Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Mae gan elusennau draddodiad hir o hybu hawliau eu buddiolwyr. Mae llu o enghreifftiau: gall un elusen sy'n gweithio i gynorthwyo pobl anabl lobïo am newid yn y gyfraith a fyddai'n cynnig budd i'w grŵp cleientiaid. Bydd elusen arall sy'n rhoi cymorth i'r tlodion dramor yn ymgyrchu ar gyfer mabwysiadu hawliau dynol mewn gwlad arbennig lle y byddai hynny'n helpu i leddfu tlodi yno.
Mae'r adroddiad hwn yn ystyried yr elusennau hynny sydd wedi cofrestru gyda ffocws penodol ar faterion hawliau dynol. Wrth ei baratoi fe ymwelwyd â saith o'r elusennau hyn i ddysgu o'u profiad o weithio yn y maes hwn o ddydd i ddydd. Fe welwyd rhai themâu cyffredin diddorol: er enghraifft, y gwerth mawr y mae elusennau hawliau dynol yn ei roi ar eu hannibyniaeth, pwysigrwydd a sialensiau cyfleu eu neges i wahanol gynulleidfaoedd a'r materion a wynebant wrth fesur eu heffaith. Dywedodd rhai o'r elusennau hyn yr hoffent ddeall yn well i ba raddau y gall elusennau ymwneud ag ymgyrchu, ac mae'r Comisiwn wrthi'n ailysgrifennu ei ganllawiau i egluro hyn.
Fe welwyd llawer o dystiolaeth o arfer da: mae'n amlwg bod nifer o elusennau hawliau dynol yn gyfarwydd â manteision gweithio mewn partneriaeth ag eraill ac osgoi dyblygu gwaith er mwyn gwneud y mwyaf o adnoddau a chanlyniadau ar draws eu meysydd gweithredu.
At ei gilydd, fe welwyd bod perfformiad a threfniadau llywodraethu'r elusennau hyn yn debyg i elusennau eraill. Er hynny, fe welwyd tystiolaeth o fwy o gwynion am eu gwaith na mathau eraill o elusennau. Nid yw hyn yn syndod efallai yn wyneb proffil uchel a natur ddadleuol eu meysydd gweithredu yn gyffredinol.
Gyda hawliau dynol yn tynnu sylw'r cyfryngau byth a hefyd, a'r gydnabyddiaeth ddiweddar o hybu hawliau dynol fel disgrifiad o ddiben elusennol ynddo'i hun yn Neddf Elusennau 2006, rydym yn gobeithio y bydd y gorolwg byr hwn yn dangos rhai o'r ffyrdd amrywiol y bydd elusennau yn ceisio hybu a diogelu hawliau dynol.
Mae hybu hawliau dynol yn ddiben elusennol cymharol newydd a dim ond yn 2002 y cafodd ei gydnabod fel diben ynddo'i hun gan y Comisiwn Elusennau. Mae'n bosibl bod hyn yn esbonio pam nad oes llawer o elusennau hawliau dynol gyda'r dibenion hyn wedi'u rhestru ar Gofrestr Elusennau y Comisiwn. Cyn hyn, roedd yn elusennol i addysgu pobl mewn materion hawliau dynol; neu leddfu angen y rhai yr oedd eu hawliau dynol wedi cael eu torri, ac mae'r rhain yn ffurfio'r rhan fwyaf o ddibenion yr elusennau hawliau dynol hynny a gofrestrwyd cyn 2002.
Ein prif gasgliadau o ddadansoddiad o'r elusennau hyn oedd:
Themâu sy'n dod i'r amlwg ar gyfer hawliau dynol
Er mwyn deall yn well yr amgylchedd cyfredol y bydd elusennau hawliau dynol yn gweithredu ynddo, cynhaliwyd ymweliadau cynhwysfawr â saith elusen. Daeth rhai themâu cyffredin diddorol i'r amlwg.
Sefydlu'r elusen
Yn debyg i'r rhan fwyaf o elusennau, fe welwyd bod y rhai sy'n gweithio ym maes hawliau dynol wedi cael eu sefydlu o ganlyniad i achos arbennig neu sefyllfa barhaus. Dywedodd rhai1 eu bod nhw wedi cael problemau wrth sefydlu'r elusen i gychwyn oherwydd anawsterau cyllido a chanfyddiadau negyddol y cyhoedd yn gyffredinol o'r achosion yr oeddent yn dymuno eu hybu.
Er bod nifer wedi cael eu cofrestru gyda chylch gwaith daearyddol eang, yn ymarferol, bydd y mwyafrif yn canolbwyntio ar ardaloedd neu ranbarthau arbennig fel arfer.
Annibyniaeth
Er mwyn cynnal hyder eu buddiolwyr, eu noddwyr a'u rhanddeiliaid yn gyffredinol, roedd rhai elusennau wedi pwysleisio pwysigrwydd cynnal, a chael eu gweld fel cyrff sy'n cynnal eu hannibyniaeth. Er ei fod yn bwysig i bob elusen, mae'n ymddangos bod hyn yn cael effaith arbennig ar y rhai sy'n hybu hawliau dynol oherwydd ei fod yn cael effaith fawr ar faterion megis cyllido a lleoliad ffisegol yr elusen. Er enghraifft:
Canfyddiad y cyhoedd
Yn gyffredinol, dywedodd yr elusennau hyn wrthym eu bod yn wynebu anawsterau parhaus o ran sicrhau cefnogaeth ar gyfer y materion y maent yn delio â nhw. Y rheswm am hyn yn aml yw oherwydd bod y materion hyn yn anghyfarwydd i bobl, neu'n bell yn ddaearyddol o'r bobl y ceisir eu cefnogaeth. O ganlyniad, mae'r elusennau hyn yn rhoi pwyslais cryf ar godi ymwybyddiaeth ac addysgu'r cyhoedd yn gyffredinol am y materion hawliau dynol dan sylw.
Roedd yr elusennau yn cytuno yn gyffredinol bod rhoi cyhoeddusrwydd i'w hachosion mewn ffordd sy'n hygyrch ac y mae'r cyhoedd yn ei deall yn anodd. Er hynny, fe welwyd bod gan y rhan fwyaf ohonynt ffyrdd gwahanol iawn o drin y cyfryngau, yn amrywio o elusen gyda swyddog y wasg amser llawn i elusen arall sy'n cyfyngu ar nifer y datganiadau i'r wasg y mae'n eu cyhoeddi oherwydd nad oes adnoddau digonol ganddi i ddelio â'r gwaith mawr a gynhyrchir ganddynt.
Cyllido
Mae nifer o elusennau yn wynebu anawsterau o ran cyllido ac nid oedd elusennau hawliau dynol yn eithriad yn hyn o beth, er bod eu persbectif yn wahanol o bosibl. Er enghraifft, dywedodd un elusen fod y canfyddiad bod elusennau hawliau dynol yn wleidyddol yn gallu rhwystro darpar noddwyr rhag cyfrannu. Pryder arall yw'r posibilrwydd y gall rhai darpar noddwyr geisio defnyddio eu cyllid fel modd o ddylanwadu ar yr elusen a gweithredu i'w hagendâu eu hunain.
Llwyddiannau a gwneud gwahaniaeth
Roedd yr elusennau yr ymwelwyd â nhw wedi rhoi enghreifftiau o'r prif feysydd lle y maent yn gwneud gwahaniaeth. Roedd diwygio polisi neu ddeddfwriaeth yn thema allweddol. Roedd nifer o'r elusennau yn ymwneud â chyflwyno neu fonitro polisi neu ddeddfwriaeth, yn y DU a thramor. Roedd rhai wedi codi pryderon penodol am hyd a lled eu gallu i ymgyrchu o dan y faner hawliau dynol.2
Dangos effaith
Yn wyneb yr amgylchedd cymhleth y mae'r elusennau hyn yn gweithredu ynddo, gall dangos effaith eu gweithgareddau fod yn anodd am sawl rheswm. Er enghraifft, roedd gweithio mewn ardaloedd o wrthdaro yn ei gwneud hi'n anodd i gasglu ffeithiau neu ffigurau pendant. Mae anhawster arall o ran mesur effaith yn deillio o'r nifer fawr o ffactorau y mae angen iddynt eu hystyried er mwyn gwneud gwahaniaeth. Fodd bynnag, at ei gilydd, roedd y rhan fwyaf o elusennau wedi dangos ffyrdd amrywiol a phendant o gael hyd i atebion ymarferol i'r materion hynny.
Osgoi dyblygu gwaith a gweithio mewn partneriaeth
Fe welwyd bod yr elusennau hyn yn rhoi pwyslais mawr ar osgoi dyblygu gwaith naill ai gyda sefydliadu eraill neu o fewn canghennau o'u sefydliad eu hunain. Er enghraifft, roedd un wedi cynnal astudiaeth ddichonoldeb cyn iddi gael ei sefydlu hyd yn oed er mwyn gwneud yn siŵr bod lle ar gyfer y math o waith yr oedd yn bwriadu ei wneud. Fel arfer, bydd y rhan fwyaf yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill er mwyn cyfrannu at ymgyrchoedd sydd o ddiddordeb i'r ddau ohonynt.
