(Version Ionawr 2002)
Cynnwys
Am beth mae'r cyhoeddiad hwn?
1. Mae'r cyhoeddiad hwn yn amlinellu canllawiau'r Twrnai
Gwladol ar gyfer apêl adeg trychineb. Fe'u hargraffwyd yn gyntaf
yn Atodiad A Adroddiad Blynyddol y Comisiynwyr Elusennau ym 1981 ac
fe'u diweddarwyd yn unol â deddfwriaeth gyfredol.
2. Cynhyrchwyd canllaw ategol ar y driniaeth o gronfeydd
apêl o safbwynt treth gan Gyllid y Wlad a Thllau Tramor a Chartref
EM ar y cyd. Mae hwn ar gael o Ddesg Gymorth Cronfeydd Apêl Cyllid
y Wlad (ffôn 0151 472 6061) neu ar ei wefan ar www.inlandrevenue.gov.uk/afg/index.htm.
Cyflwyniad
3. Yn gyffredinol bydd apêl gyhoeddus, yn dilyn
rhyw drychineb neu ddamwain trychinebus, neu ar adeg rhyw anffawd arbennig
yn cael ei dwyn at sylw'r cyhoedd, yn cael ei sefydlu heb lawer o amser
i baratoi'r tir. Mae'n bosib y bydd y gymuned yn teimlo angen brys i
fynegi ei galar a'i pharch mewn modd ymarferol, a gall yr ymateb fod
yn llawer mwy na'r hyn a ddisgwylir.
4. Yn yr amgylchiadau hyn nid yw'n annaturiol i gwestiynau
godi ynglŷn ag union statws apeliadau ar ôl iddynt gael eu
sefydlu; ac mae digwyddia dau yn dilyn trychinebau yn y gorffennol wedi
dangos faint o anhapusrwydd y gall y cwestiynau hyn ei achosi.
5. Mae'r Twrnai Gwladol yn awyddus i osgoi amheuon
ynglŷn â natur apeliadau os oes modd, a dylai'r rhai sy'n
ateb apêl wybod y bydd eu haelioni yn cael y canlyniadau a ddymunir.
6. Felly mae'r Twrnai Gwladol, ar ôl ymgynghori,
wedi paratoi'r canllawiau canlynol a all fod yn ddefnyddiol i'r rhai
sy'n wynebu'r cyfrifoldeb o wneud apêl yn y dyfodol.
Y Canllawiau
Gwneud apêl
7. Mae'n rhaid i'r rhai sy'n defnyddio'r canllawiau
hyn gofio na all unrhyw ddwy apêl fod yr union yr un fath, a dylent
wneud popeth a allant i sicrhau bod eu hapêl eu hunain yn briodol
i amgylchiadau arbennig eu hachos nhw, ac nid yw'n cael unrhyw anawsterau
annisgwyl, naill ai personol, gweinyddol neu ariannol.
8. Ymhlith y penderfyniadau mwyaf pwysig y mae'n rhaid
eu gwneud fel mater o frys yw penderfynu a oes galw am apêl elusennol,
a gall fod yn ddoeth i geisio cyngor ar gwestiynau o'r fath cyn cyhoeddi'r
apêl. Yn gyffredinol, bydd telerau'r apêl yn hollbwysig
wrth benderfynu ar statws a defnydd terfynol y gronfa.
9. Ar ôl cytuno ar y telerau, bydd yn ddymunol
fel arfer i gyhoeddi'r apêl cyn gynted ag y bo modd ac mor eang
ag y bo'n briodol yn yr amgylchiadau.
10. Weithiau gall rhoddion gael eu hanfon cyn cyhoeddi'r
apêl. Os oes mwy nag y gellir eu cydnabod yn unigol, dylai'r apêl
gyhoeddedig nodi y bydd rhoddion a dderbyniwyd eisoes yn cael eu hychwanegu
at gronfa'r apêl oni bai fod y rhoddwr yn hysbysu'r trefnwyr (cyn
pen deng niwrnod dyweder) nad dyma yw eu dymuniad.
Manylion ynglyn â'r mathau o apêl
11. Ceir gostyngiad treth hael ar gyfer cronfeydd
elusennol; mae hyn yn gymwys hefyd i roddion i'r cronfeydd hyn,
yn enwedig trwy gynllun Cymorth Rhodd, ac mae manylion am hyn ar gael
o'ch swyddfa dreth leol. Bydd rhoddion i raddau helaeth yn rhydd rhag
treth etifeddiaeth hefyd.
12. Ond gan fod cronfeydd elusennol yn gyhoeddus o
ran natur yn eu hanfod, ni ellir eu defnyddio i roi buddiannau i unigolion
sy'n mynd ymhellach na'r rhai sy'n briodol i'w hanghenion; a bydd gweithrediad
yr ymddiriedolaeth elusennol yn destun archwiliad y Comisiynwyr Elusennau.
