Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Mae tryloywder ac atebolrwydd yn elfennau pwysig o gynnal ffydd gyhoeddus mewn elusen. Bydd y cyhoeddiadau a restrir yma yn helpu ymddiriedolwyr i adnabod pa lefel o fanylion sy'n briodol ar gyfer adroddiad blynyddol a chyfrifon eu helusen, a sicrhau eu bod yn rhoi digon o wybodaeth i roddwyr, noddwyr, cefnogwyr a'r cyhoedd er mwyn iddynt deimlo'n hyderus bod yr elusen yn cael ei gweinyddu'n dda.
Mae'r canllaw hwn yn ymwneud â chyfrifon ac adroddiadau elusennau sy'n cyfeirio at y blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009.
HTMLMae'r canllaw hwn yn ymwneud â chyfrifon ac adroddiadau elusennau sy'n cyfeirio at y blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008. Am ganllaw sy'n cyfeirio at gyfnodau ariannol cynharach, cyfeiriwch at ein canllaw ar wahân.
Mae'r canllaw hwn yn ymwneud â chyfrifon ac adroddiadau sy'n cyfeirio at y blynyddoedd ariannol yn dechrau rhwng 27 Chwefror 2007 a 31 Mawrth 2008. Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, cyfeiriwch at ein canllaw ar wahân.
Mae'r pecyn hwn wedi'i anelu at elusennau heb fod yn gwmnïau sydd ag incwm blynyddol gros o lai na £100,000, ac sy'n dewis paratoi eu cyfrifon ar y sail symlach, sef derbyniadau a thaliadau.
Mae'r pecyn hwn yn helpu elusennau heb fod yn gwmnïau sydd ag incwm blynyddol gros a chyfanswm gwariant sy'n is na'r trothwy archwiliad (£250,000 ar hyn o bryd) i baratoi eu hadroddiad blynyddol a chyfrifon. Mae'r pecyn hwn yn ceisio bodloni'r prif argymhellion yn SORP 2005.
Ar gyfer blynyddoedd cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008 gall y cwmnïau elusennol bach hynny nad yw'n ofynnol iddynt gael archwiliad ddewis cael archwiliad annibynnol. Mae dyletswydd newydd ar archwilwyr annibynnol hefyd i adrodd ar faterion sydd o arwyddocâd perthnasol i'r Comisiwn o 1 Ebrill. Mae'r canllaw diwygiedig hwn, y disgwylir ei gyhoeddi yn gynnar ym mis Mai, yn esbonio i'r ymddiriedolwyr beth yw archwiliad annibynnol a sut i fynd ati i ddewis archwiliwr. I archwilwyr, mae'r canllaw yn disgrifio'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud a sut i fynd ati i lunio eich adroddiad archwiliwr gyda digon o enghreifftiau parod a chyngor arbenigol. Hefyd, bydd y canllaw yn esbonio'r ddyletswydd newydd i adrodd i'r Comisiwn gydag enghreifftiau parod.
Mae dyletswydd newydd ar archwilwyr annibynnol i adrodd am faterion sydd o arwyddocâd perthnasol i'r Comisiwn o 1 Ebrill 2008. Mae'r canllaw diwygiedig hwn i archwilwyr yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud a sut i baratoi eich adroddiad archwiliwr gyda digon o enghreifftiau parod a chyngor ymarferol. Bydd y canllaw hefyd yn esbonio'r ddyletswydd newydd i adrodd i'r Comisiwn gydag enghreifftiau parod.
Mae'r argymhellion yn y SORP hwn yn gymwys i gyfrifon elusennau yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005.