Mae'r Comisiwn Elusennau bob amser wedi cydnabod hyrwyddo addysg mewn materion hawliau dynol yn elusennol a chynorthwyo'r rhai sydd wedi dioddef troseddau hawliau dynol ac mae angen cymorth arnynt. Mae hawliau dynol yn cael eu hystyried yn hanfodol i weithrediad iach cymdeithas ac mae parch at hawliau dynol yn cael ei ystyried yn rheidrwydd moesol yn gyffredinol. Yn y wlad hon, mae gweithredu Deddf Hawliau Dynol 1998 yn 2000 yn atgyfnerthu’r rheidrwydd cyfreithiol.
Yn 2002, roedd adroddiad Uned Strategaeth y Llywodraeth Gweithredu Preifat, Budd Cyhoeddus wedi argymell y dylai hybu hawliau dynol gael ei gynnwys yn y Ddeddf Elusennau newydd arfaethedig, fel diben elusennol ynddo'i hun. Y rheswm a nodwyd am hyn oedd y byddai "... yn cynnig modd i elusennau chwarae eu rhan lawn yn y tasgau hanfodol o ddiogelu hawliau dynol yn y DU a thramor...".3 Yn yr un flwyddyn, roedd y Comisiwn Elusennau wedi cydnabod hybu hawliau dynol fel diben elusennol ynddo'i hun.
Gyda chasgliadau Adroddiad yr Uned Strategaeth ac yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, yn 2005 ailddatganwyd ein safiad a'n penderfyniad i gydnabod bod hybu hawliau dynol yn ddiben elusennol a chyhoeddwyd canllaw diwygiedig.4 Erbyn hyn mae Deddf Elusennau 2006 yn cynnwys hyrwyddo hawliau dynol fel un o'r disgrifiadau o ddibenion a all fod yn elusennol.5
Gall elusen hybu hawliau dynol mewn sawl ffordd ar lefel ymarferol, er enghraifft:
Mae'r adroddiad hwn yn cymryd golwg ansoddol ar nifer fach o elusennau hawliau dynol ar y Gofrestr, wedi'i ategu gan ddadansoddiad o'r data sydd gennym ar y Gofrestr Elusennau Ganolog i ddangos patrymau cofrestru a'r tueddiadau sy'n dod i'r amlwg.
Mae 206 o elusennau wedi mabwysiadu amcanion gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â hawliau dynol ers i Gofrestr Elusennau Cymru a Lloegr gael ei sefydlu. Mae 14 elusen wedi cael eu dileu wedi hyn. Mae'r elusennau hyn yn ffurfio dim ond 0.1% o'r 168,794 o 'brif' elusennau ar y Gofrestr, ond mae eu hincwm blynyddol cyfunedig yn cynrychioli bron 0.4% o holl incwm cyffredinol elusennau cofrestredig.
Mae'r nifer fach sydd dan sylw yn adlewyrchu'r pwyslais cymharol newydd ar bwysigrwydd hawliau dynol yn y gymdeithas, a'n cydnabyddiaeth ddiweddar ein hunain o hybu hawliau dynol fel achos elusennol ynddo'i hun.
Mae tueddiadau yn y cofrestriadau yn dangos bod y cynnydd amlwg yn y deng mlynedd ddiwethaf yn dilyn datblygiadau allweddol ym maes hawliau dynol. Er enghraifft, fe welwyd yr uchafbwynt cyntaf mewn cofrestriadau pan gafodd y ddeddfwriaeth hawliau dynol ei deddfu yn 1998, a'r ail uchafbwynt pan ddaeth y ddeddfwriaeth honno i rym yn 2000. Yn y blynyddoedd diwethaf, bu cofrestriadau yn yr 20au neu'r 30au isel.
Roedd 11 elusen wedi cofrestru gydag amcanion sy'n cynnwys hawliau dynol yn chwe mis cyntaf 2007.
Mae 76% o elusennau ar y Gofrestr gyfan wedi cael eu sefydlu i weithredu mewn ardaloedd lleol ond mae'r mwyafrif o elusennau hawliau dynol (82%) yn gallu gweithredu'n fyd-eang, ac wedi'u sefydlu gyda ffocws daearyddol eang. Ond, yn ymarferol, bydd nifer yn cyfyngu eu gweithgareddau i ardal lai.
Sefydlwyd y gweddill i weithredu mewn ardaloedd lleol yng Nghymru a Lloegr yn unig, yn genedlaethol yn y DU neu'n rhyngwladol yn unig y tu allan i'r DU.
Fel y nodwyd, mae cyfanswm incwm elusennau hawliau dynol yn fach iawn o'i gymharu â chyfanswm incwm y Gofrestr gyfan. Mae dadansoddiad o'r Gofrestr yn dangos bod maint cyfartalog elusennau hawliau dynol ychydig yn fwy yn gyffredinol na'r cyfartaledd ar gyfer cyfanswm poblogaeth y Gofrestr, sydd efallai i'w ddisgwyl gan fod nifer ohonynt yn gweithio ar lefel ryngwladol yn hytrach na lefel leol.
Ar ddyddiad y gwaith ymchwil ar gyfer yr adroddiad hwn, y tair elusen hawliau dynol fwyaf ar y Gofrestr oedd:
At ei gilydd, roedd gan 17 elusen incwm blynyddol o fwy nag £1 miliwn.
Fe gewch wybodaeth atodol ar elusennau hawliau dynol yn Atodiad B.
Edrychwyd ar y rôl y mae elusennau hawliau dynol yn ei chwarae trwy eu meysydd gweithgaredd. Trwy edrych ar y dibenion y sefydlwyd yr elusennau hyn ar eu cyfer, gwelwyd bod y rhan fwyaf wedi cael eu sefydlu i hyrwyddo addysg y cyhoedd ym maes hawliau dynol (102 o elusennau). Fel arfer, bydd nifer yn gwneud hyn trwy ddarparu gwybodaeth, eiriolaeth neu gyngor. Bydd eraill yn noddi neu'n ymgymryd â gwaith ymchwil yn y maes. Mae modd esbonio'r pwyslais hwn ar addysg trwy amseriad eu cofrestriad: bydd nifer wedi cael eu cofrestru cyn i ni wneud hawliau dynol yn ddiben elusennol ynddo'i hun.
Mae'r sampl yn rhannu fel a ganlyn:
Mae gan nifer o elusennau hawliau dynol ddibenion elusennol ychwanegol hefyd sy'n cyd-fynd â'u gweithgareddau hawliau dynol yn yr ardal o fudd o'u dewis, er enghraifft:
"Hyrwyddo addysg y cyhoedd mewn materion amgylcheddol, cadwraeth a gwarchod yr amgylchedd naturiol a'i ddatblygiad cynaliadwy ac achosion ac effeithiau dirywiad amgylcheddol;..."
The Global Witness Trust 11
"Hybu er budd y cyhoedd a lleddfu tlodi mewn unrhyw ran o'r byd, yn arbennig trwy hybu unrhyw ddiben elusennol i ysgogi gwelliannau yn yr amodau byw yn y gymuned a thramor, trwy...darparu gwybodaeth trwy ddefnyddio'r rhyngrwyd a thechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu eraill fel dull o ateb anghenion elusennol y cymunedau tlotaf a thrwy ddarparu offer hyfforddi i'r cymunedau tlawd er mwyn cynnig modd iddynt gyrchu’r wybodaeth uchod..."
Kenyan Action Mission 12
"Hyrwyddo addysg y cyhoedd yn arbennig (ond heb gyfyngiad) yn y meysydd canlynol....y celfyddydau cain, yn arbennig (ond nid yn unig) celfyddydau cerddoriaeth, drama, paentio, cerflunwaith a llenyddiaeth."
The Tom Paine Project 13
Fe welwyd bod elusennau hawliau dynol, o ran eu trefniadau llywodraethu, yn debyg yn fras i elusennau eraill ar y Gofrestr. Mae maint cyfartalog byrddau ymddiriedolwyr elusennau hawliau dynol, er enghraifft, a'r math o strwythur llywodraethu y maent wedi'u mabwysiadu yn adlewyrchu tueddiadau ar draws y Gofrestr gyfan.
Fodd bynnag, roedd un maes lle yr oedd elusennau hawliau dynol yn wahanol. Mae dadansoddiad o'r mathau o faterion y gofynnir i ni fel rheolydd ymdrin â nhw gan neu am elusennau yn dangos bod elusennau hawliau dynol yn fwy tebygol o ddenu cwynion am natur eu gwaith neu'r ffordd y mae'r elusen yn cael ei gweld. Yn gyffredinol roedd y cwynion a gawsom am yr elusennau hyn yn fwy nag ar gyfer mathau eraill o elusennau.