13. Nid yw cronfeydd an-elusennol yn denu unrhyw
ostyngiadau treth; nid yw rhoddion iddynt yn gymwys ar gyfer unrhyw
driniaeth arbennig o safbwynt treth (a bydd rhaid rhoi ystyriaeth iddynt
at ddibenion treth etifeddiaeth oni bai, fel sy'n debygol yn achos y
rhan fwyaf o roddion, eu bod o fewn y gostyngiadau treth arferol).
14. Ond dan ymddiriedolaeth an-elusennol ni cheir unrhyw
derfyn ar y swm y gellir ei dalu i fuddiolwyr unigol os na osodwyd unrhyw
rai gan yr apêl; a dim ond y Llys sy'n gweithredu ar ran y buddiolwyr
fydd â rheolaeth dros yr ymddiriedolaeth, ac ni fydd yn destun
archwiliad gan y Comisiynwyr Elusennau.
15. Mae'n rhaid i delerau'r apêl an-elusennol
gael eu paratoi gan gymryd gofal arbennig i sicrhau nad oes amheuaeth
pwy fydd yn cael budd, a yw eu budd yn destun barn yr ymddiriedolwyr
neu beidio, ac a yw'r budd cyfan yn mynd i'r buddiolwyr, ac os nad ydyw,
er enghraifft oherwydd bod dibenion penodol wedi'u gosod a gall y cronfeydd
fod yn fwy na'r hyn sy'n ofynnol ar gyfer y dibenion hynny, neu oherwydd
bod y buddiolwyr i gymryd yr hyn sy'n briodol ym marn yr ymddiriedolwyr
yn unig, beth sy'n digwydd i unrhyw arian dros ben.
16. Os yw dibenion arbennig wedi'u gosod a cheir arian
dros ben ar ôl i'r rhain gael eu hateb, ac ni nodwyd unrhyw ddefnydd
ar gyfer yr arian hwn, bydd yr arian dros ben yn eiddo'r rhoddwyr, a
all arwain at broblemau gweinyddol drud a chostus.
Ffurfiau apêl
17. Os bwriedir creu cronfa elusennol yna gallai'r
apêl fod ar y ffurf ganlynol:
"Bwriad yr apêl hon yw sefydlu cronfa elusennol
i leddfu'r gofid a achoswyd gan y ddamwain/trychineb yn
...................................................................
ar
...................................................................
Y diben yw defnyddio'r arian i gynorthwyo'r rhai
a all fod angen cymorth (naill ai yn awr neu yn y dyfodol) o ganlyniad
i'r drychineb hon yn unol â chyfraith elusennau. Bydd unrhyw
arian sydd dros ben ar ôl diwallu eu hanghenion yn cael ei
ddefnyddio ar gyfer dibenion elusennol mewn un neu fwy o'r ffyrdd
canlynol:
- Cynorthwyo'r rhai sy'n dioddef mewn trychinebau tebyg.
- Rhoi budd i elusennau sydd â dibenion cysylltiedig.
(iii) Cynorthwyo'r ardal leol y mae'r ddamwain/trychineb
yn effeithio arni".
18. Os bwriedir sefydlu cronfa an-elusennol
a bydd y rhai yr effeithir arnynt yn cymryd yr holl gronfa mewn cyfrannau
sy'n briodol ym marn yr ymddiriedolwyr, gallai'r apêl fod ar y
ffurf ganlynol:
"Bwriad yr apêl hon yw sefydlu cronfa. Bydd
y budd cyfan o'r gronfa yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y rhai a
anafwyd neu a gollodd perthynas yn y ddamwain/trychineb yn
...................................................................
...................................................................
ar
...................................................................
a'u teuluoedd a'u dibynyddion yn ôl doethineb
yr ymddiriedolwyr. Ni fydd y gronfa hon yn elusen".
19. Gallai cronfa an-elusennol, lle y byddai gan ymddiriedolwyr
y dewis i roi yr hyn sy'n briodol yn eu barn nhw i'r rhai sydd wedi
dioddef gydag unrhyw arian dros ben yn mynd i'r elusen, gael ei sefydlu
ar sail y ffurf ganlynol:
"Bwriad yr apêl hon yw sefydlu cronfa ar
gyfer y rhai a anafwyd neu a gollodd perthynas yn y ddamwain/trychineb
yn
...................................................................
ar
...................................................................
a'u teuluoedd a'u dibynyddion. Bydd yr ymddiriedolwyr
yn penderfynu sut i roi budd i unigolion ac i ba raddau y rhoddir
budd i unigolion: ni fydd y gronfa ei hun yn elusen ond bydd unrhyw
arian dros ben yn cael ei gymhwyso ar gyfer dibenion elusennol sydd
yn fwyaf priodol ym marn yr ymddiriedolwyr i goffáu y rhai
a fu farw".
Apeliadau ar gyfer unigolion
20. Weithiau bydd y cyhoeddusrwydd a roddir i unigolyn
sy'n dioddef yn ysgogi pobl i gyfrannu. Mewn achos o'r fath mae'n arbennig
o ddymunol i'r rhai sy'n gwneud apeliadau nodi a yw'r apêl ar
gyfer cronfa elusennol neu beidio.
