniad llwyddiannus.
Mae'r Comisiwn Elusennau yn cynhyrchu ystod eang o gyhoeddiadau a chanllawiau ar y wefan sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i ymddiriedolwyr elusen a'r cyhoedd ar nifer o faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith elusennau a rheoleiddio. Fe welwch restr cyhoeddiadau CC1 lawn ar ein gwefan. Mae'r rhestr isod yn ddetholiad yn seiliedig ar rai o'r materion a nodwyd yn y canllaw hwn.
I gael copïau o'r rhain neu unrhyw un o'n cyhoeddiadau gallwch naill ai:
Rydym hefyd wedi rhestru detholiad o sefydliadau a chyhoeddiadau eraill y gellir eu defnyddio fel ffynonellau gwybodaeth.
Cydweithio a Chyfuniadau (Adroddiad Ymchwil RS4)
Cerrig Milltir: rheoli digwyddiadau allweddol ym mywyd elusen (Adroddiad Ymchwil RS6)
Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod (CC3)
Rheolaethau Ariannol Mewnol i Elusennau (CC8)
Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: yr hanfodion Ebrill 2008 (CC15a)
Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: yr hanfodion Ebrill 2009 (CC15b)
Defnyddio Neuaddau Eglwysi ar gyfer Neuadd Bentref a Dibenion Elusennol Eraill (CC18)
Elusennau a Chodi Arian (CC20)
Elusennau a Darparu Gwasanaeth Cyhoeddus - Cyflwyniad a Throsolwg (CC37)
The Care Quality Commission (CQC)
Care Quality Commission yw rheolydd annibynnol gofal iechyd a chymdeithasol yn Lloegr. Ei nod yw sicrhau bod gofal gwell yn cael ei ddarparu i bawb, boed yn yr ysbyty, mewn cartrefi gofal, yng nghartrefi pobl eu hunain, neu mewn man arall.
Mae'n rheoleiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol oedolion sydd wedi'u darparu gan y GIG, awdurdodau lleol, cwmnïau preifat neu sefydliadau gwirfoddol. Mae'n diogelu hawliau pobl sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl hefyd.
Care Quality Commission National Correspondence
Citygate
Gallowgate
Newcastle upon Tyne
NE1 4PA
Llinell gymorth: 03000 616161
E-bost: enquiries@cqc.org.uk
Gwefan: www.cqc.org.uk/
Cofrestrfa Tir
Mae'r Gofrestr Tir yn darparu mynediad at fanylion mwy nag 20 miliwn o eiddo cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae'r gofrestr teitl yn cynnwys manylion perchnogaeth ac, i'r rhan fwyaf o eiddo sydd wedi newid dwylo ers Ebrill 2000, gwybodaeth prisiau eiddo.
Gwefan: www.landregisteronline.gov.uk
Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO) -
Yr Uned Gydweithio
Mae NCVO yn cynhyrchu ystod eang o wybodaeth a gwasanaethau cynnal i'r rheiny sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol. Mae'r Uned Gydweithio yn darparu gwybodaeth arfer da a chyngor ar bob agwedd ar gydweithio i gymdeithasau gwirfoddol a chymunedol.
Regents Wharf
8 All Saints Street
Llundain
N1 9RL
E-bost: helpdesk@askncvo.org.uk
Ffôn: 020 7713 6161
Gwefan: www.ncvo-vol.org.uk/
Rheolydd Cwmnïau Buddiannau Cymunedol (CIC)
Roedd Deddf Cwmnïau (Archwilio, Ymchwiliadau a Menter Gymunedol) 2004 wedi sefydlu'r Rheolydd CIC. Y nod yw bod yn rheolydd 'llai manwl' a fydd yn annog datblygu brand Cwmni Buddiannau Cymunedol a darparu arweiniad a chymorth ar faterion sy'n ymwneud â Chwmnïau Buddiannau Cymunedol.