Ond yn ffodus cafodd y mwyafrif o'r rhain eu datrys yn gyflym ac roeddent wedi deillio o gamddealltwriaeth ynghylch gwaith yr elusennau. Ond mae'r nifer uwch na'r cyfartaledd o'r mathau hyn o achosion yn adlewyrchu natur ddadleuol a phroffil uchel eu gwaith yn aml, ac yn cadarnhau pryderon yr elusennau hyn, a nodir isod, ynghylch yr anawsterau a gânt wrth geisio cyfleu eu neges.
Er mwyn deall beth mae rhai elusennau hawliau dynol yn ei feddwl a'r materion a wynebant, cynhaliwyd gwaith ymchwil ansoddol pellach, gan ymweld â saith elusen sy'n gweithio ym maes hawliau dynol. Daeth sawl thema gyffredin i'r amlwg.
Dewiswyd yr elusennau y cyfwelwyd â nhw i gwmpasu ystod eang o weithgareddau hawliau dynol ar draws ystod o wledydd. Roedd amcanion gan bob un ohonynt oedd yn cynnig modd iddynt weithredu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Os oedd ffocws daearyddol penodol gan yr elusen ar gyfer ei phrif ymdrechion, nodwyd hynny isod. Fe gewch fanylion pellach am yr holl elusennau hyn ar y Gofrestr Elusennau ar ein gwefan.
Anti-Slavery International14
Mae Anti-Slavery International yn elusen yn y band incwm £1 miliwn a mwy. Nod yr elusen yw dileu pob math o gaethwasiaeth ledled y byd. Gwna hyn trwy wahanol ddulliau, gan gynnwys:
Article 19 Research and Information Centre on Censorship 15
Mae Article 19 Research and Information Centre on Censorship yn elusen yn y band incwm £1 miliwn a mwy. Nod yr elusen yw addysgu'r cyhoedd trwy hybu a diogelu rhyddid i ddatgan barn a rhyddid gwybodaeth a syniadau ledled y byd o fewn ystyr erthygl 19 y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. Mae'n gweithio mewn partneriaeth â mwy nag 80 o sefydliadau cenedlaethol er mwyn sicrhau newid sefydliadol, diwylliannol a chyfreithiol parhaol. Mae rhai o'i gweithgareddau yn cynnwys:
British Irish Rights Watch16
Mae British Irish Rights Watch yn elusen sy'n gallu gweithredu ym Mhrydain, Iwerddon a mannau eraill yn y byd ond mae ganddi ffocws arbennig ar Ogledd Iwerddon. Mae yn y band incwm £100,000 - £250,000.
Nod yr elusen yw hybu parchu a chynnal hawliau dynol trwy addysg ac ymchwil; hybu a lledaenu gwybodaeth a dealltwriaeth o hawliau dynol o'r fath trwy gyfnewid gwybodaeth trwy ddulliau eraill; a sicrhau diddymu arteithio, dienyddiadau allfarnwrol ac arestio, cadw ac alltudio mympwyol. Mae'r elusen yn cyflawni’r amcanion hyn trwy:
Equality Now 17
Mae Equality Now yn elusen yn y band incwm £100,000 i £250,000. Mae'r elusen yn gweithio gyda sefydliadau ac unigolion hawliau dynol eraill i ddogfennu trais a gwahaniaethu yn erbyn menywod ac yn ysgogi gweithredu rhyngwladol i gefnogi ymdrechion i atal y troseddau hawliau dynol hyn trwy:
Kurdish Human Rights Project18
Mae'r Kurdish Human Rights Project yn elusen yn y band incwm £100,000 i £1 miliwn.
Mae'r elusen wedi'i sefydlu i hybu a diogelu hawliau dynol pobl yn y rhanbarthau Cwrdeg yn Nhwrci, Irac, Iran, Syria a mannau eraill. Mae'n ceisio helpu pobl Gwrdaidd (a'u teuluoedd) sydd mewn angen ac sydd, neu sydd wedi dioddef arteithio neu droseddau eraill yn erbyn eu hawliau dynol. Prif weithgareddau'r elusen yw:
Reprieve19
Mae Reprieve yn elusen sy'n darparu ymchwil rheng-flaen a chynrychiolaeth gyfreithiol i garcharorion nad ydynt yn cael cyfiawnder ledled y byd, o res yr angau i Fae Guantánamo. Mae'n gweithio o fewn fframwaith cyfreithiol – gan weithredu'r gyfraith ddomestig a rhyngwladol fel arf i achub bywydau, sicrhau cyfiawnder a chyflwyno'r achos am ddiwygio byd-eang. Mae yn y band incwm £100,000 - £1 miliwn.
Yn fwy penodol mae ei hymdrechion yn canolbwyntio ar:
Nid yw unrhyw garcharorion y bydd Reprieve yn eu helpu yn gallu fforddio talu am gynrychiolaeth.
Sudan Organisation Against Torture20
Mae'r Sudan Organisation Against Torture yn elusen sy'n gweithio yn y Swdan yn bennaf ac mae yn y band incwm £100,000 i £1 miliwn. Prif amcan yr elusen yw atal arteithio a herio anghosbedigaeth. Mae'n gweithio i adsefydlu goroeswyr artaith o'r Swdan ac yn cynnig cymorth cyfreithiol i oroeswyr, ac unigolion sy'n cael eu bygwth gan gosbau creulon a diraddiol. Gwna hyn trwy:
Sefydlwyd yr holl elusennau hawliau dynol y cyfwelwyd â nhw o ganlyniad i achos arbennig neu sefyllfa barhaus, mewn ardal neu ranbarth arbennig yn aml.
Er bod y rhan fwyaf yn canolbwyntio ar ardal neu ranbarth arbennig, yn ymarferol, mae amcanion gan bob un ohonynt sy'n cynnig modd iddynt weithio'n ehangach na'u maes gweithredu cyfredol, ond maent wedi dewis canolbwyntio ar ardal arbennig am resymau ymarferol.
Mae'r canlynol yn crynhoi'r rhesymau pam y sefydlwyd pob un o'r elusennau:
Dywedodd rhai o'r elusennau wrthym am yr anawsterau wrth ffurfio'r sefydliadau i gychwyn. Roedd dwy agwedd i hyn: i un elusen, roedd natur ddadleuol ei gwaith arfaethedig, sef materion hawliau dynol yng Ngogledd Iwerddon, yn golygu bod peth amheuaeth ymysg y cyhoedd am y cymhellion y tu ôl i ffurfio'r sefydliad, ac a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwrthdaro ar yr un ochr neu'r llall. I eraill, bu'n anodd penderfynu bod dibenion yr elusennau hyn, er eu bod yn amlwg yn haeddiannol, yn elusennol yn ystyr manylaf y gair, oherwydd eu bod wedi ceisio cofrestru cyn Deddf Hawliau Dynol 1998, a oedd yn cynnwys llawer o ddeddfwriaeth y Comisiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn y gyfraith ddomestig, ac yna derbyn hyrwyddo hawliau dynol fel diben elusennol.
Dywedodd un elusen wrthym ei bod wedi gweithio'n galed i adeiladu ei henw da a phrofi ei statws fel sefydliad amhleidiol ac annibynnol. Mae ansawdd gwaith ymchwil y sefydliad wedi ei helpu i adeiladu ei barchusrwydd ac enw da, i'r fath raddau fel bod elusennau mwy megis Amnest Rhyngwladol yn dibynnu arno am wybodaeth ac ymchwil.
Roedd pwysigrwydd annibyniaeth yn thema a gododd yn y rhan fwyaf o'r elusennau a gyfwelwyd. Er enghraifft, dywedodd sawl un wrthym nad oedd yn bolisi ganddynt i dderbyn cyllid llywodraeth i gynnal graddfa o annibyniaeth. Dywedodd un wrthym na fyddent yn derbyn unrhyw gyllid gan unrhyw sefydliadau neu gyrff, boed yn llywodraethol neu'n anllywodraethol, neu gan unrhyw un gyda chysylltiadau â nhw yn eu maes gweithredu, sef y rhanbarthau Cwrdaidd. Yn lle hynny, daw cyllid yr elusen o ymddiriedolaethau a sefydliadau rhoi grantiau elusennol a ffynonellau anstatudol o bob cwr o'r byd. Dywedodd dwy elusen eu bod yn cynnal eu hannibyniaeth ar Lywodraeth Prydain oherwydd teimlent y gallai fod yn niweidiol i'w gwaith.
Roedd elusen arall, yn gweithredu yng Ngogledd Iwerddon, wedi sôn am ei hangen i fod yn annibynnol ar grwpiau hollt ac enwadol. Teimlai fod cael canolfan yn Llundain, ac felly y tu allan i'r ardal yr oedd yn canolbwyntio arni, yn annog rhai pobl i gysylltu â'r sefydliad oherwydd nid oedd 'ar stepen drws'. Felly roedd unigolion yn dawel eu meddwl ynghylch cyfrinachedd.