21. Mae hefyd yn ddymunol i'r rhai sy'n cyfrannu ddweud
os yw eu rhodd ar gyfer budd yr unigolyn, neu ar gyfer dibenion elusennol
gan gynnwys cynorthwyo'r unigolyn cyn belled ag y bo hynny'n elusennol;
os na nodir bwriad o'r fath yna dylid cydnabod y rhodd gan awgrymu sut
y bydd yn cael ei defnyddio os nad yw'r rhoddwr yn anghytuno â
hyn.
22. Dylai'r rhai sy'n gwneud apêl gadw mewn cof
y posibilrwydd y gall ymateb hael gynhyrchu mwy nag sy'n briodol ar
gyfer anghenion yr unigolyn, a dylent ofyn i'w hunain beth y dylid ei
wneud gydag unrhyw arian dros ben.
23. Felly, os yw plentyn yn dioddef o glefyd y dewisiadau
yw:
- gwneud apêl er budd y plentyn; neu
- wneud apêl ar gyfer dibenion elusennol sy'n gysylltiedig â
chlefyd y plentyn, megis ei gynorthwyo ef ac eraill yn yr un sefyllfa,
er enghraifft trwy gynorthwyo wrth ddod o hyd i driniaeth.
24. Efallai na fydd y plentyn yn byw yn hir, ac felly
efallai na fydd yn gallu mwynhau'r cyfraniadau hael fel unigolyn; fel
arall, efallai y bwriedir iddo dderbyn cymaint â phosib oherwydd
ei fod yn wynebu bywyd o ddioddefaint.
25. Dylid ystyried manylion sefydlu cronfa elusennol
neu gronfa an-elusennol cyn gwneud yr apêl a dylai'r apêl
nodi pa ddewis arall a fwriedir; unwaith eto, hyd yn oed os ydych yn
gwneud apêl an-elusennol, efallai eich bod yn teimlo ei fod yn
iawn i'w gwneud ar y telerau y gall unrhyw arian dros ben gael ei ddefnyddio
ar gyfer elusen.
Yn gyffredinol
26. Mae'r telerau a awgrymir yn y memorandwm hwn yn
enghreifftiau yn unig o'r ffurfiau y gellid eu defnyddio; a chyn gwneud
apêl mae'n well ceisio cyngor ar ba ffurf i'w defnyddio bob amser.
27. Byddwn yn barod bob amser fel mater o frys i roi
cyngor ar delerau unrhyw apêl elusennol, neu ystyried a yw apêl
arfaethedig yn debygol o fod yn elusennol, ac os felly rhoi cyngor ar
y canlyniadau tebygol.
28. I gloi, hoffai'r Twrnai Gwladol bwysleisio y dylai'r
rhai sy'n trefnu apeliadau wneud popeth y gallant i sicrhau bod diben
yr apêl yn glir a bod rhoddwyr yn gwybod sut y caiff eu rhoddion
eu defnyddio.
29. Bydd hyn yn gwneud llawer i leihau'r perygl o ddryswch
a gofid. Nid yw'n ddymunol gwneud apêl cyffredinol gan ohirio,
hyd nes y gwyddys maint y gronfa, benderfyniadau megis a ddylai'r gronfa
fod yn elusennol ac a ddylai'r rhai yr effeithir arnynt gael y budd
cyflawn; gall hyn roi'r argraff i'r rhoddwyr a'r buddiolwyr nad y canlyniad
terfynol yw'r hyn a fwriadwyd, yn ogystal â chreu problemau cyfreithiol.
Gwybodaeth ychwanegol
30. Mae ein canllaw Cofrestru fel
Elusen (CC21) ar gael i gynorthwyo hyrwyddwyr adeg apêl trychineb
benderfynu a ydynt yn dymuno i'r apêl honno fod yn elusen neu
beidio; bydd hefyd yn eu tywys trwy'r broses gofrestru os mai dyma'r
llwybr a ddewisir.
31. Dylai darpar ymddiriedolwyr y gronfa apêl
fod yn ymwybodol o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, yn enwedig os yw'r
gronfa yn mynd i fod yn elusen - fe'u cynghorir yn gryf i ddarllen ein
canllaw Cyfrifoldebau Ymddiriedolwyr Elusennau (CC3).
32. Rhoddir rhestr lawn o'n cyhoeddiadau yn Cyhoeddiadau'r
Comisiwn Elusennau (CC1).
33. I gael copïau o unrhyw un o'n cyhoeddiadau
gallwch naill ai:
- edrych arnynt a'u hargraffu o'n gwefan:
- eu harchebu yn ystod oriau swyddfa trwy ffonio ni ar 0870 333
0123;
- eu harchebu y tu allan i oriau swyddfa trwy ffonio ein llinell archebu
lleisbost ar 01823 345427; neu
- ysgrifennu at y Swyddog Dosbarthu yn Blwch SP 392, Newton Aycliffe,
DL5 6YG.