Rheolydd CIC
Tîm CIC
Ystafell 3.68
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Maindy
Caerdydd CF14 3UZ
Ffôn: 029 20346228
E-bost: cicregulator@companieshouse.gov.uk
Gwefan: www.cicregulator.gov.uk
Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB)
Sefydlwyd y CRB i ddarparu mynediad at wybodaeth cofnodion troseddol. Mae'r CRB yn helpu gweithwyr yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i adnabod ymgeiswyr a all fod yn anaddas ar gyfer gwaith arbennig, yn enwedig gwaith sy'n golygu cael cysylltiad â phlant neu aelodau eraill o gymdeithas sy'n agored i niwed.
Gwasanaethau Cwsmeriaid
CRB
Blwch SP 110
Lerpwl
L69 3EF
Llinell wybodaeth: 0870 90 90 811
Gwefan: www.crb.gov.uk
Swyddfa Masnachu Teg (OFT)
Adran o'r Llywodraeth sy'n cynghori ar wybodaeth sy'n ymwneud â busnesau a marchnadoedd (gan gynnwys cyfuniadau).
Fleetbank House
2-6 Salisbury Square
Llundain
EC4Y 8JX
Ffôn: 0845 4040 506
E-bost: enquiries@oft.gov.uk
Gwefan: www.oft.gov.uk
Tollau Tramor a Chartref EM (HMRC)
HMRC yw'r adran newydd sy'n gyfrifol am fusnes cyn Gyllid y Wlad a Thollau Tramor a Chartref EM. Bydd y wefan yn eich cyfeirio at y man cyswllt cywir ar gyfer eich ymholiad.
Gwefan: www.hmrc.gov.uk
Tŷ'r Cwmnïau
Prif swyddogaethau Tŷ'r Cwmnïau yw:
Ffordd y Goron
Maindy
Caerdydd
CF14 3UZ
Canolfan Gyswllt: 0870 33 33 636
E-bost: enquiries@companies-house.gov.uk
Gwefan: www.companieshouse.gov.uk
Cyhoeddiadau eraill
'Financial Due Diligence'
Gan Arthur Davey BA FCA ac wedi'i gyhoeddi gan CCH. Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnig ymagwedd ymarferol sy'n canolbwyntio ar faterion allweddol uno a chaffael. Mae'n addas i'r ymarferydd newydd a'r ymarferydd mwy profiadol.
Gwefan: www.cch.co.uk
Llinell gymorth cwsmeriaid: 0870 777 2906
'Legal Issues in Charity Mergers'
Adroddiad a gyhoeddwyd yn Ionawr 2001 ar brosiect ymchwil flwyddyn i adnabod y materion cyfreithiol sy'n codi mewn cyfuniadau elusennau a'r gwahanol ymatebion iddynt. Mae hefyd yn ystyried yr atebion mwyaf priodol i broblemau cyffredin.
Uned y Gyfraith Elusennau, Prifysgol Lerpwl.
Gwefan: www.liv.ac.uk
'Mergers: A Legal Good Practice Guide'
Fe'i cyhoeddwyd yn Ionawr 2001 i gyd-fynd â'r Adroddiad uchod, ac mae'n ceisio helpu elusennau i ragweld a delio â phroblemau sy'n gallu codi pan fydd cyfuniad yn digwydd.
Uned y Gyfraith Elusennau, Prifysgol Lerpwl.
Gwefan: www.liv.ac.uk
'Key Findings on Voluntary Sector Mergers'
Gan Ben Cairns, Margaret Harris a Romayne Hutchison. Mae'r Canfyddiadau Allweddol yn seiliedig ar waith ymchwil i sefydliadau gwirfoddol sy'n ystyried neu'n gweithredu cyfuniad (gan gynnwys Ymddiriedolaeth Terrence Higgins a Homeless Link). Mae'r Canfyddiadau Allweddol hyn yn disgrifio ac yn trafod nifer o faterion sy'n ymwneud â chyfuniad rhwng dau gorff gwirfoddol neu fwy.
Prifysgol Aston
Gwefan: www.abs.aston.ac.uk
Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at ddrafftio'r canllawiau ac i Volunteering England, CLIC Sargent, y Pwyllgor Argyfwng, The Community Alliance, Cymdeithas Tai Portsmouth, Cyngor Cymunedol Dyfnaint a Neuadd Bentref Kenn am ganiatâd i ddefnyddio eu profiadau fel astudiaethau achos.
(Tachwedd 09)