Un thema gyffredinol yw bod elusennau sy'n gweithio ym maes hawliau dynol yn ei chael hi'n anodd i gael cymorth ar gyfer y materion y maent yn delio â nhw. Er enghraifft, teimlai un elusen fod nifer o bobl yn credu nad yw caethwasiaeth yn fater sy'n berthnasol yn y gymdeithas sydd ohoni er gwaetha'r ffaith ei fod yn bodoli mewn sawl ffurf wahanol, megis masnachu mewn pobl a thaeogaeth.
Dywedodd un arall wrthym ei bod hi'n anodd yn aml i gael sylw'r cyhoedd ar ymgyrch arbennig oherwydd ei bod yn digwydd mewn man arall, felly ni fyddai rhai pobl yn perthnasu â'r mater ac yn ei ddiystyru fel problem rhywun arall. Er mwyn ceisio datrys hyn, mae'r elusen wedi canolbwyntio ar achosion unigolion yn eu hadroddiadau. Mae hyn yn tynnu sylw at y materion dan sylw a hefyd yn cynnig rhywun y gall y gynulleidfa berthnasu ag ef.
Dywedodd yr elusen hon wrthym hefyd bod ei gwaith yn heriol a gall fod yn anodd weithiau oherwydd gall troseddau hawliau dynol yn erbyn menywod gael eu priodoli fel rhywbeth sy'n rhan o ddiwylliant, crefydd neu draddodiad cymdeithas. Er mwyn osgoi hyn, mae'r elusen yn gweithio gyda grwpiau o fewn y diwylliannau, crefyddau neu draddodiadau hynny sy'n gwrthwynebu troseddau o'r fath er mwyn cael mwy o lais yn y byd mawr.
Dywedodd yr elusen wrthym hefyd bod ei gwaith yn gofyn am drefnu gofalus. Oherwydd natur y materion yr ymdrinnir â nhw, fel llurgunio organau cenhedlu menywod a smwddio bronnau, rhaid i ymgyrchoedd a chyflwyniadau o'r casgliadau gael eu gwneud mewn ffordd nad yw'n peryglu unplygrwydd neu enw da'r elusen trwy sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy'n cynnal diddordeb y cyfryngau, ond nid yw'n rhywioli'r mater.
Dywedodd elusen arall, sy'n gweithio dros ryddid i lefaru, y gall hyn fod yn bwnc dadleuol. Mae ei mandad yn seiliedig ar safonau hawliau dynol rhyngwladol, ac felly nid yw'n cymryd safiad absoliwtaidd ar ryddid i lefaru sy'n golygu ei bod yn agored i feirniadaeth gan y sefydliadau a'r bobl hynny sy'n cymryd safiad o'r fath. Er enghraifft, mae'n cydnabod bod cyfyngiadau cyfreithlon, o dan y gyfraith hawliau dynol rhyngwladol, ar ryddid i lefaru neu ryddid y wasg. Gall y cyfyngiadau hyn fod yn ormod i'r rhai sy'n dadlau dros ymagwedd fwy absoliwtaidd, a rhy ychydig i nifer ymysg y cyhoedd yn gyffredinol. Mae addysg yn allweddol, ond mae adnabod yr ymagwedd gywir yn anodd oherwydd mae angen neilltuo amser ar gyfer y mathau hyn o weithgareddau codi ymwybyddiaeth.
Dywedodd un elusen wrthym fod noddwyr a'r cyhoedd yn credu ar gam yn aml bod yr elusen yn ymwneud mewn rhyw ffordd â'r gwrthdaro y cafodd ei sefydlu i helpu ei datrys.
"Nid yw hwn yn achos 'cysurus' iawn."
Reprieve
Roedd sawl un o'r elusennau y buom yn siarad â nhw wedi pwysleisio mai rhan o'u rôl oedd addysgu'r cyhoedd. Er enghraifft, dywedodd un elusen wrthym ei bod yn addysgu'r cyhoedd trwy dynnu sylw at y materion sy'n berthnasol i'r maes hawliau dynol; yn achos yr elusen hon mewn perthynas â'r gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon. Dywedodd un arall wrthym am yr anawsterau a gafodd o ran addysgu'r cyhoedd am ei gwaith ym maes hawliau dynol, megis esbonio holl linynnau ei gwaith o fewn cyfweliad byr neu erthygl. Dywedodd yr elusen hon wrthym hefyd ei bod yn wynebu sialensiau ynghylch ei delwedd oherwydd roedd yn credu bod rhai sefydliadau yn camddefnyddio'r faner hawliau dynol, sy'n gallu cael effaith andwyol ar enw da sefydliadau hawliau dynol cyfreithlon.
Cafwyd ymatebion cymysg gan yr elusennau am eu perthynas â'r cyfryngau, yn amrywio o'r rhai sy'n cyflogi swyddogion y wasg, neu'n defnyddio'r cyfryngau i helpu rhoi cyhoeddusrwydd i achos arbennig, i'r rhai a ddywedodd wrthym eu bod yn cyfyngu'n fwriadol ar unrhyw sylw a gaiff yr elusen yn y wasg.
Dywedodd un elusen nad oedd yn mynd ati'n rhagweithiol i gysylltu â'r wasg trwy gyhoeddi nifer o ddatganiadau'r wasg - mae wedi rhyddhau tua chwech yn unig yn ystod y cyfnod y bu'n weithredol - oherwydd ni all ymdopi â'r gwaith a gynhyrchir gan y math hwn o sylw. Fodd bynnag, roedd yn cael llawer o gyhoeddusrwydd a sylw yn y wasg oherwydd ei henw da fel arbenigwr yn ei maes ei hun. Ond dywedodd hefyd ei bod yn credu bod mater addysgol dan sylw yma ac nid yw sylw yn y wasg bob amser yn ddefnyddiol oherwydd ei fod yn anodd i gyfleu natur gymhleth sefyllfaoedd hawliau dynol mewn 'pytiau' ar gyfer straeon newyddion. At hynny, mae'n neges anodd i'w chyfleu bod hawl i unigolyn gael hawliau dynol sylfaenol er iddo fod yn euog o drosedd.
Mae gan elusen arall strategaeth ragweithiol iawn o ran y wasg, gan gyhoeddi tua 6 datganiad i'r wasg yr wythnos i dynnu sylw at bryderon arbennig yn y byd neu gyhoeddi gweithgaredd pwysig neu adrodd ei fod yn ei lansio. Ond er y gall gael sylw da yn y wasg yn y gwledydd lle mae'n gweithio, nid yw mor hawdd cael sylw yn y wasg ryngwladol, DU neu yn y Gorllewin. Er y bydd y cyfryngau yma yn cysylltu â'r elusen am sylwadau mewn ymateb i argyfyngau, prin iawn yw'r achosion hyn fel arfer.
Er bod angen i'r cyfryngau roi cyhoeddusrwydd i achos arbennig neu addysgu'r cyhoedd, dywedodd elusen arall wrthym fod ei pherthynas â'r cyfryngau yn gallu bod yn heriol. Er enghraifft, pan fyddant yn codi ymwybyddiaeth am rai materion mae'n rhaid iddynt fod yn ofalus i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy'n cynnal diddordeb y cyhoedd heb gamddehongli neges yr elusen.
Dywedodd dwy elusen wrthym eu bod yn defnyddio'r cyfryngau i hybu hawliau dynol. Mae swyddogion y wasg gan un elusen, er enghraifft, ac mae'n cynhyrchu briffiau gweithredu a chylchgrawn chwarterol. Mae un arall yn cyfeirio at sylw yn y cyfryngau darlledu a'r wasg fyd-eang yn eu hadroddiad blynyddol ar effaith.
Rhoddodd un elusen enghraifft arloesol iawn o sut yr oedd wedi defnyddio cyfrwng gwahanol i dynnu sylw at fater: roedd wedi cynhyrchu drama yn Llundain yn seiliedig ar stori wir dyn oedd yn dioddef problemau iechyd meddwl ac yn wynebu'r gosb eithaf. Defnyddiodd yr elusen y nifer yn y gynulleidfa i fesur llwyddiant hwn fel ffordd o roi cyhoeddusrwydd i'w gwaith.
Roedd un elusen yn pryderu y bydd yr hinsawdd o ddeddfwriaeth gwrthderfysgaeth yn dwysáu ofn pobl a gall greu bwlch rhwng sectorau yn y gymdeithas. Mae'n bosibl y gallai hyn danseilio hawliau dynol. Felly mae'r elusen yn ystyried gwaith allgymorth i helpu addysgu pobl am hawliau dynol.
Mae cyllido yn fater cyson i'r rhan fwyaf o elusennau ac roedd y rhai yr oeddem wedi cwrdd â nhw wedi trafod eu trefniadau cyllido cyffredinol, gan roi enghreifftiau o brofiadau cadarnhaol a negyddol.
Dywedodd un elusen fod cynnal a chryfhau cymorth craidd neu anghyfyngedig yn bryder mawr, fel y mae i nifer o elusennau eraill. Er hynny, mae'r cymorth hwn yn hanfodol oherwydd mae'n rhoi'r hyblygrwydd y mae ei angen ar y sefydliadau i ymateb i argyfyngau a chyfleoedd wrth iddynt godi. Y maes problematig arall yw denu cyllid ar gyfer prosiectau arloesol neu ddadleuol. Ond, ar ôl cael y cyllid, mae gan brosiectau o'r fath y potensial i ddatblygu'n safonau neu bolisïau sefydledig, megis prosiect diweddar yr elusen hon ym maes cael at wybodaeth a hawliau rhywiol ac atgenhedlu. Er hynny, mae'n well gan rai rhoddwyr gyllido prosiectau llai dadleuol.
Nododd yr elusen hon hefyd nad yw'r diwylliant o roi symiau mawr mewn cymdeithasau Ewropeaidd wedi'i datblygu cystal o'i gymharu â'r Unol Daleithiau.
Dywedodd elusen arall wrthym ei bod yn teimlo bod paratoi adroddiadau i noddwyr yn fwy cymhleth dros amser. Mae'n rhaid iddi ddarparu gwybodaeth i noddwyr mewn fformatau amrywiol. Mae rhai noddwyr eisiau gwybod sut y cafodd pob unigolyn ei helpu a beth oedd cost hwn, roedd eraill yn gofyn am ffigurau cyffredinol ar wariant cyfartalog a nifer y bobl a gafodd eu helpu.
Dywedodd un arall, er mwyn cynnal ei hannibyniaeth, nid yw'n derbyn unrhyw arian oddi wrth unrhyw sefydliadau neu gyrff, boed yn rhai llywodraethol neu anllywodraethol, nac unrhyw un sydd â chysylltiadau â nhw, yn yr ardal lle y mae'n gweithredu. Hefyd, nododd yr anawsterau a wynebir o ran cyllid:
Dywedodd un elusen ei fod yn well gan noddwr statudol a oedd yn darparu peth o'i chyllid aros hyd braich o achosion hawliau dynol llawr gwlad ac yn lle hynny roedd yn rhoi cyllid i'r elusen er mwyn rhoi'r cymorth a oedd ei angen.
O ran cyllido gweithgareddau penodol, roedd un elusen a oedd yn delio â hawliau menywod wedi canfod bod cael adnoddau ar gyfer eu gwaith yn broblem, oherwydd nid oes llawer o gyllid ar gael ar gyfer yr achos hwn yn benodol ac mae polisi gan yr elusen o beidio â derbyn cyllid gan y llywodraeth.
Dywedodd nifer o elusennau wrthym fod trefniadau cyllido amrywiol ganddynt, gyda'r mwyafrif o'r elusennau y cyfwelwyd â nhw yn rhestru mwy na phum gwahanol noddwr yn eu cyfrifon. Roedd ffynonellau cyllido yn amrywio o roddwyr unigol a oedd yn well ganddynt aros yn ddienw i sefydliadau rhoi grantiau rhyngwladol a llywodraethau'r DU neu dramor. Er enghraifft, mae un elusen yn derbyn 35% o'i chyllid o ymddiriedolaethau a sefydliadau a 65% o noddwyr statudol gan gynnwys yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, llywodraethau Gwyddelig ac Isalmaenig, yr Undeb Ewropeaidd a sefydliadau mawr eraill.
Dywedodd un arall wrthym, yn ei dyddiau cynnar, roedd un noddwr mawr, adnabyddus wedi gwrthod ei chyllido ar sawl achlysur. Roedd cael ei chofrestru fel elusen, yn ogystal â'r noddwr yn gweld enw da'r elusen yn gwella a'i pharchusrwydd yn cael ei brofi, wedi helpu i newid barn y noddwr, sydd yn cyfrannu at waith yr elusen erbyn hyn. Mae gan y Cyfarwyddwr flynyddoedd o brofiad o godi arian ac yn gwybod sut i feithrin perthynas weithio da â noddwyr; pan fydd yr elusen wedi sicrhau noddwyr, mae'n tueddu i'w cadw. Mae elusen arall, yn ogystal â chydymffurfio â gofynion adrodd y noddwyr, hefyd yn eu gwahodd i ddigwyddiadau ac mae'r Cyfarwyddwr yn anfon gohebiaeth gyson yn disgrifio'r gweithgareddau.
Mae'r elusen hon hefyd wedi neilltuo arian o gymynrodd a wnaed gan gadeirydd blaenorol ar gyfer dirwyn yr elusen i ben pan ddaw'r amser, ac mae'n bwriadu cofnodi hanes yr elusen at ddibenion archifo, oherwydd cred y bydd yn astudiaeth achos dda ar gyfer elusennau hawliau dynol eraill yn y dyfodol.
Roedd nifer o'r elusennau y cyfwelwyd â nhw wedi sôn am gyraeddiadau unigol trwy adroddiadau ar effaith neu gyfryngau eraill ac wedi darparu enghreifftiau penodol o lwyddiannau allweddol o ran gwneud gwahaniaeth.
Er enghraifft:
Roedd nifer o'r elusennau yn gallu dweud wrthym sut y maent yn mesur effaith eu gwaith ac roedd y rhan fwyaf wedi darparu tystiolaeth gadarnhaol ar gyfer hyn. Er enghraifft:
Fodd bynnag, roedd ein gwaith ymchwil wedi tynnu sylw at y sialensiau y mae rhai elusennau yn eu hwynebu wrth ddangos eu heffaith, yn ogystal â sut yr oeddent wedi cael hyd i atebion ymarferol i'r sialensiau hyn:
Dywedodd un elusen wrthym ei bod hi'n anodd yn aml i gael ffeithiau neu ffigurau pendant ac weithiau roedd rhaid iddi ddibynnu ar dystiolaeth anecdotaidd i ddangos gwir raddfa ei heffaith, yn enwedig mewn achosion lle byddai mesur yn cynnwys ceisio gwerthuso lle nad oedd unrhyw beth wedi digwydd - er enghraifft, dim achosion o droseddau yn erbyn hawliau dynol, lle y byddai hynny'n debygol cyn hynny. Fodd bynnag, rhoddodd un enghraifft lle yr oedd wedi gweithio gyda'r heddlu, y llywodraeth a gweinyddiaethau lleol i orfodi cyfraith nad oedd yn weithredol. Roedd hyn wedi creu lleihad mesuradwy mewn troseddau hawliau dynol yn y wlad dan sylw ac yn golygu bod yr elusen wedi adnabod ffordd arall i fesur ei heffaith.
Dywedodd un arall wrthym fod noddwyr yn aml eisiau gweld canlyniadau pendant a all fod yn eithaf anodd i'r elusen eu cyflawni mewn cyfnod penodol o amser. Ond roedd wedi cynhyrchu adroddiad ar effaith yn tynnu sylw at ei llwyddiannau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys, er enghraifft, nifer yr adroddiadau ymchwil yr oedd wedi'u cynhyrchu, nifer y treialon a arsylwyd a nifer yr ymweliadau i'w gwefan.
Dywedodd un elusen wrthym y gallant fesur effaith yn uniongyrchol trwy nifer y bobl sy'n cael eu trin a'u helpu, a thrwy'r sialensiau cyfreithiol a godwyd, ond gall fod yn anodd mesur yr olaf yn gywir oherwydd y diffygion a geir gyda'r gyfundrefn gyfreithiol.
Darparu tystiolaeth ar gyfer noddwyr oedd y cymhelliant ar gyfer o leiaf un elusen i adrodd ar lwyddiannau ac yn ei dro, byddai'r noddwr hwn yn asesu sut yr oedd proffil yr elusen wedi gwella trwy ei phresenoldeb yn y cyfryngau.
Yn olaf, dywedodd un elusen fod dangos effaith tymor byr gweithgareddau sy'n ceisio sicrhau newidiadau diwylliannol a sefydliadol parhaol ym maes rhyddid i fynegi barn yn creu anawsterau penodol. Hefyd, mae'n anodd hawlio llwyddiant neu effaith arbennig oherwydd mae'n bosibl bod asiantaethau neu ffactorau eraill wedi gwneud cyfraniad sylweddol at y newid.
Dywedodd un elusen fod sylfaenwyr yr elusen, cyn ei sefydlu, wedi cynnal astudiaeth ddichonoldeb a oedd wedi dangos nad oedd unrhyw sefydliad annibynnol yn gweithio ar dynnu sylw at y troseddau hawliau dynol ofnadwy yn y maes hwn.
Mae gan un achos, a sefydlwyd yn wreiddiol yn yr Unol Daleithiau, swyddfeydd yn Nairobi a Llundain erbyn hyn. Mae'r tri safle i gyd yn gweithio tuag at yr un achos yn y pen draw, ond mae pob rhan o'r sefydliad yn osgoi dyblygu gwaith trwy ganolbwyntio ar agwedd wahanol ar y gwaith.
Dywedodd un arall wrthym ei bod yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar yr holl bartneriaid posibl er mwyn sicrhau bod unrhyw waith y bydd yr elusen yn ei wneud yn gost-effeithiol a hefyd yn osgoi dyblygu rolau rhwng partneriaid gweithredol.
Dywedodd un elusen wrthym ei bod yn awyddus i ddatblygu cydweithio â sefydliadu hawliau dynol eraill, ac ar ôl adnabod yn fewnol beth y mae'r elusen yn gobeithio ei gael o'r sefydliad arall, mae'r ddau sefydliad yn cydweithio. Yn gyffredinol, mae'r elusen yn ceisio defnyddio adnoddau ei gilydd, megis rhwydweithiau cyfreithwyr, ac osgoi dyblygu gwaith.
Roedd y rhan fwyaf o elusennau a gyfwelwyd wedi sôn am weithio mewn partneriaeth i hybu amcanion yr elusen. Er enghraifft, dywedodd un elusen wrthym am gydweithio â sefydliadau hawliau dynol eraill a'r Cenhedloedd Unedig, a hefyd cwrdd â sefydliadau Ewropeaidd eraill i drafod materion o bryder i'r ddwy ochr, a chydweithio ar ymgyrchoedd o ddiddordeb i'r ddwy ochr.
Mae elusen arall yn gweithio gydag 80 o bartneriaid gweithredu ar hyn o bryd sy'n weithgar mewn meysydd fel hawliau dynol, rhyddid gwybodaeth, democrateiddio, y cyfryngau, menywod, iechyd a'r amgylchedd. Yn eu tro, mae'r rhain yn cysylltu â thua 100 o sefydliadau llawr gwlad. Mae holl brosiectau’r elusennau wedi'u hanelu at adeiladu gallu ar gyfer sefydliadau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu parhau â'u gwaith yn y dyfodol heb gymorth a chyfranogiad rhyngwladol - neu gymorth a chyfranogiad rhyngwladol cyfyngedig.
Roedd un arall wedi rhoi enghreifftiau ymarferol o sut y mae'n rhoi gweithio mewn partneriaeth ar waith. Yn ddiweddar fe gydweithredodd â Chyfeillion y Ddaear Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, Cornerhouse a Platform yn ogystal â nifer o sefydliadau eraill i weithio ar yr Ymgyrch Baku-Ceyhan. Rôl yr ymgyrch yw sicrhau cyfiawnder amgylcheddol ar osod y bibell Baku-Tbilisi-Ceyhan newydd trwy:
Roedd un elusen wedi sôn am yr anawsterau y maent yn eu cael wrth weithio gyda swyddfeydd cangen dramor a bod hyn yn ganlyniad uniongyrchol i natur gwaith y sefydliad. Am resymau risg a diogelwch dros gyfnodau hir, gall cyfathrebu fod yn beryglus a/neu'n araf, a all gael effaith ymarferol ar waith yr elusen, er enghraifft, ar adroddiadau ariannol.
Roedd rhai elusennau wedi cyfeirio'n benodol at faterion sy'n ymwneud ag ymgyrchu. Roedd un elusen wedi cydnabod yn benodol bod hwn yn faes anodd lle yr hoffai gael mwy o eglurhad. Yn wyneb hinsawdd gwaith elusennau o'r fath, cytunwn fod hwn yn faes lle mae angen i elusennau allu esbonio'r rhesymau sy'n sail i'w gweithgareddau. Ers i'r dystiolaeth hon gael ei chasglu, rydym wedi cyhoeddi rhai cwestiynau ac atebion i ategu ein harweiniad yn Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9),21 sy'n esbonio yn fwy manwl yr hyn y gall a'r hyn na all elusennau ei wneud , ac rydym wrthi'n ymgynghori â'r sector ar y mater hwn.
Roedd elusen arall wedi rhoi enghraifft o sut mae gwledydd eraill yn caniatáu canran arbennig o weithgareddau ymgyrchu. Roedd yn teimlo y byddai'r math hwn o ymagwedd yn gwneud hyn yn haws iddyn nhw ac elusennau eraill.
Roedd diwygio polisi neu ddeddfwriaeth mewn rhyw ffordd yn thema a godwyd gan sawl elusen. Er enghraifft, roedd un elusen yn ymwneud â diwygio cod moeseg newydd a oedd yn gofyn am fwy o gynrychiolaeth i grefyddau heb gynrychiolaeth ddigonol yn yr heddlu. Roedd hefyd yn ymwneud â monitro'r cod newydd wedi hyn.
Roedd un arall wedi gweithio i ailystyried y diffiniad o'r hyn sy'n cael ei ddosbarthu'n 'artaith' ar lefel Ewropeaidd, er enghraifft trwy ddwyn achos gerbron Llys Hawliau Dynol Ewrop. Roedd yr achos wedi esgor ar reol yn 1998 a olygai, am y tro cyntaf erioed, bod trais yn cael ei ystyried yn fath o artaith yn groes i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Ein casgliadau oedd bod elusennau hawliau dynol yn debyg iawn yn fras i elusennau eraill ar y Gofrestr o ran eu strwythur a'u llywodraethu. Mae ganddynt bryderon a materion tebyg iawn i fathau eraill o elusennau. Fodd bynnag, mewn rhai meysydd, er bod y pryderon yn debyg, maent yn fwy ar gyfer elusennau hawliau dynol.
Enghraifft allweddol yw pwysigrwydd tryloywder ac atebolrwydd yn eu gwaith bob dydd; maes arall yw'r angen i roi pwyslais mawr ar gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'u gwaith. Oherwydd meysydd gwaith anodd a dadleuol yr elusennau hyn, mae'n bosibl eu bod yn fwy agored i gael eu camddeall ac maent yn gwneud ymdrech fawr i godi ymwybyddiaeth o'r materion y cawsant eu sefydlu i'w datrys, ac esbonio eu hymdrechion i fynd i'r afael â nhw.
Maes arall lle mae elusennau hawliau dynol i'w gweld yn arbennig o gryf yw'r pwyslais y maent yn ei roi ar weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau canlyniadau ac osgoi dyblygu ymdrech ac adnoddau.
Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ystod, rôl a phroffil elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys yn benodol hawliau dynol fel ar ddiwedd Mehefin 2007.
Rydym wedi defnyddio'r ffynonellau data a deunydd canlynol yn ein gwaith ymchwil:
Roedd ein timau Ymweliad Adolygu hefyd wedi ymweld â saith elusen. Rydym wedi defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd o'r ymweliadau hyn i adrodd ar bersbectifau'r elusennau hyn ar weithredu ym maes hawliau dynol.
Nifer yr elusennau hawliau dynol a'u hincwm
Ers i Ddeddf Elusennau 1960 greu'r Gofrestr Elusennau, mae 206 o elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys y rhai sy'n ymwneud â hawliau dynol wedi cael eu cofrestru:22 ers hynny mae 14 wedi cael eu dileu - roedd deg elusen wedi peidio â bodoli ac roedd pedair elusen wedi dirwyn i ben a'u hailsefydlu fel cwmnïau elusennol.
Roedd cyfanswm incwm blynyddol diwethaf elusennau hawliau dynol bron £160 miliwn.23 Mae'r elusennau hyn yn ffurfio dim ond 0.1% o'r 'prif' elusennau ar Gofrestr Cymru a Lloegr, ond mae eu hincwm blynyddol cyfunedig yn cynrychioli ychydig o dan 0.4% o incwm cyffredinol yr holl elusennau cofrestredig.
Gall elusennau ddewis diffinio yn eu dogfennau llywodraethol yr ardaloedd o fudd daearyddol lle yr hoffent ymgymryd â'u gweithgareddau. Gellir dadansoddi'r ardaloedd hyn yn elusennau sy'n gweithredu:
Yn ymarferol, gall elusennau ddewis gweithio mewn ardal weithredu lai na'r ardal o fudd a bennwyd.
Mae gweithgareddau’r naw elusen leol yn amrywio o hybu hawliau dynol, er enghraifft, pobl anabl yn Rochdale i addysgu'r cyhoedd yn gyffredinol trwy gynnal cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn Kingston-upon-Hull. Mae ardaloedd o fudd yr elusennau lleol hyn yn amrywio o'r ffocws cul hwn i lefel sirol a thu hwnt, fel 'Swydd Warwig' hyd at 'ardal Dyfnaint'.
Mae gweithgareddau hawliau dynol eraill a hybir yn lleol yn cynnwys:
Dangosodd ein gwaith ymchwil fod wyth elusen wedi dewis gweithredu'n genedlaethol, naill ai'n cwmpasu Cymru a Lloegr cyfan neu'r DU gyfan. Mae elfennau hawliau dynol penodol eu hamcanion yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau sy'n hybu hawliau dynol, gyda'r mwyafrif yn canolbwyntio ar bobl o genedligrwydd gwahanol sydd wedi ymgartrefu, neu sydd eisiau ymgartrefu yn y DU.
Mae gan chwe elusen hawliau dynol ardal o fudd sydd wedi'i chyfyngu i leoliad daearyddol rhyngwladol. Mae'r ardaloedd hyn yn amrywio o ardaloedd a gwledydd a enwir fel Abu Dis (rhanbarth Palestina), Ardal Ffin Gwlad Thai a Rwmania i'r categori mwy cyffredinol 'Gwledydd sy'n Datblygu', De Ddwyrain Asia ac Affrica.
Mae ffocws daearyddol eang yr elusennau hyn yn cael ei gyfateb gan ystod o weithgareddau yr un mor eang y gall elusennau rhyngwladol ymgymryd â nhw i hybu hawliau dynol. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill:
Nid oes gan gyfanswm o 169 o elusennau hawliau dynol unrhyw gyfyngiad ar eu hardal o fudd, sy'n golygu y gallant ymgymryd â'u hamcanion naill yma yn y DU neu dramor, neu mewn rhai amgylchiadau, y ddau.
Mae rhai elusennau cenedlaethol a rhyngwladol yn cynnwys dosbarthiadau penodol o fuddiolwyr yn eu hamcanion ac maent yn ceisio hybu eu hawliau dynol. Gallai hyn fod mor eang ag addysgu'r cyhoedd am hawliau dynol, er enghraifft, codi ymwybyddiaeth o faterion hawliau dynol ymysg cwmnïau a buddsoddwyr.
Bydd elusennau eraill yn hybu hawliau dynol:
Mae rhai elusennau wedi paratoi eu hamcanion gyda chylch gwaith eang, ond wedi rhoi pwyslais ar gymuned ethnig, crefyddol neu ddaearyddol arbennig:
Mae defnyddio'r cyfryngau electronig megis y rhyngrwyd, cylchlythyron electronig, cymhorthion addysgu'r wefan a rhaglenni teledu rhyngweithiol yn cael eu nodi yn amcanion o leiaf tair elusen fel dulliau o hybu hawliau dynol a chyfleu neges yr elusennau.
Mae un elusen yn cynnwys hyrwyddo gweinyddiad cadarn y gyfraith hawliau dynol trwy ddarparu a chyhoeddi deunyddiau ar gyfer astudio'r gyfraith hawliau dynol, megis crynoadau o'r gyfraith hawliau dynol. Mae dwy elusen arall yn sôn am hyrwyddo addysg er mwyn sicrhau "sylw teg a chywir yn y cyfryngau" a "sylw am ddim, cywir a chyfrifol yn y cyfryngau" o fewn eu hamcanion.
Ers i'r Comisiwn gydnabod hyrwyddo hawliau dynol fel diben ar wahân yn 2002, mae'n bosibl bod gan rai elusennau amcanion addysgol nad ydynt yn eu cyflawni mwyach. Argymhellwn fod pob elusen yn adolygu eu hamcanion yn gyson ac yn eu diweddaru (gan gysylltu â ni os oes angen) er mwyn iddynt adlewyrchu'n gywir amcanion a gweithgareddau cyfredol yr elusen.
Sut mae elusennau hawliau dynol yn gweithredu
Dadansoddwyd gwybodaeth a darparwyd gan elusennau yn eu Ffurflenni Blynyddol ynghylch sut y maent yn mynd ati i gyflawni eu hamcanion. Dangosodd ddadansoddiad o'r ffordd y bydd elusennau hawliau dynol yn gweithredu fod y mwyafrif - 125 - yn darparu gwybodaeth, eiriolaeth neu gyngor. Mae 94 o elusennau yn noddi neu'n gwneud gwaith ymchwil, naill ai yn ogystal â darparu gwybodaeth, eiriolaeth neu gyngor neu ar wahân i hyn.
| Math o weithredu |
Nifer yr elusennau sy'n ymgymryd â'r gweithredu hwn |
| Darparu eiriolaeth/cyngor/gwybodaeth |
125 |
| Noddi neu'n gwneud gwaith ymchwil |
94 |
| Rhoi grantiau i sefydliadau |
67 |
| Darparu adnoddau dynol |
66 |
| Darparu gwasanaethau |
63 |
| Gweithredu fel corff mantell neu gorff adnoddau |
53 |
| Rhoi grantiau i unigolion |
43 |
| Darparu adeiladau/cyfleusterau/llecynnau agored |
28 |
| Darparu cyllid arall |
3 |
| Arall neu ddim un o'r rhain |
0 |
Mae cant o elusennau, sy'n cynrychioli 49% o'r cyfanswm, wedi cael eu sefydlu fel cwmnïau elusennol. Mae nifer o'r cofrestriadau hyn wedi digwydd dros y 5 mlynedd diwethaf ac yn adlewyrchu'r tuedd cyffredinol tuag at ddewis statws corfforedig. O'r gweddill, mae 38% wedi cael eu sefydlu fel ymddiriedolaethau elusennol ac 14% fel sefydliadau aelodaeth wedi'u llywodraethu gan gyfansoddiad.
Roedd cwynion yn erbyn yr elusen yn sylweddol uwch i elusennau hawliau dynol, a dyma'r pedwerydd math o achos mwyaf cyffredin ar gyfer elusennau hawliau dynol o'i gymharu â'r nawfed achos mwyaf cyffredin ar gyfer elusennau yn gyffredinol.25
Mae'r nifer uwch o gwynion a gyflwynwyd i ni am elusennau hawliau dynol efallai'n adlewyrchu eu natur fwy gweladwy a'u meysydd gweithredu dadleuol, gan eu gwneud yn fwy agored i gwynion.
Dangosodd ein gwaith ymchwil ein bod wedi delio â 22 o achosion yn cynnwys cwynion yn erbyn 15 elusen hawliau dynol, ac roedd y mwyafrif ohonynt yn fân gwynion.
Roedd deg o'r achosion hyn, yn cynnwys saith elusen, yn ymwneud â honiadau a wnaed gan aelodau'r cyhoedd bod yr elusennau naill ai'n ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol neu ymgyrchoedd a/neu ddulliau codi arian annymunol. Penderfynwyd nad oedd unrhyw un o'r elusennau dan sylw yn gweithredu'n groes i'r egwyddorion a bennwyd yn Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9).
Roedd deg achos arall yn ymwneud â chwynion penodol eraill yn erbyn saith elusen. Roedd yr achosion hyn yn amrywio o gŵyn am bolisïau elusen arbennig, nad oeddem wedi'i chynnal, i gŵyn gan gyn-ymddiriedolwr bod ei henw yn parhau i ymddangos ar wefan yr elusen, a oedd yn gamgymeriad gweinyddol.
Roedd y ddau achos sy'n weddill yn ymwneud ag enw elusen a gafodd ei ddileu o'r Gofrestr. Nid oedd unrhyw achos pryder yn yr achos hwn.
Yn yr adroddiad hwn, pan ddefnyddiwn 'rhaid' golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn.
Ystyr cwmni elusennol yw cwmni:
(Y) Comisiwn: Y Comisiwn Elusennau.
Dogfen lywodraethol: Unrhyw ddogfen sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, y dull o'i gweinyddu. Gall fod yn Siartr Frenhinol, yn weithred ymddiriedolaeth, yn gyfansoddiad, yn femorandwm ac erthyglau cymdeithasu, yn ewyllys, yn drawsgludiad neu'n Gynllun y Comisiwn Elusennau.
Ystyr ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. Yn nogfen lywodraethol yr elusen gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, yn ymddiriedolwyr rheoli, yn aelodau pwyllgor, yn llywodraethwyr, neu'n gyfarwyddwyr, neu gall fod rhyw deitl arall ganddynt.
Y Comisiwn Elusennau yw rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ei nod yw darparu'r dull rheoleiddio gorau posibl ar gyfer elusennau yng Nghymru a Lloegr, er mwyn cynyddu effeithiolrwydd elusennau a ffydd ac ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o elusennau gofrestru gyda'r Comisiwn, ond nid oes rhaid i rai mathau arbennig o elusen gofrestru. Mae rhyw 190,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae'r fframwaith yn wahanol yn yr Alban, ac nid yw'r Comisiwn yn rheoleiddio elusennau'r Alban.
Mae'r Comisiwn yn darparu ystod eang o gyngor ac arweiniad i elusennau a'u hymddiriedolwyr, a gall helpu gyda phroblemau yn aml. Rhaid i elusennau cofrestredig sydd ag incwm neu wariant blynyddol o fwy na £10,000 ddarparu gwybodaeth a chyfrifon blynyddol i'r Comisiwn. Mae pwerau eang gan y Comisiwn i ymyrryd mewn materion elusen os yw pethau wedi mynd o chwith.
Mae mwy o wybodaeth am y Comisiwn Elusennau ynghyd ag ystod o ganllawiau i elusennau i'w gweld ar ei gwefan, neu drwy gysylltu â'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol:
Ffôn : 0845 300 0218
Typetalk: 0845 300 0219
Trwy'r post:
Y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol
Blwch SP 1227
Lerpwl
L69 3UG
Gall y cyhoeddiadau hyn gan y Comisiwn Elusennau fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr a staff elusennau hawliau dynol:
Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9)
Ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol gan elusennau - rhai cwestiynau ac atebion26
Hybu Hawliau Dynol (RR12)
Swyddfa'r Cabinet (2002): Gweithredu Preifat, Budd Cyhoeddus: Adolygiad o Elusennau a'r Sector Di-elw Ehangach - adolygiad o fframwaith cyfreithiol a rheoleiddio'r sector di-elw, lle mae elusennau'n ffurfio'r mwyafrif. Ar gael yn:
http://www.cabinetoffice.gov.uk/upload/assets/www.cabinetoffice.gov.uk/strategy/strat-data.pdf
Deddf Elusennau 1993
Deddf Elusennau 2006
Comisiwn Elusennau (2004): Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9) - mae'n disgrifio'r gweithgareddau hynny y mae'r Comisiwn Elusennau yn eu hystyried sy'n briodol i elusennau ymgymryd â nhw o dan y gyfraith bresennol, ac mae'n amlinellu'r ffactorau risg y dylai elusennau eu hasesu fel rhan o'u cynllunio ar gyfer gweithgareddau ymgyrchu.
Mewn ymateb i gwestiynau a ofynnwyd gan elusennau, yn 2007 fe gyhoeddwyd ar ein gwefan Ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol gan elusennau - rhai cwestiynau ac atebion fel atodiad i'n canllaw, CC9.
Comisiwn Elusennau: Elusennau sy'n Gweithio'n Rhyngwladol - mae'n rhoi arweiniad ar y gofynion cyfreithiol ac arferion da cymeradwy i elusennau sy'n gweithio'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn rhyngwladol neu dramor. Cyhoeddir fersiwn wedi'i ddiweddaru ar y wefan tua diwedd 2007.
Comisiwn Elusennau (2007): Sylwadau ar y Disgrifiadau o Ddibenion Elusennol yn Neddf Elusennau 2006 - mae'n rhoi gorolwg bras ar gwmpas pob un o'r disgrifiadau o ddibenion a restrir yn Neddf Elusennau 2006 a'r mathau o weithgaredd elusennol a allai gael eu cynnwys o fewn pob diben.
Comisiwn Elusennau (2007):Ymgynghori ar y Canllawiau Budd Cyhoeddus Drafft - mae'n esbonio beth mae'r gofyniad budd cyhoeddus yn ei olygu ac yn cynnig rhai cynigion i'w hymgynghori arnynt ynghylch yr hyn y cred y Comisiwn Elusennau y dylai ymddiriedolwyr elusen adrodd amdano o ran budd cyhoeddus eu helusen.
Comisiwn Elusennau (2005): Hybu Hawliau Dynol (RR12) - mae'n egluro ein canllaw ar hybu hawliau dynol fel diben elusennol. (Mae'r canllaw diwygiedig yn esbonio sut y mae hybu hawliau dynol yn ddiben elusennol trwy gyfatebiaeth â dibenion elusennol eraill.)
Deddf Hawliau Dynol 1998
Picarda Hubert, The Law and Practice Relating to Charities, 3ydd Argraffiad (Tachwedd1999) Butterworths.
Warburton J & Morris D (Golygyddion), Tudor on Charities, 9fed Argraffiad (Awst 2003) Sweet & Maxwell.
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cydweithredu i gynhyrchu'r adroddiad hwn, yn enwedig yr elusennau a roddodd o'u hamser a'u caniatâd i gael eu defnyddio yn yr adroddiad fel astudiaethau achos.
1. Mae hwn yn adroddiad ansoddol yn bennaf ac mae'r casgliadau hyn yn seiliedig ar saith elusen yn unig, felly defnyddiwn y termau 'rhai' a 'nifer' i fynegi lefelau cytundeb cyffredinol rhwng elusennau. Ni fwriedir i'r termau hyn gymryd lle rhifau cywir.
2. Mae'r Comisiwn yn gweithio i egluro i ba raddau y gall elusennau ymwneud ag ymgyrchu a bydd yn cyhoeddi fersiwn diwygiedig newydd o Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9) yn gynnar yn 2008. Yn y cyfamser, rydym wedi cyhoeddi canllaw atodol, Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau - rhai cwestiynau ac atebion (Ebrill 2007), sydd ar gael ar ein gwefan.
3. Adran 4.41, Gweithredu Preifat, Budd Cyhoeddus: Adolygiad o Elusennau a'r Sector Di-elw Ehangach, Swyddfa'r Cabinet (2002).
4. Hybu Hawliau Dynol (RR12), Comisiwn Elusennau (2005).
5. Bydd hyrwyddo hawliau dynol er budd y cyhoedd yn ddiben elusennol ynddo'i hun pan ddaw'r disgrifiadau o ddibenion elusennol yn Neddf Elusennau 2006 i rym yn 2008.
6. Mae'r enghreifftiau hyn i'w gweld yn ein cyhoeddiad Hybu Hawliau Dynol (RR12), Comisiwn Elusennau (2005), lle y disgrifir sut y gall y diben gael ei hyrwyddo ac esbonnir yr hyn a olygwn wrth y gwahanol ymadroddion.
7. "a) hybu hawliau dynol i blant (fel y nodwyd yn y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a chonfensiynau a datganiadau perthnasol eraill y Cenhedloedd Unedig, ac offerynnau hawliau dynol rhyngwladol a rhanbarthol perthnasol eraill) ledled y byd …" [darn]; rhif cofrestru 1072612.
8. "... a (d) hybu hawliau dynol (fel y pennir yn y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol a Chonfensiynau a Datganiadau dilynol y Cenhedloedd Unedig) yn ardal ffin Gwlad Thai drwy fonitro a gwaith ymchwil." [darn]; rhif cofrestru 1109476.
9. "a) hybu ymchwil i gynnal a pharchu hawliau dynol a chyhoeddi canlyniadau gwaith ymchwil o'r fath; (b) rhoi cymorth i ddioddefwyr troseddau hawliau dynol trwy gymorth elusennol priodol (ac yn arbennig cymorth meddygol, adsefydlu neu ariannol)..." [darn]; rhif cofrestru 294230.
10. Mae niferoedd yn y paragraff hwn a'r paragraffau cyn hynny yn adio i roi mwy na chyfanswm yr elusennau hawliau dynol oherwydd gall elusennau gael mwy nag un amcan.
11. Rhif elusen gofrestredig 1071946.
12. Rhif elusen gofrestredig 1113803.
13. Rhif elusen gofrestredig 1079892.
14. Rhif elusen gofrestredig 1049160.
15. Rhif elusen gofrestredig 327421.
16. Rhif elusen gofrestredig 1048335.
17. Rhif elusen gofrestredig 1107613.
18. Rhif elusen gofrestredig 1037236.
19. Rhif elusen gofrestredig 1114900.
20. Rhif elusen gofrestredig 1040432.
21. Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9) - fersiwn diwygiedig i'w gyhoeddi yn gynnar yn 2008. Yn y cyfamser, rydym wedi cyhoeddi canllaw atodol, Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau - rhai cwestiynau ac atebion (Ebrill 2007), sydd ar gael ar ein gwefan.
22. Mae amcanion hawliau dynol yn cael eu hamlinellu yn ein cyhoeddiad Hybu Hawliau Dynol (RR12), Comisiwn Elusennau (2005).
23. £159,724,232 sy'n cynrychioli'r incwm blynyddol diwethaf a gofnodwyd ar gyfer y 192 o elusennau hawliau dynol ar y Gofrestr fel ar 30 Mehefin 2007.
24. Mae ein canllaw, Elusennau sy'n Gweithio'n Rhyngwladol, yn rhoi cyngor ar y gofynion cyfreithiol ac arferion da a argymhellir ar gyfer elusennau sy'n gweithio'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn rhyngwladol neu dramor.
25. Fel rhan o'n gwaith ymchwil dadansoddwyd y deg achos mwyaf diweddar ar gyfer pob elusen hawliau dynol lle y rhoddwyd cyngor ac arweiniad dros y pum mlynedd diwethaf. Roedd cwynion yn erbyn yr elusen (gan gynnwys elusennau a ddilëwyd) yn cyfrif am 7.8% o gyfanswm yr achosion diweddar.
26. Mae hwn ar gael ar ein gwefan yn: http://www.charitycommission.gov.uk/supportingcharities/campaignqa.asp
v1.0.0